Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Campbell 6 Lumby, I "C]4[L| SPOONS Cs FORKS. [C]&]L"| Copy of Copy of The Mark In this small space at our disposal we The Mark upon our desire to draw your attention to the upon our Guaranteed following facts- Guaranteed Electro Electro Plated Every SPOON FORK we sell is guarrz Plated Spoons & anteed to be Al quality (the Best) only, Spoons & Forks. the finish is the finest possible, and the Forks plating is of PURE SILVER deposited on a perfectly white and hard nickel of ——————— proved wear. | I C I & I i L ¡ Our name is stamped on every article. C &Il j 3075 Royal OLD POST OFFICE PLACER 
Ffetan y Gol. i
Ffetan y Gol. Cofied pawb fo'n anfon i'r Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei genau:- NITHIO'R GAU A NYTHU'B GWIR. Ebwch Mr. Daniel O. Jones. At Olygydd Y BRYTHON Myn,-Aiarl-iydeddodd Mr. Daniel O. Jones fi yn eich rhifyn diweddaf a chyfeiriad penigamp" (chwedl yntau) at y gan -Pysgotwyr Galilea," a dywed amdanaf: rhydd ei eiriau ei hun yng ngenau esgob." Yn awr, gan mai yn Saesneg yr areithia 'r esgob y cyfeirir ato (a fedr efe areithio yn Gymraeg, tybed ?), amlwg nad oedd gennyf ond Cymreigio a ddywedodd. A fydd Mr. Jones yn darllen areithiau'r esgob, tybed ? Os felly, fe ddylai wybod mai byrdwn pob un ohonynt ymron, yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf, yw euro ar y system wirfoddol a dywedyd ei bod wedi torri i lawr" Meddylier, mewn difrif, am un a elwir yn arweinydd ysbrydol yng Nghymru yn nechreu'r Ugeinfed Ganrif o Oed Crist yn rhoi benthyg ei dafod i'r fath haeriad a chwi gewch ambell Ymneilltuwr, ysywaeth, yn ddigon di-ffydd yng ngrym cynhennid Crist- nogaeth i ail-adrodd y peth—a'r esgob yntau wedyn, wrth gwrs, yn ei ddyfynnu i ategu ei haeriad ei hun Pa ryfedd ddarfod i fardd truan o fewn "ei ogof yn Nant Ffrancon freuddwydio am "Bysgotwyr Galilea "—yn swn-y fath gabledd ar Gristnogaeth! Awgryma Mr. Jones fy mod innau a'm bath yn derbyn cyfiog. Ydwyf ac yr wyf yn berffaith foddlon i gyrraiftru balance sheet ag eiddo unrhyw esgob yng Nghymru—er mwyn gweled ar ddiwedd pob blwyddyn pa un ai'r esgob ai ynteu'r patriarch yw'r BRASAF ei fyd. Ond ni chwynaf,—" dim ond diolch yw fylle canys y mae'r Rliagluniaetli honno a ofalodd am "BYSgotWYT Gatilea yn sicr o ofaltz am fy math innau o hyn i'r diwedd, ac y mae'r Grefydd Wirfoddol yn fwy byw nag erioed yn y wlad. Cofied Mr. Daniel O. Jones fod dynion llawn mor onest ag yntau a'r esgob i'w cael, ie, hyd yn oed ymysg Dadgysylltwyr. Ond dyna, y mae rhyddid i esgob ddywedyd popeth- hyd yn oed i ddilorni cymeriadau Diaconiaid Ymneilltuol parthed eu hanes in the market and the mart (Llandudno Speech); ond wele, pan arwyddodd rhai o'r rheiny y brotest Ymneilltuol (?)—they were very duwiol indeed Cefais fendith fawr ystalwm, pan yn llanc yn y Bandtof Hope, wrth ganu Dare to be a Daniel." Glywodd Afr. Tones am y geiriau hynny ? Priodola ef amcanion amheus i'r Dadgysylltwyr dywedaf finnau wrtho yntau fod mwy o swn duwiolaidd yn ei lythyr nag o ddim arall. Maddeued siarad plaen.—Yr eiddoch yn ddidwyll, JOHN T. JOB. Sug ar yr hen bethau. At Olygydd Y BRYTHON ANNWYL SYR.-Mae eich gohebwyr yn cael hwyl hefo hen ganeuon anghyhoedd, onid ydynt ? Dyma i chwi un oddiwrthyf finnau. Nid wyf yn meddwl ei bod yn hysbys. Mae rhywbeth yn dlws ynddi, a rhai penhillion ohoni yn deihvng o Peter Lewis. ¡rg;.¡. CYMTCR. BOREUDDYDD. Gwrandewch ganmol brig y don, Iraidd union ddwyrudd, G-orlliw ewyn ymlaen Hi, Fe'i gelwir hi Boreuddydd Gwastad wyneb, Gwen lliw'r od.' Hi haedda glod tragywydd; rH Rhan o ddyn mewn rhinwedd yw, A'i henw yw Boreuddydd." j 0 bum noswaith niwliog, flin, Yn rhodio gerwin fynydd, Mi lawenychwn uwch y rhiw Pan welwn liw Boreuddydd." Y dyn hyna a'r dyn ianga, Y kwaethocca oil, a'r cybydd, Lawenycha ar ael nos, Pan welo'r dlos Foreuddydd." Hinon hynaws tre a gwlad Ag aur ar gariad gwiwrudd Duw Tri Pherson, Iesu hael, Wnelo im' gael "Boreuddydd." Ni ddymunwn, hirddydd ha', Pan fyddo lasa'r dolydd, f Ond kael rhodio 'r hyd y rhain, Myfi, a'r fain Foreuddydd." Gwell imi inwrw tros yr allt, Fel i gwyr pob dyn a'i dallt, Yn y kefnfor heli hallt, Rhag tecvjed gwallt Boreuddydd." Bara a dwr, dri Gwener gwyn, A hyn a wnawn yn ufudd, Gida gwisgo krys o rawn Pe gwyddwn kawn Foreuddydd." 0 daw gofyn dan frig pren, Pwy gane i Wen liw 'sblenydd ? Un ddymune fod a'i ben Ar fynwes wen' Boreuddydd." -0-
IBara Cartref. I
Bara Cartref. DICHON fod hanes a dywediadau Dafydd Davies, Cywarch, bellach yn bur ddieithr i, lawer o'r to sy'n codi a rhag nas gwelsoch dyma i chwi dafell neu ddwy o'r Conant melys tan gamp a sgrifennodd y Parch. Evans Davies, Trefriw, am yr hen bregethwr ffraeth a gwreiddiol a didderbynwyneb hwnnw Ar ol cael oedfa galed unwaith, dywedai: Yr oedd y bregeth heno fel coes chwip, yn mynd feinach, feinach fel yr oedd jai myned ymlaen. Yr oedd ganddo un peth, a arferai weifhiau, i ennill ei rwyddineb arfero], pan y byddai'r bregeth yn gwrthod dyfod, ac ni welsom ef yn pallu cael hwyl un amser pan yn troi at y dull hwnnw a'r peth hwnnw ydoedd, erlid yr Ysgrifenyddior) a'r Phariseaid. Yr oedd yn eu casau hwy a chas eyfiawn, a, byddai ei ysbryd yn cynhyrfu trwyddo gyda'r son cyntaf am eu henwau. Yr oedd yn pregethu yn Aberangell un bore Saboth. a thybid y buasai yr rhaid iddo dewi, am fod ei ysbryd yn farw, a'i feddwl yn gysglyd, ac yntau yn ymddangos heb ddim i'w ddywedyd. Ei destyn oedd, "Ymddiddenweh a'ch calon ar eich gwely, a thewch ac yr oedd pob lie i feddwl ei fod ef am dewi gydag iddo ddechreu llefaru y bore hwnnw. Wedi gwneud rhyw fath o ymgais trwsgl i siarad am chwarter awr, digwyddodd enwi yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid ac ar hynny, dyma ei ysbryd yn cynhyrfu o'i fewn,a'i lygad yn bywiogi, a'i holl feddwl yn deffro. Yr ydych yn cofio," meddai, c' fel y byddai'r hen giwaid uffernol yn dilyn Iesu Grist i bob man, gan geisio cael masgal arno to, ac fe fyddai'r hen gipsiwns y felltith yn gofyn cwestiyrau iddo fo i'w rwydo fo yn ei ymadrodd ond yr oedd o yn ormod o fatch i'r rhai peniiaf ohonyn'nhw, ac mi rodd o asgwrn iddyn' nhw i'w gnoi wrth eu hateb y buasai yn well genyn' nhw na thipyn tyse nhw yn peidio gofyn iddo fo." Ar hynny, aeth y cwmwl ymaith oddiar ei feddwl, ac ymwnaeth am ei ffordd tua'r testyn, a phre- gethodd o hynny i'r diwedd gyda rhwyddineb a grymuster. j Bu yn dianc adref ac yn ymguddio lawer gwaith yn lie ymddangos ar ol iddo gael ei drefnu i bregethu. Dywedai cyfaill wrtho un tro, Rhaid i chwi gredu mwy ynnoch eich hun, Dafydd Dafis, ac nid cilio i roddi lie i bawb fel yna." "0," meddai yntau, "yr ydwyf fi yn adwaen fy hun yn well nag y mae neb arall yn fy adnabod, ac mi wn i nad ydwyf fi ddim yn flit." Yr oedd arno ofn mawr bod yn flinder ac yn faich ar y wlad. Cafodd alwad daer i fyned i'r Deheudir amryw weithiau, ond nid oedd modd cael ganddo gydsynio. Anogai John Hughes, Pontrobert, ef mewn Cyfarfod Misol i gydsynio a chais cyfeillion y De, a myned yno am ychydig o gyhoeddiad. Ond yn anffortunus yr oedd amryw o frodyr nad oedd Dafydd yn meddwl yn uchel iawn o honynt wedi gofyn am ganiatad i fyned yno ar y pryd ac mewn atebiad i anogaeth y patriarch o Bontrobert dywedai Na, yn wir, nid af fi ddim nid af fi ddim yrwan beth bynnag. Dyna hwn hwn a hwn yn myned yno, a'r Ilall yn myned yno, ac mi glywais fod un arall yn meddwl am fyned yn fuan (gan enwi tri brawd oedd yn bresennol ar y pryd). Mi rydw i yn ddigon anffit i fynd i'r Deheudir bob amser, ond nid a i byth yno ar unwaith a'r rhai hyn. Ac heblaw hynny, fe aeth y gweithwyr o Faw- ddwy acw i gyd bron i Sir Amwythig yn adeg y cynhaeaf y llynedd, ac wedi i'r rhan fwyaf fynd yno yr oedd eisieu gweithwyr gartref, ac fe gododd y cyflogau, fel mae y rhai oedd gartref a'i gwnaeth hi oreu o ddigon ac os a nhwthe i gyd i'r Deheudir, y mae hi yn siwr ° ddywad yn dipyn gwell arno ninnau fydd gartref." Nid oee neb yn gwneud cymaint o ddrwg i'r Efengyl a phregethwr heb fod yn flit." -*>- Symudasant o'r Berth i Dy'nyllechwedd yn yr un gymdogaeth. Er mai tyddyn bychan oedd Ty'nyllechwedd, eto, ac arfer ei air ef ei hun wrth gyfeirio at y peth, yr oedd y byd yn dyfod gyda hwynt yno fel lli' yr afon." -9- Nid oedd ei briod yn hollol mor dawel ei byd ag ef yn y lie hwnnw, ond yn hytrach yr oedd llwyddiant i'r fath raddau mewn lie mor fychan yn peri iddi hi anesmwytho ac ym- awyddu am dyddyn mwy. Cati, Cati," meddai wrthi pan yn amlygu yr anesmwyth- dra hwn, Yr wyt ti yr un fath yn union a Ilo mewn clover ni fedri di ddim cymeryd dy ddigon a bod yn llonydd, rhaid i ti gael torri dy fol." (Yn Nantyronog). Yr oedd y lie hwn yn llawer mwy ra'r lleoedd y bu ynddynt yn flaenorol, fel, er iddo fod yn dra llwyddiannus, yr oedd ganddo rhy fach o arian i dalu am bethau wrth fyned i mewn yno, ac er ei ofid gorfu arno gael hanner can punt ar y defaid. Y Sadwrn cyntaf ar ol myned yno, nid oedd yn son am fyned i'w gyhoeddiad fel arfer ac wrth ei weled felly, gofynnai ei wraig iddo i ba, leyr oedd yn myned i bregethu drannoeth. I bregethu ? gofynnai yntau, nid wyf yn meddwl mynd i unlle." Y mae gennych gyhoeddiad." meddai hithau. Yntau, gan ateb yn sarug, a ddywedai, Gyhoeddiad pe bai gennyf ddau nid awn i yr un cam oddicartref heddyw dyn mewn dyled yn mynd allan i bregethu nid ydyw hynny ddim rheswm." Ac er pob ymresymu nid oedd bosibl ei argyhoeddi nad oedd mewn dyled tra yr oedd gan neb yr un ddimai at ei anifeiliaid, ac nid aeth allan yr un cam i bregethu hyd nes y talodd yr hanner can punt. Yr oedd yn hynod ofalus am dalu ei ffordd, a dywedir na ddefnyddiodd unrhyw beth erioed i'w wasanaeth heb dalu amdano. Adroddir hanesyn lied ddigrif amdano wedi cael aradr newydd at ddechreu'r gwanwyn, ac ymddeng- ys fod gwir angen amdano, gan fod yr hen aradr yn dra bregus ac anghyfaddas at waith y tymor. Ond wedi cael y newydd, daeth gwraig y gof ato i grefu arno gadw'r arian hyd yr amser i'w gwr dalu ei ofynion Galanmai, gan os cai ef hwynt i'w law y byddai'n dra thebyg o'u gwario cyn hynny. Yn dra hwyr- frydig, cydsyniodd Dafydd a'i chais, a thrwy derfysg mawr rhyngddo a'r gwas, rhoddodd yr aradr newydd i fyny yn y granary dan glo hyd ddydd y taliad, a thaclwyd yr hen aradr i fyny at waith y gwanwyn goreu gellid. -0-
MINION MENAI. I
MINION MENAI. I YN OL MEUDWY'R MOR I DARLLBNNWCH Y DDWY.—Clywsom am ddau weinidog Methodus enwog yn cyd- drafaelio yn y tren drwy ddyffryn prydferth ar y Cyfandir, ac wedi bod yn trafaelio ers dyddiau. Edrychai un drwy'r ffenestr yn ddyfal ar y golygfeydd ardderchog, tra'r oedd y Hall yr un mor ddyfal yn darllen Testament bychan gariai yn ei logell, ac y troai iddo'n fynych. Toe, ebe'r darllenwr, dipyn yn Phariseaidd Yr wyf yn synnu atoch, Mr. D-, welais i mono chi yn darllen eich Beibl er pan ydym wedi cychwyn." Naddo," atebai yntau yn fwyn, "ond vr wyf yn darllen cyfrol arall o waith yr un Awdur ar hyd y daith." DowcH DAN Y GOEDEN.-Hawdd yw addoli yn y deml hon y dyddiau hyn,-wrth wrando a darHen y gyfrol arall o waith yr un Awdur. Wele holl goed y maes yn, wyrddlas hardd yn eu dillad goreu, a'r adar man yn gan i gyd. Breuddwydia'r gwartheg dan y pren, A'r borfa'n tyfu dros eu pen. Pwy all ddisgrifio'r tawelwch hyfryd ordoa'r dyffryn—o'r mor i'r mynydd—tra yr edrych- wn arno heno o ben y mynydd, ar y Nos Sul hyfryd hwn ? Dyma'r cyfryw adeg ag y canai Islwyn amdano :— Yr adeg dawel Pan nad yw twrf y byd yn daearoli'r awel. Gwelwch y llwvni ithin oil yn eu blodau aur yn gorchuddio y llechweddau mor brydferth. Mewn lleoedd llwm yn llawen—hon erys Mewn euraidd glog felen Un bigog yn gwisgo gwen Wrth wanu yw'r Eithinen, ebe Morwyllt amdani. Gwelwch yr ehedydd yn esgyn ei lwyfan uchel ac yn dihidlo ei gan wresog nes fod holl leisiau'r greadigaeth o'i amgyleh fel yn distewi i wrando a rno. Dowch dan y goeden fawr acw i glywed Salm y gwen- yn a'r cacwn yn gynulleidfa gref yn ei brigau, yn gwrnad eu mawl tan sipian y fendith yn hyfryd o'r dail llawn sug melys. Edrychwch draw i gyfeiriad y mor, a pheth harddach yn y byd na'r lasnef yn adlewyrchu yn nyfroedd tawel Culfor y Menai, ac ambell long fechan yma ac acw wrth angori a'i llun yn y dwr ? Wrth edrych, coflem am y rheiny Ryfeddent Ivfndra'r m6r. Balmeidd dra'r awel, Edrychent draw ac yma, a gwynfydent. Tra ednod Gwynfa ar y prennau bywiol, Yn llenwi'r awyr a, melodiant swynol. O'R CAPEL I'R CAE.—Mor ddymunol yw bod yn nheml Natur ar noson fel hyn ac mor hawdd addoli !-ymhell o swn a dadwrdd y briffordd, ac o gyrraedd ei llwch a'i motors. Onid da fyddai troi o'r briffordd weithiau wrth drefnu gwasanaeth crefyddol misoedd yr haf ? Paham y rhaid aros yn yr addoldai mwll nos Suliau braf yr haf, yn lie cael oedfa a phregeth ar y mynydd, megis cynt ? Byddai yn adfywiol i'r disgyblion droi o'r briffordd ambell dro, o'r neilltu i le anghyfannedd i orffwys ennyd, a darllen tipyn ar y gyfrol ttrall o waith yr un Awdur." Y GWANWYN.—-Dyma'r hyn ddarllenai Eben Fardd yn y gyfrol arall Mae ael Anian yn ymlonni,—mae'n brain Mewn brys am ddeori; Mae ein hadar yn mwyn nodi Miwsig y nef, yn ein mysg ni. Mae ein Gwanwyn yn min geni-y myrdd Myrddiwn math o dlysni Mor wyrddlan, mor hardd eleni Mae tir a m6r i'm trem i. Main laswellt myn ail-oesi-man lie bu Mewn lliw balch yn codi Mae allan drefn meillion di-ri', Mae ail-olwg am y lili. Mae'r eigion yn ymrywiogi—mae'r don Mor deneu'n ymlenwi; Moddion tyner !—meddant inni— "MAE YN Y NEF UN MWY NA NI." CYFARFOD MISOL.-Yng nghapel Lon pobty, Bangor, yr oedd Cyfarfod MisoI Arfon ddydd Llun. Llywydd, y Parch. Rhys Lewis, Betws Garmon. Gwrandawyd Hanes yr Achos," dan arweiniad Mr. J. W. Thomas, Waenfawr. Mater trafodaeth, Ffydd yn ol yr Epistol at yr Hebreaid." Y Parch. H. Jones-Davies, Tregarth, yn ei agor. Cododd y Cyfarfod Misol ar flaena'i draed i basio'r penderfyniad canlynol ar Fesur Dad- gysylltiad Y mae'r Cyfarfod Misol hwn, ym Man<jor, Ebrill 20, 1914, yn cynrychioli rhanbarth sylweddol o Sir Gaerii arf on, yn hyderu y bydd i Lywodraeth ei Fawrhydi, yn ystod y Senedd- dymor presennol gario trwodd Fesur yr Eglwys yng Nghymru yn u ffurf bresenool. Wedi cyndjoi gydsynio ohonom a'r hyn a ganiatawyd eisoes i'r Eglwys, edry-chwn gydag arswyd ar yr awgrymiadau a wneir i gan- iatau rhagor, ac yr ydym yn sicrhau ein cynrychiolwyr Seneddol y bydd unrhvw ag- wedd ond un gref a di-ildio yn fradychiad o'r ymddiried roddir ynddynt. "II. Djmunwn argraffu ar Ljnvodraeth ei Fawrhydi y ffaith nad yw'r hyn a elwir yn ddeiseb mneilltuol y n cynrychioli fodd yn y byd farn rydd mwyafrif Anghydffurfwyr Cymru; ac wrth edryeh ar modd a gymerir gan hyrwyddwyr y cyfryw i sicrhau enwau, daliwn nad ydynt ychwaith yn cynrychioli golygiadau hyd yn oed y rhai sydd wedi arwyddo." A chyfarwyddwyd yr ysgrifennydd i'w an f (it i'r Prif Weinidog, Canghellor y Trysorlys, Mr. McKenna, a'r Aelodau Seneddol dros y rhanbarthau cylchvnol-Môn ac Arfon. DAMWAIN.—Ddydd lau, aeth Miss Good- win, Matron Brynmenai, Bangor, a nifer o nurses gyda hi o'r Cartref am dro mewn cerbyd i Nant Ffrancon. Syrthiodd un o'r ceffylau a thaflwyd dwy o'r nurses eisteddent ar y blaen i'r lJawr. Torrodd un ei choes, a der- byniodd y Hall niweidiau llai. Cludwyd y rhai anafus i Fethesda at y meddyg gan Motor Bus Llandudno, ddigwyddai fod yn mynd heibio ar y pryd. > ETO FYTH !—"Yr un wythnos, tra'n dych- wel yn ei motor o Gacrnarfon i Fangor, anaf- wyd Mr. Williams, mab y Maer (Mr. R. J. Williams). Yr oedd gwr ieuanc arall gydag ef yn y motor a rhywsut, dymchwelodd y motor, gan eu claddu eu dau o tano. Diangodd y ddau yn bur ddianaf, ac ystyried, ond y maent yn debyg o gofio'r tro yr hawg. MON, RHAD ARNI !-Cyfarfu Mr. W. St. John Hancock, ysgrifennydd y Welsh Housing Association, a phwyllgor Llywodraeth Leol y Valley, Mon, yr wythnos ddiweddaf ac wrth ymdrin am yr angenrheidrwydd am well tai ym Mon, ebai Mr. Hancock Yr wyf wedi bod ymhob twil a ehornel ym Mon, ac yr wyf hefyd wedi bod ar hyd a lied y byd-yn China, ac yn y blaen, ond ni welais yn unman yn y byd-na.ddo, hyd yn oed yn slums budron Canton—dai mor druenus ag sydd ym Mon. Y mae'r Gymdeithas yr wyf fi ynglyn a hi wedi ei ffurfio i wella tai Cymru ac os dylai rhywle mwy na'i gilydd gael y sylw cyntaf, M6n yw hwnnw.
Advertising
Rhifyn y Gwanwyn. Y BEIRNSAD CYLOHGRAWN CHWARTEROL dan nawdd Cymdeithasau Cymreig y Colegan Cenedlaethol a than olygiaeth J. MORRIS JONES. GORONWY OWEN Y Parch. T. Shankland BE TO SIAN Y Parch. John T. Job BERGSON—CYWIRO CAMSYNIADAU O. W. Griffith Y GYMRAEG A CHENEDLAETHOLDEB H. Parry Jones ENWADAETH Yr Athro Joseph Jones CYFOETH A CHENEDLAETHOLDEB Y Parch. Rhys J. Huws RHOBAT LLWYD R. Williams Parrv GOHEBIAETH David Samue HAWL AC ATEB HEN LYTHYR ADOLYGIADAU gan W. J. Gruffydd, Ifor Williams, y Parch. D. Adams, a'r Golygydd Lerpwl Hugh Evans a'i Feibion, Argraftwyr, 856, 358 Stanley Road ANWYD, PESWCH, INFLUENZA.—Mae rhai n gyda ni bob amser. Pair hinBawdd gyfpew- idiol fod llawer o ddioadef oddi wrth Beswch, Br-nobitis, Pas, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra Dinyg Anadl Y mae yr hen feddvtiDifleth DAVIES'S COUGH MIXTURE" eto ar y blaen, ac yn cael ei gwerthfawrogi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, yn felys, yn cynbesii y frest, ac yn rhvddhau y phlegm. Bydd doso mewn pryd yn ddigon. Is. He, a 2s. 9c. (postage, mewn ?ZG'H DAVIES, Chemist. MACHYN? LLETH GWYNEB PRYDFERTH. Sarzine Blood Mixture at glirio y croen, a phnro y gwned. Y mae yn myned at wraidd y drwg, ymlid ymaith bob math ° pimples, oochni, ysfa, scurvy, pen- ddynod. Gwella hen ddoloriau. coesau drwg, crydgymalau, gan adfer y croen i'w hardthveh naturiol. 2s 6c- y botel gan bob Druggist; vn ychwanegol gyda'r post-HUGH DAVIES hemist. MACHYNLLETH. W. & J. VENMORE, Estate Agents & Valuers 200 SCOTLAND RO. liverpoc"! SteLBFHOWS NO. 5163 Royal J. Lloyd Jones, & Co., ESTATE AGENTS, &c 6 Lord Street. Liverpool TSi.SPBUMB 621S BAMM. ALLAN Royal UMt To CANADA. ALSATIAN and CALGARIAN 18,500 ton Quadruple-Screw Turbine Steamers Express WeeHly Service from Liverpool. The POPULAR PIONEER LINE. LARGEST and FASTEST to CANADA. CHEAPEST way to Canada; shortest to W America Regular Sailings from Glasgow, Londonderry, London, Plymouth and Harve. ALLAN LINE, 19 James St., Liverpool; 14 Cockspn St., S.W., and 103 Leadenhall St., London, E.G. ,? j 11 t ?, ..Lost Property.. UMBRELLAS. Railway, Tramway, Police Beautiul Umbrellas & Sunshades, 1 1/4, 1/9, 2 upwards. Walking Sticks 2d upwards. These are good knock-about umbrellas. Northern Umbrella Depot Zoa Bold St. (upstairs), few doors from Church ot Halford Cvcle Co., Ltd., FOR CYCLE ACCESSORIES AT WHOLESALE PRICES. Plated Wheels, 3/- Miidguards, 4jd. a pr. Inner Tubes, from 1181 Covers from 2/11 Back Brakes, 1J7 Pedals, IOtd. a pair. Carriers, 3d. Handlebars, 1/6 Handlebars fitted with 2 Roller brakes 4/3 complete. CYCLES fulIyRf;;arteed £ 2/15/- including lamp, bell, bag, pump, &c. 49 & 61 Renshaw Street, Liverpoo Thousands of Bargains. Coupon Rhad=Yswiriaeth (Peidier a'i hollti'n rhydd). BTDD t't GREShAM Fire and Accident Insurance Society Lto St gMHdred s House, Poultry. LONDON, E.C. dalu 4100 (can punt) i gyarychiolydd oyfreithio a phersonol y sawl a fo'n ddiles-ddaliwr y coupon hwn, os y bo iddo fo neu hi gael eu lladd yn hollo ac yn uniongyrchol drwy ddamwain o fewn y Deyrnas Gyfunol i dren onryw Gwmni ReilfEordd, Tramcar, Omnibus, Cab, neu Gerbyd Trwyddediar t a Hog yn yr hwn y bo'r daliwr yn cael ei glQ? fel teithiwr tocyn a chlud, yn ddarostyngedig b? amser i'r amodau arbennig a ganlyn sydd ystyried fel rhan a ohyfran o'r cytnndeb- (a) Fod y marw'n digwydd o fewn deDg niwrnod ar hugain wedi'r ddamwain (b) fo? rhybudd ohoni'n cael ei roi i'r Gymdeithas c fewn saith niwrnod yn eu Prif Swyddfa ya Llundain (c) fod y cyfryw dystiolaeth res- ymol parth achos y farwolaeth yn cael ei gyflwyno ag a fo'r Gymdeithas yn ei ofyn (d) fod y daliwr wedi 'sgrifennn ei arwydd- enw arferol, cyn i'r ddamwain ddigwydd, ag inc yn y lie ckrparedig gogyfer a hynny (e) na bo'r Gymdeithas yn gyfrifol i fwy nag on person parth mwy nag un coupon yn y papur hwn na r un cyhoeddiad arall (/) na bo r ye. wiriaeth hwn ddim yn gaffaeladwy i bersonaa tan ddeuddeg na thros ddeg a thrigain mlwydd oed, ac a ddeil yn ddilys am saith niwrnod o 12 o'r gloch y dydd yi codir. Arwyddnod y DaliUlf" TrigfodJ. I Danysgrifwyr. Raid i dderbynwyr cyson y papur hwn ddhn arwyddo r Coupon os ca'r Gymdeithas gwbl sicrwydd a phrawf el fod yn cael ou anfon iddynt yn ddlfwlcb..oj ..Cynhygiad Neilltuol.. i Ddarllenwyr fI Y BRYTHON." NiD oes dim mwy hwylus a gwerthfawr na Fountain Pen da ° gwneuthuriad y gellir dibynnu arno, a hynny am bria isel y gall pawb ei gyrraedd. Mae perchenogion Y BRYTHON-er mwyn eangu cylchrediad eu newyddiadur-yn cynny FOUNTAIN PEN o'r gwneuthuriod goreu guaranteed fitted with 14 carat Gold Nib, flne, medium or broad), ac yn gyfartal o ran ei werth i rai a gynhygir am brisiau llawer uwch. Dyma'r telerau :— Am 3/6 (Postal Order). N Neu am 3/- a phum Coupon. 2/6 a deg Coupon. Y Coupons i gael eu tori allan o'r BRYTHON. Gwna unrhyw ddvddiad y tro, ond a chymerir mwy na thn or un dyddiad. Anfoner y Coupons a'r Postal Order, ynghy-da en. a chyfeiriad yr anfonydd wedi ei ysgrifennu yn eglur. Cyfeirier yr archebion 356-353 STANLEY ROAD, LIVERPOOL. Fountain Pen Coupon. Y BRYTHON." Ebrill 23ain, 1914