Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
 of ggl6 GO"DS j)t j! III ^Ym^ai^IvE5/- in the & I lUU FURNISH FOR CASH, 5^0.0^1 A Visit to our Showrooms, or-if this is H Hj^fl h|H impossible, a perusal of our itt I tttjt LARGE ILLUSTRATED CATALOGUE RH 9 will convince you of this fact, H ■ FIFTY YEARS' REPUTATION FOR VALUE. 1™ MY??tLES? ) ?J W ? ? 3???M?0.42??'46'?' L?DOM RD I *? ? ?MM!f.?/?.?7?? ???. ?j??;/z????'??%?. ,?nV?EBMat' t —=—————————————————————————————————————————— IF YOU WANT SEASONED Oak, Mahogany, Birch, BlacK Walnut, Ash, White Wood, Pitchptne, Yellow Pine, Doors or Moulding WRITE LEWIS ROBERTS, 19 STANLEY ROAD, LIVERPOOL nils o Main YSGRIFAU gMYFYRDOD GAN PETER HUGHES GRIFESTHS 2/= nett. -2 1 HUGH EVANS A'I FEIBION I
I Wedi'r Dadgysylltiad j ....Beth…
I Wedi'r Dadgysylltiad j .Beth ? TROI'N EGLWYSWYR At E I MAE cynifer o elfennau ansicr ar waith yn y sefyllfa boliticaidd bresennol, fel mai ynfyd fyddai i'r un Robert Roberts nac Old Moore fod yn rhy barod i lenwi almanac a phroffwydol- iaeth, hyd yn oed am a ddigwydd y fory. Ceir rhyw alluoedd hanner cudd yn ymyryd a'r hyn a dybid oedd yn Gyfansoddiad Gwlad- wriaethol, ee yn dal gwn gwrthryfel yn erbyn uchafiaeth y Goron. Mae y cydfradwriaeth diweddaf hwn, beth bynnag, wedi dwyn elfen newydd o ansicrwydd i hoedledd y Llywodr- aeth, a pheri cyfyngbwynt arall yng ngyrfa Ymreolaeth a Dadgy sy11 tiad. Fel y dywed- odd y Parch. O. L. Roberts, yn ei anerchiad yn Ninbych, y dydd o'r blaen, o gadair Cyngrair Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru> —mae gennym ffydd yn y Prif Weinidog a'r Llywodraeth eu bod yn benderfynol o wneuthur a alloiit sicrhau llwydd Mesur y Dadgysylltiad, er fod rhai aelodau Rhydd- frydol Seisnig yn simsan ar y Dadwaddoliad. Ond pe caem y Dadgysylltiad yn ffaith,- beth wedyn ? Credwn ni, fel yr Ymneilltu- "wyr yn gyffredinol, y byddai o fantais fawr i'r Eglwys ei hun. Beth bynnag a golJai drwy dynnu ei braich yr rhydd oddiwrth y Wladwr- iaeth, a thrwy ei hamddifadu o swm o ddegwm a gwaddol, hi a enillai fwy o lawer na'u cyf • werth mewn rhyddid ac annibyniaeth ys- brydol. Cai egwyddorion Cristionogaeth eu priod gyfle ynddi i ymddatblygu yn ol eu hanian, ymagweddu i gyfarfod ag amgylch- iadau, ac yn anad dim i feithrin yr egwyddor wirfoddol a hunanymwadol. Iddi hi y psrthyn mwyafrif goludogion y wlad ac os da ganddynt grefydd, cyfrannant at ei chynnal. Pan symudir yr anghyfiawnder hwn o Eglwys Sefydledig, symudir ymaith un hen asgwrn cynnen rhwng y sectau crefyddol; a gwneir y ffordd yn rhwyddach i gyd- weithrediad yn erbyn y drygau cyffredinol sy'n atal datblygiad bywyd uchaf ein cenedl. Symudir yr hyn sydd achlysur i ormes a chenfigen. P-f Credwn, er hynny, fod rhai yn cymeryd golwg led arwynebol ar berthynas Ymneilltu- aeth ac Eglwys Loegr, wedi y delo'r Dad- gysylltiad. Mae son am Undeb yr Enwadau yn y gwynt a chredwn nad "gwynt ydyw'r son, eithr dyhead dwfn a chryf am yr hyn a raid ddyfod, yn hwyr neu hwyraeh, os syl- weddolir y delfryd Cristionogol o Eglwys. Mae yr hyn a gyrhaeddwyd eisoes yng nghyf- eiriad undeb yn sail a sicrwydd go gryf y gwneir mwy eto. Peth mawr yw agwedd a gogwydd uridebol ac mae hynny wedi ei sicrhau i raddau. Yr hyn a sicrha symudiad mawr a chyffredinol fydd argyhoeddiad dwfn a chyffredinol y dylid ei gael, a phenderfyniad eryf i aberthu llawer o ryw bcthau er ei fwyn. Mater crefyddol ydyw, ac ni sylweddolir yr amcan ond trwy'r gallu sydd'mewn crefydd ei hun. Pa mor werthfawr bynnag yw trafod- aeth mewn cynadleddau, nid ellir yn dragywydd ymresymu'r sectau i undeb gwirioneddol. Mae yn bwnc o ysbryd yn fwy na threfn, yn ddyfnach na threfn, yn blaenori trefn, ac yn cadarnhau trefn. Yr hyn a dawdd sectyddiaeth i undeb fydd ei bwrw i ffwrnais eiriolaeth fawr, ysbrydol, crefyddwyr Cymru, ar eu Duw, dros eu cenedl. Ond yr oedd y Drych, yn arbennig, ar yr olwg a gymer rhai ar yr hyn all ddigwydd i sectyddiaeth yng Nghymru pe deuai'r Dad- gysylltiad. Ac os oes ystyr i eiriau, mae rhai ysgrifenwyr ar y mater o'r farn na fyddai fawr o anhawster ar ffordd Ymneilltuwyr ac Eglwyswyr i ymuno, ac hyd yn oed i enwadau Ymneilltuol lithro i fewn i'r Eglwys. Gwel- som, awgrym na theimlai llawer o'r Wesleaid Cymreig anhawster i droi'n Eglwyswyr; yn wir, fe broffwydid y fath beth, ac fel un rheswm yn erbyn disgwyl i'r Wesleaid ymuno mor barod ag y gellid disgwyl i'r Annibynwyr a'r Methodistiaid wneuthur. Mae'r awgrym y gallsai'r Wesleaid droi'n Eglwyswyr yn rhwyddach nag yr ymunent ag enwadau Ymneilltuol ereiII-a hynny heb raid arnynt i golli eu gwahanfod enwadol, o leiaf ar hyn o bryd,—mae'r fath syniad yn syndod aruthr i ni, beth bynnag. Fe dyb fod trefnyddiaeth Wesleaidd wedi ei gwneuthur o haearn bwrw anwybyddir dyfnder a grym argyhoeddiadau Ymneilltuol a Phrotesfanaidd y Wesleaid Cymreig bod y gweinidogion a'r eglwysi Wesleaidd yn gaethion diymadferth i'w cyfudrefn enwadol, ac nad allant beri newid nac ystwytho dim ar y rheolau. y sydd yr awr hon. Mae 'r holl faes yn rhy eang i fanylu arno, ac nid oes achos. Beth bynrag, beiddiwn ddywedyd fed Wesleaeth Gymreig eisoes wedi peri i'w threfnyddiaeth gael ei hystwytho i gwrdd a gofynion arbennig yr enwad yng Nghymru. Credwn hefyd fod arweinwyr pro- sennol yr enwad yngNghymru yn ddynion o argyhoeddiadau mor ddyfnion, o ysbryd mor ehangfryd, o welediad mor graft i arwyddion yr amserau, ac mor wrol i ddadlu eu.hachos o flaen awdurdodau eu henwad, fel y gorchfyg- ent anawsterau mawrion i sicrhau cytgord rhyngthynt a'r Ymneilltuwyr Cymreig ereill, i'r amcanion uchaf. Ac mae'r corff Wesleaidd a Seisnig hefyd yn dod yn fwyfwy rhyddfrydig. Cychwynnodd y diweddar Barch. Hugh Price Hughes ddiwygiad ynddo, ac mae'n mynd ar gynnydd fyth. Gwir mai o Loegr y daeth Wesleaeth i Gymru ond daeth yma mewn cenhadaeth, a chenhadon y gelwid ei gweinidogion cyntaf. Tybed y bydd i'r Wesleaid fod mor anffyddlon i ysbryd eu cychwyniad fel ag i beidio a gwtieud ymdrech ac aberth i ymuno a'r enwadau Anghydffurfiol oreill, pan mae'r enwadau hynny wedi dod gymaint i gytgord a'i syniadau diwinyddol ? Nid yw enw'r diweddar Barch. John Hugh Evans (Cynfaen) yn cael agos gymaint o 10 ag a ddylai yn y son am ymdrechion dros ryddid gwladol a chrefyddol. A meddyliwch am y Parchn. Dr. Hugh Jones, Thomas Hughes, Gwynfryn .Jones,—a'u brodyr yn gyffredinol o rap. hynny,—yn troi'n Eglwyswyr Un o'r pethau rhyfeddaf a ddarllenasom ar y mater o gwbl oedd llythyr o eiddo boneddwr a berthyn i enwad Ymneilltuol, yn haeru fod Ymneilltuaeth Cymru wedi gorffen ei chen- hadaeth eisoes, trwy ennill breintiau dinesig a gwladol. Prin y gallsai Esgob Llanelwy ddweyd dim mwy anghywir am Ymneilltu- aeth. Nac ydyw, yn sicr, nid yw wedi gorffen ei gwaith, nac yn agos. Symud un rhwystr o'i ffordd wna Dadgysylltiad. Bydd yr Olyniaeth Apostolaidd, ac athrawiaethau a honiadau offeiriadol a Phabyddol ereill, yn aros wedi'r Dadgysylltiad ac erys hefyd y cyfrifoldeb ar y rhai nad ydynt yn eu credu i wrthdystio yn eu herbyn. Gwaith yr Ym- neilltuwyr fydd parhau i ddwyn eu tystiolaeth i Grefydd Rydd, yn ystyr y Testament Newydd. 5^1 Y rhai tebycaf o droi'n Eglwyswyr yw'r td o oludogion ffasiynol sydd vmysg yr Ymneill- tuwyr. Teimlan t fod Society yn yr Eglwys yn fwy cydnaws na Seiat capel y werin syml, Ffordd yna mae'r rhain yn mynd erioed. Yno, o leiaf yng Nghymru, fe gysegrir golud ar y naill law, a thlodi ar y llaw arall—caiff y cyntaf y bow, a'r ail y gardod.
Advertising
———————————————————— O'R MWG I'R MYNYDD. Llithoedd Gol. y Brython Oddicatrefl 24 0 LUNIAU ENWOGION CYMRU. 170 tudal. 28. 60. o'r Swyddfa hon1 a oha bob Llyfrwerthwr.
I Y Cwmwl Tystion.I
I Y Cwmwl Tystion. I GAN fod Y BRYTIIOX bellach newydd gychwyn ar ei wythfed flwydd, anfonodd ei berchen- ogion—Mri. Hugh Evans a'i Feibion—air at amryw o broffwydi ac arweinwyr amlyca'r genedl yn gofyn eu barn amdano a dyma rai o'r atebion :— Y Proff. Syr. Henry Jones. M.A., I D. Litt. A delightful Weekly treat to me. HENRY JONES. University of Glasgow. Mr. W. Llewelyn Williams,K C. A. S I MAE'n dda gennyf gael cyfle i ddweyd fel y gwerthfawrogaf naws ac ysbryd Cymreig a Chymraeg pur, gloew, Y BRYTHON. Garw fyth na fuasai ei fath i'w gael ymhob cwr o Gymru, a mawr yw braint Cymry Lerpwl a'r Gogledd fod ganddynt gystal a theilynged cynrychiolydd o'u teithi a'u delfryd cenedl- aethol.—Yr eiddoch yn gvwir, W. LLEWELYN WILLIAMS Y Parch. T. Charles Williams, M-A. -NID oes cyltoeddiad yn ymddangos, ar hyn o bryd, yn y Gymraeg, ag sydd o fwy gwas- anaeth na'r BRYTHON i'r hyn sydd oreu ym mywyd Cymru'r Deffroad. Mae'r iaith mor syml a phur, y medr llenyddol mor amlwg, y chwaeth mor ddiogel ar y cyfan, a'r amcan mor ddyrcbafeJig, fel nas gallaf lai na llawen- hau wrth ddeall fod eich cylchrediad yn cynhyddu. Ar y drofa mae Cymru yn awr ei 'I phen yn y gwynt, a'i hwyneb ar yr eang fyd. Gobeithio nad yw am aberthu crefydd a moes er mwyn celf, nac enaid er mwyn ffurf mewn llenyddiaeth. Mwy yw gwirionedd na gra- madeg. Os drama sydd i fod, boed yr oreu. Ac yn sicr nid math o wawd-ddarlun o fywyd crefyddol Cymru ddylai fod. Ac na rodder hi yn lle'r Pulpud, neu hi gura ei phen yn erbyn y pared heb raid iddi. Pregethwyr Cymru yw gwir apostolion ei Deffroad. Nid ei hysgolion, ond ei chapelau nid ei Phrifysgol na'i Heisteddfod a'i dygodd allan o wlad yr Aifft, ond ei ffydd a'i chymanfaoedd. Boed llwydd i'r BRYTHON ar y llinellau eang a diogel hyn -Yr eiddoch vn ffyddlawn, T. CHARLES WILLIAMS. Menai Bridge, Gwyi Ddewi, 1914. Y Gwir Anrhyd. J. Herbert Lewis, A.S. RHYDD bleser mawr i mi gael cyfleustra i ddanfon fy llongyfarchiadau mwyaf calonnog i'r BRYTHON ar ei lwyddiant, a'm dymuniadau goreu am ei ddyfodol. Nid ydyw ond ieuanc o ddyddiau,—ond y mae yn allu ym mywyd Cymru eisoes. Y mae ei don lenyddol uchel a'i onestrwydd cenedlaethol yn iechyd i galon y darllenydd. Hir y dalio fel y mae-heb golli dim o'i ddelfryd uchel a'i neges amserol-1 a bydded iddo lwyddo fwyfwy bob wythnos. I Dyna fy nymuniad i. J. HERBERT LEWIS. U_- 1 I Syr J. Herbert Lewis, Barwnig, A.S ] DEAR SIRs.-As a regular reader of the I BRYTHON, I have much pleasure in expressing my appreciation of its value as a recorder and exponent of the current opinions and lifs of Wales. I am particularly struck by its I breadth of view and interest, the high stan- I dard of its productions from a literary stand- I point, and the prominent place which it gives to the religious life of Wales.—I am, yours faithfully, J. HERBERT ROBERTS. Mr, Ellis W. Davies, A.S. v BYDDAF bob amser yn darllen Y BRYTHON gyda mwynhad, nid yu unig fel cofnodiad o fywyd amryliw prif dref Cymry'r Gogledd, ond hefyd fel rhydd fynegiad cywir i ysgog- iadau cymdeithasol a llenyddol y genedl gan. feirniadu heb friwio yn ddiangenrhaid. ELLIS DAVIES. Y Proff D. Miall Edwards, M.A. I EDEYCHAP ar Y BRYTHON fel y papur newydd I mwyaf byw, diddorol, llengar, a chenedlgarol yn yr iaith Gymraeg heddyw. Ma.e pob brawddeg yn flasus, a'r ardduU lenyddol yn I goeth, yn fyw ac yn fachog. Mae nodion y Golygydd yn gwreichioni gan athrylith, ac yn llosgi'n goelcerth gan sel dros bopeth Cymreig. Yr wyf yn manteisio ar bob cyfle i gymer- adwvo'r BRYTHON yn galonnogi'meyfeillion. II Dylai pob eenedlaetholwr Cymreig ei dderbyn I a'i ddarllen yn gyson. D. MIALL EDWARDS. I Y Coley Coffa., Aberhonddu. I Mr.fJohn Hinds, A.S. i DYMTJNAF 0 galon eich liongyfarch ar eich I ymdrechion a'ch saflad diwyro dros genedl- aetholdeb Cymreig. Caf bleaer bob amser wrth ddarllen Y BRYTHON. Nid oes newydd- iadur yng Nghymru sydd yn fwy ffyddlon i ddelfrydau y werin, a gobeithiaf y bydd iddo barhau i fod o wasanaeth i'r Hen NVIad yr ydym oil yn ei charu mor annwyl.—LOyda chofion caredig, yr eiddoch fyth yn ffyddlon, JOHN HINDS. Mr. H. Haydn Jones, A.S. I FEL darllenydd cyson o'r BRYTHON y mae yn bleser gennyf ddwyn tystiolaeth i'w ragor- iaethau fel newyddiadur. Y mae yn lan, yn fywiog ac yn iach. Cydnabyddir ei naws len- yddol a'i Gymraeg pur gan y beirniaid yn gyffredinol, a dywed gwerin oleuedig fod ei syniadau ar bynciau y dydd yn rhesymol ac I yn seiliedig ar wybodaeth yn gystal ag ar egwyddor. Os yw Y Gwyliwr weithiau yn llawdrwm ar Aelodau Seneddol, hwyraeh mai I arnynt hwy ac nid arno ef y mae y bai, ond nid oes galw arnaf fi i addef cymaint a hynny, a oes '?—Yr eiddoch vn bur, H. HAYDN JONES. ——— Mr Wm. George. YR wyf ers tro bellach yn un o ddarllenwyr cyson Y BRYTHON, Byddaf yn blasu yr agwedd lenyddol sydd ar ei gynnwys, ac yn edmvgu yn ddirfawr yr ysbryd cenedlaethol iachus sydd yn rhedeg drwy bob gwvthien a chymal ohorio.-Gyda phob dymuniad, gor- ffwysaf, yr eiddoch yn bur, WM, GEORGE. i Garth Oelyn, Criccieth.
Cofiant y Canghellor.
Cofiant y Canghellor. Yr Ail Gyfrol. The Life of David Lloyd George, with a Short J History of the Welsh People. Bij J. Hugh Edwards, M.P. Vol. II. London The Waverley Book Co., Ltd., 7-8 Old Bailey, flI YN y gyfrol gyntaf, fel y gwyddis, caed crynhodeb gloyw iawn o hanes Cymru o'r oes foreuaf hyd ymddanghosiad ein harwr cenedl- aethol, ac anodd fuasai ei gyfleu'n well i gyn lleied lie. Yr oedd.y cwbl yn eithaf hysbya eisoes i Gymry darllongar ond fe'i cydiwyd wrth y Cofiant, y mae'n debyg, er mwyn i'r miloedd Saeson a'i prynnent gael golwg gywirach a llai rhagfarnllyd ar ein hanes na'r hyn a ddysgir iddynt gan eu storïwyr an- hyddysg ac anghydnaws hwy. A dyna'r unig ystyriaeth fuasai'n cyfiawnhau cymeryd gwib mor faith i ddod at wir destun y Cofiant. Cyn mynd at yr ail gyfrol, sy newydd ddod o'r wasg, goddefwch hyn o ddyfyniad o'r gyfrol gyntaf, i ddangos y ddyled fawr sydd ar Gymru i Wilym Hiraethog, nid fel bardd a phregethwr yn unig, ond fel diwygiwr a gwleidydd a newyddiadurydd na fueigryfach wrth lyw'r un papur Cymraeg. With a view to escaping the serious handicap of such heavy imposts the publisher transferred the printing office of the Amserau from Liverpool to "Douglas in the Isle of Man, where no I such duties existed either on paper or on advertisements. Withiii. a few weeks I "the Amserau had already become a powerful factor in Welsh life. In issue after issue the editor, in scathing terms, had taken the Welsh landlords to task for the oppressions and tyrannies which they were so habitually exercising among the peasantry, and he had indicted ('' t the clergy for conniving at such degrading oppressions. Hiraethog's arrows were barbed, and they were directed with unerring aim. His comments were read and rehearsed in the rural retreats of Wales, and landlords and clergy alike winced under the lash of his castigations. Their long-desired opportunity for re- venge came with the removal of the printing office of Hiraethog's organ to the Isle of Man, and they seized it eagerly. They convened a meeting at Bangor, at which they framed a memorial to the Government drawing attention to the "fact that the Amserau was being pub- lished in the Isle of Man, and urging that it was unlawful to publish a British newspaper beyond the territorial bound- aries of Great Britain. In view of the fact that a Tory Government was then in power, political considerations were skilfully woven into their protest. They "succeeded in their purpose a pliable and friendly Government acceded to their appeal. The publication of a Welsh newspaper in the Isle of Man was declared to be illegal, and a peremptory order was made for the cessation of such an "arrangement" Darn arall, i ddangos y parch a goleddid tuag ato gan un o brif wleidyddwyr a diwyg- wyr Ewrop •— It is noteworthy that Mazzini regularly corresponded with Hiraethog, and in one of his letters the spokesman of Italian independence acknowledges the yeoman "service which Hiraetfiog was rendering the cause of Italy by voice and pen. I Esteemed as you are by your country- men,' wrote Mazzini, and lecturing as you do to large audiences, you can and will do a great deal of good to our national cause.' Equally appreciative of the value of Hiraethog's grea,t services was Kossuth, the Hungarian patriot, who sent a special deputation from Hungary to £ < Liverpool for the- purpose of personally tendering to the Welsh editor the deep gratitude of the Hungarian people for the magnificent manner in which he had cc espoused their cause and interests. Naturally, sucli a unique tribute could not but be peculiarlv sratifvino- to so "passionate a democat as Hiraethog. I had never received a penny for my labour for years as editor of Yr Amserau,' "he wrote, and I never expected any pecuniary remuneration for the toil and anxiety; but if no money came to my pocket, I received that day what I valued more than a thousand pounds, were they put in my hands, namely, the blessing of an entire nation helped from perishing partly through the influence of I my writings." Dechreua Cyfrol II. gyda phennod ar fore oes ein gwron, He y dywedir ei fod yn cofio pethau er pan oedd ond ychydig gyda dwy- flwydd oed. Yr oedd y teulu wedi symud o Fanceinion i Sir Beii Pro ei dad wedi marw'n fuan ar ol dechreu ffarmio'r fan honno ei ewythr, Mr. Richard Lloyd, wedi perwsadio ei chwaer, sef mam ein gwron, i ddod i gr- trefu ato ef i Lanystumdwy, y hi a'i phlant. Rhowd stoc' y fferm ar ocsiwn ac ebe'r gyfrol At that time David was just a little over two years old, but he retains to this day the most vivid memories of the sale, and the feelings of resentment which took possession of his little sister and himself as they beheld the various articles of furniture, so dear and familiar to them, dumped together in a medley in the "open air and handed over to various individuals in the crowd. He remembers further how he and his sister stuck pebbles under the gate in the hope of "being able to keep the strangers from carrying away the furniture of their home. This is the earliest of his memories, and so deep was the impression made that on his return to Bwlford, fortv-fivo years later, he instantly marked the changes that had occurred in the intervening years. The front II gate,' ho exclaimed, used to be a green 'I folding gate,' He was right, as the tenant readily admitted. The gate that had so long done duty in front of the little farm was a green folding gate, but I I it had been replaced by a larger and a ¡ more serviceable gate only pome months "previously." Dyma i chwi dameidyn baqji o'r ail bennod a ddengys fod ein harwr, sydd heddyw gymaint brasach ei ford, yn gwybod beth yw clem cystal a neb ohonom, a rhyfedd yn y byd ei fod mor dyun dros y gweithiwr My mother,' to quote Mr. Lloyd George's own testimony, had to make a hard struggle to bring up her children. But she never complained, and never spoke of her struggles. It was not until long after that we were able to appreciate how fine had been her spirit in the hard task of bringing up her fatherless children. Our bread was home-made. We scarcelr ever ate fresh meat and I remember that our greatest luxury was half an egg for "each child on Sunday mornings.' Nor has Mr. Lloyd George himself ever com- plained of the hardspins of his upbringing, but the recollection has strengthened and directed to wise ends a never-dying sympathy with the poor throughout the land." Diddorol dros ben ydyw hanes ei afiaeth pan yn hogyn, yr oedd mor llawn o hoen a direidi nes torri dros ben llestri a dod i belynt ami dro ond yr oedd mor liithric a llysywen, ac yn medru ymnyddu allan o bob helynt y rhwyddaf welsoch erioed. Dyma i chwi ateb bach pert a sydyn, a ddengys mor union y medrai anelu ergyd pan yn grwt mor ifanc It is said of the owner of one of the largest orchards in the district, that as often as he detected any traces of a raid 0i). his orchard he would invariably  declare: 'It's that David Lloyd that has done it.' On one occasion, when he had managed to squeeze himself through an alluring gap in the hedge, he found himself, to his consternation, face to face with the owner of the orchard, who had "been quietly awaiting his coming. Where are you going ? he sternly de- manderl. I am going back,' replied the quick-witted boy, accompanying the word with the action." Gweithty Richard Lloyd, sef gweithty':r crydd, oedd Senedd Llanystumdwy a'r ardal a dyna He clywodd yr egin-ddiwygiwr yr hanesion am orthrwm a ch'Iedi a fwydodd ei natur i'w gwraidd a. chasineb disyfl at land- lordiaeth, sydd wedi tyfu erbyn heddyw'n weledigaeth a phenderfyniad di-droi'n-ol i gael pen y ddraig honno dan draed :— To him (Richard Lloyd), as he sat in his workshop, bending over the task that secured daily sustenance for the fatherless children under his roof, came tenant farmers, helpless over the devastation of their crops by the depredations of the jealously guarded game, and dis- heartened by the irksome conditions of the heavy financial obligations which the tenure of their farms entailed. The story of their grievances was rehearsed time and again with a dramatic vividness "that both saddened and incensed the little circle of sympathetic listeners. "Among these, there was no one who listened to their woes with more intent- ness and sadness than the young lad David Lloyd George. 'Never shall I forget,' he declared in later life, the "harrowing narratives I heard when a more boy-told thousands of timep-of excessive rents and goading oppressions. They are amongst the traditions of my "childhood.' As the lad listened the fire of indig- nation would burn more and more vehemently within him, until there was fostered a passionate resolve 'to do something for those poor fellows,' as one of his associates once heard him say. Certain is it that it was in his uncle's workshop, listening to the heartbreaking || narratives of a dispirited peasantry, that there was first begotten in him that passion for land reform which is now leading him to the fulfilment of his greatest task and to the realisation of "t his appointed destiny." L- The Welsh Pulpit yw pwnc Pennod iii, mef i ddangos y cewri dihafal oedd wedi lefeinio'r wlad erbyn geni'n harwr; ac meddir ar tudal. 48 In chastness of diction and in majesty of utterance, John Jones (Talsarn) holds an unchallenged supremacy among the great preachers of Wales. Henry Rees, on the other hand, excelled in intensity of manner and of effect. Tybed ? Fel arall yr oeddym ni wedi rarfer barnu, canys oni chlywsom ddweyd gan un o bregethwyr coethaf a phura'i Gymraeg drwy Gymru fod pregethau Henry Rees yn batrwm i genedlaethau o weinidogion o ran purdeb arddull, ac fod cymaint benthyca arnynt oblegid hynny nes y gellid dweyd fod H.R. yn gynhaliwr pregethau pobl ereill cystal ag yn greawdwr ei bregethau ei hun. A phwy mor fanwl a Henry Rees ?—mor fanwl nes gloywi'i frawddegau am fisoedd weithinu cyn eu trwyddedu i gael He arhosol vn ei bregethau. Beiddgarwch a naid dychymyg John Jonea oedd yn ddiail, yn fwy na gloywder ei Gym- raeg, goeliaf fi. Sut hynnag, da cael gwybod fod cewri pulpud Cymru'n meddu lie mor uchel yng nghalon Mr. Lloyd George, megis y dengys y plic a ganlyn, tudal. 56 :—- In the dining-room of his official residence in Downing Street the place of honour is occupied by a large and striking portrait of John Jones, Talsarn, one of the most famous of the great preachers of Wales. I may also refer to the fact that when I visited Mr. Lloyd George at his home in Criecieth in the Easter recess of 1912, I found him absorbed in the perusal of the biography of Jones, Talsarn, and I recall the ecstasy with which he read out passages from the sermons of the famous divine, with their characteristic sublimity of imagery and majesty of diction. The of imagery an d ma. "giants of the Welsh pulpit have always ranked as the chief of his heroes, and his "style of oratory has been exclusively modelled upon theirs." Daw rhagor am y gyfrol yr wythnos nesaf.
Advertising
EVERY WOMAN tHotn.1) send 2 stamps for our 3 3 page Illustrated Book containing valuable information how ail Irregularities and Suppressions may ?e entirelv aV01ded or removed by simple means. Recommended by eminent Physicans, as the only Safe, Sure and Genuine Hemedy. Never fail Thousands of Testimonials. Established 1863. Mr. PAUL BLANCHARD, jClaremoai'Sloase. Daisioo Lane, LONDON,