Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

I0 Chwarel a -Chlogwyn.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 Chwarel a Chlogwyn. I Sef o Ddyffryn Nantlle. I I GAN YSBRYD GLASYNYS. i CHWITH ATGO' ,—Bore dydd Mawrth, bu tranc henafgwr hynod ym Mro dawel Bala- deulyn, sef Mr. Wm. Owen, y Llythvrdy, un o gymeriadau hynota'r fro. Daliodd yn dirf o ysbryd ac iraidd o gorff hyd y Sadwrn cynt, er ei fod yn 71 mlwydd oed. Un byr, glandeg, a sionc oedd ar hyd ei oes, a cherddodd mor heinyf a g ungwr ar hyd ei bonlwybrau cynefin nawn dydd Sadwrn ond cyn hanner nos cafodd ergyd drom o'r parlys, a drodd yn angau iddo ymhen y tridiau. Nid oedd gennym neb parotach ei gymwynas yn ein tud, na neb llyfnach—na garwach—ei dafod pan fyddai galw am hynny. Ar gyfrif ei wybod- aeth fawr a'i ddawn arabus, yr oedd yn hysbys a phoblogaidd. Meddai ar gof eithriadol, a danghosodd sel diflino dros drysori pethau gwerth eu gwybod yng nghell ei gof. Siaradai yn hyawdl ar bynciau dyrys y dydd, ac ym- hyfrydai yn ei ddawn fsl gwleidydd di- wyro. Llosgai ei natur fawr yn ffiam dros Ryddfrydiaeth, a thraethodd ei phethau goreu ymhlith ei gydweithwyr heb flino. Bu'n ffyddlon ymhob moddion crefyddol ym Mala- deulyn, ac yn aelod selog o'i heglwys a'r gym- deithas lenyddol. Mab ydoedd i'r diweddar Owen Owens, y crydd, Tal y sam, o dueddau Amlwch, ac o'r un. cyff a Llew Llwyfo. Chwaer iddo oedd y fwynlais Fair Alaw, mam y brodyr Francis o Xaritlle ac wedi iddynt golli cysgod eu rhiaint, bu'r hen ewythr yn gysgod ac yn gefn da iddynt. Brawd iddo yw Edward Owen, R.A.M., hefyd loan Dwythwr, bardd melys yn ei ddydd. Daearwyd ei weddillion ym Macpelah, Pen y groes, ddydd Sadwrn, a thyrfa gref yn ei hebrwng, a'r rhain yn gwasanaethu y Parchr. Morris Williams, Baladeulyn J. Jones, Hyfrydle a Wm. Williams, Tal y sarn. Gedy ferch mewn galar dwfn, sef Mrs. Dd. Samuel Jones, y Llythyrdy, hefyd wyrion a neiod. Chwith colli'r hen gyfaill siriol a glandeg. Bu'n weddw am yn agos i 16 mlynedd. Gorffwysed ef a'i briod hawddgar eu hOn o hedd yn naear y Dyffryn y rhodiodd ac y siaradodd gymaint amdano. Yr oedd a'i fryd ar symud i Awstralia at D. S. Jones cyn diwedd yr haf, ond cadd wys i oror pellacb. HYBTJ'E GWAN.—Ym Mrynaerau y bu. hynny nos Sadwrn ddiweddaf ac er llymed a garwed gwynt a glaw Chwefrol, cadwodd y cantorion a'r adroddwyr eu cyhoeddiad. Yn llenwi'r gadair yr oedd Aled Ddu, un o flaenoriaid Bryn aerau. Doeth a byr fu ei sylwadau pwrpasol. Arweiniwyd gan Lew Deulyn. Cyfeiliwyd yn ddirodres a medrus gan yr Athro Gwilym Evans, Ysgol Tal y sarn, ac adroddwyd darnau digrif gyda meistrolaeth gan Wm. Rowlands, Pen y groes. Cawsom ganu aruchel drwyddo draw. Melys ei sain oedd Maggie Owen, Pen y groes, wrth bor- treadu Merch y Cadben." Danghosodd E. Walter Williams, Tal y sarn, wychter llais a gorffennedd drwy'r Niagra" a'r ddeuawd Y Bardd a'r Cerddor," gan Mr. J. M. Parry, Pen y groes. Dyna fwyn a chyrhaeddgar oedd J.M.P. yn y Bwthyn Bach To Gwellt," ac yr oedd clydwch yr hen fwthyn i'w deimlo'n gryfach heno nag arfer, oherwydd swn y ddrycin gurai'r ffenestri'r tuallan. Yr un ffunud oedd effaith y Dymhestl," gan Rd. Williams, Pen y groes-canwr bass eithriadol o fwyn ac addawol. Hoeliodd Llew Arfon glust a chalon y gynulleidfa a'i ddull dramatig a thynnodd hwyl fawr ynghwmni'r Hen wraig acw," a bu mynd mawr ar Hela'r Sgyfarnog ganddo ac yn sgil hynny caw- som ein cludo ar gefn Ceffyl yr hen Bre- gethwr gan yr adroddwr Wm. Rowlands i fyd Ceiriog berlog, fyw. Melyswyd y rhaglen drwy ganu penhillion J. Parry Jones o'r lie, a'r ilywydd wedi llunio rhai penhillion pert iddo. Cafodd Miss Davies-geneth ieuanc o'r Bryn-glust y gynulleidfa gyda Llais y Brython (J. Arfon Williams). Cafwyd Bugail Aberdyfi gan yr arweinydd hefyd. Trwv'r cyngerdd, rhoed cyfle i gar a chym- dogion Wm. Jones (Cae du gynt) ddangos eu helusengarwch, a gweithiodd yr ysgrifennydd -J. T. Parry, Sgubor Fawr—ei egni, a thai- odd yn rhagorol. Cafwyd punt o Chicago gan ddau o blant Bryn aerau at y cyngerdd, a diolchwyd yn gynnes a chu i bawb. Darpar- wyd gwledd sylweddol i'r cantorion gan rianedd y fro. Cyngerdd godidog oedd, ac yn amheuthun i ardalwyr tawel Bryn aerau. PENCERDD BRYNRODYN, sef Mr. R. J- Thomas, L.T.S.C., y bardd a'r cerddor o'r G roeslon ,-efe wedi bod yn dal y glorian mewn cwrdd cystadleuol ym Mirkenhead. Un cyfarwydd am lawio'r llathen hyd frethyn tramor a chartref, ac yr un raor ddeheuig hefo'i lathen gerddorol. Clywsom iddo fynd trwy ei waith yno—yn ol ei arfer-gyda llaw fedrus beirniad doeth, a chredwn nad yw ond megis dechreu arno tua minion y Mersey yna. EIN HADRODDWYR.- Y mae flawd yn gwenu ar Lisi Jones ein hadroddeg. Enillodd ddwy wobr ddiwedd yr wythnos, yng Nghaer- narfon a Chroes y waen. Un arall o'n had- roddwyr, sef R.O., Nantlle, yn adrodd yn odidog ar y llwyfan gyda hi yng Nghaer- narfon. Ym Methel gorchfygodd Eillion hefyd mewn cystadleuaeth den. YN GYNNAR.—Bu farw Mrs. Hannah Thomas, Llwyndu Bach, Pen y groes, yn 30 mlwydd oed. Hyhi yn ferch i Mr. a Mrs. J. Griffith, Caerhengan. Cydymdeimlir a'i phriod a'r teulu oil. EIN A.S.—Cyfarfod brwd a hwyliog fu gan Rvddfrydwyr Talysarn. Yrg nghwmni Mr. Ellis Davies, A.S., yr oedd y Parch. Towyn Jones, a chafwyd areithiau goleubwyll a gwresog. Llywyddwyd gan Mr. Rowland Williams.

Advertising

DOT GOSTEG.

DYDDIADUR. -I

Cyhoeddwyr y Cymod I

Gyda'r Clawdd I