Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

1 IGWIB FACH I FAELOR.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

GWIB FACH I FAELOR. I weld] Chware Endaf" gan Facwyaid Philip Price. POBL daer a di-droi n ol ydyw pobl Maelor yna ac unwaith y gofynnant ichwi ddod eatynt am gypaned a gweld rhywbeth, y peth goreu yw mynd ar unwaith, achos dal i grefu ac i gethru arnoch a wnant nes yr 3wch. A phan ddaeth gwys a gwahawdd sydyn fore dydd Llur yr wythnos hon, sef o Goed Poeth, i ddweyd fod Macwyaid Rehoboth-corlan Wesleaidd y Parch. Philip Price—yn mynd i -chwrae drama Endaf y Gwladgarwr y noson honno, ac yn deisyf am faro fach ar eu hym- drech yn Y BRYTHON, fe rois flaen ar fy mhensil ac a euthum ar wib am y tren, ac a gefais ddwyawr o'r teirawr chwarae, ac a ddywedaf a fedraf yn onest a chydwybodol. Gresyn na wybuaswn ynghynt canys 'does bellach fawr o le, canys dylesid, yn un peth, ddadrys c'lvmau'r ddrama; a'i lledu hi a'i llwybr a 'i chynllwyn yn glir gerbron cyn mynd ati i ddisgrifio'r chware, ond 'does mo'r gofod i ddim ond rhoi enwau'r cymeriadau, a gair bach byr am ambill gamp a rhem p wrth fynd yn ein blaenau :—] ].] tf_\ Gwaith R. D. Owen (Penmaen mawr) yw Endaf, ac YD ymgais at bortrsadu un wedd ar fywyd Cymru tua 1867 i 1872, a dwyn ei gam a'i g'ledi gerbron cenhedlaeth newydd nas gwelodd, ond a ddylai gael ei weld a'i wybod. Dyma'r cymeriadau Harold Twine, Ysw., Glyn- yswain (Tir-feddianwr) Peter Griffiths WmtJra Lewis, Neuadd Fawr (Ffermwr cyff redin)Ysl. J. Edwards Elin Lewis (Ei Briod) Coralie Williams David Pugh, Ysw., Llys y gwynt (Boneddwr) .Thomas Jones ■ Caradoc (mob WmtJra ac Elin Lewis D. H. Kelly Endaf (mabwysiedig Mr. a Mrs. Lewis) .Tom Carrington Morris Dafydd (Hwsmon Neuadd Fawr) Levi Williams Ann Evans (Morwyn Neuadd Fawr) Mrs. D. H. Kelly Parch. MeredyddHughes Thos. Ed. Jones Gwen Hughes (ei briod).Mair Evans Enid Huws (eu merch).Detta Price Robart Wyn (Cardotyn) John Hopwood Parch Hywel Roberts (per- igwryplwyf). D. W. Humphreys Llewelyn Prys (meddyg ieuanc) ,Edward Jones Gruffydd Tomos (Gwas Bach Glynyswain) W. E. Parry Y Rhingyll (Swyddog) .Robert Jones Cwnstabl Husku88 T. Price Jones Cor yr Eglwys J. Hugh Jones, Her bert Parry, Llew. Thomas, Wm. Thom- as, Tecwyn Jones, Herbert Emlyn Jones Emlyn Parry, Her- bert F. Jones, John Evan Parry, Carad- og Kelly Cymeriadau Gynorthwyol Mrs. T. Carrington a Miss Gwen Rogers Pianydd Miss Nesta Price Goruchwyliwr y Llwyfan J. P. Rogers Yn Neuadd y Plwy' y chwaraeid y lle'n I llawn, i'r pedwar pared, ac o dyrfa astud a gweddaidd iawn ei hymddygiad ac mor dda gan galon dyn. fyddai gweled torfeydd pob Ilan a phentref drwy Gymru'n tyrru i weld drama Gymraeg lan a diwair yn hytrach na heidio ar ol bon-y-gler theatraidd lif atom o Loegr, ac a leinw'n gwlad a'u gwenwyn a'u joaaswedd. Mr. W. Carrington Jones oedd y cadeirydd, a ddywedodd air byr ac 1 bwrpas tua chanol y chwarae. Cyn codi'r lien am 6.30, daeth Mr. Thos. Jones i'r llwyfan i ad- rodd y pedwar pennill cynnes sy'n gywair i'r ddrama, ac a'i hadroddodd yn dda-mown llais cryf, croew, a thipyn o angerdd gwlad- garwch yn sgleinio o'i lygad. Yr oedd P.G. yn eithaf addas, o ran gwisg a throediad, i gynryehioli Harold Twine, yn ei wasgod wen a'i dorsythu boldyn ond prin yr oedd yn medru mileinio digon ar ei drem (peth go anodd i ddyn caredig a gonest ei galon wneud, welwch chwi), ac yr cedd y dramod- ydd ar fai rhoi brawddegau H.T. mewn Cym- raeg mor raenus a llydan dylesid eu lled- ieithio a'u rhoi yn y Cymraeg clapiog a chwerthinllyd a glywir gan ysweiniaid a mawrion tir Cymru, ac felly roi pwyth arall i'r Plas Seisnig ei sawr. Twine go fain ydyw twine y plas-o ran ei iaith, beth bynnag. Gwnaeth Caradoc ei ran yn bur dda taflsd fwy fyth, os gall, o ddiefligrwydd i'w drem a'i don wrth gynryehioli gwalch a filen y ddrama. Geiriai'n groew, a chan- ddo lygad i ddangos y cno oedd yn ei gyd- wybod wrth gynllwyn a bargeinio a'r trempyn am waed a bywyd Endat ond yr oedd un llaw yn y llogell mewn ambell ymson-—peth na fydd byth pan fo dyn mewn gwewyr a chyfwng. Y mae T.C. yn Endaf da, ac yn medru llwydo a llewygu'n bur naturiol pan ei brifir y mae'n hirgoes a heinyf hefyd, ac yn meddu wedd wyneb cariadus a glan, fel y gweddai i arwr y fo a'i Enid yw prif dynfa'r chwarae, ac o'u cwmpas hwy y try'r cwbl. Os yr un,mwy o angerddoldeb fuasai'n perffeithio Endaf ac yn yr olygfa garu, lie y mae ef a'i Enid yn anwylo'i gilydd, dylesid ymblethu a chofleidio ar eu heistedd, ac nid caru'r cwbl ar eu traed, er nad wyf fi ddim yn cyfrif fy hun yn awdur- dod uchel ar yr i&s honno chwaith. Enid ragorol yw Detta Price, yn medru llygeidio serch—a chas pan fo'i eisieu gwyr hi fod Uygad yn medru dweyd pethau gwell a dyfnach lawer na'r tafod ac nid ami hi, ond ar y ddrama, yr oedd y bai ei bod hi'n rhy frac ei thafod i ddweyd wrth bawb am ei serch at ei H endaf. Cil-awgrymu hyn ddylasai'r ddrama ffordd yma, goeliaf fi ac nid beichio popeth allan mor amlwg gerbron pawb. Camp mwyaf dramodwr, fel bardd a phawb o ran hynny, ydyw iawn-ddirnad sut y gwnai efe'i hun yn yr un lie a than yr un teimlad. Beth hyotlach na distawrwydd a beth ddwyfolach na llygaid merch bur pan fo hi'n fflamio purdeb i lygad ffals y bradwr cnawdol a gasheir ganddi. A chafwyd hynny'n bur dda heno. Golygfa dda a chynefin i rai ohonom oedd gwetd y dorf o gwmpas Endaf adeg etholiad a chynffonwyr Harold Twine y Tori yn dod yno i aflonyddu, ac un ohonynt yn cuchio'n llechwraidd tan hobian a'i bwys ar ben ei ffon, ar odre'r dorf Ryddfrydol ac yn codi blysarddynineidio ato a rhoi tro yn ei'gorn am fod yn llipryn mor llwfr. Y fath wahan- iaeth oedd rhwng llygad hwnnw a llygad Enid llygad ellyll gan un, llygad angel gan y llall. Ac y mae'r ddau ar gael yn y byd yma o hyd. Ond anghofiodd rhai o'r Twineiaid pwy oeddynt, a gwelais un ohonynt yn canu Rhyfelgyrch Gwyr Harlech mor geglydan a neb ar y diwedd, i ganlyn Rhyddfrydwyr Endaf. Bai go hardd ei faddeu, chwarae teg iddo. Ei galon aelh yn drech na'i ben. Yr oedd barf Wmffra Lewis, ffermwr y Neuadd Fawr, yn drwehus-braidd yn rhy felly, nes oedd ei frawddegau yn neidio o'i enau fel sgyfarnogod o dwmpath. Yr oedd wyneb y Parch Meredydd Hughes heb ei heneiddio ddigon, na'r locsyn ochr hwnnw oedd yn hongian o'i glust i'w gern ddim o wneuthuriad digon hyblyg a naturiol yr olwg. Gwnaeth Elin Lewis ei rhan yn swat a chartrefol cadwodd ei lie, ac ni cheisiodd wneud gormod o stwr gwag a theatraidd. Cofiodd mai Cymraes ydoedd, a wyneb Gymraes grefyddol, ddwys, a gadwodd ar hyd y chware. Gwen gampus oedd Gwen Hughes ac a grugwn na cbawsai fwy i'w wneud yn y chware. Pwy fel y hi am godi bys a dywedyd Pwyll!" wrth ei phriod rhag iddo fynd i balfau'r bradwr ? Campus o Forus Dafydd yr H wsrnon a wnaeth Levi Williams ie, wir Dyma'r cymeriad goreu'i gyflead a naturiola'i eiriau a luniodd awdur y ddrama ac y mae'r braw- ddegau roir yn ei enau'n rhai ffraeth a phert iawn. Go brin y gwelais cystal hwsmon gan yr un cwmni,—o dipyn chwaith, y fo a'i hone heglog, a'i lodryn clonciog, cleiog ei doriad gwledig a'i ddymau a'i Gymraeg cyn lleted a charnau'r Wyddfa. Iechyd i galon dyn oedd clywed yr hwsmonaeg yn cael ei siarad mor hwsmonaidd ac i'r dim. I'r dim hefyd oedd ei gariad-Ann y forwyn, ac yn medru llygadu a synnu a throi trwyn a dweyd ei geiriau mor ffrom a ffwdanus a'r un walches ar theatrau Llundain ac yn medru gwingo a gwryddu ei gruddiau i bob fflirf-i ddangos direidi ac afiaith. Gorfum ado'r Neuadd a throi tuag adre ymhell cyn gorffen y ddrama, onite fe ddy- wedswn air am weddill y cymeriadau. Dyma ymgais gyntaf Cwmni Glan Clywedog," a hwy haeddant guro'u cefn am eu talent a'u dyfalwch. Plant Rehoboth yw pob un o'r cwmni, ac y mae'r ddrama'n berffaith ddiogel cyd ag y'u cedwir yn nwylo bechgyn a geneth- od glan ein heglwysi fel hyn. Daliwch ati i -wasanaethu'eh iaith a'ch crefydd yn y ffordd hon addfedweh a pherffeithiweh bopeth fedroch wrth fynd ymlaen os oes fodd yn y byd, cyfoethogwch dipyn ar ddodrefn ac amrywiaeth y golygfau a threfniadau'r llwy- fan a phe fi chwi, fe gymerwn fy hyfdra i stwytho a gwerino tipyn ar eiriau'r ymsonau draw ac yma, er mwyn iddynt ddisgyr yn fwy cartrefol a naturiol ar glybod y gwrandawyr. Daliwch wrth eich gilydd a pheidiwch a chwalu bellach. Gwelais y Caenog dawnus a charedig—do, a'i fam oedrannus yn gwenu f0l geneth yn f'ymyl yn yr Hall ao yn batrwm i'r saint oed- rannus i beidio ag ofni'r Drama ac a droais adref yn galonnog iawn wrth weld Coed poeth a phobl oreu Maelor yn codi tani mor bybyr dros bethau da'r Hen Wlad. Ces gwmni'r Prifathro Rees ddarn o'r ffordd adref, ac a'i hudais i ddweyd rhediad yr anerchiad ar Feirniadaeth Fiblaidd a dra- ddodasai yng Nghoed poeth y diwmod eynt ond dyma gyrraedd Caer cyn iddo gael hanner orffen, a throes o fawr un ffordd i lenwi a thwymno'i broffwydi ym Mala-Bangor, a minnau fach ffordd arall i lenwi a thwymno'r BRYTHON yn Lerpwl. Ac o'r un Haul y daw'r ddau wres. | J. H. J

[No title]

MINION MfNAL -'-.

0 fuldwyn i f uesyfed. I

LLANGURIG. . - - - -

Advertising

-0 (I LAN Y TAFWYIQ