Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
I Campbell 6 Lumby, I THE LIVERPOOL JEWELLERS ti Entree Dishes are The most useful of Wedding Presents forming as thsy do, 2 distinct dishes separate and which may be used for a variety of purposes. I Entree Dishes of various i designs in guaranteed Quality Plate I from 28/- upwards Call and inspect our Huge Stock. I Hours of Business 9 a.m. to 7 p-m- Saturdays 9 a.m. to 1 p m. T' a e o o" Off MRS Royal OLD POST OFFICE PLACE êll
Trem ar v Gymanfa Gyffredinol.
Trem ar v Gymanfa Gyffredinol. [G?N UN O'R CYNRYCHIOLWYR]. I Nro oes yr un sefydliad yn ateb yn well i'w enw. Mae'r Gymanfa hon, yn ei materion, ei chynrychiolwyr, a'i hamcanion, yn dra eang a chyffredinol. Mae ei nerth a'i gwendid yn yr un man. Gwelsom gymanfa fwy bywus, ac ereill fwy marwaidd ond credwn fod y Gymanfa eleni wedi cadw ei phen rhag ym- ddirywio i gael ei galw yn Gymanfa Gyffredin. Cynhaliwyd hi y tro hwn yng nghapel mawr a hardd Stanley Road, Bootle. Yr oedd y sefydliad yn ei gynefin ar y llwybrau hyn, oblegid bu yn eu tramwy unwaith neu ddwy o'r blaen, fel prin fod y glaswellt wedi glasu'r llwybrau. Yr oedd yrhen weinidog clodwiw, y diweddar Barchedig Griffith Ellis, o anian Gymanfaol, a nwyd a nwyf yr Hen Gorff yn gyfonog ynddo. Nid gwaeth ganddo ef pe cymanfa yn ei gapel ei hun bob blwyddyn. Rhoes y gweinidog ieuanc, y Parch. 0. Lloyd Jones, M.A.,B.D., a'i gydswyddogion, dder- byniad caredig i bawb ohonom, ac yr oeddynt yn glust, llygad, ac yn llaw i gyd i weiiiyddu i gyfreidiau y saint. Gosod trefniadau ynglyn a'r bwydydd a wnaethant i gwmni o Lerpwl, fel na, phasiodd y Gymanfa drwy galon yr eglwys. Colled i'r Gymanfa, a mwy o golled i'r eglwys, ydyw trefniant o'r fath, gan fod y cyfryw fudiad i fod yn ymgeledd i'r lie fydd yn ei dderbyn, a dwyn y Corff a chwiorydd yr eglwys wyneb yn wyneb, ac nid oes dim am asio pobl wrth ei gilydd tel gweinyddu a chymwynasu y naill y llall. Wrth gilio o'r gadair, caed anerchiad ym- adawol. Yr oedd dau beth yn milwrio yn erbyn llwyddiant 3r araith amledd ei phwyntiau, a'r ffaith mai ei darllen a wnaed. Mae araith ar bapur yn iawn i gynnu tan ond nid i gario tan. Traddodwr ac nid darllenwr, ydyw y gwron a ffarweliai a'r llywyddiaeth. Dywedodd bethau byw a tharawwr mewn iaith lefn, er nad ydyw'r anerchiad yn ddi- frychau fel cyfansoddiad Cymraeg. Gwell geimym pe buasid wedi dewis un pwnc, ac nid eyffwrdd cyniier o bethau. Nid yw cynllun fel hyn yn aros yn hir mewn oof, nac yn esgor ar ddim arhosol. Eisteddodd y llywydd newydd yn urddasol yn y gadair. Efe ydyw Apostol Dirwest Cymru, ac archgasglwr iv' Dehedir. Mae ei arabedd yn ymchwyddo ir lan mor llawn a naturiol a thonnau'r mor. Hwyliodd y gwaith ymlaen yn ddirwystr, ac aeth hoibio ami i gongl gas heb droi'r cerbyd. Os oedd bai hefyd, braidd yn rhy bwyllus, a distaw ei lais. Nid oedd hyn mor amlwrg, gan fod bron holl bobl J llawr yn siarad yn isel. Dylai y llywydd fod ar dir i fedru dweyd wrth yr enwogion, Speak up. Ond y mae gweinidog Llanwrtyd wedi ei eni yn frenin,a llywodraeth ai ei gylch heb i neb deimlo ei fod yn gwneud hjnny. Yr odd yr ysgrifenyddion yn dra meistrolgar. Prin fod yn deg a'r brawd ei hun ac ag ereill hefyd, osod hen ysgrifennydd Cymdeithasfa'r Gogledd yn nhresi ysgrifen- yddol y Gymanfa Gyffredinol mor fuan. Mae bron wedi myned yn ddeddf fod ysgrif- i enyddiaeth y Sasiwn yn banner y ffordd i ysgrifenyddiaeth y Gymanfa. Etholwyd brawd o'r De, a hynny heb gwm- pasu, yn gydystadegydd a'r gweinidog o Lerpwl. Ond rhyw benodiad oer a diafael ydoedd ac oni b-i i fod gv/r o bwys jm cynnj g, prin y gellid gwfchio'r dwylaw i fyny. Gweini- dog ieuanc o dref Caernarfon a ddewiswyd yn Davies' Lecturer at y flwyddyn nesaf. 'Mae hen dref y Castell yn prysur ddyfod yn ganol- fan y Cyf-urdeb. Nid yw Rhyl, Bangor, Wrecsam ynddi hi o gwbl, a rhaid i hyd yn oed Aberystwyth edryeh ati. Mae'r darlith- ydd yn wr ieuanc dysgedig, ae yn olygydd Y Traethodydd, ond erioed wedi ysgrifennu llyfr na phamffledyn, nac odid i ysgrif i'r un o gylchgronnau ei enwad yn ei oes. A ydyw bod yn wr o raddau yn anhebgor traddodi'r ddarlith? Os ydyw hyn yn wir, digon an odd fydd dewis yn y dyfodol. Bu cryn daflu am eistedd yng nghadair y Gymanfa. Daeth tri enw i fewn yn y rhwyd y cynnyg cyntaf-—y tri yn wir deilwng. Ni bu gweinidog a Ileygwr yn cydredeg am y llywyddiaeth erioed o'r blaen, mewn na Chymdeithasfa na Chymanfa. Drwy bleidlais ffafredig y llywydd, syrthiodd y coelbren ar yr haeddaf o'r an- rhydadd o holl wyr v Gymanfa. Os ydyw bod yn fugail o'r math mwyaf Ilwyddiannus am yn agos neu dros bedwar deg 0 flynyddau, gweithio gyda phob rhan o'r deyrt)as sefyll i fyny fel derwen dros bynciau cymdeithasol, a chyfrannu'n helaeth at bob achos da, yn rhoi trwydded i'r gadair, neb yn fwy felly ynteti na'r Parch. Owen Owens. Caiff y Corff gyfle newydd i we led medr brawd fu'n guddiedig am hir amser, a thro i dalu peth o'i ol-ddyled. Nid oes llawer o waith, ond y mae peth wm- bredd o siarad, neu o glebran, yn y cynulliadau hyn. Nid gorchwyl difudd fuasai cael allan faint o'r deucan wr a safodd ar ei draed i gynnyg neu gefnogi, i bleidio neu i wrth- wynebu, yn ystod y ddeuddydd a hanner, a pha sawl gwaith y eiaradodd y nifer fychan oedd fwy ar eu traed nag ar eu heistedd. Golygfa led ddigrif oedd rhai o'r urdd hon yn ymryson codi, a dau neu dri ar eu traed yn disgwyl bwlch i hau gwynt. Ofnaf fod yr wyl yn gwbl annifyr i'r llu mawr nad oedd yn teimlo eu hunain yn dda i ddim ond i godi eu dwylaw dros benderfyniadau nad oedd yn apelio nemor atynt. Mae meddwl ychwanegu diwrnod at hyd y Gymanfa yn anymarferol. 0 ba le y daw'r amser, y Ihiniaeth, y Ilety ? Nid yw swyddogaeth y Corff yn enwog am letygarwch, ac nid teg rhoddi baich trymach ar y dieithriaid ac ar y rhai sydd yn eu derbyn yn eu diniweidrwydd. Credaf y gellid gwneud gwaith mawr pe meddylid mwy cyn codi i siarad, felly gellid eistedd yn gynt. Dir- prwyer hefyd lawer o'r manion dinod i'r Pwyllgorau. Credaf y dylid cael enwi (nomination) ynglýn a'r etholaeth, yn lie fod twr o gynrychiolwyr yn rhoddi'r arweiniad gyda rhyw ffefrddyn o'r eiddynt eu hunain. Ofnaf yr aeth ami un adref gyda chur yn ei ben a dolur yn ei gefn oherwydd meithter yr eisteddiadau, sychter y materion, a hirwynt- edd yr areithiau. Anadlwyd awel ffein ar gyfarfod y Cymur deb. Caed anerchiad dwys a thyner gan hynafgwr parchus. Disgwyliasom am weled mwy' o'r cyhoedd yn bresennol. Cwrdd dymunol dros ben oedd yr un ar y Genhadaeth Dramor, er i un o'r chwiorydd fygwth bod yn hir. Trefnu gormod i siarad ydyw drwg y cyfarfodydd hyn. Yr oedd Darlith Davies yn dda tuhwnt, ar destyn nodweddiadol o'r awdiir, ac yn cyfateb i angen yr oes. Ni ddy- wedwyd fawr ddim ychwaith na ellid ei yngan ddeugain mlynedd yn ol. Diau y derllyn yn dda wedi cael goleuni y dydd. Siomedig oedd Cyfarfod yBobl leuainc, areithiau trym- aidd, henaidd a neinaidd gan nifor o frodyr ieuainc,—y peth goreu fuasai trefnu dynion ieuainc fel Daniel Rowlands a William Lewis (Ty Llwyd) i annerch cyrddau fel hyn.
Y Dyfodol.
Y Dyfodol. Rhyddfrydwyr Masw a Thoriaid I Cegrwth. MAE pawb a ddarllenodd araith Mr. Austen Chamberlain mewn cynhadledd gwin a diodydd gref gyfarfu ymMirmingham y dydd, o'r blaen wedi canfod iddo roddi ar ddeall i'w wran- dawyr beth yw polisir Ceidwadwyr gyda golwg ar fasnach dioaydd meddwol, o delont fyth i gynnyg cyllideb i'r wlad. Siaradai mor hwyliog a d;betrus a phe na ddioddefasai Birmingham erioed unrhyw ing na loes, ac na thyw-lltodd ddeigryn, ac na ollyngodd ochenaid oherwydd diod gref, er y dydd y'i sylfaenwyd. Yr unig ddioddefaint a'i gofidiai ef oedd y gamdriruaeth y gai'r masnachwyr meddwol oddiar law deddfau'r wlad, yn enwedig a ddygwyd i mewn gan y Llywodraeth bresennol. Nis gallasai'r orael addaw dim yn bendant gyda golwg ar dynnu oddiwrth drethi'r ddiod, ond y ceid gweIed. Ond sicr- hai na cheid ymyryd o gwbl a deddf 1904 Mr. Balfour gan y gelynion. Gwyr eich dar- llenwyr yn dda am y ddeddf honno, y ddeddf felldigedicaf, ar rai cyfrifon, a basiwyd er amser William y III. Y ddeddf fu'r amdo y claddwyd anrhydedd Mr. Balfour fel gwlad- weinydd ynddo, i beidio ymddangos mwy _a throsglwyddir y gwr hwn i'r dyfodol gan law hanesiaeth fel cymeiiad politicaidd anghyson a diymddiried,—yn Pilat yr ugeinfed ganrif. Mae Mr. Chamberlain hefyd yn gryf yn erbyn byrhau oriau'r ymyfed. Braidd na thybiai ef na buasem yn fwy sobr pe heb unrhyw atalfa, ac ymlawenhai wrth ganfod arwyddion llwyddiant masnachol y ddiod. Wele y gwron. Ie, wele ein Canghellor dyfodol i Y Nef a'n gwared Beth sydd i'w wneud yn wyneb y safle wleidyddol yr ydym ynddi yn bresennol ? Tybed nad ysgydwodd esgyrn Disraeli, W. H. Smith, Syr Stafford Northcote, a Thoriaid parchus ereill, yn eu daeargell y nos o'r blaen, pan ddirmygid Mr. Asquith a'r Llefarydd gan yr eiddilod Toriaidd disynnwyr ac anfonedd- igaidd yn Nhy'r Cyfiredin ? Er fod y cewri a nodwyd yn Doriaid rhonc yn eu dydd, eto yr oeddynt yn foneddigion, ac yn cael eu llyw- odraethu gan barch at anrhydedd Ty'r Cyffredin, ac eiddigedd dros gysegredigrwydd a dylanwad Deddfwrfa Prydain. Cydna- byddent hefyd hawl ereill i ffurfio eu barn a dewis eu plaid. Beth a ddaw o'r Wrthblaid bresennol, pwy all ddyfalu ? A fu yn hanes Toriaeth gatrawd eiddilach, a welwycl ei thlotach o ran egwyddor, gallu meddyliol, ac athrylith wladlywiol ? Beth am ddiogelwch ein Teyrnas, pe gollyngid y diafol yn rhydd yn yr Etholiad Gyffredinol, ac i roi'r awenau yn nwylo'r rhain ? Elem yn w-atwargerdd i'r cyfanfyd. Cofiwn yn dda am "Blaid y Bed- waredd (y Fourth Party), Gorst, Drummond Wolf, Balfour a Randolph Churchill, yn piwsiO Gladstone, ac yn ceisio dyrysu'r Ty. Ond teimlai pawb mai gwladweinwyr y dyfodol oedd yn cyfarth, ac mai St. Bernards yn gorgwn oeddynt ar y pryd ond beth am ymosodwyr a dirmygwyr y Prif Weinidog y nos o'r blaen ? Lap dogs digynnydd fydd y rhai hyn byth, i'w hwian ar liniau merchetos, i heb a llu i ymserchu ondyn unig yn nhylwyth y byd costog. Tybed ein bod yn ddigon ar ddihun y dyddiau hyn fel dirwestwyr yn y deyrnas ? Cawsom awgrym brawychus yn rhaniad Ty'r Cyffredin yn ddiweddar ar Fesur Cau ar y Sul." Os yw Rhyddfrydwyr, o'r Cabinet i waered, wrth yr ugeiniau mor ddidaro i hawliau dyn yn gyplysedig wrth sancteidd- rwydd Saboth Duw ag y darighosent eu bod y nos o'r blaen (ac am rai o'rre uljei-iiaidcymrei, yr oedd mawr ofal calon ">—os fel hyn, meddwn, y teimla rhai o'n Rhyddfrydwyr at Ddirwest, beth ddeuai ohonom pe gosodid yr annuwiol a'i pechadur Toriaidd wrth y Ilyw ? Mae murmuron Mr. Chamberla,in yug nghynhadledd y gwin fel yn arwyddo y gwneir rhyw un Peckham loddestol o'n Teyrnas yn yr Etholiad Cyfiredinol a rhwng mwydo ym- ennydd gwerin Lloegr mewn gwirf, bidliad celwyddau noethion am ddeddf fendithfawr yr Yswiriant, ynghyda dylanwad dialedd anghymodlawn dosbarth o ferched dilednais a chynddeiriog, ni welwn obaith dychweliad y Rhyddfrydwyr i awdurdod heb ddeffroad digyffelyb yng nghylch goreuon ein Teyrnas, a darfod a son am gaeth e rhydd yng ngororau Eglwys y DuwByw, end bod yn un corff milwriaethus yn ymladd dros iawnderau dyn a gogoniant Teyrnas y Bendigedig Iesu, a sicrhau dy chweliad y Blaid y mae hynny'n argraffedig ar 'ei baner. ANNWYL OLYGYDD,—Llenwch Y BRYTHON a thrydan yn fwy nag erioed am y misoedd dyfodol, ac edryched eich gohebwyr cyson a gwych,—yn feirdd, lleriorion, ac athroDwyr- i wyneb y dyfodol, gan gyflwyno eu llaw a'u hysgrifbin i arweiniad ysbryd byw y I deffroadau." PLENYDD. I
0 Chwarel a Chlogwyn. I
0 Chwarel a Chlogwyn. I Sef o Ddyffryn Nantlle. I GAN YSBRYDGLASYNYS. I HEFO'R HKLGWN.—0 gyfeiriad y Ffrxdd Baladeulyn, clywid sain helgorn yn gynnar fore dydd Sadwrn, a chymrodd yr helfa hynt hyd lannau'r llyn ucliaf i geisio'r dyfrgl. Awr felus frwd yw'r awr hela, a 'does dim yn hafal am ddeffro brwdfrydedd ardal wledig .?dedd ar d v,]. wledig na gweled haid o'r helgwn yn ymwelcd a hi. Anghyflawn pob helfa heb William HUWB y Ffridd,—hen heliwr cryf, wyr gryfder a, nerth y cadno a'r dyfrgi gystaj a neb aeth i'r maes erioed. Trowyd allan yn fyddin gref heddyw i ddilyn camre cwn Ynysfor, ac wedi siwrne seithug oddeutu'r llyn a Drws y coed, troid yn ol ar hyd gwaelod y DyfTryn hyd lannau'r Lyfnwy lan. Wedi taith ddiramant hyd Bont y Cim, arwyddodd ubain y cwn fed y dyfrgi yn llochesu y-iio. Ar ol ei ganfod, beth pe gwelsech ffyrnigrwydd yr helgwn '? a'r gwewyr oedd ynddynt am ei larpio ? a chyn pen dim cafodd y truan gwyllt ei drechu'n rhwydd. vj^ Y COR UMDEBOL.—Adnewyddwyd sol ein Cor Undebol unwaith eto, dan fatwn Mr. T. Powell. Heddvw, ant i fesur cledd gyda chorau Caergybi a Lerpwl i Eisteddfod Mon, ar yr un pryd yn teimlo braidd yn amharod i ornestu oherwydd nad oeddjrnt wedi ymarfer digon. Modd bynnag, disgwyliwn y gore Un o'r pethau goreu yw eu cred ddisigl ym matwn eu harweinydd diymhongar y ntaent yn barod at bob arwydd a galwad o'i eiddo. Deallwn -i fod yn cloriannu cantorion yng Ngwyl Dinorwig ddeuddydd yr wythnos hon, ac mai efe hefyd oedd arwcinydd Cymanfa Clynnog wythnos yn ol. ANRHYDEDD.—Dal i wthio ymhellach i lawes ei gwmni yswiriol wna Mr. Morris J. Hughes, Pen y groes, a chafodd ei anrhydeddu fwy nag unwaith, ond ni fyn ymadael o'n plith er iddo gael cynnyg droion. Dewisodd yn hytrach aros ymhlith ei bobl ei hun. Llawenhawn yn ei lwvdd. Y LLUNIAU BYW.—Yn neuadd ystafell ymarfer ein milwyr lleol ym Mhen y groes, nos lau a nos Wener, diddorwyd y tyrfaoedd gyda'r darluniau hyn, a chymerwyd rhan yno fel llywyddion gan Mri. Prythcrch, M.A., a W. J. Griffith, Talysarn, a ch;) feiliwyd gan Mrs. Hughes, Rectory, Llanllyfni, a Mr. O. Hughes, A.L.C.M., Nantlle. Canwyd yno hefyd mewn afiaith a hwyl gan Misses Florrie Williams, Marie Gwyn Williams (Nantlle), a Mabel Parry (Nantlle), y Brodyr Francis, Ellis Parry, a Llew Deulyn-i gyd o Nantlle. Rhannwyd yr elw rhwng Nyrsus y Groes Goch a'r Nyrs leol.
Advertising
BARDDON1AETH GORONWY OWEN. ChwechedArgraffiad. Gyda Bywgraffia d byrr gan Pedrog a Llyfrbryf. Amlen, Is. Wedi ei rwymo ynghyda'r Llythyrau, mewn llian, 2s. 6ch. HUGH EVANS & SONS, 356-810 Stanley Road Liverpool W. & J. VENMORE, Estate Agents & Valuer. 200 SCOTLAND RD., liverpo^I VxLKPHOBni No, 5163 Royal J. Lloyd Jones, & Co., ESTATE AGENTS, &e. 6 Lord Street, Liverpool RBIBPROSR all BANK YN Y WASG. CRISTIONOGAETH A CHYMDEITHAS, gany Parch. J. H. HOWARD gyda Rhagair gan y Gwir Anrhyd. D. Lloyd George. Pris 2/6 net. Cyhoeddedig gan HUGH EVANS & FONS. Swyddfa'r' Brython,' 358 Stanley Road, Liverpool fSh\ -Lost Property.. <?/  S' ? UMBRELLAS. 1/ ,J.¡tt Railway, Tramway, Police I i /W/ Beautiul Umbrel-las & Sunshades, 1 /1 J 1/9, 2/- upwards. Walking ??!?? Sticks. 2d upwards. These are good ??L? knock-about umbrellas. ? ? Northern Umbrella Depot 28a Bold St. (upstairs), few doors from Church St ANWYD, PESWCH, INFLUENZA.-MM rhai'n gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnew- idiol fod llawer o ddioddef oddi wrth Beswch, Bionchitis, Pas, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdm, Diffyg Anadl. Y mae yr hen feddygiDiaeth "DAVIES'S COUGH MIXTURE" eto ar y blaen, ac yn cael ei gwerthfawrogi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, yn felys, yn cynhesu y frest, ao yn rhyddhau y phlegm. Bydd doso mewn pryd yn ddigon, Is. lie, a 2s. 9c. (postage, 3c.).—HUGH DAVIES, Chemist. MACHYN- LLETH GWYNEB PRYDFERTH.—" Sarzine Blood Mixture" at gHrio y croen, a phnro y gwaed. Y mae yn myned at wraidd y drwg, ymlid ymaith bob math o pimples, coohni, ysfa, scurvy, pan- ddynod. Gwella hen ddolnriau. coesan drwg, crydgymalau, gan adfer y oroen i'w harddwoa natariol. 2s 60. y botel gan bob Druggist; vn ychwanegol gyda'r post—HUGH DAVIBS hemist. MACHYNLLETH. Coupon RhadoYswirlaeth (Peidier a'i hollti'n rhydd). BTDD 1*1 GRESHAM rire and Accident Insurance Society Ltit St-[Mildred's House, Poultry. LONDON, E.C. dalu jElOO (cMi punt) i gynrychiolydd cyfreithio a phersonol y sawl a fo'n ddiles-ddaliwr y coupon hwn, os y bo iddo fo neu hi gael eu lladd ynhollo ao yn uniongyrchol drwy ddamwain o fewn iF Deyrnas Gyfunol i dren unryw Gwmni ReilffordJ. Tramcar, Omnibus, ÇJa, neu Gerbyd Trwyddedlf a Llog yn yr hwn y bo r daliwr yn cael ei glodo fel teithiwr tocyn a chlud, yn ddarostyngedig bob amser i'r amodan arbennig a ganlyn sydd ystyried fel rhan a chyfran o'r oytundeb— (a) Fod y marw'n digwydd o fewn deoc niwmod ar hugain wedi'r ddamwain (b) foe rhybuddohoni n oael ei roi i'r Oymdeithaa « fewn saith niwrnod yn eu Prif Swyddfa yn Llucdain (c) fod y cyfryw dystiolaeth reIto ymol parth achos y farwolaeth yn oael ri gyflwyno ag a fo'r Gymdeithas yn ei ofyn (d) fod y daliwr wedi 'sgrifennu ei arwydd- enw arferol, cyn i'r ddamwain ddigwydd, ag ino yn y lie darparedig gogyfer â hynny (fJ) na bo'r Gymdeithas yn gyfrifol i fwy nag an Eerson parth mwy nag un coupon yn y papor hwn na r un cyhoeddiad arall (?) na bo r ya- wiriaeth hwn ddim yn gafiaeladwf i bersooan tan ddeuddeg na thros ddegathrigain mlwydd oed, ao a ddeil yn ddilys am saith niwmod o 12 o'r glooh y dydd y'i codir.2 Arwyddnod y Daliwr Trigfodl I Danysgrifwyr. Raid i dderbynwyr cyson y papur km ddim arwyddo r Coupon os ca'r Gymdeithu gwbl aicrwydd a phrawf el fod yn cael H anfon iddynt yn ddifwlch. ..Cynhygiad Neilltuol.. i Ddarllenwyr Y BRYTHON." NID oes dim mwy hwylus a gwerthfawr na Fountain Pen da o gwneuthuriad y gellir dibynnu arno, a hynny am bris isel y gall pawb ei gyrraedd. Mae perchenogion Y BRYTHON—er mwyneangu cylchrediad eu newyddiadur—yn cynny FOUNTAIN PEN o'r gwneuthuriod goreu guaranteed fitted with 14 carat Gold Nib, fine, medium or broad), ac yn gyfartal o ran ti] werth i rai a gynhygir am brisiau llawer uwch. Dyma'r teleraa :— Am 3/6 (Postal Order). Neu am 3/- a phum Coupon. » ot 21/6 a deg Coupon. Y Coupons i gael eu tori allan o'r BRYTHON. Gwna unrhyw ddyddiad y tro, ond a chymerir mwy na thri o'r un dyddiad. Anfoner y Coupons a'r Postal Order, ynghyda env. a chyfeiriad yr anfonydd wedi ei ysgrifennu yn eglur. Cyfeirier yr archebion :— 356-358 STANLEY ROAD, LIVERPOOL. Fountain Pen Coupon. t « Y BRYTHON," Mehefin 4ydd, 1914
GWEDDILL EISTEDDIADAU BOOTLE.
symudiadau o fan i fan, fel nad elont ar goll yn anialwch y byd. OOFIO'R OYMRY PELL.-Wedi i'r Parch. W. Lewis gyflwyno adroddiad y Cymry ar Wasgar, galwyd ar y Parch. J. Lewis ym- mlaen i draethu hanes ei ymweliad swyddogol dros y Gymanfa a Chymry Canada. Cyfrifid fod o ddeg ar hugain i ddeugain mil o'n cyd- wladwyr yn y wlad fawr honno teithiodd yntau saith mil o filltiroedd hyd-ddi, sef% Montreal i Vancouver, a dim ond rhyw bum achos Cymraeg sydd yn y wlad fawr i gyd. Yr oeddynt yn gymydau rhy deneu a gwas- garedig i ffurfio achos crefyddol oddieithr mewn lleoedd fel Montreal, Toronto, Winni- peg, Bangor, Calgary, ac Edmonton, a pherygl mawr ami un ohonynt oedd ymgolli yn yr awydd i ymgyfoethogi a hel twmpath o bothau'r byd hwn.—Awgrymodd y Parch. J. Owen (Anfield) mai eithaf peth i'r rhai a ymfudent fyddai cadw eu haelodaeth yn yr eglwysi o'r rhai yr aethant allan, hyd nes y byddont wedi cartrefu mewn rhyw eglwys y tu draw i'r Werydd. Byddai hynny yn gwlwm cydiol rhyngom a hwy. Cafodd Mr. Lewis groeso cynnes, a deffrodd galon y Gymanfa at eu brodyr oedd mor unig ac amddifad o foddion a chysuron crefyddol ar wastadeddau'r Gorllewin pell.—Crybwyll- odd y Parch. J. Hughes, M.A., iddo ef fynd i Mountain flynyddau'n ol, lle'r oedd cannoedd o Gymry'r De, heb foddion yn y byd ar eu cyfer fel Cymry. Dygodd sylw'r Gymanfa yn New York, a bellach y mae yno gapel ac eglwys flodeuog. Nid yw'r lleoedd pell a gweiniaid hyn ar lwybr na meddwl y rhai ant am daith bregethu drwy leoedd breision y Taleithiau. GWASTRAFF DIESGUS.—Wedi i'r Parch. Lewis Ellis gy-Ptwyno adroddiad Pwyll- gor y Dirprwyaethau, sylwodd y Parch. J. Williams ar y treuliau mawrion a difudd a achlysurid gan y cynrychiolwyr a benodid i fynd yn ddirprwyon i'r Cynadleddau Pres- byteraidd ac yn y blaen. Meddyliwch am ddeg ar hugain o gynrychiolwyr yn mynd i Aberdeen dro'n ol. Yr oedd treuliau'r Gy- manfa, rhwng popeth— yn cyrraedd cryn naw cant a banner o bunnau, a llawer rheitiach i'r arian a werid ar yr ymweliadau anfuddiol hyn fynd i gynnal yr eglwysi gweiniaid. Ac fe garai efe weld y Presbyteriaid yn cydnabod dipyn mwy ar y Methodistiaid. Tra y ceid enwadau ereill, yr Annibynwyr ac yn y blaen, yn gwahodd ein pregethwyr o Gymru i was- anaethu yn eu prif bulpudau, byth y gwa- hoddid neb ohonynt gan y Presbyteriaid.— Ffrwyth y drafodaeth hon fu penderfynu peidio ag anfon dim rhagor na dau gynrychiol- ydd i fannau ar y fath, yn lie pump neu ragor, fel yr arferid. Y Prydnawn. NODDFA'R BONT NEWYDD.-Hys- bysodd y llywydd fod Cartref Amddifaid y Bont Newydd mewn dyled o f,218, nad oedd dim ar ei chyfer, ac y taer apeliant at y wlad am gyfraniadau i'w gwared o'u hargyfwng. <P DARLITH DA V.IES.-Gan y Parch. R. Aethwy Jones, M.A., y caed adroddiad Pwyllgor Darlith Davies, ac fe'i cymeradwy- wyd. Y Parch. J. E. Hughes, M.A., Caer- narf(ln-golygydd y Traethodydd-sydd i'w thraddodi'r flwyddyn nesaf; ac o hyn allan, fe ddewisir y darlithydd ddwy flynedd ymlaen lief fel hyn yn y Gymanfa nesaf, dewisir dau -un o'r Gogledd ac un arall o'r De. Sylwodd hefyd fod sefydlydd a gwaddolwr y Ddarlith —Mr. Thomas Davies-a darlithydd cyntaf y Gyfres, sef y Parch. Griffith Ellis, M.A.—ill dau wedi marw. er pan fu'r Gymanfa yn Bootle o'r blaen. OLOSIO AT EIN GILYDD.-Daethai cenadwri fel y canlyn oddiwrth Gyngor Undeb YT Annibynwyr :— Ein bod yn anfon at Undebau a Chyman- faoedd yr Enwadau ereill yng Nghymru, drwy eu hysgrifenyddion, ein bod yn eymeradwyo'n galonnog yr awgrym i nifer o gynrychiolwyr y Pedwar Enwad gyfarfod yn Llandrindod i ymgynghori a newid meddyliau ar y cwestiwn o uno'r Enwadai4 Ymneilltuol yng Nghymru datganwn ein hawydd gweled yr Enwadau hyn yn pasio eyffelyb benderfyniad i'r eiddom ninnau. Yna, os gwneir hynny, yr ydym barod i ddewis cynrychiolwyr i siarad drosom. Cymeradwywyd y syniad yn eiddgar, a rhoed ar y Parchn. J. M. Jones (Caerdydd), John Williams (Brynsiencyn), liees Evans, D. Davies (Pontardulais), Jas. Venmore (Ler- pwl) i weithredu ar y cyd-bwyllgor yng Ifgliynhadledd Llandrindod. DIBENNU A 1)10 LOR,—Yr oeddis bellach ar derfyn y gweithrediadau a diolch- odd y Parch. 0. Owens a Dr. Aaron Davies I i'r Parch. 0. Lloyd Jones, M.A.,B.D. a Mr. I' Wm, Williams (Wadham Road) ac eglwys Bootle am eu croeso a'u caredigrwydd di ben draw, ac i holl gyfeillion Lerpwl am eu liety- garwch dibrin a chydnabuwyd dros y gweddill gan y Parch. O. Lloyd Jones. YR IEUENGTYD.—Caed cyfarfod cy- hoeddus ardderchog yn yr hwyr, i draethu ar anghenion a hawliau ieuenctyd ein heglwysi y Parch. Rees Evans yn llywyddu, a'r Parch. Wm. Davies (Aberdar), J. D. Evans (Pont y pridd) a G. H. Havard (Rhyl) yn annerch. Y MUDIAD YMOSODOL.-Caed dau gyfarfod hefyd yr un noson ymhlaid y For- ward Movement, sef yn Edge Lane, Lerpwl, a Liscard Road, Seacombe Mr. Jas. Venmore yn llywyddu y naill, a Mr. Wm. Lewis (Llun- dain) y Hall. Buasai'n dda gennym allu rhoi crynhodeb o'r sylwadau godidog a glywd yn yr holl gyfarfodydd cyhoeddus, ond y mae'r dreth ar ein gofod yn peri fod hynny'n amhosibl. -0--