Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
At the Cross—Wrth y Groes SACRED SONG. N CANSGYSEGREDIG. In Two Keys. For Tenor or Baas. WELSH WORDS BY The Rev. PETER WILLIAMS (Pedr Hir). ENGLISH ADAPTATION AND MDSKJBY ( JOHN HENRY. Copyright. 6d. nett. Liverpool: HUGH EVANS & SONS, 356-8 Stanley Road IF YOU WANT SEASONED Oak, Mahogany, Birch, Black Walnut, Ash White Wood, Pitchpine, Yellow Pine, Doors or Moulding WRITE LEWIS ROBERTS, 19 STANLEY ROAD,' LIVERPOOL liais i Main YSGRIFAU IMYFYRDOD gjsn PETER HUGHES GRIFFITHS t- 2/- nett. 2/= nett. HUGH EVANS A'l FEIBION
Trem II-Y Deisebau. -I
Trem II-Y Deisebau. I Gallai tystion cywir a gonest ysgrifennu penodau rhyfedd o ffeithiau diymwad am y modd y casglwyd llawer o'r Deisebau a anfon- wyd i Lundain yn erbyn y Dadgysylltiad. Mewn un pentref gwledig, clywsom am farw dyn, a'i gladdu ym mynwent y plwy. Cy- hoeddodd y clerigwr yr ai yr offrwm i berthynasau y dyn a gleddid. Ymneilltuwyr oedd y dyn a'i deulu. Tan gysgod yr offrwm hwnnw, aed at y neb a gafodd y ffafr, i gftisio ganddo arwyddo'r Ddeiseb yn erbyn y Dadgysylltiad Pe barnai dvn gref- ydd wrth ymddygiadau fel hyn, ni fyddai a wnelo dyn anrhydeddus ddim a hi. Mae gormes ar unrhyw ddyn yn erchyll, end yr erchyllaf oll y-w gormesu'r gwan. Mae gormes « mewn etholiad Seneddol yn ddigon drwg, ond yn waeth fyth yn enw crefydd ac eglwys Gristionogol. Gweithredu yn bur ddibetrus y dyddiau hyn ar yr egwyddor fod amcan a dybir yn dda yn cyfreithloni unrhyw foddion i'w sicrhau hynny yvr, Gwnawn ddrwg fel y del daioni." Gresyn na cheid deddf i wahardd budrwaith o'r fath-a phob math o ganfasio, o ran hynny. Rhodder chwarae teg i'r bobl farnu drostynt eu hunain, a phwyso materion yng nghlorian cydwybod, heb i'r un meistr tir na meistr gwaith, person na gweini- dog, fwrw eu pwysau gorthrymus i ymyryd a'r fantol. Mae gormes o'r fath a nodwyd yn tueddu'n uniongyrchol i gynhyrchulanwiredd, llwfrdra, a diffyg cydwybodolrwydd ac mae hynny, o angenrheidrwydd, yn mynd tan sail crefydd cenedl. Os mynnir helpu pobl i fod yn eirwir, yn gydwybodol, ac yn ffyddlon i Dduw, na themtier hwy i'r hyn sydd groes i hynny. Hawdd inni ddwrdio'r Babaeth am ei bod yn masnachu ar anwybodaeth dynion, ac yn sefyll rhyngddynt a Duw ond byddai mwy cysondeb a grym yn ein dwrdio pe gwnelem lai o'r un peth ein hunain. Sonnir llawer yn ddiweddar am ladron," cysegr- ysbeilwyr," ac "anffyddiaeth," ond y Hadron gwaethaf yw lladrata iawnderau naturiol dyn, y cysegr-ysbeiliad halogedicaf yw treisio rhyddid cydwybod, a'r anffyddiaeth hacraf, hyfaf, yw torri cyfraith Crist yn Ei enw Dywed James Russell Lowell i Shakespeare ymddangos pan oedd defnyddiau'r iaith Saesneg yn barod iddo, ac yn disgwyl amdano. Y mae eisieu proffwyd yng Nghymru heddyw ac y mae cyflawnder o ddefnyddiau yn ein cenedl ar ei gyfer yntau. Ped ymddanghosai, odid fawr nad un peth a wnai fyddai casglu'r pentyrrau deisebau diweddar ynghyd, a gwneuthur a hwynt, megis y gwnaeth y clerigwr dewr o Newmarket a chopi o Fesur y Dadgysylltiad,—gosod tan ei fam ynddynt, a gwaeddi wrth weld y goelcerth, Gwae chwi
Advertising
Esboniad Cyflawn ARlaYR HOLL FEIBL. am bris Esboniad ar y Test. Newydd yn unig. Y Dehonglydd Beirniadol ar yr Hen Destament a'r Newydd, gan y Prch. John Jones (Idrisyn) mewn pedair cyfrol, fel newydd, wedi ei rwymo mewn llian cryl 18s. Eto (hanner rhwym) 25s. Hugh Evans a'i Feib., Swrddfa'r Bntihon
Trem I-Y Trydydd Tro. I
Trem I-Y Trydydd Tro. I ail ddarlleniad Mesur Dadgysylltiad I a Dadwaddoliad Eglwys Loegr yng Nghymru f ei basio'r dydd o'r blaen, ac anodd i'r un I Ymneilltuwr beidio dal ei Ddrych ar beth felly. Un o'n hadnodau llafar gwlad yw I Y trydydd tro bydd y coel. Ond nid yw'r tro wedi ei orffen. Rhaid i'r Mesur, mae'n debyg, fod yn agored i awgrymiadau gan ei wrthwynebwyr, neu ei gefnogwyr llymrig. Hyd yn hyn, mae'r Wrthblaid wedi cael llawer ond heb ildio dim. Bu'r arweinwyr Eglwysig yn gwrthwynebu'r Mesur wreiddyn a changen, a rhai ohonynt yn datgan eu hanghred o'r posibilrwydd i Ragluniaeth adael i Senedd ei ddwyn trwodd yn llwyddiannus. pell ydym o dderbyn athrawiaeth Napoleon-" fod Rhagluniaeth o blaid y byddinoedd cryfaf." Yr un pryd, mae mwyafrif fel sydd gan y Llywodraeth bresennol yn alluog tan amodau eylrredin, i ddwyn llawer o bethau trwodd, pa un bynnag ai er da ai er drwg. Credwn ni mai un o'r pethau goreu all ddigwydd fydd i'r Mesur hwn fynd yn Ddeddf. Mae cyfiawnder a chenedl y Cymry'n ei hawlio. Mae Eglwys Sefydledig yn ormes ar Ymneilltuwyr, ac yn honiad o uchafiaeth offeiriadol nad oes iddo sail yn yr Efengyl. Ond mae y ffordd y mae'r Mesur yn ei cherdded ar hyn o bryd y fwyaf peryglus eto. Sibrydir nad yw rhai o'r aelodau Cymreig Rhyddfrydol yn sicr yn eu earzi, a rhai aelodau Seisnig yn tueddu i roi .vn tueddu i roi ffordd ar bwyntiau pwysig. Anodd meddwl am yr un Rhyddfrydwr dros Gymru'n sigledig gyda golwg ar fynnu'r Mesur trwodd fel y mae yn awr. Yn ddiamheuol, yr hyn y gellir disgwyl i'r Weinyddiaeth ei wneuthur yn gyntaf oil yw ymgynghori a'r cynrychiolwyr Cymreig, ac os bydd y rhai hynny'n gadarn, bydd yn help i gadarnhau'r LlyWodraetll hefyd. Os bradychir ni yn awr, yn ymyl buddugoliaeth, gan rai o aelodau Rhyddfrydol Cymru, fe gyfrifir y èyfryw fel rhai an- ffyddlon i'r ymddiriedaeth roddwyd iddynt. Mae'r rhestr o bethau a dynnwyd allan gan gyfeillion yr Eglwys, i'w cyrinyg fel gwell- iantau i'r Mesur yn chwerthinllyd, a phe'u derbynnid, ni fyddai'n aros ohono ond ei rith.
Trem III-Llwdn Pendro
Trem III-Llwdn Pendro Rhyw sbrigyn o lenor Seisnig yw hwnnw, ac a ddywedodd na lefarai efe mwy ag Ymneilltuwr os pesid Mesur y Dadgysylltiad Clywsom am blant, a gwelsom amryw, a am- lygent eu sorr wrth ei gilydd drwy beidio a siarad. Clywsom hefyd lawer bygythiad ar Gymru oherwydd mawrion ddrygau Mr. Lloyd George yn y Senedd. Bu un Sais yn bygwth boicotio'r Eryri a glannau'r mor. Ni wyddom pie mae'r bygythiwr erbyn hyn, ond mae'r Wyddfa'n yr un fan, a'r mynyddoedd o'i hamgylch ac mae'r m6r yn parhau i dreio a llenwi ar y glannau. Ond dyma ddyn yn bygwth cau ei geg pan welo Ymneilltuwr- wedi'r Dadgysylltiad. C6f gennym inni fynd i dref yng Ngogledd Cymru, flynyddoedd yn ol, pryd y cyfarfuWyd ni yn yr orsaf gan gyfaill, yr hwn a ddywedodd, Yr ydych i letya yn Os ydych yn arfer ysmygu, bydd yn ddrwg arnoch, oblegid mae lir. yn wrth-ysmygwr i'r eithaf." Wedi deall fy ngwendid, ebai'r cyfaill, Gwell i chwi ddod i'n ty ni am gypanaid o de, a chewch wneud y goreu o'r amser cyn mynd i'ch llety." Wel, os oes ar rhyw Ymneilltuwr eisieu'r fraint o ymgom a'r gwr mawr hwn, gofaled wneud y goreu o'r amser rhwng hyn a'r Dadgysylltiad, onit6 bydd ar ben arno am byth. Pa ;fath glebrwr yw, ni wyddom ni. Ond os yn yr ysbryd a'r dymer a arwydda'i fygythiad y llefarai, pair inni gofio am greadur arall fu'n blino Alafon rywbryd, fel y deisyfodd arno :— 0 arch-nadwr, erch ei nodau,—di serch, Dos hwnt o'n gororau A dilyn dy bedolau- Gyda cheg wedi ei chau. A goreu po gyflymaf y carlam.
Meddyliau'r Galon.
Meddyliau'r Galon. Y SEITHFED SWP. Gloywi'n Gwasg. 1 DYMA. i chwi dri golygydd-a thri gweinidog gyda hynny—fyddai'n cydefrydu yn Ath- rofa'r Bedyddwyr ym Mangor :—y Parch. D. O. Griffiths, Gol. y Baptist Reeord y Parch. J. Tywi Jones, Gol. Tarian y Gweitli- iwr a'r Parch. J. Jenkins (Gwili), Gol. newydd-benodedig Y Seren. Wn i ddim am y Record; ond byddaf yn gweld y Darian a'r Seren bob wythnos, ac y maent wedi gloywi a graenuso'n arw rhagor fyddent, o ran iaith a threfn a bias eu cynnwys. Da iawn hynny, canys 'does dim yn fwy o farwolaeth i'r iaith nagedlych o bapuryn di-raen a di-olwg; llipa'i afael rhy deneu a simsan i sefyll amoi hun yn pwyso ar ysgwydd rhyw etholedig cyf- oethog, ac arogl gwynt drygsawr hwnnw ar bopeth y chwytho arno. Twt lol Gwasg annibynnol neu ddim! ac nid rhyw wichen wao a'i thafod wedi'i glymu wrth bost llidiart rhyw bias neu ynteu wrth ddrws swyddfa rhyw gwmni neu gilydd. Ac heblaw hynny, nid rhyw stondin mo'r wasg i fod, i gymell nwyddau a phills a phob rhyw drwyth meddygol nage, wii, 'cawsaihi chwarae teg a gresyn y rhaidji ne b ohonom, onite, bapurau? ymostwng i gymryd ein baeddu wrth gyhoeddi rhinweddau anwir pob rhyw grach-gyffur, er mwyn cael ein tipyn tamaid sych a di-fenyn am Wneud. Pe buasai gen i'r filfed ran o arian ambell Gymro goludog sy'n clowca'i genedlgarwch mor dafotrydd oddiar y Maen Llog ac o gadair yr Eisteddfod, er mwyn cael clap y wlad, fe waddolwn i bapur Cymraeg a rhyw ddeng mil o bunnau (a beth fuasai hynny iddo fo dim yn agos cymaint ag a fuasai chwrligwgan neu ddarn tair i mi)- gwnawn, fe'i gwaddolwn felly nes y byddai'n ddigon cefnog i fyw heb hysbysiad yn y byd, ac yn ddigon annibynnol i glecio'i fawd ar bob copa ohonynt; ac mor dda gennyf fuasai cael sgubo honiadau hysbysiadol yn lan i ffwrdd, a llenwi eu lie a llenyddiaeth iach a roddai for a rhuddyn yn asgwrn cefn y genedl, ac a wisgai ei gruddiau a gwrid coch, Cymreig, nes y byddai'i dwyfoch yn sgleinio fel afal Awst o felyster." "$- -0- -+ I Merthyron y Gadair. Gwelaf fy mod yn dechreu cael hwyl, ae mewn perygl o fynd i'r m6r ac ymhell oddi wrth y lan ar bwnc mor gydnaws. Hen dro na chawswn fynd, onite ? canys y mae yna lu o bethau'n codi ynghell yr atgofion yma wrth feddwl am y Wasg Gymreig a'i helbulon a'i hanfanteision ond wiw eu hadrodd heddyw; pan ddaw'r adeg, fe'u gollyngaf allan, nes synnu'r wlad a chodi cywilydd ar lawer a gafodd ormod clod ganddi. A chyn mynd hwnt i'r Wal Ddiadlam, fe hoffwn hefyd gael dweyd hynny a wn am rai o olygyddion Cymru. Codi pobl ereill-llawer llai na hwy eu hunain, rai ohonynt—ie, codi rhyw bitw o rai felly y buont hwy eu ar hyd eu hoes, druain, a bod yn guddiedig eu hunain. Ond dylasent hwythau gael eu tro ers plwc bellach ac fe hoffaswn gael gwneud y gymwynas hon a hwy fy hun, eithr y mae'm gwybodaeth yn rhy gyfyng a'm gallu'n rhy fach onibae am hynny, buaswn wrth fy modd ac yn llyfu 'mysedd wrth gael sgrifennu a thalu'm teyrn- ged i olygyddion yr Hen Wlad. Galeri'r Golygyddion, neu Ferthyron y Gadair Wichlyd, —dyna fuasai teitl fy nghyfrol, ac a grynhown fy hun ar fy ngoreu glas i ddod a Ieuan Gwynedd a Hiraethog gerbron, a bagad o rai ereill ddaeth ar eu holau, er mwyn i'r wlad gael gwybod y gwir, a gweld pwy aberthodd ac a gollodd eu gwaed bob dafn drosti. 'Doedd gen i mo'r bwriad lleiaf fynd ffordd hon pan gychwynnais ar fy mharagraff, nac oedd wir meddwl am y tri golygydd Bed- yddiol ddeffrodd fy nghalon ac a ddadmerodd fy meddwl nes bod catrawd o'r hen olygyddion talion, sy bellach yn eu bedd bob un, yn codi a throedio heibio ffenestr y Cof rhyfedd yma, a minnau'n crwcwd a thynnu fhet wrth iddynt basio, o baroh a chwilydd bod yn ddilynydd mor sal ac annheilwng ohonynt. Eithr beth all neb ond ei oreu ? Ac er fod ein hanawsterau ni beddyw, yn fwy a Uuosocach na'u hanawsterau hwy, nid ydym am ildio na thaflu'r drol, na rhoi ein pennau i lawr o dan y Juggernaut Seisnig sy'n sathru'n gwlad ac yn bygwth bywyd ein cenedl na, yn hytrach na hynny, gadewch inni, geiliogod rhedyn y Wasg Gymreig, roi ein pennau a'n calonnau ynghyd i gydloywi a chydgryfhau'n Gwasg darpar rhywbeth i'r hen genedl na chaiff hi byth mohono yn ei Gwasg Saesneg, canys er mai ynddynt hwy y mae toes y cyfalaf a'r cyfoeth, peidiwn a thorri'n. calonnau, gennym ni y mae'r eples wedi'r cwbl. A beth dal eu toes hwy heb ein heples ni ? H'm Dywedwch chwithau'ch pwt ar y peth, ddyn y Darian a dyn y Seren, gael i'r wlad i gyd glywed ac os medraf fagu digon o wyneb i fynd a 'mlwch o amgylch at geinioca digon i'm Cadw-Mi-Gei i dalu'm clud cyn belled, fe ddeuaf atoch i Gynhadledd y Cymry Cymraeg ym Mhont y Pridd yr 16eg o'r mis nesaf yma, i'ch helpu i fegina'r iaith yn mam na ddifiydd byth. Hei lwc + -9- I Dyn Call-o'r diwedd. I Daeth coflaid o bethau M6n yma yn y Fasgedaid o'r Wlad at y rhifyn diweddaf a chan fod y newydd yn o faith, dyma ddwedai'r anfonydd mewn nodyn preifat ac o'r naill du :—  Tybiwn y buasai'r amgaeedig yn gymer- t" ( adwy i gychwyn ac os na fydd, fe dde?- byniwn ni'r BRYTHON yr un fath yn union. 'Does dim a ddeil fwy na'i lond, a chwi wyr oreu a pheth i'w lenwi." Diolch byth am gael o hyd i un dyn call o'r diwedd a gwyn fyd na fai ychwaneg o'i ach. Fel arall y mae hi, mor fynych, canys dyma'r gwir:—digon o ddeunydd yn cyrraedd yma bob wythnosi'wlenwi ddwywaith bron nmnau'n torchi'n llewys ac wrthi'n chwys diferol o fore gwyn tan nos yn ei doeio ai gwteuo. er mwyn cael pawb i fewn os gallwn, a'r gwaith hwnnw'n debycach i bacio cawrfil mown cist na dim arall ac a'n helpo wedi cwpla'n c'ledwaith a sychu'n chwys cyn cael cwpanaid o de a brechtan geirch driagl ar ol darfod, y cwbl o ddiolch a gawn am ein trafferth yw nodyn ffrom oddiwrth Mr. Tendar-ei-Groen na ddaw dim sillaf byth mwy oddiwrtho ef, oherwydd inni adael ei fabi o nodyn cyntaf anedig allan. Eithr na, nid wedi ei adael allan y-r ocddym ni o gwbl, eithr wedi golchi ei garpiau iaith, a rhoi J crys gwyn o Gymraeg glan amdano, nes oedd ei dadi druan yn methu adnabod ei gyw. Y creadur rhyfedd pam na fuasai'n craffu tipyn mwy cyn brochi a brygawtha mor uchel ? Un arall-Mr. Chwydd yn ei Ben-yn pwdu a mynd i'w gragen (a dyna un o'r cregyn lleiaf a welais erioed, ac a synnwn sut y medrai neb ymnyddu iddi a byw) oherwydd inni sisyrnu'i lith golofn a hanner—sef am orchest an farwol ei eneth yn cipio'r chweugain oddiar dair mil o ymgeiswyr yn Eisteddfod Bryn y Bwbach ar yr her-unawd,—ac yn llwyddo i'w chael yn hylaw a didrafferth i chwarter colofn, wedi gollwng y gwynt o'i hyswigod ansoddeiriol. Ac felly ymlaen hawdd y gallaswn raffu llond BRYTHON o enghreifitiau cyfielyb, yn dangos gwynt a gwendid pob dosbarth ohon- om, a ninnau'r newyddiadurwyr mor dendar a chignoeth a neb, rhaid addef. Dyma ergyd y ewbl, ddarllenwyr a gohebwyr annwyl :— Y mae'r BltVTHoiw-ydy-w, ar ei wir !-yn barod i gyhoeddi pob ffaith a newydd yn ol ei gwerth a'i diddordeb, ond rhaid iddo gael ei flordd ei hun o'u cyfleu a phenderfynu eu hyd. Colofnau plwm a haearn ydyw ei golofnau, nid ymestynant yr un fcdfedd yn hwy, er maint a dynnweh amynt ond os gall rhyw Gymro ddyfeisio colofnau india-rubber, a roddant neu a grychant fel bo'r galw, wel, bendith ar ei ben Fe ddiolchai'r Gol. iddo o eigion ei galon, am gael rhywbeth i gadw'i wallt rhag britho a llwyr ddiflannu bob blewyn. Y mae cynifer-oes, wir !-o bobl yn. ymofyr) am le yn ei golofnau nes fod raid eu closio'n dynn at ei gilydd er mwyn cael lie i bawb, a 'does neb, waeth pwy fyddont, i gael ymdreiglo ac estyn ei bedion ar hyd y seti deunaw tra bo'r lleill llymach eu llogellyn sathru traed ei gilydd tua'r lie chwech. 'Does dim seddi cadw na seddi cefn i fod,—yr un bris i bawb a'r unig amod cael lie cysurus a chlywadwy ydyw dod yn ddigon cynnar, erbyn dydd Llun a dydd Mawrth, ac nid brathu i fewn yn chwys diferol tua bore dydd Mercher. Rhy hwyr, gyfaill, tan yr wythnos wedyn, oddigerth ei fod o'n bwt byr iawn. Y mae croeso calon i bob Basgedaid ddaw yma o'r Wlad a'r ddinas, ond iddynt fod wedi eu pacio'n dwt, a thlws eu golwg yr ydym yn ddiolchgar o'n calon i'r lluaws caredigion sy'n anfon felly oddidraw ac yma, Dde a Gogledd daliwch ati ond peidiwch byth a monni os bo raid i Wi] yr Ail Was yma docio a chwteuo rhyw gymaint ar eich nodion. Cofiwch am y llu sydd eisieu lie heblaw y chwi. Diolch am gael un dyn, a hwnnw o Sir F6n, yn ddigon call i ddeall y sefyllfa i'r dim, ac i foddloni iddi mor foesgar. Y mae o'n batrwm amheuthun i'r lleill, ac fe'i cofiwn am byth o hyn ymlaen fel awdsr yr ymadrodd call a grasusol a ganlyn Ac os na fydd He, fe dderbyniwn ni'r BRYTHON yr un fath yn union. 'Does dim a ddeil fwy na'i lond, a chwi wyr oreu 4 pheth i'w lenwi. -+- CodiV Caead. I A mi'n rhyw fud-chwarae echtoe hyd ffyn y grat a 'mhrocer bach pig cam, dyma'r sospon oedd ar y tan yn berwi trosodd a'i ddiffodd bob tewyn, nes y bu raid ail gynnu cyn cael ail ferwi. Diffyg codi'r caead mewn pryd a phob yn dipyn, dyna fu achos yr helynt a'r llanast' i gyd, a cholli cymaint o'r cawl heblaw hynny. Ac erbyn meddwl, dyna'r peth yn t'w'nnu arnaf me i :J'lly'n union y bu hi gyda Beirniadaeth Feiblaidd yng Nghymru cyn- dynnu i beidio a thynnu'r caead oddiar gawl y Gwir mewn pryd ac yn ddigon graddol, nes iddo ferwi trosodd a diffodd tan ffydd a phroffes allan o galon llaweroedd o ieuenctyd gloewa'r genedl, a'u gyrru allan o Lan a Chapel i grwydro wrthynt eu hunain hyd ddiffeithwch di-lwybr yr Agnosticiaeth oer- lwm. Ffol a Phabaidd i'r eithaf ydyw I ymladd a gwirionedd profedig canys da y gwyddis mai y fo a drecha yn y diwedd, er maintawgwnacagudd -ystumiwn arno. Ei gydnabod yw'r unig ffordd i gael heddwoh gan y gwir ac oni wnewch, fe'ch i-nttl yn chwilfriw yn y man, prun bynnag ai crefyddwr unigol ai cyfundeb a fyddoch. Codwch chwi eich argae frau a hen ffasiwn mor uchel ag y mynnoch, y cwbl a wna hynny fydd peri i'r dyfroedd gronni mor gryf nes eich ysgubo chwia'ch clawdd cyffesiol oi ffordd morrwydd S> i ryferthwy ag y chwal y corwynt edafedd gwawn. Y peth gythruddai fwyaf ar fy natur eirias i, bob amser, fyddai clywed ambell bitw o gennad, annheilwng i ddatod carrai esgid y beinaiad Beiblaidd o ran na dysg na duwioldeb, yn torsythu a gollwng saeth ei enllib tuag atynt, ac yn cael gwlitho'i falchter dwfn wrth. glywed twrr o boblach anwybodus yn clwcian eu Hamen a'u Pydrwch iddyn' nhw, John Jones annwvl a chael ei gyfrilp ymladdwr tan gamp dros y Gwir. Druan o'i frol gwag beth pe buasai'r hen Ddriver neu Cheyno neu rywun arall o saint gloywon y Goleu Newydd yn dod i fewn ac yn ei glywed, buasai'r saethwr farw o fraw yn y fan, ac yn delwi o'r golwg gan g wilydd. Ond yn lie cadw'i phen yn y tywod fel yr estrys, y mae Cymru hithau'n dod yn gaHach bob yn dipyn, ac yn dechreu agor ei dorau i'r Wybodaeth Newydd, er mor gyimil ac ofnus y gwna. A phaham y rhaid ofni, canys y Wybodaeth (sef ymchwil dyn) sydd yn new- ydd, nid y Gwirionedd 'eill hwnnw byth fod yn newydd, gan na fu o erioed yn hen. Eithr at hyn 'rwy'n dod Darllenais Lestri'r Trysor y dydd o'r blaen, ac a lawenychais a llawenydd mawr, yn un peth, am ei bod hi'n gyfrol gafodd ei golygu mor ragorol. Dyna'r orgraff yn iawix ac yn wastad a gwybodaeth y dydd a dyma Gymraeg pob ysgrif wedi ei ystwytho a'i wneud yn hyfryd i glust y manylaf o'n llenorion. Cymraeg naturiol, ym He r Gymraeg gwneud yma sy mor atgas clywed arogl y cyfieithu mor drwm arni. Y mae 61 y ddau olygydd—y Pareh. D. Tecwyn Evans, B.A., a'r Parch. Tegla Davies-ar yr holl ysgrifau, cystal ag ar ea hysgrifau hwy'u hunain. A dyna beth ydyw golygu iawn, yn lie gollwng y cwbl i mewn yn amrwd ac fel yr ydoedd. Ffrwyth hyn ydyw fod yr iaith a'r orgraff yn gyson, fel ddilk dm, diwnlad, o'r dechreu i'r diwedd. A chofiwck chwithau'r bobl yma sy'n sgrifennu a chy- hoeddi llyfrau, ei bod hi'n ormod ar y dydd i chwi esgeuluso hyn yng Nghymru heddyw. Dyma syniad y Parch. J. Puleston Jones, M.A., am Lestn'r Trysor, a phwy wyr yn well am ei phwnc ?- Dyma lyfr y dylai pob pregethwr ae athro Ysgol Sul yng Nghymru ei geisio rhag blaen,y rhai a gydymdeimlo a beirniadaeth yn bendifaddeu—am fod yma iddynt hwy Rasusfwyd o'r fath a garant a choidwaid yr athrawiaeth hefyd, fel y caffont gyfle i ymladd lawlaw a'r gelyn y bygythiasant gymaint arD. oddidravr. Ychydig flynyddoedd yn ol, t&n newydd ei gynneu oedd beirniadaeik u Ysgrythyrol ond yn y gyfrol odidog hoa "tân gloyw wedi bwrw'i fwg ydyw. tl X rtia'3'r awduron yn caniatau'r un rhydd- (( id i ni wahaniaethu oddiwrthynt ag a hawliant iddynt eu hunain. Anodd ti dywedyd pa un i'w ganmol fwyaf, ai swnt- 1( y wybodaeth bur a wasgwyd i'r dalenna* hyri, ai r feistrolaeth dda ar eu gwaith, a bair i'r awduron gario llwyth mor fawr t, mor ryfeddol o rwydd." A dyma'r ail beth a'm llawenhaodd ya y gyfirol fod ei dysg mor helaeth, ond xior" weddaidd a pharchus mor wrol hefyd i gyd- nabod pob goleuni, ac mor barod i ddod aIls. i'r maes agored yn lls snechian tu ol i wryeh Traddodiad a gwell na'r cwbl,. yn ddigon clir ei gwelediad a chre'i ffydd i gredu'n ddisyfl yng ngwerth a grym y Gyia Dwyfol, na sych byth, er maint a; gracio Beir- iadaeth ar y Llestri a'i deil, canys o For Gras,. sydd heb waelod byth na thrai," y rhed a phwy welodd Hwnnw'n hesb erioed Dwy ysgrif ragorol yw un y Parch. Thos. Hughes ar ddechreu'r gyfrol, a llall y Parch. T. Isfryn Hughes ar ei diwedd ac onibae meithter, caraswn gcdi amrvw bwyntiaw i ddangos beth.sy'n blino a beth sy'n bcddhau lleygwyr cyffredin fel myfi a'm bath wrth ei darlien a dilyn ei chasgliadau. Eithaf prth i'r meddwl lien wybod y meddwl lleyg ambell dro er mwyn cymodi'r ddau hyd y gellir y mae gan y naill a'r llall gryn dipyn i'w roi i'w gilydd. Ond dyma fi'n mynd dros erchwyn fy ngofod, a rhaid tewi. Yr hyn sy'n eisieu- bellach, wedi cael Llestri'r Trysor, Until the Day Dawn, a phob cyfrol gyffelyb ddarllenir yng Nghymru'r dyddiau hyn, ydyw dwyn addysg yr aelwyd a'r Ysgol Sul yn wastsd &'u casgnadau a'u gonestrwydd hwy, ao nid cyndynnu yn yr un rhych fel no bae dim wedi digwydd ers can mlynedd ym myd gwy- bodaeth dyn a byd datguddiad Duw. Caeer y gagendor sy rhwng ein hargyhoeddiadau mewnol a n llawlyfrau allanol peidier ar ofni r Gwir na cheisio'i fygu ac yn enw popeth, coder y caead rhag diffodd y tfia. L, tygad N Wawr. 0- J.H.J. o-
Ambell Ffaith ac Ambell Ffansi.
Ambell Ffaith ac Ambell Ffansi. BLINDER MA WREDD.-Dyn a helpo'r Canghellor, druan Pawb yn gweiddi am ei gael, na munud o hamdden iddo gae] Monydd i chwarae a'i brocer bach pig cam ar ei aelwyd ei hun, canys yn awr dyma dwrr o Gymry'r Gorllewin ar y ffordd o'r Unol Daleithiaa i'w weld yn bersonol, ac i bwyso arnoam gadwi addewid i ddod dros v mor i gael ei weld a'i glywad ganddynt hwy. Gwell o'i- hanner yw cael bod yn bitw o feidrolyn bach eitadl fel. y fi 'does neb yn aflonyddu arnaf ae 0 y mae hi'n braf cael bod o olwg y byd HAWDD SIARAD.-Y mae'r gwybod- usion yma'n teuru fod mwy o bobl yn gwneud amdarynt eu hunain yr adeg hon yn anad yr un adeg arall ar y flwyddyn a hynny oblegid y newid sydd ar y tywydd o un tymor i'r llall. Peth rhyfedd hefyd canys blaendarddu a blaguro tan ddod allan o'r ddaear y aaae llysiau a ffrwythau a phlant Natur ond dyit yn unig sy'n crino a mynd i fewn yn ol i fynwes ei fam. Y mae llawer gormod o sgrifennu rhwydd a rhugl gan bobl iach eu nerves a thew eu bloneg ar yr hunanleiddiaitf yma. Gwn am un bardd a edliwodd e. llwfrdra i'r hunanleiddiaid yn y cwpled oas a ganlyn When all the blandishments of life are gone The coward sneaks to death, the brave lives on." Digon hawdd iddo fo, a'i gorff yn iach, a'i fron yn ddifriw, ganu fel yna beth pe buasai raid iddo gludo pwysau bron. ambell un arall nad wyr mo r filfed o'i phwys, fe swiliai ac a swatiai, ac a gochaigan gywilydd am fod mor arwynebol. Peidiwch chwi a barnu neb nes y byddwch dan yr un baioh ag ei. Duw n unig %r bwysau hwnnw, a fydd o byth yn dannod na brolio, a hynny am ei fod yn gwybod y cwbl, a chwithau'n gwybod dim.)  r MEGIN W YNT.-NI wn i ddim am yr un fegin mor wyntog a Hychlyd ei hanadl a'r siaradwyr Tonaidd yma sy'n torsythu tros Ulster. Fe hoffwn i gael plannu fy myniawyd yn swigen eu sel, gael i chwi glywed y glee a roddai eii-gwynt, wrth fynd allan o le mor gul. A dyma Mr. Williams, gwrthwynebydd Syr Herbert Roberts yn Nwyreinbarth Sir Ddinbych erbyn yr etholiad nesaf, yn dweyd yng Ngholwyn Bay nos Wener ddiweddaf fod 1! yn ddrwg ganddo weld llu o Gymry'r dvddiau i i hyn yn gweiddi'r hen waedd wirion honno, H Cymru 1 r Cymry." Pwy sy,n ei gvr(-iddi ? Ni chlywais i neb erioed yn dweyd y fath beth, cJywed rhyw Dori neu goegyn o Ddic Shon Dafydd beisnig ei sown yn dweyd fod rhvwun i ohonom ni n ei dweyd ddarfum i, bob amser. luhywbeth i lenwi twll mewn araith sal ydyw hyn i gyd, pan fo'r llefarydd eisieu rhywbeth i gael gwynt dan ei hwyliau. Ond rhoswch j dipyn bach, 'mhobol i,-Pwy gynt na phlant Alis i waeddi LIoegr i'r Saeson pan ddar- fu un o Gwmniau'r Ffordd Haearn (y Great ■' ■ n