Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLEIFIAD LLWM——• I Y rheswm fod fy mhig mor wag heddyw'r bore ydyw hyn fy mod wedi gorfod hedeg yn bell i'r wlad y ddwy wythnos ddiweddaf ar neges dros Y BRYTHON, ac heb gael ham- dden i weld na chlywed nemor ddim o fyd a helynt Cymry Lerpwl yma. Byddaf adref- am blwc beth bynnag-o hyn ymlaen, ac a fyddaf yn llawnach fy mhig. YR HEN BONT YN DAL- f Yn fy myw y medraf gofio'r un o sylw- ad au'r ddwy bregetji a glywais y Sul diweddaf yo daclus felly a chan eich bod yn gofyn am rhyw damaid neu gilydd o hyd yn y golofn hon, nis gwn a wnaf yn well nac adrodd yr hyn y clywais y Doctor Owen Thomas yn ei ddweyd ar bregeth lawer blwyddyn yn ol. Dichon mai ar A hyn fu rhai ohonoch chi eithr chwi a olchwyd," etc., y pregethai nid wyf yn rhyw sicr iawn. Da waeth dyma ddywedodd, er nad wyf yn cofio'i eiriau'n fanwl :— Y Corinthiaid oedd pechaduriaid duaf a thrythyllaf yr oes honno; yroeddynt yn II ddihareb ameuhafleadid a'u hymollyng- dod i bob rhysedd a llygredigaeth ond dyma'r Apostol yn dangos fel yr oedd yr Efengyl wedi medru eu golchi a'u hail epi hwytl-iau, er eu duwch i gyd. Ac yr oedd diben i'r son hwn am y Corinthiaid duon, canys er fod Pont yr Iachawdwr- "iaeth wedi ca-el. ei gorffen, yr oedd eisieu'i phrofi a'r ffordd i brofi pob pont "ydyw gyrru trymlwyth drosti ac os "deil hi hwnnw, g-Ilir anturio gyrru popeth arall trosti wedyn. Fe anfonodd Duw lond tryc o hen bechaduriaid duaf Corinth i broWr Bont, ac fe ddaliodd heb wegian na gwichian dim dan y llwyth ac os daliodd hi hwy, y mae hi'n sicr o'ch dal chwi a finnau, 'mhobol i. Mentrwch yr hen Bont. Glywaist ti, Jane, ar y galeri yna ? Welest ti 0, William, yn y llawr yna ? Gefaist ti 0, Gruffydd, yn y Sot Fawr yna ? AIL-GYFWRDD GO RHYFEDD I Yr oedd dau o Gymry Patagonia newydd gyrraedd Lerpwl y Sul diweddaf ac wrth eistedd i orffwys tipyn ar un o feinciau'r Pare, dyma glywed Cymry'n pasio tan barablu'r hen iaith. Dyma ofyn iddynt os oedd yna gapel Cymrapg rywle'n agos. Oes, Cape] Stanley Road, a ninnau ar ein ffordd tuag yno," ebe'r rhai hynny. Dyna fynd yno efont a phwy feddyliech ddigwyddai fod yn y pulpud ? Y Parch. R. J. Jones, Twrgwyn, Bangor-, mab y diweddar Barch. Robert Jones (Treu- ddyn), Patagonia, a chyfaill a chydnabod mynwesol i'r ddau Wladfawr. Wrth gwrs, ca"d Rniat ac ysgwyd Haw gynnes ryfeddol, ac o wenu a synnu ar y cyfarfyddiad rhyfedd a di-ddisgwyl. Cafodd y ddau, a'r dyrfa i gyd o ran hynny, dal da am droi i fewn, canys yr o^-dd dwy bregoth bugail ieuanc y Twrgwyn yn ffres ac yn dryfwl o wir ddawn y weini- dogaeth. Ac y mae'r ddawn honno'n hawdd ei hadnabod lie bo. CYDYMDRECH SPELLOW LANE- Y mae Wesleaid Spellow Lane am ysgwyd ymaith bwn eu dyl' d oddiar eu gwar yr wythnos nesaf os gallant fodd yn y byd, sef drwy gyfrwng basar dri-diwrnod y gwelir pob manylion amdani ymysg yr hysbysiadau ar tudal. 8. Hvderwn y cant y gefnogaeth a ha-ddant, ac y bydd eu gwobr a'u ffrwyth yn deilwng o'u llafur a'u hymroddiad hwy eu hunain cyn ymbil am help eu chwaer-eglwysi o'r tuallan. Hwi, Spollow Lane 1 HEN DRO- Y mae pawb yn llawenhau fod yr Hybarch Ddr. Hugh Jones, Bangor, wedi cael hwyl a hOAn i orffen ei waith mawr ar Hanes Wesleaeth Gymre-ig, yn bedair cyfrol hardd a hysbyddol ond wrth adrodd hanes Wesleaeth Gymreig Lerpwl, sut yn y byd y gollyrigwyd allan bob crybwvlliad am y diweddar Mr. Gwaenys Jonfs ac ereill opdd yn amlycach na neb braidd gvda'r gwaith yn y ddinas ? Yr oedd Gwaenys yn weithiwr diorffwys yn lienor dn ac yn un o'r crefyddwyr hynny fyddai'n debycach o farw mewn pwyllgor capel nag y caffai farw gartrof ac yn ei dy, gan mor ami y galwadau ar ei sel a'i ffvddlondeb disyfl. Prin y cafodd yr un Cyfundeb crefyddol am- gnnach gwas, na'i fodrusach mRwn llawer ffordd. lInn dro na chavrsai'i goffhau mewn cyfrol yr ha-ddai Ie amlwg ynddi yn anad neb braidd o Wesleaid Lerpwl. Dr. Hugh Jones yw'r nesaf i ddod gerbron ein darlenwyr yng ngholom CYMRY AMLWG y Glwydydd, J TYSTEB A r-ATV MADOG- Y mae'n dda gennyf gyhoeddi'r llythyr isod canys fe wnaAth yr Alaw ami gymwynas a, minnau'r Lleifiad, heblaw a Kensington a'r gwahanol achosion Cymreig. Y fo rhoes fi ar ben y ffordd sut i hedeg i'm clwyd yn Eis- teddfod Llundi ,in yn 1909, heb fynd ar goll a cholli'm nyth yn y goedwig bob! honno, ac a d( I Ln, a ddanghosodd i mi y Brifddinas a'i holl ogoniant o ben y bus y fohefyd a hedodd yn fy lie i amb-"I1 gyfarfod a chyngerdd pan fethwn a hed^g yno fyhun, ac a'i cefais bob am- ser yn b ;,rod i fynd »,rei ben or mwyn gwneud tro caredig. Ond rhag i mi fynd a lle'r llythyr, dyma fo, ac a hyderaf y bydd yn effeithiol, ao y gwi and-vrir ar ei gais :— MR. GOL.-Diolchaf am gyfle'r BRYTHON i alw sylw nty mudiad tuag at gyfIwyno Tysteb i Mr. D. R. Jones (Alaw Madoq). Mae Mr. Jones yn bur adnabyddus i Gymry Lerpwl, ao i'r Cymry'n gyffredinol, yn enwedig ynglyn a cherddoriaeth. Y mae'n Arweinydd y Gan yn Kensington ers 30 mlynedd. Ond bu ei wasana^th yn helaethach na hynny, a barnwyd yn ddoeth i ffurfio Pwyllgor yn cyn- rycliioii cylch cyfatebol eang. Ni fu neb parot,i,ch nag ef i wneuthur yr hyn a goisid ganddo, heb wahaniaeth enwad na sect. D'wg gm ei gyfeillion nad yw iechyd yr Al w eystal ag arfer ers tro bellach; a diau y bvd ai cydymdeimlad ei gyfeillion ag ef yn y ffay Î Dysteb yn gysur iddo. Carem yn fawr i'r mudiad fod yn llwydd- iant, ac apeliwn yn daer ar ei ran. Mae casglyddion wedi eu penodi yng ngwahanol barthau Lerpwl a'r cylch a phe gwelai rhywun, na Iwyddodd y casglyddion i'w cyrraedd, yn Lloegr neu Gymru, yn dda gyf- rannu at y Dysteb, diolchwn os gwneir hynny gynted y bo modd, oherwydd y bwriedir cwblhau'r gwaith ar fyrder. Derbynnir un- rhyw rodd yn llawen gan y Trysorydd-Mr. E. Kingston Jones, 27 Clifton Road East Ysgrifennydd—Mr. John Evans, 50 Esher Road neu yr eiddoch yn gywir, J. 0. WILLIAMS (Pedrog), 217 Prescot Road, Liverpool. Ebrill 21ain, 1914. -0-

DAU TU'R AFON. I

Family Notices

Advertising

Advertising