Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DRINK I 0 OWY R YO TEA. The Tea of Old] Time flavour,
Advertising
USE lEE SELF-RAISING FLOUR The ideal Flour for every kind of fancy Bread and Pastry Scones, &c., &c.
Advertising
Beaty Bros ltd. CELEBRATED TAILORS I CELEBRATED A jrSLJM???I?? THE PREMIER LIVERPOOL FIRM FOR Good Class Tailoring, AT REASONABLE PRICES. IONLY ADDRESSES: London Rd. and Church St., I LIVERPOOL. | Closed on Wednesdays at 1 p.m. Open all day Saturdays. I A yw'ch "1 Llygaid yn eich blino 7 Ywpethau'n troi'n niwlog ac anelwig ? Dyna arwydd a rhybudd llethdod y llygad, a dylech gael eu hedrych rhag blaen eu gwaethygu wna'u hesgeuluso. Gallwn ni gyda'n hoffer gwyddonol ddweyd withych os oes arnoch angen gwydrau ac os felly, eich cyflenwi a't rhai a barai fwyaf o les i chwi. Galwch heddyw: Archer & SONS Eyesight Specialists, 73 LORD STREET, I efvdlwvd 1848. LIVERPOOL- 1 'Phone-3925 Bank. w. mm & soi, TAILORS 29 SOUTH JOHN,ST.,r- LIVERPOOL ALSO AT 349 STANLEY ROADJBOOTLE. Real Welsh Homespuns for Golfing and Fishing, 'Phone-S80:Bootleo Mr. H. W. HELY. I I DANNEDD GOSOD Tynntech Dant, heb yr ias leia o boen efo fiordd Lloegr a'r Amerig. PRISIAU CYMEDROL Y oyngor a'r tolerau yn rhad ac am ddim Foneddigesau i welnl Tellr cludlad cwsmerlald o'r wlad 13 Norton Street, Liverpool (oongl London Road). Oriau,-9 i 7. W- 'Phone, 1436 Royal. v NOW READY, THE NEW WALES: Some aspects of NATIONAL IDEALISM with a PLEA for I Welsh Home Rule. By GWILYM O. GRIFFITH. INTRODUCTION BY EDWARD T. JOHN, Esq, M.P. Price, 6d.; By Post, 7d. Published by HUGH EVANS SONS, 356-8 Stanley Road, Liverpool iSK FOR IDRIS ?Mb J B ?tB? JN JHL ??S? Table Waters In Syphons and Bottles, SODA WATER. POTASH WATER. SSLTSSER WATER. LEMONABM SET GINeliB. ALIS. Btø. eta. IDRIS &Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL ROBERTS a EDWARDS ESTATE' AGENTS, ti4 ICIrEdale Rd., Liverpool Telephone: 2193 Royal.
SUN Y TAFWYS
SUN Y TAFWYS [GAN Y GWYLIWRi I Westminster I Nos Fatin-th, 3 iii. 1914. Hau eu Hefrau. I ER pan ysgrifennais ddiweddaf, mae Ty'r Cyffredin wedi mynd drwy adeg hynod o gythryblus. Danghosais wythnos yn ol fel yr oedd y gwynt yn chwythu a chyn braidd bod y llinellau mewn argraff, yr oedd yr ystorm wedi dod. Ac yn ol deddf yr ystorm, y mae wedi gwneud llawer i glirio'r awyr. Ers wythnosau lawer, y mae'r Wasg Doriaidd bron yn ddieithriad wedi bod wrthi, nid yn unig yn cefnogi'r bwriadau gwrthryfelgar yn Ulster, ond yn hau efrau anfoddlonrwydd, drwgdybiaeth a gwrthwynebiaeth yng nghylchoedd uchaf y Fyddin. Gorchwyl hawdd oedd ganddynt, oblegid tyfiant an- werinol yw y gallu milwrol yn ein gwlad. Cymerasant fantais uniongyrchol ar symud- iadau rhannau o'r fyddin yn y Werddon, a "chwaraewyd i'w dwylaw," fel y dywedir, yn anymwybodol liollol, ni gredwn, gan uchel Rwyddogion y War Office. Nid oes eisieu myned ar ol manylion yr helynt yn awr, digon yw dweyd fod y camddaalltwriaeth, oblegid nid ydyw yn tybio ei fod yn myned ymhellaeh na hynny, wedi costio i ni ym- ddiswyddiad Colonel Seely, ein Hysgrifennydd Rhyfel, yn gystal a Syr John French a'r Cadfridog EWHrt, prif swyddogion yr Army I Connen. -9- I Mynd a"r gwynt o'u hwyliau I Y peth mwyaf peryglus yngl:9TI a'r helynt hwn ydoedd y syniad a orweddai dano, sef demand y Fyddin, neu i fod yn fanwl, Adran ohoni, i oruchreoli'r Senedd a'r Bobl. Teimlai Rhyddfrydwyr ar unwaith fod pethau yn prysuro'n ol i ddyddiau'r Stuarts, os nad i oesau mwy caetbiwus hyd. yn oed 1'a'1' rheipy, a chynhyrfodd eu gwaed. Rhoddodd Mr. John Ward, ca,wr hardd o ddyn fu un- waith yn navvy ac wedyn yn filwr, fynegiant poethlyd i deimlad a ffynnai'n lied gyff- redinol. Yr oedd y Weinyddiaeth yn barod i gyfarfod y teimlad. Eglurodd y Prif Wein- idog yn hollol ddigamsyniol i'r Tý eu barn hwy ar y mater. Ceisiwyd unioni'r tro trwstan fu rhwng Colonel Seely a General Gough, ond yr oedd hwnnw wedi myned yn rhy bell, ac fel yr awgrymwyd 'eisoes, ni cheir Seely mwyach ar y Front Bench. Nid aeth ymhell, dim ond i'r third seat above the gangway, prawf nad yw yn anghytuno a pholisi'r Llywodraeth, onito buasai i'w gael YJll eisteddle'r anedifeiriol below the gangway, lIe y gwelid Mr. Chamberlain, ac ereili o'r anti- Home Rulers yn nyddiau Mr. Gladstone. Y cwestiwn nesaf i'r Prif Weinidog ydoedd pa, fodd i lenwi lie ei Ysgrifennydd Rhyfel. G-wyddid nad oedd y gorchwyl yn un hawdd, ond daeth Mr. Asquith drv/ydclo mewn ffordd dramatic. Pan hysbysodd y Tý prynhawn ddoe sut yr oedd pethau yn sefyll, ychwaneg- odd y newydd ei fod ef, gyda chydsyniad y Brenin, yn bwriadu cymeryd, am ysbaid o leiaf, ysgrifenyddiaeth y Swyddfa Ryfel i'w ddwylaw ei hun. Os oeddeeh ehwi yn Lerpwl yn effro ar y pryd, 'rwy'n sicr y gallasech ddal a chlywed tonnau banllefau'r blaid Ryddfrydol pan glywsant am y penodiad I lei dyna fel y mae hi. Ymddengys fod cymeryd swydd Seneddol newydd—hyd yn oed pan Ola fo tal yn cyd- fyned a, hi, yn ddigon i beri hyd yn oed i Brif Weinidog golli ei sedd. Rhaid iddo fjnied yn ol at ei etholwyr i'w ddychwelyd i'r Ty drachefn. Mae'n anodd esbonio rhesymol- deb y fath drefn,. ond dyna fel y mae hi > ac ar hyn o bryd, er fod Mr. Asquith yn Brif Weinidog ac yn Ysgrifennydd Rhyfel, nid yw yn Aelod Seneddol. Ond ni bydd allan yn hir. Fe'i dychwelir gan East Fife, mor fua,n ag y caniata'r trefniadau, er fod ymgeisydd Toriaidd, gyda'r Inch of chivalry y soniai Mr. Winston Churchill amdano y nos o'r blaen, yn bwriadu spfyll yn ei erbyn. Dywedir heno fod Mr. James Larkin oDdublin yn mynd i wneud yr un peth Ond y mae Fife wedi bod yn ffyddlon i Mr. Asquith mewn llawe etholiad, ac nid yw'n debyg o droi cefn arno yn awr, pan y saif yn uwch nag erioed ym marn ac yng nghalon y blaid Rhyddfrydol. Yn y cyfamser, gofelir am ei waith yn Nhy'r Cyffredin, ni a hyderwn, gan y Canghellor. Ar hyn o bryd, mae'n ddrwg gennym ddweyd fod Mr. Lloyd George yn dioddef oddiwrth y dolur gwddf a'ibliiia ar brydiau, ondy mae'n ol yn Westminster heddyw, a disgwylir y bydd yn abl, gyda pheth ymdrech, i gario ymlaen y gweithrediadau. -0-
Y Master Stroke. I
Y Master Stroke. I ER mawr fendith Aeth General Asquith At lyw'r Fyddin fel melltith- Yn chwyrn, Heb ddim canu cyrn. Rhoes hyn lock jaw I Bonar Law t „ A gwnaeth y Carsiwn Fel ffwl mewn sassiwn A gwnaiff y Gough Yn llai ei sgoff- Ac i weld fod yn rhaid iddo fynd off. YR ARCHFARDD REDIVIVUS. I
O'R DE.I
O'R DE. I [GAN ALBAN]. I Yr Arian yn dylifo i fewn. NID aeth teyrngarwch y glowr ar ddisberod yn ystod oes newydd dylanwadau yr ymgyrch lafurol. Ac er ffested y rhed ei asbri at Saeson parablus a gynhygianteugwasanaeth iddo, nid aeth ffynnon ei wladgarwch pur yn hysbydd. Calonnog dros. ben ydyw hanes llwyddiant ymgyrch caredigion y Llyfrgell Genedlaethol drwv'riDelieudir. raewyddisfod £ 16,000 yn eisieu i gyqaw-iii'r amo(lau erbyn y. chweched o fis Ebrill, a dyma hanes cyfran- iadau y glowr Cymreig yn ei radlonrwydd trwy gyfrwng canghennau ei G-yfundeb (Federation Lodges) :-Dyffryn Ebbw, can giiii Cymmer, can gini Mardy, can punt C'wmaman ac Aberdar, hanner canpunt. Hefyd y mae Cwmni Gwaith G-lo yr Ocean newydd addaw mil o bunnau os llwydd awdurdodau'r Llyfr- gell i gael gan bedwar o Gwmniau Gwaith Glo i gyfrannu'r cyftelyb swm bob un. Cynhaliwyd pwyllgor arbennig Cymdeithas y Cymrodorion, Caerdydd, nos Sadwrn, pan y llywyddodd y Parch. T. Hughes, Minny Street. Rhoddwyd mynegiant eglur o amcan y gwys gan Daniel Lleufer Thomas, Ysw., Ynad Tal y Rhondda, a Syr Rhisiart Mathias —dau sy'n egniol iawn gyda'r gwaith o gryn- hoi cyllid y Llyfrgell yn y De. Penderfynwyd fod y Cymrodorion yn gosod sel eu cymerad- wyaeth ar y gwaith, ac yn ymdynghedu i wneud eu goreu glas gyda chasgiu tanysgrifion o bob cwr o'r ddinas. Ffurfiwyd Pwyllgor i ddewis personau priodol i gasglu. Yn Siambr Masnach Abertawe, fe wnaed apel am gyn- horthwy tuag at y mudiad, a daeth £500 yn rhugl o bwrs Syr Alfred Mond, Seneddwr y Fwrdeis. Dyma ychydig o enwau rhestr Dr. Robinson, Argiwydd Faer dinas Caer- dydd :-£50 oddiwrth W. J. Tatem, perchen llongau; E20 oddiwrth D. T. Davies, Swyddfa Pris Tir, Caerdydd f20 oddiwrth Watcyn Jones, pen y ffirm D. Jones Dickinson a'u Cwmni f20 oddiwrth y Meddyg Mered- ydd Richards, Is-Gadeirydd Dirprwyaeth Yswiriant lechyd. I Ifansiaid y Plas Du. I Gwenithyn pur o hen deulu Plas Du a Phen y bont fawr ym Mhowys—yr Ifansiaid— ydoedd y Parch. David Evans, (A) Heol Awst, Caerfy-rddin, ysbryd yr hwn a ehcdodd i loewach nen pan ar ei ffordd gartref o oloch- wyd bore Sul yn Eglwys Minny Street, Caer- dydd. Ers rhai blynyddoedd bellach, yr oedd ein cyfaill annwyl yn un o ddinasyddion Caerdydd, ac yn adnabyddus i lu sy'n arfer ganddynt gyrchu hyd at rodfeydd y coedfaes hardd a elwir Roath Park. Melys oedd gweld yr hen wron yn mwynhau seibiant diwetydd ar ol ei lafur ffyddlon i'w Feistr a'i enwad parch- us. Yr oedd ganddo drysorfa lawn iawn o hen gofion am wyr a fu'n amlwg ynghorlennydd a diedyll Ymneilltuol oedd gyfoes ag ef. Cyhoeddodd lyfr ryw ddwy fhmedd yn ol ar Ishmael Jones y Rhos a Chymeriadau a Chymanfaoedd Hynod. A pha Gymro nis dygymydd rhamant a hanes crefydd gwlad Gwnaeth Mr. Evans lawer cymwynas ga,redig yn ddistaw. Ychydig wythnosau'n ol fe ddywedodd wrth ei gyfail], Mr. J. E. Jones (Cemlyn), Pan ddaw'r alwad, hoffwn fynd yn y cerbyd buan, welwch chwi." A dyna sut y bu hi. Tarawyd ef gan ergyd y parlys tua chanol dydd, ac yr oedd popeth drosodd"yn dawel iawn tua thri ar gloch y prynhawn. Gedy weddw a mab a merch i alaru ar ei ol, ac y mae cydymdeimlad llu gyda hwy a'i frawd enwog ac oedrannus—yr Hybarch Ddr. Owen Evans. Claddwyd ef yng Nghaer- fyrddin, hen fro ei lafur. Gwasanaethwyd gan y Parch. J. Dyfnallt Owen, ei ddilynydd, ac yr oedd llu o weinidogion. y gwahanol enwadau yn ei arwyl. Wei, Wei, Abertawe Y mae Abertawe, prif gaerfa Gorllewiii Cymru, mewn perygl o golli ei Saboth yn wir, clwstwr o bentrefydd clwm yn ei gilydd ydyw hi ar y goreu. Bvwyd gwledig ydyw nodwedd amlycaf ei thrigolion camp gwyr Shir Gar, Sir Benfro, a'r Siroedd cyfagos ydyn.t y rhan fwyaf, ynghyda mintai gyn- hyddol o Swydd Dyfnaint, Gwlad yr Haf, a llwythi drwyadlwaed Canan. We], y mae tros bedwar cant o siopau Abertawe yn agored ar y Sul. Y cam nesaf a gymerth y Gorffor- aeth i waered ar hyd lleithig lithrig Amhiwri- taniaeth ydyw agor oriel un o'r celfyddydau cain-y Glyn Vivian Gallery—sef cartref crug o gregynach, llestri pridd, a thlws deganau a gasglwyd o boparth y byd bron gan hen granc o foneddwr anffyddol tebyg i hen gymeriad chwerthinllyd Tartarin o Tarascon," a ddisgrifir gan Alphonse Daudet yn ei ehwedi o 'r enw. Agorir yr Oriel by way of experiment, ys rhed geiriad penderfyniad y tadau trefol. Dyma fedi diogi, difaterwch ac esgeulustod Ymneilltuaeth ac efengyl grafangog Eglwys Loegr o'r Ysgol Sul a'i gwaith yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf. Wrth gwrs, peth amhoblogaidd ydyw dweyd felly. Eithr gwir- ionedd ydyw, wedi'r cyfan. Y mae llwydd- iant industrialism yr arda,l wedi magu gwyr gwanwyllt o ddeiliaid yr Ysgol Sul. Dro'n ol, yr oedd angJadd meddyg poblogaidd o Dre- ? g pobloga,idd o Dre- forris yn. cyrchu at fynwent Mwmlws ger y lli, a dywedwyd y pryd hynny n8, wclwyd erioed y fath ffair ar wircdydd ag a welwyd yng ngwestai Mwmlws wedi i'r priddo fynd drosodd. Epil Ymneilltuaeth ariannog a chefnog yn cael siawns i ddangos exi hafiaeth. Felly pa syndod elywecl am sarnu'r -Sul ? Nid gwaith rhyw wraig hylithr i brudd-der fel Casandra ydyw hyn o gwbl, ond ffaith noeth lymun, a goreu po gyntaf y cyfyd Evan Roberts ac ach diwartho. Amryw byd o betbau. Y mae Ffordd Haearn y London and North Western newydd gynnvg telerau i gwmni o wyr anturus ynglyn agestyn llinell hyd at berfedd- wla,d Gwyr. Fe fydd y ffordd yn gainc newydd o Orsaf Killay, ger AbertaMre, yn cyrraedd ddwy filltir ar bymtheg i'r wlad. Nid yw hyn namyn arwjrdd o gytmydd bras y gymdogaeth boblog. Chwi allech feddwl wrth wrando rheswm a damcaniaeth yr ces hon a'i beirniadaeth ar yr hen feirdd, fod ambell un wedi gweled lleuad newydd drwy ffenestr: Gwna it eilun newydd i'w addoli, 0 Gymru fechan Gwnaf, gyda, chroeso, Syr," ebe hi. Pa fath eilun a wnei di fy morwyn bropor i ? 0 y Werin, y Werin a gwae i'r neb a fo diystyr o honno." Ac y mae pob blinwalch aflonydd yn ddibaid ei floedd a'i weniaith iddi. Hoff yw gennyf ddod ar draws enghreifftiau awen a ganodd yr hen feirdd i bobl ddistadl a dinod. Dyma waith offeiriad o Gymro, sef Mohant 1 vorwyn landec ond ei byd yn dylawd. Dyn bur wych nattur ai chnawd—burwyn a barodd ym nychdawd, dyn lanwaith, berffaith, burffawd dyn dlos ond i bod yn dlawd. Wtn. Llyn ai cant Ni bu Nonn ffyddlon er i ffawd-mvn Mair Na morwyn ddibechawd, v Nac un iarlies gynhesgnawd Mor wenn dlos a moiwyn dlawd. Rys Cain. 'Fe ddigiodd y pobydd ryw brydydd cyn dyddiau y one-man strike, ac fe ofalodd gwr yr awen gael cydymdeimlad y crefftau ereill trwy eu canmol. Felly fe osgowyd Syndical- ism yn yr hen amser :— Englynion dychan i bobydd oedd yu, arwain (dwyn) pil Arian yn ei hett. Dwyn pil ith wegil ath ogan—a saif Os yfed yw d'amkan gwell i gwedd koegedd yw'r kan pilori nor pil arian. Da yw'r bwtler kryber ar krydd-ar tailiwr Ar teler ar kigydd da yw braint y gofaint ar gwydd da yw pawb ond y pobydd. GweIl yw bailif sierif siriol-firomatteb A phromowtwas gwrol gwell rringill senedd gweddol gwell klcehydd no phobydd ffol. Os ewyllysiech weled yr angen sy am well trefn a llun ar oscd trefydd a phentrefydd