Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
USEFUL AND ACCEPTABLE Presents OF VERY RELIABLE HIGH FASHIONABLE DM JEWELlERI Saving fully 10/- in every ? SPECIAL VALUE. OUR LIST POST FREE. Davies's, 30 Low Hill RAILWAY ALLOWANCES TO CUSTOMERS FROM A DISTANCE. Close to Hippodrome and Olympla. EARLY CLOSING ON WEDNESDAY AT 1. Pearl & Peridot Gold Pendant Davies's Price P, 1/19/- Usual 15 LATEST DESIGN, Beautiful Circular real Orienta PEARLS AND PERIDOT PENDANT 1-in. diameter with pearly loop, lustrous gems, most charming jewels Also Solid 15-carat Pearl and Tourmaline Pendant, rich gems; Sale Price, £ 2/5/ usually £5. Also 15- Carat Diamond and Pearls, with pearl drop; Our Price, £ 3/19/0, originally S9. I Diamond 18-ct Watch Bracelet Davies's Price £ 13/18 Usualf35 SLIGHTLY SECOND-HAND, indistinguishable to new 18-ct. Sold Gold fashionable, latest Self-Expanding bars. Lever Watch Bracelet, surrounded with 30 BRILLIANT DIAMONDS, finest quality, pure white; Sawless, intense fire and lustre; Highest-grade move- flawlessA, CCURATE TIMIST. Warranted 30 ye?rs; rare bargain. Also magnificent 18-ct. Diamond and Ruby Self-Expanding Watch Bracelet, fine quality; Our Price £ 13/19/ usual £30. Also Superb Diamond and Emerald ditto; Our price £ 18/10/ regular price £50. All warranted time keepers. SALE PRICE ACCURATE WATCH BRACELETS. Various Diamond Jewellery Usual Price Our Price. <9 DRESS STUD, Gent's Single-stone First-water DIAMOND Winbina- Q "I Q tion Pin or Stud, rare lustre, I 15-carat Claw set jES DIAMOND BROOCH, beautiful 15-carat, latest split bar, set with 3*flawless^ Diamonds in cross-over Q/1Q/ style. ?/i?/' £ 21 BARRINGS, Exquisite, DIA- MOND CLUSTERS, selected white gems, rare lustre, platinum set lQ/lft/- swing drops, 18-carat gold wire. Laj 1U/" f,87 DIAMONDIWATCH BRACELET, 18-carat gold' 30 finest gems, Highest-grade Lever, full- jewelled movement Guntimist 1 Q /I Q Bargain. 10/lO/~ &66 BROOCH, Triple DIAMOND &USTF,li 27 large first-water flawless stones, platinum bar 29/10/- 11 in. long. Usual £ 2/10/- Davies's Price 25/- Gold Curb & Padlock Bracelet Fashionable massive flexible Curb and Padtock Solid Gold BRACELET, stamped eve, y link (the widest at the price), complete in velvei ase). Also ditto at 29/6, usual £3. Also the following BAR- GAINS IN "BASKET" PATTERNS at l(J I- redue- tion in every Y., as follows :-261- 35 ) 55/- also very fine 9-bar "Basket" Bracelet now 93 /12 16 usual 97. Reliable and undoubted quality only. Approval. Payments. Over 200 Brarelet., to e eetfrom. >; GOLD BRACELETS 10/- LESS l.N L'HE £ Lady's Diamond Half-Hoop. LARGE SECOND-HAND 6-STONE HOUR PRICE. DIAMOND RING, Olaw-Set "CORO- NET," Latest, intense lustre, 18-ct. ni A/lCl ?nd Platinum Also large 3-STONE .3C L t 1U? /1 i0/" DIAMOND "CROSS-OVER" RING; t Our Price £ 18/10/ usual E3. Also USUAL SQUARE CLUSTER DIAMOND RING, 5-stones Our Price £ 14/17/- pQI usual &38. Also very large 2-STONE 21 DIAMOND CROSS-OVER RING, White Stones; Our Price £ 35/10/ usual JE66. SAVING 10/- IN EVERY JE. 18 Ct. Diamond Engagement Rings. Usual Price. Price. is DIAMOND AND SAPPHIRE Half-hoop. stylish 7-stone service 1Q/C able claw-setting, IS-ct. lu/O U DIAMONDS AND SAPPHIRES 5 gems, heavy 18-ct. Half-ho o p; 1 all lustrous gems; rare bargain.. S'i/O/J" -94 DIAMONDS, 5-stones. Half-hoop stylish claw, 18-ct. gold, double-cut £ ] /ifl/ ?ems; rare fire and lustre ~1/1U ?5 DIAMONDS, 6 nrst-water large lustrous gems, fine white quality heavy solid 18-ct. claw half-hoop others at 921101-, 12/12/ and n Q ICI .E2 /15 *'? U/~ ;£8 DIAMONDS, fine 5-stone large diamonds, each gem of great £ Q /117 beauty, heavy 18-ct. gold claw set.. <*»ia/ XII fA DIAMONDS, 5-stone,very lustrous gems, first w$ter, carved stylish rQ/Tfl claw s, t 18-et XQ/JLU/ is, DIAMONDS, 5-stone platinum "Coronet," h&lf-hoop white clean lustrous gems, very high grade, £ Q/l CiL latest desIgn. Daviess Miscellaneous Bargains. Usual Price SOLID GOLD ONLY Our Price. 21/-NECKLET, Diamond Out Links 10/6 20/-LOOKET, oval, engraved, hall-marked 7/6 21 /-SIGNET RING (Gent's) shield, heavy 9/6 20/-LINKS, oval, engraved, hall-marked 8/11 17 /-SIGNET (Lady's), shield top, strong. 7/6 18 /-PIN, real Diamond centre. 9/6 18/-PIN, real Diamond,centre 9/6 93-BANGLE RING, 18-ct. wide, heavy 12-SIGNET (Gent's), 18-ct. 8olidgold shield.. 18 aO/-BROOOH, real Diamond centre 10/- 85 /-BRACELET, stiff, wide, engraved 16/6 SO-DIAMOND A Sapphire 3-stone Scarf Slide 35 £ 10-PIN-STUD, Diamond & Sapphire Cluster.. S4 /12 99-WATCH BRACELET, Russell's Solid Gold Lever. jH-t-BRAOELET, 15-ct. band, 3 Diamonds £ 6/18/- 18-ct. Diamond and Rubies.£13/18/- Heavy4 t ucky Wedding Rings 22-OARAT PURE GOLD. Special 20/- Special. (USUALLY 27/9). AvPresentation with each Ring. DAVIES'S, 30 LOWHILL, Liverpool.
i?0 Big y Lleifiad.
i? 0 Big y  Lleifiad. E P, Y R I'N I'A L U'l? PWYTH—- Y mae Cyfrinfa Gwynedd (Laird Street);a Chyfrinfa Eryri (Liscard Road) yn gyfeillion mynwesol, ac yn arfer ymweld y naill a'r Hall er mwyn cynhesu'r ddwy aelwyd Ian, dros Sobrwyddd a Themlyddiaeth Dda. Bu Gwynedd ar aelwyd Eryri 'does fawr yn ol a nos Wener ddiweddaf, dyma Eryri hithau'n talu'r pwyth yn, ol, gan ddod a'i doniau canu ac adrodd gyda hi, sef y Brodyr Tom Roberts, W. R. Williams, Cadwaladr Williams, Misses Molly Williams, Isabella Williams, Sarah Ellis, a Miss C. L. Williams, A.L.C.M., yn cyfeilio. Rhaglen dda, a rhai pethau Cymreig a naturiol dros ben, heb eu difetha na'u dileu gan grefft na theatrwch yn y byd. Diolchwyd i bobl Eryri gan Mr. John Evans, Glenart, ac ere ill a diolchwyd i blant Gwynedd fiwythau am eu harlwy de a danteithion gan Mri.Thos.a Wm. Jones. Bobl Eryri, rhowd y tecel] ar y tan, canys fe fydd teulu Gwynedd yna ar eu cythlwng gyda hyn, ond nid mewn dau gerbyd mor uchel a chodog yr olwg ag oedd gan fyddigions Eryri. -<s~ ¡ MEICHIAFON BIRKENHEAD- Y mae'r tusw Cymru sy'n codi tani am gael Eisteddfod G-enedlaethol 1916 i Birken- head wrthi'n brysur yn hel y mil punnau sy raid ei gael fel meithafiaeth wrth ymbil am yr wyl. Dyma'r prif feichafon gaed hyd yma Mr. Thos. Davies, Devonshire parlc .EIOO Mr. David Evans, Cynlais .£100 Mr. Wm. Thomas, Treflyn £ 50 Mr. Gomer D. Roberts, Alfred Road. £ 50 Mr. R. Roberts, Glasfryii E20 a jiiaws o feichiafon degpunt, nes fod hanner y fil bellach wedi ei addo. Gwelir oddiwrth yr hysbysiad niewn colofo arall fod cyfarfod cyhoeddus i'w gynnal wythnos i heno (nos lau, y 19eg), a hyderwn y daw Cymry'r dref ynghyd yn gryno i hyrwyddo'r mudiad a rhoi y Cais yn dog ar y gweill. I TYNNWCH AT Y BWRDD- I Y mae gen i ddwy wledd i'ch gwahodd iddynt yr wythnos hon gwledd lenyddol yng nghyntaf, sef i wrando G-wili'n trin Ein Hen Benhillion Telyn ni'1' Cymry yn y Gym- deithas Genedlaethol nos yfory (n.os Wen.er), a beth felysach tan haul na'r rheiny, pan y'u trinir gan wr mor gyfarwydd ac mor lawn o'u hanian. ? Gwledd gerddorol yw'r ail, sef yng nghapel Douglas Road, nos Sadwrn nesaf, i wrando'r Elijah gan Gor Mr. Sam Evans, a cherddorfa a chynorthwywyr unawdol enwog led y wlad, dim ond i chwi sbio ar yr hysbysiad ar tudal. 8. Hwn fydd y pumed oratorio i'r Cor ei pherfformio, a gwych y gwnaeth bob tro. Caiff yr hyddysg 0. W.H. ddweyd ei farn amdanynt yn ei Golofn Gan a Cherdd. Dyna'r ddwy wledd i chwi ac yn awr, tynnwch chwithau at y bwrdd yn lluoedd. I GOREU GORCHEST ACHUB. Yn Swyddfa Cwmni'r White Star, ddydd Llun diweddaf, cydnabuwyd Capten I. W. Christie a'r Prif Swyddog Wm. Hughes o'r Cornishman, llong yn perthyn i'r White Star, gan y Liverpool Shipwreck and Humane Society, am eu gwaith yn achub dwylo'r Banshee oedd ar suddo yn y Werydd ar yr 17eg o Ionawr. Cyflwynwyd iddynt Fedal Arian. y Gymdeithas, ynghydag Anerchiad Addurnedig. Hefyd cyflwynwyd Barometer tra gwerthfawr i Mrs. Hughes. Mr. Hughes oedd a gofal CWcll y bywyd arno, ac a antur- iodd i for tra thymhestlog ar nos dywyll, ac a achubodd y dynion oedd ar ddarfod amdanynt ar fwrdd y Banshee. Brodor yw Mr. Hughes o Nefyn, a'i haniad o deulu parchus yno, ao a fu'n byw hyd yn ddiweddar yn Bootle, ond yn awr ym Mristol. GYFUNWGH Y DDAU I I ddyn sy'n berchen tfydd, ei grefydd yw'r "peth cryfaf sy ganddo. SI ddyn sy'n berchen cariad, ei grefydd yw'r peth goreu "sy ganddo. Yn eisieu, cyfuniad o'r ddau.Y Parch. O. Lloyd Jones, M.A., B.D., Bootle, yn Laird Street nos Saboth ddiweddaf, anfonedig gan lanto. CANU'R CYMRIC- I Yr oedd ein cynrychiolydd galluog a hy- ffor(id,G. W.H. yn gwrando C6r y Cymric yn eu cyngerdd blynyddol nos Sadwrn ddiweddaf ond oblegid y dreth drom sydd ar ein gofod yr wythnos hon, yr ydys yn oedi ei nodion hyd y rhifyn nesaf. I MAOWY AID Y BRIFYSGOL I Y mae'r hanner cant neu fwy o efrydwyr Cymreig sydd ym Mhrifysgol Lerpwl yn bur lawn o'r tan Cymreig, ac yn inynd lawnach o hyd. Y mae un olionynt-Mr. J. Wesley Felix, mab y Parch. J. Felix (W.), Spellow Lane-wedi ysgrifennu drama, Rhys Rhydd- erch tan ei henw, ac a'i perff orrnid gan y rhain nos Lun ddiweddaf yn y Gilmour Hall, Beaufort Street :-Rhys Rhydderch (a Labour leader), J. Rhaiadr Jones Dafydd Rhydderch (his father), G. ap Gwilym Jones Gwen Rhydderch (his mother), Miss Gwen, Hunt Myfanwy (his sister, in love with Owen Puw), Miss Frances M. Thomas Owen Puw (lover of Myfanwy), John Williams Huw Puw (his father), R. R. Evans Eluned (his sister, in love with Rhys), Miss Dorothy Ewing Goron- wy ac Arthur, dau fyfyriwr, J. Saunders Lewis a Watkin Owen A Nonconformist Minister, F. Oswald Evans Sir Robert Montague (landlord and master of the works), J. R. Cumming Steward of Sir Robert, Aneufin Williams The Village Bard, Gwilym P. Jones Jack Wirion (the reputed Village Idiot) R. M. Jones Workmen, W. Parry, W. R. Rowlands, H. Morris Jones, F. Aston Village Women, Misses M. Myfanwy Howells, Kate Mitchell, Elsie Wyndhf^rn. Gwnaeth y merched eu rhan, yn bur dda at ei gilydd, ond anghofus o'u geiriau ac amrwd eu hystum oedd y brodyr gan mwyaf, ac wedi rhuthro i'w chwarae cyn codymu digon a'r grefft. Andwywyd darnau goreu'r ddrama gan draethiad diysbryd a charbwl rhai o'r ehwar- aewyr. Dymunol fuasai manylu, ond 'does mo'r lie. Caed canu ac adrodd o'r blaen gan Mri. Aneurin Williams, J. S. Parry, J. A. Davies, a Miss F. M. Thomas, etc., tan lyw- yddiaeth Mr. W. Garmon Jones, M.A.—Yn y ddadl fiyuyddol, agored i fyfyrwyr y Brif- ysgol, a gynhaliwyd nos Wener ddiweddaf, enillwyd y double event (am yr araith oreu a'r atebiad goreu) gan Mr. Gwilym P. Jones Miss Dorothy Edwards a Mr. Fitch yn ennill y ddwy wobr ail a Chymro arall, Mr. Glyn Lloyd, yn y gadair. Y beirniaid oedd y Prifathro Dale, y Barnwr Thomas, a'r Proff. Moore. BLWCH Y CASaL- Dyma englyn byrfyfyr y t: ladel gasglu yng nghyfarfod cystadleuol Stanley Road :—■ Y badell hon heb oedi-a gynnwys Gannoedd o bob cyfri' Ar hyd y Sul rhaid sylwi Mai ladel i hel yw hi.-Ar LLEYN. Pethau'r Cyfarfod Misol. I YN Crosshall Street, Mawrth 4, y Parch. J. Owen yn y gadair. Daethai llythyr oddiwrth y Parch. Wm. Owen o Switzerland, yn diolch am gyd- ymdeimlad y Cyfarfod ag ef, ac yn tystio'i fod yn dal i wella.Estynnwyd croeso cynnes i fugail newydd Eglwys Woodchurch Road-y Parch. W. O. Jones.—Coffhaodd y Parch. J. D. Evans a Mr. Robert Thomas am y di- weddar Mr. R. W. Jones (Diogenes), a'r Parch. R. Aethwy Jones, M.A. am y diweddar Mr. Hugh Hughes, Newsham Park.—Penod- wyd cenhadon i glywed llais Eglwys Fitz- clarence Street ar ddewis rhagor o flaenoriaid. —Caed fod Mr. Ifor Hael Jones wedi ei ddewis i'w ordeinio eleni gydag unfrydedd.— Caed anerchiad gan y Parch. E. Griffiths, Meifod, ar ran achos Cymraeg Wolverhamp- ton, a dewiswyd y Parch. J. D. Evans yn ysgrifennydd y casgliad at yr achos, a Mr. Robert Thomas, Garston, yn drysorydd. Y mae Hog blynyddol y ddyled sydd ar y ddiadell fechan a neilltuedig honno'n drigain punt.—Caed trafodaeth ar bwnc newid adeg Cymanfa'r Sulgwyn- Awgrym y pwyllgor ystyriodd y pwnc ydoeddhyn fod cael pleid- lais ddirgel ymhob eglwys ar y peth, a hynny yr un nos Sul ymhob eglwys. Rhanedig oedd barn y cyfarfod heno, ac anfonwyd y cwestiwn yn ol i'w ail ystyried gan y pwyllgor. —Cwynai Pwyllgor Undeb y Canu Cynulleid- faol fod mil o lyfrau tonau'r Gymanfa heb eu gwerthu, a chymhellent y Cyfarfod Misol i gefnogi'r cais am Lyfr Tonau newydd i'r Cyfundeb. Oedwyd ystyriaeth bellach hyd y cyfarfod nesaf.—Caed adroddiad diddorol am y gwaith cenhadol a wneir yn rhannau isa'r ddinas. Ni agorwyd ystafell newydd yn 1913, ond galwyd sylw at gynnydd y boblog- aeth Gymreig yn nhueddau Old Swan, a'r tebyg y bydd eisieu cangen-ysgol yno.— Danghosai adroddiad Pwyllgor Lleol y Gen- hadaeth Gartrefol fod mwy o angen nag erioed am ofalaeth am y Cymry sydd ar daen dros swydd Lancaster a dosbarth Cleveland a Durham.—Penodwyd pwyllgor i gyd-weith- redu a swyddogion Stanley Road gyda threfnu gogyfer a'r Gymanfa Gyfiredinol yr wythnos olaf ym Mai nesaf. Y DIWEDDAR MR. HENRY HUGHES- Bu ef far N bore dydd Sadwrn diweddaf, yn 45 Walton Hall Avenue, wedi troi ei bedwar ugain oed. Arferai fyw yn 41 Rockfield Road, a bu'n flaenor y gan yng nghapel An- field Road a'i chyr-eglwysi yn Walmsley Street a Cranmer Street, am yn agos i hanner can mlynedd. Ymneilltuodd o'r swydd honno ym Mai, 1907, pryd yr anrhegwyd ef a thysteb gan aelodau'r eglwys, yn cynnwys tua chanpunt o arian ac anerchiad hardd. Byddai Cor Cranmer Street, tan ei arweiniad ef, yn fuddugol beunydd, ac yr oedd y reddf gerdd- orol yn hynod o gryf ynddo yr oedd yn ddoeth cystal ag yn fedrus, a phob amser yn ei le'n brydlon ddifwlch. Cleddid ddoe (ddydd Mawrth) ym Mvnwent Anfield Road. Gwasanaethwyd yn ty gan y y Parch. John Owen, ac yn y capel ganddo ef a'r Parch. Stanley Rogers (yn Saesneg), a chan y Parch. O. Eilian Owen a Mr. TforHael Jones wrth y bedd. Sylwodd y Parch. John Owen ddarfod i Mr. Hughes fwynhau gweini- dogaeth ddihafal y Parch. Henry Rees am flynyddau lawer. Yr oedd yn wr tawel, doeth, a diwylliedig ac yr oedd y ffaith iddo ddal swydd bwysig codi canu am gyhyd o flynyddau yn brawf o hynny. Byddai ei farwolaeth yn golled fawr i'r eglwys a chyd- ymdeimlent yn ddwys a'r teulu, ac yn eu mysg a'r mab oedd yn awr ar ei ffordd adref o New Zealand. Yn Lerpwl y ganwyd Mr. Hughes, ac yr oedd ei atgofion, cerddorol ac ere ill, am gorau ac amryfal symudiadau Cymreig y ddinas, yn rhai diddan a melys iawn eu clywed. Cy- hoeddasom dwysged ohoDynt adeg ei ym- neilltuad o'r set ganu yn Anfield Road yn 1907. Dyma'r prif alerwyr :-Miss Hughes, Mr. Henry Hughes, Mr. a Mrs. Williams, Mr. Ed. a Rd. Hughes, Miss Williams, Mr. Wm. a Ll. Williams, Mr. David Jones, Mr. Harry Will- iams, Mr. Lewis H. Jones, Mr. W. a Jas. Venmore, Dr. Jas. Edwards, Mr. J. Herbert, Mr. John Edwards, Mr. Rd. Williams, Mr. R. T. Williams, Dr. Davies, Mr. John Owen, Mr. Evan Williams, Mr. Harry Williams. Mr. Llew Wynne, &c. Cludwyd yr arch arJ'ysgwyddau Mri. Thos. Williams, D Richards, J. Thomas, T. O. Morris, J. Hughes, Wilfred Jones, Edmund Lloyd a Mr. P, Lloyd Jones, Stanley Road, ofalai am yr angladd. 0
I DAU TU'R AFON. I
DAU TU'R AFON. I TRINITY ROAD.—Chwefrol 27 a'r 28, cynhaliwyd Sale of Work yn yr Ysgoldv uchod, i dynnu canpunt arall o'r ddyled. Trodd allan yn hynod lwyddiannus, gwnaeth pawb eu rhan yn ewyllysgar tuag at gyrraedd y nod mewn golwg, yn neilltuol felly ein parchus weinidog. Prawf o hyn ydyw iddo gasglu dros £40. Fe gydsymudwyd yn well y tro hwn, a bu cynhygiad bra'wd caredig o'r gymdogaeth, yn addaw y degpunt olaf o bob cant, hyd nes y dileir y ddyled, yn gryn ys- brydiaeth i'r eglwys. Dyma drefn y gweith- rediadau ddydd Gwener. Gweddiwyd gan y Parch. O. L. Roberts, Tabernacl. Unawd gan Miss Sally Evans, Stanley Road. Cad- eiriwyd gan J. Edwards, Ysw., Rock Ferry, ac agorwyd gan Mrs. Evan Morgan, Liverpool. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyngherddau a chy- merodd y rhai a ganlyn ran y Trinity Road nV.) Sketch Party canu penhillion, Miss Enid Parry a Mr. J. D. Roberts unawdwvr, Miss Winifred M. Jones A.L.C.M., Mri. Tom Owen a W. T. Lloyd dadl, Mr. E. Thomas a Francis Jones adrodd, Mr. J. Doyle. Dydd Sadwrn. Gweddiodd y Parch. Rhys T. Will- iams. Unawd, Miss Dallas, Calcutta. Cad- eiriwyd gan W. O. Thomas, Ysw., ac yn absen- oldeb O. Evans, Ysw., Park Road—yr hwn a luddiwyd i fod yn bresennol oherwydd afiech- yd yn y t?ulu—agorwyd gan Salmon Evans, Ysw., Park Road. Cyfeiliwyd y ddau ddiwrnod gan Miss L. Kyffin Williams. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyngherddau. Cadeir- ydd, J. Holland, Ysw., gan yr hwn y caed gair a rhodd wir deilwng. Cymerwyd rhan gan y Stanley Road (M.C.) Sketch Party unawdau gan y Misses A. M. Jones, Florrie Pierce, Arabella Jones, Mri. Tom Owen a Rees Roberts canu penhillion, Miss Enid Parry adrodd, Mr. Tom Owe. Dymunwn yma hefyd gydnabod yn ddiolchgar garedigrwydd y trysorydd a'i briod, Mr. a Mrs. W. Owen, Qne?n's road, yn rhoddi'r sweet stall yn gwbl ar eu traul eu hunain. Teimlwn yn wir ddiolchgar i'r brodyr a'r chwiorydd caredig uchod fun cynorthwyo mewn modd liael- frydig tuag at wneud y Sale of Work yn llwyddiant. CAPEL Y WESLEAID, OAKFIELD ROAD.— Nos Lun, yr 2, cynhaliwyd Ymgomwest lwydd- i-annus dan nawdd y Gymdeithas Ddiwyll- iadol, er dathlu Gwyl Ddewi. Canwvd yn swynol gan Misses Maggie Morton a Jennie Williams, a Mri. John James a Humphrey Jones, ac adroddwyd yn effeithiol gan Mr. E. O. Mostyn. Cyfeiliwyd gan Miss M. J. Roberts, a roes ddeuawd hefyd ar y berdoneg gyda Miss Gwen Fraser. Caed perfformiad campus o'r ddrama, Dctvis Aelod Seneddol, gan Gwmni Maesdderwen. Gwnaed popeth yn Gymraeg, a gwisgai'r bonesau a'r bonwyr wisgoedd Cymreig cyfaddas, a rhyfedd mor naturiol yr edrychent. Llwyddasant i greu awyrgvlch Gymreig ac arweinient ein meddyl- iau yn ol i'r dyddiau gynt. Caed lluniaeth sylweddol, a chasgliad teilwng. Daeth tyrfa barchus ynghyd. Teilynga Mr. Llew Cham- bers, ysgrifennydd ffyddlon y Gymdeithas, ran helaeth o'r clod am lwyddiant y cyfarfod. Diolchwyd i'r rhai gymerodd ran gan y Parch. F. E. Jones a Mr. T. E. Simon. EGLWYS DEWI SANT.—Y Sul a'r dydd cyntaf o Fawrth, cynhaliwyd moddion neill- tuol yn yr Eglwys uchod er coffhau ein nawdd- Sant. Pregethwyd fore a hwyr gan y Parch. James Salt, Llandinorwic. Cafwyd oedfaon ardderchog, cynulliadau mawrion, yn enwedig yn yr hwyr, pryd yr oedd yr Eglwys fawr yn llawn, canu da odiaeth, a phregethau grymus. Canodd y Cor, o dan arweiniad Mr. C. E. Williams, yr organydd, yr anthem Yr Arglwydd yw fy Mugail, yn hynod o effeithiol. Llafarganwyd y gwasanaethau gan y Ficer, y Parch. R. D. Hughes, M.A. Y dydd Mercher dilynol, cynhaliwyd y te parti a'r cyngerdd blynyddol. Eisteddodd rhyw 300 i lawr wrth y byrddau oedd wedi eu haddurno yn brydferth iawn, a gwnaeth pawb gyfiawnder a'r danteithion. Cynorthwywyd wrth y byrddau gan nifer liosog o foneddig- esau, rhy liosog i'w ihenwi. Cymerwyd y gadair gan un a fu yn aelod ffyridlawn iawn yn yr Hen Eglwys yn Brownlow Hill, a'r hwn a fu yn, dal y swydd bwysig o warden am flynyddoedd lawer, James Raymond, Ysw. Caed caneuon gan Miss E. Hulme-Jones, Mrs. Howard Stephens, Mr. W. Phillips, Mr. Ralph Smith caneuon digrif gan Mr. F. D. Will- iams a Mrs. R. D. Hughes, priod ein parchus Ficer, yn cyfeilio. Diolchwyd i'r cadeirydd a phawb wnaeth eu rhan i wneud y te a'r cyngerdd yn llwyddiant gan y Ficer a Mr. Charles Williams, yn arbennig i'r ysgrif- ennydd—Mr. Hugh Jones, a weithiodd 4'i holl egni. Yr oedd y neuadd yn orlawn, a disgwyl- iwn swm sylweddol at Gronfa'r Eglwys. CYNGERDD Y CELTIC.—Cynhaliodd Cor Meibion y Celtic (arweinydd, Mr. J. E. Jones, (Pencerdd Tegfan) ei gyngerdd cyntaf yn y Stanley Hall, Bootle, nos Lun, Mawrth 2. Caed cynhulliad da, er fod y Cymry'n go brin rhagor a ddisgwylid Mr. J. R. Barbour, Y.H.,C.D., oedd yn y gadair, ac a areithiodd ac a roddodd. Mr. George Davies oedd yr ysgrifennydd, ac y mae ef a'r arweinydd a'r pwyllgor i'w llongyfarch ar lwydd y cyngerdd ac arddeliad y canu. Miss L. Kyffin Williams gyfeiliodd, ac wele'r rhaglen :—Rhangan, Hiraeth, y Cor canu penhillion, Miss Enid Parry (encor) can a chydgan, Cymru Fydd, Miss Jenny Maldwyn Jones a'r Cor adrodd- iad, Mark Anthony's Oration, Mr. W. C. Hughes can, Lead, kindly Light, Mr. Arthur Hughes deuawd, Arwyr Cymru Fydd, Mri. Tom Owen ac Arthur Hughes can, Sink, red Sun, Miss Elsie Hulme-Jones cydgan, The Crusaders, y Cor detholiad digrif, Mr. J. Salisbury (encor). Cydgan, The Viking Song, y Cor can, Cartref, Miss Elsie Hulme Jones (encor) can, Yr Ornest (encor) adroddiad, Dim Ymenydd, Mr. W. C. Hughes can, Friend, Miss Jenny Maldwyn Jones (en- cor) canu penhillion, Miss Enid Parry (encor) detholiad digrif, Mr. J. Salisbury (encor) can, Cym,ru fy Ngwlad, Mr. Arthur Hughes (encor) cydgan, Soldier's Farewell, y Cor. Hen Wlad fy Nhadau." gPX"1 ^rr^, EGLWYS CHATHAM STREET.—Yn y Cyfar- fod Eglwysig, a gynhaliwyd nos Saboth ddi- t weddaf, hysbysodd y gweinidog, y Parch. R. R. Hughes, B.A., ar ran y swyddogion, eu bod wedi derbyn ymddiswyddiad Mr. J. H. Roberts, Mus.Bac., Cantab, fel organydd yr eglwys. Gwasanaethodd Mr. Roberts yr Eglwys yn hynod ffyddlon a boneddigaidd am oddeutu 17 mlynedd, ac yr oedd bob amser yn ei le'n brydlon, yn barod ac ewylIysgari wneud unrhyw beth er dyrchafu caniadaeth y Cysegr. Y mae enw Mr. Roberts yn dra adnabyddus trwy Gymru fel un o gerddorion galluocaf a blaenaf y genedl, yn enwedig fel cyfansoddwr tonau ac anthemau, y rhai sy'n fawr eu bri gan gantorion o bob enwad trwy'r Dywysogaeth. Fel yr hysbysodd y gweini- dog, yr oedd y swyddogion yn unfryd o'r farn y dylai'r Eglwys yn Chatham Street, ynghyda chyfeillion Mr. Roberts o'r tuallan iddi, wneud rhywbeth mewn rhyw ddull i ddatgan eu teimladau da tuag ato ef yn bersonol, ac i ddangos eu gwerthfawrogiad o'i lafur a'i wasanaeth ef i genedl y Cymry. ^r^ f- ir. CYFARFOD CYSTADLEUOL STANLEY ROAD. -Cynhaliwyd hwn Mawrth 3, y Parch. 0. Lloyd Jones, M.A.,B.D., vn llywydd ac ar- weinydd cyfeilydd, Mr. J. Lloyd Jones beirniad y canu, Mr. J. T. Jones yr adrodd, y Parch. G. R. Jones, B.A.,B.D. ysgrifen- nydd, Mr. J. Alun Williams. Dyma'r budd- ugwyr Traethawd (dros 21), Segurdod Meddyliol a'i ganlyniadau I, J. D. Roberts 2, R. H. Jones. Eto (dan 21), leuenctid, ei fanteision a'i beryglon 1, Miss Nora Griffith; 2, Miss Lizzie Phillips. Arholiadau i rai uwchlaw 25: 1, Evan Thomas; 2, R. T. Williams. Eto, o 21 i 25 1, Richard Davies; 2, Glyn Thomas. Eto, o 16 i 21 1, Miss Dilys Griffiths 2, Miss Jennie Davies 3, Miss Lizzie Phillips. Englyn, Y Gwanwyn Macwy'r Aradr. Cyfansoddi wyth llinell allan o'r emynau ereill 1, R. T. Williams 2, Evan Thomas. Unawd i soprano, F Golo- men TVen 1, Miss A. Mabel Jones 2, Misa Laura Jones. Unawd contralto, Yr Hogyn Drwg 1, Miss Katie Jones 2, Miss Jennie Davies. Unawd tenor, Llwybr y lfyddfa -I Mr. Thomas Owen. Unawd i bass neu bari- tone, Dychweliad y Milwr 1, D. E. Williams 2, W. C. Hughes. Unrhyw ddeuawd: 1, Thomas Owen ac Arthur Hughes; 2, Misses Bessie Richards a Jennie Davies. Un- rhyw bedwarawd: Parti Afthur Hughes a Phar- tiMiss Jennie Davies yn gydradd. Eto, i ganu ar yr olwg gyntaf 1, Parti Miss Laura Jones 2, Parti Tom Owen. Gwybodaeth gyffredinol o gerddoriaeth Evan Davies. Canu pen- hillion 1, W. P. Williams 2, J. D. Roberts. Adroddiad Cymraeg, Yr Ystorm I, W. P. Williams 2, J. R. Jones. Eto, Saesneg, Selection from Julius Caesar 1, Miss Blodwen Griffiths; 2, Miss Myfanwy Hughes. Cyf. ieith-u i'r Saesneg 1, Miss Winnie Jones; 2, W. Pritchard a Glyn Thomas. Eto, i'r Gymraeg 1, Mrs. Williams, Lunt road 2, W. Pritchard a W. H. Williams. Tynnu Hun Castell Caernarfon 1, Owen Jones 2, Alun Jones. Afternoon Tea Cloth 1, Miss Magdalen Griffiths 2, Miss Nora Griffith 3, Misses S. A. Roberts a Lizzie Hughes. LemonlCheese: Miss Nellie Williams. Ladal Casglu 1, O. L. Griffiths; 2, Edward Jones. Gwerth 1 /6 o nwyddau Misses Jennie Lloyd, A. Maysmor Gee, a Myfanwy Hughes a Mr. O. L. Griffiths. Un o athrawon ffyddlonaf Ysgol Sul Stanley- Road (M.C.) ydyw Mr. T. H. Humphrrys, Harrowby Road. Bu gyda'r un dosbarth erx tair blynedd ar hugain, ac anaml iawn, yn ystod y cyfnod maith hwn, y gwelid ei le'n wag. Ddechreu'r flwyddyr hon, fodd bynnag bu dan afiechyd am rai wythnosau. Da gennym ei fod wedi gwella ac ar ei adferiad, cyflwynwyd iddo'r Sul diweddaf, nifer o gyfrolau heirdd gan ei ddosbarth, fel gwerth- fawrogiad o'i lafur dyfal. Da oedd gennym weled Mr. J. C. Roberts, Walton yn edrych cystal wedi dychwel adref, ar ol bod dan driniaeth law-feddygol. Hy- derwn ei welad yn fuan eto gyda'r fasnaeh a'r lliaws gorchwylion dyngar a chrefyddol y cymer ran flaenllaw gyda hwy. Deallwn iddo dderbyn nifer o lythyrau yn cydymdeimlo ag ef, ac yn holi yn ei gylch, yn ystod ei waeledd, rhy liosog i'w hateb bob yn un ae un, a dymuna ar i'r cyfeillion hynny dderbya ei ddiolchgarwch am eu caredigrwydd. Mae Mrs. Seth Roberts, Bootle, yn graddol wella ar ol y tarawiad difrifol gafodd bythef- nos yn ol. Hyderir yn fawr eto y caiff ad- feriad i'w chynefin iechyd. Bu rhai o ieuenctyd y Guild, Eglwys Chatham Street, yn chwarae Ymweliad Tomoe Bartley a'r Bala nos Fawrth yr wythnos hon, sef Miss Chaloner, Mri. Ap. Gwilym Jones, Lewis Williams, ac O. R. Hughes. Y pedwar yn bur dda, ac Ap Gwilym yn Domos Bartley olerog ac i'r dim. Ac o flaen y chwarae, caed rhaglen o ganu ac adrodd gan y pedwar uchod a Miss M. H. Davies, Miss Maggie Hughes, a Mr. Lewis Williams. Diolchwyd i'r doniau gan y gweinidog a Mr. T. Lloyd Jones. Yr oedd yn agos i ddeucart yn bres- ennol, ac wrth eu bodd.
Advertising
Gomerytm o riant. GWERSLYFR I DDOSBARTHIADAU CYMRAEG Wedi ei-ysgrifennu a'i drefnu dan nawdd Undeb Ysgolion M.C, Lerpwl, gan OWEN EILIAN OWEN. Pris 4c.,fdrwy'r post Se. Cyhoeddedig yn Swyddfa'r Brython. Ceinion Rhuddfryn Yn oynnwys pigion o'i englynion a'i gywyddau wedi en dethol gan ANTHROPOS, a than olyg- iaeth ei fab, y Parch. LEWIS MORRIS. Wrexham Ynghyda darlun o'r awdur, a nodiadau bywgraffyddol gan Dr. Cernyw Williams. I Argraffiad Rhad (mewn amlen),|6ch Trwy'r post, 7c, Llian 1/. HUGH EVANS A'I FEIB. SWYDDFAIR « BRYTHON