Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DRINK DWYRYO ,XiE0B2BS TEA. 0 The Tea of Old Time flavour,
Advertising
USE MEEflflM | :1 SELF-RAISING FLOilK The ideal Flour for every kind of fancy Bread and Pastry Scones, &c., &c.
Advertising
Beaty Bros Ltd. THE < CELEBRATED TAILORS THE PREMIER LIVERPOOL FIRM FOR — Good Class Tailoring, AT REASONABLE PRICES. ONLY ADDRESSES: I London Rd. and Church St., CloSed LIVERPOOL. all day Saturday.. I Closed on Wednesdays at 1 p.m. Open all day Saturdays. A yw'ch Llyøaid yoeich bl1007 Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig? Dyna arwydd a rhybudd Uethdod y Uygad, a dylech gael eu hediych rhag blaen; eu gwaethygu wna'u hesgeuluso. Gallwn ni gyda'n holier gwyddonol ddweyd wrthych os oes arnoch aneen gwydrau ac os feHya eich cyfienwi a"r rhai a barai fwyaf o les i chwi. Galwch heddyw: "RCHER SONS, Eyesight Specialists, 73 LOR.D STREET, I Sefvdlwvd 1848. LIVERPOOL 'Phone-392S Bank. w. wm & sod, TAILORS, 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL ALSO AT 349 STANLEY ROAD,IBOOTLE. Real Welsh Homespuns for Golfing and Fishing, 'Phone—580 Bootle Mr. H. W. HELY. DANNEDD GOSOD Tynnn'ch Dant, heb yr iâsleia o boen efo ffordd Lloegr a'r Amerig. PRISIAU CYMEDROL Y oyngor a'r telerau yn rhad ac am ddim Foneddigesau I weini Telir cludiad cwsmeriaid o'r wlad 13 Norton Street, Liverpool (oongl London Road). Orieu,-9 i 7. 5JSS 'Phone, 1436 Royal. NOW READY. 1HB NEW WALES: Some aspects Of NATIONAL IDEALISM with a FLEA for Welsh Home Rule. By GWILYM O. GRIFFITH. INTRODUCTION BY EDWARD T. JOHN, Esq., M.P. Price, 6d.; By Post, 7d. Published by HUGH EVANS 6 SONS, 356-8 Stanley Road, Liverpool i 1SK FOR IDRIS Table Waters In Syphona and Bottles. SODA WATER. POTASH WATER. SBLTXBR WATER. LEMONADS •IT GIINOIRR ALB. b., eto. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL ■ROBERTS$EDWARDS RSTATE' AGENTS, 64 Kirlidale Rd., Liverpool Telephone: 2188 Royal
m LAN Y TftFWYS
m LAN Y TftFWYS [GAN Y GWYLIWRI Westminster. No* Fawrth, 3 Hi. 1914. Am Waed y Weinyddiaeth I MAE'rdathliadau "cenedlaethol"-mwy lai ne if felly-yn cymeryd y lie mwyaf yn ein llith yr wythnos hon, ond y mae'r symudiadau gwleid yddol yn rhy bwysig i basio heibio iddynt yn ddisylw. Bore heddyw, cyhoeddwyd Declaration a ddengys mewn ffordd ddigel fod yr Wrthblaid yn benderfynol o ddinistrio'r Weinyddiaeth ar draul taflu'r wlad i gythrwfi a rhyfel. Yr amcan uniongyrchol ydyw ceisio cynhyrfu'r cynrychiolaethau i hawlio etholiad gyffredinol cyn pasio Mesurau Ymreolaeth a Dadgysylltiad fel ag i wneud y Parliament Act yn ddiles ac yn ddirym. Dengys yr enwau a geir wrth y Declaration fod rhwyd cynllwyn- wyr yr Wrthblaid yn oael ei thaflu ymhell. Saif yr arweinwyr gwleidyddol o'r naill du, a gwthir i'r ffrynt ddynion cyhoeddus fel Lord Roberts, Lord Milner, Lord Halifax (yr Uchel-Eglwyswr penboeth), Lord Balfour of Burleigh (Ysgotyn ystyfnig), Mr. Rudyard Kipling (y nofelydd), Syr Edward Elgar y cyfansoddwr, yr Archddiacon Cunningham yr hanesydd, a Dr. Warren o Rydychen, a phobl gyffelyb. Nid yw'r gtfyr pwysig hyn yn rhwymo eu hunain i unrhyw gwra penodol, ond yn gymaint a'u bod yn argyhoeddedig, meddent hwy, fod cais y Llywodraeth i gario Mesur Ymreolaeth yn ddeddf heb ei osod at farn yr etholaeth, yn groes i ysbryd y Cyfan- soddiad Gwladol,datganant yn y modd mwyaf difrifol, os pesir y Mesur, y byddant at eu rhyddid i gymeryd neu i gefnogi unrhyw gwrs all fod yn effeithiol i rwystro iddo gael ei roddi mewn gweithrediad, ac yn fwyaf arbennig i rwystro defnyddiad galluoedd arfog y Goron i amddifadu pobl Ulster o'u hawliau fel dinas- yddion o'r DeyrnaB Gyfunol. Ymddengys i ni fod hyn yn arwain yn syth i deyrn-fradwr- iaeth a gwrthryfel yn erbyn y Goron. Beth bynnag am hynny, mae'n sicr o brysuro'r di- wedd, gan nad beth fydd hwnnw. Y pryn- hawn heddyw, mewn atebiad i Mr. Bonar Law dywedodd Mr. Asquith, yn gymaint a bod trefniadau wedi eu gwneud (hefo swyddogion yr Wrthblaid) i eicrhau terfyniad y busnes ariannol cyn diwedd y mis hwn, y byddai iddo ef osod o fiaen Ty'r Cyffredin ei olygiadau ar gwestiwn Ulster wrth gynnyg ail ddarlleniad Mesur Ymreolaeth am y drydedd waith, ddydd Llun nesaf. Daw bwriadau'r Wein- yddiaeth y pryd hynny gerbron y wlad, a cheir gweled pa faint sydd rhyngom a Civil War. -< > I Dim byd neilltuol. I AT barnu oddiwrth y "dathliadau" yn Llundain, mae lie i ofni fod ysbrydiaeth Gwyl Ddewi yn darfod. Cafwyd amryw gynulliadau ar wahanol adegau o Gymry'r ddinas, ond nid oedd dim arbennig yn eu nod- weddu rhagor cynuiliadau arferol ein cyd- wladwyr. Nos Iau ddiweddaf, gwahoddodd yr Eglwyswyr ni i'r hyn a alwant hwy yn Wyl Genedlaethol Gymreig yn Eglwys Sant Paul, ond oddieithr eu bod yn canu Hen Wlad fy Nhadau a Duw gadwo'r Tywysog gyda chynhorthwy Band y Grenadiers, nid oedd gwahaniaeth o gwbl, mor bell ag yr oeddym ni yn deall, rhwng y gwas- anaeth hwnnw a threfn gwasanaeth yr Eglwys fel y mae i lawr yn y Llyfr Gweddi Cyffredin. Yr oeddynt wedi gwahodd un o'r Esgobion Cymreig yno i draddodi'r bregeth. Clod i ben a chalon Eqgob Llanelwy ydoedd iddo draddodi pregeth Gymraeg swynol a syml ar destyn hollol Efengylaidd. GaUasai droi pulpud Pawl yn blatflorm gwleidyddol, ond gwrthsafodd y demtasiwn—os temtiwyd ef o gwbl-a chynghorodd y genedl, yn gystal a ninnau fel unigolion, i fyw yn bur ac yn ddi- argyhoedd modd yr etifeddom fywyd tra- gwyddol. Buasai'r bregeth syml ac iachus yn gwneud y tro mewn unrhyw Ie ac ar unrhyw amgylchiad. Ymhen tridiau neu bedwar, dathlodd Anghydffurfwyr Cymreig y Brif- ddinas yr Wyl gyda'u gwasanaeth hwythau, yn cynnwys canu cynnulleidfaol o radd uchel, a dwy bregeth gan ddau wr poblogaidd, y Parch. H. Barrow Williams, Llandudno, a'r Parch. Herbert Morgan, yn awr o Fryste, dro yn ol gweinidog yr Eglwys Fedyddiedig yn Castle Street, Llundain. Yma drachefn, yr oedd y pregethu a'r gwasanaeth yn hollol gymeradwy, ond gwnaent y tro yr un mor gymwys ar Ddy' Gwyl Mihangel. -c: -ô- Cofio Dewi tan anghofio'i iaith. Cyffelyb oedd hi eto gyda'r gwleddoedd. Cynhaliwyd y Wledd Genedlaethol Gym- reig yng Ngwesty'r Cecil, o dan lywyddiaeth Mr. John T. Lewis, yn awr o Rydychen, ond gyda'r eithriad o ryw ebychiad damweiniol o Gymraeg gan ddau o'r siaradwyr, nid oedd ynddi ddim i'w gwahaniaethu oddiwrth ugein- iau o wleddoedd Seisnig gynhelir o dan yr un gronglwyd. Tastynau Cymreig, bid siwr oedd ar y rhaglen-nid Cymrac g, gyda Haw, oedd y gymysgfa ieithyddol geid ar y Fwyd- Restr ond yn iaith yr estron yr ymdrinid a hwynt. Cynhygiwyd liwncdestyn An- farwol Goffadwriaeth Dewi Sant mewn iaith nad adwaenai, a dywedwyd pethau da am Gymru yn y ffordd o gymeradwyaeth, ac o ddymuno ei llwyddiant yng ngeiriau y gwyr a'u goresgynodd. Soniodd Mr. Ellis Griffith yn ei ddull ysgafn ei hun am David y Psalm- ydd, David y Sant, a David y gwladweinydd, ac nid oeddym yn rhyw sicr pa un ai Dafydd Frenin, ynteu Dewi Sant, ynteu Mr. Uoyd George y gelwid arnom i'w anrhydeddu. Diau fod y tri yn haeddu pob canmoliaeth ond fel y digwyddai, tro'r Sant a ddylasai hi fod y tro hwnnw Lord Reading, mwy adna- byddus i'r lliaws fel Syr Rufus Isaacs, ydoedd arwr y cynhulliad. Yfwyd ei iechyd da" gyda brwdfrydedd arbennig, a danghosodd yntau yn ei atebiad i'r liwncdestyn ei fod yn gwir werthfawrogi teimladau ei gyfeillion Cymreig. Dywedodd lawer o bethau care dig amdanom. Ychydig a wyddai am Ddewi Sant,ychydig o ran hynny wyr neb ohonom, ond yn gymaint a bod Dafydd Frenin yn fardd ac yn ganwr, nid oedd yn anodd ganddo ddeall teimlad parchus y Cym- ro tuag ato. Cyfeiriodd yn gynnil at y cyffelybrwydd cydrhwng y Cymro a'r Iddew, ond ni thaflodd unrhyw oleuni pellach ar y traddodiad sy'n dweyd fod ydeg liwyth, pan ddiflanasant cGanean, w, di ymgartrefu yr. Sir Aberteifi. Dywedodd Syr David Brynmor Jones, mewn iaith ddillyn, bethau dymunol am Gymru ac am ei datblygiad a'i chynnydd, ond nid oedd y gwrandawiad a gafodd yn deilwng o'r testyn. Atebwyd iddo gan Mr. Llewelyn Williams, A S., mewn iaith soniarus, a gwnaethpwyd y defnydd arferol o deyrnged y bardd William Watson i'r genedl. Yfwyd iechyd da'r cadeirydd ar gynhygiad Mr. John Hinds, A.S. Peth mwyaf diddorol y cyfarfod ydoedd canu'r delyn gan Miss Dorothy Davies, a chaneuon Cymreig Miss Dilys Jones, Miss Annie Rees, a Mr. Walter Glvnne. Heblaw yr urddasolion a enwyd, yr oedd yn bresennol Syr Alfred a Lady Mond, Mrs. Ellis Griffith, Miss Olwen Lloyd George,Syr Vincent Evans, Dr. Lynn Thomas, Mr. Ivor 13owen, K.C., Mr. B. Morice, K.C., Mr. A. J. David, K.C., Mr. T. H. Idris, Dr. Thomas, Mr. Philip Williams, a rhyw dri chant yn ychwaneg. I Ers cant a banner I I Dechreuodd Cymry Llundain ddathlu Gwyl Ddewi ddau cant o flynyddoedd yn ol, tua 1713, os wyf yn cofio yn awr. Honna Cym- deithas yr Ancient Britons eu bod hwy yn cynnal eu 199ain cylchwyl neithiwr yn yr Holborn Restaurant. Y gwirionedd ydyw, er i Ginio Gwyl Ddewi gael ei gynnal yn 1715, ni anwyd y Gymdeithas dan sylw hyd ryw hanner can mlynedd yn ddiweddarach. Caniata hynny iddi oedran teg am gant a hanner o flynyddoedd y mae wedi cadw ei chylchwyl yn lied ddifwlch. Y rheswm pennaf am hynny, mae'n ddigon tebyg, ydyw ei bod yn perchen eiddo. Hi biau yr Ysgol Gymreig yn Ashford, ac y mae ganddi gryn lawer o waddol yn ychwanegol at y tanysgrif- iadau blynyddol a gyfrennir tuagati. Ysgol elusengar i blant Cymry tlodion y Brifddinas oedd yr Ysgol ar y dechreu, ond rhyw ddeng mlynedd ar hugain yn ol, drwy weithjed Seneddol, fe'i trowyd yn fath o Ysgol uch- raddol i ferched. Defnyddir y gwaddol i osod costau addysg ynddi. Derbynia nifer o ysgol heigesau yn rhad, ereiH am hanner-pris, a'r lleill am yr hyn a elwir yn bris cyflawn. Rhoddir gair da i'r sefydliad gan ymwelwyr ac arholwyT. Cadeirydd y cynhulliad neith- iwr ydoedd Syr Charles Philipps, o Gastell Pictwn, Aber dau gledda,u. L!ed ddiysbryd yw'r gweithrediadau fel rheol, ac yr ydym yn ddiau mai rhywbeth yn debyg of ddynt y tro hwn. Qresyn hynny hefyd. Tybed nad ydyw'r amser bellach wedi dod; i Gymry Llundain ymuno a'i gilydd i ddathlu Gwyl Ddewi mewn modd gwir genedlaethol ?j -0
O'R BALA.
O'R BALA. Jerusalem Cymru. GWYL Y Myfykwyk.—Nos Wener ddi. weddaf, yn ol yr arfer blynyddol, dathlodd y Myfyrwyr Wyl Ddewi drwy ddarpar mwyniant digyfryw i lu o'u gwahoddedigion. Yr oedd Neuadd y Dref yn "addurnol y wedd arni a chafwyd yrddi noson i'w chofio. Dechreuid am 5.30 p.m., gyda chyngerdd, a drodd allan yn llwyddiant mawr. Ynddo gwasanaethai Miss Jennie Williams a Mr. Howell Williams, y Bala, fel x adroddwyr Miss Meredith o Langoed, Mrs. -Tom Evans, Mri. R. Roberts a Hugh Davies, a Mr. W. J. Jones o'r Bala, fel cantorion Miss Myfanwy Morris a Thelynores Tegid gyda'r offerynau. Gwnaeth y cwbl eu rhan yn ganmoladwy iawn. Y Uywydd am y nos- on oedd Dr. Griffith, sydd erbyn hyn, chwedi yntau, yn stiwdent newydd sbon yn y Coleg a thraddododd araith wresog. Siaradwyd ychydig yn Saesneg gan Mr.Rat- cliffe, eyiarychiolydd o Goleg Aberystwyth, ac atebwyd ef dros y Bala gan Mr. Robert Roberts. Rhannai Mr. Roberts genadwri'r Bala i Aberystwyth dan idri phen, a theimlem mai gair buddiol ac amserol dros ben oedd yr ail ohonyrt, sef Cedwch eich iaith." Wedi'r cyngerdd, arlwywyd gwledd o ddanteithion blasus, ac wedi clirio rhan go dda o gynnwys y byrddau, setlodd pob un i lawr yn ol ei ffansi, i fwynhau'r ddrama, Myfanvuy (o waith Mr. R. Conwy Williams, Manceirion). Dyma'r cymeriadau :—Myf- anwy ??'? y 6'e?/?, Miss L. D. Williams William Cwm Eithin (mewn cariad a. hi), Mr. J. Wallace Thomas: Lias Haws (tad Myfan- it-y), Mr. Hywel Parry Edward Penmynydd, Mr. R. Lloyd Edwards Jac y Potsiar, Mr. R. R. Thomas Betsi (mam Nansi), Mrs. Lloyd Nansi (nioitoyn Ty'n y Celyn), Miss J. Evans Sion Ddima, Mr. J. M. Roberts iwm y Tylwyth Teg, Mr. Arthur Hughes. Yr arolygwr oedd Mr. Christmas Jones, i'r hwn, am ei lafur diflin a dirwgnach, y mae clod nid bychan yn ddyledus. Yr oedd y cliwarae yn ardderchog-pob chwaraewr yn feistr trwyadl ar ei waith. Ni buasem yn disgwyl amgenach agoriad nag a gaed gan Ned Penmynydd a Jac y Potsiar. Difyrrai'r ddau gymeriad hyn y dorf yn fawr bob tro yr ym- ddanghosent, yn enwedig pan hergytid Jac gloff mewn berfa gan Ned. Ni synnem fod Ned yn garwr mor drwstan, er taered y plediai Lias h tiws drosto. Rhwng William a Myfanwy elai popeth ymlaen yn naturiol a gwnaeth Nansi ei rhan yn wir dda, er gweld ohoni nad oedd modd rhedeg ei meistres, Ond y tri chymeriad a sigJai'r dyrfa oedd Betsi, Sion Ddima, a Tkwrn y Tylwyth Teg. Cynrychiolai Betsi ddosbarth lied adnabyddus yng Nghymru, ao ni ddanghNwyd y dosbarth hwnnw'n well ar Iwyfan erioed na chan y Betsi hon. Soniai am ei breuddwydion ofer- goelus gyda bias, gwelai ddehongliad ohonynt ymhob stori, a chyda llithrigrwydd ymadrodd didor siaradai yn hyawdl ryfeddol am helynt a dyfodol ei thylwyth lliosog bob tro y cawsai gyfie. Condemniai y relwe yn ddiarbed, ac arddanghosai y fath bryder pan ddywedai fod y dyn acw'n deud na fydd eisieu ceffylau gyda hyn," nes peri i'r dorf chwerthin yn hir. Yr cedd yr olwg ar Sion druan yn ei garpiau, hefo'i bastwn onnen a'i getyn clai, yn ddigon ynddo'i hun i dynnu'r lie i lawr. Ac wrth iddo adrodd ei hanes, ni wyddem yn iawn ai deigryn ai gwen a ddylai ennyn. Yr oedd 1 Wn yn wahanol. Ffwl oedd ef, ac nid oedd ball ar y chwerthin bob tro y deuai i'r golwg. Hwyrach mai dyma'r cymeriad anhawsaf yn y ddrama i'w actio'n dda ond ar y chwarae yn y Bala, y r. wn hwn oedd arwr y noson. Chwarddai pawb yn galonnog am ei ben drwy yr adeg, ond daliodd yntau ei ben hyd y diwedd yn wir, pan cedd Lias o ddifrif calon yn eymodi a William drwy rcddi Myfanwy iddo, gogleisiai Twm bawb gyda'i ystrywiau diniwed. Yr oedd yn gallu dotio at bopeth, a phan fyddai'r cymeriadau ereill fwyaf difrif- ol, medrai Twm ymfoddloni drwy synnu at ei siwt neu drwy son am y relwe, neu am lan y m6r. Mantais fawr drama fel hon ydyw nad oes eisieu ynddi ond naw ehwarai wr ac y mae Mr. Williams wedi lIwyTddo i ddwyn y naw i mewn yn gywrain. Nis gel lid hebgor yr un ohonynt. Hwyrach nad yw Rhan III I cystal a'r ddwy Ran arall ond er hynny, drama odidog ydyw, a gwersi da yn perthyn iddi. Gall yr awdur fod yn falch ohoni, ac nid oes gan Fyfyrwyr y Bala yr un rhithyn o I betruster yn ei chymeradwyo i gwmniau ereill yng Nghymru.