Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Gair o Brotest.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gair o Brotest. [GAN HESGIN.] I ÐDARFU i chwi sylwi fod llenyddiaeth Cymru wedi newid cryn dipyn yn ddiweddar ? Os naddo, cymherwch gynhyrchion barddonol a rhyddieithol y genedl heddyw a, chynhyrchion deng mlynedd yn ol, neu dywedwch bymtheg mlynedd yn ol. Mae'r testynau wedi newid, mae'r safbwynt wedi newid, ac—yn enwedig —mae'r arddull wedi newid. Nid wyf yn bwriadu dweyd dim am y testynau, na'r saf- bwynt, yn yr-ysgrif hon. Ond carwn ddweyd gair neu ddau am yr arddull. Wyddoch chwi hyd,rhyw dair neu bedair blynedd yn ol, wyddwn i ar y ddaear beth oedd arddull. 'Roeddwn i wedi ysgrifennu dwsinau o lithoedd i'r Bbython, ao i gy- hoeddiadau ereill heb drwblo 'mhen ynghylch y peth. 'Roeddwn i fel y Frenchman hwnnw, na wyddai fo ddim beth oedd prose, ac yntau wedi bod yn siarad pros ar hyd ei fywyd. Ond i bawb y digwydd damwain, debyg. Felly finnau. Daeth i'm llaw lyfr o waith Tolstoy- What is Art ? Mi darllenais o gydag awch. Mi 'roedd yr hen batriarch a finnau'n cytuno a'n gilydd i'r blewyn. Un o'r pethau ddywed Tolstoy yw hyn Fod unrhyw ddarlun sydd yn annealladwy i'r Russian Mujilc (y gwerinwr Rwsiaidd) yn profi fod yr arlunydd wedi methu yn ei am- can. 'Rwy'n credu fod Tolstoy yn llygad ei le. A pheth arall credaf y gellir cymhwyso yr un prawf at lenyddiaeth. Yn fy marn i, os nad allllenor ysgrifennu fel bo chwarelwyr Arfon a bugeiliaid Meirion yn ei ddeall, byddai yn well iddo roddi ei gardiau yn t6 ar unwaith, a pheidio a gwastraffu inc a phapyr byth rhagor. A ddeil cynnyrch llenorion mwyaf-bu agos i mi ddweyd adnabyddus-wel, mwyaf colegaidd Cymru heddyw y prawf ? Mae'n gwestiwn gen i. Ymddengys i mi fod rhyw ysfa ganol-oesol wedi cymryd gafael ym mechgyn y genedl—yn feirdd a llenorion yn enwedig ym mechgyn y Colegau." Ac fel mae gwaetha'r modd, mae ereill na chaw- sant wers mewn Cymraeg yn eu bywyd (ond yn yr Ysgol Sul) yn rhuthro strim-stram- strellach ar draws ei gilydd i geisio eu dyn- wared. Ac ymhell y bo cynnyrch y rhain, beth bynnag am y lleill. Y beirdd ieuainc sydd fwyaf yn y camwedd—yn enwedig beirdd y cynghaneddion. Gwneir esgusodion ar eu rhan trwy ddweyd fod gofynion y mesurau caothion yn dynn a dyrys. Mae peth gwir yn hynny, falle. Ond a gafodd y mesurau caeth eu gwneud yn gaethach yn ddiweddar. 'Chlywais i mo hynny, os do. Onid oeddynt cyn gaethed i feirdd y ganrif ddiweddaf ag ydynt i feirdd y ganrif hon ? A 'doedd yr hen feirdd ddim yn cael rhyw anhawster mawr i ddweyd eu meddyliau yn lied blaen mewn cynghanedd, a hynny, gan amlaf, mewn iaith y gallai y werin ei deall. BeibI i bawb o bobl y byd, meddai'r hen fardd o'r Pandy ger y Bala ac yn siwr i chwi, yr oedd pawb ym Mhenllyn yn gwybod beth oedd o yn ei feddwl. Gwaed y groes a gwyd y graith Na welir moni eilwaith, meddai un arall. Ac er fod y "wybodaeth ddiweddar" wedi gwneud hafog ar ddiwin- yddiaethycwpled feallai,y mae'r meddwl yn glir a'r geiriau'n ddigon plaen, 'does bosib'. Mae cryn dipyn o son am "bwnc y Tir ac am leddfu—os nad difodi-tlodi yn y wlad y dyddiau hyn. Ebe Dewi Wyn,— Amaethon boddlon yn bur,-a'i ddwylaw j Yn ddilesg mewn llafur j Gresyn fod gormod o'i gur Er dwyn saig i'r dyn segur. iL Eta- j Mae y gwr yn ymguraw, r A'i dylwyth yn wyth neu naw, &c. mi wyddoch y gweddill. Pwy o feirdd "heddyw" all ddarlunio mor fyw-ac mor glir a phaen-gyflwr yr amaethwr a'r llafur- wr a'r hen ffermwr o Leyn ? Dyna ddigon o ddyfyniadau barddonol. Beth am ryddiaith ? Mae lie i ofni fod y rhyddieithwyr hefyd wedi cael twtsh o'r un chwiw a'r beirdd, ac y mae angen pilsen neu ddwy arnynt hwythau. Mae O.M." yn actio'r doctor i rai ohonynt yn ei ddull add- fwyn ei hun yng Nghymru Chwefrol. Fy nghyngor i iddynt ydyw— Cymrwch y d6s hon, rhag digwydd i chwi a fo gwaeth." Achos cofiwch chwi, er mor felfedaidd a thringar yr ymwnel "0 M." a chwi y tro hwn, mae yna ddwrn o dan y faneg. 'Nawr, mewn difrif, pwy synnwyr sydd mewn llusgo geiriau o oes Dafydd ab Gwilym ac lolo Goch ac ereill, megis corgwn erbyn eu clustiau, i lenyddiaeth yr oes hon ? Pan fyddaf fi yn dod ar draws rhai o erthyglau yr ysgrifenwyr clasurol yma, fedra i yn fy myw beidio a chofio am sylw Thomas Bartley Dysgu ieithoedd pobol sydd wedi marw, a ddim yn dysgu ieithoedd pobol sydd yn fyw Nid yng Nghymru yn unig y mae'r angha- ffael hwn yn blino ysgrifenwyr. Mae'r un chwilen yng nghlustiau rhai o ysgrifenwyr y Saeson. Mae rhai o ysgrifenwyr goreu'r iaith honno yn dechreu protestio pawb yn ei ffordd ei hun. Ebe Mr. George Moore (English Review, Chwef. 1913) The source from which language is refreshed-rural English-is being destroyed by Council Schools and God help the writer who puts pen to paper in fifty years' time." A dyma Kipling yn dweyd yn blwmp ac yn bla.en:- "Mr. Dooley is one of the greatest modern writers of English." 'Sgwn i beth feddylia gwyr y graddau o Gaergrawnt a Rhydychen o grafted fel yna ?

MARl DDOE A MARY HEDDYW.

IFfetan y Gol.I

Advertising

Y Gwir Ddewi Sant. . I - I