Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Campbell 6 Lumby, II THE LIVERPOOL JEWELLERS II II THE NEW MODEL I BISCUIT. BUTTER AND CHEESE STAND. A novel design which occupies ] much less space than the flat dish and more easy to carry: in Best Quality Plate only, and is sold complete as shown. 1 Hours of Business 9 a.m. to 7 p.m. Saturdays 9 a.m. to 1 p M. i Tdophons Off 3075 Royal OLD POST OFFICE PLACECShtruerecth.
Ffetan y Gol. I
Ffetan y Gol. I Clywedog, nid Cawodog- I At;, Olygydd Y BBYTIION. A' t i ANNWYL OLYGYBP.—Drwg gennyt i mi esgeuluso anfon atebiad i gwestiwn ofynnid rai wythnosau'n ol ynglýn ag enw'r afon !if drwy y Mwnglawdd. Pe wedi gwneud dichon na fuasai Un 0 Fro Huw Morus wedi anfon enw mor ddieithr a diawdurdod a Chawodog. Nid ar antuf yr enwyd Cwmni o Facwyaid y Parch. Philip Price yn "Gwmni Glan Clywedog." Clywedog yw ei henw, yn ol yr hanesydd enwog, Mr. A. N. Palmer, Gwrecsam. Dyna ddywed yn ei History of the Country Town- ships of the Old Parish of Wrexham (tud. 36), pan yn son am Ddyffryn y Sychnant Through this in wet weather flows a brook known as Abersychnant, which, lower down, changes its name to The Clywedogy Sylwa hefyd arni ar dudalennau 21 a 22. Mae'r holl argraffiadau geir o Restr Etholwyr Plwyf Bersham hefyd, o'r cychwyn, yn cynnwys brawddeg fel hon taking the East side of the boundary between Minera to the River Clywedog," etc. Yng nghyfrol Mr. Palmer, hefyd, ceir nodyn fel hyn (tud. 128), parthed Afon y Ffrith The commonly called Nant y Ffrith is mentioned in the year 1620, and the brook running along the bottom of it was then called Afon y Ffrith (The Frith River)." Dichon na welodd Vn 0 Fro Huw Morus mo'r gyfrol werthfawr hon, onite anodd gennyf gredu y dywedasai mor bendant, Wei, Cawodog yw ei henw." A phaham yr ysgrifenna dan ffugenw, tybed ? 'Does dim yn galw am hynnj.—Yn ddiffuant, Coed poeth. T. CARRINGTON. Mefl a Brych. I At Olygydd Y BRYTHON. I ANNWYL SYR. Aden yr wylan ebe'r BRYTHON (Chwef. 26), yn lie aden y wylan." Mae aden yr wylan yn gymaint gwall a phe dywedid Amcan yr wyrth. Mae porthi'r wylan yn yr un rhifyn yn iawn, achos porthi y wylan yw hyn, ac nid porthi yr wylan Mae gwy yn gwylan yr ua peth a gwy yn gwyrth a gwys," ac felly, yn ol y rheol, ceir y wylan," "y wyrth," "y wys." Nid yr un peth yw gwy yn gwyl a gwy yn gwylan," ac felly, yn ol y rheol; ceir yr wyl (cymharer yr "wydd "). Y mae dau englyn ar y wyneb-ddalen," ebe un o'ch gohebwyr yn eich rhifyn Mai 21, ac mewn rhifyn tipyn cyn hynny gwelais a wyneb Gwyr eich darllenwyr sy'n hyddysg yn y pethau hyn nad yw gwarchod rhag yr g a roir gan sgrifenwyr sal yn nechreu'r gair wyneb ddim yn ddigon. Gwedi ym- wrthod a honno, rhaid parhau i ymddwyn yn deilwng kaag at y gair, a dywedyd yr wyneb- ddalen," ag wyneb." Ac oni fu Y wylofus Alafon yn eich colofnau ddwywaith neu doir ? Yr wyf ar dir gramadeg yn protestio yn erbyn galw'n i prifardd wrth yr enw hwn. 0 safbwynt I PSYChOlOgv, a chyda'i ganiatad ef, ni byddai gennyf wrthwynebiad mawr i'w alw yI wylofus Alafon." Mae wy yn "wylofus yr un peth ag wy yn wyth," "wythnos," I "wybr," ac i'w seinio fel v gair wy." (Gweler Welsh Grammar J.M.J., td. 44). A beth am beddfaen brydfertii a geir (os cofiaf yn iawri) rywle yn ymj-l y wylofus Alafon ? Nid benywol yw bedd, ac nid benywol" macn," acnid benywol "beddfaen," mi gredaf. Eto, y lenores dalentog o Gaerdydd," ebe. r BRYTHON (Mawrth 5), gan dorri'n gyrbibion man y rheol sy'n dywedyd The initial consonant of a fem. sing. noun (except Ll- and i-h-) undergoes the soft mutation after the article." Chwi a ddeallwch, Syr, mai fy amcan yw nithio'r gau a nythu'r gwir ac o bydd y bribsyn hwn fyn gymeradwy gennych, gyrraf ragor o fanion tebyg i'r Ffetan pan gIywaf ar fy nghalon. I buro'r iaith rhaid with gym- orth pawb, canys y cryf a'r gwan ddaw a'r cynhaeaf i r ardd," medd pobl dda Sir Fon ond rhag myned ohonof mewn profedigaeth, rhaid bod yn wyliadwrus a chadw mewni cof y cyngor, Na fernwcli fel na'ch barner," etc. Yr eiddoch yn bur, y Valley, Mon. -0 R. HUGHES.
Gyda'r Clawdd, I
Gyda'r Clawdd, I Sef Clawdd Offa. I Gan GYMRO 0'1 GORYN I'W GARN. I GERBRON ynadon Gwrecsam, bore dydd Gwener, cyhuddid D. Richards o ladrata pibell opiwm, eiddo Chinead o'r enw Haron Sing, Brook Street, Gwrecsam. Yr oedd y bibell yn werth punt. Ychydig o Saesneg fedrai Sing, ac ni fedrai pobl y llys ddim Chinaeg. Dy- munai r Chinead gymryd ei Iw yn null ei wlad ei hnn, sef tx wy dorri soser Gwyddai'r clerc am ffordd arall ratach, sef trwy ddiffodd cannwyll, ac yr oedd ganddo gannwyll. Ond ebe'r bardd-swyddog Rowlands "Gwell gan Sing d trri soser, ac mae gennyf un iddo nid yw'n werth ond coiniog." Aeth y gwr melyn ar ei liniau i dorri'r Soser; methodd y cynnyg cyntaf, ond ar yr ail gynnyg Ilwydd- odd i w thorri, a chymerodd ei lw Dy- wedaf y gwir, yr holl wir,a dim ond y gwir v mae'r soser wedi ei thorri os na ddywedaf y gwir, tyr fy enaid fel y soser." Llwyddodd i brofi ei bwnc hefyd, a bu gorfod i Richards dalu hanner coron a'r costau, y cwbl vn dri swllt ar hugain a chwech. Danghosodd Sing i'r llys sut oedd defnyddio'r bibell, ac ym- adawodd I" phawb yn teimlo iddynt gael cyfar- fod dymunol. Nid yw trigolion Bwlch gwyn am gvnnal Eisteddfod eleni. Cafwyd Eisteddfodau lie- wyrchus iawn y blynyddoedd diweddaf. Ac edrychid ymlaen gan yr ardaloedd am Eisteddfod Gwyr Ieuainc Bwlch gwyn. Yn ddiweddar, cynhelir Eisteddfod y Rhos ar yr un adeg, a chan nesed y ddeule i'w gilydd, yr oeddynt yn milwrio yn erbyn llwyddiant y naill a'r Hall. Hen dro hefyd. Yr oedd Mr. Edward Belton, cigydd, Bwlch gwyn, yn mynd oddiamgylch ddydd Sadwrn gyda chig, a phan yn WTesIey Street, gwelwyd fod y ceffyl yn wael, a bu farw yn yr harnes. Er y defnyddir y frawddeg Yl1 ami, nid yn fynych y gwelir cyflawniad Jlythrennol ohoni. Rhyw bythefnos oedd ers pan bryn- asai r anifail. Y mae'r Wesleaid wedi penderfynu cael gweinidog ychwanegol at y pedwar gweinidog sydd eisoes yng nghylchdaith Coed poeth. A daw'r Parch. J. Meirion Jones (yn awr ym Meifod) yma. Bydd yn byw yn Nhan y fron. Cydymdeimlir yn fawr a'r Parch. Gwilym Thomas, gweinidog yr Annibynwyr Seisnig, Brymbo, ar farwolaeth ei frawd yn Ne Cymru Ddydd Mercher, claddwyd TVfrs. Williams, pried Mr. Ben Williams, Llyfrwerthydd, Brymbo. Bu'n wael am rai misoedd, ac yr oedd yn ddioddefgar mewn eystudd. Gwas- anaethwyd yn yr angladd gan v Parch. J. D. Jones, Bryn teg Edward Roberts, Brymbo a J. Taiwrn Jones. Gedy briod a dau fab i alaru eu colled ar ei hoi. Yng nghyfarfod pregethu Nant,Coed poeth pregethai'r Parchn. H. T. Jacob, Abergvv-aun, a W. Thomas. Llangollen. Pregethau grymus a thyrfaoedd astud. Yr wythnos hon, ymadawedd .Mr. George Williams, Jones Street, Rhos, am New Zealand. Cymerai ran amlwg yng nghyng- herddau'r cylch, yr oedd yn ganwr bariton gwych, a gweithiai yn yr Ysgol Sul yn Hill Street. Canwyd yn iach iddo gan lu o'i gyfexlhon, a dododd ei ddosbarth yn yr Ysgol bul anrheg yn ei law, i gofio amdanynt. Gwaith da a wnelo eto yn ei wlad newydd. Y mae Ilu o wyr y Rhos yn byw mewn pebyll y dyddiau hyn ar ochr y mynydd. Y maent yn edrych fel pe baent am ychwanegu un wyl arall at y rhai sydd gennym, sef Gwy 1 Y Pebyll. Arwydd dda yw gweJd nad oes oin awyr iach ar yr oes sydd yn codi.
Advertising
W. & J. VENMORE, Estate Agents & VoluerSi 200 SCOS LAND Hi), Liverpool bLmraon No 5163 Royal J. Lloyd Jones, & Co., ESTATE AGENTS, &c. 6 Lord Street, Liverpool TXLSPBOMM OIl BJLMML ALLAN Ûl LINE 18,500 ton Quadruple-Screw Turbine Steamers ALSATIAN and CALGARIAN LARGEST and FASTEST to CANADA. To CANADAe Exoress Weehly Service from Liverpool. The POPULAR PIONEER LINE. CHEAPEST way to Canada; shortest to W America Regular Sailings from Glasgow, Londonderry, London, Plymouth and Harve. ALLAN LTNE,19 James St., Liverpool; 14 Cockspa St., S.W., and 103 Leadenhall St., London, E.G. ..Lost Property.. S. UMBRELLAS. Railway, Tramway, Police Beautiul UmbreHas & Sunshades, 1 1 /4, 1 /9, 2 upwards. Walking Sticks 2d upwards. These are good knock-about umbrellas. Northern Umbrella Depot 28a Bold St. (upstairs), few doors from Church at ANWYD, PESWCH, INFLUENZA.—Mae rhai'n gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnew- idiol fod llawer o ddioddef oddi wrth Beswoh, Bt?Qobitis, Pas, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, DiSyK Anadi Y mae yr hen feddvgiDiaeth D'*ff Z?IF,SIS COUGH MIXTURE" eto ar y blaen, ac yn cael ei gwerthfawrogi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, yn felys, yn oynhesu y frest, ac yn rhyddhau y phlegm. Bydd doso mewn pryd vn ddigon, Is. Ho, a 2s. 9c. (postage, 3c.).—HUGii DAVIES, Chemist. MACHYN- LLETH GWYNEB PRYDFERTH.—" Sarzine Blood Mixture at glirio y oroen, a phnro y gwaad. Y mae yn myned at wraidd y drwg, ymlid ymaith bob math o pimples, coohni, ysfa, sourvy, pen- ddynod. Gwell a hen ddoluriau. coesau drwg, crydgymalau, gan adfer y croen i'w harddwem naturiol. 2s 6c. y botel gan bob Druggist; vn ychwanegol gyda'r post—HUGH DA VIES hemist. MACHYNLLETH. Coupon Rhad-Yswiriaeth (Peidier a'i hollti'n rhydd), BTDD t't GRESHAM Fire and Accident Insurance Society Lta St-[Mildred's House, Poultry. LONDON, E.C. daluLlOO foan pant) i gynryohiolydd oyfreithio a phereonol y sawl a fo'n ddiles-ddaliwr y coupon hwn, os y bo iddo fo neu hi gael eu lladd yn hollo ac yn uniongyrchol drwy ddamwain o fewn y Deymas Gyfunol i dren unryw Gwmni Roll ffordi. Tramcar, Omnibus, Cab, neu Gerbyd Trwyddedlf a Llôg yn yr hwn y bo'r daliwr yn oael ei glndo fel teithiwr tocyn a chlud, yn ddarostyngedig bob amser i'r amodau arbennig a ganlyn sydd ystyried fel than a chyfran o'r oytundeb- (a) Fod y marw'n digwydd o fewn deng niwrnod ar hugain wedi'r ddamwafn (b) for rhybudd ohoni n cael ei roi i'r Gymdeithaa e fewn saith niwmod yn eu Prif Swyddfa yn Llundain (c) fod y oyfryw dystiolaeth res. ymol parth achos y farwolaeth yn cael ei flwyno ag a fo'r Gymdeithas yn ei ofyu; (d) fod y daliwr wedi 'sgrifennu ei arwydd- enw arferol, cyn i'r ddamwain ddigwydd, ag ino yn y lie dsrparedig gogyfer a hynny (e) na bo'r Gymdeithas yn gyfrifol i fwy nag m person parth mwy nag un coupon yn y pap or un cyhoeddiad arall; (/) na bc?r y?- wiriaeth hwn ddim yn gaSaeladwy i beraomm tan ddeuddeg na thros ddeg a thrigain mlwydd oed, ac a ddeil yn ddilys am saith niwrnod o 12 o'r glooh y dydd y'i oodir.! ArwydcLnody Dalimr Tti9fodi I Danysgrifwyr. Raid I dderbynwyr cyson y papur hwa ddim arwyddo r Coupon os ca'r Gymdelthaa gwbl alcrwydd a phrawf el fod yn cael ou anfon Iddynt yn ddtfwlch..J ..Cynhygiad Neilltuol.. i Ddarllenwyr Y BRYTHON." NID oes dim mwy hwylus a gwerthfawr na Fountain Pen da o gwneuthuriad y gellir dibynnu arno, a hynny am bris isel y gall pawb ei gyrraedd. Mae perchenogion Y BRYTHON-er mwyn eangu cylchrediad eu newyddiadur-yn cynay FOUNTAIN PEN o'r gwneuthuriod goreu guaranteed fttted with 14 carat Gold Nib, fine, medium or broad), ac yn gyfartal 0 ran e1 werth i rai a gynhygir am brisiau llawer uweh. Dyma'r telerau Am 3/6 (Postal Order). Neu am 3/- a phum Coupon. »» ot 2/6 a deg Coupon. YUoupous i gael eu tori allan o'r BKYTHON. Gwna unrhyw ddyddiad y tro, ond a chymerir mwy na thri o'r un dyddiad. Anfoner y Ooupons a'r Postal Order, ynghyda ea"; a chyffePiiVriad yr anfonydd wedi ei ysgrifennu yn eglur. Cyfeirier yr archebion. 356-358 STANLEY ROAD, LIVERPOOL. Fountain Pen Coupon; Y BRYTHON," Mai 28aln, 1914
Sef Cadair Cymanfa Gyffredinol…
llawer iawn ohonynt yn andwyol i weddeidd- dra a moesgarwch cyffredin. Ac y mae r tai hyn yn britho Cymru grefyddol. Dygir beohgyn a merched i fyny mewn bythynod o dan amodau y bydd Iledneisrwydd tymor tynheraf bywyd yn cael ei serio ynddynt. Un o dariannau naturiol purdeb merch, yn enwedig, yw'r Iledneisrwydd greddfol blan- nodd ei Chrewr ynddi eto, y mae miloedd o dai yn ein gwlad ag y mae bron yn amliosibl i feroh fogir ynddynt beidio a cholli un o amddi- fiynfeydd naturiol pennafei glendid moesol a'i morwyndod. Yr wyf yn gofyn yn ddifrifol, a chyda phob gorehwyledcl, a ydyw eglwysi Cymru wedi gwneud eu rhan i symud y gwaradwydQ hwn ymaith ? Iniyperthyny gwaith o ddisgyblu cydwybod y wlad. Llunio cyfreithiau i bobl a'u cydwybodau wedi eu deffro yw gwaith y gwleidydd. Nid swydd senedd yw deffro cydwybod, swydd Eglwvs Dduw yw hynny. Gwir fod ambell seneddwr yn bregethwr cyfiawnder," a dioloh am y fath rai ond np wawried y dydd ar Gymru y bydd ei diwylliant moesol yn dibynnu ar addysg ei gwleidyddion oblegid profai hynny mai own mudion fydda-i ei dysgawdwyr crefyddol. Yr wyf yn credu o eigion fy nghalon mai byd eisieu ei achub yn gyntaf oil ydyw ein byd ni; angen cyntpf Cymru heddyw ydyw cael ei hachub ac a ato Duw i'n pulpudau ddirywio i fod yn ddim ond llwyfannau i ddysgu moesgarwch a moesoldeb i'r bobl. To, ond na ato Duw, ohwaith, i ni adael y pethau hyn allan o'n dysgeidiaeth. Pulpud Cymru osododd warthnod ar ymyfed a meddwdod a dylai heddyw, mewn ffordd ddoeth ond perffaith glir, osod gwarthnod ar y drygau cymdeithasol sydd yn deifio ein tegwch, ac yn difa ein nerth. Nid wyf yn meddwl y dylem bregethu pethau hyn, megis y mae 4rfor rhai; eu dyrn- odio pan geir eyfie sydd eisieu. Mae yna rhyw weithredoedd min y ffordd i weinidog- aeth yr Efengyl, a rhaid cael yr un ysbryd i "gyflawni y rheiny ag i gyhoeddi'r Efengyl ei hun. Y groes oedd cyrchfan fawr bywyd ein Gwaredwr, "pinacl ei fwriad oedd Pen Calfaria," ond yr oedd yn cyfarfod a thrucin- iaid ar y ffordd o hyd deillion, byddariaid, efryddion, gwahangleifion, a rhai wedi eu meddiannu gan ysbrydion aflan a 'doedd gwella'r rheiny ddim yn anghydweddol ag urddas ei swydd fel Iachawdwr y byd. Nid i wella'r rheiny y daeth i'r byd, ond fe ofalodd fod- ei lwybr drwy'r byd yn myned heibio iddynt hwy, a bod braster cymwynasau i'r adfydus yn diferu ar ei hyd. Yr oedd gwerin gwlad Palestina ar ei dirfawr fantais o'i gael Ef i drigo am ennyd yn eu mysg a dylai gwerin Cymru fod ar ei mantais o gael ei Eglwys Ef yn eu plith hefyd. Cwestiwn tra phwysig i eglwysi Crist yng Nghymru. yn enwedig ei mannau poblog, yw beth fydd eu perthynas hwy a'r ysgogiad mawr cymdeithasol y teimlir ei ymchwydd heddyw yn ein gwlad ? Ymddengys i mi yn oglur ddigon na ddylem fod mewn perthynas ffurfiol nac uniongyrchol ag unrhyw blaid, yn wladol na chymdeithasol. Halen y ddaear" yw eglwys Crist, a dylai ei rhin gyrraedd pob plaid a hydreiddio pob cylch dylai hi fod yn hollol rydd i ddisgyblu a hyfforddi'r gweith- wyr, pan fyddo langen, yn gystal ag i argy- hoeddi a dysgu'r meistriaid. Mae perygl i bob adran o gymdeithas lormesu ar ryw adran arall. Gwyddom yug Nghymru am ormes y bendefigaeth, mae dyddiau'r ormes honno wedi ei rhifo beidiwn ni & mynd i afael gormes arall yn y dyfodol,sef gormes ywerin ? Mae'r werin yn dod i'w hetifeddiaeth o'r diwedd, a diolch am hynny, ond mae modd iddi hithau ormesu hefyd, ac y mae gormes yr un mor atgas ac anghyfiawn pa le bynnag y'i ceir. Mae cymdeithas o bobl, fel person unigol, wrth lwyddo, o dan demtasiwn i fyned yn drahaus. Nid oes dim ond naws yr Efengyl a geidw werin gwlad rhag y perygl hwn. Gwaith mawr Eglwys Crist fydd lefeinio'r wlad ag ysbryd Crist, y mae hwnnw bob amser yn foneddigaidd ac yn hawdd ei drin," yn llawn parchedigaeth a chyfiawnder uniondeb a brawdgarwch. Nid cwestiwn o policy sydd i lywodraethu Eglwys Crist nid pleidio'r gweithwyr er mwyn eu boddio, nid codi ei Ilef o blaid mesurau gwerinol er mwyn denu'r werin. i'n heglwysi: ni byddai hynny ond un o ffurfiau hagr proselytiaeth, a dilynid ef yn anocheladwy gan ddirywiad a llygredig- aeth anfad. Ar yr un pryd, ni ddvlai'r Eglwys fod yn fydol-ddoeth, fel y gwelir ambell ddyn, a gomedd dweyd ei meddwl, na datgan ei barn, ar unrhyw bwnc, rhag digio rhyw blaid neu ddosbarth. Yn hytrach, dylai ofyn am eli llygad i weled lie y mae trais yn trigo ac anghyfiawnder yn ffynru ac wedi gweld y trigfannau trawsder hy 1, ni ddylai betruso ymarfogi yn arfau ei milwriaeth ei hunar, ac ymladd yn eu herbyn nes eu llwyr ddifetha. Dylai Eglwys Dduw yn ein tir gynhyrchu barn gyhoeddus mor gref, fl y bo unrhyw fesur a'i amcan i liniaru poen, i leddfii angen, i ysgafnhau beichiau, i sirioli'r hen a'r methedig, ac i galonogi y gweithiwr gonest, yn cael ffafr gan bob un o'i deiliaid. A phan y gwel fod y rhai sydd yn derbyn budd mesurau o'r fath yn eu camddefnyddio, dylai si haddysg a'i hyftorddiant, ei chymhellion a'i cheryddon, gael eu gweinyddu yn hollol wyneb-agorecl a di-bartiaeth. Y mae yma rai agweddau ar amodau byw ein gweithwyr sydd yn warth nid yn mig i grefydd ond i war- eiddiad. Nid wyf yn petruso dweyd y dylem ddyrchafu ein llef yn groew yn erbyn pob camwri, pob trais, pob ffurf ar wasgu'r gwan mewn cyflog ac annedd. Prin, hwyrach, yr ydym wedi gwneud yr hyn a allem yn y cyfeir- iad hwn. Mae'r America ymhell o flaen Prydain Fawr yn hyn o beth. Ugain mlynedd yn ol, dywedai un o arweinwyr enwocaf Hafur yn yr America y gallai efe gyfrif ar ei fysedd bob gweinidog oedd mown dwfn gydvmdeim. lad a'r mudiad. Erbyn heddyw, y mae'r Eglwysi Protestanaidd bron yn ddieithriad mewn psrthynas agos a'r problemau hyr. Caiff y pwnc un o'r lleoedd amlycaf ar rag- ienni eu cynadleddau blynyddol; a cheir athro wrth ei swydd, yn y rhan fwyaf o'r colegau, yn hyfforddi'r pregethwyr ieuanc yn y pwnc pwysig hwn. Ychydig flynyddau yn ol, cynhaliwyd yr hyn a elwid yn Federal Council of the. Churches of Christ in America yn Philadelphia. Cynrychiolid ynddo 33 o brif gyfundebau Protestanaidd y wlad, y rhaifa rifent eu haelodau wrth y miliynau. Ym ddengys na welwyd cymaint o unfrydedd a brwdfrydedd yn yr un o gyfarfodydd y gynhadledd enwog honno ag a welwyd ynglyn a'r drafodaeth a gaed ar y cwestiwn hwn. Pasiwyd lluaws o benderfyniadau yno sydd yn cynnwys yn ymarferol bopeth yr amcenirei gyrrardd heddyw gan yr un mudiad yn y wlad hon. Ond, os ydym ar ol o'n cymharu ag ambell wlad, nid ydym gymaint ar ol ag y myn rhai ein bod. Crefydd Cymru sydd wedi bod wrth wraidd pob diwygiad gwladol a chymdeithasol a gawsom. Mae ambell un anghyfarwydd a'n hanes heb weled hyn, ond gwyr pob dyn edwyn Gymru mai dyma'r ffaith. A oes un o gymwynaswyr amlwg Cymru yn yr hanner canrif ddiweddaf nad ellir yn rhwydd olrhain ei ysbrydiaeth i grofydd y wlad ? Onid dau Gymro—Cang- hellor y Trysorlys, a Mr. David Da vies, Llandinam, sydd wedi gwneud mwyaf o bawb yn y blyrjyddau hyn i ddwyn clefydau, ac i ysgafnhau beichiau gwerin ein gwlad ? A phwy a wad nad yw teimladau dyngar y ddau foneddwr yma i raddau helaeth iawn yn gynnyrch dylanwadau crefyddol y cylch- oedd y dygwyd hwy i fyny ynddynt ? Nid wyf yn gwneud unrhyw ymddiheurad am grybwyll yn y fan hon enw'r gwr o Landinam? Ni we]- odd Cymru erioed un o'i safle ef, yn cysegru ei gyfoeth, ei amser a'i dalentau ar allor gwas- anaeth ei wlad i'r fath raddau. Yn lie gwario ei gyfoeth mawr ar rysedd a'gwagedd, y mae efe a'i dculu yn dyfal edrych a gwrando o ba gyfeiria.d y daw ocheneidiau y trwm- Iwythog a dyheadau dyfnaf cenedl sydd yn ymddeffro i bosibilrwydd mawr toriad y dydd. Onid ffrwyth sy'n tyfu ar bren crefydd ei dadau yw hyn oil ? Y mae amgylchiadau newyddion pob oes a gwlad yn gyfleusterau newyddion i ryw agweddau arbennig ar Gristionogaeth ddod i'r golwg. Nis gall un oes nac un wlad ar. ddangos y gwahanol agweddau sydd ar y gwirionedd megis y mae yn yr lesu. Pan ddaw y Dwyrain i gofleidio Cristionogaeth, gwelir rhyw agwedd newydd ar Gristionogaeth ei hunan nas gallai'r Gorllewin fyd byth ei ddangos. A'r un modd daw rhyw newydd wyrth ar grefydd Crist i'r golwg drwy fudiad mawr cymdeithasol y blynyddoedd sydd i ddod. Gwelai'r Salmydd Dduw yn yr uchel. derau, datgan ei ogoniant yr oedd y nefoedd, mynegi gwaith ei fysedd yr oedd y ffurfafen," gwelai ef yn gwneuthur y cwmwl yn gerbyd iddo, ac yn rhodio ar adenydd y gwynt." Pe caem ninnau lygaid sant, hwyrach y gwelem gymaint, os nad mwy, o Dduw yn ymchwydd ton gweriniaeth, ac yn naeargryn Sosialaeth. Beth bynnag wnelo'n gerbyd, pan at Ei blant mae'n dod." Nid angylion, cofiwn, yw cerbydau Duw bob amser, ond cynyrfiadau,' mudiadau a chwyldroadau pobloedd a gwled- ydd. Ond beth bynnag fydd y cerbyd, lies" yr Eglwys sydd mewn golwg derbyn hithau y lies i raddau helaeth, yn ol fel y gwel ei Duw yn y cerbyd, beth bynnag fydd ei ddefnydd a'i ffurf. Pan nad yw golwg yr eglwys yn glir, ei thuedd yw cwyno ac ofni, a gweiddi fel JacQb, Yn fy erbyn i y mae hyn oil." Dyna fel y dywedai pan ganfuwyd deddf fawr datblygiad ers llawer dydd. Yn fy erbyn i." Uch- feirniadaeth, drachefn. Yn fy erbyn i." Tybiai mai gelynion iddi oedd pob gwyddon- ydd ac athronydd, a llawer o'i diwinyddion hefyd. Ceir y rhai ofrus yn Seion yn crynnu yn wastad amser yn ol, honnent fod Hegel- iaeth am ei difetha, a Ritschliaeth am ei pharlysu heddyw y mae Pragmatiaeth a Bergsoniaeth ac Euceniaeth a'r ddiwinydd- iaeth newydd yn ymosod, a beth ddaw ohoni ? Na thralloder ein calonnau," fy nghyfeillion :— "These little systems have their day, They have their day and cease to be, They are but broken lights of Thee, And Thou, Oh Lord, art more than they." Mae Cristionogaeth yn cynnwys hynny o wirionedd sydd yn yr oil, a llawer mwy. Rhyw gwmnlau yn gweithio tipyn ar ambell fwnglawdd o fewn ei hetifeddiaeth hi yw'r rhain i gyd. Mae ganddynt- bcirxannau ar- dderchog, ond rhyfedd mor ychydig o aur y maelt wedi cael gafael arno, neu o leiaf mor ychydig ohono sydd yn current coin yn y wlad. Mae mwy o arian bathol at alwad dyn ymhob amgylchiad i'w cael yn yr Hen Lyfr yma nag yn holl gyfundrefnau athronyddol y byd gyda'i gilydd. Yr wyf yn cofio hen weinidog parches ym Mon yr gwneud pedwar pen pregeth unwaith, drwy newid y pwyslais ar bedwar gair ym mrawddeg ei destyn. Dyna yw Calfiniaeth, ac Arminiaeth, delfrydiaeth a chyfriniaeth' pragmatiaeth a sosialaeth, gwahanol bwys- leisiadau ar adnod fawr yr Efengyl. But Thou, Oh Lord, art more than they." Gwyliwn i'n ffydd yng ngallu yr Efengyl i wneud trefn ar y byd ddiffygio. Nid ein ffydd ynddi fel gallu i achub y byd yn unig, ond ein ffydd ynddi fel gallu i'w ddwyn i drefn yn wladol a chymdeithasol. When you can find me 20 square miles on this planet, outside the jurisdiction and the sphere of influence of the religion of Christ, where man's life and woman's honour are safe, it will be time enough to talk to you," meddai James Russell Lowell. Fel Cymro, a Methodist Calfinaidd Cymreig, byddaf yn cael fy hun weithiau yn gofyn cwestiynau rhyfedd iawn. Dros ba hyd y mae yr Hen Gorff yn mynd i fyw ? Ddeil o i'w gyfieithu, tybed ? Faint o'i 61 o fydd U' Gymru ? Faint bery yr iaith Gymraeg ? Y'mhle y siaredir hi olaf ? Mi welais f od-rhyw frawd o ororau Lleyn yn proffwydo mai yno y tynn ei hanadl olaf. Pe dywedwn i fy marn, mi ddywedwn mai ar lethau Mynydd y Garn, yn Llanfairynghornwy, Ynys Mon, y seinir ei hacenion olaf, ac mai i ryw gapel bychan ar lethrau y mynydd hwnnw yr ymgynhulla'r gynulleidfa Gymreig olaf. Yno, mi gredaf, y rhoddir i ganu am y tro diweddaf :— "Ymgrymed pawb i lawr I enw'r addfwyn Oen." Mewn angladd syml yn y fro honno y cenir am y tro olaf Bydd myrdd o ryfeddodau." Gobeithio, modd bynnag, y bydd yr hen iaith farw ag emynau'r cysegr ar ei gwefusau. Ond cwestiynau sentimental yw'r rhai hyn i gyd. Fyddem ni ddim gwell pe caem ateb iddynt. Yr hyn a wn i ydyw Y bydd cadarn sail Duw yn sefyll," ar ol tranc yr hen iaith ac y bydd adeiladu Seion yn mynd ymlaen pan y bydd Llynlleifiad a'i maes drefi yn adfeilion :— Ewch, ewch oddi amgylch Seion sail A'i thy-rau adail rhifwch Ei chadarn fur, a'i phlasau draw I'r oes a ddaw mynegwcli. Can's ein Duw ni byth yw'r Duw hwn Hyd angau eredwn ynddo Hyd angait, hefyd, Hwn a fydd 'N dragywydd i'n tywyso. Gwyn fyd y dinasyddion sydd Yn rhodio'n rhydd ar hyd ddi Y nefol fraint i minnau rho, 0 Dduw, i drigo ynddi.