Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
USEFUL AND ACCEPTABLE Presents OF VERY RELIABLE HIGH FASHIONABLE DM JEWELLERY Saving fully 10/- in every fa SPECIAL VALUE. OUR LIST POST FREE. Davies s. 30 Low Bill < EAILWAY ALLOWANCES TO CUSTOMERS FROM A DISTANCE. Close to Hippodrome and Olympia. EARLY CLOSING ON WEDNESDAY AT 1. Pearl & Peridot Gold Pendant Davies's Price 1/19/- Usual £5 LATEST DESIGN, Beautiful Circular real Oriesta PEARLS AND PERIDOT PENDANT 1-in. diameter with pearly loop, lustrous gems, most charming jewels Also Solid 15-carat Pearl and Tourmaline Pendant, rich gems; Sale Price, £ 2/5/ usually £ 5. Also 15- ■ Oarat Diamond and Pearls, with pearl drop; Our Price, £ 8/19/6, originally Z9. —————————————————————————————— ) Diamond 18-ct Watch Bracelet Davies's Price £ 13/18* Usual £ 35 SLIGHTLY SECOND-HAND, indistinguishable to new 18-ct. Sold Gold fashionable, latest Self-Expanding bars. Lever Watch Bracelet, surrounded with 30 bBaRrsI. LLIANT DIAMONDS, finest quality, pure white; flawless, intense fire and lustre; Highest-grade move- ment, ACCURATE TIMIST. Warranted 30 years; rare bargain. Also magnificent 18-ct. Diamond and Ruby Self-Expanding Watch Bracelet, [fine quality; Our Price £ 13/19/ usual E30. Also Superb Diamond and Emerald ditto; Our price £ 18/10/ regular price £50. All warranted time keepers. SALE PRICE ACCURATE WATCH BRACELETS. Various Diamond Jewellery Usual Price Our Price. to DRESS STUD, Gent's Single-stone First-water DIAMOND &mbina- o/IQ/ tion Pin or Stud, rare lustre, 0/±U/~ 15-carat Claw set ga DIAMOND BROOCH, beautiful 15-carat, latest split bar, set with 3 flawless Diamonds in cross-over Q/TQ style &/Lor £21 EARRINGS, Exquisite, DIA- ————————— MOND CLUSTERS, selected white gems, rare lustre, platinum set 1 O /1 ft swing drops, 18-carat gold wire. X<u/ J.U/ £ 87 DIAMOND'WATCH BRACELET, ————————— 18-carat gold' 30 finest gems, Highest-grade Lever, full- jewelled movement Guntimist 13/18/- Bargain. JLO/lO/" U5 BROOCH, Triple DIAMOND ————————— CLUSTER, 27 large first-water flawless stones, platinum bar, 29/10/- H in. long. Usual f- 2/10/- Davies's Price 25/- Gold Curb & Padlock Bracelet Fashionable massive flexible Curb and Padlock SoUd Gold BRACELET, stamper ve, y link (the widest at the price), complete in velvet ;ase). Also ditto at 29/6, usual £3. Also the ioSlowing BAR- widest at 29 ?l, BASKET  PATTER..N S 3t I() re,6 kus. GAINS IN "BASKET" PATTERNS tion in every 9, as follows:-26/- ?/- t. 66/- also very fine 9-bar "Basket" Bracelet now 93/12/6 usual M. Reliable and undoubted quality only. Approval, Payments. Over2OOBr ?.?uality only. to ?3 i.ect from. GOLD BRACELETS 10/- LESS IN THE & Lady's Diamond Half-Hoop. LARGE SECOND-HAND 5-STONE OUR PRICE. DIAMOND RING, Claw-Set "CORO- NET," Latest, intense lustre, 18-ct. £10/15/ and Platinum Also large 3-STONE X•CTIUH/ /IJLUR// DIAMOND "CROSS-OVER" RING; Our Price £ 16710/ usual E3. Also USUAL SQUARE CLUSTER DIAMOND RING, 5-stones Our Price £ 14/17 r Q1 usual £ 28. Also very large 2-STONB X' ? i DIAMOND'OROSS-OVER* RING, White Stones; Our Price £ 35/10/ usual £65. SAVING 10/- IN EVERY E. 18 Ct. Diamond Engagement Rings. Usual Price. Our Price. S3 DIAMOND AND SAPPHIRE Half-hoop, stylish 7-stone service- iQ/n able claw-setting, 18-et U M DIAMONDS AND SAPPHIRES. 5 gems, heavy 18-ct. Half-hoop; n T ,n all lustrous gems; rare bargain (- £ 4 DIAMONDS, .5-stones. Half-hoop stylish claw, 18-ct. gold, double-cut .c "l j"\Gj gems; rare fire and lustre. f,5 DIAMONDS, 6 first-water large lustrous gems, Sue white quality heavy solid 18-ct. claw half-hoop others at 92/101-, £ 2/12/ and 12/5/- £ 2/15/- to DI 'A M j,-i 5-stone large diamonds, each gem of great jc ft /117 beauty, heavy 18-ct. gold claw set.. -L < £8 DIAMONDS, 5-stone,very lustrous gems, first water, carved stylish £ Q l"i £$/ claw set 18-ot. *'0/JLO/ PI DIAMONDS, 5-stone platinum Coronet," half-hoop white clean lustrous gems, very high grade, n Q /I r% latest design Daviess Miscellaneous Bargains. Usual Price SOLID GOLD ONLY Our Price. 211-NECKLET, Diamond Out Links 10/6 20/-LOOEET, oval, engraved, hall-marked 7/6 21/-SIGNET RING (Gent's) shield, heavy. 9/6 20/-LINKS, oval, engraved, hall-marked 8111 17/-SIGNET (Lady's), shield top, 7/6 18 I-PIN, real Diamond centre 18/-PIN, real Dlamondcentre »/8 U-BANGL9 RING, 18-ct. wide, heavy 111161- £ 2—SIGNET (Gent's), 18-ct. aolldjgoid shield.. 18/- :301-BILOOCH, real Diamond centre. 10/- 85 /-BRACELET, stiff, wide, engraved 16/8 F,G-DIAMOND & Sapphire 3-stone Scarf Slide 35/- £ 10-PIN-STUD, Diamond & Sapphire Cluster.. £ 4 /12 LO-WATCH BRACELET, Russell's Solid Gold Lever. FS 118 I- S14-BRACELET, 15-ct. band, 3 M-WATOlf BRACELET, 18-ct. Diamond and Rubies £ 13/18/- Heavy' Lucky Wedding Rings » 22-CARAT PURE GOLD. Special 20/- Special. (USUALLY 27/9). AJPresentation with each Ringo DAVIESS, 30 LOWHILL, Liverpool.
o Big y Lleifiad. I
o Big y Lleifiad. I Y WEDDW DDI-GEFN- I Dymunir arnom alw'ch sylw at y cyngerdd sydd i'w gynnal gan G6r Meibion hyglod y Cymric, ac ereill, yn Hope Hall, Ebrill y 18fed, i helpu gweddw'r diweddar Mr. John Henry, a adawyd yn ddigon digefn ac nid oes ynnom ronyn o betruster na fydd calon Cymry'r cylch yn deilwng o'r cais a'r am- gylchiad, ac y caiff hi brawf sylweddol fod ei gydwladwyr yn meddwl yn fawr o awdur Gwlad y Delyn. i ANGHARAD F YTH Sipian ei gwefus y mae Lerpwl byth ar 011 y wledd a gafodd yn gweld Aelwyd Angharad gan Gwmni Bethesda fis Tachwedd diweddaf ac yn awr, dyma Gwmni Glan y Mersey yn mynd i chwarae rhan ohoni yn Birkenhead nos Sadwrn nesaf, megis y dengys yr hys- bysiad ar tudal. 8. Y mae yn eu bryd ei rhoddi'n llawn y gaeaf nesaf. AT GYMRY WALCON- I Gwelwn fod ein cydwladwr ieuanc— Mr. Lewis Edwards—sef mab Dr. James Ed- wards, AnfieId-yn ymgeisydd am sedd ar Fwrdd y Gwarcheidwaid tros deheu- barth Walton. Ddydd Llun nesaf y mae'r etholiad, a hyderwn y rhydd Cymry'r rhanbarth honno'u cefnogaeth a'u pleidlais iddo. P A BELLA ID Y SUN HALL- I Tybed a welwyd tyrfa mor anferth erioed o'r blaen yng Nghymanfa Ganu'r Methodist- iaid ag oedd yn y Sun Hall nos Lun ddi- weddaf ? Go brin, ni gredwn yr oedd y lle'n llawn bron, o bared i bared, a'r cor— pigion lleisiau'r eglwysi, ddau tu'r afon, o West Kirby hyd i Southport—yn rhifo wyth cant a'r cwbl tan arweiniad Mr. Harry Evans, gyda Mr. R. W. Jones, Bootle, yn ben ar y gerdd- orfa. Caed arddeliad neilltuol gyda rhai tonau a phan dorrodd y dyrfa allan i guro dwylo ar ddiwedd un don, dyma'r arweinydd yn eu hatgoffa'n chwyrn mai nid mewn cyngerdd yr oeddis, ond mewn cymanfa o fawl cysegredig y galon i'r Arglwydd. Yr oedd G. W.H. yno, ac a gaiff ddweyd ei hanes hi a Chymanfa'r Bedyddwyr yn Y BRYTHON nesaf. I GAU'R TYMOR 5 Dengys yr hysbysiad mai'r Parch. Penry Evans sydd i gau tymor y Gymdeithas Genedlaethol nos yfory (nos Wener) gyda darlith ar Yr Orsedd a'r Bobl Trem ar Gyfnod Cromwell. Y mae hi agos a chodi'n helynt rhwng y Bobl a'r Orsedd heddyw hefyd, os na wylia fol; a diau y bydd gan y darlithydd ambell wers i'w chodi nos yfory. Dowch yno i'w chlywed. j Y CWRDD CLOI——- Dyna gaed yn Ysgoldy Parkfield, Birken" head, nos Iau, Mawrth y 18fed, sef social i ddibennu tymor y Gymdeithas Lenyddol. Hulid y byrddau a phob rhyw luniaeth melys ei flas gan Mri. Stubbs & Co. ac wedi'r wledd, ac i Mr. W. Garmon Jones, M.A., a'r Parch. W. M. Jones, gynnyg ac ateb Hwnc- destyn Y Gymdeithas," caed cyngerdd campus dan lywyddiaeth Mr. Gomer D. Roberts. Caed deuawd ar y piano gan Miss Dilys Jones a'i brawd Master Esmor Jones yna cainc ar y delyn gan Miss Freda Holland, nes cynhesu pawb ati hi a'i hofferyn. Canodd Miss Maggie Jones (o Eglwys Vittoria Street) nes cael encor dro ar ol tro. Doniol a-diddan tuhwnt ydoodd y caill Arvon Hope o Anfield, y fo a'i ganeuon digrif a'i ystumiau awgrym- iadol a'i lygeidio direidus. Canodd Mr. Harry Powell (yntau hefyd o Anfield Road), ac a brofodd fod ynddo ddeunydd baritone da maes o law. Cafwyd trem ar gyrddau'r tymor gan Mr. P. H. Jones, F.I.C., llywydd y Gymdeithas-anerchiad i bwrpas, fel arfer. Diolchwyd i bawb gan y Parch. W. M. Jones a Mr. Robert Roberts, yn enwedig i ysgrifen- yddion y Gymdeithas ddygnodd ami i gael .oyfarfod mor felys ei ddoniau a'i ddan- teithion. Yr oedd dros gant wrth y byrddau. Go brin y cadd y Gymdeithas gystal cwrdd cloi erioed o'r blaen. I ■■ 1 "i ■■■» I CHRAE SERCH I Nid peth i chwarae ag o yw hwnnw'n gyffredin ond bu aelodau ieuainc y Cambrian —sef Cyfrinfa Temlwyr Da Eglwys M.C. Stanley Road, Bootle-yn chwarae Serch Hudol yn y Gordon Institute nos Fercher ddi- weddaf gyda llwvddiant ac arddeliad canmol- adwy a chofio mai dyma'r waith gyntaf iddynt ymgydio erioed a'r ddrama. Yr oedd ambell actiwr yn naturiol tros ben, ao yn meddiannu'i hun yn gwbl gartrefol, heb falio ffeuon na chlec bawd yn neb o'r dyrfa fawr oedd o'i flaen y lleill braidd yn nerfws a chwithocach eu golwg, ond fe gynefinant ac a gadwant rhag hynny yn y man. Nid oes ofod i'w tafoli fesur un ac un—dim ond diolch iddynt am ddygnu arni mor dda i gyd, am Gymraeg mor lydan a gwledig ei glee ac am dynnu'r fath dyaid i'w gwrando-y lle'n llawn o bared i bared. Caed gair o galondid a chymeradwy- aeth iddynt hwy a'u hyfforddydd (Mr. Lewis Roberts) tua'r canol gan y Parch. O. Lloyd Jones, M..A, B.D., a Golygydd Y BRYTI-ION. Diolchwyd fefyd i'r Arcadian Orchestra (Mri. Evan M. Davies, Tom Hughes, Jack Naylor, Alun Jones, Wm. O. Davies, Ted Roberts) a ogleisient eu crythau mor swyooJ rhwng gostwng a chodi'r lien bob tro. Gwaith, lodes a fagwyd yn Eglwys Wesleaid Cymreig Birkenhead yw'r ddrama, ac y mae'n frith o ysmaldod gwledig. Y rhain a'i hact- iodd :-Dafydd Price, Y Wern, amaethwr mewn amgylchiadau cysurus Mr. W. P. Williams. Elizabeth Price--ei wraig Miss Bessie Davies. Gwilym Price--ei fab: Mr. H. Parry Jones. M orfydd Price-ei ferch Miss Evelyn Davies. Agnes J ones-cyfeilles Morfydd Miss Laura Jones. Meurig Huws Saer-cariad Morlydd Mr. J. D. Roberts. Henry Nicholson, Ysw Plas yn Llwyn,'— boneddwr—Mr. J. R. Jones. Nancy Parry- morwyn Y Wern. Miss Jennie Davies. Tomos Jones-was Y Wern Mr. Evan Thomas. Robert Willia,ms'-gweithiwr tlawd: Mr. Francis Jones. Gwen Williams-ei wraig: j Miss Jennie Evans. Bob a Megan--ou plant: Master J. R. Roberts a Miss Elsie Davies. Ebenezer Roberts-cyfaill Tomos Jones Mr. Owen Morris. Eiluned Owen-boneddiges o Lw-idain Miss Lizzie Phillips. Heddgeid- wad Mr. R. Pritchard. Cudd-swyddog Mr. G. O. Jones. TRALLOD DR. ON EVANS # Ergyd drom i'r Hybarch Ddr. Fvans fu marwolaeth ddisyfyd ei frawd talentog—y Parch. David Evans-pan ar ei ffordd adref o oedfa'r bore yn Cathays, Caerdydd, wythnos i'r Saboth diweddaf. Yr oedd yn dioddef oddiwrth ddolur y galon ers tro, ond ni thybid fod y diwedd mor agos. Yr oedd yn bregeth- wr coeth a meddylgar, a llawer o newydd-deb a phrydferthwch yn ei feddyliau. Yr oedd hefyd yn llenor rhagorol, ac mae ei Gofiant i'r Hynod Ishmael Jones, Rhos, yn nodedig o fedrus—yn dangos craffter i adnabod cymer- iad, a medr mawr i'w ddarlunio. Bu iddo safle uchel fel pregethwr, ac yn gweinidog- aethu mewn eglwysi mawrion. Bu ddiwedd- af, ac am lawer o flynyddoedd, yn Heol Awst, Caerfyrddin, o'r lie yr ymneilltuodd, a char- trefai ef a'i briod oddiar hynny yng Nghaer- dydd. Tuedd i fod yn yr encilion oedd ynddo, neu gallasai fod yn llawer amlycach nag y bu yng nghynghorau'r enwad Anni- bynnol. Eto, yr oedd yn un o'r cwmniwyr mwyaf diddan, ac yn llawn o arabedd a digrifwch diniwed. Mae iddo fab-y Parch. R. O. Evans, Castell nedd, ac yn bregethwr teilwng o'i gyff enwog-ei ddiweddar dad, a'i ddau ewythr sydd eto'n aros-Dr. Owen Evans a'r Parch. Thomas Evans, Amlwch. Bydd cydymdeimlad cyffredinol a'r teulu, a hawdd inni yma feddwl am y brawd galarus ac enwog-Dr. Owen Evans. [Gweler rhagor amdano gan Alban yng ngholofn OW De. UTGYRN ARIAN Y GYMANFA- I Dyma r gweinidogion ddisgwylir i gadw Cymanfa Sulgwyn Methodistiaid Lerpwl a'r cylch :—y Parchedigion D. Williams, Llan- wnda W. E. Prydderch, Abertawe H. Barrow Williams, Llandudno R. Jones (Glan Alaw), Bryn yl efail J. Roberts, Rhyl Philip Jones, Llandilo D. Hoskins, M.A., Caernarfon J. Puleston Jones, M.A., Pwll- heli T. Mordaf Pierce, Dolgellau J. E. Hughes, M.A., Caernarfon J. G. Moelwyn Hughes, Ph.D., Aberteifi J. H. Williams, Porthmadog; T. Chas. Williams, M.A., Porthaethwy Thomas Williams, Caergybi; J. D. Evans, M.A., Pont y pridd P. H. Griffiths, Llundain M. P. Morgan, Blaen anerch G. H. Havard, M.A., Rhyl W. P. Jones, M.A., Treorci W. Davies, M.A., Aberdar Lemuel Jones, Goppa yr Athro D. Williams, M.A., Aberystwyth. o
Advertising
YMAB dros ugain mil [20.000] o bobl ar hyn o bryd yn gwisgo GWTDRAU F. & H. Gan ein bod wedi "eu haddasu'n llwYddiannus, a gawn ni'ch ffitio I OHWI 2 Y mae'n prisiau'n dra rhesvmol. FRANCIS a HOLLAND, Llygadyddion Cymeradwy, 5 Bold Street, Lerpwl [uwchben Wright's Eagle Range 00.] I
Heddyw'r Bore
Heddyw'r Bore sef Bore dydd Mercher Y GW AS NEWYDD.-Y Parch. A. Wellesley Jones, Treffynnon, sydd wedi cael ei benodi'n ddilynydd y Parch. D. C. Edwards, M.A., fel ysgrifennvdd a dirprwy Cymdeithas y Beiblau yng Ngogledd Cymru. Duw'n rhwydd i'r gwas newydd, a chaffed hwyl a haelioni wrth siarad dros Frenhines y Cym- deithasau," chwedl rhywun am Gymdeithas y Beiblau. FFIEIDDIO'R DDEISEB DWYLL.- Pasiwyd penderfyniad cryf yng Nghyfarfod Misol L],eyn ac Eifionydd, a gynhaliwyd yn Llanaelhaearn ddydd Llun diweddaf, yn rhybuddio aelodau'r eglwysi rhag arwyddo'r deisebau a gymhellid arnynt o ddrws i ddrws gan yr Eglwyswyr yn erbyn Dadwaddoliad. Y Parch. O. Pritchard, Nefyn, a'r Parch. J. Puleston Jones, M.A., Pwllheli, yn dywedyd pethau cryfion am y cyfrwng castiog i fynd tucefn i'r balot. NEWYDD DRWG 0 BELT,Dyna gafodd y Parch. Thos. Hughes, ficer plwyf Ffestiniog, sef fod ei fab John Osborne wedi cael ei lofruddio gan un o frodorion Affrica Ddwyreiniol, lie y daliai'r Cymro hawddgar swydd Assistant District Commissioner tan lywodraeth Prydain. Ni ddaeth many lion y llofruddiad hyd yma ac y mae'n chwith iawn gan bawb o'i gydnabod weld llanc mor alluog a charedig ac addawol ei yrfa yn ei dibennu mor adfydus yn wyth ar hugain oed. Yr oedd yno ers tair blynedd, ac wedi bod adref yr haf diweddaf am dro. ASBRI CRIC-TF, TH. -Beth bynnag am gynnydd trefi ereill cyfagos iddi, 'dyw Cricieth ddim am fod ar ol, canys y mae Cyngor y Dref wedi cymeradwyo apelio at y Llywodr- aeth—drwy'r Development Commissioners--am dair mil o bunnau i wella'r porthladd a'i addasu gogyfer ag adfer hen ddiwydiant y morbysg, a fyddai'n ddeunydd bara beunydd- iol y trigolion yn y dyddiau gynt a fu. A lampau y goleuir heolydd Cricieth hyd yma, ac y mae r Cyngor yn teimlo fod yn hen bryd iddynt gael y goleu trydan, gael iddi fod yn deilwng o'r oes, ac o'r gwr wnaeth ei henw yn hysbys ledled y byd. YN GYMRAEG, OS GWELWCH YN DDA.-Y mae Mr. Henry Parry yn ceisio gan Fwrdd Gwarcheidwaid Caernarfon gadw'u cofnodion yn Gymraeg, achos y mae amryw byd ohonoch yn clebran neu'n cysgu pan eu darllenir yn eich gwydd yn Saesneg," ebe fo. "0 BLINDER LLANGOLLEN. — Ymddeng- ys mai prif flinder Llangollen ydyw gwaith y glowyr sychedig yn dod yno i feddwi a rhegi a chodi helynt gwedi bo nos ar y Saboth. Dirwywyd tri o rai felly yno ddydd Llun di- weddaf i 16 yr un ac ebe'r Pen Ustus wrth sbio'n dursiog arnynt:- Y mae'n gebystr o beth fod y dref yn cael ei baeddu gan bobl fel y chwi ar y Saboth a'n dyledswydd ni ydyw rh.oi pen ar y peth. Tybiwn fod y drwg hwn bellach wedi darfod, achos ni fu peth tebyg o "flaen y Fainc ers plwc. Os daw peth tebyg o'n blaenau eto, gwae hwyT." CORN Y CANGHELLOR.—Bu Mr. Lloyd George tan annwyd go dost ddiwedd yr wythnos, a'i wddw'n boenus fel y bu o'r blaen, ond da clywed ei fod weithian yn well,a c yn dod ato'i hun, er dirfawr siom a gofid i'r bleiddiaid sydd mor sychedig am ei waed. Dalied ei gorn yn iraidd flynyddoedd lawer, canys pe caeai hwnnw,ac y methai'r areithiau glew ac eirias ddod allan drwyddo, rhyw Siambr digon dwl fyddai'r Senedd gyda'i band o ffliwtiau ffyrling. a phryn. OFFRWM Y GORLLEWIN- Y mae Arglwydd Faer Caerdydd wedi derbyn f,894 oddiwrth Gymry'r America at drysorfa Amddifaid Senghenydd.
IO FETHESDA.
IO FETHESDA. Y Gackdr Wichlyd.—Llawer o holi a stilio fu ym Methesda beth oedd y Gadair Wichlyd,"sef testun darlith Golygydd Y Bny. THON i aelodau'r Clwb Unedig nos Wener ddi- weddaf. Yr oedd rhai cnafon direidus bron wedi gallu perswadio un hen frawd go ddiniwed fod dyn Y BRYTHON yn dod a'r gadair gydag ef, ac y byddai angen berfa i'w chludo o'r orsaf, ac yntau wedi addo gofaluamun, ond deallodd \T hen gono y cynllwyn mewn pryd. Fodd bynnag, cafodd y cynhulliad dal da am ddod i wrando y ddarlith, a bwyd amlieuthun iawn mewn He mor Gymreig hyd yn oed a Bethesda oedd yr arlwy baratoisid ar ein cyfer gan y Golyg- ydd Imvyn a diymSrost. Canmol y clywais bob un fu'n gwrando arno, a hyderwn fod rhai o'i sylwadau ergydiol wedi suddo'n ddwfn i gof llawer un, ac y bydd lies yn deillio o'r gwersi gaed rhag llaw. Pwy bynnag sydd heb glywed y ddarlith hon, os oes ynddo ronjm o gariad at lenyddiaeth drwyadl Gymreig, mae iddo treat yn ei aros, a gwneled ymdrech i'w chlywed gynted byth y caiff gyfle, ac fe rof innau fy ngair y tal yn dda iddo. Nis gwyddom am ddim byd gwell i feithrin awydd am allii defnyddio Cymraeg glan, pur a diledryw. Brysiwch yma eto. Diolchwyd amdani gan y Parch. Tegla Davies ao i'r cadeirydd, Mr. D. G. Davies, yr Hengoed, gan v darlithydd a'r Parch. J. T. Job.- E.R.J.
Advertising
MAES LLAFIJR Undeb Ysgolion Sul M.C. Lerpwl a'r Cyffiniau. Esboniad Dr. Owen Thomas ar yr Epistol at yr Hebreaid, 3/6. Eto, Principal T. C. Edwards, 2/ Eto. Parch. J. Morgan Joni-s, 1/6. Yr Epistol at yr Hebreaid, gan y Prif-athro T. Rees, M.A., Bangor cyf. i., pen. 1-7. llian Is.; cyf. ii., pen. 8-13, llian 1/- Llawlyfr ar Damhegion Crist (i rai dan 2i oed, gan y Parch. M. H. Jones, B.A., Ton, 1/- Llawlyfr y Parch. E. O. Davies, B.Se., ar Ddamhegion Mathew," 3c. yr un, 2/6 y dwsin. I'w cael gan- Hugh Evans a'i Feibion 358 STANLEY ROAD.
DAU TU'R AFON. i
DAU TU'R AFON. i Dymuna Captain Roberts, 41 Dunbar Street, gyflwyno'i ddiolch gwresocaf i'r holl gyfeillion caredig fu yn ymweled ag ef yn ystod ei arhosiad yn yr Ysbyty, ac hefyd am y cydymdeimlad a dderbyniodd oddiwrth lu ereill drwy lythyrau. OAKFIEIID (W.)-Y Gymdeithas Ddiwyll- iadol.-Terfv nwyd tymor hynod lwyddiannus Mawrth 25ain, gyda Banfaeth Arglwydd Faer (Lord Mayor's Banquet). Paratowyd gwledd ragorol i'r corff gan y chwiorydd. Wedi i bawb wneud cyfiawnder a'r danteithion, cynhygiwyd y llwncdestynau canlynol y llwncdestyn teyrngarol gan Mr. J. E. Simon; Y Llywodraeth," gan Mr. G. Lloyd Evans, ac atebwyd gan Mr. Llewelyn Chambers Yr Arglwydd Faer," gan Mr. Owen Jones, ac atebwyd gan yr Arglwydd Faer (Mr. J. E. Simon) Y Gymdeithas," gan Mr. Robert Edwards, ac atebwyd gan y Parch. F. E. Jones Jones Y oneddigesau," gan Mr. David S. Williams, atebwyd gan Miss M. J. Roberts Y Celfyddwyr gan Mr. W. Arthur Evans. Rhwng y gwahanol areithiau, datganwyd yn dra derbyniol gan Miss Edwards, Mri. Griff. Hughes (tenor), J. Price Jones (baritone), a Jack Roberts (digrifwr). Cyfeiliwyd gan Miss M. J." Roberts. Dyma'n ddiau un o'r cyfarfodydd goreu yn hanes y gymdeithas, Fol arfer, cyflawnodd yr Arglwydd Faer ei swydd i foddlonrwydd cyffredinol. Terfyn- wyd trwy i Miss Maggie Morton ganu pennill o Hen Wlad fy Nhadau," a'r aelodau'n uno yn y cydgan. Nos LA WEN YN RAMILIES ROAD.-Nos Fawrth ddiweddaf, cynhaliwyd cyfarfod terfynol y Gymdeithas Lenyddol am y tymor --y rhaglen dan ofal y gwyr priod. Nid yw'r hen gwestwin hwnnw, Pa fodd i gadw ein pobl ieuainc gyda'r gwaith a'r achos ? yn blino fawr ar bobl Ramilies Road. Maent yn deall y broblem yn lied dda, ac yn cyflawni'r gwaith yn llwyddiannus ryfeddol. Wrth gladdu'r Gymdeithas am ychydig, teimlid eu bod yn gwneud hynny mewn gwir ddiogel obaith am adgyfodiad l'lewyrchus iddi'r tymor nesaf. Ar ol gorffen gyda'r te a'r teisennau, treuliwyd y cyfarfod mewn cystadleuaethau difyr, adroddiadau digrif, a thipyn o arabedd diniwed, oedd yn adloniant i'r ysbryd, a,c yn creu natur dda ym mhawb oedd yno.—J.J. I Y DTWEDDAR MR. EDWIN EVANS.— Dydd Mercher, y 25ain, yn 26 oed, bu'r gwr ieuanc airowyl uchod farw ar ol bod dan drin- iaeth llawfeddyg yn Ysbyty Gogleddol Lerpwl y diwrnod cynt. Mab ydoedd i John ac Eliz- abeth Evans, Cefn Meiriadog, Llanelwy, ond yn awr o'r Wyddgrug. Daeth i wasanaeth y Mri. Knowles & Jones, Conway Street, Birkenhead, yn 1907; a bu ei gymeriad d'a yn foddion dyrchafiad iddo. Yr oedd yn aelod ,0 eglwys M.C. Woodchurch Road, a bu'n weithgar iawn yno fel athraw yn yr Ysgol Sul, yn gynhorthwy mawr yn nygiad ymlaen y seiadau a rhannau ereill y gwaith. Yr oedd yn gynghorwr yn ystafelloedd cen- hadol M.C. y cylch, .a'i wasanaeth yn gymer- adwy ymhob lle'r elai. Claddwyd ef ddydd Sadwrn diweddaf yn y Wyddgrug. Gwas- anaethwyd wrth y ty gan y Parch. Thomas Morgan (B.) yng nghapel y fynwent gan y Parch. W. 0. Jones, Woodchurch Road, a- wnaeth sylwadau gwerthfawr am eigymeriad uchel a thystiolaethai i golled fawr yr eg?ys amdano. Diweddwyd gan y Parch. Hugh Evans (W-), a chanu 0 fryaiau Caer- salem ceir gweled," etc. Ymhlith' y dyrfa gwelwyd Mr. T. H. Parry, A.S., yr Wyddgrug; Mri. R. E. Hughes ac Evan Thomas (blaenor- i aid), J. Lewis (Westbourne Road), T. Will- iams (Woodlands), Thomas Knowles, Evan Jones-i gyd o Birkenhead, a'r Parch. J. Owen (Lerpwl). Mr. P. Lloyd Jones, Bootle, ofalai l am yr angladd. Yn Ysgol Sul y Wyddgrug, siaradwyd yn uchel am fy nghyfaill gan Mr. Thomas, Parsonage a dywedai Mr. Thomas Roberts, Ty brith, y caed arwyddion ei fod yn meddu lie uchel yn syniadau y rhai a'i hadna- buant; a nodai ddigwyddiad prydferth lawn i'w groniclo ddarftd i'r meistr a'r gwas fynd gyda'i gilydd i weddio Duw cyn iddo fyned i'r ysbyty a phan godasant ar eu traed, i Edwin ddweyd, Nid wyf yn teimlo'n gynhyrfus o gwbl yn awr yn wyneb unrhyw ganlyniadau. A chanwyd yr emyn a ganodd ef ei hunan cyn mynd at y meddyg:- Iesu, Cyfaill fen aid cu I Dy fynwes gad im' ffoi. D.H. MRS. SETH ROBERTS, Y VOTTY.-Cleddid ei gweddillion hi, sef priod Mr. Seth Roberts, ym mynwent newydd Bootle ddydd Mercher diweddaf. LTywyddid y gwasanaeth ang- ladd gan y Parch. R. W. Roberts, B.A.,B.D., a chymerwyd rhan gan Mr. D. Jones-Hughes, y Parchn. Robert Lewis (Crewe), H. H. Hughes, B.A.,B.D. (Princes Road), J. Hughes, M.A. (Fitzclarence Street), a Wm. Henry (yn Saesneg) ac wrth y bedd drachefn gan y Parch. E. J. Evans (Walton) a J. D. Evans (Garston). Yr oedd y gynulleidfa'n un luosog iawn. Dyma'r prif alarwyr :—Mri. Seth Roberts, Thomas Ellis (Llanfihangel Glyn Myfyr), Mrs. Williams (Rhosdir), Miss Roberts (Prescot), Mrs. Williams (Tai Nant), Mrs. Jones (Seacombe), Miss Roberts (Pen y bont), Mr. a Mrs. Hugh Roberts (Waterloo), Mri. John Jones (Cerrig y drudion), D. O. Jones (Pentrefoelas), Jonathan Roberts (Pen y bont), John Roberts (Rock Ferry), Rowland Roberts (Bwlchgwyn), John Davies (Neifion), Isaac Jones, Aaron Jones, David Belton, David Roberts, Aaron Roberts, Adam Will. iams, Thomas Williams, D. Wm. Roberts, Mr. a Mrs. O'Hare, Mr. a Mrs. J. J. Owen, J Mrs. D. J. Hughes, Miss A. Selina Belton, a I Mrs. Davies. Daeth nifer mawr o wreaths o'r dref a'r wlad. Trefniadau'r angladd yng ngofal Mr. P. Lloyd Jones, Stanley Road. Daeth hwn oddiwrth gyfaill ac edmygydd Rhyw ddeunaw mlyredd yn ol daeth i'r dref yma eneth ieuanc wylaidd 0 Lan fihange I Glyn Myfyr, merch y Fotty yn yr ardal honno.; ei rhieni yn bobl grefyddol, ei mham yn nodedig am dreiddio i drysorau'r Beibl, a'r eneth yn debyg iawn iddi. Priododd ddyn ieuanc parchus a diwyd, sobr ei fuchedd a glan, o ardal Bwlchgwyn. Fel y bu ami i dro, i rai ymroddgar mewn daioni, bendith- i wyd bywyd y par dedwydd a llawer cysnr, doniwyd hwy hefyd ym mhethau'r ddaear, a daethant yn enghraifft o Gymry llwyddian- nus yn cofio r Duw a'u cofiodd hwy. Gwnaeth y ddau eu-cartref yn Orrell Park, a'r hen enw oedd mor annwyl iddynt—y Votty, ar y ddor. Ni fu annedd fwy cysurus, na helaethach ei thangnef, ac yn groesaw o'r parlwr i garreg y drws. Pwy wyr hyd ei Baradwys ? Aeth dyrnod annisgwyl a'r wraig hawddgar a thirion ymaith i hafoty ber- fleithiach fry, un ddiogel mewn haf tra- gwyddol. A phrudd fu'r deffro heddyw, A gweld y wag aelwyd wyw Heb farwor, ac agoryd Dor y bwth ar wacter byd. Dodwyd ei rhan farwol i orffwys yng nghladd- fa Bootle ddydd Mercher, ac yno lu mawr yn hiraethau a chydymdeimlo. Cysur gwerth- fawr i Mr. Seth Roberts fydd cofio ar ol hyn am arwyddion mor amlwg mai gwraig gymer- adwy gan y rhai nesaf ati oedd ei briod. Yr oedd yn hysbys i gylchoedd y tuallan i Peel Road, rhannai ei charedigrwydd wrth reddf tiriondeb eithr cyfyngodd ei gwaith yn bennaf i'r ffurf anhawddaf arno—gwnaeth ddaioni yn ei chvlch ei hunan. Os trengaist ar rew angau—hawddgar iawn Yw gardd gwrid dy ruddiau. Mi wn hyn, 'rwyt ti'n mwynhau Claer olwg Haul yr heuliau.-NEIFION. EGLWYS M.C. (SAESNEG) OAKFIELD RD. -No-, Fercher, y 25ain o Fawrth, cynhaliwyd Cyngerdd mawreddog ac Organ Recital yma, a bu'n llwyddiant digamsyniol ymhob ystyr. Diolch i ymdrechion difiino'r ysgrifenyddion, Mri. Arthur Roberts a Russell Edwards, yr oedd y lie yn orlawn, a chafwyd rhaglen gerddorol uchelryw. Mynegodd y dorf eu cymeradwyaeth o'r arlwy, yn lleisiol ac yn offerynol, a bu raid i bob un o'r datgeiniaid ymddangos a chanu drachefn. Mr. John Williams, Liscard, oedd y cadeirydd, a chyf- rannodd yn hael at yr achos. Disgwylir elw sylweddol oddiwrth yr ymdrech. Dyma'r cantorion :—Mr. E. K. Harrison, Mr. Spencer Hayes, Miss Elsie Hulme Jones, Mr. D. W. Henderson, Mr. J. C. Brien, Madame Lizzie Lawson.