Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Cymanfa Ganu y Bedyddwyr, YNG NGHAPEL Y BEDYDDWYR, Upper Medlock St., Hulme, Manchester, Dydd Sadwrn, Mawrth 14eg, am 0 yn yr hwyr, a'r Sul, Mawrth 15fed, am 6 o'r gloch. ARWEINYDD Mr. Edwin Evans, L. T.S C. Glan Conwy.
Ein Cilnedl ym Manceinio
Ein Cilnedl ym Manceinio Dyddiadur. MAWHTH 13 14,15—Cymanfa'r Methodistiaid 26—Seiat Undebol yn Ardwick 29-Cyngerdd yn y Milton Hall EBBILL 4—Oymsnfa y Gobeithluoedd £ ym Moss Side Cenhadon" y Sul Nesat. Y METHODISTMLD 'CALFINAIDD. (Moss Side, Pendleton, Heywood Streer Higher Ardwick) Parchn. William Jones, Treforls; Lodwig Lewis,Lerpwl R H Watkin, Dinorwlc; Lemuel Jones Goppa LEIGH—10-30, a 6, FAHNWORTH—2.30 a 6. EARI.ESTOWN—10.30 a 5.45, WARRINGTON—10.30 a 6, Robert Williams, Pendleton BLAOKBURN- EGLWYS UNDEBOL ELICLES-11 a 6.30, A Williams, g YR ANNIBYNWYR OHORLTON ROAD—10.30, M Llewelyn 6.15 J D Owen, BOOTH STREET—10.30, J D Owen 6-15, M Llewelyn LD DUNCAN ST., SALFORD-10-30 a 6-15, J Morrig QUEEN'S ROAD—10-30 a 6-15, R Eames HOMJNWOOD—10.30, a 6.15, W Wyn Hughss WBASTB—10.45 a 6, Thomas Hughes; Stockport Y WESLEAID DEWI SANT—10.30, G Tibbott 6 J Roger Jones HOREB—10.30, 6, J M Williams &ION—10.30, J M Williams 6, A Ll Hughes BEULAH-10.30, J Spencer Williams 6, GALFARIA—10.30, J Roger Jenes 6, J S Williams BOOMS—10.30, A Lloyd Hughes, 6.30, G Tibbott Y BEDYDDWYR U. MEDLOCK ST.—10.30, Cyf Gweddi 6, J H Hughes LONGSIOHT-IO.30, J H Hughes 6.30, Jl.O:W:'S LANE. SUTTON—10.30 a 5.30 COLOFN Y CYFRIN. øWYL DDEWI YN STOCKPORT.-— Mawrth 2, ymgasglodd oddeutu pedwar ugain o Gymry Stockport yng Ngwesty y Llew Gwyn i ddathlu Gwyl Ddewi. Gwnaed y irefrxiadau gan Mr. Ellis Ellis, Hollywood Park School. Y cadeirydd oedd Mr. E. M. Powell. Y gwr gwadd oedd y Canon W. G. Bdwards-Rees, M.A.,D.D. Ar ol y cinio blasus, aed drwy raglen ddiddorol, a gyn- hwysai amryw Iwncdestynau fel Y Brenin," gan y Cadeirydd. Dowi Sant gan Mr. F. E. Hamer. Ein Gwostwr," gan y Parch. J. Fleming Jones, B.A. "Ein Iaith, ein Gwlad ein Cenedl," gan y Parch. D. W. Roberts. Ein Hymwelwyr," gan Mr. Rich- ard Evans. Cymry Stockport," gan y Mri. J. Williams ac R. H. Rogers. Yr Ymwel- wyr" oedd yr Henadur Arthur Briggs a Mr. Chas. J. Nairne. Datganwyd gan Miss Gwennie Ellis, Mr. T. Darman Wood, a bechgyn tan arwainiad y Parch. G. Vaughan. Cyfeiliwyd gan Mr. Morrris Nanney. Y darnau ganwyd oedd Awn i ben y Wyddfa fawr," Hob y deri dando," Syr Harri Ddu," "The dear old songs of Wales," etc., ond yn bennaf oil cafodd Y Sospon Bach ei berwi lawer gwaith drosodd ar dan Cymreig oeddyn llosgi yng nghalonnau'r Cymry oedd yno. Canwyd penillion hefyd gydag arddel- iad, a'r anthem genedlaethol ar y diwedd. Noson hynod ddiddorol ydoedd. Ni ellir hebgor gofod i ddyfynnu o'r anerchiadau, ond yn unig roddi crynhodeb neu fraslun byr o araith odidog y Canon Edwards-Rees. DeGhreuodd drwy sylwi fod rhai o'n nod- weddiqn cenedlaethol 3711 parhau, tra ere ill yn diflannu. Cyfeiriodd at yr hyn a ddywed yr hen groniclydd Gerallt Gymro am y Cymry ynglyn a masnach, bwydydd, a man bethau fel gofal am y dannedd, etc., a rhagoriaeth y Cymry mown rhanganiadaeth a dywedwyd gan Gerallt hefyd nad oedd unrhyw genedl fwy rhydd oddiwrth genfigen y pryd hwnnw, a ohredai y Canon fod hyn yn wir am y genedl heddyw. Aeth y Canon ymlaen i sylwi fod Cymru a Chymry bron wedi eu hanwybyddu gan yr haneswyr safonol. Ychydig amser yn ol, cyhoeddwyd yn y Spectator mai Mr. D. Lloyd George oedd y Cymro cyntaf i ddyfod i enwogrwydd. Mae gorchestion y Oymry wedi eu claddu mewn angof yn rhy fynych ond heddyvr deuant i fwyafrif Bdmygai'r Canon Gankhellor y Trysorlys yn. fawr, er nas gallai gydsynio ag ef ar rai o faterion pwysig y dydd. Edmygai fywiog- rwydd ei feddwl, ei ddawn fel areithydd, a'i gydymdeimlad didwyll ag anghenion a dy- headau y werin. Yr oedd Cymru wedi magu dynion amlwg ym myd gwleidyddiaeth cyn dyfodiad Lloyd George. Rhoddodd Cymru i Loegr ddynion fel Harri Tudur, William Cecil, a r Archesgob John Williams. Teimlai'r Canon fod cylchoedd pwysig ereill heblaw'r Sanedd i ieuenctid Cymru i ymgyrraedd atynt, yn arbennig ym myd celf. Yr oedd eerflunwyr fel Syr W. Goscombe John a Mr. Havard Thomas yn y rheng flaenaf. Sylwai fod cerddorion Cymreig yn debyg o ragori amynt eu hunain mewn cyfansoddi serddoriaeth, a gobeithiai y byddai beirdd newydd Cymru yn myned y tuhwnt i George Herbert a Henry Vaughan, etc. Yn ddiddadl, amdai fod deffroad yng Nghymru yn awr, er enghraifft ym myd addysg. Credai y byddai eyfundrefn addysg Cymru yn fuan yn gyfartal i eiddo yr Ysgotland. Yr oedd y Cymry kefyd yn dysgu gwers undeb teimlai fod ein eenedl wedi gwastraffu ei hathrylith i raddau mawr drwy fodiyn ddiffygiol yn y gras hwn. Wrth derfynu, gofynnai, A yw yr iaith Gym- raeg yn debyg o barhau ? Mae awduron llyfr The Welsh People yn dueddol i gredu na wna M yr oedd yn ffaith mai ychydig iawn o enghreifftiau ddyry hanes o barhad cenedl ddwyieithog. Fodd bynnag, hyderai y bydd "i'r iaith fyw am ddigon o amser i gyrraedd ei hamcan, i uno a chymodi gwahanol adran- nau'r genedl, nes y sylweddola'r Cymry gyda'i gilydd fod ganddynt orfiemiol da a dyfodol gwell. CLOD PR HEN FAAf.-Progethodd Dyfrig ei bregeth Wyl Ddewi yn Eglwys Lime Grove oddiar adnod o'r Salmau, a dy- wedodd fod gennym gystal hawl i son am ein gwlad ein hunain ag am wlad Canaan, ac am arwyr cenedl y Cymry ag am arwyr cenedl Israel. Hanes Dewi Sant a'i ddathliad gen- nym oedd cynnwys y bregeth, gydag ambell wers fach. Wele'r tri phen Pwy oedd Dewi Sant ? Beth oedd Dewi ? Paham y cadwn yr wyl ? Dywedodd mai yr hen eglwys Gelt- aidd oedd y gyntaf, yn y wlad yma, o flaen yr Eglwys yn Lloegr, a'r hen esgobaethau yn cyfateb i'r hen dywysogaethau. Annwyl, meddai, yw popeth hen, ond pechod. Pwnc mawr y bregeth hon oedd ceisfo dangos mai yr un eglwys yw'r un bresennol a'r eglwys gyntefig. ac mai hi sydd wedi cadw crefydd Cymru'n fyw, ac fod popeth goreu Cymru wedi dod ohoni hi. Pedwar cymwynaswr Cymru, ebai ef, oedd Dewi Sant, amddiffynydd cref- ydd yr Esgob Morgan, cyfieithydd y Beibl i gadw ein hiaith Gruffydd Jones, Llan- ddowror, sylfaenydd addysg a Williams Pantycelyn "trwy ei emynau. PAWB YN EU TRO.-Wediilanciauyr eglwys fydd yn fuan, yn Victoria Park gynnal cyngerdd amrywiaethol at gronfa'r capel newydd, penderfynodd y gwragedd priod wneud cyfarfod tebyg, a bu'r olaf hwn yn llwyddiannus iawn. Mrs. Thomas Parry oedd y llywydd. Heblaw canu, caed cystadlu a chorawd fechan. Difyr fu treulio'r noson hon tro'r merched ieuainc fydd nesaf, a noson felys fydd hi.
I Gyda'r Clawdd-
I Gyda'r Clawdd- I Sef Clawdd Offa. I Gan GYMRO O'l GORYN I'W GARN. Blas Bethlehem.-Cynb.aliodd Cor Unedig Bethlehem, Rhos, eu cyngerdd blynyddol yr wythnos ddiweddaf. Y maent wedi cynnal eu cyngerdd bob blwyddyn ers 1916, wedi canu gweithiau clasurol, a'r flwyddyn ddi- weddaf canasant Stabat Mater (Dvorak), y tro cyntaf erioed i Ogledd Cymru ei glywed. Y darn ganasant eleni oedd Hymn of Praise. Arweinydd y Cor yw Mr. Dan Roberts, a'r cyfeilydd Dr. Caradog Roberts. Cadeirydd y cyngerdd oedd Mr. Arthur Evans, Y.H., uchel siryf Dinbych. Wrth ei gyflwyno i'r dyrfa, dywedodd Dr. P. Price i Mr. Evans lywyddu mor dda yn y cyngerdd y liynedd fel y pen- derfynodd y pwyllgor yn unfryd ofyn iddo lywyddu eleni eto. Y cantorion a wahodd- wyd i gynorthwyo oedd Miss Carter, Mr. Ivor Walters, a Mr. Smith Anderson Duce. A bu galw arnynt bob tro i ail ganu. Canodd y Cor Meibion hefyd ddarn cerdd o waith Dr. Car- adog Roberts. A cheir canmol tnawr i'r gwaith a chafodd glap cynnes amdano. Maes Itafur y Cor y flwyddyn nesaf fydd Requiem Mass (Verdi). Haoi Daf i/dd Edward !—Byddyn llawen gan gyfeillion Mr. D. E. Jones, The Poplars, Brymbo, glywed am ei lwydd yn pasio arholiad Matriculation Prifysgol Llundain. Paratodd ar gyfer yr Arholiad gartref. Wyr ydyw i'r Henadur Edward Roberts, Y.H., cyn- weinidog Engedi (M.C.). Y mae Mr. Jones a'i fryd ar fynd yn feddyg. Ffordd Bwlchgwyn.-Dathlwyd Gwyl Ddewi ymhob ysgol trwy'r dyffryn yma. Dyma fel y dathlwyd yr Wyl ym Mwlchgwyn nawn dydd Gwener, chwifiwyd baner y Ddraig Goch gan Miss Annie Corfield Williams, yr eneth sydd ar ben y rhestr yn yr ysgol. Rhannwyd cenin i'r plant a'r ymwelwyr gan yr ysgolfeistr, Mr. Davies. Can, Cymru," gan Mrs. R. J. Parry. Dadorchuddiodd y Parch. J. Lloyd Jones, B.A., ddarluniau newydd o Ddewi Sant," Oairiog," Daniel Owen," ac "Arwisgiad y Tywysog yng Nghaer narfon." Canwyd ac adroddwyd gan y I plant, Hen Wlad fy Nhadau, Yr Iaith Gymraeg," "Caraf fy Ngwlad," "Newid Gwlad," "Bochgyn Cymru," Mi gwrddais fugail bach un tro," Cymry bychain ydym," Bachgen bach o Cymru," Hanes Gwyl Dewi Sant," Y Genhinen a'r Ddraig Goch," Ar hyd y nos," Gwyr Harlech," I Bias Gogerddan," Rhai o Ddyddiau Mawr Taffi," "Nos Galan," "Tra bo dau," Yr eneth ddali," Dygwyl Dewi Sant." Cafwyd an- erchiad gan Mr. John Davies (Neifion), perthynas i Fardd Nantglyn y Parchn. R. J. Parry, a J. Lloyd Jones, B.A. Y mae'r ysgolfeistr, Mr. Davies, wedi bod yn athro yn yr Ysgol yma ers dros ddeuddeng mlynedd ar hugain. Daeth yma Ddygwyl Dowi, 1882. Hir oes iddo. Debyg iaw i !-y mae'n arferiad yng Nghoedpoeth gan weinidogion y gwahanol gapelau newid pulpud er budd Cymdeithasy Beiblau, a newidiwyd felly'r Sul diweddaf. Pe ceid mwy o hyn, a phe bae pob un o'r enwadau'n cytuno i beidio ag adeiladu capelau dialwamdanynt mewn pentrefi bvch- ain lie byddai un capel yn ddigon, bydd cyd- ddealltwriaeth felly agos cystal ag uniad yr enwadau, a phrysurid ei ddyfodiad. Dow--h i'r De.—Gwahoddwvd Mr. Jacob Edwards y Rhos gan Eisteddfod Bedlinog, Do Cymru, i fynd yno i ganu gyda'r delyn. Ac I yn ddiau y mae'r ddawn a'r anian i ganu gyda'r delyn ei lond. Ar dalcei4 y Stryd.-Dan nawdd Cym- I deithas Pobl Ieuainc Bethel, Rhos, cynhal- iwyd Eisteddfod lwyddiannus iawn yr wyth- nos o'r blaen. Haedda'r ddau ysgrifennydd gweithgar, Mri. Rhosydd Williams a S. J. Williams, glod mawr am eu sel a'u hynni. Llywyddwyd gan Mr. Isaac Smith, Y.H., a chafodd hwyl iawn gyda'i annerch o'r gadair. Awgrymai fod eisiou newid enwau ystrydoedd y Rhos, a rhoi enwau Cymraeg arnynt. Arweiniwyd gan y Parch. E. Mitchell yn ddoniol fel arfer. Y beirniaid oedd Mr. H. I Davies (Abon) a Mr. T. Carrington (Pencerdd divyntryn). Yr oedd amryw byd yn cystadlu, a gwnaent eu gwaith yn loew iawn. Da chwi, wyr y Rhos, cymerwch yr awgrym o roddi enwau Cymraeg ar yr ystrydoedd. Cadwer yr iaith yn fyw ar y tafod ac yn y galon ysgrifenner hi ar barwydydd y tai ac ar bob carreg goffa; rhodder enwau Cymraeg ar bob creadur byw. Y parch mwyaf fedrwn wneuthur iddi ydyw ei defnyddio'; ac os na ddefnyddier hi, bydd farw wedi ei lladd gan ei phlant ei hun. Plant Seion.-Cadwodd Cymdeithas Seion (M.C.), Gwreesam,Wyl Ddewi gyda chyng-rdd blasus iawn, yn y Central Hall, Hill Street, y Prifathro F. P. Dodd, M.A., yr Ysgol Sir, yn y gadair Dewi Mai o Fnirion (Blaenau I Ffestiniog) yilo'.n ca,nu penhillion, a'r T-lynor Dall gydag o ar y delyn canodd Mri. J. E. Williams, T. Meirion Jones, G. R. Davids, E. Davies, Wm. Roberts, Miss S. J. Ellis I a diolchodd y Parch. R. E. Morris, M.A., a Mr. Jacob Edwards, y Rhos. Dwyawr ddi- I ddan dros ben. TELYN YN 'NHREUDDYN.-Ers tua pum mlynedd bellach, mae brodyr y M.C. yn Nhreuddyn yn darparu gwledd bob Gwyl Ddewi. Cynhaliwyd yr wyl eleni nos Lun, Mawrth 2, pryd y cafwyd darlith gan weinidog yr eglwys, sef y Parch. T. Miles Jones hefyd sicrhawyd gwasariaeth Telynores Tegid a'i thelyn. I agor y cyfarfod, cafwyd canu gyda'r delyn, "Gwyl Ddewi," o waith y darlithydd, ar Pen Rhaw. Yna rhoddodd y liywydd—Mr. W. Jones, Plasnewydd, Her- sedd, anerchiad ar Gymru—ynglyn a'i chanu a'i thelyn. Yna cafwyd detholiad gwir rag- orol ar y delyn gan Telynores Tegid, o Pen Rhaw, gydag amrywion Pencerdd Gwalia, ac mewn atebiad i ailalwad brwdfrydig, cafwyd Llwyn Onn ganddi. Wedi hyn aed ymlaen gyda'r ddarlith. Cymcrodd ddosraniad Idris Fychan :—I, Dawns alawon ac alawon byr- dwn. Fel engraifft o'r alawon hyn, canodd Nos Galan yn ol dull y Da a dull y Gogledd. II, Caneuon-rhyfel a gwladgar. Rhoddwyd detholiad o Ymdaith Gwyr Harlech gyda variations Pencerdd Gwalia, gan Telynores Tegid. Hefyd cafwyd Rhyfelgyrch Capten Morgan yn y lion a'r lleddf. Ill, Alawon lleddf. Canodd eto Morfa Rhuddlan, Dwr Glan, a Llanofer. Hefyd rhoddodd gipdrem dros yr alawon bugoiliol a charwriaethol a'r suo-ganeuon. Yn ychwanegol at hyn, canodd ar yr alawon Codiad yr Ehedydd a Pen Rhaw. Yna cafwyd gair ganddo ar ganu gyda'r- tannau. Clowyd y ewbl i fyny trwy i'r darlithydd apelio at bawb wneud eu goreu i godi'r hen delyn ol. Arddanghosodd y dar- lithydd lafur mawr a chwaeth uchel ac ar y diwedd, anogai'r liywydd ef a'r delynores i fyned i bob tref a phentref yng Nghymru, i ganu ac i ddarlithio tuag at'' godi'r Hen Wlad yn ei hoi."
IWrth odre Plumlumon. -I I
Wrth odre Plumlumon. I GWYL DDEWI LLA.NGURIG.-Datlilvryd oof am Ddewi Mawrth 2il. Caed cwrdd da yn yr ysgol hefo'r plant y prynhawn. Mr. H. P. Jones yn arwain yn y perfformio a'r canu. Mr. Pryse, Pant drain, ganai'r delyn. Y Prifathro a'r Parch. Edward Evans anerch- odd y plant, un yn Saesneg a'r Hall yn Gym- raeg. Dyma'r tro cyntaf i'r. plant wneud y peth yn agorcd a than nawdd yr Awdurdod Addysg. Caed cyngerdd y nos, tan nawdd y Gymdeithas Lenyddol. Yn absenoldeb Dr. Lewis, llywyddwyd yn ddeheuig a thringar gan Mr. D. Rowlands, ysgrifennydd Cymro- dorion Llanidloes. Daeth y tair chwaer o Garno, Misses Lloyd, atom dau frawd o Clatter—Mri. Die Jones ac Art. Jones. Hefyd mwynhawyd yr adroddwr meistrolgar —Mr. Gethin o Landinam. Yr oedd cyn- hulliad gwych yn yr ysgoldy. Gresyn na roi'r managers yr Ysgol yn rhydd ar ddydd mawr y genedl. Rhoes pawb ei wasanaeth yn rhad ond managers yr ysgol. Wrth ddiolch i bawb am ei wasanaeth, dywedodd y Parch. Edward, Evans fod talent ac athrylith yn rhatach ar Wyl Ddewi na'r un dydd arall yn y flwyddyn. Yr unig rai hawliai'r full pound of flesh oedd y managers. Canodd y cor yn gampus, dan arweiniad Mr. W. Pryse, y Green. A difyr odiaeth oedd y gan i'r Gymdeithas gan Mr. I Pryse. Fe ddaliwn i hau hadau y mudiad mawr Cymreig wrth odre Plumlumon. I LLANIDLOES A'R CYLCH.—Bu cryn ddis- gwyl am yr Arddanghosfa Genhadol, Mawrth 4, 5, a 6. Yr oodd cylch eang i mown hefo'r dre yn paratoi gogyfer a'r Arddanghosfa. Bu'r Exhibition yn foddion addysg a symbyl- iad eithriadol. Pwysleisiodd y Prifathro Owen Prys, M.A., y pwys o oleuo'n haelodau eglwysig. Ar hyn o bryd, y mae deffro'r bobl I yn fwy ei bwys na chasglu swm mawr o arian, ebo'r Prifathro. Erys anwybodaeth dybryd yn yr Eglwysi parthed gwaith cenhadol. Cyfeiriodd y Prifathro at lyfr Dr. Mott ar Ef,-)ngylei.ddio'r byd yn yr oes hon." Proff- wydai'r Prifathro y gwneid y gwaith beth bynnag yn ystod y ganrif hon. Mrs. Lloyd Jones, Llandinam, agorodd yr Arddanghosfa. Yr oedd y rhaglen y diwrnod cyntaf yn ddi. ddorol iawn, ac yn llwyddiant mawr o'r dechreu i'r diwedd. Un o'r pethau mwyaf tarawiadol oedd y Brahmin's 11farriage gan gyfeillion ieuainc China Street a Bethel Street. Yr ail ddydd agorwyd gan Mrs. Edmunds, Dolenog. Prin y gellid disgwyl araith well oddiar lwyfan nag un Mrs. Edmunds, ddydd Iau. Y mae'r eglwysi'n falch o chwaer ddis- glair ac mor lawn o'r ysbryd cenhadol. Rhaid i mi ddwyn enw Miss Francis, China Street, i mewn yma. Hyhi, obe Mrs. Ed- munds, fynnai groesawu'r Exhibition yn awr. Nos Ian, daeth cor o Eglwys Caersws i fynd trwy'r cantata-Indian Priestess. Agorwyd y trydydd dydd gan Miss Jones, Rock Ferry, yn He'i chwaer, Mrs. Roberts, Rock Ferry a llywyddid gan y Parch. Edward Parry, M.A., y Drefnewydd. Diwrnod i'r plart yn fwyaf neilltuol #D^dd dydd Gwener, ac ar y cyfan ymddygodd pawb yn wych. Gweith- iodd yr ysgrifenyddion—Mri. Llewelyn Phil- ips a Lester Mills, yn ddiflino, a gresyn fyddai peidio ag enwi'r trysorydd gofalus- Mr. Gwilym Edmunds, Y.H. Ysbrydolai bawb a'i siriol- deb a'i eiriau caredig. Hyfryd iawn oedd cwmni'r cenhadon a'r Parch. R. J. Williams. Bu'r cenhadon wrthi'n ddygo iawn. Hyderir y daw ffrwyth mawr mewn canlyniad i'r gweithio a'r areithio. Bu amryw o frodyr wrthi'n ddiwyd yn gwerthu llyfrau cenhadol. Ond y goreu o ddigon oedd Mr. Bowen, y stationmaster. Yr odd ef yn feistr corn ar ambell ua na ddeuai'n agos i'r siop lyfrau. AiMr. Bowen areuhoi i'r LLA WR." Tegyw dweyd i swm anrhyd^ddus o arian ddeiUio o'r ymdrech neilltuol hon. Y nod oedd £ 100 tuag at Ysbyty Shillong, sydd dan ofal Dr. Gordon Roberts. Y mae hynny wedi ei syl- weddoli. Yr oedd bugail China Street a'i briod yno yn gwylio'r olwyn." Ond ni ddaeth drycin 'doedd y gla.w oddiallan yn ddim gan i'r gwaith ei hun lwyddo.E.E.
I. O'R BALA.
I. O'R BALA. I Jerusalem! Cymru. Y DDRAMA ETO.—Rhoddodd pobl ieuainc Capel yr Annibyn.wyr yma b-rfformiad da iawn yn yVictoria, Hall nos Fawrth diweddaf o ddrama ddirwostol Yearn a'r Cymod. Llyw- yddid gan y gw-inidog, y Parch. T. Ta!wyn Philips, B.D. Rhftid imi eto ganmol pobl ieuainc yr eglwys hon am eu gweithgarweh cyson. Gresyn na bai ereill yma jm debycach iddynt. Feallai y cnir hynny pan y ceir ar- wninydd a chyfarwyddwr cymwys. Brysied y dydd. Bob tro y gwelaf neu y clywaf y teitl uchod, y a'r cymod," da.w i fy mpddwJ yr hen eng'yn rhagorol hwnnw (o waith pwy ?) :— Paham y gwneir cam a'r oymod—neu'r A'i rinwedd dros bechod ? [lawn, Dyweder maint y Duwdod, Yr un faint yw'r lawn i fod. Felly, mae hyd yn oed y teiti yn gwneud daioni mewn cyfeiriad na ddisgwylid iddo, canys byddaf yn mawr hoffi adrodd, ac ail a thrydydd adrodd, yr englyn, pan ddaw y cam a'r cymod i fy meddwl trwy ryw foddion. Nos Iau drachefn, rhoddodd y myfyrwyr ail berfformiad, gwell hyd yn oed na'r cyntaf, o'u drama hwythau—Myfanwy. Cawsant dy llawn, ac yn feddylgar a charedig iawn, eyf- lwynasant y swm hardd o elw a dderbyniasant i "Gymdeithas Nurse Penllyn." Ma bellach yn agos i ddeng mlynedd ar hugain er pan berfformiwyd Rhys Lewis am y tro cyntaf yn y Bala. Credaf mai hwnnw oedd y perfformiad cyntaf o'r gwaith yng Nghymru i gyd. Mae amryw o'r cyfeillion annwyl gymerent ran yn y perfformiad hwnnw wedi myned am y lien a ni, a theimlwn hiraeth prudd amdanynt. Ar ol Rhys Lewis, dramodwyd a pherfform- iwyd Y Dreflan, yna Aelwyd F^Ewythr Rhobet, gyda'r hon y cafwyd hwyl fawr ac ar ol hynny cawsom ail drefniad helaethach o gryn lawer, a mwy o actio ynddo, o'r Ere flan. Teimlai Daniel Owen ddiddordeb anarferol yn y perfformiadau hyn, canys gwelai y drws yn agor i'r ddrama ddod yn allu yn ein gwlad. RHOS Y GWALIAU.—Neu Rhos y gweViau, medd rhai, sydd bentref bychan rhyw ddwy filltir o'r dref, yn ymyl hen balas enwog y Rhiwaedog, cartref Llywarch Hen, Rhirid Flaidd, a llinach hir y Llwydiaid gwladgar, noddwyr arbennig beirdd ein gwlad a barddoniaeth gywyddol. Nos lpu ddi- weddaf, bu yn y lie hwn gyfarfod llenyddol bychan, tra llwyddiannus, yrhwn sy'n sefydl- iad blynyddol yno ers cryn amser bellach. Magwyd yn yr ardal nifer o feibion a merched, sy heddyw'n wasgaredig ar hyd a lied y wlad, ac yn y trefydd mawrion. Cydnebydd y rhai hyn eu dyled i'r cyfarfod llenyddol bob blwyddyn, trwy anion gwobrwyon an- rhydeddus i symbylu a chefnogi ieuenctvd yr ardal i lafur teilwng, dan nawdd Ysgoixon Sul y Methodistiaid yna, ac yn Llwyn einion a Chefn ddwygraig. Prydferth wirioenddol oedd yr olwg, nos lau, ar nifer fawr o blant gwridog Ilygadlon, ac iach, a'u holl feddyl- fryd ar y gwaith da a gyflawnent mor ganmol- adwy. Lly^vyddwyd ac arweiniwyd y cyfar- fod gan y boneddwr cymwys, Mr. J. W. Roberts, Y.H., Derwynfa. Beirniadwyd yr arholiadau gan y Parch. J. O. Jones, B.A. yr adrodd gan Mr. Robert Lloyd, Pen y cefn, pennaf adroddwr yr ardaloedd hyn y canu gan Gwrtheryn y stompar tatws, a'r ffyn, gan Mr. D. R. Thomas, Cartref (Gaerfechan, Cerrig y drudion, gynt) ac anaml y clywsom ddim doniolach na sylwadau Mr. Thomas ar y deuddeg stompar. Pa air Cymraeg gawn ni am stompar, deydwch ? Er ei bod yn tywallt ac yn gyrru'r glaw yn ddiarbed, daeth cynhulliad rhagorol ynghyd. Diolchwyd i'r cynorthwywyr gan gyfeillion y lie ac ar gynhygiad y cadeirydd, a chefnogiad Mr. D. R Thomas, pasiwyd pleidlais wresog o ddiolch- garwch i gyn-blant y Gelli gron a'r Cae glas, am eu haelfrydedd cefnogol i'r cyfarfod y naill flwyddyn ar ol y Hall. Gobeithio fod pawb wedi cyrraedd adref ny ddiogel, er gwaethaf y tywydd mawr. Difrifolwyd tipyn ar y cadeirydd ar ei ffordd i'r Bala, pan aeth mer- len borthiannus y gwr caredig a'u danfonai adref (Mr. Robert Jones, Rhiwaedog) i ddechreu dawnsio a chylch-droi yng ngorilf y llyn, yer pont ei fwnwgl. -0-
IMINION MENAI.
I MINION MENAI. I YN OL MEUDWY'R MOR UN YN LLAI.-Ddydd Mawrth diweddaf, penderfynodd Ustusiaid Bangor ddiddymu trwydded Snowdon Tavern, Hirael, Bangor. Gwrfchwynobid adnewyddu ereill, ond hon oedd yr unig un y Uwyddwyd i'w chau. LLADBON !—Nos Wener ddiweddaf, yn ysgoldy yr Hen Dabernacl, Bangor, bu Mrs. Lloyd George yn annerch tyrfa astud oedd wedi dyfod i'w chlywed, ar wahoddiad Merched Rhyddfrydol Bangor. Siaradwyd hefyd gan Miss Bamford Slack, Syr Henry Lewis, a'r Prifathro T. Rees. Dinoethwyd ystrywiau gwrthwynebwyr Mesur Dad- gysylltiad a Dadwaddoliad i gael enwau ar eu deiseb. A danghoswyd yn bur eglur faint I o werth oedd i'w roi ar y ddeiseb Ymneilltuol —bondigrybwyll Bu Miss Slack yn dangos hefyd pwy oedd y Iladron a'r ysbeilwyr mewn gwirionedd. Y rhai oedd yn cyhuddo'r Ymneilltuwyr, ac yn galw enwau hyll felly arnynt, hwy oedd yn haeddu yr enwau, ebe hi. Canys," ebai, fe wyddis yn dda mai cymeryd arian yr Eglwys Babaidd wnaethant hwy—he b ofyn caniatad undyn-ac er yr arferid gynt fwydo'r plant bach a gofalu am eu haddysg yn gyffredinol gyda'r arian, erbyn hyn y mae'r cyfrifoldeb o hynny ar ysgwydd- au ereill, ond glynant hwy yn y pres o hyd I a phan y mae Ymneilltuwyr yn gofyn iddynt am gyfran o'r arian tuag at achosion cenedl- aethol, yr unig ateb gant ganddynt yw lladron ac ysbeilwyr.' TODDI DYLED CAPEL.—Ymdrechir yn neilltuol eleni gan Eglwys Berea (M.C.), Bangor, i doddi talp o'r ddyled fawr sydd fel rhewfryn drosti, a'i iasau oerion yn nychu'i thwf. Ca gynhorthwy calonnog gan Eglwys Twrgwyn. Nos Fercher ddiweddaf, yr oedd y Parch. John Williams, Brynsiencyn,, yn tra- ddodi ei ddarlith ragorol ar John Elias, yng nghapel Berea, yr Henadur J. E. Roberts, Y.H., yn Hywydd. Hyderwn y caed elw sylweddol oddiwrth y ddarlith. Yn Nhwr- gwyn, ddydd Iau, yr oedd dwy o'r chwiorydd caredig—Miss Jones, Snowdon View, a Mrs. Hughes, Park Street—wedi darpar te yn yr ysgoldy, ac yn trosglwyddo'r holl arian at ddyled Glanadda. Casglwyd rhai punnoedd at yr amcan mewn golwg. Yr wythnos hon eto, y mae pobl ieuainc Twrgwyn yn trefnu swper, a'r arian oddiwrth hwnnw hefyd i fyned i Glanadda. Fel hyn cychwynnir ami fan ffrwd o wahanol gyfeiriadau, a'u cvfeiriad i gyd tua Glanadda a hyderir erbyn yr ym- unant yno, y bydd yn ffrydlif rymus i gario ymaith y rhewfryn i for anghof. SIARADWCH Fi.—Ni bu fawr o fri ar Wyl Ddewi ym Mangor eleni, ac eithrio Eisteddfod y Myfyrwyr a'r perfformiad o'r ddrama. Bu cinio mewn pentref cyfagos, ac areithio yn Saesneg. Er v dywedid mai cinio Gwyl Ddewi ydoedd, nid Dewi gaffai y sylw pennaf yn yr areithiau, ond rhyw John oedd wedi dweyd pethau anhyfryd i glustiau'r siarad- Z wyr, a thalu'r pwyth i hwnnw y bu'r siarad- wyr yng Nghinio Gwyl Ddewl Gwawdiai un y syniad o gadw cofnodion Cjmghorau Cymru yn Gymraeg, a chynghorai gadw'r Gymraeg at waith gwell. Onid y bobl sydd am ei defnyddio ym mhobman yw'r bobl sydd yn parchu'r Gymraeg mewn. gwirionedd ? Ffug barch i'r Gymraeg yw ei chanmol yn Saesneg, tan ddweyd nad yw yn ymarferol ei siarad a'i defnyddio ymhobman. Gwel- som rai yn tybied eu bod yn parchu'r Beibl mawr trwy ei osod yn y parlwr i ddal rhyw addurn, a byth yn ei agor ddydd mewn blwyddyn. Pe medrai Beibl felly siarad, diameu y dywedai wrth ei berchennog Os wyt am fy mharchu i, defnyddia fi bob dydd." Felly hefyd y mae rhai yn meddwl parchu'r Gymraeg—ei gosod mewn cong] yn destyn i'w chanmol yn awr a phryd arall ond dymuniad yr hen ia,ith yng nghlust y neb chwenvchai ei pharchu mewn gwirionedd fyddai hyn Defnyddioch fi bob dydd."
Advertising
I » LIVERPOOL THE "Shaftesbury. Mount Pleasant About 4 dins walk from Lime st & Central Stations A First-class Temperanr s Hotel. moHnrfttA ohnrp^a Tele.: Shaftesbury Hotel, L'pool," 'Phone: Sf '82 MORRIS EVANS' HOUSEHOLD OIL. The never-failing Remedy FOR Rheumatism, Sciatica, Lumbago Burns Scalds, Cuts, Bruises 6c ALWAYS HANDY IN THE HOME ITS CURITIVE POWERS ARE WONDERFUL. Qet a Bottle at once from yonr Grocer or Chemis Price l/ld. 6 2/6 Or direct from- MORRIS EVANS & Co., THE MANUFACTORY, FESTINIOG. N. WALES, MODRWY^U PRIODI BALLS. Modrwyau Priodas o 7/6 i 60/ Hanner dwsin o lwyau golchiad gwyn goreu i bob prynwr modrw y YSTORDY BALL AM FODRWY BRIODAS LWCUS. 33 LONDON ROAD. Cerdyn y bys a'r maint yn rhad drwy'r post. If you want The most Comprehensive POLICIES AID THE BEST TERMS, write for particulars to The Gresham LIFE, FIRE, AND ACCIDENT Insurance Offices. Head Office: St. MildredsLHouse Poultry. LONDON. E.C. Branch Office G142Exchange a'lds I LIVERPOOL- j JAMES HSCOTT. General Manager. I Furniture. Furniture. Furniture. DO YOU WISH TO BUY RELIABLE MADE GOODS AND SA VE AT LEAST 7/6 IN THE £ ? Call direct to Charles Bros. Wholesale Cabinet- makers and Upholsterers where jou will get all goods at FIRST COST, and you will save the middleman's profit. A call to our Showiooms and Works will convince Yon. Hours: 9 to 8. Saturdays 9 till 1 GOODS MADE TO YOlTR OWN DESIGN. SATISFACTION GUARANTEED. Charles Bros., 22 School-Lane (BACK OF CHURCH STREET), LIVERPOOL N.B.-We have a large Stock of BEDROOM SUITES tod SIDEBOARDS, and will .ellsSS much below the usual prims. Goods stored free- CHARLES BROS. Y LLADMERYDDam1914 Cylchgrawn Misol yr Ysgol Sabbothol. Dan olygiaeth y Parchn. Evan Davies,Trefriw; T. E. Davies, Abertawe; Proffassor D. JenKins, Mus. Bac., Aberystwyth. Pris Dwy Geiniog y Mis, Cynhwysa y Rhifynau o'r Lladmerydd" am y Flwyddyn 1914- Erthvglau ar bethau Beiblaidd Gen y personau canlynol Parchn. J. Morgan Jones, caerdydd John Owen Anfield, Liverpool; J. E. Davies, M.A,, Liarielli; D. Hoskins, M.A., Caernarfon; W. Bvans, M.A., Pembroke Dock; J Puleston Jones. M.A? Pwllhe"- W. E. Prytherch. Abertawe; J, Pritchard; M.?., B.?' L'anberis R. J. Bees, M.A.. Aberystwyth; Proff. R. Mo iris, MA., B.D. Griffith Hughes, B.A., Bethesda, J- Talog Davies, I iverpool; Dr. R. Roberts, Rhuallt; D. L. Hees, B.A., B. I)., Aberaeron M. H. Jones, B.A., Ton Peter H.,ughes Griffiths, Llundain; Mr. John Rowlands, M.V.O Caerdydd. ac eraill. Pregethau Esboniadol ar yr Epistol at yr Hebreaid- Gan y Parch. D, Charles Davies, M.A. Ymson ac Ymgom Gan y Parch. Peter Hughes Griffiths Llundain. Bin Pobl Ieuainc: Gan y Parch. W. E Prytherch, Aber: tawe, Nodiadau Amrywiol: Gan y Parch. Evan Davies. Tref- riw Hefyd, rhoddir He arbenig i'r Nodiadau aF Faas Llafur Undeb Ysgolion Sabbothol y Methodistiaid Cal- ficaidd. sef y rhan olaf o Esboniad ar Yr Epistol at yr Hebreaid, Gan y Parch. T. E. Davies. Darnau Barddonol, &c. Tonau Newyddion, .\0(- ymofyner a r Cyhoeddwr-B. W. BeatM DalgdlMU