Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
*J li U3BP&L AND ACCEPTABLE Presents OF VERT RELIABLE HIGH FASHIONABLE FOR EASTER, COMPRISING DUPjiD JEWELLEHT Saving fully 10/- in every £ SPECIAL VALUE. OUR LIST POST FREE. Davies s. 30 Low Hill BAlf.W A Y ALLOWANCES TO CUSTOMERS FROM A DISTANCE. Close to Hippedreme and Olympia. BARLY CLOSING ON WEDNESDAY AT 1. Pearl & Peridot Gold Pendant Davies's Price V, 1/19/- Usual S,5 LATBST DESIGN, Beautiful Circular real Orieata PEARLS AND PERIDOT PENDANT 1-in. diameter with pearly loop, lustrous gens, most chwxing jew?s Also Solid 15oarat Pearl and Tourmaline PendAat, rich gems; Sale Price, £ 2/6/ usually M. AiM 1S- Carat Diamond and i. with uallyi"A 16- P.  .I Our Priœ. M/19/6, originally &9. Diamond 18-ct Watch Bracelet Davies's Price £ 13/18 Usual L35 SLIGHTLY SECOND-HAND, Indistinguishable to new 18-et. Sold Gold fashionable, latest Self-Expanding bars. Lever Watch Braockt, surrMnded with .0 tB&RMI. LLIANT DIAMONDS, finest quality, pure white; tawlm, intense fire and lustre; ghes"mde move- ?awteasA, CCURATE TIMIST. Warranted 30 Team: Beat, Also m itlcent 18-et. Diamond an d rare bargain. Also magniifcent 18-ct. Diamond aad &tby 8eM-Expan<iing Watdt Bracelet, nne awaUty; Oar Priœ £ 13/19/ usual 920. Abo Superb Diamond md Emerald ditto; Our price £ 18/10/ regular prk* MO. All warranted tlmeëteepers. BALB PRIOJ. ACCURATE WATCH BRACELETS. Various Diamond Jewellery Uraal Price Our Price. ø DRESS STUD, Gent's Single-stone First-water DIAMOND OemMna. 3 119/ tion Pin or Stad, rare lustre, 16-earat Claw set IS DIAMOND BROOCH, beautiful M-carat, ..test split bar, set with 3 flawless Diamonds in cross-over O II Q I style ?/H7/* "1BARRINGS, Exquisite, DIA- ———————— MOND CLUSTERS, selected white gems, rare lustre, platinum set 1 O /I f| swing drops, 18-carat gold wire. La/ 1U/" BRACELET, 18-carat gold' 30 finest gems, Highest-grade Lever, full- jewelled movement Guntimist 13/18/- Bargain. M BROOCH, Triple DIAMOND ————————— CLUSTER, 27 large first-water flawless stones, platinum bar. 29/10/- It In. long. Usual f,21101- Davies's Price 25/- Gold Curb & Padlock Bracelet Fashionable massive flexible Curb ftnJ Padlock Solid Gold BRACELET, stamper eve, v link (the widest at the price), complete in veivet -ase). Also ditto at 29/6, usual £ 3. Also the following BAR- GAINS IN "BASKET" PATTERNS at I reduc- tion in every 9, as follows :-261- 351- t 55/- also very fine 9-bar "Basket" Bracelet now £ 3/12/6 asual 17. Reliable and undoubted quality only. Approval. Payments. Over 200 Bracelet to y-ectfrora. GeLD BRACELETS 10/- LElS US ,'HE £ Lady's Diamond Hatf-Hoop. LARGE SECOND-HAND 6-STONS OUR PRICE. DIAMOND RING, Claw-Set "CORO- NET," Latest, intense lustre, IS-st. II El and Platinum; Also large S-STONE ■ £ A-1 ill/lU/~ DIAMOND "CROSS-OVER" RING; Our Price B16 /10/ usual £3. AiM USUAL SQUARE CLUSTER DIAMOND RING, 5-stones Our Price £ 14/17  usual 08. Also very larn 2-STONB ? 5,21 DIAMOND CROSS-OVER RING, White Stones; usual £66. SAVING 10/- IN EVERY t. 18 Ct. Diamond Engagement Rings. Usual Price. Our Priee. S8 DIAMOND AND SAPPHIRE Half-hoop, stylish 7-stone service IQ.Q able claw-setting, 18-ct It// U able claw A t D SAPPIWI?iii, tA DIAMONDS AND SAPPHIRES 6 gems, heavy 18-0t. Half-hoop; £ 1 /C/ ai!iustKKMtems; rare bargain ~X/0/~ £4 DIAMONDS, 5-stones. Half-hoop stylm claw, 18-ct. gold, double-cut r "1 j~\ C I gems; rare ftre and iuatre. A.A/1 UC 4 DIAMONDS, 6 nr?wator large lustrous gems, fine white quality heavy solid 18-ct. claw b&lf-hoop others at £ 2f!0 and £ 2/5/- £ 2A5/ ^?. £ 6 DIAMONDS, nne 5-stone large diamonds, each gem of great X? O /117/ beauty, heavy 18-ct. gold claw Mt.. <u 17/- £ 8 DIAMONDS, &-stone,very lustrous gems, nrst water, carved stylish e Q II CI I claw set 18-ct. 3L.O/10/" Al DIAMONDS 5-sWne platinum Coronet," half-hoop white cleaa i-t- ge-, very high graft, PQ/1C/ latest design ~0/X0/~ Daviess Miscellaneous Bargains. Usual Price SOLID GOLD ONLY Our Priee. Zl /-NECE:LET, Diamond Out Links. 10/6 10/-LOOKET, oval, eagraTed, haU-marked 7/6 21 /-SIGNET RING (Gent's) shield, heavy. 1/' M/-LINKS,ovai,engraved,haH-marked 8 11 17/-8IGNBT (Lady's), shield top,strong ;/a 18 /-PIN, real Diamond centre. 9/6 IS/-PIN, real D1&moad.eentre 9/6 £ 3—BANGLE RING, 18-ct. wide, heavy 111141- £ 8—SIGNET (GeniVs), 18-ct. tolid^ald shield.. 18/. 301-BROOCH, real Diamond centre 10/- S6 /-BRACELET, stiff, wide, engraved 16/6 U-DIAMOND Sapphire 3-stone Scarf Slide *5/- S10-PIN-STUD, Diamond A Sapphire Cluster.. £ 4/18/- £O-W ATCH BRACELET, Russell's Solid Gold Lever £U-BRAOBLBT, 15-ct. band, 3 Diamonds L6/18/- 914-BRACBLEBT, RACELET, 18-ct. Diamond US-WATCH BRAOBLET, 18-ct. Dia_Ø1.\d and Rubies £ 18/11/- Heavy I Lucky' Wedding Rings IOARAT PURE GOLD. Special 20/- Special. (USUALLY 27/9). AjPresentatJon with each Ring. DAVIES'S, 30 LOWHILL, Liverpool.
[No title]
CYMRO OEDD CROMWELL Darlith ddiddorol, faint bynnag yr anghyd- synnid a hi mewn mannau, ydoedd darlith y Parch. A. Penry Evans, Gt. George Street, wrth gloi tymor gaea'r Gymdeithas Genedl- aethol nos Wener ddiweddaf. The Throne and the People a Cromvtellian Study, dyna'i destyn, ac a'i triniodd mown ffrodd newydd a hudol braidd, sef drwy chart ar y pared, megis y mae mcdd dysgu popeth drwyddo'r dyddiau cinemaidd hyn. Wedi dar;gos sut y daeth pobl i ddewis brenin i ddechreu cych- wyn, sef er mwyn cael heddwch drwy roi'r awdurdod i benderfynu pob cweryl a chwest- iwn yn llaw un dyn, rhag bod at drugaredd barn a mympwy pob hwn a hwn, danghoswyd wedyn fal y graddol grafangodd y brenhin- oedd bob awdurdod i'vr dwylo, nes y tyfodd athrawiaeth felltigaid yr hawl ddwyfol -the divine right of kings, ar yr hon y safai'r gormeswr llygredig a chelwyddog hwnnw, Siarl y Cyntaf. Yr oedd y Fyddin a'r Llyoges, y Senedd a'r Eglwys, y Gyfraith a'i Gweinyddiad, i gyd ynghrog wrth yr Orsedd a gorchwyl mawr Cromwell oedd malu'r peiriant llywodraethol drwy symud y brenin a'i bon o'r ffordd, a chael canedl yn nnddu syniad newydd am ganolfan yr awdurdod. A byth oddiar hynny, y mae brenhiniaeth Prydain, er iddi gael ei hadfer, yn frenhiniaeth hollol wahanol i'r hyn ydoedd yn nyddiau Charles. Y mae craidd a chalon y Wladwr- iaeth wedi cael ei symud o'r Orsedd i'r Senedd, a'r brenin yn teyrnasu arnom yn ol maint ein serch a'n hedmygedd ohono, ac nid yn ol unrhyw hawl a fedd ef ar ein budd- iannau tymhorol nac ar ein crefydd ysbrydol. Cyfeiriwyd hefyd at dras Cymreig diam- heuol Cromwell ac wrth newid eu henwau o Williams i Cromwell, ni wnaeth ei deulu yntau ond yr un peth ag ami i deulu Cymreigaidd ond balch ar eu holau cuddio'u Cymreig- wch, ac ymnyddu belled gallent i ganol defaid gwlanog y gorlan Seisnig. Diolchwyd am y ddarlith gan Mr. Edward Lloyd, Y.H., a Mr. Hugh Owen, Rhianfa ac i'r cadeirydd, Mr. O. W. Owen, M.A., gan y darlithydd a Mr. T. Arthur Lloyd. Tymor rhagorol gafodd y Gymdeithas y gaeaf hwn—un o'r rhai goreu ers talm o ran rhagoriaethy- darlithiau, a'r lies a wnaeth drwy roi cyfle mor rhad—ie, rhad iawn !—i Gymry'r cylch gael clywed a mwynhau pro- ffwydi goreu'r genedl. Ni soniodd neb hano, mwya' rhyfedd, am y Cjrnol John Jones, Maes y Garnedd, Sir Feirionydd—un o brif gynorthwywyr Crom- well, ac a briododd chwaer iddo, ac oedd mor amlwg, y fo a Morgan Llwyd o Wynedd, ynglyn a heresi'r Bumed Frenhiniaeth—y Fifth Mon.archy-y oyfeirid ati heno. I HIRAETHOG A CHROMWELL Gresyn hefyd na chodasai rhywun ar ddiwedd y ddorlith i adrodd darn godidog Gwilym Hiraethog am y Cromwell y meddyl- wi'r byd ohono. Buasai clywed y rhain yr tanio'r lie, ac yn rhybudd i gorgwn Belffast a snechgwn y Senedd a'r Fyddin yna rhag i rhyw Gromwell arall godi i'w gwastrodi a'u rhoi i gyd yn eu lie, rhag cwilydd iddynt !— Haf ati, bellach, holl dafodau cwn Y fall i gyfarth Cromwell, a sarhau Ei goffadwriaeth prysur iawn fydd pin Pob ysgrifennydd weithian ar y gwaith 0 gablu a gwaradwyddo'i enw d'osd Pob adyn diogwyddor brwnt a fedd Dalent i'w rhoi ar werth, wel d'oed a hi I'r farchnad, dyma'r adeg, eaiff lawn bris Am dani llunied a dyfeisied faint A fynno'i galon o gelwyddau brwnt, A'r brynta'i gelwydd fydd goreu'i dal Chwi feibion a phrentisiaid Belial oil, Yn awr am dani, am y goreu ymro'wch, Yn baentwyr, arliw-wyr, brysiwch, ewch, Ysgubwch holl simneiau'r fagddu'n lan,— A chesglwch huddugl uflern both y'nghylch Cromwell lluniwch, gwnewch Ef yv rhagrithiwr, yn garnfradwr, a Chreulonddyn gwaedlyd, trawsymhonwr, ac Yn elyn pob cyfiawnder, gelyn dyn, A mab y golledigaeth, gordderch fab Y fall gyrcheirias-gwnewch ef yn bob peth Sydd ddu, a drwg, a dieflig, yn bob peth Sydd adgas, erchyll, ac yn llawer gwaeth Na'r diafol yn mhob modd, a chwi a gewch Bob cymhorth gan y diafol at y gwaith- Cymered pob hanesydd, a phob crach Lenorydd gwaelfrwnt, gareg yn ei law I'w bwrw ar ei fodd, i godi earn 0 ddirmyg a gwaradwydd arno, a boed I'r gorchwyl fyned rhagddo o oes i oes Am gant neu ddau o flwyddi eto i ddod- Diles ac ofer fydd y gwaith i gyd Mor sicr ag yr adgyfodir cyrff Y meirw oil o'r bedd yr olaf ddydd, Bydd adgyfodiad ar nodweddau cyn Yr adgyfodiad hwnnw,—anfarwol yw Gwirionedd er ei gladdu, daw o'i fedd Yn (yw, yn iach, yn hoew, ac yn gryf Ymhen dwy ganrif eto dichon daw Archangel o lenorydd, saif uwchben Y garnedd fawr o ddirmyg dan yr hon Gorwedda enw Cromwell wrth ei fant Y dyd ei udgorn mawr, gan sugno i mewn Lon'd ei ysgyfaint gref o awyr, gan Ei thywallt wedyn yn ei udgorn nes Dyrchafa udgorn floedd, gan sain yr hon Ysgydwa'r deyrnas drwyddi o g*r i gwr- Ti, Cromwell, tyrad allan fydd y floedd Ac allan daw, tan chwalu can ei fedd, Ac ysgwyd ymaith yr holl lwch a llaid A daflwyd ar 10, fel ysgydwa Hew Y gwlith oddiar ei fwng, a saif gerbron Yr oesau ddeuant yn ei liw ei hun J   MAGWYAID ?KFO?V HOPE ? Daeth cynhulliad rhagorol ynghyd i Neuadd Y.M.C.A., Grange Road, Birkenhead, nos Sadwrn ddiweddaf, i wrando cyngerdd tan nawdd eglwys M.C. Woodchurch Road. Yn rhan gynta'r rhaglen, caed caneuon gan Mri. J. James, Harry Powell, Miss Cissie Jones a Miss Maggie Morris adroddiad gan Mr. T. O. Morris a detholiad o bethau doniol i'w ryfeddu, cymysg o ganu ac adrodd, gan Mr. J. W. Roberts, hysbys led Lerpwl fel Arvon Hope. Yn eilran y rhaglen, caed darn o chwf-raegan Aelioyd Angharad gan Gwmni Gla, ]V-">qey ('dyw Ferswy ddim yn iawn, r vedi eu rhoi ar bpn y ffordd gan oberts, gyda'r gerddoriaeth ta 1 ofal Mr. Wilfrid Jones, a Miss Jennie Hughes yn cyfeilio. Dyma fel y cynrychiolid Molryb Angharad, Miss Edith Jones Gaenor Puw, Miss Mary Bowen Sioned Prys, Miss Lydia Jones Mair Prydderch, Miss Cissie Evans Pencerdd Prydain, Mr. William Roberts Dafydd Owen, Mr. Harry Powell Llelo Llawchwith, Mr. J. W. Roberts. 'Dyw'r neuadd hon ddim wedi ei thrwyddedu i berfformio ynddi, ac felly ni chaed chwarae tag i'w dodrefnu fel y gallesid, nac i wneud gwisg- oedd y cwmni ac aelwyd yr hei. Fodrvb yn debyg i'r fel y byddent ar Nos Lawen felys a hudol yr hen Gymry. Yr oedd J.W.R. yn dygyfor oddoniolwdi, ac i fyny a phob cast a chwildro, ac fel pe bae wedi ei eni a'i fagu ar lwyfan. Rhaid iddo gael amser i roi mwy o'i ddelw ar ei ddisgyblion, a'u cael hwy a'u rhan mor berffaith naturiol a'i ran e'i hun. Deall- wn mai Mr. J. H. Lewis a ddygai draul y cyngerdd a'r cwmni chwarae. «. A GORFOLEDD DA VID STREET- I Gorfoleddu ar eu huchelfannau y mae Eglwys M.C. David Street oherwydd y llwydd a fu ar eu basar dri-diwrnod yn y Liberty Buildings, School Lane, yr wythnos ddiwedd- af. Eisieu wythcant o bunnau oedd arnynt, i ddileu'r ddyled arhosai ar y capel a'r cang- hennau. Adeiladwyd yr addoldy 35 mlynedd yn ol, ar draul o £4,800; a rhwng y cang- hennau yn St. Michael's Road ac Aigburth Vale, cyrhaeddodd y treuliau £ 6,800. Fel hyn y bu Ddydd Mercher, Mr. Wm. Evans, C.D.,Y.H. yn y gadair, yn lie Mr. Robert Roberts, Y.H., a gladdai ei chwaer y diwrnod hwnnw y Parch. John Owen yn gweddio yr Arglwydd Faerynagor; Miss Nellie Lewis, A.R.C.M., yn canu can Miss Eluned Roberts yn cyflwyno tusw blodau i'r agorydd a'r Mri. John Morris, Y.H., a Mr. H. D. Lloyd Thomas yn diolch i bawb fu a rhan. Aeth yr Ar- glwydd Faeres o amgylch y stalls, ac a bryn- nodd o bob un cyfrannodd Mrs. Wm. Jones, Tyrol, gan gini, nes fod ffrwyth y diwrnod cyntaf yn eyrraedd £ 270. Dydd Iau': yr Henadur John Lea, Y.H., a agorodd, yn lie Mrs. F. C. Wilson, a anfonodd lythyr i ofidio am ei hanallu i fod yno, ac ynddo cheque am bum gini; Mr. T. Arthur Lloyd, Falkner Street, oedd yn y gadair, ynt-,tu'n estyn pumpun t i'r drysorfa y Parch. John Hughes, M.A., yn gweddio Mrs. A. W. Ashcroft yn canu can Miss Gwen Lloyd Jones yn cyflwyno blodau i'r agorydd a'r cadeirydd y Mri. E. E. Morris a R. LI. Griffiths yn cyflwyno'r diolchiadau, a ffrwyth y dydd yn cyrraedd canpunt. Dydd Gwener Mr. David Jones (cadeir- ydd y Gymdeithas Genedlaethol) yn llyw- yddu ac yn cyfrannu pum gini I y Parch Wm. Henry yn gweddio Madame Emilie Mowll yn canu can Mri. R. G. Roberts a John Williams yn cyflwyno'r diolchiadau Miss Peggie Roberts yn estyn y pwysi blodau i Miss Morris, a Phlant y Coranau yn agor y basar mewn dull diddorol iawn i'r llygad a'r galon, sef cryn hanner cant ohonynt yn dod ymlaen bob yn un ac un, gan estyn ei bwrs, ac a gasglodd ynddo, i Miss Morris, a chyfanswm Pyrsau'r Plant yn cyrraedd ;E23. Gadawai hyn drichant o'r wythcant heb eu cael ond dyma deulu hael a charedig Parkfield Road yn cwblhau'r holl ddiffyg gyda'u rhoddion gloywon a ganlyn Mr. John Morris, Y.H., £100; Mr. J. E. Morris, flOO a Mr. E. E. Morris, jElOO, nes fod pob pryder ar ben, a'r holl eglwys yn llyn o ddagrau llawenydd. Gweithiodd pawb-y chwiorydd yn en- wedig—yn ardderchog cyfrifid fod yr nwyddau a baratoisant yn werth tua £350 a chyfiewyd y cwbl yn dwt a hudol. Mr. Llew Wynne a drefnodd yr amryfal ddifyrrion ac yr oedd 61 Haw a llygad cyfar- wydd ar y cwbl, yn chwarae drama a chyng- herddau, ac yn y blaen Mr. R. J. Williams yn cyfeilio. Dyma swyddogion y Basar :— Cadeirydd, Mr. John Morris, Y.H is-gadeir- wyr, Mr. J. R. Roberts, Mr. H. D. Lloyd Thomas trysorydd, Mr. Walter W. Davies ysg., Mri. D. L. Davies a R. A. Williams. Pwyllgor y Chwiorydd Llywydd, Mrs. John Morris is-lyvryddion, Mrs. John Williams, Mrs. Wm. Jones (Lodge Lane),Mrs. Wm. Jones (Tyrol), Mrs. John Thomas, Mrs. John Jones (Lambton Road) trysorydd, Miss Rachel Griffiths ysgrifenyddion, Miss Margt. Davies (Pelham Grove), Miss Thomas (Ashbourne Road). Pwyllgor Gweithiol Mri. R. Llew. Griffiths, J. Lloyd Jones. D. J. James, E. E. Williams. Pwyllgor y Difyrrion Mri. J. W. Jones, J. Beresford Jones, H. O. Hughes, David Williams, W. D. Owen, R. J. Williams. A dyma swyddogion y Stalls --Eglwys David Street llywydd, Mrs. David Jones (Vandyke Street) trysorydd, Miss Sophie Jones ysgrifennydd, Miss Morris. Ysgol Sul David Street llywydd, Mrs. J. S. Jones trysorydd, Mrs. W. Williams ysgrifennydd, Miss Nellie Griffiths. St. Michael's Road llywydd, Mrs. Geo. W. Edwards trysorydd, Miss Davies, Pelham Grove ysgrifennydd, Miss Thomas, Waverley Road. Milner Road: llywydd, Mrs. John Williams trysorydd, Mrs. R. G. Roberts ysgrifennydd, Mrs. E. R. Hughes. Lluniaeth: llywydd, Mrs. Walter Davies trysorydd, Mrs. R. A. Williams ysgrifennydd, Miss Netta Williams. Plant David Street llywydd, Mrs. T. O. Jones trysorydd, Miss M. H. Jones ysgrifennydd, Miss Winnie Jones. Ffrwythau, Blodau, a Melysion: Ilywydd, Miss E. Gwen Morris trysorydd, Miss Margaret Davies (Coltart Road) ysgrifennydd, Miss Dora M. Davies. TAIR PRIODAS Priodwyd Miss Minnie Jones, Blaenau Ffestiniog, a Mr. John Evans, Camden Street, Birkenhead, yr wythnos ddiweddaf ac at y twmpath mawr o anrhegion a bendithion a gawsoch, hwdiwch hwn o Big y Lleifiad swil Disgynned arnoch wlith bendithion gwir Eich cartref fo yn gartref serch a hedd Eich einioes gan rinweddau fo yn ir Ac enfys gwynfyd fo uwchben eich bedd. lolo Caernarfon piau'r pennill, fel y mae'n hawdd dweyd. i-1 Yng nghapel Wilton Square, Llundain, ddydd Sadwrn diweddaf, priodid Miss Jane Myfanwy, merch ieuengaf y diweddar Barch. Hugh Jones, D.D., Eglwys Bethlehem, a. Mr. John Parry, Beresford Road, Canonbury. Priodas arall y gwelir ei manylion ymysg yr hysbysiadau yw priodas y Parch. Wm. Owen, Webster Road, a Miss S. G. Thomas, merch hynaf y diweddar Barch. Owen Thomas, D.D. "r J Amryw byd o bethau, I Cafodd Cymdeithas Pobl Ieuainc Eglwys M.C. Stanley Road noson felys iawn nos Fer- cher ddiweddaf, tan lywyddiaeth Mrs. D. Jones, Cremlyn. Canwyd droion gan Gõr Merched yr Arvonic ac aethant drwy gantata The Cfitana, wedi ymwisgo'n hardd a hudol iawn yn niwyg Sipsiwn Sbaen. Cyn- rychiolid y gwahanol gymeriadau gan Misses Winifred Jones, Edith Griffith, Katie Jones, Sallie Evans, Aerona Griffith, Jennie Davies, A. Mabel Jones, Laura Jones, Master Glyn Richards, a'r rhain yn offerynu: Jennie Griffiths, Dilys Griffith, Nora Griffith, S. J. Evans, a Miss L. Kyffin Williams yn arwair a chyfeilio. Caed can ystum hefyd gan Misses Davies, Evans, Griffiths, B. Jones, A. Jones, a Richards canu pen- hillion gan Master Glyn Richards; a chystadl- euaeth dan ofal Mr. R. O. Jones. Diolchodd y Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D., a Mr. Wm. Williams i bawb am eu gwasanaeth, ac i Mrs. Jones, Cremlyn, am gadeirio ac estyn rhodd at y social, ac i Mrs. Edward Roberts, Trinity Road, am ei rhodd hithau at yr un amcan. Ysgrifennu drama fer, Gymraeg, na chy- mero fwy na hanner awr i'w chwarae,"—dyna un o destynau cyfarfod cystadleuol unedig Ysgolion Sul M.C. Douglas Road, Edge Lane, Fitzclarence Street, a Newsham Park, fis Tachwedd nesaf. Y mae deg yn ymgais am y gadair yn Eisteddfod Birkenhead ddydd Llun nesaf, a Uu o gorau goreu Cymru a Lloegr yn sythu am eu clod a'u gwobrau hwythau. Cymraes go eithriadol oedd Mrs. Evans, 20 Centreville Road, a gleddid yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd yn bymtheg a thrigain oed a anwyd yng Nghaernarfon, ond a ddaeth i Lerpwl yn lodes bump oed ao er treulio'r deng mlynedd a thrigain yn y ddinas, a gadwodd mor Gymreig ei thafod a'i hysbryd a phe daethai yma ddoe. Gedy dair o ferched, a mab yn yr America. Bu'n aelod yn hen GapeI Bedford Street, yna ym Mhrinces Road, ac yn Webster Road ers rhyw chwe blynedd, er pan symudodd i fyw i Mossley Hill. Gweinyddodd y Parch. H. H. Hughes B.A.,B.D., yn yr angladd. Dengys tre fniadau Cwmn i'r Cheshire Lints i ble y gellir cael gwib rad y Groglith a'r Pasc yma: a dim ond gofyn neu yrru amdano, chwi gewch lawlyfr bach del a diddcrol ao ynddo bob manylion y bo arnooh eu heisiau. Dymuna Mr. R. Vaughan Jones, 52 Hert- ford Road, Bootla, gydnabod y symiau a ganlyn a'i cyrhaeddodd fel ffrwyth ei lythyr yn Y BRYTHON tuag at Lyfrgell Genedlaethol Aberystwyth Mr. J. T. Lewis 1 1 0 Mrs. J. T. Lewis 1 I 0 Miss Nellie Lewis, A.R.C.M 1 1 0 Brawd o Eglwys Seacombe 0 2 6 Bydd yn dda ganddo dderbyn rhagor at yr amcan clodwiw. Cleddid Mrs. Pritchard, chwaer Mr. Robert Roberts, y.H., Judges' Drive, ym Mynwent Anfield, yr wythnos ddiweddaf, y Parch. John Hughes, M.A., yn gweinyddu.
I DAU TU R AFON I
DAU TUYR AfON. WILLMER ROAD.—Yr oedd nos Iau a nos Wener yn rhai o lawen chwedl yma'r wythnos ddiweddaf, oblegid cyngerdd amrywiaethol y plant a'r bobl ieuainc. Heidiai'r bobl i'r ysgoldy ymhell cyn amser dechreu, gan y gwyddent fod yn rhaid bod yno mewn pryd, ac nad oes hafal Miss Florrie Williams am ddysgu plant i ganu, i adrodd, a chwarae offerynau. Mae'r ffaith fod rhai mor ieuainc wedi eu disgyblu mor llwyr, ac yn gallu cyflawni eu rhannau mor ddeheuig, yn glod nid bychan i'r athrawes ddiwyd o Francis Avenue. Llafur cariad yw'r cwbl i Miss Will- iams, ac felly lawer tro y mae hi wedi gosod Eglwys Willmer Road dan ddyled drom iddi. Bu ei brawd, Mr. H. Trevor Williams, yn help mawr iddi gyda'r trefniadau, a llywyddodd y Parch. J. H. Howard y ddau gyfarfod mor ddoniol ag arfer,—X.D, EISTEDDFOD 1916.—Yhi Mhwyllgor nos Wener, y Parch. W. Morris Jones yn y gadair, pasiwyd fod y Mri. D. Roger Rowlands, T. T. Rees, Gomer D. Roberts, J. H. Jones, Thos. Davies a Ben Thomas yn mynd yn ddir- prwyaeth at Faer y Dref i ofyn am ei nawdd a'i gefnogaeth, etc. Pasiwyd fod Mr. J. H. Jones a'r Parch. W. Morris Jones yn tynnu allan lythyr neu ddeiseb yr, gosod ein rhes- ymau dros geisio am yr Eisteddfod, etc. Unrhyw un a ddymuna fod yn feichiau, an- foned postcard i'r ysgrifennydd i 41 The Woodlands, Birkenhead, a chaiff gyfle i arwyddo ei enw ar unwaith. Ychwanegwyd enwauyMri. David Evans, Thomas Davies a D. Roger Rowlands at y Pwyllgor. Pi,Terfynodd Gobeithlu Eglwys Chatham Street eu tymor gaeaf gyda chyngerdd blasus gan y plant nos Fawrth yr wythnos ddi- weddaf, tan lywyddiaeth Mr. J. J. Bebb, gyda Miss B. Lloyd Jones yn cyfeilio, a'r rhain yn canu neu'n adrodd ac yn y blaen, tan gyfar- wyddyd Mrs. W. R. Williams a Miss M. H. Davies, a Mrs. R. R. Hughes yn rhannu'r gwobrwyon a'r blychau bancio :-Genethod Lily Jones, Davies, Lewis, Jenny Jones, Olwen Pritchard, Ethel Roberts, G. Lloyd. Jones, Buddug Lewis, Gwyneth Jones, Gwyneth Thomas, Gertie Spargo, Nesta Roberts, B. Lloyd Jones, Dilys Pritchard, Nancy Davies, Enid Hughes, Pritchard, Lewis. Bechgyn D. Roberts, Ivor Jones, J. F. Morgan, Leslie Price, J. C. Lewis, H. S. Pritchard, Ivor Hughes, J. M. Parry, J. F. Morgan, Willie Hughes, Tom Jones, T. Lloyd Jones, Llew. Jones. ROCK FERRY.—Nos Iau ddiweddaf, cyn- haliwyd Te Parti a Chyfarfod Cystadleuol Eglwys M.C. Rock Ferry,ac eleni eto trodd yn llwyddiant. Cafwyd gwledd o luniaeth rhagorol o flaen y cyfarfod, wedi ei harlwyo gan Mrs. Williams (Green Lane), Mrs. E. Ed- wards, Mrs. Dutton, Mrs. T. J. Williams, Mrs. Dd. Williams. Dechreuwyd y cyfarfod am 7.30, y Parch. Edmund Griffith yn llywyddu. Beirniad cerddorol, Mr. O. R. Hughes, Chatham Street; a'r adrodd, Gol. Y BRV- THON. Dyma'r buddugwyr :—Dysgu Allan dos. hynaf 1, Mr. Dd. Davies 2, Miss Annie Jones-Phillips. Eto, dan 16: 1, Mary Will, iams 2, Dora Edwards; 3, Tudor Edwards. Eto, dan 13: I, Beatrice Edwards 2, Mer- vyn Williams. Eto, dan 10: 1, Jenny Jones: 2, Mair Edwards. Adrodd Y Owcw, i rai dan 13: 1, Blodwen Edwards 2, Tudor Edwards. Arholiadau, dan 16: 1, Dora Ed- wards. Dan 13: 1, Mervyn Williams 2, Tudor Edwards; 3, Beatrice Edwards. Dictation Cymraeg: cyfartal, Miss A. E. Jones a Mr. R. G. Williams. Eto, dan 16: Dora Edwards. Canu ton ar yr olwg gyntaf Tudor Edwards. Adrodd Pwsi Lwyd i rai dan 10: 1, Mair Edwards 2, David Ed- wards. Canu Diod Duw I, Tudor Edwards; 2, Blodwen Edwards. Llawysgrif 1, Beat- rice Edwards 2, Mervyn Williams. Pencil Drawing 1, Mary Williams 2, Llewelyn Price. Adrodd Edrych i fyny 1, Violet Edwards 2, Dora Edwards. Camisole Miss Edith Williams, Bromboro. Unawd, Gweddi Hwyrol": 1, Dora Edwards; 2, Beatrice Edwards. Deg o Gynghorion cyfartal, Miss A. E. Jones a Mr. Edwin Will- iams. Y prif adroddiad, Y Baban diwrnod oed Miss Annie Jones-Phillips. Y prif unawd Miss A. E. Jones, Alma Bank. Diolchwyd yn wresog gan Mr. Evan Edwards a'r Parch. O. J. Owen, M.A., i'r llywydd a'r beirniaid, a phawb fu'n foddion i wneud y cyfarfod yn Ilwyddiant.-R. Gwilym Will- iams, Ysg. ENOC Huws" YN" ANFIELD ROAD.- Nos Wener ddiweddaf, yn Ysgoldy Capel Anfield Road, i gynhulliad lliosog, rhoddodd Cymdeithas y Bobl Ieuainc berfformiad o'r ddrama uchod. Y cymeriadau fel y canlyn Cap ten a Mrs. Trefor, Mr. T. O. Morris a Miss L. Humphreys Susi Trefor, Miss N. V. Rees; Enoc Huws, Mr. W. V. Rees; Marged, Miss Bessie Morris Mr. a Mrs. Denman, Mr. R. Oswald Jones a Miss Myfanwy Thom- as Tomos Bartley a Sem Llwyd, Mri. Ernest Hughes a Mr. T. Madoc Jones Barbara Bartley a Kit, Miss Gracie Jones Jones y Plismon, Mr. J. T. Hughes Yr Aniericanwr, Mr. Arthur Thomas; Y Parch. Obadiah Simon, Mr. Ifor H. Jones, Rhoddwyd holl olygfeydd y ddrama gerbron, aef Tynyrardd, y Twmpath, 82 High Street, Cegin Siop y Groes, y seremoni briodas, ynghyda'r golyg. feydd ereill cysylltiol. Yn ol tystiolaeth gyffredinol y gwrandawyr, ymysg y rhai yr oedd un neu ddau o feirniaid profiadol, gwnaeth y cwbl eu gwaith yn rhagorol, ac ar y cyfan y tuhwnt i ddisgwyliad y mwyaf ffyddiog. Yr holl gwmni'n frodorion o'r ardal, oddigerth dau, a'u Cymraeg yn ystwyth a chroew. Dyma'r tro cyntaf i'r mwyafrif ohonynt gymeryd rhan mewn anturiaeth o'r fath. Danghosodd amryw allu tuhwnt i'r cyffredin, ac addewidion gwych am y dyfodol. Cynorthwywyd y tu ol i'r lien gan Mri. Ifor Hael Jones, S. E. Roberts, Arthur Morris ao Alun Roberts. EISTEDDFOD ESPERANTO.—Bu'r Eistedd- fod gynhaliwyd yn Lerpwl ym mis lonawr y flwyddyr o'r blaen yn gymaint llwyddiant fel y penderfynwyd cynnal un arall y flwyddyn hon, eithr nid ydyw hynny chwaith yn tybio y ceir un yn Lerpwl bob blwyddyn. Hwyr- ach mai ym Mirmingham neu Leeds y bydd hi y tro nesaf. Ddydd Llun y Pasc, y 13eg cyfisol, yn Assembly Rooms Hardman Street (wrth ymyl Eglwys St. Luke) y mae un y flwyddyn hon i fod, a'r Arglwydd Faer i I gymryd y gadair am 2.30 y prynhawn. Cyn- I helir yr Eisteddfod o dan nawdd y Federacio Esperantistu de Lancashire Kaf Cheshire ar achlysur eu cynhadledd chwarterol—y pum- ed ar hugain. Gan y bydd llawer o Esperant- I wyr o wahanol drefi'r ddwy Sir yn Lerpwl i fwrw'r Sul, ceir cyfarfod yn 18 Colquitt Street, nos Sadwm am 7 ar gloch, a phregeth yn Esperanto am 3 ar gloch ddydd Sul yn yr Assembly Rooms. Pregethir gan Mrs. Blaise (Miss Jones, Lerpwl, gynt), Llundain. Y mae'r helpiaith yn dal i fynd ar gynnydd' Ym Mharis y mae'r gynhadledd gyd-genedl- aethol i fod eleni, ym mis Awst. NEWSHAM PARK.—Y Sul diweddaf, cyn- haliwyd cyfarfod ysgolion ynglyn ag Undeb M.C. Lerpwl, tan lywyddiaeth Mr. R. W. Roberts. Y prynhawn, dechreuwyd gydag adroddiad rhagorol o Psalm xix gan dair geneth fach o ysgol y plant. Holwyd y plant gan y Parch. R. Aethwy Jones, M.A., ac yr oedd eu hatebion yn dangos eu bod wedi par- atoi yn dda ar ei gyfer, Yna fcafwyd adrodd- iad 0 hanes yr yfegoi gan Mr, A. W. Rowlands, yr ysgrifennydd, a Mr. R. Roberts, yr arolyg- wr. Yr ysgol mewn cyflwr lied lewyrohus, ond cwynent iddynt dderbyn loes drom drwy golli tri o flaenoriaid o fewn ychydig iawn i'w gilydd. Cymharwyd safle bresennol YT Ysgol a'r hyn a fu, ac ag ysgolion ereill y cylch, gan Mr. Hywel I. Jones, yr ystadegydd. Yr oedd nifer dda o gynrychiolwyr yn bresennol, a pharatowyd arlwy dda ar eu cvfer gan gyfeill- ion caredig y He. Wedi hynny daethant ynghyd i dderbyn adroddiadau'r trysorydd a'r gwahanol bwyllgorau, a'r adroddiadau i gyd yn bur galonogol. Yng nghyfarfod yr hwyr, adroddwyd Heb. iv. gan Mr. R. D. Morris, ac yna holwyd yn dra effeithiol oddiar y bennod gan y Parch. R. Aethwy Jones, M.A., efe wedi argraffu nifer o gwestiynau er mwyn rhoi cyfeiriad i'r holi. Wedi hynny, darllen- wyd papur galluog gan Mr. Richard Williams, Seacombe, yn dangos yr Ysgol Sul fel y mae heddyw, ac fel y dylai fod, ac anogwyd ef yn gryf i'w gyhoeddi. TETJKNCTYD ROOK FERR y.-N oS Saboth ddiweddaf, cynhaliwyd cyfarfod olaf pobl ieuainc Eglwys M.C. y lie hwn am y tymor, dan lywyddiaeth Miss Martha Jones, yr hon a ddiolchai i'r aelodau am eu ffyddlondeb ar hyd tymor y gaeaf. Darllenwyd papur rhag- orol gan Mr. T. O. Hughes ar Paid fel disgybl ac fel Apostol, a chaed trafodaeth arno gan gan amryw. Bu'r cyfarfodydd hyn yn adeil- adol iawn i'r ieuenctyd, a haedda'r pwyllgor a'r ysgrifennydd glod am ddarparu mor dda ar ein cyfer. Hefyd mae'n llawenydd mawr gan aelodau'r capel weled Capt. Owen Jones wedi cael adferiad mor lwyr o'i afiechyd, ae yn ail hwylio i'r m6r. Bu'n hynod ffyddlon i'r holl gyfarfodydd, a hwyl teg iddo ar y don. S "zi PWYLLGOR YSBYTAI WALLASEY.^—Da gen- nym ddeall fod ein cydwladwr, Mr. Moses Hughes, Sunny Bank, Liscard, wedi ei ethol ar y pwyllgor pwysig uchod. Efe ydyw'r unig Gymro sydd arno, ond gellir bod yn sicr y bydd iddo ef ofalu am iawnderau ein cyd- wladwyr lliosog yn y cwmwd poblog uchod, Parhad ar ttidal. ft.