Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
mmrairfflraarnHfflffllfffflffllfffflfflffllfffflffllfffflfflffliiiDBffliiiiiiiiiitia | LAST WEEK I 8 OF  RAY ? MILES 1 8 81 8 Great Annual || 1 Furnishing Sale. I I REMNA?t DAYS & SPECIAL BARGAt?S!?3 H I —————————— 8 H LONDON ROAD, LIVERPOOL. I3 H 8 lamffllillSIIllBlIlIIiilliBIBPBgillllBlIllEIBlBllllBlBBlglglllliBlBlBmill 1 IF YOU WANT SEASONED Oak, Mahogany, Birch, BlacK Walnut, Ash, White Wood, Pitchpine, Yellow Pine, Doors or Moulding WRITE LEWIS ROBERTS, 19 STANLEY ROAD, LIVERPOOL'
CHWITH ATGO' Am Bwy?I
CHWITH ATGO' Am Bwy? DYWED Emerson, yn ei draitliawd ar Char- acter, fod llawer dyn, fel personoliaeth a hymeriad, yn fwy na'i eiriau na'i weithred- oedd a dyry amryw enghreifftiau tarawiadol o hynny. Dywed nad allasai y neb nas gwel- odd George Washington feddu syniad agos i gywir a chyflawn amdano. Ni raid wrth graftter mawr i ganfod profion beunyddiol o wirionedd ei osodiad. Gwelsom rai dynion y gofidiem ddarfod iddynt ddatguddio i'r cyhoedd cyn lleied o'r mawredd porsonol oedd ynddynt. Mae geiriau Gray's Elegy yn wir heddyw, fel cynt, am roddi i'r bedd- Some mute inglorious Milton here to rest. Buom lawer gwaith cyn hyn yn dal ar gyfle i weld a chlywed awdur y buasem yn darllen ei gynhyrchion ac wedi ei wrando a chymdeithasu ag ef, yn ffansio, o leiaf, y gallem ddeall a mwynhau ei-waith yn fwy na chvnt. Deuai'r llyfr yn fwy byw fel y cofbm yr awdur, a thybiem glywed ei lais yn siarad o'r dalennau. Diddorol i ddyn yw cwrdd a pherson y bydd wedi dychmygu darlun ohono'n ei feddwl, a chanfod mor wahanol y naill i'r llall. Dywed stori am ddyn a gawsai baentio darlun ohono ond nid oedd yn ei foddhau ac yn ei eiddigedd tros ei ogoniant gwreiddiol, cododd y darlun i fyny, rhwygodd ef, a gwthiodd ei ben trwyddo, gan ddywedyd "Dyma'r Wiginal i chi Cofiwn ein siomi pan gyntaf y gwelsom y diwoddar S.R." Conwy. Wedi clywad ei hanes arwrol yng Nghymru ac America, tybiem y rhaid ei fod yn ddyn cryf o gorff, ac m3wn corff felly y rholiem ef i fyny yn ein dychymyg. Ond pan y'i gwelsom, ac y cawsom y fraint o gym- deithasu ag ef ar aelwyd yn Lerpwl, fe fu i'r Wiginal rwygo'r darlun a feddem ni ohono. Ysgafiigorff iawn oedd S.R.-fawr fwy na digon i'w gadw rhag hedeg. Ac mor addfwyn a dirodres ydoedd Prin y meddyliasai neb cyfarwydd a'r cleddyfwr llymfin, ar faes y V wasg, am ei gael ddiniweitied a phlentyn yn ei gymdeithas. Ie, eiddil o gorff ydoedd felly hefyd Edward Morgans, Dyffryn, a Thafolog; ond mor llachar y tywynnodd radium athrylith allan o'r atom o gorff Meddwl am un o gedyrn cyhoeddus Cymru, ond a ymadawodd yn ddiweddar, yr oeddym wrth godi'r Drych y tro hwn. Clywsem lawer o son amdano, a darllenasom beth o'i waith. Yr oedd yn un o arweinwyr ei enwad, yn olygydd i un o'i newyddiaduron, yn bregethwr cryf, yn ddiwinydd craff, yn ddadleuwr medrus, yn wron dros Ryddid gwladol a chrefyddol, ac yn Gymro gwladgar. Ym- ddanghosodd eisoes nodiadau am ei nodwedd- ion, ei fywyd, a'i farwolaeth yn Y BRYTHON. Nid ydym ni'n ceisio ychwanegu dim at hynny. Ond nis gallwn yn ein byw lai na meddwl am y dyn, fel y gwelsom ef ddiweddaf. 0 ran hynny, y tro diweddaf yn unig y gwelsom ef, nes y teimlem inni ei 'nabod. Cwrddasem yn rhywle o'r blaen, ebai ef ond nis gallem ni ar y pryd gono hynny ac nid rhyfedd, oblegid mai ym miri Eisteddfod y digwyddodd. A chyhyd, o ran hynny, y gellir cymdeith- asu a dyn hob ei nabod Pan ar ymweliad ag America, yn 1895, dywedodd Mr. Isaac Rees, Pittsburgh, wrthym, iddo fod mewn cysylltiad masnachol agos a pherson neilltuol am ugain mlynedd cyn ei nabod. O'r diwedd daeth y datguddiad, a chwerw'r siom oedd ynddo i Mr. Rees. Cafodd brofiad tebyg i'r un a ddisgrifia Hiraethog yn ei awdl i Job- Satan wedi dod at y patriarch yn rhith cyfaill ond wedi iddo fynd allan, mae'r bardd, wrth arogli'r brwmstan a adawodd ar ei ol, yn deall pwy a ymwelodd ag ef, ac yn dywedyd,— Ie, yn wir, Satan oedd Ac, yn hwyr neu hwyrach, fe ddigwydd rhywbeth a dry galon dyn y tu gwrthwyneb allan, a phair i chwi deimlo ei fod ef ei hun wedi ymddadlennu. Dim ond un waithred, un gair, un gwasgiad Haw, un edrychiad, un agwedd, ie, un distawrwydd,—mor fynych y gwelwyd y dyn cudd yn c >rdded i'r golwg trwy un o'r drysau hyn Dim ond un drem arno, ond yn peri i chwi deimlo'i fod wedi 80rgraffu ei wir bersonoliaeth ar eich meddwl am byth-yn ffafriol neu anffafriol i "r; -ft- Gall y teimla'r darllenydd ein bod yn ymdroi. Ein rheswm am hynny yw, ein hawydd i bwysleisio'r ffaith ein bod weithiau yn cwrdd a. dyn nas gallem, ac na fynnem, ei anghofio, a hynny oherwydd cymundeb ag ef am ond ychydig eiliadau. Cwrddasom ambell un felly a adawodd argraff annileadwy ar ein calon. A gobeithiwn na chyfrifir ni'n hunanol am ddwyn ein profiad personol i fewn mown un enghraifft, at yr hon yr ydym yn cyrchu o'r cychwyn- MewD, capel yn y De yr oeddym, pan gwrdd- asom y gwr y cyfeiriwyd ato. Fel S.R. gronyn o gorff oedd ganddo yntau, a nodedig o naturiol a dirodres oedd ei ymddygiad. Ond atom yn Hawn o radium ydoedd. Bu'n goleuo Seren am lawer o flynyddoedd, a'i wy- bodaeth helaeth a'i feddVl treiddiol. Bu, fel y crybwyllwyd eisoes, yn un. o wroniaid Crefydd Rydd Cymru. Gwelsom ef mown dwy oedfa-yr olaf ar brynhawn Saboth. Ar y diwedd, cawsom ymddiddan a'n gilydd. Wedi'r cwbl," meddai, llawer gwell yw cwrdd crefyddol na chwrdd mewn Eistedd- fod." Dywedodd eiriau caredig,—yn ol arfer brodyr brawdol ar achlysuron o'r fath ond cyn ymadael, g\vasgodd ein Haw yn gynnes. Diolchasom iddo am ei eiriau mwyn. Cymer- odd afael yn ein. Haw drachefn, gan edrych yn hawddgar i'n hwyneb. Safodd felly am rai eiliadau. Parodd y saib (pause) oedd ar ei agwedd, a gwasgiad cynnes ei law, inni deimlo fod ei galon yn ein trydanu. Yr oedd llaw fyto yn gafael ynnom. God bless you, brother," oedd ei eiriau olaf, ac aeth ymaith— ymaith am byth o'n golwg nl. Eto, nid o'n cof. Arhosodd ei ddelw yn y meddwl, a'i argraff ar ein calon. Teimlasom fod personol- iaeth fawr, garedig, wedi cyffwrdd ein hysbryd i'r byw, a gadael argraff ddofn arno.. Bu'n galondid i'r gwan. Tebyg fu ei gyffyrddiad ef a ni i eiddo angel" arall a Daniel Ac fe a gyffyrddodd a mi, ac a'm cyfododd yn fy sefyll." Megis rhewynt deifiol yw dylanwad ambell berson, a gwna i chwi deimlo'n wyw arall fel dylanwad heulwen haf, ac yn peri i'ch I calon dyfu. Diolch fod cynifer o'r olaf i'w cael ac felly y cawsom ni ddiweddar weini- dog y Bedyddwyr yngNglan Dwr, Abertawe, -y Parch"; W. P. Williams, D.D. -0--
:Achos y Parch Or. Fraser-
Achos y Parch Or. Fraser- MEWN cyfarfod arbennig o Gyfarwyddwyr Cyffredinol y Genhadaeth Dramor (yn cyn- nwys cyn-lvwyddiony Gymanfa Gyffredinol, Ymddiriedolwyr y Genhadaeth, y Cyfar- wyddwyr Sirol, ac aelodau y Cyfeisteddfod Gweithiol), a gynhaliwyd Chwefrol 24ain, 1914, yng nghapel Princes Road, Liverpool, i'r rhai yr ymddiriedasid gan y Gymanfa Gyffredinol yn Abergwaun, Mehefin 10-12, 1913, i benderfynu yn derfynol yn achos cys- ylltiad y Parch. Dr. Peter Fraser a'r Genhad- aeth,—wedi rhoddi ystyriaeth faith a phwyll- og i'r holl achos hwn, a rhoddi cyfle i Dr. Fraser ddweyd yr hyn a ddymunai yn wyneb yr Adroddiad y gyflwynwyd gan y Cyfeis- teddfod Gweithiol, goiynnwyd iddo a oedd yn barod i addaw cydymffurfio a Rheolau y Genhadaeth, a chydweithredu yn galonnog a'i gyd-genhadon yn yr India dan arolygiaeth y Cyfeisteddfod Gweithiol y-nglyn a dwyn ymiaen, holl waith y Genhadaeth, a pheidio a gweithredu'n annibynnol. Gan nad oedd ei atebion yn foddhaol i'r Cyfarwyddwyr, penod- vryd chwe brawd o'r tuallan i'r Cyfeisteddfod Gweithiol i ymddiddan yn. gyfrinachol a Dr. a Mrs. Fraser, ac i geisio gwneud yn glir i Dr. Fraser safle'r Cyfarwyddwyr, a cheisio'i ennill i gydymffurfio a'r hyn ofynnid. Er gofid dwys i'r Cyfarwyddwyr, bu'r ymgais hon hefyd yn gwbl aflwyddiannus. Penderfyn- wyd galw Dr. Fraser drachefn i'r cyfarfod, a gofynnwyd iddo eilwaith gan y Llywydd a fyddai iddo addaw cydweithredu a'i gyd- genhadon a boddloni i gyfarwyddyd y Cyfeis- teddfod Gweithiol a'r Cyfarwyddwyr. Dymunwyd arno roddi atebiad pendant. Gwrthododd yntau roddi ond atebiad amodol, yr hyn a fuasi yn rhoddi rhyddid iddo weithredu'n annibynnol, fel o'r blaen. Parodd y methiant hwn i'r ymgais i ddyfod i gyd-ddealltwriaeth a Dr. Fraser ofid dirfawr i'r Cyfarwyddwyr, oherwydd eu parch dwfn iddo ar gyfrif ei gymeriad u.chel a'i lafur ym- roddedig yn Lush a i ac nid oodd ganddynt ddim arall i'w wneud ond hysbysu nas gallent oi anfon yn ol i'r maes cenhadol, yr hyn a olyga fod perthynas Dr. Fraser a'r Genhadaeth yn awr yn terfynu. Yr un pryd, dymuna'r Cyfarwyddwyr wneud yn eglur, os gwel Dr. Fraser ei Ifordd i gydffurfio a Rheolau y Gen- hadaeth fel yr holl genhadon ere ill, y bydd yn llawenydd ganddynt ei anfon drachefn i faes ei lafur.
Meddyliau'r Galon Eto.
Meddyliau'r Galon Eto. Trindod Satan. I FFYDD, Gobaith, Cariad, dyna drindod Daion 1 ebe Paul ond trindod y Drwg sy'n bygwth lleibio crefydd, iaith a chenedlaetholdeb Cym- ru'r dyddiau hyn ydyw dawnsio, cardiau (whist drives), a'r lluniau byw. Caed trafod- aeth wresog ar y tri yng Nghyngor Eglwysi Rhyddion Pwllheli'r wythnos ddiweddaf rhai'n eu condemnio'n ddiarbed, ac yn gresynu gweld yr hafog a wnaont ar ienctyd y dref. Ond e^be'r lleill, "Nid wrth gethru a chyfarth arnynt y'u darostyngir y peth goreu i ni Gristnogion ydyw ymgymysgu a, mynychu'r pethau hyn mewn ystyr cymedrol, ac felly godi'u ton a'u safon,yn lie glafoeri cyn- ddaredd a ffroth ffolareupennau." Rhydd i bawb ei farn,a'i barch am ei dweyd yn groew ond o'm rhan i, ni dda gen i'r un o'r tri. Yr unig dro y byddaf fi'n dawnsio ydyw pan gaf arwydd, ambell dro, fod yr hen ddyn pechod gwydn yma sydd yn f'enaid yn dechreu gwanio a cholli ei wynt, ac a lamaf fel iwrch hyd fryniau anfarwoldeb pan geir o'n farw gelain rhyw ddydd a ddaw. Am y cardiau atgas, cast y cythraul ydynt, bob pac ohonynt, i ddwyn amser ac ymennydd ein pobl ac i ddangos mai o XJffern y daethant ar y cyntaf, teflweh y pac i'r tan, a chwi welwch fflam las a thair C ar ei brig yn codi o'r grat Cyfeddach, Celwydd, Cythrwfl. Ac y mae clywed fod cynifer crefyddwyr—(cref- yddwyr, wir!)-yn liapio'ti hamser gyda'r gwegi estronol ac jjanghymreig hwn, yn berwi 'ngwaed. Am y lluniau byw peth da ydyw hwnnw'n cael ei dreisio i amcanion drwg pe'i cedwid at fod yn gyfrwng addysg lan a defn- yddiol, gellid daioni annhraethol ohono ond wrth ei adael yn nwylo mamoniaid dibris o grefydd a moes ac o bopeth ond cist lawn, y mae'n gwenwyno'n pobl, yn porthi blys anach ac afradus yn ein plant, ac yn hulio llawer o bethau merfedd ac aflednais ger eu bron. Megis y dywedais lawer gwaith o'r blaen, gweld mwy ar Waredwr byw a llai ar y Iluniau byw fyddai'n iechydwriaeth i Gymru ->■ -4>- ->■ I Plicio'r Ynt. I I Fe ddarllennais y Geninen ddiweddaf o glawr i glawr gyda bias—dyna un o'r rhifyn- nau goreu gafwyd er ys ta]m. Yr unig fefl a brych ar y cylchgrawn da ydoedd gweled rhai o ysgrifenwyr goreu'r genedl yn dat i ddwedyd oeddynt am oedd ac ydynt am yw, o hyd ac o hyd, gan faeddu'r Gymraeg a'u hidiomau Saesneg. Fe ddylent hwy a'r Golygydd wybod yn amgenach, a rhoi gwell esiampl i Ienorion iau a distadlach. Ac y mae'r un mefl ar wyneb yr Haul Eglwysig, nes fod yn demtasiwn i ddyn daflu'r ddau, yr Haul a'r Geninen, i ganol y tan, onibae am werth eu hysgrifau. Ac y mae'r papurau wythnosol ac enwadol yn frith o'r yntiau gwrthun ac afraid yma, a rheswm da pam cyfisithu a llyfu'r papurau Saesneg y maent, nes creu rhyw lurgyn o iaith nad yw na Chymraeg n Saesneg. These were the singers ebe'r papur Saesneg y rhai hyn oeddynt y cantorion," ebe'r efelychwyr trwstan Yî. y papur Cymraeg, yn lie dywedyd y rhain oedd y cantorion, neu gwell fyth-" y rhain ganodd." These are the adjudicators, ebe'r rhagien Saesneg y rhai hyn ydynt y beirniaid," ebe'r cyfieithydd, yn lie y rhai hyn yw'r beirniaid," neu dyma'r beirniaid." Ac ymlaen fel yna, 'n ddidor derfyn, nes codi bwrn ar ddjTi. Pe cawn i geiniog y pen am bob ynt a bliciais o gynffon yr oeddynt" i'w wneud yn oedd," ac o gynff on pob ydynt i'w wneud yntau'n yw," yn ystod y saith mlynedd er pan gychwynnodd Y BEYTHON-, gallwn fforddio codi plas yn y wlad 'a chilio i fyw o'r Mwg i'r Mynydd. Arferwn ar y dechrou daflu'r yntian yma, y naill ar ol y llall, i'r fasged, eithr buan y llenwodd honno, ac onibae fod trol faw'r Gorfforaeth yn galw heibio'r Swyddfa bob bore dydd Iau, i'w carthu a'u cludo i'r Mersey, buasai'r twmpath ynt bellach bron gymaint. a Chwarel y Pen- rhyn. Deued pob golygydd drwy'r wlad allan I i chwynnu idiomau'r estron, ac fe gawn ardd I yr iaith yn lan toe.  ? < Sbio i lawr a Sbio i fyny. I I 'Does dlysach enw yn yr iaith ar eneth na Gwen ond y mae o yn rhy blaen, a hen ffasiwn gan falch ferchetos yr oes hon, a mynnant hwy ei hwyhau a'i grachfoneddig- eiddio'n Gwendolina, mwyn dyn. Can croeso iddynt ond pe genid genetheî mi, fe'i galwn yn Gwen, fel y gwnai'r hen Gymry, ac a daflwn y dolina i'r domen at yr ynt sydd yn y paragraff uchod. Yr hyn a barodd i'r merlyn garlamu ffordd yma heddyw'r bore ydoedd clywed un waith oto-megis y clywodd gan- waith o'r blaen-fod geneth o Gymraes, werinaidd ei thras a'i thylwyth, yn nacau'n lan a mynd i Ysgol Sid neilltuol am fod y g'nethod ereill, uwch eu byd na hi, yn tursio a ffroenochi arni pan ddeuai i'r dosbarth, ac yn cilio draw rhag i'w shoddy hi gyffwrdd a'u sidan hwy, fforsyth Dyma falchter ys- cymun sy'n ddrewdod yn ffroenau'r Nef, ac sy'n rhemp o gyffredin ymysg hiliogaeth dosbarth cefnog (er nad peniog yn fynych) yr eglwysi. A hynny am fod diffyg yn addysg yr aelwyd, canys ni ddylai plant neb fod yn lanach rhag balchter anwybodus fel hwn na phlant ein haelodau eglwysig. Dyma'r hyn sy'n gwagu ami i ddosbarth, ac sy'n rhoi erfyn ac esgus i lawer un gadw draw. Dylid dy- wedyd yn ei erbyn yn gryf ac groew, canys 'does gan y fath fawredd ffiaidd ddimhawl i ddod drwy ddrws yr uh eglwys nac Ysgol Sul. Ar yr aelwyd gartref y mae'r ellyll yn cael ei borthiant, ac y mae ei gyfraniadau at yr Achos wedi gwneud yr eglwys yn rhy wan i droi'r gelach melynddu dros y drws. Cawswn i fy nonio a'r ddawn bregethu, hwn fuasai 'nhestun cyntaf •— Fy mrodyr, na fydded gennych ffydd ein Harglwydd ni lesu Grist, sef Arglwydd y «' gogoniant, gyda a derbyn wyneb. Oblegid os daw i mewn i'ch cynnull. eidfa chwi wr a modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd un tlawd mewn dillad gwael Ac edrych o honoch ar yr hwn sydd yn gwisgo y dillad gwychion, a dywedyd wrtho, Eistedd di yma mewn lie da a I dywedyd wrth y tlawd, Saf di yna, neu eistedd yma is law fy ystol-droed i: Onid ydych chwi dueddol ynoch eich huiiain ? ac onid aethoch yn farnwyr meddyliau drwg ? JJ A mhrofiad i ydyw fod y sglein darfodedig a munud awr sydd ar y sofren a'r fodrwy aur wedi dallu llygaid yr eglwys nes ei bodi hi'n methu a gweld y sglein dragwyddol ac i barhau sydd ar gymeriad a duwioldeb pan dywynno hwnnw allan o garpiau a llwytni gwisg a gwedd. Fe blygais ifymhenigryfach meddwl a helaethach dysg a glanach calon a chymeriad na hynny bach sy gen' i o'r pethau gwerthfawr hynny,-do, bob amser, ac a wnaf eto ymhob man lie bwyf ond am blygu i lwch y llawr, er iddo fod yn llweh aur, na wnaf bylli nid i hynny y rhoes Duw yr asgwrn cefn yma imi ond i blygu iddo Fo yr Hwn a'i gwnaeth, ac a roes imi dipyn o for a chymal o'i fewn i'w gadw rhag cracio wrth blygu. Hen fyd anwastad enbyd ydyw hwn—hyd yma felly, ac yn ddigon ffol i roi bri byrhoed- log ar ami i goegyn a hoeden, gwag eu clop os llawn eu llogell, a goddef i'r rheiny sbio i lawr ar was a morwyn, ar grefftwr a gweithiwr, fel y bydd ambell china vase o'r parlwr yn sbio i lawr ar botyn pridd o'r gegin. Ond fe adwaenwn i ami i hen lestryn pridd, sydd wedi ei gyd-dymheru a Gras, a'i gylchu ag anfarwoldeb ein, Brawd Hynaf, na chracia fo byth, ac a ddeil dan yr Angau a'r Farn heb golli'i liw na'i waelod. A dyna ddau dan na fyddant fawr o dro'n deifio'r tipyn hardd- wch gOfod brau a theneu sydd ar y china vase. Mi glywais fod y Gloyn Byw yn sbio i lawr ar y Wenynen. Rhad arnat, y pryfyn dwl! Cofia, 'r gwalch, mai dim ond tipyn o gyn- rhonyn ydwyt, ac mai yn y domen faw a sgarthion y'th aned ac y byddet byw cyn iti gael y par adanedd yna i ymgodi a hedeg oddiyno i olwg y byd a phan golli di'th ddwy aden, mai i'r un domen yn union y disgynni eto'n ol. A chofia hyn,hefyd, wnei di ? :—mai gwibio i ddangos dy hun a hel dy fel i'th fola dy hun yr wyt ti bob amser, nac yn malio botwm corn am adael y tamaid lleiaf ar d'ol i'r un pryfyn ddaw i sipian y blodau ar d'ol ond am y Wenynen, hen greadures wledig a phlaen iawn ei dillad yw hi rhagor y Gloyn amryliw na hidiwch mo hynny, y mae hi'n hel mwy o'i mel i chwi a finnau lawer nag a heil hi iddi'i hun; a phe cawsai hi ddod i'r seiat i ddweyd ei phrofiad, hon fuasai'i hadnod wrth dynnu ei cholyn allan Ereill a hel- iasant, a chwithau a aethoch i mewn i'w cwch hwynt." Gwelaf fod fy nodyn yn mynd yn faith ac fod Y BRYTHON bach yn dechreu llifo tros- odd, ac felly y rhaid i minnau ddibennu ar ganol darfod. Ond cyn gwneud, y chwi Loynod Byw beilchion sy'n sbio i lawr arnom ni'r Gwenyn diwyd os plaen ein dillad, goddef- wch hyn o rybudd a d'rogan y mae Byd Arall ar ol hwn ac y mae lie i ofni y bydd llawer iawn, iawn ohonoch chwi wedi colli'ch dwy aden erbyn hynny, a disgyn i domen y Wlad Isaf, ac yn sbio i fyny o'r fan honno. Y tlod- ion yn yr Ysbryd fydd yn sbio i lawr o'r dydd hwnnw allan. Llygad y Wawr. J.H.J. o
Moe'r 8vd yn Gwella I
Moe'r 8vd yn Gwella I Are YOU one of the deputation, Bishop ? —Mr. Asquith, in his private room at H| the House of Commons on Wednesday, March4, to the Bishop of St.-Asaph.1 1. AETH Ymneilltuwyr Dyffryn Clwyd,. Pwy ddydd, i weled Asquith, A'u traed yn rhwym o fewn y rhfJJyd- Gan ddisgwyl cael ei fendith Hullo ebr Asquith, what is this ? It needs some explanation Why, Bishop dear Are YOU among This solemn deputation ? Mae'r byd yn gwella—pwy a wad ? O'r diwedd daeth y fraint Bydd gorfoleddu drwy'r holl wlad— Mae'r Esgob gyda'r sciint 2. Gymanfa Fawr !—cyhoedder lii, Yn ymyl Plas yr Esgob Daw'r miloedd yno'n siwr i chwi O'bob rhyw wlad yn Ewrob Am ddeg, St. Asaph fydd mewn hwyl Yn dechreu'r cwrdd "—heb fethu A chyfyd twysog tal yr Wyl— Brynsiencyn "—-i bregethu; Mae'r byd yn gwella, etc. 3. Am ddau, bydd Esgob Bangor Fawr Yn dweyd ei stori'n Saesneg Ac ar ei 01, Cymraeg--am awr— Gan Tecwyn Evans fwyndeg. Am bump (sef oedfa extra'r Wyl), Bydd Stanley Jones a Dyfrig Ac odid fawr na cheffir hwyl Ar hon—a mynd nodedig. Mae'r byd yn gwella, ote. 4. Am iaith, yr Archddiagon Lloyd Fydd ar y maes yn dechreu," Ac E. T. Jones-y ffresia' 'rioed— Bregetha ar ei oreu s Ac ar ei ol, fe ddeffry dawn Shon GorfJ" yn John Týddewl A'r miloedd ar y maes yn llawn 0 hwyliau can ddidewi Mae'r byd yn gwella-pwy a wad ? O'r diwedd daeth y fraint Bydd gorfoleddu drwy'r holl wlad- Mae'r Esgob gyda'r saint PRYDXDD Y WAWR. -0-
[No title]
SEREN GANU.-Y mae seren ganu new- ydd yn dechreu'disgleirio tua Sir Fon yma, sef Mr. Ifor Thomas, mab fferm ym Mhentraeth, canysy fo enillodd un o'rpedair ysgoloriaeth agored yn y Royal College of Music, Llundain' ddydd Sadwrn diweddaf, a hynny oddiar naw cant o ymgeiswyr o bob parth o'r deyrn- as. Efrydwyr o'r tufewn i'r Coleg enillodd y tair arall, ac Ifor oedd yr unig un o'r tuallan. wyddodd. Syr Hubert Parry, Syr Walter Parrett, a Syr V. Stamford oedd y beirniaid, ac un o facwyaid Mr. E. D. Lloyd, Bangor,yw'r canwr newydd. Rhyfeddol o lais ac eang ei gylch," ebe'r 'athro amdano.
FEL BO'R HWYL.
FEL BO'R HWYL. I [GAN FEUDWY CAERLUDD.] I Yn Sant Paul Nos Iau. GYDA chysondeb difwlch er 1894 yr ydvs wedi cynnal oedfa gorawl Gymraeg yn Eglwys Gadeiriol y Brifddinas i goffa Dewi Sant felly fe gyrhaeddodd y gyfres ei llawn oedran yng Ngosper 1914, a gynhaliwyd yn yr hen adail fawreddog nos Iau ddiweddaf. Ysgrif- ennydd yr Wyl ydyw Mr. J. E. Davis (Clwydian), organydd Eglwys Gymraeg St. Benet. Nid oes neb a wnaeth fwy, os cymaint a Mr. Davis tuag at Iwvddiant y cynulliadau hyn. Yr oedd yn aelod o bwyllgor cyntaf 1889, a bu'n arwain y cor am rai blynyddoedd. Nid yn fynych y gwelais y Gadeirlan yn Hawer llawnach n.a heno. Beth dynnodd y torfeydd pobl yno ? Ai o warogaeth i Ddewi yr ym- dyrrent tua gorchestwaith Wren ar noson waith ? Ai dyhewyd cenedlaethol neu sel eglwysig oedd yn eu cymell ? Neu bresenol- deb y prelad o Lanelwy ? Neu ynteu gerdd- oriaeth llais ac offeryn ? Er cryfed ysgogydd oedd pob un o'r rhai hyn, y cryfaf oil, efallai, ydoedd yr olaf a enwyd ac ato ef y cyfyngir y sylwadau hyn. Am awr cyn dechreu, caf- wyd detholiad offerynol gan Seindorf y Grenadier Guards, o dan arweiniad Dr. A. Williams, yr hwn hefyd a arweiniai rannau cerddorol yr holl oedfa ac unawd ar yr organ gan Mr. R. Meyrick Roberts. Yr oedd per- fformiad y seindorf yn deilwng o'i bri ond os oedd un darn amlycach na'i gilydd, T Rhyfelgyrch o Parsifal" oedd hwnnw. Cyfansoddiad nodweddiadol iawn o Wagner ydyw hwn, gyda'i symudiadau mawreddog a rhwysgfawr, cyfoethog, yr un modd mewn alaw a chynghanedd ac ni chollid dim o'i effeithiau cyffrous a gorwych yn y darlleniad gorchfygol a gawsom. Ac am y Flying Dutchman Overture fwy adnabyddus, a chwaraewyd ar ol y gwasanaeth, yn yr hon y ceir disgrifiad byw o dymestl ar y weilgi, gellid dweyd yr un peth ymron. Yn yr unawd i'r organ, "Toccata in F" (Widor), dernyn trwm ei ofynion ar ddwylo a thraed, gwnaeth Mr. Meyrick Roberts gyfiawnder llawn a'r gwaith, a danghosodd lwyr feistrolaeth ar yr offeryn mawr ei adnoddau. Y mae efe wedi ennill lie anrhydeddus ymhlith organwyr* y Brifddinas, ac wedi bod yn brif organydd yr Wyl er 1904. Agorwyd yr oedfa ag Emyn Gorymdeithiol Gwyl Ddewi ar don o waith Mr. Meyrick .Roberts, wedi ei hysgrifennu mewn a,rddull diatonic, sylweddol ei chynllun, ac urddasol ei symudiadau, gyda brawddegauhyf, cryfion, a hawdd eu canu, y cyfryw a lyn yn y meddwl ar unwaith, a'r cyfan yn dra addas i'w hamean. O'r tonau a ganwyd, hon oedd y fwyaf diddorol i mi, a chafodd ddatganiad ysbrydlawn ac effeithiol. Yr anthem oedd Wrth Afonydd Babilon (Gounod), ond rhaid addef fed ymdrechion y Cor, yn hon a thrwy'r oedfa, yn cael eu gorbwyso gan gyfeil- iant y seindorf, a ymylai yn fynych ar fad yn drystfawr. Pan gafwyd cyfle unwaith yn yr anthem i glywed y cor yn briodol, fe'm tarewid i gan ansawdd ragorol a phurdeb y Ileisiau, yn enwedig y ddeulais uchaf. Rhoddodd y cor, a rifai oddeutu 175 o leisiau, gyfrif da ohono ei hun ym Magnificat a Nunc Dimittis gwych Barnby, yr hwn a gafodd le anrhydeddus yn yr Wyl fel unig gynrychiolydd yr ysgol ddiweddar o gerddor- ion eglwysig Lloegr ond nis gellir manylu ar y datganiad am y rheswm a grybwyllwyd eisoes, canys yr oedd pa ragoriaethau neu ddiffygion neilltuol bynnag a berthynai iddo i raddau mawr yn guddiedig i'r gwrandawvr. Y tonau ereill a ganwyd oedd Prydain (J. H. Roberts), "Capel y Ddol (J. D. Jones), Caerdydd (Dr. J. Parry), a "Hyfrydol" (R. H. Prit. chard). Ac ar ddiwedd yr oedfa, Hen Wlad fy Nhadau," Ar Dwysog Gwlad y Bryniau," a God Save the King." Gwelir fod y gerdd- oriaeth, yn ei gwahanolffurfiau a'i nodwedd- ion, yn amrywio'n fawr, a diau ei bod yn apelio at chwaeth amrywiol y gwrandawyr ond ymddengys i mi fod yr ymgais hon i foddloni pob math ar chwaeth ynddi ei hunan yn ymylu ar fod yn drosedd ar y chwaeth a'r farn oreu. O'r hyn lleiaf, gwell gennyf fi fu- asai llai o gymysgedd, a mwy o unoJiaeth. Cefais fy siomi yn y canu cynulleidfaol. Ni ddisgwyliwn am ragoriaeth gelfyddydol oddiwrth dyrfa mor fawr a chymysg, ond disgwyliwn iddo fod yn llawer mwy cyffredinol ac y buasai cyfuniad torf o leisiau, er iddynt fod heb eu hyfforddi, yn gwneud argraff ddofn arnaf. Yr unig gasgliad y gallwn ddyfod iddo oedd fod cyfartaledd mawr o'r gynull- eidfa yn Saeson hollol anghydnabyddus & thonau Cymreig. Credu yr wyf fi y gallai yr Eglwysi Cymreig yn Llundain wneud gwell defnydd o'r adnoddau cerddorol sy gan- ddynt mown helaethrwydd, ac y eeid diwygiad buan ac amlwg pe newidid ychydig a,r y cyn- lluniau ystrydebol a ffyn yn eu mysg.
Advertising
-&SONS, O'R MWG I'R MYNYDD. Llithoedd Go). y Brython Oddicartref 24 O LUNIAU ENWOGION CYMRU. 170 ttidal."f,2s. 6e. o'r Swyddfa hon a ol: an pob Llyfrwerthwr.