Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
1; USEFUL AND ACCEPTABLE Presents OF VERY RELIABLE HIGH FASHIONABLE DIømDD JEWELLERY Saving fully 10/- in every ik SPECIAL VALUE. OUR LIST POST FREE. Davies s. 30 Low Bill 'RAILWAY ALLOWANCES TO OUSTOMERS FROM A DISTANCE. Close to Hippodrome and Olympia. EARLY CLOSING ON WEDNESDAY AT 1. Pearl & Peridot Gold Pendant Davies's Price V, 1/19/- Usual 15 LATEST DESIGN, Beautiful Circular real Orienta PEARLS AND PERIDOT PENDANT 1-in. diameter with pearly loop, lustrous gems, most charming jewels Also Solid 15-carat Pearl and Tourmaline Pendant, rich gems; Sale Price, £ 2/5/ usually IC5. Also 15- Garat Diamond and Pearls, with pearl drop; Our Price, £ 3/19/6, originally £ 9. Diamond 18-ct Watch Bracelet Davies's Price 113/18 Usual f,35 SLIGHTLY SECOND-HAND, indistinguishable to new 18-ct. Sold Gold fashionable, latest Self-Expanding bars. Lever Watch Bracelet, surrounded with 30 bBaRrsI. LLIANT DIAMONDS, finest quality, pure white; flawless, intense fire and lustre; Highest-grade move- SawlessA, CCURATE TIMIST. Warranted 30 years; ment, rare bargain. Also magnificent 18-ct. Diamond and Ruby Self-Expanding Watch Bracelet, fine quality; I Our Price £ 13/19/ usual £30. Also Superb Diamond and Emerald ditto; Our price L181101-, regular price £50. All warranted time keepers. SALE PRICE ACCURATE WATCH BRACELETS. Various Diamond Jewellery Usual Price Our Price. S9 DRESS STUD, Gent's Single-stone First-water DIAMOND C.bi.3,/19/ tion Pin or Stud, rare lustre, i 15-carat Claw set ?3 DIAMOND BROOCH, beautiful 15-carat, latest split bar, set with SJflawless^Diamonds in cross-over 2/19/ style. SZ1 EARRINGS, Exquisite, DIA- ————————— MOND CLUSTERS, selected white gems, rare lustre, platinum set 1 Q /"I f| swing drops, 18-carat gold wire. ia/lU/- .£37 DIAMOND'WATCH BRACELET, ————————— 18-carat gold' 30 finest gems, Highest-grade Lever, full- lewelled movement Guntimist 13/18/- Bargain. AO/" BROOCH, Triple DIAMOND ————————— CLUSTER, 27 large first-water flawless stones, platinum bar. 29/10/- It In. long. Usual £ 2/10/- Davies's Price 25/- Gold Curb & Padlock Bracelet Fashionable massive flexible Curb ant Padlock Solid Gold BRACELET, stamper eve,y link (the widest at the price), complete in velvet yise). Also ditto at 29/6, usual £ 3. Also the loilowing BAR- GAINS IN BASKET" P ATTER.N S at tV reduo- tion in every £ as follows:—26/- ;};) I 55/- also very fine 9-bar "Basket" Bracelet now ES /12 16 usual £7. Reliable and undoubted quality only. Approval. Payments. Over 200 Bracelets to s ect front. GOLD BRACELETS 10/- LESS IN CHE £ Lady's Diamond Half-Hoop. LARGE SECOND-HAND 5-STONE OUR PRIOE. DIAMOND RING, Claw-Set "CORO- NET," Latest, intense lustre, 18-ct. and Platinum Also large 3-STONE Xpi1Un//i10c/" DIAMOND "CROSS-OVER" RING; Our Price F.16jo/ uau? B?. AIM USUAL SQUARE OLUSTER DIAMOND RING, 5-stones Our Price £ 14/17/- £21 usual E28. Also very large 2-STONE f-21 DIAMOND CROSS-OVER RING, White Stones; Our Price £ 35/10/ usual £ 65. SAVING 10/- IN EVERY JE. 18 Ct. Diamond Engagement Rings. Usual Price. Our Price. 0DIAMOND AND SAPPHIRE Half-hoop, stylish 7-stone service 1Q/ able claw-setting, 18-ct. JH7/ 0 £ 4 DIAMONDS AND SAPPHIRES. 6 gems, heavy 18-ct. Half-hoop; n 1 ,n I all lustrous gems; rare bargain S4 DIAMONDS, 5-stones. Half-hoop stylish claw, 18-ct. gold, double-cut r 1 /ini fems; rare fire and 1.?tr *»A/JLO/~ ? DIAMONDS, 5 first-water large lustrous gems, fine white quality beavy solid 18-ct. claw half-hoop othersat f.2110/12/12/ and' £ 2/5/- &2/15/- 3E.?/ 0 M DIAMONDS, nne 5-stone larga diamonds, each gem of great > n /117 beauty, heavy 18-ct. gold claw set.. ?M DIAMONDS, 5-stone,very lustrous gems, first water, carved stylish n q i"l d olaw set 18-ot 3uO/XO/~ t21 DIAMONDS, 5-stone platinum Coronet," half-hoop white clean lustrous gems, very high grade, 3n uOQ /lO/f~ latest design Daviess Miscellaneous Bargains. Usual Price SOLID GOLD ONLY Our Price. 21/-NECKLET, Diamond Out Links 10/6 aoy-LOOXET, oval, engraved, hall-marked 7/6 SI/-SIGNET RING (Gent's) shield, hea.TY. 0/6 20/-LINKS, oval, engraved, hall-marked. 8/11 17 /-SIGNET (Lady's), shield top, strong 7/6 18/-PIN, real Diamond centre 9/6 18/-PIN, real Diamondjcentre 9/0 £a-BANGLE RING,.I8-ct. wide, heavy £ 1/16/- £ 8—SIGNET (Gent's), 18-ct. »oUd|gold shield.. 18/- 301-BROOCH, real Diamond centre 10/- 35-BRACELET, stiff, wide, engraved 16/6 M—DIAMOND A Sapphire 3-stone Scarf Slide 35 £ 10-PIN-STUD, Diamond & Sapphire Cluster.. £ 4/12/- SO-WATCH BRACELET, Russell's Solid Gold Lever £ 3/18/- 244-BRAOELET, 15-ct. band, 3 Diamonds 98/18/- ESS-WATCH BRACELET, 18-ct. Diamond and Rubies Heavy I Lucky Wedding Rings 22-CARAT PURE GOLD. Special 20/- Special. (USUALLY 27/9). AJPresentatlon with each Ring. OAVIES'S, 30 LOWHILL, Liverpool.
I0 Big y 11 Lleifi ad
I 0 Big y 1 Lleifi ad Porthi'r Wylan. Y mae rhai Cymry ac ereill sy'n croesi'r Mersey i'w gorchwylion yn cofio'r adar y boreuau oerion yma, ac yn mynd a thefyll bara gyda hwy i'w taflu iddynt. Daliwch ati, canys oni welwyd hwy'n disgyn yn farw ar y rhew gyda'r glannau ar ambell aeaf garwach na hwn ? Beth dlysaoh na hediad gwylan, a phwy sy'n deall llwybrau'r gwynt cystal ? Pwy gwelodd hi erioed yn cael ei dymchwel gan dymestl ? Na, y mae'r sawl a wnaeth aden yr wylan yn deall Ei grefft a'r gwynt yn anfeidrol well na'r prentis dwl wnaeth yr aeroplane, simsan ac afrosgo. Methu Salmio- At Olygydd Y BRYTHON. ANNWYL SYR.—Cynhaliwyd rehearsal ynglyn a Chymanfa Ganu M.C. Lerpwl, nos Sul ddiweddaf, yng nghapel Stanley Road, dan arweiniad Mr. Harry Evans,—y capel yn llawn, a phawb mewn hwyl Mr. Evans fel arfer yn feistr ar ei waith. Ond fe wnaeth Mr. Evans un sylw tebyg i hyn Nis gall y Cymry ganu Salmau, ac nid wyf yn mynd i ddweyd heno paham." Qnid doethach fuasai dweyd y rheswm, er mwyn inni geisio gwella erbyn y gymanfa ? Deallaf fod amryw fel fy hunan yn siomedig na chawsem y paham. Sut bynnag, yr wyf yn argyhoeddedig y dylem ganu ychwaneg o Air Duw, a Ilai o weithiau dynion.—Hyn yn yr ysbryd goreu, yr eiddoch, etc., JONATHAN HUGHES, Bootle. "Mae o wedi dwad iti." Y Parch. W. J. Nicholson, Porthmadog, a'r Parch. Fred Jones, B.A.,B.D., Rhymni, gadwai gyfarfod pregethu eglwys Grove Street ac Ysgol Heathfield Road nos Sadwrn a'r Sul diweddaf ac afraid dweyd dim am yr oedfaon na'u bod yn gyfuwch a safon uchaf pulpud Cymreig y dydd, o ran dysg a dawn. A nos Lun ddiweddaf, darlithiai Mr. Nichol- son ar Dro mewn Gwlad Newydd, Mr. R. R. Thomas yn y gadair, a'r Parchn. O. L. Roberts a R. R. Hughes, B.A. (Chatham Street) yn diolch amdani ar y diwedd. Awr a hanner o ddarlith ddiddorol bob sillaf, ac yn cael ei thraethu'n rhugl ddiball mewn iaith gartrefol a diorchest. Cafwyd portread o'i daith yno ar y Baltic o helynt ac arholiadau'r glanio o groeso a gwen hen gyfeillion a cheramt ar y lan ac o ogoniant—a dwndwr !—dinas New York yna o'r ami dy ac oedfa a chyn- hadledd y buwyd ynddynt, ac o'r ambell gyfarfyddiad dwys-a digrif !—a Chymry'r Gorllewin ac yn cloi'n obeithiol a theim- ladwy gyda'r hen anffyddiwr yn New York a feiriolwyd hyd ddagrau wrth wrando'r dar- lithydd yn darllen y bregeth honno o'r papur newydd. Brithid y ddarlith ag ambell stori bert a disgrifiad ffraeth, nes gyrru gwen dros y dyrfa, yn enwedig y disgrifiad o'r sych- hurtyn byr ei air hwnnw rygnai ddwedyd Ma nhw wedi mynd yn yr orsaf a Mae o wedi dwad yn y ty. Ac wrth glywed W.J.N. yn parablu mor hyawdl, ei weld yn symud mor sionc, ac yn edrych mor dda a llygadlon, teimlem ninnau'n barod i ddweyd wrth Gymru arei ddychweliad adref, "Y mae o wedi dwad iti, a diolch nad ydio ddim wedi mynd." Ein Plif Scrafellwr. Cafodd Cymdeithas Lenyddol Chatham Street bapur blasus ar Dwm o'r Nant gan Mr. R. E. Jones (Beaumont Street) nos Fer- cher ddiweddaf, ac fe olchodd gryn lawer ar yr hen sgrafellwr cignoeth hwnnw, nes ei wneud yn llawer gwynnach nag ydoedd yn ein meddyliau Ymneilltuol a rhy ragfarnllyd ni. Danghosodd mai Twm heuodd hadau Dad- gysylltiad oreu o neb, trwy ddinoethi a sgrafellu'r personiaid barus-am-ddegwm ond nid mor farus am achub neb. Neges fawr Twm oedd carthu'r stabl, ac ni fu gwell scavenger yn y wlad. Ac y mae i'r carthwr ei le, yn y byd hwn, lawn cymaint ag i'r coswr. A chan mwyaf, y carthwr sy onesta'n fynych. Cadair Cilgwri. Y mae'r hen air Cymraeg Cilgwri am Wirral wedi eael atgyfodiad cryf iawn yn ddiweddar, sef gan Gymry Wallasey; a dyma Gymry Birkenhaed, sy'n hwylio'u Heisteddfod atDdydd Llun y Pasc nesaf,wedi penderfynu galw cadair y bardd buddugol yn Gadair Cilgwri. Fe'i gwelais ar ganol ei gwneud yn nhy Mr. David Roberts, 35 Mid- land Street, ddyddfSadwrn diweddaf, a hi fydd yn un hardd a durol iawn, goeliaf fl. Ces gip ar y rhaglen hefyd, ac y mae ynddi ddeunydd ciprys da. Da gennyf glywed fod y cystadleuwyr yn dechreu'i snwyro o bell, ac y ceir corau ac unawdwyr i ymladd yn dynn am glod a gwobr y diwrnod hwnnw. Gwelaf fod Dafydd ab Gwilym, chwe chan mlynedd yn ol, yn crybwyll Cilgwri, ac yn teuru fod mwyeilch (adar duon pigfelyn) Wirral yn dduach eu sglein nag adar duon unman arall. Tybed ? J ■■ I ~:• 11 ?, Dau Gyngerdd I Wrthych chwi, bobl Birkenhead, a'r cyffiniau, yr wyf yn siarad, sef i'ch hatgoffa fod yna ddwy wledd yn eich aros heno (nos lau). Y gyntaf yn Neuadd y Y.M.C.A., lie y mae Madame Gladys Williams a'i macwyaid yn mynd i ddangos eu doniau adrodd a chanu, yn cael eu cyfnerthu, tae eisieu'r fath beth, a doniau hysbys led y wlad o Gymru. Yr ail, yng ',W,ghapel Wesleaid Claughton Road, lie y mae doniau pell a dieithr—rhai yn ddwys a'r Ileill yn ddigrif-i arlwyo'n felys. Dyna fi wedi rhoi'r ddwy wledd ger eich bron cymrwch chwi'ch dewis o'r ddwy, a'm gair innau am eu gwerth a'u blaF3 'ÑI'C'i'I"ii\¡  A!Daut'Oo  I Ac y mae gen i ddau ginio i'w cynnyg i chwi hefyd, a'r ddau yr un noson, sef nos Sadwrn nesaf, un yng Ngwesty'r Adelphi, gyda'r Gymdeithas Genedlaethol; a'r llall, yn Lis- card, gyda Chymry cynnes Cilgwri. I gofio Dewi Sant y mae'r ddau ac i'r cyntaf, dis- gwylir y glewion a ganlyn Arglwydd Howard de Walden, yswain Hengar Castell y Waen, a noddydd hael y ddrama Gymreig y Proff. John Morris Jones, M.A., Bangor-i roi bias Cymraeg ar y einio y Gwir Anrhyd. J. Herbert Lewis, A.S. ac Arglwydd Faer Lerpwl. Ac i'r llall dros y dwr, daw Syr Edward Anwyl, y Parch. John Williams (Bryn siencyn), a'r Parch. D. D. Williams, Man- ceinion. Chwi welwch y manylion ymysg yr hysbysiadau a chymrwch eich dewis o'r ddau ginio. Hawen a Rolant Williams Y Parch. D. Adams, B.A. (Hawen) oedd gwr gwadd Cymry Cilgwri i'w cyfarch nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, sef ar Dr. Rowland Williams fel Cenedlaetholydd Cym- reig. Cododd y Dr. yn uchel iawn fel gwlad- garwr, a hynny pan olygai bod yn Gymro fod yn destyn gwawd Philistiaid rhagfarnllyd. Yr oedd o'n ddyn mawr ei ddysg ac uchel ei safie ond er ei uched, a gefnogai ddysgu Cymraeg i blant y Cymry, ac fod y plant fedrai ddwy laith ar y blaen o ran awch meddwl, i'r plant a fedrai ddim ond un. Darllenodd hefyd beth o farddoniaeth y Dr., yn cynnwys ei Huts Puw. Mr. Owen Evans, Sefton Park, oedd yn y gadair, a Mr. Saunders Lewis a'r Parch. T. Price Davies ddiolchodd am y ddarlith dda. I Pawb a'i Gwpan. i I Pawb a'¡ Gwpan. Fydd nemor eglwys, gyda hyn, yn dal at yr hen ffasiwn. o gymuno a dwy gwpan, a dyma Eglwys Gymraeg West Kirby wedi cael pawb ei gwpan (individual communion cups), a hynny drwy waith chwaer haelionus yn hel yr arian digonol ymysg aelodau'r eglwys. Bendith arm hi a'i hymdrech. I Y Bardd ei Bel. Ymddengys mai Cymro-sef Mr. Isaac Roberts (Ap Carrog)-yw'r pen campwr ar chwarae biliard yn Lerpwl ac mai y fo a'i gynorthwywyr, aelodau o Glwb Junior Reform Lerpwl, a drechodd barti cyffelyb ym Manchester y dydd o'r blaen- Y mae'r bardd yn aelod o Eglwys M.C. Webster Road yn fedrus o selog tuhwnt ar ddysgu egin y Gobeithlu a'r Ysgol Sul a'i ol yn drwm ar amryw o enillwyr y gwobrwyon yng nghyfar- fodydd cystadleuol unedig Chatham Street nos Wener a nos Sadwrn ddiweddaf. I Diddanwch Merched Lleyn. I Gan Mrs. Ellen Evans, 6 Primrose Street, y cefais hwn, y cenid cymaint arno gan ferched Lleyn hanner cant o thrigaiia mlynedd yn ol,—sef yr adeg pan mai llongwr oedd cariad y rhan fwyaf ohonynt :— Mae gennyf Genin Bedr, A blewyn o fy ngwallt, I'w anfon at fy nghariad Dros y moroedd haHt Bydd ef yn codi'n donnau, Ac ambell bwff o wynt, A llawer bachgen ifanc Yn meddwl am ei ffrind. A chan ei bod hi'n Wyl Ddewi, sylwodd Mrs. Evans mai Cenin Pedr (Daffodil) oedd yn iawn i gofio'r Sant, ac mai blasu potes oedd gorchwyl goreu'r llall. Pigion Pregeth. I I Hwdiwch hwn, os mynnwch, Miss Lleifiad, allan o bregeth y Parch. W. M. Jones yn Nouglas Road bore dydd Sul diweddaf.—Yr eiddoch, Dariel T. Jones, 7 Edith Road Dyma y peth dyfnaf a feddwch—eisieu Duw. Ac y mae yr eisieu yma yn codi nid o'ch pechod nid oherwydd eich bod yn greaduriaid mor fychan, mor dlawd, y mae arnoch eisieu Duw. 0 nage, yr oedd ar ddyn eisieu Duw cyn pechu. Ac fe fydd arno eisieu Duw wedi iddo beidio a phechu. Nid pechod roes fod i'ch angen chwi a minnau am Dduw." Syr Mewn PuIpud- I Gwelwn oddiwrth yr hysbysiad mai Syr I Edward Anwyl fydd ym mhulpud Martin's Lane fore a hwyr y Sul nesaf. Ac y mae pregethu, a bod yn athro Ysgol Sul, yn waith cynefin iawn iddo ef, ac yn haws ei gael i wneud y ddau beth na llawer o'r rhai sy gymaint islaw iddo mewn dawn a dysg. Drwg clywed fod y Parch. T. Price Davies, gweinidog gweithgar yr Eglwys, wedi cael gorchymyn y meddyg i ymatal a mynd i ffwrdd am ei iechyd a nos Sul ddiweddaf, danghosodd yr eglwys ei chydymdeimlad drwy ganiatau'r gollyngdod angenrheidiol iddo, ac estyn cheque sylweddol iddo. Gobeithio y daw'n ol yn ebrwydd, wedi Ilwyr wella, modd y gallo orffen ei gofiant i'r di- weddar Broff. J. M. Davies, Bala-Bangor. Era Deng Mlynedd ar Hugain- Y mae Cor y Cymric yn ddeg ar hugain oed ac nid yn unig wedi dal wrth ei gilydd rywsut rywsut, ond wedi gloewi ae ymnerthu, a chyflawni ami i gymwynas dlos i achosion da a rheidus flwyddyn ar ol blwyddyn. Melys yw ei harlwy gogyfer a'r cyngerdd blynyddol yn y Sun Hall wythnos i nos Sadwrn nesaf, a datgeiniaid enwog i'w cynorthwyo, fel y dengys yr hysbysiad. DAU TUR AFON. I Gwelwn oddiwrth yr hysbysiad fod y Parch. I J. Williams, Brynsiencyn, i ddarlithio'i ddarlith fawr ar John Elias yng nghapel David Street nos Lun pesaf. A diau y bydd yiio dyrfa fawr. EDGE LANE (M.C.)-Darlith.-Nos Fer- cher, y 18fed cyfisol, gwrandawsom un o'r darlithiau goreu wrandawsom erioed, sef gan y Parch. W. F. Phillips, B.A.,B.D.,B.Litt., Dinbych y Pysgod, ar Tom Ellis. Testyn rhagorol, a gwnaeth y darlithydd y defnydd goreu'n bosibl ohono. Edrychodd arno mewn tair gwedd,—fel gwr Duw, fel gwr cenedl, a gwr y bobl. Yr oedd y pethau a ddywedodd i egluro'r penawdau uchod y fath a wnelai les i ben a chalon holl ieuenctyd y genedl eu clywed a'u hefelychu. Yr oedd y cwbl mor ddifyr ac adeiladol, a gwir swynol, nes oedd pawb yn synnu sut yr aeth awr a hanner heibio mor gyfiym. Y cadeirydd oedd Robert Griffith, Ysw., Bootle, a gwnaeth ei waith yn rhagorol. Yr oedd ei anerchiad ar gychwyn y cyfarfod yn gyweirnod hyfryd iddo, a llawer o eneiniad ar ei anerchiad terfynol. Diolchwyd yn gynnes i'r ddau ar gynhygiad y gweinidog (y Parch. D. Jones) a Mr. Griffith Davies. Da gennym glywed fod nifer o ieuenctid Cymreig Bootle,perthynol i Gyfrinfa Temlwyr Da'r Cambrian, yn bwriadu perfformio'r ddrama Serch Hudol oddeutu diwedd y mis nesaf. Llwydd iddynt. KENSINGTON.-Anrhegwyd Eglwys Anni- bynnol Kensington a Llestri Cymun-Cwpan- au Unigol-gwerthfawr; ond ni fynnai y rhoddwr hael gyhoeddi pwy ydoedd—dim ond Ffrynd." Nis gallasai neb ond un yn Ilond yr enw yna gyflawni'r weithred bryd- ferth. CYFARFOD CYSTADLEUOL.—Ynglyn a Chymdeithas y Bobl Ieuainc, yn yr un capel, cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol. Darpar- wyd y rhaglen gan Miss Kate Parry,a rhagorol y gwnaeth. Enillwyd ar gyfieithu ar y pryd, o'r Saesneg i'r Gymraeg, gan Miss Lizzie J. Jones, Molyneux Road, ac Alaw Cadfan ac am ddisgrifio cynnwys pwdin hen lane gan Mr. John Roberts, Esher Road. Bu yno gystadlu ar geisio chwythu cannwyll allan- tipyn o ddifyrrwch i'r rhai ieuainc. Beth bynnag, ni lwyddodd neb o'r ymgeiswyr. Dyma gyfarfod, am unwaith beth bynnag, heb ormod o wynt ynddo Noson ddifyr ac adeiladol hefyd. RAMILIES ROAD.—Testyn darlith y Parch. G. Wynne Griffith, B.A.,B.D., ynglyn a'r Gymdeithas Lenyddol yma nos Fawrth ddi- weddaf oedd Pennod yn hanes y Testament Newydd. Er fod yr hin yn oer a gwlyb, yr oedd goleuni a gwres yn y ddarlith, nes peri fod y Testament Newydd a'i gynnwys yn fwy o ryfeddod, ac yn uwch ei werth yng ngolwg y gwrandawyr nag erioed. Diolch- odd Mr. D. Griffiths, LI. Jenkins ac O.Hughes (Up. Parliament Street) yn gynnes i'r dar- lithydd am ei bennod werthfawr iawn.—J.J. CYFARFOD CYSTADLEUOL UNEDIG.-Cyn- haliwyd cyfarfod cystadleuol unedig Ysgolion Sul Chatham Street, Crosshall Street, David Street, Milner Road, St. Michael's, Princes Road, Tiber Street, Up. Warwick Street, Webster Road a Ramilies Road, yng nghapel Chatham Street nos Wener a nos Sadwrn ddi- weddaf. Dyma'r ail o'i fath, a bu'n llwydd- iant campus-o ran diddordeb a rhif a safon y cystadleuwyr, ymhob adran agos. Gweith- iodd y pwyllgor yn galed, a gwelsant ffrwyth godidog ar eu gwaith yn ymdrechion yr egin i ddod o'r ddaear. Arweinid nos Wener gan Mr. R. Vaughan Jones, a nos Sadwrn gan Mr. R. O. Williams, a Mr. Jas. Venmore, Y.H., yn y gadair. Mr. Emlyn Davies, y Rhos, feirniadai'r eanu a'r rhain y gweddill:— Mr. J. H. Jones, y Parch. J. Williams, Brynsiencyn y Parch. Simon G. Evans, B.A., Mr. R. E. Edwards, Mri. L. Wyn Williams, Gwilym E. Mills, Harold Hughes, Misses Winifred Evans, Miss Davies (Llain Delyn), Miss Mary B. Roberts, Miss M. Rees, y Parchn. O. J. Owen,M.A., G. Wynne Griffith, B.A.,B.D., J. Williams (Huyton), D. Jones (Belmont), a Miss A. Humphreys. Cadeirydd y pwyllgor oedd Mr. R. D. Glyn Roberts trys., Mr. H. D. Lloyd Thomas a'r ysgrif- enyddion, Miss C. E. Pugh, a Miss Jennie Edwards, B.A., a wnaethant eu gwaith gyda deheurwydd a threfn nodedig. Miss Nellie Lewis, A.R.C.M., a Miss Nannie Hughes gyf- eiliai, ac wele'r enillwyr :-Ysgrifennu Cym- raeg-Dan 16: 1, J. Claud Lewis, Chatham Street 2, Emrys Roberts, Webster Road. Dan 13: 1, Grace B. Jones, Princes Road 2, Emrys Roberts, Web.Rd. Dan 10 1, Leslie Jones, Pr.Rd. 2, D. G. Roberts. Arholiad Maes Llafur Dros 25: J. R. Morris,Pr.Rd. 21-25: 1, Miss M. Hudson Owen, Ram.Rd. 2, Miss Davies, Chatham. 16-21: 1, Gwladys Jones, Ram.Rd.; 2, Ella Evans, Pr. Rd. Safon 9 1, Rowland Jones, Ram. Rd.; 2, Eirys LI. Phillips, Pr. Rd. Safon 8: 1, Emlyn Hughes, Ram. Rd. 2, Glyn Jones, eto. Safon 7: 1, Gwladys Jones, Pr. Rd.; 2, Cassie Williams, Ram. Rd. Safon 6: 1, Grace B. Jones, Pr. Rd.; 2, Buddug Lewis, Chatham, a Harold Hughes, Ram. Rd. Safon 5 1, Cecil Owen, Pr. Rd.; 2, Leslie Alun Jones, Pr. Rd., a Sallie Davies, Crosshall Street. Safon 4 1, Dorothy Evans, Warwick Street 2, M. Lloyd Jones, Pr. Rd., 2 Lilian Witham, War. St. Dadl Hen Lanciau, Ramilies Road. AMRYWIAETH -Photos, Landscapes and Seascapes John Llew. Jenkins, Web.Rd. Snapshots (i rai dan 16): J. Claud Lewis, Chatham. Brushwork 1, H. 0. Cyffin, David Street 2, Emlyn Davies, eto. Pencil Sketch 1, Llewellyn Jones, Chatham 2, Hywel Jones, Pr. Rd. .Woodwork 1, Glyn Jones, Ra. Rd.; 2, talbert Griffiths, eto. Blouse Miss Davies, Chatham. Tray Cloth Mrs. Griffiths, Web. Road. D'Oyleys: A. Hudson Owen, Ram. Rd. Hair Tidies Dilys Evans, Web. Rd. Adolygiad ar 1913: Miss E. A. Williams, Web. Rd. Cookery-Scone,8 Gwenfron." Treacle Togee Miss Gwladys Roberts, Ram. Rd. Unawd ar y crwth Wm. Roberts, Web. Rd. Canu Penhillion dros 16: Lily Davies Owen, Ram. Rd. Eto, dan 16: 1, Emlyn Hughes, Ram. Rd.; 2, Nellie Davies, eto. Cyfansoddi Ton John Davies, Ram. Road. Tonic Solla Test, 12-16: Gwilym Williams, Web. Rd. Hen Nodiant eto Blodwen Jones, Ram. Rd. Tonic Solfa, dan 12: Buddug Lewis, Chatham. Hen Nodianteto Gwladys Hughes, Ram.Rd. Adroddiadau Dros 16, Y Gof J. R. Morris, Pr. Rd. Dan 16, Y Melinydd a'r Llyn 1, Gwilym Williams, Web. Rd.; 2, Lizzie Roberts, David St.; 3, Annie Ro- berts, Web. Rd. Dan 10, "Y Morgrugyn a Sioncyn y Gwair 1, Eluned Roberts, David St.; 2, Doris Jenkins, Web. Rd. 3, Winifred Williams, Ram. Rd.; 4, Nesta Roberts, David Street. Traethawd, "Lie y ddrama ym mywyd cenedl 1, Miss Gwlad- ys Pugh, Webster Rd.; 2, J. R. Morris, Pr. Rd. Arholiadau Llenyddol :-Rhys Lewis Mr. J. Llewellyn Jones, pr. Rd. Ceiriog Miss E. Gwladys Owen, Pr. Rd. Dyddiau Ysgol (dan 15): 1, Eirys Lloyd Phillips, pr. Rd.; 2, Gwilym O. Williams, Web. Rd. Dyddiau Ysgol (dan 14): 1, Ella Williams, Ram.. Rd.; 2, Hywel Jones, Pr.Rd.; 3. Eilian Roberts, eto. Cyfieithu :-Oratory Miss Gwladys Pugh, Web. Rd. Rhydd- Oyfieithiad: Edward Mostyn, Chatham. Cerddoriaeth Cor Plant 1, Princes Road 2, David Street. Parti Cymysg Ramilies Road. Action Sonq Webster Road. Unawtl Soprano Miss Phyllis Davies, Web. Road. Unawd Tenor J. R. Morris, Pr. Rd. Unawd Baritone a'r Her-Unawd John Davies, Web. Rd. Deuawd i Blant (dan 16): 1, May Hughes (Ram. Rd.) a Dilys Williams (Web. Rd.) 2, Nellie Davies a Glyn Jones, Ram. Rd. Unawd i blant, 12-16: 1, Emlyn Hughes, Ram. Rd.; 2, Nellie Davies, eto.; 3, Nancy Davies, Chatham. Unawd i blant dan 12: 1, Dilys Williams, Web. Rd.; 2, Doris Jenkins, eto; 3, Glyn Jones, Ram. Rd. Unawd ar y berdoneg 1, Margt. Will- iams, David Street; 2, E. Meirion Davies, Princes Road. IGoreu Cymro, Cymro Oddicartref ASHTON -UNDIER -LYNE.-Y mae yma gapel Cymraeg gan y Methodistiaid Calfinaidd, a chroeso i unrhyw Gymro neu Gymraes a ddaw i'r gymdogaeth ddod iddo. Dydd Sadwrn di- weddaf, cafwyd priodas yma, dyma'r ail eleni, a'r cwbl yn aelodau ffyddlawn o'r eglwys. Priodwyd Mr. John Williams, brod- or o Faesglas, Treflynnon, a Miss Maggie Humphreys, o Dregeiriog. Daeth 27 o wa- hoddedigion i'r wledd briodas. Wedi i bawb gael eu digoni, aed i anrhegu Mr. a Mrs. John Williams a phar o ddarluniau heirdd cyf- lwynwyd gan Mr. J. H. Bellis, dros y cyfeill- ion. Wedyn cafwyd amryw ganeuon ao adroddiadau. Yn y gadair, Mr. D. H. Davies;, canodd Mr. J. O. Thomas yn swynol dros be-i Miss Ch. Jones yn ei goreu Mr. S. Dynkins yn smala iawn cafwyd adroddiad pwrpasol iawn hefyd gan Miss C. E. Jones can gan Mr. Cookson. Wedi diolch i'r cadeir. ydd, terfynwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau.-RHOSYNYDD, Stalybridge. Cofia, Maggi, cei fwy o ganu—yn awr Gyda'r nos a'r teulu Ar aelwyd lân, tra'r gan gu, Oludog, yn ymledu. Tithau, John, wyt weithian—reolwr Yr aelwyd fach burlan I Caru bo'ch gerub bychan, Naid i'th gol wrth nodau'th gan.
Family Notices
PRIODI. ROWLA-NDs-EVANs-Chwefol 12fed, yn add- odly Albion Park, Caerlleon, gan y Parch. H. Ivor Jones, Wm. Rowlands, 8 Vale Street, Dinbych, a Claudia, merch ieuengaf I Mrs. Evans, Vale Street, o'r un dref.
Advertising
A BUNGALOW FOR SALE at More- J. A ton, containing 2 bedrooms, living room, and coal house, size, 20 feet by 20 feet. Apply 91 Park Rd. E., Birkenhead. WANTED WIDOW, Protestant, offers very com- V V fortable home for Lady in Business bath no children moderate terms.— E, 6, BRYTHON Office. HOUSEKEEPER for & Gentleman or  Companion Help for a lady; 40 thoroughly domesticated goo? cooking and comfort guaranteed where maid kept; highest references JE26 to 130. Apply Box 31X BRYTHON Office, Liverpool. Furniture. Furniture. Furniture. DO YOU WISH TO BUY RELIABLE MADE GOODS AND SAVE AT LEAST 7/6 IN THE £ ? Call direct to Charles Bros. Wholesale Cabinet- makers and Upholsterers where you will get aB goods at FIRST COST, and you will wive middleman's profit. A call to our Showroom* and Works will conriBM you. r. Hours: 9 to 8. Saturdays 9 till 1 GOODS MADE TO YOUR OWN DESIGN. SATISFACTION GUARANTEED. Charles Bros., 22 School-Lane (BACK OF CHURCH STREET), LIVERPOOL N.B.—We have a large Stock of BEDROOM SUITES iand SIDEBOARDS, and will sell suae much below the usual prices. Goods stored free- CHARLES BROS. Rhifyn y Gaeaf. Y BEIRNIAD CYLOHGRAWN CHWABTEBOL dan nawdd Cymdeithasau Cymreig y Cologet-a Cenedlaethol g a than olygiaeth J. MORRIS JONES s ATHRONIAETH HENRI BERGSON 'k:}. Yr Athro D. Miall Edwards RHYS GOCH AP RHICCERT Ifor Williams Y GYMRAEG A CHENEDLAETHOLDEB H. Parry Jones ENWADAETH Y Parch. John Williams GWYDION A HUAN Y GMygydd CREFYDDWYR IEUAINC Y DYDD Y Parch. E. Tegla Davies DIARHEBION SION TUDUR TRAFOD PYNCIAU CREFYDDOL D. J. Jones GALARGAN AM YR ARGLWYDDES RHYS GwiJi HAWL AC ATEB NODIADAU Y Golygydd ADOLYGIADAU gan yr Athrawon D. Will- iams, Syr E. Anwyl, y Parch. H. Harris Hughes, a'r Golygydd. F: ) Lerpwl Hugh Evans a'i Fabion, Argraflwyr, 13 366,"858 Stanley Road. Y LLADMERYDD amjl94 Cylchgrawn Misol yr Ysgol Sabbothol. Dan olygiaeth y Parchn. Evan Davles.Trefrlw T. E. Davies, Abertawe; Proffessor D. Jenkins, Mui. Bac„ Aberystwyth; Pris Dwy Geiniog y Mis, Cynhwysa y Rhifynau o'r Lladmerydd" am y Flwyddyn 194. Erthyglau ar bethau Beiblaidd Gen y personau canlynol Parchn. J. Morgan Jones, caerdydd; John Owen. Anfield, Liverpool; J. B. Davies; M.A., Llanelli; D. Hoskids, M.A., Caemarfon; W. Brans, M.A., Pembroke Dock; J Puleston Jones. M. A^, Pwllhe'i-j W. B. Prytherch. Abertawe; J. Pritchard; M.A., B.D., Llanberis; R. J. Bees, M.A.. Aberystwyth; Proff. R. Mo iris, MA., B. D. Griffith Hughes, B.A. Bethesda, J' Talog Davies, Liverpool; Dr. R. Poberb; Rhuallt; b. L. Rees, B.A., B. D., Aberaeron; *M. H. Jones, B. A., Ton Peter H ughes Griffiths, XJundaw; Mr. John Rowlands, M. V.O. Caerdydd. ac eraill. Pregethau Esboniadol ar yr Epistol at yr Hebreaid* Gan y Parch. D. Charles Davies, M.A. Ymson ac Ymgom: Gan y Parch. Peter Hughes Gnflldu Uundain. Bin Pobl Ieuainc: Gan y Parch. W. E Prytherch, Abon tawe, Nodiadau Aanrywiol: Gan y Parch. Evan DaviN. Tref- riw Hefyd, rhoddir lie arbenig i'r Nodiadau ar Fut Llafur Undeb Ysgolion Uabbothol y Methodistiaid QaI- Snaidd. sef y rhan olaf o Esboniad ar Yr Epistol at yr Hebreaid, Gan y Parch. T. B. Davies. Daraau Barddonol, &c. Tonau Newydiion, Ac -1 ymofyrur ar Ovhotd4w-B. W, JVMM