Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DRINK DWYRYD TEA. The Tea of Old Time flavour.
Advertising
USE KEENOiA SELF-RAISING FLOUR The ideal Floury for every kind of fancy Bread and Pastry Scones, &c., &c.
Advertising
Beaty Bros ltd. THE CELEBRATED TAILORS I THE PREMIER LIVERPOOL FIRM FOR — Good Class Tailoring.. AT REASONABLE PRICES. I I ONLY ADDRESSES: I London Rd. and Church St.. '0 LIVERPOOL. all day Saturday.. I Closed Wednesdays at 1 p m. Open all day Saturdays. A W'Cljl Llygaid yn eichbllno7 Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig ? Dyua arwydd a rhybudd llethdod y llygad, a dylech gael eu hedrych rhag blaen; eu gwaethygu wna'u hesgeuluso. Gallwn ni gyda'n hoffer gwyddonol ddweyd wrthych os oes arnoch angen gwydrau ac os felly, eich cyflenwi a'I rhai a barai fwyaf o les i chwi. Galwch heddyw: Archer & SONS. Eyesight Specialists, 73 LORD STREET, T I Sefvdlwvd 1848. LIVERPOOL* 'Pbone-3925 Banft. W. mifiius & son, TAILORS 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL ALSO AS 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. Real Welsh liomsspuns for Golfing and Fishing, 'Phone—580 Bootle. AMERICAN DENTISTRY. Painless System. I MR. HELY, 13 NORTON STREET, London Road wrner, LIVERPOOL. MR. HELY is prepared to give advice and estimate of cost free of charge. Hours 9 to 7, Saturdays to Z. Phone 1436 Royal. COOK & TOWNSHEND. Special Value in ..BOYS CLOTHING.. READY TO WEAR. Boys' Sports Suits,  In Smart Tweeds N ? Boys' Strong Rugby 19/Q Suits in dark shades B ? J  For College wear. Boys' and Youths' I'l Waterproofs ?B ? ? /t?) All sizes. Byrom St. & Dole St., LIVERPOOL. KING OF THE MEADOW (Brenin y Maes). A Song for Bass Voice. Yn y ddau nodiant. Geiriau Cymraega Saesneg. GAN JOHN HENRY, R.A.M. AIL ARGRAFFIAD. Is. Swyddfa'r "Brvthon," Lerpwl. ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphou and Bottles. 10DA WAT. POTASH WATER. SILTXBR WAYBa. LBMONAD1 WBLY OINGUR ALB. -t IORIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL ROBERTS & EDWARDS ■■ ESTATE' AGENTS, 54 MJrHdale Rd., Liverpool Telephone: 2183 Royal,
Goreu Cymro: y Cymro Oddicartref.
Goreu Cymro: y Cymro Oddicartref. Ashtok-cnder-LyiVe.—Nos Sad,wrr>, Mai 23, cynhaliwyd cyfarfcd dirwestol Merchcd Cymry Ashton-under-Lyne. Liannwyd y gadair gan Miss Evans, llywydd y gymdeithas. Cafwyd anerchiad diddorol iawn ganddi. Yn rhan gynta'r rhaglen, cafwyd can, Mr. Robert O. Thomas adroddiad gan Miss C. R. Jones can, Miss Mary Vaughan, y mae gan f chwaer hon lais cyfoethog iawn, a hyderwn y daw yn fwy i'r amlwg. Adroddiad gan Nancy Davies deuawd gan Mri. Thomas a Hum- phreys. Ar ol mwynliau gwledd o luniaeth oedd ar y byrddau, aed ymlaen at eilran y rhaglen Adroddiad gan Miss Nancy Davies, Y Meddwyn cafodd encor, a rhoddodd hanes Basar 1912 ym Manceinion, a Chymry Ashton yn myned yno i brynnu nwyddau. Canu Ti wyddost beth ddywed fy nghalon, gan Mr. Thomas a'i barti a gorfu iddynt ail ganu. Terfynwyd gyda Hen Wlad fy Nhadau. Fe fydd yn dda gan lawer glywed fod y Parch. H. Ernest Jones, Saughall, wedi derbjm yr alwad i fngeilio Eglwysi Oldham ac Ashton- under-Lyne, a'i fod yn bwriadu dechreu fis Gorffennaf. Pob llwyddiant iddo yn ei faes newydd.—Rhosynydd, Sialybridge.
Advertising
a m sk ? WHITSUNTIDE SHOPPING AT PARIS HOUSE. MILLINERY of Distinct Merit. Attractive Styles. Blouses, Sports Coats, I and Skirts. The very latest. I NECKWEAR, BELTS HOSIERY, GLOVES, etc., for the Holidays. LADIES' 6 CHILDREN'S Underclothing and Corsets. for Summer Wear. CHILDREN'S Dresses, Overalls Pinafores, &c New Goods just received. | Fancy Linens. Special Display of Fancy Goods j Edwand Williams, Milliner and Draper, i95> i97> 199 London Road, V ■ 0 ■. 0
0 LAN Y TftFWYS
0 LAN Y TftFWYS I [GAN Y GWYLIWR j I Westminster, I- Nos Faivrth, 26 v. 1914. I Ymreolaeth yn ddeddf. AETH Mesur Ymreolaeth i'r Iwerddon am v drydedd waith drwy ei drydydd darlleniad yn Nhy'r Cyffredin prynhawn ddoe. Yr oedd y mwyafrif o'i blaid yn saith-deg-saith-yr un nifer mwyafrif ag a gafodd Mesur Dad- gysjlltiad yr wythnos ddiweddaf. Md oes dim yn y ffigyrau yn galw am sylw neilltuol, oddigerth y ffaith fod casinob wyth o'r O'Brienites yn erbyn Mr. John Redmond yn fwy na'u sel tros Hunan-lywodraeth. Ar ol ymladd drwy gydol oes Seneddol hir dros egwyddor y Mesur, gadawodd Mr. William O'Brien i'w deimladau personol yn erbyn rhai o'i fanylion ei gtal ef a'i gaolynwyr (yn. eu plith Mr. Tim Healy) rhag rhoddi eu pleidlais drosto. Felly, aeth Ymreolaeth yn fvr o'r gogoniant cyflawn a berthynai iddo fel Mesur Cenedlaetholwyr yr Iwerddon. Ond y ffaith sylweddol ydyw ei fod drwodd yn ddiogel, er gwaethaf pob gwrthwynebiad. Dau Rydd- frydwr vn unig bleidleisiodd yn ei erbyn --sef Syr Clifford Cory a Mr. Agar-Robartes, aelodau dros gynryehioliaethau Cernywaidd, lie mae sol dros ryw fath ar Brotestaniaeth yn gryfach na'u hymddirieda-etli mewnRhydd- frydiaeth. Yr oedd Mr. Pirie yn absennol heb bario, a rhyw dri ncu bedwar o aelodau yn rhy glaf i ddod i'r ymraniad. Fel y bu, daeth dau arall, Mr. Greenwood a Mr. O'Grady, yno ar eu ffyn baglau. Rhoddodd 30 o'r aelodau Rhyddfrydol Cymreig eu pleidlais dros y Mesur. Ur yn unig oedd ar ol, sef Syr Francis Edwards (yr hwn sydd yn Schinznach ar orchymyn y meddyg), ac yr oedd yntau wedi pario o'i blaid. Chwarae teg i'r aelodau Cymreig, nid peth hawdd oedd i lawer ohon- ynt gyrraedd y Ty o bellafoedd Cymru erbyn awr gynnar yr ymraniad, ond fe lwyddwyd. I Bonar Law a'i Hwliganiaid. Ni fu trafodaeth o gwbl ar y trydydd dar- lleniad, ac y rna,(-n werth mynd dros y stori i ddweyd pam. Prynhawn dydd lau, digwydd- odd scene gywilyddus yn Nhy'r Cyffredin. Fel hyn y digwyddodd. Yn gynnar yn y prynhawn—amser holi-hysbysodd Mr. Asquith y bwriedid dwyn y MesurGwelliannol -neu Ychwanegol os myniiir--i Fesur Ymreolaeth ymlaen yn Nhy'r Arglwyddi ar ol i hwnnw gael ei drydydd darlieniad yn Nhy'r Cyffredin. Am resymau digonol, gwrthodai roddi manylion y MesurGwelliannol hyd nes y dygid ef i mewn yn y Ty Arall. Wedi i'r Weinyddiaeth gario'r cynhygiad ffurfiol fod y Mesur drwy'r Report Stage yn ddi-welliant, cododd Argl. Robert Cecil i gynnyg gohirio'r ddadl fel protest, meddai ef, yn erbyn y dull yr ymddygid at y Ty cynryehioliadol [Do, fe glywsom o'r blaen am y Gwr Drwg yn ceryddu pechod !] Bu cryn dipyn o siarad ar y cyn- hygiad, ac ymrannwyd arno. Collwyd ef drwy fwyafrif o 110, ond nid oedd y Toriaid yn foddlon i'w curfa Cododd Mr. J. II. Camp- bell, un o'r aelodau dros Brifysgol Dublin, i gynnyg fod y Mesur, yn awr ar ei drydydd darlleniad, yn cael ei wrthod. O'r hyn Ileiaf, dyna, mae'n debyg, oedd ei amcan, ond ni ddaeth gair o'i enau Fe'i byddarwyd ac fe'i gwnaethpwyd ef yn fud gan ei blaid ei hun. Bloeddient "Adjourn, 'journ, 'journ I" am hir amser, nes oedd y lie yn diaspedain, ac ni cheisiodd Mr. Campbell na'i arweinydd, Mr. Bonar Law, ganddynt dewi. Cynhyrfodd y Llefarydd ychydig, ac ar 01 sylwi mai ei blaid ei hun a rwystrai'r aelod dros Brifysgol Dublin i siarad, gofynnodd i Arweinydd yr Wrthblaid a wneid y peth hwn gyda'i gydsyniad a'i gymeradwyaeth bersonol ef. "Peidiwch ag ateb," llefai ei ganlynwyr, ond ateb ddarfu Bonar yn y dull swat, sarug, ac amharchus sy mor nodweddiadol ohono, nad oedd yn cymeryd arno'i hun feirniadu'r Llefarydd yn ei ddyledswydd, ond gwyddai ei ddyledswydd ei hun, sef peidio a. chynnyg ateb i'r fath gwestiwn. Y r oedd yr haerllugrwydd hwn wrth fodd calon mwyafrif dilynwyr Mr. Law. o-d t Jai hen Sell dm y r yn drist wrth teddwl pa mor isel yr oedd moesau Seneddol wedi disgyn. Atebodd y Llefarydd yr insult yn weddol dawel dywedodd mai ei fwriad oedd gofyn i Arweinydd yr Wrthblaid ei gynorthwyo i gadw trefn o dan yr amgylch- iadau, nis gallai wneuthur dim ond gohirio'r eisteddiad, ac felly fu. Ychydig wedi chwech ar gloch, fe dorrwyd y Ty i fyny. I Dim Gronyn o Gwrteis- I rwydd. Rhywbeth arall oedd ar droed ddydd Gwener, ond dydd Llun yr oedd pawb yn v llawn cywremrwydd i weled a chlywed beth ddigwyddai. Fe foddlonwyd eu cywrein- rwydd mewn modd digon annisgwyliadwy. Yn lie clywed ymddiheurad Mr. Bonar Law am ei anfoesgarwch, fe glywsant rywbeth tebyg lawn i apology gan Mr. Lowther! Rhywbryd rhwng nos lau a bore dydd LInn, daeth y Llefarydd i'r penderfyniad ei fod o'i Ie pan yn gofyn yr hyn a ofynnodd i Mr. Bonar Law, ac nad oedd yn bwriadu o gwbl gwneud Mr. Law yn gyfrifol am yr arddangSiad » a wnaethpwyd gan ei ddilynwvr. Barnai pob synhwyrol fod Mr. Lowther vn llygad ei Ie pan yr ymyrrodd yn yr helyntddydd lau, ac fod y cwestrwn a ofynnodd i'r arweinydd Toriaidd yn un hollol briodol. Beth sydd i'w olygu ond cydsyniad a chymeradwyaeth pan fo blaenor plaid yn gadael i scene fel yr un a ddisgrifiwyd gennym fyned ymlaen yn ei wydd yn ddigerydd ? Fodd bynnag, fel arall y barnodd Mr. Lowther, a chanddo ef ac nid gan Mr. Bonar Law y cafwyd apology. Pe bae hyd yn oed ychydig o'r boneddwr i'w gael yn, Bonar, fe fuasai yn derbvn yr ymostyngiad mewn ysbryd bonsddigaidd ond er seboni llawer ar Mr. Lowther, ni ddang- hosodd efe yr un gronyn o'r cwrteisrwydd hwnnw a geir pan fo gwir foneddwr yn der- byn ymddiheurad. Pawb. yn ol ei anian. j onite ? I Cael y Gair Olaf. Ond gwaeth hyd yn oed na'r apology i Mr. Bonar Law oedd awgrymiad y Llefarydd i'r I Prif Weinidog i wneud yr hyn y gomeddodd ei wneud ddydd lau, sef datguddio ei gyfrinach ynghylch yr Amending Bill, or mwyn boddloni y rhai hynny a farnent y dylid eu gwybod cyn trafod Mesur Ynu'eolaeth ymheJIach. Gallem dybio fod y peth wedi ei grybwyll i Mr. As- quith cyn i'r Llefarydd ei awgrymu yn y Tý, a'r tebygolrwydd ydyw i'r Prif Weirraiog gydsynio i'r awgrymiad gael ei wneud, er mwyn esmwythau cwrs y Llefarydd. f.Ond nid ymadawodd y Prif Weinidog o'r llwybrau dorrodd iddo'i hun, ddim mwy nag i grynhoi yn y dull eglur a berthyn iddo, y cynhygion a amlineliwyd o'r blaron gyda golwg ar Ulster a Mesur Ymreolaeth, ac i ddweyd mai gan D}"r Cyffredin y bydd y gair olaf ar y Mesur, pa welliannau bynnag a gynhygir ynddo gan yr Arglwyddi. Nid oedd hyn drachefn wrth fodd Mr. Bonar Law, a'r cwbl wnelai ydoedd gadael i'r Mesur fynd drwy'r trydydd darllen- iad gyda'r canlyniad a nodasom ar y dechreu. -0-