Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

a ill Y TAFWYS

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

a ill Y TAFWYS [GAN Y QWYLIWRi Westminster, Nos Fawi-th, 28 iv. 1914. Mwg Ulster. I Dyryswch ac anwybodaeth yw'r nodweddion amlvcaf ymhlith ein Haelodau Seneddol y dyddiau hyn. Dyfeisir lliaws o bethau, ond nid oes neb yn gwybod, o'r hyn lleiaf, neb sydd yn debyg o ddweyd. Hwyrach fod Mr. Asquith a'i gydaelodau yn y Cabinet wedi gwneud eu meddwl i fyny gyda golwg ar Ulster, ond hyd yn hyn y maent yn cadw eu meddwl iddynt eu hunain. Disgwylid ar ol cyfeiriad y Prif Weinidog ddoe at y "grave and unprecedented outrage" gyflawnwyd yng ngwlad y Carson yr wythnos ddiweddaf, pryd y dygwyd i mewn nifer mawr o gyflegrau- gwahaniaetha'r rhif o 20,000 i 50,000-at wasanaeth gwrthryfelgar addefedig, y buasai heddyw yn amlygu bwriad y Llywodraeth yn Wyneb y fath amgylchiad. Ond nid felly y digwyddodd, ac y mae genynm ddigon o ffydd ym Mr. Asquith i gredu mai hynny oedd oreu ar hyn o bryd. Hwyrach y teflir goleuni ar y mater cyn terfyn y ddadl ar gynhygiad con- demniol Mr. Austen Chamberlain, end yn y cyfamser yr ydym mewr dygn dywyllwch. Heno, tywyllodd Mr. Winston Churchill y tywyllwch ei hun Yn ystod ei araith, wrth son fod drws cymod eto'n agored i Ulster, gwnaeth ddefnydd o ymadrodd ynghylch federalisation sydd wedi gyrru nid yn unig y Tý ond y Gallery yn ben-ben. Prin y ceir dau yn cytuno ar yr esboniad priodol o ystyr S geiriau a ddefnyddiwyd,a bore fory, mae'n ddios gennym yr adlewyrchir yr amrywiaeth barn yng ngholofnau'r holl newyddiaduron. Hawlia'r Toriaid fod Mr. Churchill yn foddlon i roddi i Syr Edward Carson, er mwyn hedd- wch, bopeth a hawlir ganddo. Deil y Rhydd- frydwyr ei fod yn sefyll yn gadarn dros y Mesur Gwyddelig fel y mae, ond ei fod yn agor y ffordd i ymheddychiad yn y man, ar federal lines. Yr ydym yn lied hyderus y clirir yr awyr pan ddaw'r Prif Weinidog i symio i fyny. Gobeithio yr ydym y gosoda bolisi'r Weinydd- iaeth yn eglur gerbron y wlad, ac y bydd y polisi hwnnw yn unol a hawl eynrychiolwyr y werin i lywodraethu yn gyfansoddiadol, heb gymryd eu tarfu gan na phendefigaeth na byddin. 6- Bonar Law'n mynd is, is. I Wrth gwrs, y mae a fynno cwestiwn Ulster lawer a Mesur Dadgysylltiad. Gellid meddwl oddiwrth y modd y gwylia'r Esgobion bob symudiad ynglyn a Mesur YmreoJaeth mai ar fethiant hwn y seiliant eu disgwyliadau am ddinistr Mesur Dadgysylltiad. Gwelir Dr. Edwards o Lanelwy, a Dr. Owen o Dvddewi, yn gyson yn Nhy'r Cyffredin p'run bynnag o'r ddau ddigwydd fod o dan ystyriaeth. Ond nid yw seiliau eu gobeithion yn crvfhau'r dyddiau hyn. Cafodd Mr. Bonar Law, ar ol disgyn yn is inewn difriaeth o'i wrthwynebwyr na neb o'i ragfiaenwyr, gan Mr. Austen Cham- berlain ymgymeryd a chvnnyg vote of censure ar y Llywodraeth, ar gyfrif (medd ef) natur ddifrifpl y symudiadau llyngesol a milwrol a fwriedid yn erbyn Ulster, anghywirdeb eu datganiadau o berthynas i'r cyfryw symud- iadau, a'u methiant i drin y sefyllfa mewn modd teg ac agored. Gwan iawn oedd ym- osodiad Austen, er iddo gymeryd 11 awer o amser i'w thraddodi. Bydd yn rhaid i Arweinydd yr Wrthblaid gyflawnhau ei ym- adroddion beiddgar gyda golwg er unionder y Prif Weinidog lawer mwy nag y llwyddodd Mr. Chamberlain i wneud neu syrthio o dan gondemniad fel camgyhuddwr. Y mae gen- nym bob hyder y gwelwn ef o dan y fflangell cyn yr ymddengys y llinellau hyn yn y BRYTHON. -0- -0- Cael mwy na'u haeddiant. I Ond s6n am Fesur Dadgysylltiad yr oedd- em. Mae hwnnw wedi pasio'i ail ddarlleniad gyda mwyafrif rhagorol. Ni ddaw eto ger- bron, yn ol pob tebyg, hyd tua chanol mis Mai, y deunawfed yw'r dyddiad yn ol y trefniad presennol. Teimlir cryn lawer o anesmwythter gyda golwg ar fwriadau'r Llywodraeth o berthynas i'r gwelliantau awgrymiadol sy'n debyg o gael eu dwyn ymlaen gan yr.Wrthblaid cyn y trydydd darlleniad. Yr wyf yn deall ar seiliau diam- heuol fod Canghellor y Trysorlys (Mr. Lloyd George), yr Ysgrifennydd Cartrefol (Mr. McKenna) a'r Is-Ysgrifennydd (Mr. Ellis Griffith) yn gadarn yn erbyn caniatau unrhyw freintiau pellach i'r blaid Eglwysig. Teimlir eu bod wedi cael eisoeslawer mwy na'u haeddiant. Ond mae'n sicr y gwneir pob ymdrech i grafangu rhagor, ac yn enwedig i gael rhodd ychwanegol i gadw'r curadiaid. liyddai'n dda gennym allu dweyd fod yr aelodatt Cymreig yn unfryd yn erbyn hyn, ond eiddil a llesg dros ben yw llawer ohonynt ac er gwaethaf Cymdeithasfa a Chwrdd Chwarter, nis gellir dibynnu arnynt.

Advertising

Goreu Cymro: y Cymro Oddicartref.

O'R BALA.

AR GIP.I

Advertising

O'R DE.