COLOFN YR HEN BOBL. I Mawr yw swn ac uchel yw sbonc y bobl ifanc yma'r oes hon, ac a feddyliech mai hwy wnaeth y cread hwy sy'n llenwi'n papuaau a'n popeth ond chware teg i'r hen bobl gael eu cyfle a'u colofn a dyma hi, ac yndechreu gydag atgofionFr Ilen Flaenor I am hen gapel anwyl Bedfoed Street, I Lerpwl Y ddau ddoctor. I YCHYDIG amser yn ol, Mr. Gol., buoch fwyned I a chaniatau i mi gongl fach o'r BRYTHON i sgriblo tipyn o atgofion am Fanceinion. Mae awydd arnaf eto, os caf. anfon ychydig gofion am Lerpwl, yn fwy neilltuol am hen gapel Bedford Street. Gobeithiaf y cyd-ddygwch a hen wr sydd yn byw cryn lawer y dyddiau hyn ar atgofion yr hen amser gynt." Yn gyfrin- achol, Mr. Gol., y rheswm i mi symud o Fan- ceinion i Lerpwl ydoedd fod magnet gref yn eich tref chwi y pryd hwnnw oedd yn fy llusgo yno erbyn fy ngwaethaf, ac a ddiben- nodd mewn cwlwm priodas, .barhll heb ei ddatod hyd heddyw. Y diweddar Ddr. Saunders (coffa da amdano !) wnaeth y cwlwm yn hen gapel Netherfield Road. Mae pump deg ac un o flynyddoedd er hynny, a llawer tro ar fyd wedi digwydd. Mr. Saunders oedd gweinidog Bedford Street y pryd hwnnw, ac un annwyl ydoedd hefyd. Yr oedd y Parch. John Hughes (Dr. wedi hynny) ac yntau'n gyfeillion mawr. Cawsom fantais go dda i adnabod y ddau, ac i sylwi ar eu neilltuolion. Yr adeg honno, cynhelid dau gyfarfod yn wythnosol yn festri Bedford Street,—cyfarfod I darllen un noson, dan arweiniad Dr. Hughes, a chymdeithas lenyddol, o dan lywyddiaeth Dr. Saunders, y noson arall. Un o ragor- freintiau pennaf fy oes oedd cael bod, y tymor hwn, tan addysg dau atbro mor ragorol. Yr oedd diwinyddion goreu Bedford Street yn aelodau o'r dosbarth darllen,— amryw ohonynt yn gyfarwydd A'r ieithoedd gwreiddiol a'r feirniadaeth Feiblaidd ddi- weddaraf, fel yr oedd ein llinynau ni y bobl ieuainc wedi disgyn mewn lleoedd hyfryd, a'n manteision yn amhrisiadwy. Fel rhai ieuainc yn y dosbarth, ynghanol dynion cryfion fel hyn, ac yn enwedig dan athro mor urddasol ei leferydd a'i drem, teimlem dipyn yn swil ac ofnus, ac yn anodd gennym wneud dim ond darllen a gwrando yr oedd yr athro gymaint uwchlaw i ni, fel na feiddiem fynd yn rhy agos ato. Er ei fod o ysbryd tyner a charedig, hoffai dipyn o ddireidi a difyrrwch, a chwardd- ai'n hearty weithiau ar ambell esboniad trwsgl ar adnod. Yr oedd hen frawd unwaith yn dweyd ei farn ar adnod, dipyn yn wreiddiol, a digon trwsgl. Hawdd gweled fod y Dr. yn cael difyrrwch mawr wrth wrando ar yr hen sant syml yn drysu a thrafferthu gyda'r adnod gwenai yntau, a rhoddai ambell wine o foddhad ar ei gyfeillion. Wrth sylwi arno yn mwynhau cymaint ar fusgrellni a thrwstan- eiddiwch o'r fath, teimlais innau mai gwell ydoedd Tewi a son, I minnau, un o'r manion. Ond yr oedd summing-up yr athro galluog ar y diwedd bob amser yn ardderchog crynhoa1 y gwahanol syniadau a draethid yn ystod y cyfarfod, a dygai'r cyfan i orffwys yn naturiol ar un gwirionedd mawr a ddysgid yn y wers fyddai dan sylw. Dyma guddiad ei gryfder, a dyna ogoniant y dosbarth hefyd. A oes dosbarth fel hwn yn awr yn Princes Road, a diwinyddion clasurol yn yr eglwys, fel oedd yn y dyddiau gynt ? Feallai fod, am ddim a wn i yn wahanol, ond mae lie i ofni nad oes cymaint o sylw yn cael ei roddi, na chymaint o drafferth yn cael ei gymervd gyda'r Beibl y blynyddoedd hyn ag oedd yn amser ein tadau. Rhaib am arian a chwarae, a galw am Samson i beri chwerthin, ydvw nodwedd fawr yr oes hon. Mae miloedd lawer, hyd yn oed o bobl ieuianc ein heglwysi, wedi ymwerthu i ddifyr- rwch ac adloniant, a thrwy hynny wedi colli bias ar bethau crefydd, a pharlysu eu defnvddioldeb yn eglwys Crist. Gwyn fyd na ddelai'r Ysbryd Glan, yn Ei ddylanwadau nerthol, i'n hysgwyd ni fel gwlad i ymdeimlo a'n cyfrifoldeb. no ao aa r f t I Mynd Vr Wal. I Wel, os oedd arnom dipyn o ofn ein hathro hybarch yn y dosbarth darllen, ein perygl yn y gymdeithas lenyddol oedd bod yn rhy hyf ar ein llywydd llednais, Gwr caruaidd, annwyl, hawdd nesu ato, oedd Dr. Saunders, —" Corsen ysig nis tyrr, a llin yn mygu nis diffydd." Yr oedd yn ei afiaith yn gwrando arnom yn arfer ein doniau areithyddol yn y gymdeithas, ac yn gwneud ei oreu i'n helpu a'n calonogi pan fyddai wedi mynd yn niwl arnom. Mae cvmdeithas fel hon, nid yn unig yn foddion i ehangu gwybodaeth a deffro meddylgarwcb yr aelodau, ond yn foddion rhagorol hefyd C i ddysgu dynion ieuainc i I' siarad yn gyhoeddus yn deilwng a chymerad- wy. Yr oeddwn i fy hun, Mr. Gol., wedi gwneud tipyn o gynnydd yn y cyfeiriad yma, ac wedi meddwl yn sicr fod rhagolygon disglair o fy mlaen fel areithiwr ond fe ddaeth am- gylchiad o gwmpas i roddi test ar hynny, ac fe a bwyswyd yn y cloriannau ac a gaed yn brin. Ac fel hyn y digwvddodd yr oeddwn yn digwydd bod yn aelod ar bwyllgor dirwestol ynglyn â. Bedford Street, ac yn eymeryd rhan lied fleanllaw mewn trofnu cyfarfodydd dir- westol a gynhelid y pryd hwnnw yn fisol mewn ystafell fawr a elwid yn League Hall. Y rheol ydoedd fod aelodau'r pwyllgor i gymeryd y gadair yn y cyfarfodydd hyn yn eu tro fe ddaeth fy nhro innau yn y man ond gan fy mod yn teimlo fy hun yn rhv ieuanc a dibrof- iad i lvwvddu mewn cyfarfod o'r fath, addawodd un o'r brodyr hynaf a mwyaf profiadol gymeryd fy lie, ar yr amod fy mod i areithio yn y cyfarfod. Addewais wneud hynny, gan gwbl gredu y medrwn wneud hynny'n well na llywvddu, ac euthum ati ar unwaith i baratoi araith, ftiasai, yn fy meddwl i yn onest ar y pryd. yn rhoddi'r cyfarfod ar d&n. Euthum drosti hi i gyfaill i mi cyn y cyfarfod, ae yr oedd vntau o'r un tarn a minnau, ei bod yn Al. Y noson apwyntiedig, yr oedd yr Hall vn orlawn, ac amryw ddynion enwog yno fel Dr. Saunders ac ereill. Pan ddaeth v lIvwydd at fv enw i ar y rhaglen fe wnaeth svlwadau darfodd dipyn arnaf. Yr oedd wedi codi disgwyliadau'r cyfai-fod i bwvnt uchel iawn, gallech feddwl wrth swm y sebon ddefnyddiai ei fod yn mynd i alw ar John Gough. Yr oeddwn yn bur nervous erbyn hyn, ond codais ar fy nhraed a dywedais yn foesgar, Mr. Cadeirydd," a thrachefn, Mr. Cadeirydd (v niwI yn codi), Mr. Cadeirvdd v drvrledd waith, vn fagddu dvwvll erbvn hvn. a ohrafu pen. Dvma rhyw un trugarog o'r pen arall yn bloeddio, Gad- ewch iddo fo, mae'n bownd ohoni hi yn union deg." Meddwl rhoi tipyn o help yr oedd y ] brawd caredig hwn, ond gwneud pethau'n waeth ddarfu o druan. 'Doeddwn i yn gweled neb na dim o fy mlaen ond tywyllwch du. Meddyliais y buaswn yn darllen fy araith, a thynnais hi o'm llogell gyda'r bwriad hwnnw, ond 'doeddwn i yn gweled dim ond clwt du fel y fagddu|o fy mlaen, ac eisteddais i lawr mewn chwys mawr, heb ddweyd yr un gair ond Mr. Cadeirydd." Gwaeth na'r cwbl, yr oedd yr eneth oeddwn ar fin ei phriodi yn y cyfarfod, a bu agos i mi ei cholli am byth, yr oedd wedi cywilvddio cymaint fel yr oedd yn gwrthod fy arddel am dipyn. Profiad go chwerw i ddyn ieuanc, syrthio mor isel pan yn tybied ei fod yn sefyll. Gwir yw y gair Yr hwn a ddyrchafo ei hun a ostyngir." Anghofiais i byth wers fawr y League Hall, ac eto yr wyf yn ddiolchgar heddyw am y tipyn training a gefais gan Dr. Saunders yngNghym- deithas Lenyddol Bedford Street. Os caf dipyn o hwyl a hamdden, bydd gennyf air bach i'w ddweyd y tro nesaf am flaenoriaid Bedford Street y pryd hwnnw, a'r dosbarth yn yr Ysgol Sabothol; hynny yw, os bydd Y BRYTIION yn foddlon. [Bydd yn eithaf boddlon, yr Hen Flaenor.- GOL.]
MITCHFLL BROS. Marsh Lane, Bootle. English Maaufactared "MAPLE BLOCK FLOODING. AU Slim kept in Stock. Largest Stock In the Kingdom Phn-i 639 Boctfcte T1. A'i,Par<mpfcary" L' virpao MAES LLAFUR Undeb Ysgolion Sul M.C. Lerpwl a'r Cyffiniau. Esboniad Dr. Owen Thomas ar yr Epistol at yr Hebreaid, 3/6. Eto, Principal T. C. Edwards, 2/ Eto, Parch. J. Morgan Jones, 1/6. Yr Epistol at yr Hebreaid, gan y Prif-athro T. Rees, M.A., Bangor; cyf. i., pen. 1—7, llian Is.; cyf. ii., pen. 8-13, llian 1/- Llawlyfr ar Damhegion Crist (i rai dan26 oed, gan y Parch. M. H. Jones, B.A., Tont, 1/- Llawlyfr y, Parch. E. O. Davies, B.Se., ar Ddamhegion Mathew," 3c. yr un, 2i6 y dwsin. Cwestynau ar y Chwe Penod Cyntaf yn yr Epistol at y Rhufeiniad gan y Parck. Griffith Ellis, M.A. Pris lc., trwy y post 11. eto. Ar y saith penod olaf pris 14a. trwy y past 2c. I'w cael gan- Hugh Evans a'i Feibion. 358 STANLEY ROAD Y NEGESYDD CENHADOL DARLUNIADOL. Cylcbgrawn Chwarterol Anenwadol, er lledaenu Newyddion Cenhadol. Pris ioh. y flwyddyn, cludiad rhad. Congl y Plant o dan olygiaeth Mrs. (Dr.) P. Fraser, Bryniau Lushai, India. Golygydd Watkin R. Roberts, Bryniau Lushai, India Rhifyn Tachwedd yn barod. Dylai gael ei le ym mhob cartref Cymreig. Teleraw. arbennig i ddosbarthwyr. Cyfeirier J- SWYDDFA'E NEGESYDD CENHADOL," 21 High Street, Carnarvtm V MAE dros ugain mil [20,0001 o bobl ar hy. o bryd yn gwisgo GWYDRAU F. & H. Gan ein bod we<ti 'eu haddasu'n Ilwyddiannus, a gawn ni-ch filtio OHWI) Y mae'n prisiau'n dra rhesymol. PRANOIS a HOLLAND, Uygadyddion Cymeradwy, 5 Bold Street, Lerpwl [uwchben W right's Eagle Range Co.] VS, PAtAIS DE LUXf, LIME 51. LIVERPOOL. LLUNIAU BYW SYMUDOL Chwaetinap, dyddorol, 80 adeiladol ae TH BARHAOL. o 2,.0 hyd 10-30 bob diwrnod o'r wythnos. i enwcb pan y mynnoch, ae arhoiweh cyhyd ag y dymunoch. f yn thad heb dal rhwng 4 a 6 yn yr Orehettr Stalls, Pit Stalls, a'r DTess Cireks, Mysediad, 1 !• n 6cb Dyma. i chwi gv fie am ddarlun Campus o'r Gwir Anrhyd, D. ILoyd George sef adlun (Autotype Reproduction) o'r llun a Baentiwyd ohono gan Mr Christopher Williams. Yr adlun i'w gael gan HUGH EVANS a'i FEIBION, Swycldfa"r "Brython," 356 358, Stanley Road, Liverpool. Prisiau trwylr" Post, 7" x 10" 1 16, 14" x 20" 5/ 21"x 29 12 /», Postal Order i ganlyn yr Aroheb. Telerau neilltuol i Lyfr- werthwyr. S
Y Golofn Ganu. CymanfaGanu M.C. Lerpwl [GAN G.W.H.] CYNHALIWYD y Gymanfa flyayddol uchod Nos Lun, Mawrth 30, yn y Suu Hall, Kensing- ton, o dan arweiniad y corddor enwog Mr. Harry Evans, pan yr oedd y cynhulliad gyda'r mwyaf a welwyd yno ers blynyddoedd, os nad erioed. Llywyddwyd gan y Parch. John Owen, ic anerchodd y cyfarfod yn rhag- orol ar bwysigrwydd Caniadaeth, ac anheb- gorion arweinwyr, sef gwybodaeth, medr, profiad o'r pethau y cenir amdanynt, gwybod- aeth ddiwinyddol, gweddi, paratoad ysbryd, etc. Cyfeiriodd yn barchus at frodyr a gollwyd yn ystod y flwyddyn, sef y Mri. Hugh Hughes, Newsham Park, a Herry Hughes, Anfield-hen arweinyddion ffyddlon am faith flynyddoedd. IJjYr oedd y lleisiau yn llawnach a chyfoeth- ocach, y cydbwysedd yn well, a'r Gerddorfa'n rhagorach ei chyfansoddiad na dim a fu ers blytiyddau, a deallwn fod llafur anghyffredin wedi bod. Yr oedd yr arweinydd yn ei hwyliau goreu, a'i ddylanwad yn fawr ar y oaiitorion, a chafwyd awgrymiadau gwerth- fawr garddo. Wrth gwrs, cyfrannodd Mr. Evans yn y modd helaethaf at y llwyddiant mawr, a chafwyd cymanfa gampus—un i'w chofio, ac a edy ei dylanwad, ni a gredwn, ar ganu'r cylch. Canwyd Triumph, Eller8, Fulda, Adgyfod- iad, Barnsfield, Liverpool, Bethany, Hebron, Trefdeyrn, Aberteifi, Gum Rhondda, Chant a'r Duw sydd noddfa," yr anthemau Mi edrych- af ar t fyny (" Jesu Gounod), a Yr Arglwydd yj) fy Mugail (Dr. Parry) ynghyda'r cydgan The Heavens are telling (Haydn). Ymhlith y tonau a ganwyd oreu yr oedd Ellers, Fulda, Adgyfodiad, Liverpool, Aberteifi a Chwm Rhondda. Yr oedd Ellers yn bryd- ferth a gweddigar. Yr oedd y 7fed pennill yn effeithiol iawn, mewn unsain, a'r off-rynau chwith yn dad allan yn gryf a sydyn ac megis yr rhoi her ar y geiriau, Pa le mai angau ? Yr oedd Adgyfodiad yn gref a mawreddog dros ben, ac yn werth ei chlywed fel hyn mewn cymanfa. Nid yw yn ymarferol, wrth gwrs, ond i'r cynulleidfaoedd lie y mae adnoddau a gallu i wneud cynawnder a'i gofynion. Yr oedd y pennill cyntaf o Liverpool yn fuddugol- iaethus iawn, ac yr oedd dylanwad yr offerynau pres yn cynhyrfu ysbryd y cantor- ion. Dichon y teimlai rhai anhawster i ddilyn pe gorfodid hwynt i ganu'r pennill mor gyflym yn y cynulleidfaoedd cymysg ond na phryderer, oherwydd nid oeddys yn golygu y gellid mabwysiadu yr un amseriad o dan bob amgylchiad. Cymedrolir amseriad gan wahanol hethau. Yr hyn Sy'D bwysig yw ysbryd y gyfraith, ac nid y llythyren. Danghosodd yr arweinydd, heb berygl i neb gamsyniad, mai datganiad bywiog a buddugoliaethus ddylid ei roi o'r pennill hwn, ac yr oedd yn mynd gyda hwyl fawr. Diau y gedy argraff. Parthed Aberteifi a Chwm Rhondda, anodd dweyd gormod. Yr opddynt yn ardderchog iawn, yr holl gynulleidfa yn ymuno. Canwyd Barnsfield a Threfdeyrn yn dda, ond nid oedd lie i lawer o hwyl gyda'r rhain. Rhagorol ymliob ystyr oedd Bethany. Ansefydlog yn yr amser, o ddiffyg talu sylw, oedd rhannau o bennill cYJtaf Triumph, ond y penhillion ereill yn ardderchog. Canwyd y Chant yn wir dda, ystwyth, a chryno, heb ddim neilltuol yn tynnu'r ol, ond fod adnod neu ddwy ychydig yn gymysglyd ar yr adroddnod. Yr oedd yn ddatganiad cymeradwy iawn. Beth pe canai'r cynulleid- faoedd hi yn eu gwasanaeth cyhoeddus ? Lie y mae Cor yn arwa;n y gynulleidfa, cym- harol rwydd fyddai hyn. Canwyd yr anthem fer yn dlws odiaeth, Yr Arglwydd yw fy Mugail yn gampus, ac hyd yn oed The Heavens are telling yn wir effeithiol, y rhannau diwedd- af yn cael eu gweithio i fyny gyda bywyd a gwres angerddol i eithabfwynt rhagorol. Digwyddodd llithriadau bychain o du rhai o'r cantori on. Pa le y mae'r Amen ? Daeth i'r Gymanfa hon gyda grym. Gosodai'r arweinydd bwys arni. Rhoes y Gerddorfa (blaenorydd, Mr. R. W. Jones) wasanaeth hynod werthfawr. Hefyd, yr oedd Miss Gwladys Pritchard (wrth y berdoneg) a Mr. J. H. Roberts (wrth yr harmonium) fel arfer yn dra effeithiol. Dylesid dweyd y dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch. 0. Lloyd Jones, M.A., B.D., ac y cydadroddwyd y Fendith Apostolaidd ar y diwedd. Y mae clod mawr yn ddyledus i'r ysgriter- yddion (Mri. W. Jones a W. Parry) a swyddogion ereill y Pwyllgor, am eu ffydd- londeb a'u llafur mawr, a llongyfarchiadau calonnog ar lwydd anghyffredin y Gymanfa. Siawns na fydd y gasgl i't saint eleni yn Honni eu calonnau. Ein gweddi yw ar i'r Gymanfa ragorol hon fod yn symbyliad i Ganiadaeth y Cysegr yn ein plith. Methodd ein gohebydd hyddysg, er ei ofid, a bod yng Nghymanfa Ganu'r Bedyddwyr yn Everton Village, a diolchwn i gyfaill cerddgar arall am lenwi'i le gyda'r adroddiad a ganlyn Cymanfa'r Bedyddwyr. ERS llawer blwyddyn, yr ydym wedi arfer ag edrych ymlaen am wledd wrth fodd ein calon yng Ngwyl Foliant flynyddol y Bedyddwyr, ac ni siomwyd ni erioed. Credwn y cytuna mynychwyr y gwahanol Gymanfaoedd a, ni, pan y dywedwn mai eiddo'r Bedyddwyr, atei gilydd, ydyw'r rhai goreu yn y ddinas. Tra y mae ereill yn amrywio'n fawr o ran eu nodwedd a'u teilyngdod, a'r safon yn codi ac yn gostwng o'r naill flwyddyn i'r llall, ceidw hon ei safon i fyny a'i theilyngdod yn uchel ac yn wastad ar hyd y blynyddoedd. Un rhes- wm am hynny, efallai, ydyw fod y cantorion a'r arweinydd wedi glynu wrth ei gilydd, a dal yn ffyddlon i'w gilydd am gynifer o flynydd- oedd. Annichon meddwl am Gymanfa'r Bedyddwyr heb Mr. J. T. Jones yn arwain, ac mae'r arweiniad bob amser yn syml a naturiol, heb an ymgais am arddanghosiad ar fath yn y byd. Dyna fel y teimlem wrth fynd i gapel Everton Village, nos Fercher ddiweddaf Ebrill laf, a chawsom yno fwy na'n disgwyl- iad. Cafwyd y cynhuiliad mwyaf a welsom yno, a ohvmanfa fawr mewn gwirionedd,-y teimlad cyffredinol ydoedd mai dyma'r oreu ers llawer blwvddyn. Canu mawl oedd yno, ac nid canu corawl teimlid naws hyfryd ar yr holl oedfa, ac ysbryd addoli yn treiddio'r cyfan- Wedi canu'r emyn, Dyro inni Dy arweiniad, Arglwydd drwy yr oedfa hon, ar y don Priscilla, darllenwyd rhan o'r Ysgrythyr a gweddiwyd gan y Parch. O. L. Roberts, ac ar unwaith tarawyd cyweirnod priodol i'r cyfarfod. A chyn son am y canu, dymunem alw sylw arbennig at un peth newydd a tharawiadol dros ben a gafwyd y noson hon. Tua chanol y cyfarfod, yn lie un o'r areithiau amleiriog, di-les a difudd, a geir yn rhy gyffredin mewn Cymanfaoedd Canu, i darfu'r ysbryd, galwyd ar Mr. Owen Owens, un o ddiaconiaid Everton Village, ymlaen i ddarllen a gweddio, a theimlem mai teneu iawn oedd y lien rhyngom a'r byd ysbrydol. Hoffem weled rhywbeth tebyg ymhob Cy- manfa. Am y canu, yr oedd o safon uchel i'w ryfeddu,—llawnder o leisiau cyfoethog, y donyddiaeth yn bur, a'r holl ddamau wedi eu dysgu'n drwyadl, y cyd-symud yn berffaith a meddwl a chalon ar waith yn y cwbl. Nid yn 'ami y ceir cystal detholiad o donau ae emynau, a hwnnw'n llawn o amrywiaeth hap us. Y tonau y cafwyd mwyaf o hwyl gyda hwy, o bosibl, ydoedd Herman, Rhondda, Heatherdale a Llanidloes, a chodasant y cyfarfod i dir uchel iawn. Y mae Hermon wedi dyfod i aros, a gafaelodd yn dynn ynnom heno. Ymunodd yr holl gynulleidfa i ganu Rhondda, a chafwyd canu mawreddog arni. Y mae adsain y ddwy linell olaf,— O am aros Yn Ei gariad ddyddiau foes yn ein clustiau o hyd, y rhai a ail-ganwyd drachefn a thrachefn, nes yr oedd yr effaith bron yn anorchfygol. Ond nid oes ofod i fanylu. Y tonau ereill ydoedd Carey, Melita, Deganwy, St. Catherine, a Mawlgan (J. H. Roberts), y Semi-Chant Mae'r afael sicraf fry, a'r Chant ddwbl, Salm ciii. Fe dal i un fynd i'r Gymanfa hon pe i ddim ond i glywed y chantio. Yr oedd yn ardderchog. Ac er fod un o'r rhai mwyaf anodd wedi ei dewis y tro hwn, ac yn newid ar ganol y Salm o'r lleddf i'r lion, yr oedd y cantorion yn feistriaid llawn arni, y geirio yn groyw a chlir, a'r cydsymud yn llyfn ac esmwyth. Canwyd dwy anthem, O'r dyfnder y llefais (W. T. Samuel), ac Wrth Afonydd Babilon (Gounod). Anthem drom ac anodd ydyw'r olaf, ac yn gofyn cryn fesur o ddewrder i gynulleidfa gymysg ymgymeryd a hi, ond yr oedd y cantorion yma yn ddigonol i'r gwaith, a chafwyd datganiad meistrolgar a mawreddog. Ar ddymuniad taer, ail-ganwyd hi cyn diwedd y eyfarfod. Terfynwyd drwy weddi gan y Parch. D. Powell. Y cadeirydd ydoedd Mr. D. T. Edwards, Y.H., Maer Caernarfon,- diacon ac arweinydd y canu gyda'r Bedydd- wyr, ac yn awdur nifer o donau. Cafwyd ganddo anerchiad byr a hapus. Yr oedd yn amlwg ei fod wrth ei fodd, ei enaid yn nofio yn y mor o fiwsig. Y cyfeilwyr ydoedd Miss M. E. Roberts, Miss G. Thomas, a Mr. Robert Harvey, ac wele swyddogion y pwyllgor- cadeirydd, Mr. J. T. Wynne Jones is-gadeir- ydd, Mr. E. B. Jones ysgrifennydd a thrys- orydd, Mr. J. T. Davies, Birkenhead. Trefnir i ail-roddi y Gymanfa yn Birkenhead, yng nghapel y Wesleaid Saesneg, Price Street (Brunswick) nos Fercher, Ebrill 22, a chaiff y sawl aiff yno wledd amheuthun.
-v- I Y Cymry Pell. 1 Bydd yr heniaith a ddysgasom A'r alawon. a ganasom. Gyda ni mewn estron wlad. TORONTO, CANADA.—Mawrth 21 cynhal- iwyd yn yr Orange Hall, Euclid Avenue, gyng- erdd mawreddog, a'r elw at, gronfa adeiladu Eglwys Gymraeg y ddinas. Y trefn- iadau yn nwylo Mr. John Owen (gynt o Grove Street), a chaed gwledd gerddorol. Canwyd yn swynol gan Mr. Mallett a Miss Snazell, a chawsom hwyl aixarferol wrth wrando ary Woodbee Musicians detholiadau ar y Victrola gan Mr. Arthur Owen chwar- ae'r Cornet gan Mr. C. Blaver a Mrs. Percy Jones yn cyfeilio. Saeson a'n cynorthwyodd y tro yma, a diolchwyd iddynt ar ran yr Eglwys Gymraeg gan Mr. A. H. Chambers (Oakfield gynt) a Mr. Hugh Hughes (Grove Street gynt). Llannwyd y gadair gan Dr. Roberts, M.A., Rome, U.D. Y Saboth, Mawrth 22, pregethwyd fore a hwyr gan y Parch. Dr. Roberts, M.A. Nos Sal, ar ol yr oedfa, dewiswyd y brodyr Lewis Evans a Griffith T. Pritchard yn flaenoriaid. >; r.GWYL DDKWI YN AUSTRALIA.—Eleni, trefnodd y Cymry sydd ar wasgar ond sydd yn ymgynrull i Eglwys Gymraeg Perth, i gael Eisteddfod, Chwefrol 28, yr hon a drodd allan yn llwyddiant rhagorol. Cynhulliad lliosog, neuadd St. Andrews yn llawn, a brwdfrydedd gwresog ar ei hyd. Bu cydymgais dynn cyd- rhwng Cymry a Saeson ar y gwahanol gys- tadleuaethau, ond amlwg fod y Cymry ar y blaen yn y rhan fwyaf ohonynt. Cadeirydd, Mr. Sam R. Elliott, Cymro twym er heb fedru yr hen iaith, a etholwyd yn ddiweddar yn Seneddwr dros ran o'r wlad fawr hon. Yn arwain yr oedd y Dr. J. K. Couch, brodor o Abertawe, a'i henw hefyd ar ei breswylfod. Cloriannwyd y cantorion gan Mri.H. McMahon a J. D. Edwards-cofnder a gwraig ein prif- weinidog Scadden. 0 blith y buddugwyr ¡ Cymreig,,bu Mr. Ben Davies"yn fuddugol dair gwaith ar ganu,—un o blant Llangollen ydyw ef, ac an o gantorion goreu'r ardaloedd hyn. Am adrodd Anerchiad Glyn Dwr Tom Jones, un o wlad Cerrig y drudion, a brawd y Parch. R. Ernest Jones (M.C.), Saughall. Am yr englyn i'r Car Modur H. Edwards, yntau'n frawd i'r Parch. Lewis Edwards (W.), Seacombe. Unawd tenor Mr. J. A. Hughes, o Aberystwyth. Yr ysgrif oreu, Y Cymro Oddicartref" Mrs. John Davies. Er i'r eglwys Gymreig ymgeisio'n deg am y wobr o £ 10 a'r bathodyn aur, cdr arall aeth a hi y tro hwn. Bathodynau aur o gynllun arbennigr oedd yr holl wobrwyon, sef y ddraig goch a' cenin a'r alarch—arwyddlun v dalaith hon. Y ddau ysgrifennydd oedd y Mri. D. O. Evans ac E. Pritchard, dau o blant Gogledd Cymru, cyfarwydd a'r gwaith, wedi bwrw eu prentis- iaeth yng nghyfarfodydd dirif Hen Wlad y Gan. Yn fawr ei brvsurdAb wrth werthu'r tocynan, gwelais E. H. Williams, hysbys i lawer tua Lerpwl ac Eglwys Peel Road. Eisteddfod ar raddfa fechan, ond yn addewid dda am un fwy a gwell yn y dyfodol.— A p Taffy.
I DAU TU R AFON (Parhad o tudal. 7). CYMANFA PLANT YR ANNIBYNWYR.— Llwyddiant digymysg fu Undeb y Gobeith- luoedd a Chymanfa Gerddorol y Plant yng Nghapel Park Road ddydd Sadwrn diweddaf. Yr oedd ynjbresennol rai cannoedd o blant o'r tri Gobeithfu ar ddeg, a haeddant ganmoliaeth uehel, nid yn unig am ddysgu eu gwersi mor dda, eithr am eu hymddygiad tawel a bonedd- igaidd, eu gwrandawiad astud, eu sylw cyson i'r arweinyddion, a'r parodrwydd bywiog a'r hwn y cymerent i fyny bob rhan o'r gwaith. Yr oedd y cyfarfodydd yn ddiddorol o'r dechreu i'r diwedd, ac yn llawn gwersi i bob oedran. Deallwn na fu'r Gobeithluoedd hyn erioed mor effro a bywiog ag y maent ar hyn o bryd, a chlo campus eodd y Gymanfa hon i waith y tymor. Arweinydd y ddau gyfarfod ydoedd Mr. Hugh Parry, Walton. Yr arweinydd canu, Mr. leuan G. Roberts, Park Road organydd, Mr. George Owen, Park Road beirniad canu, Mr. Wm. Jones, L.T.S.C., Birkenhead beirniad yr adrodd, Mr. Philip Jones, Anfield. Cadeirydd y prynhawn ydoedd Mr. Owen Evans, Park Road, a chafwyd ganddo anerchiad rhagorol, yn llawn o wreichion byw, ac yn pwysleisio'r rhinwedd o ddifrifwch (sincerity). Wedi agor trwy weddi gan. y Parch. D. Adams, B.A., galwodd yr arweinydd y Roll Call, ae atebodd pob Gobeithlu trwy adrodd adnod neu bennill, yn y drefn a gan- lyn :-Park Road, Heathfield Road, Martin's Lane, Prescot, Tabernacl, Vittoria Street, Marsh Lane, Grove Street, Clifton Road, Great Mersey Street, Kensington, Gorsebank Road, a Trinity Road a dygwyd y rhan hon i ben trwy i'r holl blant gydadrodd Dameg y Mab Afradlon. Holodd y Parch. Rhys T. Williams y plant yn yr Holwyddoreg Dirwestol, a chafwyd hwyl ar y gwaith. Cafwyd dwy gystadleuaeth—Adrodd Dydd Dirwest," i rai dan 12 oed 1, Mvfanwy Thomas, Trinity Road 2, E. T. Davios, Gorsebank Road; 3. Ada Jones, Trinity Road. Deuawd Mor hyfryd yw gweled y plant yn gytun 1, Marion Hallwood a Doris Jones, Martin's Lane 2, Dora a Maggie Wynne, Marsh Lane 3, Madge Jones a Lilly Williams, Martin's Lane. Canwyd nifer o donau, a therfynwyd drwy weddi gan y Parch. G. J. Williams. Cadeirydd yr hwyr ydoedd y Parch. Albert Jones, B.A., llywydd yr Undeb am y flwydd- yn. Cyfarfod canu ydoedd hwn, ond cafwyd dwy gystadleuaeth :—Adrodd, Palmant y Dref," i rai dan 16 oed 1, May Davies, Vittoria Street 2, Myfanwy Davies, eto 3, Richard E. Jones, Park Road. Canu, Mae Duw yn galw'r ienctyd," i barti o chwecb, o dan 16 oed dau yn ymgeisio, parti Park Road yn oreu. Y tonau a ganwyd yn y ddau gyfarfod Ymlaen ni awn, Plaistow, Dros ein Baner, Diod Duw, Budleigh, Haul y Cyfiavmder goda, Deut».:h blant, 0 Cofia'th Waredwr, Dal wrth y Groes, 0 Sanct- aidd Ddiddanydd, Chant Henffordd, a'r anthem, Canaf i'r Arqlwydd. Hir y cofir y canu hwyliog ac effeithiol a gafwyd ar Diod Duw. Diolchwyd i'r rhai fu'n gwasanaethu'r wyl gan y Parchn. O. L. Roberts a Wm. Roberts. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch. T. Price Davies, a therfynwyd gan y Parch. O. Evans, D.D. Darparwyd te i'r plant ac ereill rhwng y ddau gyfarfod yn yr ysgoldy. Ysgrifennydd gofalus a llafurris yr wyl ydoedd Miss Bertha Charlton, Newstead Road, a'r trysorydd Mr. Salmon Evans. Llongvfarchwn y plant a'r swyddogion, ynghyda phawb fu a llaw yn y gwaith, ar Iwyddiant. yr wyl. GARSTON.—Cynhaliwyd cyfarfod terfynol y Gymdeithas Lenyddol nos Fawrth ddil- weddaf, o dan lywyddiaeth y Parch. J. D. Evans, y llywydd. Darllenodd Mr. Hugh Roberts, Grassendale, bapur llafurus a chyn- hwysfawr ar Ddatblygiad Cerddoriaeth. 01- rheiniodd ei bwnc yn dra Pdeheig o amser Jubal hyd farwolaeth Mozart, a diwedd y cyfnod clasurol. Danghosodd hefyd mai cymharol ddiweddar oedd datblvgiad cyng- hanedd (harmony) ar wahan i Faws (melody). Wedi cwpaned o de a danteithion a baratowyd gan y chwiorydd, aed trwy raglen yn esbonio sylwadau'r darlithydd fel y canlyn :—■ piano, Gosteg yr Halen," hen MS. Cymreig, 6ed ganrif Miss Maud Williams, L.L.C.M. Can, I triumph, I triumph (Carissimi- (1664-1674) Mr. Morfydd Rhys. Piano, Prelude and Fugue in E Minor(J. S. Bach— 1685-1750) Mr. D. Basil .Evans. Aria, te How vain is man (Handel-1685-1759) Mr. M. W. Humphreys. Piano, Andante, 2nd Symphony (Haydn—1732-1809), Miss Maud Williams. Piano, Minuet and Trio (Mozart-1756-1791), Miss Blodwen Jones, A.L.C.M. Diolchwyd yn wresog i Mr. Roberts am ei bapur gwir dda gan Mr. J. W. Jones a Mr. S. Williams, a phasiwyd yn unfryd. Crybwvllwyd y byddai'n ddiddorol cael papur cyffelyb y tymor nesai yn hanes datblygiad cerddoriaeth Gymreig. 'D.B.B.