Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
———- CAMPBELL & LUMBY I I THE LIVERPOOL JEWELLERS, I Diamond Merchants & Silversmiths. I S Have the finest selection of goods I suitable as gifts for any and every occasion. YOUR INSPECTION 15 INVITED. 1 Telelophone 3075 Royal OLD POST OFFICE PLACE =II Street.
Cawl Cymysg.
Cawl Cymysg. GAIR DYRNWR Y DE.-Wrth siarad mewn cyfarfod dirwest yn Llanelli'r dydd o'r blaen, dywedodd y Cynghorydd Wright (Cas- newydd ar Wysg) iddo ofyn i'r paffiwr heger Freddy Welsh (Fred Thomas wrth ei enw iawn, a brodor o Bont y pridd) Pain 'rwyt ti'n llwyrymwrthodwr, Fred ? 0, am y byddwn yn llech ar lawr yn bur fuan pe'r yfwn," ebe'r ffustwr yn y funud. Ac ni fydd Holbein nac Wolff na nofwyr na rhedwyr enwog ereill byth yn profi'r un dafn o'r felltith. Peidiwch chwithau a gwneud chwaith, os ydych am ddal eich tir, beth bynnag ydyw'ch cylch a'ch galwedigaeth. Ond y feirniadaeth lemaf a welwyd erioed ar y Fasnach Feddwi ydoedd gwaith y tafarnwr hwnnw'n hysbysebu yn y papur am barman, ac yn gosod i lawr y rhaid iddo fod yn llwyrymwrthodwr. MWYA' SIOM SIOM SERCH.— Taflodd y llanc J. Wankin, Pentrefelin Terrace, Trallwng, ei hun o dan y trên aca'i lladdwyd, yr wythnos ddiweddaf ac oddi- wrth lythyrau a gaed arno, bernir iddo wneud hynny am fod ei gariad wedi dweyd wrtho fod ei hiechyd yn gyfryw nad oedd wiw iddi briodi ar hyn o bryd. GOREU BARA: BARA GARTREF.— Bu'r gyfundrefn deithiol, a chyrchu pregeth- wyr dieithr ac o bell, tan sylw Cyfarfod Misol Lleyn ac Eifionydd ddydd Mercher diweddaf, ac o blaid ei diwygio, a byw mwy ar y weini- dogaeth sefydlog ac o fewn y cylch, yr oedd llais y mwyafrif siaradodd. Dywedid fod gwyr y ffordd haearn ac ereill yn sgubo deucant o bunnau bob blwyddyn o'r ardal yn dreuliau teithio ac ebe'r Parch. Alun Jones (Chwilog), —" Ar ol saith neu naw mlynedd o baratoi dyn i'r weinidogaeth, ddyry'r Cyfundeb ddim sicrwydd daliadaeth iddo ar derfyn y tymor hwnnw, na sicrwydd galwad chwaith." Ac ebe'r Parch. J. Puleston Jones, M.A. Gwn am rai gweinidogion adawodd y Cyfundeb am fod Cyfundebau ereill yn darpar gwell cyflog i'w gweision. Ac fe fyddaf yn gwrido wrth ddarllen, bob tro Ý bydd bwlch am fugail yn rhywle, boed fawr boed fach, y bydd haid o Weinidogion y Corff yn ciprys am y lie." Ond yn erbyn newid y siaradodd Mr. J. Evans- Hughes, gan ddal eu bod yn cwyno yn erbyn yr Eglwys Wladol fod y llywodraeth i gyd yn canoli mewn un dyn, ac i hynny y deuai gyda'r gwelliant a gynhygid. <' 'Rwy'n credu yng ngoroesiad y cymliwysaf," ebe fo, wrth daro'i hoelen ar ei phen. Oedi'r drafodaeth wnaed, a threfnu dod yn ol at y pwnc dro arall. COKLCE-RTH 'TY'N TWLL.—Aeth teisi a beudai Ty'n Twll-fferm naill du i Drefriw- ar dan nos Fercher ddiweddaf, ac aeth llawer o'r lle'n goelcerth a chan ei fod heb ei yswirio, bydd yn golled drom iawn i Mrs. Davies, y weddw a ddaliai'r fferm. OS YW'R IAITH I FYW. Os yw'r iaith Gymraeg i fyw, dylai fathu geiriau newyddion, ehangu ei syniadaeth, a chyfoeth- ogi ei thermau, er mwyn bod yn wastad a'r oes," ebe'r Parch. R. Mon Evans (A.), Cas- newydd ar Wysg. Eithaf gwir a pha bryd y cawn Academi Gymreig i fathu geiriau, yn lie bod bob prentis trwstan yn creu'r burgynod anghynes a fritha'r papurau a'r Hyfrau'r blynyddau hyn ? HIL SION W YN.-Ymysg y deng ynad a godwyd i ben y Fainc ym Middlesbro y dydd o'r blaen, ceid un Cymro, a hwnnw'n Gymro gwerth ei godi, sef Dr. Wm. Jones Williams, physygwr galluog a rhadlon tros ben sydd yn nhref y dur er y flwyddyn 1867, ac sy'n fawr ei barch a'i bractis ar hyd y blynyddau. Ychydig—rhy ychydig o lawer—o'r ias bod yn yr ambrg ac ar fyrddau cyhoeddus fu ynddo gwell ganddo'r encilion myfyrgar, a dyna'r pam y bu'n un o bileri cryfaf Cym- deithas Lenyddol ac Athronyddol y dref. A ryfedd yn y byd fod yr ias honno cyn gryfed ynddo, canys yr oodd ei dad-—y diweddar Mr. Wm. Jones, Treinadog--yn nai fab chwaer i Sion Thomas (Sion Wyn o Eifiori), Chwilog, a deil y chwant llyfr a llenydda'n gryf yng ngwahanol gangau'r teulu. Ac ar draul y meddyg hael y dygwyd yr argraffiad newydd o weithiau Sion Wyn allan o'r wasg yn ddi- weddar, yr oedd y cyntaf allan o brint ers llawer dydd. Er cyd y bu'r meddyg mwyn ym mro'r estron, ni wywodd ei Gymraeg y bripsyn lleiaf, ac fe dreigla mor llyfn a rhugl dros ei ddeufin heddyw ag y treiglai pan aeth i Fiddlesbro'n llefnyn talgryf saith mlynedd a deugain yn ol. Y mae'n wr parod iawn ei gymwynas, ac yn darllen a ehefnogi'r Wasg Gymraeg tuhwnt i filoedd o'r Cymry cefnog ond crintach sy'n troi trwyn arnynt yn yr Hen Wlad. Hir oes iddo ac er fod ei ffisig yn chwerw, y mae e'i hun yn felys iawn, a'i amcan i wella a melysu bywyd pawb arall, megis yr englynodd Carnelian am ei debyg o'r un grefft :— Hynod loriwr doluriau,—orael ar Y clwy' a'r cyffuriau, Yw'r meddyg, yn cynnyg cau Y mur rhyngom a'r angau A chyn rhoi 'mliensil yn 'y mhoced, 'rwy'n cofio fod yna un arall o hil Sion Wyn ym Mirkenhead yma, sef Mr. J. T. Jones, capel Vittoria Street, dysgwr y cor genethod bach hynny sydd bellach mor hysbys am eu canu a'u Cymraeg croyw ac y mae ganddo fo hefyd rai o lythyrau Eben Fardd ac ereill at Sion Wyn, ac awdl Eben i Oronwy Owen, yn llaw dlos yr Eben ei hun. Oes, y mae cryn dipyn o Sion Wyn yn wyneb J.T.J. hefyd, erbyn sbio arno fo, a gweld ei flas. -9- 0 FAGHYNLLETH.—Bu'r Parch. Evan Rd. Jones, farw yma'n bur sydyn o'r parlys yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd yu 58ain oed, ac a fu'n amlwg gyda'r MudiadYmosodol yn Neheudir Cymru. 0 GAERDYDD.—Y mae'r Parch. Samuel Jones, Brynmawr, wedi cael galwad i fugeilio eglwys M.C. Cathedral Street, Caerdydd. Y mae'n Gymro gwych. Saer coed ydoedd ei grefft cyn mynd i'r weinidogaeth ac fe bre- gethodd mewn amryw bulpudau a wnaed gan- ddo ef ei liun. Y mae'n chwaraewr golff awchus, ac yn gwneud ei beli ei hun. Ond dyma'r peth pwysicaf ei fod o'n ddigon o saer i fedru gwneud saethau argoeddiadau, ac nid peli golff yn unig. RHYW LWYBR GWNINGEN.—Dywed y papurau Saesneg yma fod ym mryd rhai o Gynghorwyr Ffestiniog gynnyg fod cyfrol Renan, y Llydawr bydenwog, ar Fywyd Crist yn cael ei thynnu i lawr oddiar estyll y Llyfr- gell Gyhoeddus a'i gwahardd i fynd allan, achos ei fod yn llyfr a dueddai i ddiddymu gwaith gweinidogion crefydd yn y dref." Ond diau fod pob gweinidog sydd yn Ffes- tiniog wedi darllen y gyfrol honno ei hun ers llawer blwyddyn a pha ddiben ei gwahardd i'r bobl, a'i chaniataui'wdysgawdwyr ? Na, nid drwy ryw Iwybr gwningen o bolisi fel yna y codwn ein cenedl, yn siwr i chwi. Ni thyf- odd neb yn gryf ar ofn dim, boed ddyn, boed ¡ lyfr. 1
I.-0- I Ffetan y Gol. I
.-0- Ffetan y Gol. Cofted pawb fo'n an/on i'r Fletan mai dyma'r gair sydd ar ei genau.- NITHIO'R GAU A NYTHU'R GWIR. Peryglon y Ddrama Gymreig. At Olygydd Y BRYTHON. STR-YR wyf o galon yn gefnogydd i'r Ddrama Gymreig." Ond y mae iddi ei pkeryglon, yn enwedig ar ddechreuad ei gyrfa. Bum yn ddiweddar yn gwrando ar berfformiad yn Sir Feirionydd, a chlywais ddyn ar y llwyfan yn actio ymgeisydd Sen- eddol.Dechreuodd trwy annerch y gynulleid- fa ac yna torrodd allan i weddio gan gyfarch y Bod Anfeidrol a mynd i hwyl fawr, yn cael ei borthi yn y weddi gan ei ganlynwyr terfysglyd. Yn yr un perfformiad canwyd amrwy benhillion yn canmol yr lawn a a Gwaed y Groes. Dylai awdwyr a pherfform- wyr ddeall ar unwaith fod Cymru gyfan am wrthwynebu dwyn y pethau mwyaf cyseg- redig a feddwn i'w dyn wared yng nghanol ysgafnder ar y llwyfan. Yr eiddoch, PROTEST. Bonci ust i'r Beirdd ai e! I At Olygydd Y BRYTHON. I MR. GOL.—Yn Y BRYTHON diweddaf, ymddengys pwt allpi o araeth chwilboeth y Parch. W. R. Roberts (W), Llangollen, ar. Sosialaeth,yn yr hon yr heriai efe undyn byw i ddangos un, linell o weithiau'r hen feirdd a ganwyd er mwyn y dyn cyffredin. Canasant eu baldordd am ganrifoedd i fawrygu'r mawrion cyfoethog—Huw Morux Pont y Meibion, yn engraifft." Peglynasai'r gwr parchedig o Langollen wrth ei gyhuddiad mewn gwedd gyffredinol, heb enwi neb, buasai yn eithaf gwrthun, ac yn brawf o anwybodaeth resynys o'r Beirdd Cymreig a,'u gwaith. Ond mae ei waith yn enwi Huw Morus o Bont y Meibion yn brawf digonol y disgwylia i bawb fod mor anwybodus ag yntau. Mae yn fy llaw waith Huw Morus (Eos Ceiriog) o gynhulliad Gwallter Mechain, cyhoeddedig yn 1823. Yn hwn, ceir o leiaf 8 cywydd, 18 o ganeuon, a rhai o englynion ganwyd yn gwbl er mwyn y dyn cyffredin." Trueni i Mr Roberts seilio ei anerchiad Sosialaidd ar wneud anghyfiawnder a choffa y rhai wedi marw sydd yn llefaru eto,nid mewn baldordd, ond mewn barddoniaeth erys yn addurn i'r iaith. Rhoddodd Huw Morus yn ei ganeuon esiampl mewn tosturi a haelfrydedd gwerth i Sosialwyr, ie, ac i weinidogion yr Efehgyl i'w dilyh yn y dyddiau hyn. Oymaint ajhynyna am her Mr. Roberts. Huw Morus yn unig enwir ganddo, ac wele ddigon i brofi nas gwyr lawer am yr hen fardd clodfawr hwnnw. A fyn efe gyfeirio at eraill o'r hen feirdd ? A beth am y beirdd newydd? "Rhagorfraint y gweith- iwr," gan Elfed, a'r Werin gan Dyfed ? Bethesda. GLAN OGWEN. Bonclust yn ol At Olygydd Y BRYTHON. SYR.—Pan yn darllen sylw yn Y BRYTHON am yr wythnos diweddaf, ynghylch rhyw wr parchedig yn rhoi bonclust i'r beirdd," oherwydd eu diffyg cydymdeimlad a'r werin, yn eu gwaith, enynodd tim Gan nad beth am hynny, un peth yw canu-neu bregethu i ddyn, peth arall yw mynd i'w logell. Hwyrach y gall y gwr parchedig y ddau a thybiwn y gall y beirdd-er tloted ydynt- -fel dosbarth,wneud yr un peth. Gwir fod rhai o'r hen feirdd yn dueddol i ganu i fonedd; ond nid teg dal y frawdoliaeth ymhob oes yn gyfrifol am hynny. Oni wyr y gwr parchedig am waith Dewi Wyn, loan Emlyn,R. J. Derfel, T. E. Nicholas,ac eraill ? Y mae eu cydymdeimlad gwladgar a'r werin yn eu gwaith.—Yn wladgar, &c., CYBI. Yr hen Lan yn y diwedd. At Olygydd Y BRYTHON. ANNWYL SYR,—A gaf fi fymryn o'ch gofod i ddyweyd gair wrth wyr y Dadgysylltiad yma ? Maent wedi dywedyd, ac wedi, awgrymu llawer o bethau go gas am yr hen eglwys yn ddiweddar.Hawdd fuasai eu hateb yn gas, ond gwell defnyddio'r eli y soniwyd am dano yn Y BRYTHON dro'n ol. Ond yn wir Syr, mae gan yr Eglwyswr ofn mesur y Dadgysylltiad yma o'r galon, yn pryderu beth ddaw o'r hen lannau a'r hen fyn wentydd sydd mor gysegredig iddo. A g&nt hwy y parch dyledus gan yr awdurdodau newydd ? Chwi wyddoch am y bobl newydd yma, Mr. Gol. sy'n tybied y gall y ddrama ar taclau eraill yma wneud gwaith yr hen Efengyl Rhad arnynt! Wel, gyfeillion annwyl, peidiwch a bod yn rhy gas wrth yr hen Eglwys. Er cymaint craith sydd arni,cofiwch am y cwmwl tystion fagwyd ar ei bronnau— Gruffydd Jones, Landdowror, Howell Harris, Daniel Rowlands, Charles o'r Bala, &c., dyna i chwi set o ddynion nad oes gan unrhyw wlad eu hafaL Terfynaf gydag englyn Eben Fardd.— Twr y gloch treigla uchod-ei wyshen I wasanaeth Duwdod, Cana ei hen dine hynod, Llan, llan, Ilan yw'r fan i fod. Yr eiddoch yn ddidwyll, Sefton Sq., Lerpiol. DANIEL O. JONES.
Advertising
Liverpool Guardian Trade Protection Society 'Phone 4865 Bank. Wires Precaution" The Oldest Provincial TRADE PROTECTION SOCIETY A MUTUAL SOCIETY Governed by a Board of Honorary Directors. For terms write—F. MEATHER, Secretary, 41 North John Street, Liverpool. W. & J. VENMORE, Estate Agents & Valuers 200 SCOTLAND RD., Liverpool ffKLSPHorai No. 5168 Royal J. Lloyd Jones, & Co., ESTATE AGENTS, &c. 6 Lord Street, Liverpool TMLBPMOMM 4S11 MAMX&Z ALLAN nl LINE X c), CAN ADA. ALSATIAN and CAT-GARIAN 18,500 ton Quadruple-Screw Turbine Steamws Express Weehly Service:from' Liverpool. The POPULAR PIONEER LINE. LARGEST and FASTEST to CANADA. CHEAPEST way to Canada; shortest to W Amerisa Regular Sailings from Glasgow, Londonderry. London, Plymouth and Harve. AUJAN LINB, 19 James St., Liverpool; 14 Cockspa St., S.W., and 103 Leadenhall St., London, E.O. — =- Pence Envelopes FOR CHURCH" COLLECTIONS Good ..Quality.7lf Correctly Numbered Special [Machine, .j. Hugh Evans 6 Sons, i Brython 356«8 Stanley Road- L'pool. Esboniad Cyflawn AR YR HOLL FEIBL am bria Esboniad ar y Test. Newydd yn unig. Y Dehonglydd Beirniadol ar yr Hen Destament a'r Newydd, gan y Parch. John Jones (Idrisyn) mewn pedair cyfrol, fel newydd, wedi ei rwymo mewn llian oryf 18s. Eto (hanner rhwym) 25s. Hugh Evans a'i Feib., Swrddfa'r Bruthon KING OF THE MEADOW (Brenin y Maes). A Song for Bass Voice. Yn y ddau nodiant. Geiriau Cymraega Saesneg. GAN JOHN HENRY, R A.M. AIL ARGRAFFIAD. b. Swyddfa'r "Brython," Lerpwl. For Bedsteads and Bedding. W. WHITTLE, SON & STOTT, LTD., 116, 118 0 120 WHITECHAPEL, LIVERPOOL. Telephone 2131 Royal J ..Cynhygiad Neilltuoi., i Ddarlienwyr Y BRYTHON." NID oes dim mwy hwylns a gwerthfawr na Fountain Pen da o gwneuthuriad y gellir dibynnu arno, a hynny am bris isel y gall pawb ei gyrraedd. Mae perchenogion Y BRYTHON—er mwyn'eangu cylchrediad eu newyddiadur—yn cynny FOUNTAIN PEN o'r gwneuthuriad goreu guaranteed fitted with 14 carat Gold Nib, fine, medium or broad), ac yn gyfartalo ran ei j werth i rai a gynhygir am brisiau llawer uwch. Dyma'r telerau:— Am 3/6 (Postal Order). ,j, Neu am 3/- a phum Coupon. „ 2/6 a deg Coupon. Y Coupons i gael eu tori allan o'r BRYTHON. Gwna unrhyw ddyddiad y tro, ond a chymerir mwy na thri o'r un dyddiad. Anfoner y Ooupons a'r Postal Order, ynghyda enw a chyfeiriad yr anfonydd wedi ei ysgrifennu yn eglur. Oyfeirier yr archebion :— 356-358 STANLEY ROAD, LIVERPOOL. Fountain Pen Coupon; Y BRYTHON," Chwefrol 26ain, 1914
O'R BALA.
Wedi mynd i lawr fel y dywedwyd, cymer y llyn gryn dipyn o amser i godi i'w'lefel arferol ond pan aiff ati fe wna hynny'n bendorfynol iawn, a gorfodir yr afon lwyd i droi yn ei hoi i'w chyfeiriad ei hun. Un tro, flynyddoedd lawer yn ol, yr oedd cwmni ohonom yn dringo llethr serth ffridd Fachddeiliog, ar ein ffordd i gyfarfod ysgolion Cefn ddwygraig, ac o'r safie fanteisiol honno gwelsom yr olygfa uchod yn digwydd. Yn un o'r cwmni yr oedd y di- weddar Ddoctor Hugh Williams ac ymhen ychydig Suliau clywsom ef yn gwneud defn- ydd prydferth o'r'olygfa ym mhulpud y Capel Mawr. Weithiau," meddai, mae y da yn enaid dyn yn mynd, trwy ddiofalwch ac esgeulustra, i lawr yn is nac arfer, a'r adeg honno mae y drwg yn fuan iawn yn gweld ei fantais, yn rhuthro i mewn gyda'i holl fudr- eddi, ac yn baeddu cryn lawer ar yr enaid hwnnw. Ond arhoswch chwi i'r da ynddo ddeffro ac ymysgwyd, ac ni bydd gorchfygiad yr ymwelydd hagr ond cwestiwn o ychydig amser wedyn mae'r da yr,) sicr o orchfygu yn y pen draw." PENDDUYNOD Y BALA.-—Cynhaliwyd ar- werthiant cyhoeddus ym mhafiliwn Corwen ddydd Gwener diweddaf, ar ystad y Caereini, perthynol i R. J. LI. Price, Ysw., Rhiwlas. Cynhwysa un ar hugain o ffermydd cymedrol o ran maint, ond ni werthwyd namyn rhyw dair neu bedair ohonynt. Yr oedd adfeilion hen westai y Pen Tarw, a'r Bedol Ceffyl, yn y dref hon, ar worth liefyd,ond ni chynhygiodd neb arnynt. Gresyn fod y lleoedd hyn yn anurddo ein prif heol fel y maent da fyddai pe prynnai rhywun hwy, ac yr -tdeiladai nifer o dai cymedrol eu hardreth, ar y llannerch fanteisiol lie safant. Dyma i chwi restr o dafarnau sydd wedi mynd yn adfeilion, neu allan o fod, neu wedi newid eu cymeriad, yn y dref hon yn ystod yr hanner can mlynedd diweddaf :— Yr Henblas, y Ginshop, y Currier's Arms, y Ginshop bach, y Bull mawr, yr Horse Shoe, y Feathers, y Red Lion, y Queen, y Bull bach, a'r Blue Lion. 'Nifer go dda, onite ? mewn lie bach fel hyn ond fe erys eto y Ship Inn, y Goat, y Plas Coch, y Lion, y King's Head, yr Onnen, a'r Cross Foxes ac fe fyddai llai na hanner y nifer yna hyd yn oed yn hon ddigon yn y Bala. Y CLYBIAU Tuoi.-Wele, gwawriodd dyddiau yr ymdrechfeydd hyn unwaith eto. Goreu gwrthwyneb, gwrthwyneb cwys" medd hen ddihareb dda a phan fo'r gwrth- wyneb hwnnw wedi cael ei droi i fyny yn wyddonol o drwch priodol a gwastad, ac wedi ei roi i orwedd ar ei gilydd yn union, difwlcli, a glA,n,.dywc,dir y bydd y cnwd fel yn ymfalchio yn y gwaith, ac yn tyfu'n karddach a gwell. Fodd bynnag, mae'r bechgyn wrthi yn porthi yn well, yn trin yn lanach, yn gloewi'r byclau, yn ystwytho'r ger, ac yn cadw llygad gwyliadwrus ar gyflyrau y sychod a'r cylltyrau fel y gellir disgwyl cystodleuon campus eleni eto, fel arfer. Gwelsom dorwr gwrych adna- byddus y dydd o'r blaen yn mynd a chryman newydd, a llafnes o garreg hogi, adref o 7 Tegid Street. Yr hen gryman fuasai'r goreu. 'WHARE 'WHERw.Ddydd Mercher a dydd Iau diweddaf, bu nifer o fyfyrwyr jy Coleg yma yn Aberystwyth am game o golÎf, game o football, yn erbyn myfyrwyr y Coleg Diwinyddol yno. Collasant y golf, ond enill- asant y football, a dychwelasant adref nos Iau yn orhoenus ryfeddol. Heddyw, yr Slain, bu bechgyn Ysgol Sir Dolgellau yma yn eicio yn erbyn bechgyn ein Hysgol Sir ni, ac enillasant y dydd, gyda 4 ael yn erbyn 3. Heddyw hefyd, aeth y Bala Press Team cyn belled a Llanidloes, i geisio am y gamp o rwydo'r bel yn amlach na bechgyn y lie liwnnw- Aflwydd o dro oedd mynd cyn belled i nol curfa mor dost a chwe ael yn erbyn dim un. Sut y bu, boys ? Rhaid nad oeddych mewn hwyl, wedi colli'ch pennau a ch traed wrth deithio ar draws gwlad mewn -motor cars, efallai. Ar ol ysgrifennu'r uchod, clywsom i un o'r ddau fotor actio asen Balaam, wrth geisio mynd a'r pwysau pechadurus oedd ynddo i fyny allt Bwlch y Groes, a'i fod ers meityn yn tuchan, yn chwythu, ac yn achwyn yn enbyd rhag y job, pe buasai'r boys yn ei ddeall. Gorfu iddynt neidio i lawr, a gadael i'r creadur gael ei ffordd ei hun, a'r ffordd iddo'i hun, nes y cyrhaeddodd ben y gogwydd yng nghyfeir- iad Dinas Mawddwy. Wrth ddod adre wedyn ffordd arall, stranciodd un o'r ddau, yn ymyl Croesoswallt, mewn gwlad ddieithr, a 'hynny liw nos, fel pe mewn sorr wrth y ciciwrs am ddod adref mor ddianrhydedd. Bu raid cael ysbryd newydd ynddo, a'i wthio a'i redeg am bellter, cyn yr argyhoeddwyd ef mai dod i'r Bala oedd raid iddo. A thrachefn, yn ymyl Corwen, torrodd y llall i lawr ac yn y fan honno, credodd nifer o'r bechgyn mai diogel- ach oedd cerdded y deuddeng milltir gweddill nac ymddiried mewn creaduriaid mor an- ystywallt. a chastiog. Felly cyraeddasant adref, strim stram strellach, ynghanol drycin MyTnig, erbyn tua 6 ar y gloch bore ddoe. Balch ei grib yw Bwlch y groes-lie erchyll, I warchod Llanidloes Nos wyllt-gri fu'n Oswallt-groes A Chorwen fwd dychryn f'oes O.Y.— Mae un o'r Bala Press Newydd briodi Pa ryfedd am y mess I Rest am eleni. NOSON DDIFYR YN Y COLIIIG.Gvrahodd- odd y Prifathro (Dr. Ellis Edwards) y myfyr- wyr, a nifer o gyfeillion ereill, i dreulio hwyr- nos lawen gydag ef yn y Coleg, nos Fawrth ddiweddaf. Yn gyntaf, cafwyd danteith- wledd ragorol, o dan arolygiaeth brofiadol Miss Hartley, a threuliwyd gweddill y teirawr mewn clebran a chanu. Cynorthwywyd Miss Hartley gan Miss Ellis, Bryn y Groes (Cynlas gynt), ac ereill o foneddigesau y dref. Canwyd caneuon, deuawdau, etc., gan Mri. R. Roberts a H. R. Davies, a'r Misses Roberts, Gwalia, a Davies, Frongoch. Can- odd y Proffeswr Richard Morris, M.A., gan ddoniol o'i gyfansoddiad eihun, a chwaraeodd yr Athraw Fred Roberts ddernyn ar y piano.a Cyfeiliwyd i'r cwbl gan Miss Myfanwy Morris.