Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Gyda r Clawdd, Sef Clawdd…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gyda r Clawdd, Sef Clawdd Offa. San GYMRO O'l GORYN I'W GARN. I Htoyl Engedi.-Cafodd Eglwys Engedi, Brymbo, Eisteddfod lwyddiannus iawn y nos o'r bla,en cynulliadau rhagorol a chystadlu gwych, a'r elw wrth eu bodd. Y beirniad eanu oedd Mr. Evan Evans Mr. Ellis Hughes, Coed poeth, yr adrodd y Parch. J. Lloyd Jones, B.A., y traethodau Mrs. Parry, Bryn derw, gwaith edau a nodwydd Mr. J. Owen Smallwpod, yr arholiadau. Arweiniwyd gan y gweinidog, y Parch. R. Kughes. Eluned ar y Top.—Yn Arholiad Ysgrythyrol Dosbarth Coedpoeth a'r cylch, enillwyd y wobr gyntaf i blant dan un ar bymtheg oed gan Miss Eluned Jones, Bwlch gwyn, ac yr oedd Mr. Alun John, Moreton, yn gydradd ail. Tr Efengyles o Lundain.—Ym Methel, espol y Bedyddwyr Saesneg, Cefn mawr, pregethai Miss Edith Williams o Lundain, ac y mae canmol mawr ar ei phregethau. Engyl y Clat.-Y mae ym mryd pobl Owersyllt ffurfio Cymdeithas Nyrs. Syndod fod lie mor boblog a Gwersyllt heb yr un. Y mae eu hymweliad ag aneddau'r claf a'r otwyfus felymweliad angylion i'w llonni a'u diddanu. Ofni'r Ddrama.-Treuliodd Cymdeithas Ddirwestol y Chwiorydd yn y Rhos gyfarfod i ymdrin ag agwedd yr Eglwys at y Ddrama. Llywyddwyd gan Mrs. Robert Jones ac yn ei hanerchiad, gofidiai Mrs. Jones nad oedd censorship ar chwaraeon Cymraeg. Er nad oedd dim gwrthwynebol i chwaeth dda yn y Ddrama Gymraeg heddyw, credai y dylai fod aniddiffyn,rhag digwydd peth a fo gwaeth yn y dyfodol. t Y mae'r Ddrama yng Nghymru'n daiblygu'n gyflym, a gresyn fyddai gostwng y safon uchel sydd iddi. Dywedai Mrs. Isfryn Williams ei bod yn ofni fod y ddrama'n tueddu i yneud i'r ifanc esgeuluso pethau ysbrydol ac wehraddol. Ni chymerant yr un diddordeb mown pethau dyfnion. Siaradwyd ymhellach San Mrs. Roberts, Mrs. Da vies, a Mrs. Ro. berts, New Street,—i gyd yn trimlo y dylai fod an i nithio'r Ddrama Gymraeg fel y gwneir a'r 1ID Saesneg. Wel, dyna swydd newydd ar gyfer Cymro eto, neu i un o'r ddau farnwr y Ddrama Saesneg ddysgu Cymraeg. Llidiart y Gyfraith.-Dedfrydwyd Selina Lewis, gwraig o Ddeheudir Cymru, i sefyll ei phrawf yn y frawdlys am iddi newynu ei phlentyn i farwolaeth ond gollyngwyd y dyn a'i dygodd i drybini yn rhydd gyda cherydd. Gwna peth fel hyn hi'n hawdd pleidio'r %flraget. Cwrdd Chvtarter.—Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol Annibynwyr Dwyrain Dinbych a Pflint yn y Rhos, ar y dyddiau Llun a Mawrth, Bbrill 20 a 21. Llywyddwyd gan y Parch. J. P. Gough, y llywydd am y flwjddyn. Derbyniwyd aelodau newyddion i'r cyfarfod, a rhoddodd y Parch. Peris Williams adroddiad Pwyllogr ddewiswyd i ddarparu rheolau ynglyn a chodi pregethwyr. Cafwyd ad- roddiad o Bwyllgor Cenhadaeth, ac o bwyllgor Ysgol Sul a Dirwest gan eu gwahanol ysgrif- enyddion. Rhoddodd Mr. peter Williams adroddiad o Bwyllgor y Caniedydd Gynulleid- faol. Bwriedir cael llyfr emynau newydd. Bydd pedwar ugain o donau a chwech ugain a'r emynau sydd yn yr hen lyfr na chyhoeddir kwy yn y llyfr newydd. Rhoddodd y Parch. T. E. Thomas adroddiad o Gyngor yr Undeb. 0eir son am gyhoeddi chwarterolyn newydd, as am wneuthur y Tyst yn eiddo i'r enwad a* yr oedd y Cyngor yn falch o'r symudiad sydd am uno'r enwadau. Galwyd sylw hefyd at gyfrol o Hanes yr Enwad sydd yn cael ei kysgrifennu gan y Parchn. O. L. Roberts a Peris Williams. Darllenwyd papur gwir rag- orol gan Mr. W. R. Owen, ysgolfeistr Rhos ddu, ar addysg grefyddol yn yr ysgolion dyddiol. Cynhygiodd y Parch. W. Daniel benderfyniad fod y cyfarfod yn llawenhau am yr ysbryd Cristionogol sy'n dwyn yr enwadau i ystyried y priodoldeb o ddod i fwy o gyd. weithrediad. ac undeb. Cynhygiodd y Parch. Peris Williams benderfyniad ar Ddadgysyllt- iad Fod y Gynhadledd hon o Annibynwyr yn dymunb datgan eu hymddiriedaeth yn y Llywodraeth a'u bwriad i dwyn y Mesur yn ddeddf, heb gyfnewidiad pellach ynddo ac y teimlem, pe byddai i Aelodau Seneddol Cymru wyro oddiwrth y Mesur i'w wanychu eto, y byddent yn fradychwyr noeth i'r genedl, ac yr andwyai hynny'n ffyddlondeb i'r blaid Rydd- frydol. Siaradwyd yn frwd iawn o blaid y penderfyniad gan y Parchn. R. Roberts, J. Talwrn Jones, a Mr. J. Smith, Y.H., Rhos., a phasiwyd y penderfyniad gydag un- frydedd llwyr a gwresog. Yr oedd y Parch. 'Owen Thomas, M.A., Llundain, yn y gyn- kadledd, ac anerchodd y cyfarfod o blaid y Gymdeithas Genhadol Dramor. Dewiswyd y rhai canlynol ar bwyllgor y Genhadaeth Gartrefol i weithredu gyda chyfarfod chwarter Cyfundeb Gorllewin Dinbych a Fflint: y Parchn. R. Roberts (Rhostyllen), J. Talwrn Jones, Mri. S. Moss, D. Jones, J. Roberts, Hugh Roberts (Llangollen). Treuliwyd y prynhawn yn gyfeillach i ymdrin ag"Elfennau profiad y Cristion." Pregethwyd nos Lun a mos Fawrth. Bwrieda Llywodraethwyr Ysgol Ganolradd y Genethod yng Ngwrecsam adeiladu Ysgol newydd, bydd y draul yn bedair mil o bunnau, a digon o le ynddi i 284 o yagolheigion. Gwelir model o'r Ysgol yn ffenestr siop Mr. J. E. Powell; gwaith Mr. Gilbert Wiles ydyw. Mawl y Methodistiaid.-Cynhaliodd Meth- -odistiaid Calfinaidd Dosbarth Gwrecsam Gy- manfa Gerdd yn y Drill Hall ddydd Mercher diweddaf, ac yr oedd yr adeilad mawr yn llawn. Arweinid gan yr Athro David Evan", a chafwyd canu iawn. Y ddau lywydd oedd y Parch. J. Smallwood, Cymau, a Mr. J. E. Powell. Dameg y Friallen.-y mae'n dyffryn dan ei ogoniant y dyddiau hyn. Ceir y planhigion mefus yn llawn dail ac ar flodeuo, a choedydd afalau a gerllyg a'r eirin dan eu sang o flodau ond, hyd y gwelais i, dyffryn tlawd am friallu ydyw. Gresyn fod blodyn mor annwyl wedi ei gysylltu a phlaid o gwbl ond plaid peu beidio, ni ellir peidio a'i garu, brydferthed ydyw. Nid llawer o'r blaid sydd ym Maelor,a phrin y caffai bob un ohonynt friallen 3ieb fynd i rywle o Faelor i chwilio amdanynt.

| fin Gsnedl ym Manceinion.I

I. 0 Chwarel a Chlogwyn.

Advertising