Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
II CAMPBELL & LUMBY I I THE LIVERPOOL JEWELLERS, Diamond Merchants & Silversmiths. Have the finest selection of goods suitable as gifts for any and every I occasion. YOUR INSPECTION 15 INVITED. 8 3075 Royal. OLM D POST OFFICE PLACE gStrjee?t- 3075 Royal. OLD POST OFFICE PLACE CShtruerecth.
3''—— Ffetan y Gol.
3'' — — Ffetan y Gol. Cofied pawb fo'n anfon i'r Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei gena u:- NITHIO'R GAU A NYTHU'R GWIR. i Pethau Digri'. I MR. GOL.Pethatt digri' y BRYTHON di-I weddaf a feddyliaf.f Dyna'r peth cyntaf—Elidir Sais yn pro- ffwydo (neu hysbysu) mor gywir beth a gyhoeddir nos Suliau mewn llawer man yng Nghymru y misoedd hyn, ac yn dweyd mor sobr am ymollyngiad cyflym y Celt i Bleser a Bydolrwydd ar hyn o bryd-a chyda'r ail anadl yn canmol perfformiad o Ddrama fedrus Elphin mor frwd. Dyna'r ail beth—Dyn y Drych yn mynd i weld actio Drama, ac yn eistedd yno mor effro fel Critig Dramodau, ac yn chwerthin ac wylo bob yn ail, ac yn beirniadu mor debyg i hen law cyfarwydd (a gadewch i mi ddweyd yma, rhwng cromfachau, mai da a fyddai i ddramodwyr a'r wlad sylwi ar a ddywed tua diwedd ei lith). Dyna'r trydydd peth digri'—Pedrog (o bawb) wedi methu mewn cynghanedd, heb feddwl. Y^oeddwn i newydd fod yn cil-wenu yn wawdusftrnaf fy hun ar ol dal fy hun mewn anffawd o'r un math yn union (peth digon mynych i mi ddiofal). Darllen yr oeddwn yn Y Goleuad hanes cyfarfod sefydlu fy nghyfaill Mr. Watkins, Bryn Crug, yn Ninorwig gerllaw, a gweled fod y ddau englyn tra byrfyryr, a wnaethwn i wrth anfon i fynegi fy ngofid oherwydd methu mynd yno, wedi mynd i mewn i'r adroddiad. Yn yr ail dywedwn- "4MB R.H.W. ym mraint Seion-tithau ge'st Waith gwych, mewn bro dirion. Yn Ninorwig cei ddigon 0 ddeunydd llwydd—a nawdd lion. Y trwstan ebwn i wrthyf fy hun, sut y gwnest ti dro mor ddigri a hyn-dweyd s R.H.W. ym mraint Seion ?-fel pe buasai yr H yn sefyll dros eents neu aints Yn fuan wedyrc gwelwn Pedrog gelfydd wedi gan dybio'i fod wedi cael croes o gyswllt gywir a than gamp Dyma engraiff t o Homer yn hepian Ond y peth digrifa' i gyd oedd gweld rhyw frawd o'r ochr draw i'r dwr mawr wedi bod yn mesur a phwyso pregethwyr mawr Cymru, a phenderfynu pwy yw y dwsin pennaf o naddynt-a dim golwg o Thomas Charles Williams yn unman Wel !dallaswn i yn fy myw rwystro'r englynyn bach yma allan, fel pe buasai T.C." yma'n gwrando :— T.C. druan, glan y gleniaist—o'r uchder Echdoe a doe welaist Arawdus wr, o dy sedd I Ddinodedd y neidiaist A chan i mi gofio am y cyfaill anffodus, waeth i mi gael crybwyll yma am y rhodd werthfawr a anfonodd i mi y dydd arall- darlun tlws ohono ef, a'i ferch fach Margaret ar ei lin, a'r gair tra nodweddiadol yma ar ei ar ei lin, I'r wylofus Alafon Annerch.- T.C.W. & Daughter, Limited." Nid oedd ryfedd i hyn roi bod i fellten fach o englyn- Cyfyngedig ? Wel, digon-ar y tro- Yw'r triawd llygadlon, Un a all, hwnt enillion, ( Drin ei thad yw'r eneth hon. Ef6 yw awdur y Ilinell-wir ddisgrifiadol- Y wylofus Alafon "—Yr eiddoch, Y WYLOFUS HWNNW. Hanes Porthmadog." I At Olygydd Y BBYTHON. { ANNWYL Syn,-Darllenais eich llith wreidd- iol a doniol ar Hanes Porthmadog (llyfr newydd Mr. Edward Davies, Penmorfa) a mawr ddiddordeb, ac fel un a gar lwydd y Port," prysurais i brynnu'r gyfrol. Difyr i mi yw popeth am y dref brydferth ar lan y Traeth Mawr, ac yn awchus yr euthum ati i ddarllen y llyfr. Yr oedd yr awdur yn an- adnabyddus i mi, a sylwaf mai gwr dieithr i "dueddau Dyffryn Madog ydyw, yn ol ei gyfaddefiad ei hun. Nid oes gennyf, o'm rhan i, ddim yn erbyn y gwaith at ei gilydd, os nad yw'n rhy debyg i gronicl," ac yn rhy fach o hanes yng ngwir ystyr y gair hwnnw. Yr wythfed bennod o'r Ilyfr yw'r fwyaf diddorol i mi, lie sonnir am Enwogion Ddoe ac Enwogion Heddyw Wrth gwrs y mae ymysg yr Enwogion hyn amryw ■—ac efallai y rhan fwyaf ohonynt-nad ydynt yn enwog o gwbl y tu allan i Ddyffryn Madog. Diau nad oes dim help am beth fel hyn o dan yr amgylchiadau er hynny, ceir yma amryw wyr a fu ac y sydd yn enwog iawn trwy'r holl wlad. Ond gan fod cynifer o "wýT eymharol ddinod i mewn, bu ryfedd iawn gennyf weled un enw allan o'r bennod hon yn gyfangwbl,—enw gwr sydd yn enwog mewn gwirionedd mewn cylch eang, ac yntau yn un o blant y dref o'i enedigaeth, ac wedi treulio ugain mlynedd o'i oes ynddi, nid fel amryw o'r enwogion hyn heb feddu dim ond cysylltiad tros dro a'r dref. Credaf yn sicr mai ef yw'r pregethwr amlycaf o lawer a anwyd ac a fagwyd ym Mhorthmadog; ac y mae'i eivvv'n hysbys trwy'r wlad. Era ugain mlynedd bellach, bu ef yn amlwg yn rheng flaenaf pregethwyr ei enwad, ac y mae wedi pregethuplawn cyn amled a neb yn uchel wyliau crefyddol ei wlad. Medd ddawn ac ysbryd y weinidogaeth i raddau anghyffredin, lac nid syn iddo gael oedfa ddylanwadol iawn yng Nghymanfa Bregethu'r City Temple ar Wyl Ddewi dair blynedd yn ol. At hyn, y mae'n llenor medrus, yn awdur Ilyfrau, yn ysgolhaig da, yn • ddarlithiwr ac areithiwr campus, yn dal ac yn llenwi swyddi pwysig yn ei enwad, ac yn weinidog tra llafurus a llwyddiannus. Cyfeirio'r wyf at y Parch. O. Madoc Roberts, Conwy, a gwyr y llu a'i hedwyn fod y pethau uchod oil yn wir amdano. Ond nid oes gyfeiriad ato o gwbl yn y llyfr hwn ar hanes ei dref enedigol, dim ond fod ei enw'n foel yng nghanol rhestr o bregethwyr cynorthwyol a gododd Eglwys Ebenezer Ond ef yw'r unig weinidog a gododd o'r Eglwys honno, a'r unig bregethwr a ddaeth i ddim amlygrwydd. Ai teilwng mewn difrif o wr sydd wedi anrhydeddu'i dref enedigol a'i lafur a'i Iwyddiant mawr yw'r sylw swta a moel a roddir iddo mewn llyfr fel hwn ? Os na wyddai awdur y llyfr am y Parch. Madoc Roberts fel un tra chymwys i gael He ymysg ei Enwogion yn y llyfr hwn, dylai wybod nad yw hynny'n adlewyrchu'n anffafriol ar neb ond arno ef ei hun. Credaf y dylai ym- ddiheuro i'r gwr parchedig am ei fusgrellni. Os na wyddai amdano o gwbl, gellir gofyn iddo yng ngeiriau Whistler,- Why didn't he ask, why didn't he enquire ?- Yr eiddoch, MOEL Y GEST. Gogoniant y "Sospon," At Olygydd Y BRYTHON. SYR,—Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Mr. Gol., y mae Ysbryd Samuel Jones, gynt o Faelor, yn un ehedegog iawn. Mae rhywbeth barddonoledigaethus (!) ynddo. Fel ysylwais I yn fy ysgrif flaenorol, nid oes ym maled "Y Sospon Bach" ddim i mi ond swn amhersain y bardd diawen a dienaid ond wele Ysbrydr-ond na chredwch bob ysbryd- yn gweled ynddi ogoniant dihafal Gwyr yr ysbryd hwn lawer mwy na mi o'i hanes gWyrpwyyweihawdur," sy'n huno ei dawel hftn yn naear Vermont y tu draw i'r Werydd ers llawer haf," a gwyr am awdur ei miwsig, yr hwn sy'n fyw—rhyw W.M.—a gwyr fwy na hyn, fod bechgyn athrylithgar Aberystwyth yn ei hawlio fel Anthem y Coleg,' ac ymwel- wyr y ffynhonnau yn ei theitlo'n Anthem Genedlaethol.' Dyna i ddarllenwyr Y BRYTHON dipyn o newydd-deb syndodfawr Ond a yw'r Y sbryd hwn o ddifrif, ynteu cellwair y mae-yr ysbryd arall," yr hwn ni ddichon y saint ei dderbyn ? Mae'n wir i mi ysgrifennu mai un cwbl wag o sylwedd yw hi, ac mai y pethau mwyaf gwagben yw'r rhai mwyaf cymeradwy gan fwyafrif o hil syrthiedig Adda ond wele un cryfach na myfi-werinwr di-goleg-yn dadleu yn gryf fod y «' Sospon Bach yn true to nature, yn farddoniaeth romantic-realistic o'r dechreu i'r diwedd, a hynny yn unol a'r canonau di- weddaraf sef bechgyn athrylithgar Aber- ystwyth yn ei hawlio fel' Anthem y Coleg Rhagorol, Y sbryd Samuel Jones Onid yw hyn yn siarad yn uchel (?) am athrylith (?) bechgyn y Coleg hwn ? Mae'r Sospon Bach a chicio'r bel droed gan hogiau Llanelli yn cydgordio'n felodaidd, ond buasai y peth yn amhosibl i mi ei gredu onibai am dystiol- aeth yr Ysbryd hwn, ei bod yn cyd-gordio ag efrydiaeth bechgyn y Coleg a enwyd Onid oes dyfodol o burdeb, o feddylgarwch, ac o sylwedd bur y Nef," yn aros llanciau a rhianedd Gwalia, ond iddynt aros yng nghyfaredd y Sospon Bach dros byth Gymxu Fydd edrychaf arnat drwy ddrych yr Ysbryd hwn, a gwelaf di, a nifer o sosponau yn dy law, yn canu yn y Minor yng nghapelau Cymru, am gathod, am fabiod, ac am weision ffermydd, ac ysbrydion gwynion (?) fel eiddo Samuel Jones, gynt o Faelor, yn rhoi cymerad- wyaeth fyddarol i'th fendigedig gan mewn Well Done, Amen, a Bendigedig. Llansamlet. J.S. Pregeth "Y Waredigaeth o'r'Aifft," j At Olygydd Y BRYTHON. I ANNWYL SYR,—Cawsom bregeth gan y Parch. Thomas Charles Williams, M.A., ym Mhrinces Road nos Sul ddiweddaf ar Exodus xx, 2, 3. Ac i'm barn ostyngedig i, y mae hon yn bregeth mor arbennig ac amserol fel y dylai pob Cymro gael cyfle i'w chlywed neu ei darllen. Cymhellir fi i apelio yn daer, drwy eich colofnau, am i'r gwr parchedig ei chy- "9- oeddi mewn rhyw fodd y gwel ef yn oreu i'r diben o'i dwyn i sylw cyleh ehangach. Yn I sicr, gwna'r les anhraethol i bob dyn a'i gwran" dawo mewn ysbryd priodol.—Yr eiddoch yn ddidwyll, 17 Sefton Square, DANIEL O. JONES. Lerpwl. Samuel Jones, Bryn Llywarch. I At Olygydd Y BRYTHON, I ANNWYL SYR-Pan ym Maesteg dro yn ol, aethwn i fynwent adnabyddus Llangynwyd. Oddimewn i'r hen eglwys y mae bedd y ferch o Gefn Ydfa, ac yn y fynwent y claddwyd Wil Hopkyn. Gerllaw porth-yr eglwys saif bedd- faen brydferth y Parch. Samuel Jones, M.A.— un o arwyr 1662. Yp: hytrach na gwerthu ei argyhoeddiadau, rhoddodd ei fywoliaeth yn Llangynwyd i fyny, a symudodd i ffermdy gerllaw o'r enw Bryn Llywarch, a sefydlodd yno y Coleg cyntaf yng Nghymru i gymhwyso dynion ieuainc ar gyfer y weinidogaeth. Arei feddfaen, a godwyd drwy danysgrifion, ceir yr englyn hwn Gwalia Wen uwch treigle'i arch—cor enw Gwr annwyl Brynllywarch Myn gofio, a mwyn gyfarch Ei oes byth a chynnes barch. Carwn wybod pwy ydyw yr awdur. Da gennyf fod llyfr diddorol iawn Mr. Frederic Evans, A. C. P ^n &b yr' hynafiL# hydd dihafal Cadrawd, ar Dir Iarll," yn cael croeso mor gyrnes, nid yn unig yn ysgolion yr ardal, ond gan y trigollion yn gyffredinol.- Yn wladgar, Twr Gwyn, Bangor. R. J. JONES. Barn y Brodyr." I At Olygydd Y BRYTHON. I SYR,—Yn ei lith Cyn y ddiweddaf, dywed Gwyliwr (0 Lan y Tafwys) mai y Saboth can- lynol y bwriedid chwarae'r ddrama uchod yn y Brifddinas, a hysbysai Daily Post Lerpwl, fore dydd Llun, Chwefrol 9fed, iddo gael ei pherfformio y diwrnod cynt ond dyma nodiad gyda chwithau yn y rhifyn diweddaf o'r BRYTHON yn dywedyd, "Barn y Brodyr yn cael ei chwarae yn y Rehearsal Theatre, Llundain, nos Sadwrn ddiweddaf." Hoffwn fodyn glir ar y mater hwn, a da gennyf os medrwch ddywedyd yn bendant pa un ai ar y Sadwrn ynteu ar y Sul y per- fformiwyd y ddrama newydd hon. I lawer o honom sy'n eymeryd diddordeb byw yn y Ddrama Gymreig, y mae hwn yn fater go bwysig.—Yr eiddoch yn ffyddlon, Lerpwl, Chwef. 16, '14. W. A. LEWIS. o
A'R GIP.-I
A'R GIP. I MYND YMHELL.-Y mae Mr. D. E. Roberts, M.Sc. (Cymru) wedi cael lle'n Broffeswr Anianeg (Physics) yng Ngholeg Cotton, Gauhati, yr India. Y fo'n un o efrydwyr disglair ei yrfa o Goleg Bangor. HARDDA GRAS: C YSONDEB.—Yn eu cyfarfod diweddaf, galwai Pwyllgor Addysg yr Abermaw am i Adran Addysg y Llywodr- aeth ddarpar adroddiad Cymraeg o ymwel- iadau'u harolygyddion a'r ysgolion ond parodd Mr. Wm. Evans i'r pwyllgor edrych yn hurt ryfeddol drwy godi i'w hatgoffa mai yn Saesneg y cadwent hwy eu cofnodion. 0 BANGOR RHAGOR LLANELWY.—Yr i oedd golwg go rasol ar bethau ym Mangor nos Fercher ddiweddaf, gan fod Vicer y ddinas (y Parch. J. D. Jones) a'r Canon Davies (Dyfrig) yn siarad yng Nghyfarfod Cymdeithas y Beiblau, a'r dyrfa cyn frithed o Eglwyswyr ag ydoedd o Gapelwyr. Fel arall y mae hi tua Llanelwy a'r ardal, lie y mae'r Esgob Ed- wards wedi gwrthod mynd i gyfarfod tebyg oherwydd bil drygionus y Dadgysylltiad." Fe ddywedodd Ficer Bangor bethau gwir a dewr iawn, ond mewn ysbryd tirion a ddang- hosai ei fod o'n caru ei Geidwad yn fwy na'i Gyfundeb-peth go brin yng Nghymru. j EI CHANMOL-A'I CHLADDU.- Sefydliad Cymreig ddylai'r Eisteddfod fod ond y gwir yw ei bod hi wedi dirywio'n ddi- weddar nes dod yn un o'r Achosion Saesneg cryfa* yng Nghymru," e be'r Parch. J. Puleston Jones, M.A., Pwllheli. Gair garw, ond gair gwir, canys gormod o ganmol yr iaith Gym- raeg yn Saesneg sydd yn yr Eisteddfod, a rhy fach o'i siarad. Ac y mae ei siarad heb ei chanmol yn fil mwy o fywyd iddi hi na'i chanmol heb ei siarad. Tro gwael ydyw ei chanmol tan ei chladdu. MYND I GANU DEUAWD.-Canu unwad yn felys, felys, led Maelor a'r wlad, y byddai Miss Edith Davies, merch Mr. J. W. Davies, Larkfield, a'r soprano hysbys o Wrec- sam ond y mae hi wedi mynd i ganu deuawd gyda Mr. Herbert Hooson, Llandudno, canys fe briodwyd y ddau yng Nghapel Bedyddiol Chester Street ddydd Mercher diweddaf. I Paris yr aed am y mis mel, a hynny o ganol tomen fawr o anrhegion a dymuniadau da. Ac mae'n debyg yr aiff y ddeuawd yn g6r yr aelwyd toe, ac y daw'r cywion i leisio cyn fwyned a'r fam. BONCLUST I'R BE-rRDD.-Unhegarei hergwd ydyw'r Parch. W. R. Roberts (W.), canys dyma ddywedodd mewn cyfarfod Rhyddfrydol yn Llangollen yr wythnos ddi- weddaf :—j Y mae'r adeg yn addfed iawn i osialaeth —nid Sosialaeth bendro wyllt y Cyfandir, ond y Sosialaeth glir ei gwelediad sy'n lefeinio'r Blaid Ryddfrydol. Peth anodd iawn ei esbonio nad oes gymaint ag un bardd Cymreig yn tynnu ei ysbrydiaeth o fyd a helynt y werin bobl. Heriaf undyn byw i ddangos yr un linell o weithiau'r hen feirdd a ganwyd er mwyn y dyn cyfiredin. Na, choelia i fawr eithr canasant eu baldordd am ganrifoedd i fawrygu'r mawrion cyfoethcg—Huw "Morns, Pont y Meibion, yn engraifft; 's dim un linell ganddynt am y gweithiwr." Ond y mae yntauDdybliwAr yn dweyd gormod hefyd, canys ymhle y ceir cryfach cwyn yn yr iaith i'r gweithiwr nag yn awdl Elusen- garweh Dewi Wyn, a beth am gywyddau lolo Goch -<>- 0 ABERGELE.-Perfformid drama Gym- raeg, ac un arall Saesneg, yma nos Lun ddi- weddaf, tan gyfarwyddyd Misses Roberts, chwiorydd Syr J. Herbert Roberts, Barwn Bryngwenallt. TELMLO TROST YNT.-Gadawoclcl Mr. Robert Jones—(fu'n feistr tloty Llanelwy am ddeugain mlynedd)—ganpunt ar ei ol yng ngofal y Gwarcheidwaid i'w defnyddio at roi cychwyn i blant y sefydliad hwnnw wrth fynd allan i'r byd. Un tyner ei fron ydoedd y rhoddwr, ac yn credu pennill Myfyr Emlyn. i'r llythyren Paid, paid a diystyru'r tlawd, Na'i suro trwy sarhad Mae'r lesu iddo ef yn frawd. A'r Duwdod iddo'n Dad. PERSONOLIAETH RHAGOR YSGOL- HEIGDOD.—" Y mae yna lawer o gyfleus- terau i'r sawl sydd wedi cael addysg yn y colegau a'r ysgolion canolradd ond personol- iaeth a chymeriad, er y cwbl i gyd, sy'n mynd a hi yng ngyrfa bywyd, yn fwy na hyffordd- iant deallol," ebe Mr. R. Silyn Roberts, M.A., yng nghyfarfod Bwrdd y Penodiadau Cymreig a gynhelid yn Llundain ddydd Iau diweddaf. Eithaf gwir ac y mae mwy o flas ar dipyn 1 o bersonoliaeth a gwreiddioldeb nag ar holl ddysgeidiaeth y byd hebddo. BENDITH LLANDIN AM.—Yr oedd hi'n ddydd o lawen chwedl yn Eglwys y Tabernacl, Blaenau Ffestiniog, ddydd Sul diweddaf, gan y daethai llythyr i'r gweinidog (y Parch. R. R. Morris) o Landinam, yn hys- bysu fod Mr. D. Davies, A.S., a'i fryd ar gyfrannu mil o bunnau at y ddyled, ar achlysur hanner canmlwyddiant yr eglwys. 0- TRO¿'N GAPELWR.-Y mae'r Parch. Wyndham T. Jones, cenhadwr tan yr Eglwys Wladol yn Brooks a Phant y Ffridd, sir Drefaldwyn, wedi ymuno a, Henaduriaeth Seisnig y Methodistiaid Calfinaidd, ac yn cynnyg ei hun yn ymgeisydd am y weinidog- aeth. Bob tro y bydd un yn troi oddiwrth yr Ymneilltuwyr at yr Eglwys, bydd y Llan yn ysgrifennu dwy golofn neu fwy i ddweyd pregethwr mor fawr ac mor odidog o ddysg a gras a fydd.
Advertising
To Advertisers PREPAID ADVERTISEMENTS FOR IRTHS AND] DEATHS, Is. per Insertion. MARRIAGES. Is. 6d. per Insertion, SITUATIONS-Wanted Vacant. APARTMENTS-Furnished and Unfurnishe Is. for One Insertion. 9d. per Insertions for Three Insertio Rate for Trade Advertisements, Public Meetings eto., may be had on application. All communications re Printing and Advertising to be directed to the Firm: Advertisements must be to hand Tuesday Morning to easnre publication in the following issue, HUGH EVANS & SONS, SM-BA Stanley Road Liverpool EVANS 65ONS l ?j???35635a,?!eY?J. ? W. & J. VENMORE, Estate Agents & Valuers 200 SCOTLAND RB., Liverpool VBLBPHon No. 5163 Royal J. Lloyd Jones, & Co., ESTATE AGENTS, &c. 6 Lord Street, Liverpool TMLBPMOMB till MAM KHZ ALLAN m^1 LINE To CAN ADA. ALSATIAN and CALGARIAN 18,500 ton Quadruple-Screw Turbine Steamers Express Weekly Service from Liverpool. The POPULAR PIONEER LINE. [LARGEST and FASTEST to CANADA. CHEAPEST way to Canada; shortest to W America Regular Sailings from Glasgow, Londonderry, London, Plymouth and Harve. ALLAN LINE, 19 James St., Liverpool; 14 Cockspu St., S.W., and 103 Leadenhall St., London, E.O. Pence Envelopes FOR CHURCH] COLLECTIONS Good Quality. Correctly Numbered 6bj Special Machine. -:t ) Hugh Evans & Sons, kl.,Brython, 356.8 Stanley Roadl L'pool. Esboniad Cyflawn AR YR HOLL FEIBL am bris Esboniad ar y Test. Newydd ym unig. Y Dehonglydd Beirniadol ar yr Hen Destament a'r Newydd, gan y Parch. John Jones (Idrisyn) mewn pedair eyfrol, fel newydd, wedi ei rwymo mewn lliaa cryf 18s. Eto (hanner rhwym) 25s. Hugh Evans a'i Feib., Swvddfa'r Brython KING OF THE MEADOW (Brenin y Maes). A Song for Bass Voice. Yn y ddau nodiant. Geiriau Oymraega Saesneg. GAN JOHN HENRY, R.A.M. AIL ARGRAFFIAD. Is. Swyddfa'r "Brvthon," Lerpwl. For Bedsteads and Bedding. W. WHITTLE, SON & STOTT, LTD., 116, 118 D 120 WHITECHAPEL, LIVERPOOL. 14 Telephone 2137 BLoyaltl ????????????_??_?__?. .??_?????=?=?=q========m=?ta—==   ..Cynhygiad Neilltu ol.. i Ddarllenwyr "Y BRYTHON." NID oes dim mwy hwylus a gwerthfawr na Fountain Pen da o gwneuthuriad y gellir dibynnu arno, a hynny am bris isel y gall pawb ei gyrraedd. Mae perchenogion Y BBYTHON—er mwyn eangn cylchrediad eu newyddiadur—yn cynny FOUNTAIN PEN o'r gwneuthuriad goreu guaranteed fitted with 14 carat Gold Nib, fine, medium or broad), ao yn gyfartal;o raG. werth i rai a gynhygir am brisiau llawer uwch. Dyma'r telerau:— Am 3/6 (Postal Order). Neu am 3/- a phum Coupon. „ „ 2/6 a deg Coupon. •< Y Coupons i gael eu tori allan o'r BBYTHON. Gwna unrhyw ddyddiad y tro, ond ni chymerir mwy na thri o'r un dyddiad. Anfoner y Coupons a'r Postal Order, ynghyda ell" a chyfeiriad yr adfonydd wedi ei ysgrifennu yn eglur. Cyfeirier yr archebion :— 356-358 STANLEY ROAD, LIVERPOOL. Fountain Pen Coupon; Y BRYTHON," Chwefrol 19eg, 1914