Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

LANY TAF" YS

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LANY TAF" YS [GAN Y GWYLIWR] It, Westminster, I t-o. Nos Faiurth, 10 Hi. 1914. Chwe Blvnedd Ulster. I DIWRXOD pwysig yn hanes Ty'r Cyffredin, os nad yr hanes y Deyrnas, ydoedd dydd Llun diweddaf. Er dyddiau poethlyd Mesur Ym- reolaeth Mr. Gladstone, nid- wyf yn cofio r cymaint arddanghosiad o chwilfrydedd a nwyd ag a welwyd ag a deimlwyd ddoe yn Westminster. Llenwid y lobbies gan ugeiniau lawer o ddisgwyledigion am eistedclleoedd nad oedd y gobaith lleiaf y deuent yn weigion, am fod y Galleries yn orlawn er pan agorwyd y Ty i'r eyhosdd. Unwaith y cymerid meddiant o sedd, glynai'r eisteddwr ynddi fel gelain. Yn y fynedfa i'r Peers' Gallery gwelid Arglwyddi yn aros eu tro fel pe buasent yn rhan o'r queue a ddisgwyliant yn awyddus am fynediad i un o'r prif chwaraedai. Ychydig mewn cymhariaeth o le a neilltuir i ben- defigion yn y Ty sy'n cynrychioli'r werin ac yr oedd y seddau neilltuedig wedi eu llenwi'n gynnar. Yr un modd yn y Ladies' Gallery, ac ymhob eongl lle'r oedd yn bosibl gosod rhywun i eistedd. Ar achlysuron fel lryn, nid yw'r Ty ei hun yn agos ddigon o faint i gyn- nwys yr aelodau sydd gaddynt hawl i eistedd ynddo, ac wrth gwrs yr oedd pob lie wedi ei lenwi ddoe. Yr atyniad arbennig ydoedd datganiad y Prif Weinidog gyda golwg ar berthynas Ulster a Mesur Ymreolaeth, a'r modd y bwriadai'r Weinyddiaeth gyfarfod gwrthwynebiad gwyr Ulster a'u cefnogwyr i'r cyfryw Fesur. Nid oes neb fedr godi'n. uwch i gyfarfod *■* achlysur fel hwn na Mr. Asquith, ac yr oedd ei araith ddoe yn deilwng ohono ef ac o'r cyfrif- oldeb a orffwysai arno. Er mwyn ennill heddwch, eglurodd fod y Llywodraeth yn barod i roddi lie i Ulster ym mhenderfyniad ei thynged ei hun. Trwy bleidlais ei Siroedd gallai sefyll allan o'r Mesur sydd i uno'r gweddill y Werddon, a rhoddid iddi chwe blynedd i geisio gwneud ei meddwl i fyny i gydweithio mewn heddwch ac undeb a rhannau ereill y Werddon. Ysgydwai Mr. Bonar Law ei ben, a protestiai Syr Edward Carson na phlygai Ulster byth i un math ar orfodaeth. Derbyniai Mr. Redmond ar ran ei gydaelodau, y Ceredlaetholwyr Gwyddelig, nid yn awyddus, ond fel un a dderbyniai yr hyn a haeddai. Danghosodd Mr.Ramsay Macdonald deimlad dosbarth Llafur, a gweith- redoedd Mr. Healy yn ol ei arfer, trwy wneud ei waethaf i'r aclios y cymer arno'i bleidio. Terfynodd y siarad, ac yn awr rhaid i ni aros i weled beth ddaw o'r ystyriaeth a roddir i ynhygion y Prif Weinidog yn ystod y dydd- iau sydd rhyngom a'r ddadl gvfiredinol ar yr ail ddarlleriad. .¡> Dyna gurfa gawsant! Heno fe gawsom ddadl fywiog dros bm yn Nhy'r Cyffredin. Vote of censure ar Gang- hellor y Trysorlys y bwriedid iddi fod, yn ol y papurau Toriaidd yn y bore. Ond nid barn- ediga-,th eithr cyfiawnhad ydoedd ei diwedd Digwyddai fod y Weslead Ceidwadol, Syr John Randies, trwy ffawd y Balot, wedi cael cyfleustra i ddwyn cynhygiad gerbron. Defnyddiodd ei gyfle i daflu anair ar Mr. Lloyd George trwy ofyn i'r Ty basio penderfyniad yn ei gondemnio am anghywirdebau (inaccura- cies). Mae'n debyg pe gofynasid hyd yn oed i'r Canghellor ei hun, nas gaHesid meddwl am well cynllun i roddi iddo'r hawl i ateb en- syniadau (ffol ar y naill law, enllibus ar y Haw :arall) ei wrthwynebwyr. Cododd Syr John Randies a'i bleidiwr, Mr. Cassels, bob chwedl frwnt sydd wedi ei thaeru drwy'r Wasg ac ar yr esgynloriau Toriaidd yn ystod y blynydd- oedd diweddaf. Clywsom am y Gorringe Case, y Sutherland Case, y Cathcart Case, a'r St. Pancras Case, a'r gwahanol esiamplau a roddir o dro i dro gan y Canghellor i'r diben o egluro ei wleidiadaeth dirol. Ond nid oedd gan y naill na'r Hall nac ychwaith Mr. F. E. Smith,yr hwn a'u dilynodd,ddim goleuni newydd ar y mater. Nid felly'r Canghellor, yr oedd wedi sicrhau ei hun yn yr hen ffeithiau ac wedi ychwanegu rhai ereill diymwad atynt. Cafodd awr a chwarter ymron o amser i drir y pethau hyn, a rhoddodd y fath gurfa i'w wrthwynebwyr fel y buasai'r Ty yn gfllln cydymdaimlo a, hwynt onibae eu bod yr llwyr haeddu yr hyn a gawsent. Hwyrach na dderfydd y siarad etillibul ar hyd a lied y cynryehioiaethau, ond mae'n amheus gennyf a glywir ef byth ond hynry yn Nhy'r Cyffredin. -.0- -<>- I Cael ei big i fewn. I Prynhawn yfory, bydd disgwyliad am Fesur newydd Mr. Edward T. John ar Ym. reolaeth i Gymru. Yr wyf yn gorfod ysgrif- ennu cyn, gwybod ei gynnwys, ond dywedir ei fod yn tebygu'n fwy i'r Mesur Ysgotaidd nag i'r Mesur Gwyddelig ar Ymreolaeth. Hwyrach y cawn gyfle i ddweyd rhywbeth ymhellach yr wythnos nesaf. -0--

Dinbych. 0 I

Cymcmfa'r Wesleaid.i

I Goreu Cymro: y Cymro Oddicartref.

Advertising