Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

-YSi atLL t atiROD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YSi atLL t atiROD I Y jj tn* -i >u tiigyter a'r gol<;fu hon i'w ojl I airi PEHROG, 217 Prescot Road, Liverpool TAFOD BRAD. I MAE 'nabob bro dafod ufel—gwenwynllyd, v iiiiib ar annel A siorwd cas y brad eel l'in bywyd ymhob awe I. PEDSOG. I BAICH YW BYWYD HEB IECHYD." I PAN fo iach, heb boen i'w feichio,—rhydd I ddyn braidd a fynno [aur Ond daw dwrn tristyd arno, Nes taro'i gist aur o go'.—PEDROG. UNAWD 0 FOLAWD I FALE. I NID oes i'w cael o Gonwy i Gent Well students na rhai'r Bale, Na chwaith yn agos nac ymhell Athrawon gwell yn unile 'Does iddynt neb, yn fyr na thàl, Ddim ffit i ddal canwylle. Y Bale ddwedir gan y byd, Fu crud y Methodistiaid Ac yn amser Michael bur Fu pandy'r Independiaid Prin ydyw'r list o Fatist fu, A slo y bu'r Wesleaid. Prifathro Edwards, yr Hen Lane, Sy' gadarn stanc dysgeidiaeth Tra'n meithrin rhin athroniaeth dda, Garddwra wna gerddoriaeth Ac ymhob, dawn e'n gyflawn gei, A thrwyadl ei athrawiaeth. Y blaenaf oil y Bale yw I goethi cyw pregethwr Ca, os yn meddu deunydd dyn, Ei naddu'n ddiwinyddwr A thoc ym mhulpud Gwalia Wen Llifeiria ben llefarwr. Hau mae'r Colegau rasol rin Ac egin Cristionogol; Anadlu naws eneidiau'r ne' Mae gwyr y Bale'n ddyddiol; A buan iawn heb un yngholl Hwy ddeuant oil yn dduwioi. Ac felly gwyr y Bale ffy— Esgynnant fry i Ganan Ac heb bechadur iddo gael Ai'n sut go sal ar Satan Ac yn ei gwt, y maent yn dweyd, Mae'n gwneud amdano'i hunan. ISALLT. SONNED. I ANWYLAF fun y galon fau a'i bri, Melysach fil yw'th gariad di na'r gwin, A phurach fil na'r wawr a'r iiafaidd hin, Neu'r rhosyn gwynlliw sy'n dy fynwes di, A dyfnach fil na'r mor a'i donnog li. Adnabu f'enaid i ei ddwyfol rin, Ban safem ar yr erwain fin wrth fin, A'th fron yn pwyso ar fy nghalon i. Teg oedd y lleuad yn y glesni maith, A'r gwynion ser o'i chylch yn loewon lu, Fel blodau'r ne'n ymagor yn eu gwyn, Ac ambell wr yn mynd i'w hwyrol waith, Ac nid oedd swn yn unman namyn su Afonig loew-bur ar lawr y glyn. Aber porth. G. H. HXJMPHBEYS. I Y FOEL FAWR, EGLWYSFACH, I CEREDIGION. (Buddugol). I YNG ngogledd Ceredigion, fad, Mewn mangre deg, ddymunol, Y saif Foel Fawr, yn addurn gwlad, Ac orlawn o'r arddunol; Mae'r olwg arni oddi draw I'r bardd yn adloniadol; Teleidion Anian ar bob Haw Sy'n brydferth a barddonol. Addurnir ei rhamantus wedd Gan ftodau'r grug a'u tlysni, A saif mewn urddas ar ei sedd I wylio Dolydd Dyfi Ymgodi wna i'r awyr iach. Uwchlaw'r goludog ddyffryn; Mae'n gadarn dwr i Eglwysfach, A noddfa i'w hamddiffyn. Ar adain traddodiadau'n gwlad, Medd adlais o'r gorffennol,- Bu'r Foel yn fawr ar faes y gad, Mewn ymdrech ddewr, filwrol; Do, gwelodd hon, o oes i oes, Gyfnodau o helbulon Hen ddewrion Cymru yn eu loes, Dan orthrwm trais y' Saeson. Gerllaw i hon, Taliesin Fardd A gaed ar lan yr afon, Yn faban eiddil. tlws, a hardd, A'r awen yn ei galon Pwy wyr na welwyd ef ar ben Y Foel, fel bardd o safon, Yn cadw gwyl, dan haul y nen, Yng nghwmni'r Hen Dderwyddoa. ,0 ben y Foel, ar fore clir, Ceir golygfeydd ysblennydd, Mae'r oil yn llawn o dlysni gwir, 0 Ddyfi i Feirionydd Canfyddir y carneddau lu, Edmygir eu hen olion Atgofiant inni Gymry Fu, Yn tywallt gwaed eu calon. Arwydda gwedd ei chreigiog rudd Fod ynddi gudd drysorau,— A ddaw, ryw ddydd, i oleu dydd, Pan egyr dor ei choffrau Pryd hyn adlonnir wyneb gwlad, I Eglwysfach daw cynnydd, A Gogledd Ceredigion fad Anwyla gol y mynydd. Tal y bont, Ceredigion. GLAN TWYMTN. I MR. A MRS. RICHARDS Seol Northumberland, Lerpwl, ar ddathliad eu Priodas A rian. I RISIART a'i fun rasol—eiliwn lan Linell gyfarchiadol Ddau o fri hwynthwy'n ddi-frol, Sy'n hardd oesi'n urddasol. Loew ddigwmwl ddau gymar,-mydror I'w modrwy drylachar Ym mlwyddi clwm, purglwm y par Mae ugain a phum' hygar. Haf iddynt mwyach fyddo-mwyn einioes, Mewn hinon digyffro Y ddau'n gry' drwy fywyd fo, Yn trotian chwarter eto. Hi, ar rodle'r ferch radlawri-6, trwy'i hoes, Yntau'r un mor serchlawn Di groeslef briod graslawn— Da dad yw i dyaid iawn. Yn wellwell o hyn allan,—mewn uwch fodd, J Mwynhaoch fyd diddan, Aelwyd glyd, a deled glan Ras eilfyd i'ch preswylfan. Addfediad i ddyfodol—a'i ddu wyll Ddeillia o'ch gorffennol; Ha 'r Sawl roes ei law rasol, Weithian ni wna'i thynnu'n ol. Dewr anelwch drwy niwloedd,—mad ryth- Am drothwy y nefoedd [wch A fedd y Gwir fydd ar g'oedd Yn nydd angau'n ddi-ingoedd. Heol Grof. GRUGOG. AR BRIODAS Mr. W. J. Roberts, Seaforth, a Miss A. McGregor, Hapsford Road, Litherland. AM hoff Ann, teg ameanai-ein dinam Dirion William, ond yr un ni welai Ac am gu William, ymholi—beunydd Yn boenus wnai Annie Hyd annwyl hwyl, i'w dwyn hi I gael golwg o Willie. Trawiad ei llygad lliwgar—ar unwaith Wirionai'r llanc hawddgar A thyna byth wyneb ar Fwyn agwedd y fun hygar. Fel cwymp amrant, rhoes antur—ddirgel- I'r galon ddigysur [aidd A llef ei heintiol ddolur Ddibennodd boenodd y bur. Wedyn, y ddau'n ddioediad-o draserch Ymdrwsient yn wastad Ac a swynol gusaniad, Deuai i fewn Amod fad. A heddyw'u huniad haeddol,—a mawr Fu'n Elm Road groesawol; [hwyl Mwy, ein dymuniad mewnol-i'r ddeuddyn, Yw dawn i esgyn hyd un ysgol. Bydded Anabella bach Yn gu, bwyllog wraig bellach Ac i Willie'n ymgeledd Ucha'n bod i erchwyn bedd. Yntau-Willie yn briod, 0 dyner naws dyna'r nod— Nid yn "ben "—ond yn byw Hyd ofuned y fenyw. Na ddoed loes, na chroes, na chraith Mwy i'w hanes, am unwaith. Y bywyd, heb ddim beiau, A Duw'n rhwydd i'r ddedwydd ddau. Llannerch y medd. LLEW LLWYDIARTH, TRIALS. In sympathy with Mrs. F. E. Tomley. REST weary soul Thy God shall take control; Tho' sore afflictions bend thy will, Oh, listen for His Peace, be still Borne to thy soul Arise, lone soul On Christ, thy burden roll O'ertaken by dark shades of night, God's grace shall dawn in glorious light, Flooding thy soul. Rejoice, Oh soul The Lord, the Christ, can make thee whole Through thy heart His Love can steal, Turning, sad grief, sweet balm to heal The stricken-soul. Litherland. H. TOMLBY. I Y CYFFESIAD. I I (O'r Ffrangeg). I CYFRINACH yn fy nghalon sydd, a gofid cudd, Gwreichionen serch yn fflam dragwyddol aeth Ni feiddiaf yngan gair, 'rwyf mewn anobaith prudd A'r fun ni wyr fy mod i'w serch yn gaeth. Er gyda hi o hyd, mor unig eto wyf Disylw'n dod, disylw'n mynd o'i gwydd Ac felly hyd fy medd, ie, felly fyth tra b'wyf— Heb ofyn ffafr, na derbyn ffafr na llwydd. A hi, a luniodd Duw'n garedig dyner fun, Digyffro yw, ac i fy serch yn ddall; Nis gwel ei llygaid fyth oleuni'r cariad cun Belydra yn ei hymyl, ac nis gall. Yn bur i rym dyledswydd galed, gofyn wnaiff Wrth ddarllen hwn, Ond pwy yw'r an- nwyl fun ? Pob awgrym yma, ond ei henw'n unig gaiff Ond byth ni thyb mai'r ferch yw hi ei hun. Cheethan Hill. J. CEINIONYDD ROBERTS. Y DDWY ALLOR. I AR drothwy'r bad yn sefyll Mae deuddyn trist eu gwedd 0 Allor Serch nid oes ond cam I allor ddu y bedd. 'Roedd blodau ddoe o'u ewmpas, A'u bywyd oil yn wyn Ond heddyw gwywa 'r blodau per Yn awel oer y glyn. Y wraig i'r bad estynniil- Un tremiad eto rydd,— A chusan ola'i phriod hoff Yn wenfflam ar ei grudd. Y Bont Newydd Rhys Jones.

Basgedaid o'r Wlad. >

Advertising

Advertising