Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Trem III-' Llyfr y Ddau Aderyn."II

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Trem III-' Llyfr y Ddau Aderyn." II Un o'r dynion cryfaf ymysg Ymneilltuwyr Cymru heddyw yw y Prifathro Rees, Bangor. Y mae'n wr craffiym ei welediad, clir ei farn, ehangfryd. yn anad dim, ond o reddf ac argy- hoeddiad annibynnol a diencil. Gall drin eirf dadl gyda medr meistr, a deil wyneb gwroniwyneb ygelyn. At y cwbl, gall fwrw pupur a halen humour a gwawdiaith iachus ar drafodaeth. Yn ei anerchiad diweddar ynglyn a Chyngrair Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru, soniai am ddychmygion rhamantus rhai o'r arweinwyr Eglwysig, ac yn enwedig eiddo Esgobioit Llanelwy a Thy Ddewi. Diameu y cydnebydd pawb fod y ddau hyn yn deilwng o sylw arbennig. Buont ddyfal, ddyfal, yn eu pererindodau trwy amryfal fannau yn y Deymas Gyfunol, yn rhybuddio'r ehudion rhag y Iladror)," yr ysbeilwyr a'r anSyddwyr Ymnoilltuol oedd yn llechu rhwng Bryniau Cymru. Y fath oedd eu medr cyfareddol fel y gallent fwrw Cymru Ymneilltuol i fewn i gwdyn eu haraith a'i thynnu allan yn Gymru Eglwysig. Gallent wneuthur i ystadegau sychion brofi unrhywlbeth a fynnent, yn ol y byddai galw. Gallent osri i Ddeisebaij bron nad oedd llais cenedl mewn Etholiad Seneddol, dro ar ol tro, yn ddim yn y byd. Mae llawer a wadant ddilysrwydd rhamantau Dewi Sant ond pwy, a hwythau'n byw yn eu canol, all wadu rhamantau Esgobion Cymru heddyw ? Ond 'i ddychwelyd at y Prifathro Rees, ei awgrym ef ydoedd mai purion peth fai i rywun gasglu ynghyd ddywediadau rhamantus Esgobion Llanelwy a Thy Ddewi'n llyfryn,—a'i alw'n Llyfr y Ddau Aderyn. Da iawn, wir byddai'n ddifyr i'w ddarllen, yn lle'r nofelau cyffredin a bigir i fyny gan ymwelwyr a Chymru ar Wyliau Haf.

I Meddyliou'r Galon.

---O-IUyfr Newydd Sbon.

Advertising

Advertising

I Trem 1—Rhith-Ymneilltu=…

Trem II—Meibion y'Cedyrn.

Trem IV—Groglith a Phase:…