Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

0 Chwarel a Chlogwvn. i

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 Chwarel a Chlogwvn. Sef o^DdyffpynjNantlle. GAN YSBRYD GLASYNYS. ALEC HENDERSON.—Wedi nychu misoedd mwy na mwy o glefyd blin, bu farw'r hen ganwr gwych, Mr. Alexander Henderson, Talysarn, fore dydd Llun, Mawrth 23ain, yn 50 mlwydd oed. Cafodd gorff lluniaidd tal- gryf, personoliaeth gref, garedig, a llais has cyfoethog eithriadol. Sangodd Iwyfannau'r Eisteddfod Genedlaethol hanner dwsin o weithiau, ac o fewn trwoh blewyn i drechu droior. Meistrolodd y prif unawdau o'r cyfanweithiau, a chanodd lawer vma a thraw drwy Gymru a Lloegr. Daliodd yr elfen gystadlu ynddo'n ddi-ildio hyd y medrodd, ac anodd meddwl am neb fu'n gornestu cyhyd, ac hefyd mor Iwyddiannus. Bachgen hawddgar, poblogaidd, ydoedd, a dyn plaen, didderbynwyneb. Bu'n arweinydd Cor Meib- ion y Dyffryn am rai blynyddau, a chafodd yrfa Iwyddiannus, Mab ydoedd i John ac Ann Henderson (hen filwr clwyfedig yn y Crimea oedd ei dad, ac Ysgotyn o genedl). Chwaer iddo vw'r soprano fwynlais, Mrs. Henderson Jones. Gedy weddw a thri mab mewn galar dwfn, a ilifa cydymdeimlad y Dyffryn atynt. Cafodd angladd tywysog prvnhawn dydd Sadwrn, a rhoed oi weddillion ym Mynwent Macpslah, a'r Parch. William yn gwasanaethu, yn cael ei gvnorthwyo gan y Parchn. J. Jones, Hyfrydle, a M. Williams, Baladeulyn. AIL AFAEL.—Wedi sefyll allan bum mis caled, ail ddechrevta gweithwyr Chwarel Alexandra ar delerau amgenach y Llun nesaf. Ymedy'r hen oruchwyliwr—Mr. Wm. Morris Jones, a ehymorir ei le gan Mr. Edward J. Roberts, Cartrefle, Pen y groes, mab i'r di- weddar Mr. John Roberts, fu'n oruchwyliwr ym Mhenyrorsedd a mannau ereill, ac hefyd bvdd Mr. Henry J. Williams, Gwynfaes, Llanllyfni yn dechreu yno fel swyddog yn I ogystal. EISTEDDFOD YR EGIN.—FN Soar, Pen y groes, y bu honno, dan arweiniad Mr. O. W. Jones, a mil a mwy o'r egin yn mesur cledd mewn afia (h ym meusydd Hen, awen, achan, Mr. R. Eeifion Jones, A.L.C.M., ddaliai linyn mesur v cantorion, a'r Parch. J. Ellis Williams (Bangor) yn cloriannullen ar Cyfeiliai Mr. Gwilym Evans. Trechodd ein bariton hysbys, E. Walter Williams, Talysarn, oreu- gwyr y Sir ar y prif unawd, ac yn cael ewppii arian hardd ac arian Minnie Gould, Folin heli, ac R. 0., Nan tile, yn tynnu torch ar y prif adroddiad (i rai dan 21ain), a'r ferch yn trechu. Allan o bum côr, cipiwyd y llawryf gan gor Arthur Evans, Talysarn, a'r canu penhillion gan Miss Annie Wood Griffiths Yr oedd graen dda ar bethau yma, a llawer o'r swyn hwnnw i'w deimlo sydd wastad yn ein meddiannu yng nghyrddau'r egin. Mr. Jeremiah Roberts, yr ysgrifennydd, biau'r clod am lafur mawr y tro hwn. LLEFRTTIT A HTTFEN ARNo.-Y'mae Mr. a Mrs. Rd. T. Roberts, Caeronwy, Nantlle, yn symud i S--iforth i werthu llaeth. Efe wedi cael profiad fel cowboy ym mhellteroedd gor- llewin yr Unol Daleithiau am ysbaid hir. Nid dyma'r tro cyntaf i rai o'n plant ddod i ddinas Y BRYTHON i ddiwallu ei thrigolion a llaeth. Rhowch groeso cynnes i'r ddau eto, y maent yn ddau hawddgar, yn Gymry i'r earn, ac yn rhoi ilefrith tew ei hufen. CLADDTX HEN-AFGWR.—Sef yr hen amaeth- wr hysbys, William Roberts, Clawdd Rhos, Groeslon, efe'n 73 mlwydd oed. Daeth tyrfa fawr i'w hebrwng ddydd Tau, yn cynnwys tri ar ar ddeg o gerbydau. Adnabyddid ef ymhell ao agos fel ffermwr caredig. Gwasanaethwyd yn ei angladd gan y Parch. E. Arfon Jones E. Powell, B.A., Rehoboth J. Williams, Caergybi T. Gwynedd Roberts D. P. Williams J. Jones, Brynrodyn. Gedy deulu Iliosog, a chydymdeimlir a. hwy yn eu trallod. SNTECFI-DDEKEBTT.—Unwaith yn rhagor tra- mwyir drw\r'r broydd gan ddeiliaid yr Eglwys I i gael gan Ymneilltuwyr arwyddo deiseb yn erbyn Dadwaddoliad. Da chwi, peidiwch ag arwyddo i neb. Os gwnewch, yr ydych yn peidio a bod yn Ymneilltuwyr, ac yn an- wybyddu'r tadau dewr fu'n ymladd galeted dros yr hawl inni benderfynu sut ddeddfau wna'r tro inni drwy'r balot. DTVBLITH MOKDAF,—YD Salem, Llanllyfni, nos Wener, difyr fu gwylio GarnreW Beirdd gan y Parch. T. Mordaf Pierce, Dolgellau a Mr. W. Thomas, Pen y groes, yn y gadair. Rhoed yr elw i deulu Mr. R. B. Williams i leddfu tipyn arnynt yn eu gwendid a'u gwelaedd. Y RHAIN AETH A RI.-Ym Metws Gar- mon, nos Sadwrn, trechodd E. Walter Will- iams gantorion gwych ar y prif unawd a Miss Lisi Jones, Nantlle, yn trechu am adrodd Y Llythyr Olaf. Mr. J. Jones-Owen, Tal y sarn, a feirniadai'r canu yno, a'r Parch. W. Venmore Williams, B.A., yr adrodd. CYNGERDD A SGLEL. ARNo.-Cyngerdd graenus a gynhaliwyd yn, Nazareth, nos Lun, dan arweiniad Mr. O. W. Jones, Pen y groes. a Mr. W. Owen yn y gadair yn lie Dr. Davies' Cyfeiliwyd gan Mr. T T. Powell. Dyma'r talentau amrywiol gymerodd ran :—Misses Maggie Owen, M. Hughes-Jones, Jennie Morris, Mri. J. M. Parry, Rd. Williams, D. D. Jones, Walter S. Jones, acEillion yn adrodd yn wych fel arfer. Diolchwyd gan Mri. J. Hughes a J. C. Owen. Canai'r cantorion yn feistrolgar, a'r cyfeilydd yn rhoi sglein ar bethau. Dyddlyfr llawn sydd gan y Brodyr Francis, Nantlle,—bu'r ddau yn Llanberis nos Iau.

MINION MENAI.

O R BALA.I

Advertising

O'R DE.I