Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

0 Chwarel a Ghlogwyn. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 Chwarel a Ghlogwyn. I Sef opDdyffrya Nantlle. I "n CAN YSBRYD GLASYNYS. I Eisteddfod lau, y Dyrchafael, Tal y Sarn. CYFYNGWYD hi eleni yn ddefnyddiau un cyfarfod, am 6 ar gloch, yn y Neuadd Gynnull, a llannwyd honno bob cilfach a glan cyn pen yr awr. Anelodd y pwyllgor at ddwy dalent yn unig, sef dawn canu ac arcithio, gan anwybyddu'n Ilwyr wyrllên ac awen. Ni siom- wyd neb trwy'r newid, a mwynhawyd teirawr a mwy o geinion y celfau cain sy'n nodweddu cymaint ar fywyd gwerin Cymru. Yr oedd y delyn yma mewn He amlwg, vn nwylo celf- ydd Telynores Gwyngyll, Môn, a llifai'r miw- sig ohoni nes gyrru ton o hwyl drosom. Ar y llwyfan eisteddai Mr. D. J. Williams, M.Inst.M.M., Caernarfon—efe'n gadeirydd yr Wyl, ac yn rhoi araith a min ami, daniodd bawb a'i clybu. Mr. Norman McLeod, A.R.C.M., Pwllheli, yn mesur y cantorion fawr a bach, a Mr. J. H. Jones (Gol Y BRYTHON), yn chwynnu'r adroddwyr Mr. W. J. Griffith, Dorothea, yrrai'r wyl yn ei blaen Mr. J. Jones-Owen fel cyfeilydd a'r Brodyr Francis yn ganwyr peril nil ion. -Ysgrifennydd yr Eis- teddfod, Mr. O. Llew Owain, biau'r clod am y graen a'r llwydd fu arni, gan iddo weithio heb flino i gyrraedd hynny. Dyma sut y bu, wedi cael cainc ar y delyn gan y delynorjs :—Canu gyda'r delyn, i rai dan 14: Annie Wood Griffith, Pen y groes. Yr ail unawd Rd. Williams, Pen y groes. Adrodd dan 18 Dwed dy farn Annie Wood Griffith. Canu penhillion, dan 18: 1, Morris Peris Jones, Nant Peris. Canu penhillion gan y ddeufrawd Francis, nes siglo'r dorf o gwr i gwr a hwythau'n rholiau braf yn ail-ganu mewn hwyl fawr. Can-ystum, Fy Merlyp (gini Me r l y r, (giiii a thlws arian), Parti Pisga, dan law W. Parry yn trechu tri arall. Prif adroddiad, Ymson Glyn Dwr ( £ 1 Is. Od.) yn cael ei hennill wedi torch galed gan Lisi Jones, Nantlle Pedwarawd offerynol B. H. Jones a'i barti o Gyrn Arian, Nantlle yn cael y wobr. Cainc ar y delyn eto, oedd fel balm i ysbryd dyn. Prif unawd (25/-) R. Radford Jones yn rhagori. Canu penhillion gan v Brodyr Fran- cis eto, nes trydanu'r dorf, a hwythau mewn afiaith yn canu eilwaith. Canu penhillion pto, i rai dros 18 oed, 10/6 a thlws arian Jennie Parry, Pen y groes. Cystadleuaeth gorawl ar y don Soar, dau gini a chwpan arian narcld pedwar parti yn ymgeisio, ac vr nghanol canu gwych yn cael ei hennill yn anrhydeddus gan Barti G. J. Roberts, y bari- ton o Dalysam. BRTTH-NODION. Cafodd y ddau feimiad goflaid o waith, a dangosasant ddeheurwydd a medr i drafod y canghennau a gynrychiolent. Sylwadau gwerth eu cofio gafwyd gan y Profieswr o Bwllholi, a rhoddodd ei fys ar y goreuon yn rhwydd a didrafEerth, ac heblaw'r gwersi ddysgai, cawsom ganddo lawer o eiriau oedd yn goglais y galon nes peri llawer o ddifyrrwch Gwnaeth Gol. Y BRYTHON ei waith yn fedrus a diymhongar, gan droi'r goleu ar ei sylwadau, ac aid arno'i hun. Danghosodd gryfder a gwendid yr adroddwyr, gan roi patrwm i'r adroddwyr sut i gyrraedd Rafon uwch. Amheuthyn fu ei wrando yn tra- ddodi'r feirniadaeth mewn iaith loew, ac yn ei chrynhoi i fesur bach pert, ac nid amgylchu mor a mynydd yn ol arfer rhai. Prawf caled ar fedr areithvddol oedd y prif ddernyn, sef Ymson Glyn Dwr," a chawsom y teip goreu o'n hadroddwyr yn y ddau oedd ar y llwyfan. Gwyr y ddau yn dda sut i drafod eu darn, a sut i drin cynulleidfa. Gwnaeth y ddwy ferch dan ddeunaw eu rhan yn oclidog ar yr ail ddernyn, end nid oedd y detholiad o'r dernyn yn hapus y tro hwn. Darn heb lawer o ddim ynddo, ac yng nghyrr- aedd pob math ar adroddwyr. Cafodd y canu hefo'r delyn fwy o afael ar y dyrfa na dim gafwyd heno. Canai'r d deu- frawd Francis o Faladeulyn yn odidog. Plethai'r ddau gywyddau, englynion, a phen- hillion fel dau beiriant, gan arbenigo pob sill a gair mewn Cymraeg llydan, iach. Yr oedd y gynulleidfa fel toes tan eu dwylo, a hwythau mewn afiaeth Gymreig yn eu tylino fel y mynnent. Canwr pert a deheig yw'r llanc ieuanc o Nant Peris, sef Morus Peris Jones. GaH ganu I a'i enau, ei lygaid a'i wyneb, a hynny mewn llais meddal a melodaidd. Un o'r rhai melys- af hefyd yw Annie 'Wood Griffith, Pen y groes, hithau yn gallu hoelio dust ei gwrandawyr, a hawdd oedd deall a chlywed pob sillaf o'i chan ac fel y sylwodd y beirniad, yr oedd ei llygaid a'i llais yn cyd-fynegi drwy'r gan. Unawd wyr o'r radd flaenaf ddaeth i'r llwyfan bob tro, llais praft a grymus sydd gan R. Williams y saer o Ben y groes, ac asiodd bob adran o'i gan mor ddeheig ag yr asia risiau neu ddresal. Daw yn un o'r rhai perycla toe. Radford Jones o Gaernarfon gafodd y prif unawd hen lwyfanwr ffodus, ac yn ganwr celfydd a chain. Yr oedd yno un arall yn glos ar ei warthaf, ond y fo cafodd hi heno, a hynry am iddo liwio'i gan yn well. Can- ystum go wan oedd yma. Rhagorodd Pisga yn Ilyfn, a phob un o'r ewmni del yr' Uawio chwip fel hen ddreifar gwlad. Yr oedd yr olwg arnynt yn creu gwen a gwres drwy'r dyrfa. Canwyd y don Soar yn felys gan bedwar o gorau, ond trechodd G.J.R. a'i barti unwaith eto, ac i'w ran ef daeth y gwpan hardd. Un ffodus yw ef am barti graenus, ac un anodd ei drechu. Cadwodd W. J.G. yr arweinydd y dyrfa frwd mewn cywair a thymer dda, a thipyn o gamp oedd hynny mown lie mor glos. Mwynhawyd y Delynores gennym bob tro, a chafodd glap a chymeradwyaeth am ei detholion. Diolch i'r Pwyllgor am y wIedd, ac ram helaethrwydd y ddarpariaeth. Melys, moes mwy. Y DDEUFRAWD O DALYSARN.—Sef meib- ion Mr. a Mrs. Dd. Jones, Ty Capel, Talysarn. Trechodd y ddau mewn arholiad ysgrifenedig ynglyn ag ysgolion Sul Manceinion T. D. Jones ar uchaf v rhestr i rai tros 21, a D. Arthur Jones yr un safle dan 21. Dau fach- gen glan eu moes, ac yn dal felly er troi yng nghanol crochanau duon Manceinion. BEIRDD GWERIN Eirio-NL, sef llyfr newydd Cybi.—Cymwynas fawr yw hon o eiddo'r cyfaill Cybi. Ceir ynddi fanylion am feirdd o bob gradd fu a'u trigias yng nghwmwd Eifion. Bydd ei gael yn drysor i'ch llyfrgell. Rhydd sylw i feirdd bach a mawr ein Dyffryn ninnau, hyd heddyw. Y mae yn dda ei rwymiad, ei lythyren yn glir, a'i gynnwys yn werthfawr. Gellir ei gael am swllt, neu 1/6, ym maelfa Mallt Williams ym Mhen y groes. Y mae mynd da arno. CYNGERDD ELUSEN.—Yng Ngharmel yi. cynhelid, nos Sadwrn, yn absenoldeb Dr H. Jones-Roberts, Pen y groes. Llannwyd y gadair gan Mr. Rd. Jones, Ty Fry, ac arwein- iwyd gan Lhw Deulyn. Cymerwyd rhan mewn canu gan Misses H. Hughes-Jones, Pen y groes Jennie B. Williams, Carmel Kate Lloyd-Jones, Cilgwyn Mr. G. J. Rob- erts, Tal y sarn Parti plant Pisga, dan ar- weiniad W. Parry, ynghyda Chdr Carmel, dan fatwn Pencerdd Llifon. Dadleuwyd gan Miss Mary A. Roberts, a W. J. Owen, Cesarea, ac hefyd gan Miss Kate Williams a J. Thomas, Carmel. Adroddwyd gan yr arweinydd a chyfeiliwyd gan Bencerdd Llifon. Cafwyd pedwarawd hefyd o Garmel, i ganu ddwy- waith. Bu mynd a hwyl ar amryw bethau yno, a chafwyd cynhulliad da. Rhoed yr elw ym mhoced Mr. J. J. Jones, Dolifau, gyfarfu a damwain fisoedd yn 01. Gollyngodd y Dr. rodd dailwng a chaed £2 gan R. Hughes, Carmel.

Advertising

Trem I.-Y Gweinidog. I

Trem II.-Gweinidog Pentref…

Trem III.—Gweinidog aI .Chyflog…