Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
I Ein Oenfidi ym Manceinion.
I Ein Oenfidi ym Manceinion. Dyddiadur, EBRILL 4—0y«aanfa y Gobeithluoedd-ym Moss Side nhadon' y Sul Nesat. Y METHODISTIAID OALFINAIDD. Moss SIDE—10.30 a 6.30, J E Jones, Wolverhampton PENDLETON—10.30, D J Hughes, Lerpwl 6, R Williams HEYWOOD ST—10-30 6,-6, E Wyn Roberts HIGHER ARDWICR—10.30,11 Williams,6 D Jones-Hughes LEIGH-10-30, a 6, FAENWORTH—10.30 a 6. J Edgar Roberts, Didsbury BAEIESTOWN—10.30 a 5.45, WARRINGTON—10.30 a 6, R Parry Jones BLACKBURN— EGLWTS UNDEBOL ECOLES-ll a 6.30, YR ANNIBYNWYR OHOBLTON ROAD-10.30 a 0.15 BOOTH STREET—10.30 a 6-15, M Lewelyn LD DUNCAN ST., SALFORD—10-30 a 6-15, J Morris QUEEN'S ROAD-10-30 a 6-15, T Jones HOLUNWOOD—10.30 a 6.15, WEASTK—10.45 a 6, WW Jones T WESLEAID DeWl SANT—10.30, J David Owens, 6 J M Williams HOEBB—10.30, A IA Hughes. 2-30 a 6, Cyf. Yegol gioit-10.30, 6, J Roger JoneB BBVIoAH-IO.80 J T Ellis, 6, J David Owe: GALVARIA-10.30, J M Williams, 6, E0C6HS—10-30, J Roger Jones, 6.30, Y BEDYDDWYR UF. MEDLOCK ST.-10.30, a 6, J H Hughes LOUGSIGHT—10.30, a 6.30, Ramu's LANE. BUTTON-10.30 a 5.30 COLOFN Y CYFRIN. I (lTMRY BRTVD OLDI-IAM.-Alae gan Gymry Eglwys y Methdistiaid yn Oldham un lu1 bob blwyddyn yn cael ei neilltuo yn Sul Saesneg. Yr oedd y cyfarfodydd y flwyddyn ddiweddaf yn boblogaidd iawn gan y Saeson, ae amryw wedi ymholi amdano'r flwyddyn kon. Cynhaliwyd ef y tro hwn y Sul cyn y diweddaf, Mawrth 22. Yn y capel Cymraeg yr oedd cyfarfod y bore, a'r nawn a'r hwyr yn r Co-Operative Hall, sydd a lie iagos i fil o bobl. Caed cynhulliad rhagorol i bob cyfarfod?? Y Parch. Wynn Davies, Rhos, oedd yxw'n pregethu eleni a'r llynedd, ac felly nid rhyfedd o gwbl gymaint ddaeth yno i wrando. Daeth Maer Oldham-yr Honadur Herbert Wilde— a'i briod i gyfarfod y bore. Hyn yn newydd kollol yn hanes capel Cymraeg y Methodistiaid yn y lie. Daeth y Maer ag amryw o enwogioti ereill y dref gydag ef, a thystient i gyd eu bod wedi cael boddhad mawr yn yr oedfa. Ganodd Mrs. Wynn Davies yr unawd Come unto me, a chaed yr unawd Promise of Life gan Miss Annie Davies o Goleg Manceinion. Hefyd cydganodd pawb y don Aberystwyth ar eiriau Cymraeg, er mwyn y dieithriaid yn bennaf, a chawsant fwynhad mawr. Yr oedd cerddoriaeth yn cael lie amlwg yng nghyfarfodydd y nawn a'r hwyr, a Mrs. Wynn Davies, Miss Annie Davies, a Mr. Arthur Griffiths, Bury, yn cymeryd rhan. Ganodd yr olaf Honour and Arms, a When I survey, a Miss Davies Lead. tfcindly Light ac Abide with me, a Mrs. Wynn Davies, Light in darkness a'r Holy City. Cynorthwywyd hefyd gan yr Oldham Harmonic Male Choir, dan arweinia jl Mr. Henry Hannam, a chanasant amryw weithiau, ac ymysg y darnau yr oedd The Long Day Closes a'r Haleliwia (Handel). I Anerchiad fer a roddodd y Parch. Wynn Davies yn lie pregeth yn y prydhawn. Mae eymaint newydd-deb yn ei feddyliau ef nes y mae"n rhaid gennyf gael dweyd un sylw o'i eiddo, a dyma fe Sail ei sylwadau oedd Yn y dechreuad," geiriau- cyntaf y Beibl aid oedd yn cyfarfod a llawer o bob! oedd eisieu Duw yn y dechreu, ond yr oedd pawb o'r bron eisieu Duw yn y diwedd. Anogai'n gryf am i'r bobl ieuainc geisio Duw yn y deohreu, gofalai Duw Ei Hun fod yn bresennol TO y diwedd. Bu'r cyfarfodydd' yn llwyddiannus iawn ymhob ystyr. Caed dros E26 o gasgliad. Yr oedd pawb yn dotio at ddatgania.d eithr iadol dda Miss Annie Davies ond ran hynny, felly y mae'n canu ym mhobman, ond nid yw waeth ei ail adrodd. Cyfeiliwyd gan Miss Ceinwen Williams, A.L.C.M., Ardwick. -0" CYNGERDD.-Y-r oedd cynhulliad lied dda yn y Milton Hall nos Sadwrn, er nad oedd y Neuadd yn hollol lawn. Yno yr oedd syngerdd perthynol i Fasar ddyfodol yr Bglwysi Annibynnol. Siomedigaetli a barodd absenoldeb yr Arglwydd Faer i fod yn gadeir- ydd, gwaith gorfodol dinesig a'i cadwodd draw. Yn y rhifyn diweddaf, dywedais mai yn 1896 y cawsom Faer y dref yn gadeirydd eyfarfod, y tro diweddaf; oherwydd na ohyflawnwyd yr addewid yn y cyngerdd hwn,- mae'r anrhydedd yma gydagenw ein diweddar gydwladwr, yr Henadur J. F. Roberts, yn parhau i fyned ymlaen eto. Canwyd yn y oyngerdd gan Madam Cissie Thomas, soprano Madam Josephine Williams-Lewis, contralto; Mr. D. R. Jones, baritone Mr. Evan Lewis, tenor. Hefyd daeth Miss Freda Holland gyda'i thelyn, a chafodd gystal cymeradwy- aeth o guro dwylo ag a ddymunai unrhyw un gael. Ar ol ei Serch Hudol, bu raid iddi ddod yn ol, a thipyn o siom oedd n a f u.asai'n ufudd hau i ddod yn ol y tro olaf. Ond chwarae teg i'r ieuanc. Ydyw, mae Cymry Manceinion yn hoffi Freda. Bu raid i'r cantorion ereill ail ymddangos droion. Dechreuwyd cyng- erdd gyda phedwarawd Regular Royal Queen, a chaed y pedwarawd Good Evening ar y diwedd. Cafwyd y ddeuawd, Watchman, what of the nigle, t gan y ddeuddyn, a 'r ddeuawd, Miserere gan y soprano a'r baritone, ac hefyd Life's dream is o'er, farewell, gan y contralto a'r tenor. Mae enwi'r cwbl o'r unawdau yn ormod, ond ychydig mewn cymhariaeth a gaed yn Gymraeg. Camgymeriad a oerodd sê] y gynulleidfa oedd i ganeuon y rhaglen i gyd fod yn Saesneg. Bu un neu ddau o'r eantorion yn ddigon craff i weled hyn, a ehanu Cymraeg yn lie Saesneg unwaith neu ddwy, ac ychydig weithiau yn encor. Tuagat ennill brwdfrydedd calonnog cynulleidfa o Gymry Manceinion mewn cyngerdd, rhaid i'r He cyntaf gael ei roddi i Gymraeg ond dealler nad Cymraeg i gyd, o angenrheidrwydd. Yr oedd cynnal cyngerdd lied faith fel hyn drwyddo gan y pedwar datganydd, a gorfod ail ganu'n ami, yn dreth drom ar eu lleisiau, ond gwnaethant a allent yn dda. Cyfeiliwyd gan Mr. Aneuryn Roberts, L.L.C.M. Mr. H. O. Davies, Fallowfield, oedd yr ysgrifen- aydd, ac un o'r rhai goreu a mwyaf diwyd gyda chyfarfodydd cyhoeddus o lawer math yw ef. Y GWYR BLAEN.Y ddau fydd yn ■agor Sale of Work yn Eglwys Gymraeg ya Ysgoldy y Methodistiaid UndeboI, yn-Oxford Road, fydd J. D. Hughes, Ysw., ddydd Gwen- or, ac Arthur LI. Jones, Ysw., Stretford, I ddydd Sadwrn. GW ADAL."—Wrth holi'r Ysgol ym < Moss Side, y Sul diweddaf, ar Heb. vi, gan Mr. Wm. Parry, Bolton, daeth at y gair dianwadalwch ac wrth ofyn ac egluro, danghosodd y buasai yr hen air "gwadal" gwadalwch," ypllawergweUna r gair gyda'r ddau flaenddod iddo fel y mae yp yr adnodau. Gwnaeth Thomas Charles yr un camgymeriad. yn y pennill hyddysg hwnnw sydd a'i linellau fel hyn,- Dianwadal yw'r addewid, Cadarn byth yw cyngor Duw, etc. Heb arfer cryn lawer, dichon mai tipyn o orchest fyddai i ni ganu y llinell fel hyn,— Gwadal, gwada] yw'r addewid. Mae'n bryd i rywrai ddechreu cywiro iaith y Beibl bellach, rhag fod y plant yn dysgu'r geiriau anghywmddysgodd y tadau i'r teidiau o'u blaen.
- I Ffetan y Gol. I
Ffetan y Gol. Cofted pawb fo'n anfon i'r Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei genau:- NITHIO'B GAU A NYTHU'R GWIR. Drwg a Da'r Ddrama, At Olygydd Y BRYTHON. Syp.Mewn atebiad i W. Crewe, credaf na bydd galw am i unrhyw un draethu dros nac yn erbyn y ddrama. Nid wyf broffwyd na mab i broffwyd, ond mentref dd'rogan y bydd y ddrama a'i holl gysylltiadau wedi trengu o farwolaeth naturiol, a'i lie nid edwyn ddim ohoni inwy" cyn y cyrraedd stage cyntaf troadau bywyd. Mae cymaint o sothach yr hen genedl yn ei mynwes fel nad oes bosibl i ddiwedd gwahanol ei goddiweddyd, a da fydd hyn yn ei hanes. Caersws. JNO. MEIRION EVANS. Ffrwyned ei wawd, At Olygydd Y BKYTHON. [" Oddeutu 15 mlynedd yn ol, adeiladwyd Cangell uwchbon bedd y Diwygiwr enwog yn Eglwys Llangeitho. Ond O'R TUALLAN i f-Liriaii'r Llaii y'i cladd- wyd."] SYR,—A'r hin yn rhyfeddol iawn o oer heno (Nos Sadwrn, Mawrth 2 lain) ar ol dychwelyd o'r farchnad, dyma ni fel teulu bychan, yn wraig a'r plant a minnau, yn eistedd yn gym- fforddus ac yn ymdwymo o flaen tan clir a goleu, heb nemor o ddim arall i'w wneud ond difa'r amser hyd nes deuai'r adeg i fynd i orffwys am y nos. Ond tra yn mwynhau ein hunain fel hyn mewn gwres a seguryd, dyma gnoc wrth y drws, gan y crwt sy'n gofalu dyfod a'r unig bapur Cymraeg sy'n dod i'r dref, neu o leiaf yr unig un y gwn i amdano, sef Y BRYTHON. Fel arfer, aeth yn hwyl fawr ar unwaith wrth fynd i gwmni'r ymwelydd wythnosol sy'n cynnwys newyddion diddorol o boparth yr Hen Wlad, ac yn ein gosod mewn amrantiad megis ynghanol mwyniannau gwlad ein genedigoeth. Pa fodd bynnag am hynny, darllenais yn fuan iawn gyda bias benhillion prydferth John T. Job o dan y pen uchod. Do, darllenais hwy'r ail waith. Do, a'r drydedd waith, a'r drydedd waith honno daeth rhyw ensyniadau i'r golwg. Awgryma o'r tuallan mewn llythrennau breision y cleddid o'r tumewn i'r Llan, ac fod Daniel Rowlands, wrth gael ei gladdu o'r tuallan" yn beth eithriadol, ac o ganlyniad yn, sarhad a dirmyg ar goiff marw Cerbyd Israel pennaf ei oes. Ond os ymddygwyd yn amharchus at gorff maiw Daniel Rowlands, pwy oedd yn euog o hynny ? Gwyddom mai ei fab ei hun oedd rheithor y plwyf ar y pryd, ac mae'n annichonadwy i ni gredu yr ym- ddygai efe yn amharchus at ei dad enwog,- pwy ynteu oe(ld vn gyfrifol am y sarhad awgryma'r geiriau mewn llythrennau breision gan y bardd ? Atebed drosto'i hun. Yn llinell gyntaf ei ail bennill dywed y bardd,.— Fe'th hyrddiwyd di o'th Eglwys. Ac wrth s6n am y Gangell gain, gofjmna Pa euog law a'i cododd ?- Ai'r Haw a'th hyrddiodd gynt ? Baich cenadwri'r uchod yw ddarfod i Daniel Rowlands gael nid ei droi allan o'i Eglwys, eithr ei "hyrddio" allan ohoni; ac os do, a wna John T. Job roddi gwybod i ddarllen- wyr Y BE YTNON gan bwy y gwnaed hynny, pa bryd ac yrnha le 2 A oes synnwyr i ofyn Ai'r Haw a'th hyrddiodd gynt ? os na olygai mai awdurdodau'r Eglwys fu'n euog o hynny, ac mai epil yr unrhyw gododd y Gangell gain uwch ei feddrod, a thrwy hynny ymdrechu taflu dash bychan o wawd- iaeth ar Eglwyswyr Llangeitho 15 mlynedd yn ol oblegid ni allasai'r llaw a'i hyrdd- iodd allan yn y 18fed ganrif adeiladu'r gangell gain ar ei esgyrn ym misoedd olaf y ganrif ddilynol. Os yw'n bosibl, eglured y bardd ei hun, a seilied ei hun ar dystiolaeth gadarn a sicr, yn gyson a ffeithiau hanes anghyfnewidiol y gorffennol, ac nid ar sail traddodiadau disail a chyfnewidiol oes ar r ol oes, a phob cyfnewidiad yn cymylu'r ffeithiau yn fwyfwy o oes i oes. Eto i Gymru dlawd Daeth Iachawdwriaeth Rad. Unig ystyr hyn yw, nad oedd y fath beth a phregethu "Iachawdwriaeth Rad" yng Nghymru cyn i Ddariel Rowlands gael ei "nyrddio allan o'i Eglwys," yr "hyrddiad hwmiw eilw'r bardd John T. Job yn flawd," a'r ffawd honno, yn ol yr un awdurdod (?) fu'n achlysur i ddod a pheth newydd sbon i Wlad y Menyg Gwynion, sef pregethu lach- awdwriaeth Rad i dlodion Cymru. Pa synnwyr sydd mewn canu fel hyn, canu a sylfaenu'r gan (dlos ddigon ynddi ei hun) ar sail ddisail ? Disgwyliwn, hyd yn oed i fardd —gyda'i holl ben-rhyddid—i fod yn ffyddlon i hanesiaeth, a rhwymo'i ddychymyg rhag rhedeg i ormod rhysedd, a thrwy hynny frad- ychu ei anwybodaeth. Yn wir, hawdd i fardd ganu sentimental ballads ar ryw ddych- ymyg gwyllt a dilywodraeth, ond pan eir i ganu a sylfaenu'r unrhyw ar yr hyn a gymer (drwy anwybodaeth) fel ffaith, dylid fod bob amser yn barod i ategu hynny, neu beidio a I rhuthro fel y gwna march neu ful heb ddeall, yr hwn y mae'n rhaid atal ei en a genfa, neu beidio a chanu ond i'r hyn sydd o fewn'terfynau gwybodaeth sicr y cantwr. Heb lid na brad, HUMPHREY DAVIES. Barrow-in-Fusness. Pwy biau'r Fyddin, ys gwn i ? I SYR,-O'r diwedd, y mae ystryw Toriaid y I Bendefigaeth yn noeth o flaen llygaid y I Deyrnae ¡ Ers rhai blynyddoedd bellach—a'r ddwy flynedd ddiwedda'n arbennig—y maent yn Hechwraidd wedi bod yn gwenwyno a llithio'r Fyddin—-er mwyn herio Deddfwr- iaeth Prydain. Ond y mae Helynt Curragh (yn y Werddon) wedi bradychu'r ystryw, y gwneuthur y Cynllwynwyr yn wawd i'r bod gwareiddiedig Tra yr oedd y Prif Weiniagd. digymar, Mr. Asquith, yn symud ymlaen yn oialus-a hynny yng ngoleuni'r Cyfansoddiad Prydeinig—yr oedd Toriaid Tý'r Arglwyddi ynghyda'u clymblaid ynfyd yn Nhy'r Cyff- redin,yn ceisio'u goreu feddiannu'r Fyddin o'u plaid hwy. Ac ni fu'r fath frad a hyn erioed yn hanes y Deyrnas. Nid yn fuan yr anghofialr wlad araith arnoeth gwr o safle'r Arglwydd Roberts beth amsei yn ol yn Nhv'r Arglwyddi, i'r cyfeiriad hwn—" A most mischievous speech," chwedl y Manchester Guardian amdani fore trannoeth. Yn awr, dyma gyfle Gwerin Gwlad i brotestio-a dwyn ynfydion balch Ty'r Arglwyddi ar eu gliniau, a phrofi unwaith ac am byth iddynt mai trech gwlad nag arglwydd. Gymry, o bob dosbarth,—yn Fasnachwyr, Ffermwyr, Glo- wyr, Chwarelwyr, etc.a oddefwch i'r anfadwaith hwn barhau ? Y mae'r allwedd i'r fuddugoliaeth yn eich llaw. Cofiwch nad Ymreolaeth naDadgysylltiad yn gymaint yw'r cwestiwn yn awr ond yn hytrach seiliau cymdeithas a Deddfwriaeth ddilwgr. Na thwyller chwi mwyach gan nac Arglwydd Tir na Bragwr na Thafarnwr, nac Esgob, na gweniaith undyn byw. Eiddo pwy yw'r Fyddin—dyna'r pwnc! Cofier, y mae pob sail i gredu ddarfod i'r Brenin weithredu'n berffaith amhleidiol. Sicrhewch chwithau'r Orsedd-drwy eich gwroldeb yn yr argyfwng presennol. Oni chofiwch Ryfel ynfyd De Affrig-Rhyfol y Miliwnwyr Toriaidd—a gost- iodd i'n gwlad, heblaw miloedd lawer o fyw- ydau gwerthfawr, gymaint a E250,000,000 ? Ac onid y Blaid Doriaidd sydd wrth wraidd mwyafrif mawr Rhyfeloedd Prydain 0 Brydain Gristionogol pa cj hyd y'th dwyllir gan y ddelw aur ? Mawrth. 27, 1914. TEYRNGARWR. Llestri'r Trysor. I Mae rliywboth newydd yn yr ardd bob dydd, Mae'n arlun im' o ddatguddiadau ffydd Sy fythoedd yn darganfod pethau gwell Ym myd yr ysbryd—byd y pur, y pell. Nos yw 'r dydd sy'n cadw'r ser o'r golwg, A dydd yw'r nos sy'n gwneud y nef yn amlwg. ISLWYN. SYR.—Cyfrol newydd ei chyhoeddi yw Llestri'r Trysor, ar Feirniadaeth Feiblaidd, a hwyrach y goddefir inni alw sylw darllenwyr Y BRYTHON ati. Hanes neu grynbodeb yw cynnwys y llyfr o'r hyn a ddysgir yn lied gyffredinol gan feirniaid Beiblaidd cymedrol yr oes hon mewn gair, Uwch-feirniad- aeth." Efallai nad oes fawr o angen am esbonio i ddarllenwyr Y BRYTHON beth sydd i feddwl wrtho. Er hynny, gwell sylwi yn y fan yma fod dau fath ar feirniadaeth-yr Uwch- a'r Is-. Arferai'r hen dad annwyl, y diweddar Mr. Rhys Ellis, Garston, adrodd sylw a glywsai gan y diweddar Brifathro Thomas Charles Edwards ynglyn ag astudio'r Beibl. Eglurai'r Prifathro y gwahaniaeth cydrhwng y dull Dosrannol" a'r dull Cyfosodol o esbonio yn yr Ysgol Sul, ac mi goeliaf mai go debyg yw'r gwahaniaeth cyd- rhwng Uwch-" ac Is-feirniadaeth." Y mae'r "Is-" yn ymdrin a. thestyn a gra- madeg y Beibl, ac hefyd ceisia sicrhau ffurf wreiddiol yr Ysgrythyr (h.y., yr ysgrifau), tray ceisia Uwch-feirniadaeth ddarganfod yr amseriad ac hefyd amgylchiadau achlysur eu hysgrifennu. Hyd y gwn i, ychydig iawn sydd gennym ni y Cymry wedi ei ysgrifennu ar y pwnc, hyd yn hyn. Yn 1908, cyhoedd- wyd ail argraffiad o gyfrol fechan, yn Saesneg, gan y Parch. T. Rhondda Williams, yn dwyn y teitl Shall we understand our Bible ? ac yn fuan wedyn cafwyd cyfieithiad Cymraeg ohoni gan y Parch. Ivan T. Davies, Llandderfel, a'r fiwyddyn ddiweddaf ymddanghosodd cyfrol Saesneg o waith y Parch J. Puleston Jones, M.A., dan y teitl Until the Day Dawn. Llestri'l: Tryso.r--Bl1w cymwys iawn, onite ? ac y mae n amlwg mai yr adnod sydd ar y wynebddalen a'i hawgrymodd ("Eithr y mae gennym y trysor hwn mewn llestri pridd II Cor. iv, 7). Y mae'r llyfr yn "gyflwynedig i'r diweddar Barehedig John Hughes, D.D. (Glanystwyth), cyfaill yr ieuanc, awdur Oesoedd Bore'r Byd, a chroesawr pob goleuni." Syniad hapus iawn eto. Y mae yn y llyfr dair ar ddeg o ysgrifau, a'r cwbl wedi eu hysgrifennu mewn ysbryd addfwyn a gostyngedig ac mewn Cymraeg sy'n bleserus dros ben i'w ddarllen, a gellir ychwanegu fod y golygiadau'n gymedrol iawn. Y mae'r Parch. Thomas Hughes yn bur adnabyddus i ni yn Lerpwl. Dyma ychydig o'r hyn a ddywed ef yn y Rhagarweiniad nad ydyw y golygiadau (a goleddir gan Feirniaid diweddar), o'u hiawn ystyried, yn lleihau dim ar werth gwirioneddol y Beibl, eithr yn hytrach yn ein cynorthwyo i gael golwg gliriach ar "ei ragoriaethau Ond hyd yma yehydig a elwodd Cymru oddiwrth y Feirniadaeth Feiblaidd a adwaenir wrth yr enw anffodus-' Uwch..feirniadaeth.' Hyd yn ddiweddar, anfynych y cyfeirid ati o gwbl yn ein cyhoeddiadau crefyddol, oddigertli i'w gwrthwynebu a, dant ac ewin. Ac os digwyddid cyfeirio ati yn y pulpud ambell dro, ond, odid mai amcan y sylw fyddai rhoddi hergwd iddi a gosod fi choleddwyr ymysg gelynion y Ffydd Canlyniad yr Uwch- feirniadaeth a'i hymchwil ydyw gwneu- thur yr Ysgrythyrau yn ddengwaith mwy gwerthfawr a goleu. Hebddi y mae rhai rhannau o'r Hen Destament yn gwbl annealladwy. Yr hyn y mae'n rhaid dwyn Cristionogion i'w weled ydyw mai mewn bywyd, mewn meibion a, merched wedi eu bywhau trwy Grist, y ceir y prawf goreu o ddilysrwydd ein crefydd. "Y mae'r Hen Destament, o'i iawn esbonio, yn dra gwerthfawr i'n hysbryd a'n deall ac y mae'r Testament Newydd yn werthfawrocach fyth. Ond nid hyd yn oed yn hwnnw y mae sylfaini'n crefydd Yr oedd profiad crefyddol yn bod cyn ysgrifennu'r Testament Newydd, a'r profiad hwnnw a'i cynhyrchodd." A garo'r hen Feibl, prynned gopi o Lestri'r Trysor. Gra«sendale. V G. GRIFFITHS.
Advertising
LIVERPOOL HE Shaftesbury, Mount Pleasant About 4 mins. walk from Lime st & Central Stations AFirst-cle,ssTemperan. Hotel, moderate charges, Tele. "Shaftesbury Hotel, L'pool." 'Phone: Sl'83 MORRIS [VAS' HOUSEHOLD OIL. the never-failing Remedy FOR Rheumatism, Sciatica, Lumbago lifc Burns Scalds, Cuts, Bruises dc ALWAYS HANDY IN THE HOME ITS CURITIVE POWERS ARE WONDERFUL. Get a Bottle at once from yonr Grocer or ChemiB Price l/l £ d. Q 2/6 Or direct from- MORRIS EVANS & Co., THE MANUFACTORY, FESTINIOG, N. WALES. Balls' Wedding Rings. Guinea Gold Wedding Rings from 7/6 to 60/ Half dozen Best Electro-plated Spoons given to eheh purchaser of a ring. BALL'S LUCKY WEDDING RING DEPOT, 33 LONDON ROAD, LIVERPOOL Finger Size Card post free. -1 If you want The most Comprehensive POLICIES AIID THE BEST TERMS. write for particulars to The Gresham LIFE, FIRE, AND ACCIDENT Insurance Offices. Head Office: ISSt. MildredslHouse Poultry, LONDON. E.C. Branch Office GI 41Exchange 8'1 d a LIVERPOOL JAMES H<.SCOTT( General Manager. I Furniture. Furniture. Furniture. DO YOU WISH TO BUY RELIABLE MADE GOODS AND YE AT LEAST 7/6 IN THE £ ? Call direct to Charles Bros. Wholesale Cabinet- makers and Upholsterers where you will get all goods at FIRST COST, and you will save the middleman's profit. A call to our Showrooms and Works will convince You. Hours: 9 to 8. Saturdays 9 till 1 GOODS MAnE TO YOTTR OWN DESIGN. SATISFACTION GUARANTEED. Charles Bros., 22 School-Lane (BACK OF CHURCH STREET), LIVERPOOL N.B.-We have a large Stock of BEDROOM SUITES and SIDEBOARDS, and will sell same  the usual prices. Goods stored free— CHARLES BROS. Y LLADMERYDDam 191 Cylchgrawn Misol yr Ysgol Sabbothol. Dan olygiaeth y Parchn. Evan Davies,Trefriw T. E. Davies, Abertawe; Proffessor D. Jenkins, Mus. Bac., Aberystwyth. Pris Dwy Geiniog y Mis, Cynhwysa y Rhifynau o'r Lladrnerydd" am y Flwyddyn 1914. Erthvglau ar bethau Beiblaidd Gen y personau canlynol Parchn. J. Morgan Jones, Caerdydd; John Owen Anfield, Liverpool; J. E. Davies M.A., Llanelli D. Hoskins, M.A., Caernarfon W. Evans. M.A., Pembroke Dock; J Puleston Jones. M.Ac.. Pwllheli., W. B. Prytherch, Abertawe; J. Pritchard, M.A., B-u., Llanberis; R. J. Rees, M.A.. Aberystwyth; Proff. R. Mo,ris, M A., B.D. Griffith Hughes, B.A., Bethesda, J- Talog Davies, Liverpool; Dr R. Roberts, RhualJt; D. L. Rees, B.A., B. U., Aberaeron M. H. Jones, B. A., Ton Peter H.,ughes Griffiths, Llundain; M1. John Rowlands, M.V.0 Caerdydd. ac eraill. Pregethau Esboniadol ar yr Epistol at yr Hebreaid. Gan y Parch. D. Charles Davies. M.A. Ymson ac Ymgom Gan y Parch. Peter Hughes Griffiths Llundain. Ein Pobl Ieuainc: Gan y Parch. W. E Prytherch, Aber: tawe, Nodiadau Amrywiol: Gan y Parch. Evan Davies, Tref- riw Hefyd, rhoddir lie arbenig i'r Nodiadau a1' Faes Llafur Undeb YsgoJion Sabbothol y Methodistiaid Cal- finaidd. sef y rhan olaf o Esboniad ar Yr Epistat yr Hebreaid, Gan y Parch. T. E. Davies. Darnau Barddonol, &-c. Tonau Newyddion, kc ymofyner a r Cyhoeddwr-B. W. Bvans Velgellmu NOW READY.-479 pages, Cr. 8vo. Sold by all Booksellers and the Railway Bookstalls. THE North Wales AND CHESTER OFFICIAL Year Book for 1914. Paper cover 2s. net. Cloth Covers 3s. net. A handy reference book for North Wales includ- ing full information relating to County. Municipal, Urban Districts, etc., Churches & Chapels, Schools, Associations, etc., also "WHOS WHO" in North Wales. LITTLEBURY BROS., Publishers, 3 Crosshall st, Telephone 6785 Central. Liverpool. ¡ SemsfyM g Plant. GWERSL 5TFR I DDOSBARTtHADAU CYMRAEG Wedi ei ysgrifennu a'i drefnu dan nawdd Undeb Ysgolion M.C, Lerpwl, gan OWEN EILIAN OWEN. Pris 4c.dt'wy'r post Se. Cyhoeddedig yn Swyddfa'r Brython. YN AWR YN SAROD. CWIKR y LLEN Ysgrifau syml ar a Faterion Gwyddonol GAN GWILYM OWEN, M.A. D SC. Athraw mewn Athroniaeth yn Ngholeg y Brifysgol Auckland N.Y. (gynt o Goleg y Brifysgol Lerpwl). Llian 2/6. HUGH EVANS & SONS, Swyddfa'r Brython. DWY CHWAREIGAN (Action Songs). "Y Milwyr Bychain." (LITTLE SOLDIERS). "Y Mamau Bychain. (LITTLE NURSES) Gan PEDR ALAW. Tonic Solfa. 2d. yr un. Hen Nsdiant, 6d. yr|un. Cyhoeddedig gan HUGH EVANS A'I FEIBION, SWYDDFA'R BRYTHON. Moses: O'r Cawell i'r Mor Coch. Drama at wasanaeth iGobeithluoedd a Chyfarfodydd y Bobt leuainc. MAE y ddrama uchod wedi ei pher- fformio dro ar ol tro yn ysgoldai Capeli Cymraeg Lerpwl, ac mewn llawer man yng Nghymru, ac yn para i ennill ffafr. Mae y medr gyda pha un y gweithiodd yr awdur rai o'r hen alawon Cymreig iddi wedi ei gwneud yn hynod boblogaidd. Ail Argraffiad, Pris 4c. Hugh Evans & Sons 358 Stanley Road, Liverpool. Pence Envelopes FOR CHURCH COLLECTIONS Good Quality. Correctly Numbered by Special Machine. Hugh Evans & Sons, 'Brython 356-8 Stanley Road L'pool. Ceinion Rhuddfryn Yn oynnwys pigion o'i englynion a'i gywyddau wedi ea dethol gan ANTHROPOS, a than olyg- iaeth ei fab, y Parch, LEWIS MORRIS, Wrexham Ynghyda darlun o'r awdur, a nodiadau bywgraffyddol gan Dr. Cernyw Williams. Argraffiad Rhad (mewn amien), 6cb Trwy'r post, 7c, Llian 1 /• HUGH EVANS A'I FEIB. SWYDDFVR BRYTHON Yn awr yn Barod. COFIANT THOMAS GEE; — GAN THOMAS GWYNN JONES. Cynnwysa y cyfrol 650 o dudalenau ynghyd ag amryw ddarluniau. Pris wedi ei rwyino. mewn llian hardd, 6/- Cyhoeddedig gan GEE a'i FAB, Cyf., Dinbycb „ f