Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

GWEDDILL EISTEDDIADAU BOOTLE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWEDDILL EISTEDDIADAU BOOTLE. Y Gymanfa Gyffredinol.—Eisteddfadau Bootl I CAED hanes nos Lun a nos Fawrth yn ein I rfeifyh diweddaf wele'r gweddill:— Dydd Mercher. CYMUNO YNG NGHYNTAF.-Oedfa Gymundeb oedd y peth cyntaf heddyw'r bore. Dechreuwyd drwy ddarllen a gweddio gan y Parch. J. H.Williams, Porthmadog, ac arwein- wyd gyda gweinyddu'r Ordinhad Sanctaidd gan y Parch. Wm. Foulkes, Llangollen. Ac a aid peth i'w roi mewn papur yw'r olwg a welwyd, na'r teimladau a deimlwyd, na'r jneddyliau a feddyliwyd y mae tuhwnt i ni, end fe allant Hwy i Fyny Fry reportio pethau felly, ac a wyddant pwy oedd o ddifrif yn •ofio'r Angau a phwy oedd ddim. Cofiwch fod reporters y Nef yn anffaeledig o fanwl a ehywir, ac y bydd eu hadroddiad ar gael Fore'r Farn. 3ft ul DERBYN DIRPR W YON.-Cyflwynwyd mifer o ddirprwyon oddiwrth enwadau ereill gan y Parch. Lewis Ellis, y Rhyl;la chaed gair ongyfarchiadol i'r Gymanfa gan y Parch. Jas. Mellis, M.A.,Southport, yr hwn a gyfeir- iodd yn dyner a hiraethus at y diweddar Barch. G. Ellis, M.A., cyn-weinidog eglwys Bootle gan y Parchedigion W. McMurdie, M.A., D.D., a J. A. Bain, M.A. (dros Bres- byteriaid y Werddon), ac yn llawenhau fod y Cymry, o'r diwedd, ar gael yr un fendith a kwythau-Dadgysylltiad a (3) gan y Parch. B. Dykes Shaw, D.D., Edinburgh (dros y Cyngor Presbyteraidd)—efe'n taer-ymbil ar- iaynt gofio Presbyteriaid gwlad Bohemia— yr eglwysi y mae mwyaf o erlid arnynt o eglwysi yn y byd. Crefai ar y Gymanfa Gymreig anfon cynrychiolwyr yno y flwyddyn mesaf, er mwyn codi a heulo tipyn ar eu •alonnau, Croesawyd y dirprwyon gan y Llywydd, ac yna enciliasant. Y GENHADAETH DRAMOR.-Dar. Menodd y Parch. R. J. Williams ei adroddiad lei ysgrifennydd y Genhadaeth Dramor. Dyma ddarn o'r penderfyniad a gynhwyaai parth Dr. Fraser.- Parodd y methiant hwn i'r ymgais i ddyfod i gyd-ddealltwriaeth a. Dr. Fraser ofid dirfawr i'r Cyfarwyddwyr, oherwydd eu parch dwfn iddo ar gyfrif ei gymeriad uchel a'i lafur ymroddedig yn Lushai; ac nid oedd ganddynt ddim arall i wneud ond hysbysu nas gallent ei anfon yn ol i'r Maes Cenhadol, yr hyn a olyga fod perthynas Dr. Fraser a'r Genhadaeth yn awr yn terfynu. Yr un pryd, dymuna'r Cyfarwyddwyr wneud yn eglur, os gwel Dr. Fraser ei ffordd i gydflurfio a Rheolau'r Genhadaeth fel yr holl genhadon ereill, y bydd yn. llawenydd ganddynt ei anfon drachefn i faes ei lafux. p A CHAEWYD Y DRWS.-Gadawsid drws agored i Dr. Fraser ym mrawddeg olaf y paragraff uchod; ond wedi aros am gryn amser, daethai llythyr oddiwrtho yn gofyn am ei gyflog am flwyddyn ymlaen Haw. Talwyd hynny iddo, ac felly y caeodd y drws. $ YR YSTADEGAU-(a) India Eglwysi, 397 cynnydd, 29; Cymunwyr, 12,027, eynnydd, 710, Y cwbl o aelodau'r eglwysi, 32,891 cynnydd, 2,928. Ymgeiswyr, 6,185; cynnydd, 544. Aelodau'r Ysgol Sabothol, 24.494; cynnydd, 647; gwran- dawyr, 36,957; cynnydd, 2.348. Ysgol- heigion yr ysgolion dyddiol, 13,757 cynnydd, 418. (b) Llydaw Cymunwyr, 158; ym- lynwyr, 68; plant Protestaniaid, 4; plant dychweledigion, 90; cyfanrif, 320. v-, CLYWED -Y LLAIt$.—Cyflwynwyd Miss Dilys Edmunds, B.A. (Llundain) a'r Parch. D. S. Davies (Caerdydd) i sylw'r Gymanfa fel dau oedd wedi clywed a gwrando Llais y Nef yn galw amynt fynd dros Grist i'r India; a llawenychid am eu gweld yn ufuddhau. $! CEFNOG OND ORINT AOH.Caed ad- roddiad trysorydd y Genhadaeth, sef Mr. Wm. Venmore, yn dangos fod Casgliad Lerpwl a'r cylch yn EI,095 lis. 10d.-cynnydd o E274 48. 5d. fod y cyfanswm yn holl Gyfarfodydd Misol De a Gogledd yn cyrraedd Y,8,535 118. Id., sef cynnydd o F,449 178. 2d. ar y flwyddyn cynt. Apeliodd Mr. Venmore am godiad yn y casgliad, gan sylwi' fod llu o'n haelodau cefnog yn cyfrannu'n druenus o wael—dyn ag Y.H. ar ol ei enw yn rhoi pum- swllt, lie y gallai 'n hawdd roi pumpunt a deg- punt. Derbyniwyd yr adroddiadau ar gynhygiad y Parch. Aaron Davies, a chefnogiad y Parch. D. Rowlands, M.A. I Yn y Prynhawn. YSTADEGAU 1913.-Gan y Parch. E. J. Evans y caed yr adroddiad hwn. Coffheid am farwolaeth y Parch. T. J. Mor- gan, fu'n Ystadegydd y De am 21 mlynedd. Rhif y cymunwyr yn y Gogledd yn 1913 oedd 98,261—cynnydd o| 150 yn y De, fJ6429, cynnydd o 608. Cwynid fod yr Ysgol Sul yn lleihau. Swyddogion ac aelodau'r Gogledd, 107,820; De, 101,806 cyfanrif, 209,626; lleihad, 1,983. Cwynai Mr. Evans yn fawr ar leihad yr Ysgol Sul,—yn enwedig lleihad yn nifer y plant. Hefyd, nid yw'r golofn ddirwestol byth yn cael ei llenwi mewn llawer eglwys. Pasiwyd yr adroddiad, ynghyda chymhelliad y Parch. J. Williams, fod anfon cenadwri at Gym- deithasfa'r De yn erfyn arnynt ofalu anfon eu hystadegau'n brydlon. -90 Y MUDIAD YMOSODOL.—Oyflwynodd y Parch. J. Thomas adroddiad y Forward Movement, yn dangos diffyg ariannol o E10,000 ar waith y flwyddyn ddiweddaf. Yr oedd ganddynt 49 o achosion; 26,686 o fyn- ychwyr, cynnydd o 471 11,760 yn eu Hys- golion Sul 5,010 yn cymuno, cynnydd o 357. Derbyniwyd E31,753 yn ystod y flwyddyn, a ?16,578 drwy roddion teulu haelfryd Llan- dinam. Gwariwyd 9135,981 yn ystod y 23 mlynedd diweddaf, a swm eu dyled yn awr oedd £ 21,702. Gorfu i'r cyfarwyddwyr wrthod 16 o geisiadau i gychwyn lleoedd newyddion o ddiffyg arian gofynnol.—Caed gair cymeradwyol iawn i'r mudiad gan Mr. S. N. Jones, Casnewydd; y Parch. John Williams, Dr. Cynddylan Jones, a'r Prifathro Prys, M.A., ac a'i pasiwyd. Dewiswyd y Parch. J. Morgan, Aberdar, o'r De, a'r Parch. E. J. Evans, Walton, o'r Gogledd, yn ystadeg- wyr.—Cydymdeimlwyd a theulu'r diweddar Barch. T. J. Morgan, fu'n ystadegydd y De am 21 mlynedd. $ Y GO LEU AD NEWYDD.-Dang- hosai adroddiad Pwyllgor y LIyfrfa gan y Parch. D. O'Brien Owen, fod y Cyfundeb wedi prynnu'r Goleuad gan Mr. E. W. Evans, Dolgellau eu bod wedi derbyn cynnyg Cwmni'r Wasg Genedlaethol (Caernarfon) i'w argraffu, ac mai Mr. E. M. Humphreys fydd ei olygydd. Yr oedd bwrdd o olygwyr wedi cael ei benodi, yn cynnwys y Parchn.Evan Jones, John Williams, T. Chas. Williams, M.A., J. E. .Hughes, M.A., J. Owen (Caernarfon) a Syr Henry Lewis. Yr oedd Mr. Evans, Dolgellau, I wedi apelio am oedi'r pwnc am flwyddyn, gan gwyno iddo gael annhegwch a cholled ariannol I oherwydd y ffordd y cwblhaodd y Pwyllgor y trefniad trosglwyddiadol. Ni chydna- byddai'r Pwyllgor fod y cam lleiaf wedi ei wneud, na moesol na chyfreithiol; ond i gyf- arfod Mr. Evans, awgrymid fod penodi pwyll- gor—dau o ddewisiad y Gymanfa, dau|?'o ddewisiad Mr. Evans ei hun, ac un arall yn gadeirydd, i ymholi i'r holl bwnc mewn dadl, ac fod eu dyfarniad hwy'n derfynol. Cynhygiai'r Parch. E. O. Davies, B.Sc., welliant, set fod penodi pwyllgor arbennig ar unwaith, ac fod i hwnnw ddwyn adroddiad i'r Gymanfa heddyw.—Cefnogwyd hyn ar y I cyntaf gan Dr. Cynddylan Jones, ond a dynnodd yn ol wedi hynny. Pasiwyd adroddiad a chymhellion Pwyllgor y Llyfrfa, a datganodd y Llywydd nad oedd dim pellach oddiwrth feddwl y Gymanfa na gwneud y cam lleiaf a Mr. Evans. Y ddau dros y Gymanfa fydd Mr. D. C. Roberts, Y.H., Aberystwyth, a Mr. Thos. Hughes, Y.H. Caernarfon. i@ ELW'R LLYFRFA.— £ 738 oedd cyfan- swm yr elw a gaed oddiwrth lyfrau'r Cyfundeb y llynedd. AT GODl'R YSGOL SUL.—Cynhygiodd y Parch. R. J. Rees, M.A., fod derbyn ad- roddiad yr Ysgol Sul, ac ynddo hyn ymysg pethau ereill :— Yr Ysgol Sul ac Anawsterau Ardaloedd Dwyieithog.-Wynebir problem arall yn yr adran hon. Anhawster ydyw hwn a wyneba siroedd gweithfaol Cymru a'r eglwysi yn y trefi Saesneg, ac un ydyw hefyd ddylanwada'n gryf ar grefydd ein cyd- genedl ac hefyd ar lwyddiant ac effeithiol- rwydd yr Ysgol Sul yn y rhanbarthau hynny. Ynglyn a'r mater anodd hwn, derbyniwyd cenadwri o Gyfarfod Misol Manceinion,yn gofyn cynhorthwy'rPwyllgor Cyffredinol i'w alluogi i wynebu'n effeithiol rwestiwn y ddwy iaith yn yr Ysgolion Sul; ac er mwyn cyfarfod a'r cais, penderfynwyd fel y canlyn :—I'r diben o gynorthwyo'r Pwyllgorau Ysgolion Sabothol hynny a brofant yr anhawsterdwyieithog yn rhwystr ar ffordd llwyddiant yr Ysgol Sul yn eu gwahanol Gyfarfodydd Misol, gofynnir i'r Pwyllgor Cyffredinol gyfarwyddo'r Ysgrif- ennydd Cyffredinol i gasglu adroddiadau o'r hyn a geisir ei wneud eisoes mewn amryw rannau o'r wlad i gyfarfod yr anhawster hwn, ac i osod y cyfryw wybodaeth a gesglir at wasanaeth y gwahanol Undebau Sirol. Nodwedd amlycaf 1913 mewn cysylltiad a'r Ysgol Sul ydoedd Cynhadledd Ysgol Sul y Byd yn Zurich, yn yr Yswisdir, ym mis Gorffennaf y llynedd. Da gennym hysbysu y Gymanfa fod cwmni o gynrychiolwyr Methodistaidd wedi ymweled a'r Gyn- hadledd fawr a phwysig hon, a chymerwyd rhan yn ei gweithrediadau. Anerchwyd hi yn enw Cymru gan y Parch. H. Barrow Williams, Llandudno, a gofyrmir i'r Gyman- fa ddiolch iddo am gyflawni y gwaith hwn mewn modd neilltuol o effeithiol. Gwnaed y trefniadau ar gyfer y cwmni o Gymru gan y Parch. H. M. Jones, B.A., Ton, yn wirfoddol ac ewyllysgar. Wedi dychwelyd o Zurich, ysgrifennodd nifer o nodion ar waith y Gynhadledd a'i gwersi i Ysgol SulCymru, yn Y Goletad, y rhai a gyhoeddwyd ganddo yn llyfryn bychan a hylaw, yr hwn a gafodd ac sydd yn cael derbyniad helaeth a dylan- wad neilltuol ar y sawl sydd am berffeithio cynlluniau'r Ysgol Sul. Bu'r llyfryn o dan sylw'r Pwyllgor Gweithiol a'r Pwyllgor Cyffredinol, a derbyniwyd nifer o genadwr- iaethau oddiwrth bump oGyfarfodydd Misol yn dwyn perthynas ag ef.' Ystyriwyd yr holl awgrymiadau pwysig a wneir ganddo yn y llyfryn hwnnw yn fanwl a chyda chyd- ymdeimlad dwfn, yn enwedig felly gan fod y Pwyllgor Cyffredinol wedi ceisio sylw'r Cyfundeb atynt o bryd i bryd yn y gor- ffennol. Ar bwys cenadwri'r llyfryn atom, pasiwyd gan y Pwyllgor Cyffredinol: Ei fod yn ffafrio'n fawr y syniad o gael Cynhadledd o'r Enwadau Cymraeg mewn man canolog, ac os gellir trefnu ar ei chyfer, ei fod yn gofyn i'r Undebau Sirol benodi cynrychiolwyr iddi. Tybid nad oedd eisieu trefnu Cynhadledd Fethodistaidd Ganolog, gan fod y gwaith yn cael ei wneud eisoes yn effeithiolach drwy'r Cynadleddau a gynhelir o fewn cylch y gwahanol Cyfar- fodydd Misol. Y Parch. John Williams, Brynsiencyn, sydd i ysgrifennu'r Esboniad ar faes llafur y dos- barth hynaf yn 1918-1919, Amos a Hosea oedd y maes awgrymid yn adroddiad y pwyllgor ond ar awgrym y Parch. R. Aethwy Jones, M.A.—sef y buasai'r Parch. J. Williams yn llawer mwy cartrefol yn un o'r epistolau, ac y buasai'r fath faes yn well ac addasach i'r Ysgol Sul na'r proffwydi crybwylledig-oed- wyd penderfynu'r llyfr hyd ystyriaeth pellach. p BLYSU AM GYLCHGRA WN NEW- YDD.—Dadleuai Mr. Evan Evans (Aber- ystwyth) yn gryf dros gael cylchgrawn arben- nig gogyfer a'r Ysgol Sul. Daliai'r Prifathro Prys dros gael cylchgrawn unedig gogyfer a'r Ysgol Sul a'r Genhadaeth Dramor. Ond galwai'r Parch. J. Williams arnynt i ym- bwyllo mai gwell lawer fyddai iddynt ymroddi i ehangu cylchrediad y cyhoeddiadau oedd ganddynt eisoes na'u beichio ag un newydd. Yr oedd M6n ac Arfon yn prynnu mwy o'r Drysorfa a'r cyhoeddiadau Cyfun- deb of ereill nag a brynnai Siroedd y De i gyd gyda'i gilydd. Cyhoeddiad cymysgryw fydd- ai, ac iddo ddau olygydd, ac yn rhwym o niweidio'r cyhoeddiadau ereill. Sythai'r Parch. M. H. Jones yn gryf dros gylchgrawn newydd, ac ynddo ddarpariaeth deilwng o wybodaeth yr oes gogyfer a'r plant a'r ieuenctyd. Yr oedd y Corff heb ddarganfod y plentyn hyd yma arlwyai beunydd a byth gogyfer a'r hen ond teimlai Mr. O. R. Williams (Beth- esda) a'r Parch. Elias Jones (y Drenewydd) fod gormod lawer o organeisio ar yr Ysgol Sul; ein bod yn coginio popeth gogyfer a hi yr oedd henafgwyr a hynafwragedd y wlad yn hoffi cael siarad ysbrydol uwchben y Gair Dwyfol, no nid yr hyn a geid mewn llyfr a ohwestiwn. yn unig; yr j oedd y cwestiynau a'r esboniadau a'r safonau yn eithaf gyda'r plant a'r ieuenc- tyd, ond yr oeddynt yii laru'r dosbarth hyn.af allan o'r Ysgol Sul a'u trefniadau ymyrol a di ben draw.—Diwedd y trafod fu gosod ar bwyllgor unedig o'r Genhadaeth Dramor, yr Ysgol Sul a'r Llyfrfa, i ystyried y pwnc a dwyn adroddiad i'r Gymanfa. v DARLITH DA VIES.-Caed hon am bump ar gloch, gan y Parch. J. Morgan Jones, sef ar Ddysgeidiaeth Foesol y Proffwydi.. Tra- ddodwyd hi yn Saesneg, yn unol ag amodau'r sefydlydd a diolchwyd amdani gan y Parch. E. O. Davies, B.Sc., Llandudno, a Dr. Cyn- ddylan Jones, Caerdydd,-efe'n sylwi ar ddisgleirdeb gyrfa addysg y darlithydd, ar glasuroldeb ei Saesneg, ac mor dda ganddo oodd clywed a gweld ei fod ar turnpike road diwinyddiaeth unions/red. CYFLE'R GENHADON.—Caed cyfarfod cyhoeddus eehnadol y nos, a ddechreuwyd gan Dr. Griffiths, Barry Dock, ac a gyfarchwyd gan y Parch. R. J. Williams, efe'n sylwi y bu cynnydd o yn agos i dair mil o aelodau ar feysydd cenhadol y Cyfundeb y llynedd, ac fod rhif y gwrandawyr yn agos i ddeugain mil. Caed gair gan y chwaer ieuanc Miss Dilys Edmunds, B.A.—y hi wedi ei magu yn Llun- dain, yn wyres i awdures Yr Athrawes o Ddifrif, ac yn mynd allan i'r maes am y waith gyntaf. Cyflwynwyd Miss Blodwen Edwards hefyd i sylw'r cyfarfod,—hithau'n un o ddis- gynyddion Peter Williams yr esboniwc, ac ar gychwyn i'r maes cenhadol fel dyweddi'r Parch. D. S. Davies, Caerdydd. Caed anerch- iadau gan y Parch. E. H. Williams, y Parch. J. W. Roberts, B.Sc., Miss Elizabeth Will- iams, a Mr. T. W. Reese, a'r Parch. Robert Jones. m—aa— I Dydd Iau. Y Bore. Wedi cymeradwyo adroddiad Pwyllgor Seneddol a Meddiannau'r Cyfundeb,—a'r Parch. J. Morgan Jones (Caerdydd), wrth ei gyflwyno, yn galw sylw'r Gymanfa at y .gamblo aruthrol sydd drwy'r wlad, ac i ben- derfyniad cryf dros Ddadgysylltiad a Dad- waddoliad gael ei basio, deuwyd at HEL YR HANES.-Darllenodd y Parch. M. H. Jones (Ton) yr adroddiad, yr hwn oedd hefyd wedi paratoi cylchlyfehyr argraffedig, i'w ddosbarthu ymysg y cynrychiolwyr heddyw, ac a ddengys ar fyr beth yw bryd y Pwyllgor pybyr hwn :— Bwriedir sefydlu Cymdeithas Hanes i'r Cyfundeb, ac estynnir gwahoddiad trwy'r Cylchlythyr hwn i bawb a deimlo ddiddor- deb yn hanes dechreuad a chynnydd y Methodistiaid Calfinaidd i ymuno a chyn- orthwyo yn y mudiad hwn. Yr amcan fydd hyrwyddo astudiaeth gywir o'r hanes a'r llenyddiaeth a berthyn i Fethod- istiaeth Galfinaidd. Y cynllun fydd (a) Gwneud ymchwiliad i ffynonellau gwreiddiol yr hanes, yn enwedig Dydd- lyfrau Howell Harris, er mwyn casglu'r wybodaeth gywiraf a chyflawnaf posibl am darddiad a chynnydd Methodistiaeth Cymru. (b) Cyhoeddi Cylchgrawn hanner blynyddol i aelodau'r Gymdeithas a fydd yn cynnwys y defnyddiau hanes uchod wedi eu coplo'n llythrennol, ynghyda nodiadau eglurhaol ac ysgrifau arbennig yn Gymraeg a Saesneg. Yr aelodau cyfansoddir y Gymdeithas o aelodau perthynol i'r Cyfun- deb yn tanysgrifio 5 y flwyddyn. Bydd y tanysgrifiad blynyddol yn ddyledus ar y laf o bob Gorffennaf, ac am y swm hwn danfonir i'r aelodau gopi o'r Cylchgronau fel eu cyhoeddir. Y swydd- ogion dygir gweithrediadau'r Gymdeithas ymlaen gan Bwyllgor awdurdodedig y Gymanfa ynglyn a. Llawysgrifau Trefeca. Golygydd y Cylchgrawn, y Parch. D. E. Jenkins, Dinbych ysgrifennydd y Pwyll- gor, y Parch.M. H. Jones, B.A., Ton, Pentre. <jji CNWD GWAED HOWELL HARRIS.— Caed gair diddorol iawn hefyd gan Mr. J. H. Davies,M.A., Cwrt Mawr, wrth gefnogi derbyn yr adroddiad. Mewn ychydig frawddegau cynhwysfawr, cododd y lien ar deithi meddwl ac aidd ysbryd Howell Harris. Sylwai mor gryf yr oedd yr ias ysgrifennu ynddo a'i fod yn cofnodi pob peth a ddigwyddai ac a feddyliai—fod rhyw awydd anwrthwynebol yn iasu drwyddo am roi popeth ar lawr. Ac yn y popeth hwnnw, yr oedd toreth o ddeunydd hanes Methodistiaeth a chrefydd Cymru. Yr oedd yn dwmpath cymysg iawn, ac anodd enbyd ei ddarllen a'i ddadrys. Yr oedd yn dryfwl o dalfyriadau, a'r rhai hynny y mwyaf chwithig ac anodd eu holrhain, yn Lladin, Saesneg a Chymraeg, ond yr oeddynt bellach yng ngofal gwr a fyddai'n sicr o'u nithio a chael y grawn i'r amlwg. Dang- hosodd Mr. Davies mor eofn a diarswyd oedd Harris. Gwyddent fel yr erlidiwyd ac y baeddwyd ef hyd at waed yn y Bala; ond yn lie troi'i gefn am noddfa i fannau llonyddach, beth a wnaeth ond mynd yn ei flaen, cyn i'w waed sychu yn ei friwiau, i Leyn-i'r Glasfryn i)fawr--i wlad prif erlidiwr Methodistiaeth, Person Llannor, y naill du i Bwllheli. A mwy na hynny, aeth i eglwys y gwr hwnnw ao a'i clywodd yn pregethu yn ei erbyn e'i hun, sef yn arbyn Harris, A6 eto fyth ar ddiwedd y bregeth, dacw'r Diwygiwr yn mynd yn. syth at y Person poeth i ddweyd pwy oedd o. A dyma'r gwir i chwi lie bynnag yr erlidiwyd Howell Harris drymaf, yno hyd heddyw y mae Methodistiaeth gryfaf. Danghosodd Mr. S. N. Jones (Casnewydd) wedd arall ar gymeriad Howell Harris, sef ei ogwydd iach at amaethyddiaeth a chwestiyn- au cymdeithasol. Trwyddo fo y caed yr arddanghosfa amaethyddol a'i ras 'redig gyn- taf erioed yn Sir Benfro, ac y mae rhagoriaeth y Sir honno yn y cyfeiriadau hyn i'w holrhain yn ol i Howell Harris a'i ddelfrydau deublyg am y ddau fyd. Amlygodd y Llywydd ac ereill beth pryder am ddiogelwch y llawysgrifau ond oaed gair gan y Parch. D. E. Jenkins, eu bod yn ddiogelach heddyw nag y buont erioed—eu bod mewn saje ganddo ef yn Ninbych, ac y'u dychwelid i'w cartref yng Ngholegdy Newydd Trefecca pan fyddai wedi gorffen a hwy. Achubodd y Parch. M. H. Jones y cyfle i gael llu o danysgrifwyr at y Cylchgrawn newydd, a thystiwyd gan amryw mai hwn fyddai'r cylchgrawn mwyaf diddorol a gyhoeddodd y Corff braidd erioed. CAEL PEN AR Y GANFASIO.-Dyna oedd amcan Mr. S. N. Jones, pan gynhygiai fod penodi pwyllgor enwi i ddethol a dwyn onwau llywyddion ac ysgrifennydd y Gymanfa gerbron. Yr oedd y cailfasio ynglyn a hyn yn warth a chywilydd, ac yr oedd yn hen bryd gwneud rhywbeth i roi pen amo.—Pasiwvd y cynhygiad. GAIR GAN UN O'R TADA.U.-Wedi i'r Parch. J. Morgan Jones (Caerdydd) gynnyg penderfyniad yn datgan llawenydd oblegid gwaith y Gymanfa Gyffredinol yn cyrraedd ei banner cant oed, galwyd ar yr Hybarch Daniel Rowlands, M.A., Bangor, i draethu meddyliau ei galon amdani canys yr oedd of yn bresonnol yn y gyntaf un, ac a fwriodd olwg fer ar ei gyrfa o hynny hyd yn awr. Cyfeiriodd at argoelion dedwydd fod enwadau Cymru yn ca.ru'r nail! y Hall yn fwy nag y yddent ac er fod yr Eglwys Wladol yn gweiddi "LladroD ac yn y bl,ten arnynt, hawdd oedd maddei; iddi, canys yr oedd hi mewn cyfwng go fawr eithr wedi y delo hi ohono, y hi fydd ddiolchaf o bawb i'r Ym- neilltuwyr am ei rhyddhau o'i hualau.-Mwyn- heui ei sylwadau a synnid at ei ireidd-dra corff a I fywiogrwydd meddwl tan bWJ s blyiiyddait mor feithion. DIRWEST YN CAEL EI LE O'R DIWEDD.—Cyflwynodd y Parch. James Jones (Waen fawr) yr adroddiad dirwestol ae wrth gefnogi ei dderbyniad, diolchodd y Parch,O. Owens a HywelCefni (Tal v sarn) am i'r adroddiad gaellle mor brydlor. a chynnar ar raglen y dydd, yn lie ca.el ei wthio i gynffon y gweithrediadau megis y cafodd mor fynych. Diau mai un achos o hynny oedd hyn fod llywydd y Gymanfa a'i hysgrifennydd yn ddau ddirwestwr mor groew a disyfl. Dech- reuasid y Gymanfa gyda chyfarfod dirwestol nos Lun, ond cafwyd prawf arall fod yn haws gan bobl gyhoeddus dorri eu cyhoeddiad i gyfarfod dirwestol nag i'r un cyfarfod arall. A theimlwyd y crafiad yn y fan; megis y teimlwyd y llall hefyd, sef mai nid corachod lleiaf a mwyaf arwynebol y wlad oedd selogion dirwest erbyn hyn. A dadleuai'r Parch. John Hughes, M.A., y dylai rheolau sefydlog y Gymanfa fod yn trefnu cyfarfod dirwestol yn un o'i chyfarfod- ydd rheolaidd. Oni bae am bybyrwch eglwvs Bootle, heb gyfarfod o fath yn y byd y buasem yn Bootle yma nos Lun ddiweddaf. $" NEWID AC YSTWYTHO Y RHBOL- AU SEFYDLOG.-Yng nghwrs y drafod- aeth a ddilynodd, cododd y Parch. J. Owen (Anfield) i ddangos fel y beichid y Gymanfa Gyffredinol a chymaint gwaith nes fod ym annichon i lawer pwnc pwysig gael y drafod- aeth a haeddai. Yr oedd y pressure yn gymaint (ac nid ar swyddogion y Gymanfa yr oedd y bai am hynny fe gydymdeimlai & hwy, yn hytrach na'u condemnio) fel yr oedd ar ami frawd ofn codi i ddweyd ei feddwl nae i ddwyn dim byd newydd i fewn. Cyfeiriodd at gyfnewidiadau cyflym yr oes mewn gwy- bodaeth, mewn beirniadaeth, mewn cwestiyn. au cymdeithasol, ac yn y blaen mor syml a hamddenol oedd gweithrediadau'r hen Gy- manfa Gyffredinol er ys talm rhagor heddyw, ac fel yr oedd angen ei haddasu'n fwy, a chyfleu ei rhaglen yn y fath fodd fel y ceffid hamdden a chyfle i drin pethau oedd yn bwne bywyd y Cyfundeb a'r holl eglwysi. Swm ei anerchiad ydoedd, fod hyn oil yn galw am gyfnewid y Rheolau Sefydlog i gyfarfod anghenion newyddion y dydd cefnogodd y Parch. Ellis J. Jones, M.A., y cynhygiad, at, fe'i pasiwyd, gyda phenodi'r llywydd, y cyn- lywydd, yr ysgrifenyddion, y Parchn. J. Owen a J. M. Jones, a'r Mri. S. N. Jones, Wm. Ven- more, J. Owen (Caer) yn bwyllgor i ystyried y mater a dwyn eu hadroddiad. f YSWIRIAETH AC YN Y BLAEN.- Caed adroddiad yr Assurance Trust gan Mr. J. Morris, Y.H., lie y telid gwarogaeth uchel i ffyddlondeb a medr y diweddar Mr. R. W. Jones (Diogenes) yn y cysylltiad hwn gofidid fod ei fab, Mr. R. Saunders Jones, yn analluog, oherwydd gwaeledd iechyd, i ddal ymlaen a gwaith ei ddiweddar dad, a llawen ganddo oedd hysbysu eu bod wedi. sicrhau un addas a medrus iawn i ymgymeryd a swydd ysgrifennydd, sef Mr. Ellis W. Jones, Water- loo (brawd y ddiweddar lenores hyglod Gwyneth Vaughan). Bu'r tan a ddifrododd Gapel Salem, Pwllheli, yn golled o EI,500 i'r Tru-st.-Caed gair pellach gan Mr. Robyns- Owen sut i symleiddio gwaith y Trust a lleihau'r draul ac ar y diwedd, pasiwyd yr adroddiad, ynghyda phleidlais o gydymdeim- lad a gweddw a theulu Mr. R. W. Jones. $ EIN COLEGAU A'U CREFYDD.-Wedi cymeradwyo adroddiad y Parch. E. J. Jones am Lundain a Chasgliad y Ganrif, cyflwynodd y Parch. R. Aethwy Jones, M.A., Adroddiad Y, Pwyllgor Addysg, gan alw sylw dwysaf y Gymanfa at y paragraff a ganlyn oedd ynddo Crodwn fod yr Athrawon alr Athrawesau ar y cyfan mewn mwy o gyd- ymdeimlad ag addysg grefyddol yr ieu- enctyd nag a dybir gan rai eu bod. Ond y maent mewn sefyllfa anodd. Disgwylir iddynt gyfarfod gofynion y Bwrdd Addysg, a gofynion y cyhoedd am arwyddion a llwyddiant eu hysgolion, tra y cwynir gan ereill fod y fath wasgu ar y plant gyda'u gwersi fel nad oes ganddynt amser i fynychu moddion crefyddol, nac awydd am hynny. Onid oes modd dwyn arweinwyr crefydd ac arweinwyr addysg y wlad i agos- ach perthynas a i gilydd, er mwyn iddynt gydweithio yn well, yn fwy unol, ac yn fwy calonnog i gyrraedd yr un nod o ddyrchaf- iad bywyd goreu'r genedl ? Oni ellir cael nifer o frodyr a chwiorydd i gynrychioli'y Athrawon a'r Athrawesau, a nifer i gyn- rychioli y gwahanol enwadau crefyddol, i gyfarfod a'i gilydd i ymddiddan am ragolyg- on ein gwlad yng ngoleuni'r pethau uchaf a berthyn iddi ? Credwn y byddai i ym- ddiddan cyfeillgar o'r fath ddwyn y ddau ddosbarth i deimlo mai yr un yn y pen draw yn eu n6d, ac mai gyda'i gilydd y gallant ei gyrraedd oreu. Sylwodd Mr. Jones fod tasgau'r ysgol plant yn gyfryw nad oedd fodd iddynt fynychu moddion gras fel y dylent, a chlywid nad oedd awyrgylch ein Colegau Cenedlaethol mo ffafriol i grefydd o lawer rhagor a ddylent fod. 'Doedd dim diben cethru yn erbyn addysg fel y cyfryw, nac yn erbyn yrathrohwn a'r proffeswr arall yr hyn oedd yn eisieu oedd dod a chyfarwyddwyr ein haddysg a'n hys- golion i. gyfarfyddiad ag arweinwyr crefydd, nes cael dealltwriaeth cyfeillgar y naill a'r llall. Cymeradwywyd awgrym yr adroddiad yn fawr gan amryw siaradwyr; ac wrth basiolv adroddiad, penodwyd y Parchn. R. Aethwy Jones a H. H. Hughes (Princes Road) i ohebu a'r enwadau ereill er mwyn cyd-symud yn y peth. ¥ LLWYDD Y GYMDEITHAS YSWIR- -IO.-Dangosai adroddiad Mr. Thos. Thomas (Caerdydd), a sylwadau dilynol y Parch. W. W. Lloyd (ei hysgrifennydd yn y Gogledd) fod y Gymdeithas Gyftindobol tan Ddeddf Yswiriant yn llwyddo'n dda fod bellach ddeng mil o aelodau ar ei llyfriu fod 94,300 wedi ei dalu i gleifion y llynedd a'i bod hi'n gwneud rhywbeth llawer; gwell ae uwch na'u hyswirio—ei bod yn olrhain eu

Advertising