Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

.Basgedaid o'r Wlad.li

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Basgedaid o'r Wlad. o Ben Cyrn y Brain. T Fimch dri llo.-Dyma i chwi newydd gworth ei groniclo, Mr. Gol.,—i ffermwyr beth bynnag, sef fod un o fuchod Williamsiaid Pant Dedwydd ym Maes Maelor yma, uwch- ben Gwrecsam, wedi bwrw tri llo ar unwaith. A "Bendith ar dy ben,Gwenno," ebe gwr y ty wrth fynd i'r beudy, a gweld y fath etifedd- iaoth a ddygsai iddo. Rhad arnynt hwy a'u Highfteld.—Mi fydd fy nannedd yn grillian o gynddaredd wrth weld yr enwau estronol a di-ddychymyg osodir ar eu tai gan bobl lie mor Gymreig a mynyddig a Bwlch gwyn. Hwdiwch enghraifft neu ddwy o'r pethau fiolioii a di-berthynas Gorsedene, Highfield, Chalet, Rock Carry, Noisette, Hillcrest, Croft, Kingsley, ac yn y blaen. Cymharwch y silod sychion ag enwau fierm- ydd yr ardal, mor lawn o sug awen ac o briodoldeb i'r man y maent :—Waen Fawr, Cloddion Duon, Cefn y maes, Pant dedwydd, Bryn goleu, Pyllau gloywon, BodIEuron, Plas yn graig, Plas gwern, ac yn y blaen-- -Pwy e4yb ?-Oes rhywur ohonoch wyr enw'r afon a red drwy Nant y Ffrith ? Carwn wybod. Hefyd, beth yw enw'r Hall red o odre Mynydd y Pare, Mwnglawdd, i lawr i'r Wern a Bersham ? Cwmni'r Fro Wen.-Dal gyda'i gilydd yn dynn y mae Cwmni Drama'r Fro Wen, ac i chwarae ddwywaith ddydd Gwener y Groglith-Arthur Wyn y Bugail yn Nercwys yn y prynhawn, a Helyntion TeuluW Hafod yn y nos. Hwn fydd yr eilfed tro ar hugain iddynt berfformio'r gaeaf hwn, a hynny nid i hel iddynt eu hunain, ondiddi- ddyledu capel a rhoi hwb i glaf. 0 Odre Plumlumon. Llanidloes.—Llawenydd i lawer fydd gwy- bod i'r Arddanghosfa Genhadol droi dros £ 160 o elw clir at Ysbyty Shillong. Dyma ragori ar Lerpwl, Mr. Gol., a churo Aberystwyth Gresyn na chai Mr. Vyrnwy Jones a Mri. Evans a Parry fwy o'r clod a haeddant am addurno'r ystafell mor wych. Ni weithiodd neb yn galetach na hwynt hyw. Clywais i Aberystwyth fanteisio rhyw gymaint yn y eyfeiriad hwn. Llangurig.—Dywedodd yr Athro Ifor Williams, Bangor, y noson o'r blaen fod darn o'r Gymraeg yn marw pan a cymeriad cryf i'r bedd. Claddwyd Mrs. Mills, Llannerch, ddydd Sadwrn,—merch i un o'r cymeriadau mwyaf amlochrog fu yn yr ardal -Daniel Rowlands, Nant gwyllt. Y mae merch iddi yn eich dinas fawr chwi, Syr. Chwith gweld chwalu hen deuluoedd a hanes iddy.tit.R,I-ioes Mr. H. P. Jones gam pwysig yn ei fywyd yn ddiweddar, Mr. Gol. Y mae'n ddyn cyfan yn awr. Ymunodd a Miss Evans, yr Henfaes, i ffurfio aelwyd eu hunain. Dy- muna'r BRYTFTON, mi wn, fel pawb ohonom, yrfa ddefnyddiol a dedwydd iddynt.—Cafwyd gair oddiwrth yr Athro Arthur Lewis un o'r dyddiau diweddaf, i'r perwyl fod Syr Edward Anwyl yn llunio dod i annerch Cymdeithas Lenyddol Llangurig tua diwedd Ebrill. Bydd yn dod ac yn mynd yr un dydd dros y mynydd. Pwy a ddywed nad yw Llangurig ar brif linell progress ? t 0 Odre'r Wyddfa- Cynhaliwyd cyngerdd mawreddog yn Concert Hall Llanberis nos Iau ddiweddaf, tan nawdd Lady Assheton-Smith. Cymrwyd y gadair gan J. C. Lloyd Williams, Ysw., Glan y Bala yr arweinydd ydoedd Mr. David Owen, Gwynllys a'r cantorion, Miss Gwenonwy Griffith (Llinos Lleyn), ynghyda'r Brodyr Francis o Nantlle yn canu penhillion Arvon- ic Quartette Caeriiarfon a Thelynores Gwyngyll Parti R. D. Roberts, Glan dwr. Cyfeiliodd Mr. J. H. Jones, Haelfryn. Cyngerdd tros ben o dda, a phawb mewn hwyl iawn, ac ail alwyd hwy oil droion. Yr oedd y neuadd yn orlawn, a'r elw at y Nursing Association. O'r Gatehouse, Aber. Nos Fercher ddiweddaf, bu Cwmni Anghar- ad, Bethesda, yma'n cadw cyngerdd, a chaed gwledd na cheir ei thebyg yn ami. Rhaglen amrywiaethol, dipyn o'r lion a'r lleddf, y difyr a'r da, a chadwyd y gynulleidfa mewn hwyl ragorol am ddwy awr neu well. Yr oedd eanu y parti o rai. o'r hei) alawon gwerin yn swynol od, ac wrth fodd calon pob gwir Gymro. Llywydd y cwrdd oedd Mr. Brodie Griffith, y Bane, Bangor, a rhoes anerchiad pert ac amserol. Arweiniwyd yn ddeheuig gan Mr. E. R. Jones—pennaeth y parti. Yr elw at festri newydd y eapeL Diolch wyd yn gynnes iawn i'r llywydd a'r cwmni gan y gweinidog (y Parch. Lloyd Jones) a Mr. Hughes, Aber Ogwen. O Rydlydan. Cynhaliwyd cylchwyl lenyddol y M.C. nos lau ddiweddaf, a phrofodd yn boblogaidd a llwvddiannus fel arfer. Y llywydd oedd Mr. J. Owen, Tai uchaf, Cerryg; arwainydd a beirniad yr adrodd, Dewi Mai o Feirion beirniad cerddorol, Mr. J. E. Roberts, A.C., Penmaehno, a dbyfeiliai Miss Alice Ph. Evans, Ceiryg. Cafodd llu mawr o'r plant eu gwobrwyo mewn gwahanol bynciau yn y prynha,wn,acynyrhwyr. Wele'rd yfarniadau: Deuawdau, Lizzie Ellen Ellis ac 01 won Llovd, a Gwladys ac Enid Jones, y sbyty Tfan. Adrodd dan 20, Blodwen Lloyd. Prif adrodd- iad, Kate Evans a M. L. Hughes y" n gydradd. Unrhyw ddad], Tom Hughes a M. L. Hughes. Ail-adrodd stori, W. G. Pritchard. Pwyntil- ddarlun 1, Myfyr Hughes 2, S. Jones. Unawd cyfyngedig, Mariah Thomas, Siloam. Araith, 1, D. Thomas 2, W. G. Pritchard. Traethawd, Katie Owen. Canu hen alaw, William Lloyd, saer, Garn. Canu gyda'r tannau, David Williams, Ysbyty. Prif un- awd, Bob Ellis, Pentre. Pedwarawd, Anthony Thomas a'i barti o Glasfryn. Parti o 12, R. J. Hughes a'i barti o Glasfryn. O'r Hen Sir, sef Sir Fon. I Eisteddfod y Sir.-Gloewi beunydd y mae'r rhagolygon ar gyfer gwyl fawr y Sulgwyn yn Llangefni, a chlywir swn corau yn dysgu mpwn llawer bro. Nodwedd odi'dog yw'r- diddordeb dwfn a deimla bonedd yr ynys yn yr wyl hon ac fel prawf o hyn, cyilwynodd Arglwydd Boston ddeg gini yn wobr ych- wanegot am gynllun o fwthyn ei Arglwyddes fanerig dpg odiaeth i chwyfio wrth y corn gwlad o arian cerfiedig y Mil. Laurence Williams gadair dderw i'r prifardd, heblaw ami rodd wiw arall.— Llais o'r De- Daeth galwad o Ddowlais am i'r Parch. H. Ellis, gwoinidog y Bedyddwyr ym Mhenuel, Llangefni, i fyned yno i'w bugeilio. Nid yw wedi ateb eto, a chrefa'r eglwys arno barhau ym Mon. Y mao efe'n frawd i Mr. David Ellis y cantor, ac yn fawr ei fri yn y dreHan. -Er8 28ctin.- Y Saboth diweddaf, cwbl- hai'r Parch. Smyrna Jores 28 mlynedd fel bugail eglwysi Annibynnol Bodffordd a Rhos y meirch. Cyngerdd.—Nos Wener, bu rhianedd Cymdeithas Gristionogol Llangefni yn diddori to a'u lleisiau per Miss Davies, Treborth, yn y gadair, a'r Athro S. J. Evans, o'r Ysgol Sir, yn arwain. Ceid macwyaid Miss Gwladys Williams yn canu'r hen gerddi gwerin, ac ere ill fel haid o sipsiwn yn dawnsio yn lion. Ffei 'Honynt /—Diball yw Eglwyswyr ac ambell ffug-Ymneilltuwr di-asgirrn-cefn ac anghyson yn cynnull enwau ar y ddeiseb yn erbyn Dadgysylltiad. Lledaenir llawer stori ddisail a defnyddir ami ystryw gwarthus i ddenu pobl ddiwybod i arvryddo'rpapur nad yw werth yr inc roir arno. Os bu galw erioed am ddeffroad a chyffro ymhlith Ymneilltuwyr, wele'r adeg .0. phe ca,,Yi-i i fy owyllys, mi dorwn ami un o'r seiat am eu gwlaneneiddiwch. Y Ddrama. —Mae hithau wedi gafael ym Mon fel y frech goch ar blant ysgol, a phump o gwmniau yn cystadlu am ddwy gini Mr. E. T. John, A.S., gan fynd o bentref i bentref i gaeleu beirn- iadu. Mawr dda i'r ddrama, ond y mae ami ffiloreg ddigrif yn cael ei bortreadu yn y wlad y dyddiau hyn, a llawer o le i berffeithio'r ddrama, nad yw eto ond yn ei phlentyndod. -Llo#ion.-M,te Cyiigor Cemaes yn effro iawn yn gwylio rhag i'r plwyf golli ei hawl i hen lwybrau.-Ceir argoel am Eisteddfod ardderchog yn Llanerchymedd ddydd Llun y Pasg.—Collodd ardal Pensarn, Amlwch, wr II defnyddiol ym marwolaeth Mr. W. G. Jones, Corn Cam.—Caed darlith ar Lydaw yn Llan- gefni nos Fercher cyn y ddiweddaf, gan Monsieur Macaer, brodor o'r wlad honno I sydd yma'n dysgu Cymraeg a'i fryd ar sefydlu Ysgolion Sul yn Llydaw.—Y mae Mr. John Jones, B.A., Trawsfynydd, sydd ar ei drydedd flwyddyn yn Athrofa'r Bala, wedi cael galwad unfryd i fugeilio Eglwys M.C. Llangoed. Endaf y Gwladgarwr.—Nos Wener, bu cwmni Llangefni yn actio hon gerbron y beirniaid Dr. Lloyd Williams, Bangor, a llond neuadd o wrandawyr astud. Y farn gyffredin oedd fod y ewmni wedi actio yn anghyfEredin o dda, ond mai drama bur gyffredin ei hansawdd a ddetholwyd. Mawr edmygid y golygfeydd gwaith Haw a lliwiau Mr. T. Price Williams, saer maen o'r dreflan. Enoc Hwvs.— Heno (nos Fawrth), bydd Cwmni Bryn gwrar yn actio hon yng Nghaergybi, hwythau yn ymgais am wobr Eisteddfod Mon. Dewis Cynghorwyr.—Ddydd Sadwrn, bu etholiad Cyngor Dosbarth Diriesig Llangefni. Ym- geisiai 22 am 15 sedd, ac wele'r etholedigion Mri. J. E. Jones, 315; Stephen Ellis, 277 Richard Jones. 261 Dr. Llewelvn Jones, 250; Thos. Gray, 236; John Roberts (Cae Ddaf- ydd), 236; Dr. J. R. Prydderch, 227 H. T. Owen, 215; }!. Pritchard, 214; W. Hughes-Jones, 213 T. H. Hughes, 211 Wm. Jones, 208 O. Caerwyn Roberts, 203 O. J. Williams, 200 O. Trevor Williams, 198. Ni bu ond un aelod o'r lien Gyngor yn af- lwyddiannus. i 0 Goedpoeth. Ail-berff ori-niwyd Enoc FIuws yn Neuadd Blwyf y lie uchod, EbriJl laf, gan gwmni Dewi Sant yr elw i gynorthwyo Eglwys Berea, Southsea. Dyma'r cymer- iadau Enoc Huws, Mr. Obed. Roberts C apt en Trefor, Mr. W. H. Pritchprd Mrs. Trefor, Miss Elsie Hughes Susi, Miss Mary Thomas Mr. Denman. Mr. Isaac Hughes Sern Llwyd, Mr. Walter Hughes Thomas Bartley, Mr. W. H. Pritchard Barbara Bartley, Miss Annie Williams; Kit, Miss Elsie Hughes Marged, Miss Annie Williams Jones y Plismon, Mr. Hugh Hughes Y Palch. Obediah Simon, Mr. E. Roberts Yr American Mr. Walter Hughes Athro, Mr. Simon Hughes Arolygwr y llwyfan, Mr. J. O. Wilcoxon ysgrifennydd, Mr. Eleazar Ro- berts. Perfformiad rhagorol, pawb o'r cwmni yn gwneud eu rhan yn wir ganmoladwy —E.R., Myrtle House, Lodge, Bryrnbo. O Garrog. Y mae yma ddymuniad cryf; Mr. Gol., gan eich darllenwyr ffordd yma gael gweld y swp penhillion hyn, buddugol yng ngwyl lenyddol y Bedyddwyr, set yn goffa am Ly diweddar Ddewi Ffraid Dan gysgod ael y 13erwyn Yn unig rhodio raid, I ollwng deigryn hiraeth dwys Ar feddrod Dewi Ffraid Dan gangau prudd yr ywen Yn si y Ddyfrdwy lan, Sibrydion adgof uwch ei fedd Sy'n lleddfu tannau can. Mae hiraeth am awenydd Yng ngwyliau beirdd y wlad, Yn llenwi tannau telyn fwyn Yr awen a phruddhad Mor chwith yw colli'r englyn A nyddwyd ger y lli', A'r pennill oedd yn ysbryd byw Yng nghylch eij" Gorsedd hi. Angherddol oedd ei gariad At lwybrau awen Ion, A phlannodd lawer blodyn tlwa Ar fynwes gerddi hon Cysegrodd lawer orig O'i einioes mewn mwynhad, I nyddu cynghaneddion glan Yn annwyl iaith ei wlad. 0 fewn ei gwmni diddan Diangai'r nos i ffwrdd, Ni feiddiai pruddglwyf roi ei droed Ar randir gwaith y bwrdd Yn swynion hanes Cymru Ei beirdd a'i defion pur, Disgleiriai ei athrylith fyw Mor lan a'i nodwydd ddur." Meddiannai wjmeb siriol Ac ysbryd bywiog. lion, A didwyll fel yr ieuanc wawr Yn dawnsio ar y fron 0 dan y cnwd o eira Orweddai ar ei ben, Pelydrai hoenedd ienctyd lion Fel gwlith ar lili wen. Uwchben ei feddrod tawel I Ar lan y Ddyfrdwy gref, Gwarchoda engyl parch a bri, Ei hir orffwysfa ef Nis gall y bedd ysbeilio Rhinweddau'i einioes faith, Gwyrddlesni bywyd awen fydd Yn aros ar ei waith. AWEL LEDDF.

MINION MENAI, ! — I

Gyda'r Clawdd, Sef Clawdd…

Advertising