Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
i 1-TAIR MARWOLAETH.I -
i 1- TAIR MARWOLAETH. I DYMA dair marwolaeth y mae'n ofid gennym orfod ou cofnodi MR. BOAZ JONES, Dl.'i-BYCH.-Efe'n marw ddydd Sadwrn diweddaf, yn bedwar ugain oed Yr oedd yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Wesleaid, ac yn wr amlwg a hysbys iawn yn y cylchoedd crefyddol. Siaradai gydag arddel- iad yng Nghymanfa'r Annibynwyr a gynhelid nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf yng Nghoed Poeth, a bychan a feddyliai ef a'r rhai a'i gwrandawai y byddai yng Nghymanfa'r Gwaredigion Perfieithiedig ymhen y pedwar diwrnod. Y PARCH. ISFRYN WILLIAMS, Y PONCIII. -Bu ef, sef gweinidog Eglwys M.C. Bethel, Rhos llannerch rugog, farw'n frawychus o sydyn ddydd Sul diweddaf. Pregethodd y bore yng nghapel Annibynnol Salem, y Rhos; aeth allan y prynhawn i edrych ar gynheb- rwng milwrol a gerddai heibio, a chynted y cyrhaeddodd yn ol i'w dy,disgynnodd yn farw. Dioddefai ers talm gan glefyd y galon. Brodor o Drawsfynydd ydoedd. Bwriodd ei dymor yng Ngholeg y Bala, bugeiliodd eglwysi Pont Cysyllte a'r Fron Cysyllte i ddechreu dair blynedd, a daeth i Eglwys Bethel bymtheng mlynpdd yn ol. Efe oedd ysgrifennydd y Cyfarfod Misol ers chwe blynedd, a bydd yn chwith iawn i'w weddw a'i saith plentyn am dano. Y PARCH. JONATHAN JONES, LLANELWY. -Bu yntau farw bore ddoe (ddydd Mawrth), Mehefin 2, yn chwech a thrigain oed. Fe'i ganed ym Mhentre celyn, ger Rhuthin; ac wedi gorffen ei dymor yn Athrofa'r Bala, aeth i fugeilio Eglwys Towyn, Abergele; oddiyno i Gaerwys ac ugain mlynedd yn ol yr aeth i Lanelwy. Efe ysgrifennodd Gofiant y Parch. Thomas Jones, Dinbych—un o gofiannau goreu Cymru yn y blynyddau di- weddar. Cleddir ym Mynwent y Cefn, ddydd Sadwrn nesaf, am 12.30.
I I 0 Faldwyn i Bont y pridd.…
I I 0 Faldwyn i Bont y pridd. II.-Ar gefn y ceffyl haearn yn ol. YR oedd cryn swyn ymysg y Cymrodorion a'r Cymreigyddion a gyrchasai i'r Gynhadledd a gynhelid dan amddiff yn cangen Pont y pridd. Gwelwyd Brynfab ar y llwyfan, a chlywyd llais Deri o blith y dorf eiddgar, Hyfryd oedd gweld Miss Matilda Pryse o Langurig yn yr ystafell, ynghyda Mrs. Morgan, gynt o Faes y Deri, neu'n awr, yn ol Gol. Y BRYTHON, Lluest Gurig. Gobeithio yr etyb mwy o'r Gogledd yr apel i fynychu'r Cynadleddau hyn. Nid aeth neb o Lanidloes, ond aeth dau o Gymdeithas ieuanc Llangurig. Nid gormod fyddai i bob Cymdeithas yn yr Undeb yrru cynrychiolwyr. Cawsom yr hyfrydwch o gyd-deithio a Mr. Rhys Phillips, Llyfrgell Gymraeg Abertawe Mr. Abram H. Thomas, Y.H., Llansamlet; Mr. Lewis Davies, ysgol- feistr hollol ffyddlon i'r Gymraeg a phethau goreu y bywyd Cymreig Mr. Meredydd, Tref orris a Mr. Spurrell Davies, etc., etc. Dyma ddyrnaid o bobl a'u dylanwad yn iach a dyrchafol ynglyn a'r iaith a'n llenyddiaeth. Bu raid i'm cydymaith ar y daith ymadael a mi yn y Porth. Ai i sbio hynt ei ddau frawd i Ynyshir dros y Sul. Euthum innau yn fy mlaen drwy'r Rhondda a Dyffryn Afan tua'm hen faes llafur at y Sul. Hyfryd cwrdd a hen wynebau, ond myglyd yw trefydd Morganpwg o'u cymharu a llethrau Plumlumon Sut yn y byd mawr ydygymydd Hyfreithon yng Nghwmaman wedi bod am rai blynyddau ar fronnau Plumlumon ? Dyma fy anhawster i wrth bicio i lawr y -tywydd braf yma. Wedi treulio Sulyn Llansawel, mewn cornel yn dwyn yr enw Bedd y Cawr-pe bawn i yno lawer yn hwy, y mae arnaf ofn mai y bedd fyddai'm rhan cyn pryd-cawr neu gorach— a chael ymgom a'r Parch. J. N. Jones a'i feistres gelfydd yn hen dref Castellnedd, prin y gwn beth i'w ddweyd am fwriad y ddevtddyn hyn o droi eu cefnau ar hen dref y Castell, a mynd i Gaerffili-pelltref braf dan drwyn Castell gwychach. Ond pob lhvydd iddynt wneud da i bawb yno, ac i lynu wrth yr hen iaith a'r BRYTHON. Yn ol y bu raid mynd tua Merthyr Vale nos Lun, i bacio erbyn bore dydd Mawrth. Yr oedd Rhagluniaeth yn dirion odiaeth wrthym—hin hyfryd a chared- igrwydd eithriadol ar hyd y daith. Wele dren naw fore dydd Mawrth—a Ritchie Brown yn ffyddlon fel dur, yn cyrraedd yn ol ei addewid. Mwynhawyd pryd maethlon.Ffwrdd a mab y Llwyn leir wedyn i lunio englyn yn Album Mrs. Jones, a minnau i roi gwynt i'r ceffylau. Troisom ein hwynebau tua Merthyr. Nid oedd llawer o hwyl dringo y. deg neu'r deu- ddeng milltir i ben Story Arms,felly trefnasom i fynd gyda'r tren i Dalyllyn ger Llyn Safadd- an, neu Llangors. Cawsom gwmni Mr. Mills, Y Darian, fel y'i gelwid flynyddoedd yn ol— un o Lanidloes, a Mr. J. T. Rees, Mus.Bac., i Dalyllyn. Gwelwyd cronfa ddwr newydd Merthyr. Myn hon ddarn anferth o wlad yn wely iddi ei hun. Gwelsom y ffordd i am- gylchu'r llyn. Heblaw bod yn gronfa ddwr i Merthyr, bydd hefyd yn olygfa syn i ymwel- wyr a dieithriaid. Y mae'n gwlad fach ni bron a mynd yn gronfeydd dwr i Loegr. Dacw ni yn Nhal y llyn. Pwy all ddweyd beth olyga Tal y llyn i hen. efrydwyr Trefeca ? Gresyn na chymrai amryw o'r hen efrydwyr ati i ysgrifennu llyfr ar Drefecca yn eu hamser hwy-for private circulation I Gwarchod ni, fyddai ddim eisieu potel ffisig byth wedyn Galwasom yn y Post Office y mae un o'r angylion puraf yn byw yno, mi gymraf fy llw. Bu'r Post Office yn gyrchfan bechgyn Trefeca am ysbaid hir cawsom yr hen groeso,- er galw'n ddirybudd. Draw a ni wedyn tua llyn Llangors. Aethom i mewn i sbio hynt Mrs. Price ac er ein syndod, daethom i wybod fod a fynno hi a Llangurig. Cawsom eto laeth pur a wyneb siriol fel yr arferem gael bob amser. Ffwrdd a ni at y llyn. Yr oedd yn wastad fel ceiniog, a'r cychod yn cael eu hadgyweirio erbyn prys- urdeb yr haf. Yr oedd Mr. Price wrth hi'n ddygn. Efe fu'n rhwyfo Mr. Rd. Bennett i Langasty ers llawer dydd. Edrychasomgyda syndod ar hen glochty Eglwys Llallgasty-lle yr argyhoeddwyd Howel) Harris, a dacw Ritchie yn ceisio galw i gof yr. hen draddodiad ynglyn a Llyn Safaddan. Wele bennill neu ddau gan Dyfed :— Dan gysgodau'r Bannau uchel, Pyramidiau Brychan dir, Dacw Lyn Safaddan tawel,| Fel y grisial byth yn glir Mae ysbrydion traddodiadau Yn yr hesg o gylch y Llyn, Ac yn sibrwd wrth yr oesau Y cynhyrfus eiriau hyn. Rhaid crbywyll un neu ddau arall tua'r diwedd, dlysed ydynt :— Dawel Lyn wyt brudd fel hiraeth, A diymchwydd yw dy glod Fel y gweddai i wasanaeth Carreg fedd y marw fod Mae canrifoedd yn mynd heibio, Yn ddiystyr o dy li' Nid oes ond y Bannau'n cofio Am y dref a gleddaist ti I gisial, sisial mae y tonnau Wrth y blodau ar y lan, Am wasgaru peraroglau Yn garedig dros y fan Natur, wrth wastraffu swynion Ar y glennydd, byth a chwardd Drych yn adlewyrchu'i choron, Ydyw Llyn Safaddan hardd. Wedi i Ritchie synnu digon, ffwrdd a'r ceffylauetoigyfeiriadtrefeca. Yr oedd Bry- cheiniog yng ngwisgoedd ei gogoniant. Ac erbyn dod i'r fan a'r lle-llecyn annwyl i Fethodist a gwir wladgarwr, ymdaenodd rhyw brudd-der drosom,—gweld yr adfeilion gyferbyn a'r siop, a rhyw lwydni hyd yr hen adeilad i gyd. 'Doedd fawr wahaniaeth rhwng y lie yn awr rhagor naw mlynedd yn ol, ac eithrio y gofal a ddanghosid yn adeg y Prifathro Prys i'w gadw'n symol glan. Dyna'r bai mwyaf a welais i arno'r diwmod hwnnw. Yr argraff a adawyd arnaf oedd fod y gogoniant wedi ymadael. Prun a ddaw hwnnw'n ol nis gwn. Y mae Sasiwn fawr i fod yno—bydd yn ei hanterth pan ymddengys y llinellau hyn, mae'n debyg. Fe dosturia rhywrai wrth hen gartref Howell Harris. Y mae'r hen bulpud yno, ac un arall o'r 11 -1 college r arm. Y mae eisieu gwneud rhyw drefn ar y llyfrau yno-hen lyfrau Pant y celyn a Matthews—rhag eu bod yn foddion magu dyciau fel ,v mae pethau. Er yr annhrefn a'r diffyg rhwbio a gloywi, y mae rhywbeth yn llefaru yn Nhrefeca a mantais fyddai cadw Trefeca yn urddasol er mwyn yr oesau a ddol. Diolch yn fawr i'r Parch. Baines Williams, B.A., B.D., am ei barod- rwydd i ddangos yr ystafelloedd i ni. Gwel- som hen ystafell Howell Harris-yr ystafell y bu farw ynddi, a'r Capel Coffa, ynghyda'r man ystafelloedd a'r hen adsilad. Oddiyma, aethom drwy Dalgarth—nid oedd hamdden i fynd i weld bedd y Diwygiwr. Yr oedd arnom eisieu cyrraedd Llangurig yr un dydd ag y cychwynasom. Aethom drwy Llanfair muallt eto. 'Dwn i ddim a adawsom ysbryd y Gyn- hadledd yn Sir Frycheiniog ar ein hynt, a beth am Faesyfed ? Ust! dacw geffyl Rithcie yn nogio. Coll- odd ei wynt; ond wrth lwc, yr oedd ty golygus gerjiaw. a aacw aaau lane glandeg yn hwylio mynd i ddarllen eu papurau newydd. Caw- som bob help ac er ein syndod, dau Gymro o Sir Fon oeddynt—un ohonynt yn fardd cad- iriol, a phriod y Hall o Garno. A thyna ni'n gyfeillion mawr mewn munud. A phwv feddyliech oedd yn byw yn y tý braf, golygus, ond Syr Marchant Williams. Ac yma y buom dros nos yn mwynhau croeso diail, ac yn son am Y BRYTHON a'i olygydd. Ydyw, Mr. Gol., y mae'r BRYTHON yn mynd i Rydfelen ym Maesyfed yn gyson. Yn fore trannoeth, aed drwy ardd Sy^ Marchant a'i grounds, ac yntau'n gorwedd yn wael mewn ystafell yn fy ngolwg. Yr oedd Dyfed wedi bod yno y diwrnod cynt. Prin yr anghofir y noson a gawsom yn Rhydfelen efo'r bochgyn mwyn, a'r feistres garedig yn son am wenyn, gerddi, a barddoni, etc. Er syndod i bobl Llangurig, yr oeddym yn ol cyn hanner awr wedi naw y bore hwnnw, wedi taith lawn o swyn ao o ysbrydiaeth.
DAU TU'R AFON.i \i
DAU TU'R AFON. I OEDI'R SEIAT FAWR i:pV I Bu raid oedi hanes y Seiat Fawr yn y Sun Hall hyd y rhifyn nesaf, oherwydd y dreth a roes y Gymanfa Gyffredinol ac Eisteddfodau'r Sulgwyn ar ein gofod. Lluddiwyd y Proff. David Williams, M.A., Aberystwyth, rhagdod i bregethu yn yr wyl gan farwolaeth ei dad yng Nghaergybi, a chymerwyd ei le fel traethwr yr anerchiad Saesneg yn y Seiat gan y Parch. J. D. Evans, Pont y pridd. PRIODI.— Yng nghapel Park Road, ddydd LInn, gan y Parch. J. Vernon Lewis, priodwyd Miss Cissie Parry (merch hynaf Mr. a Mn. John Parry, 1 Karslake Road) a Mr. Owen Tre.vor Lewis, Talysam. Y forwyn oedd Miss Olwen Parry, a'r gwas Mr. Herbert Lewis. Y briodferch yn hysbys iawn yn Eglwys Park Road, ac wedi bod yn weithgar iawn, ac yn ferch i un o'r teuluoedd mwyaf croesawus a pharod eu cymwynas yn y ddinas. Bu am flynyddoedd mewn swydd gyfrifol o dan y Gorfforaeth. Cyfranogwyd o'r neithior yn 1 Karslake Road, ac ymadawsant i dreulio eu mis met ym Mon. Yr oedd yr anrhegion yn lluosog. Preswyliant maes o law ym Mron y graig, Station Road, Talysarn.-R.J.G. .0- Y mae'r Parch. F. E. Jones, Oakfield, wedi gorfod gadael y Gylchdaith am ychydig wyth- nosau oherwydd gwendid iechyd, a chedwir ei le gan y Parch. J. Ellis Williams.  MR. DAVID MASON (Crugog).-Bu farw Mr. David Mason, ddydd Gwener, Mai 22ain, ar ol cystudd blin. Yr oedd yn aeIod ffyddIon o Eglwys Grove Street ers tros 21ain o flyn- yddau, ac yn fawr ei barch gan bawb, a theimlir colled ar ei ol mewn llawer cylch. Claddwyd ddydd Llun, Mai 25, yn Nhal y bont, ei fro enedigol—lie y dymunodd gael ei gladdu. Y prif alarwyr oedd Mrs. Mason (gweddw), a'r meibion Dewi Idris, Gomer, ac Arvon Mr. John Mason (brawd), Mr. a Mrs. Mason, Bryntirion Mr. a Mrs. Mason, Towyn Mr. a Mrs. Davies, Gwarcwmbach Mr. a Mrs. Jenkins, Winllan Mr. a Mrs. Lewis, Aber- dyfi a Mr. Roberts, Leicester. Cynhaliwyd gwasanaeth yng nghapel Bethel. Cymerwyd rhan gan ei hoff weiaidog, y Parch. David Adams, B.A., hefyd gan y Parchn. Thomas, Towyn — Evans, Derwenlas Jones, Talybont ac Evans, Llanegryn i gyd yn talu gwarogaeth uchel iddo fel cymeriad da. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu colled am dad tyner a gofalus. Huned yn dawel.-R.J.R. ooQ- Bu Mr. Edward Owen, 29 Somerset Road, Bootle,farw ym Mhen y mynydd, Llanfwrog, M6n, bore dydd Sul diweddaf, yn 47 mlwydd oed. Cleddid ef ddoe (ddydd Mercher) yn Mynwent Longmoor Lane, Fazakerley. Ceir rhagor amdano yn ein nesaf. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MRS. T. O. JONES.—-Yn blygeipiol iawn ddydd Mawrth, Mai 26, yn 18 St. Edmond's Road, Bootle, bu farw Mrs. Jones, annwyl briod y Parch. T. O. Jones (Try fan). Bu'n wael yn hir iawn. Yn gynnar ym mis Ionawr, cyn- helid cyfarfod gweinidogion Lerpwl a'r cyfaniau yng nghapel Wesleaidd Trinity Road, a gweinyddai Mrs. Jones wrth y bwrdd te. Drannoeth, gorfu iddi ildio i'w gwely, ac yno y bu, yn dawel a dirwgnach, nes ei symud o'i gwendid a'i phoen. Ni chafodd neb erioed well chwarae teg i wella. Nid yn unig gweinid arni yn gyson gan y meddygon lleol, ond gwnaeth ei brawd enwog, Dr. Lloyd Roberts, Rodney Street, a'i gyfaill, Dr. Buchanan, bopeth a allai dyfais feddygol oreu'r dydd ei wneud er ceisio'i hadfer. Pe bai arbed ei bywyd yn bosibl i allu dynol, buasai yn aros gyda ni heddyw. Ganwyd hi yn Llanrwst, hanner can mlynedd yn ol. Merch ydoedd i Mr. a Mrs. Roberts, Eirianfa, Priododd a'r Parch. T. O. Jones naw mlynedd ar hugain yn ol, ac o hynny ymlaen symudodd gyda'i phriod, yn ol trefn y Wesleaid, o gylchdaith i gylchdaith, gan lenwi ei lie gydag urddas fel gwraig gweinidog yr ofengyl. Claddwyd ddydd lau diweddaf, ym mynwent Linaere Lane, Bootle. Gwasanaeth wyd yn y ty gan y Parchn. John Felix, arolygwr Cylch- daith Oakfield, a T. Isfryn Hughes, Birken- head. Cynhaliwyd oedfa goffa yng nghapel Trinity Road, o dan lywyddiaeth y Parch. J. Felix. Darllenwyd rhannau o'r Ysgryth- yrau gan y Parch. R. Lloyd Hughes, Man- ceinion, a gweddiodd y Parch. John Owen (M.C.), Anfield. Siaradodd y Parchn. Hugh Evans, yr Wyddgrug Philip Price, Coed poeth a W. O. Evans, Mynydd Seion. Terfynwyd gan y Parch. John Evans, Bir- kenhead. Chwaraewyd y Dead March gan Miss Nellie Lewis, A.R.C.M. Gwasanaeth- wyd wrth y bedd gan y Parchn. J. Felix a T. C. Roberts, Gwrecsam. Ymhlith y dorf gwelsom y Parch. L. Edwards, Egremont D. Jones (M.C.), Edge Lane Pedr Hir W. Roberts (A.), Trinity Road), a swyddogion gwahanol eglwysi dwy gylchdaith Lerpwl, a chyfeillion perthynol i enwadau ereill. Derbyniwyd llu o lythyrau oddiwrth weini- dogion a lleygwyr, yn datgan eu cydymdeim- lad dwfn a'r teulu yn eu profedigaeth lem. A gorchuddiwyd y bedd gan wreaths a anfon- wyd gan berthynasau a chyfeillion. Huned ein hannwyl chwaer ei hun yn dawd,3 chysgod y Goruchaf a fyddo dros ei phrioct a'i plilant. Trefniadau'r angladd yng ngofal Mr. P. Lloyd Jones.—J.F.
Y CYMRO PDDIC4RTREF.
Y CYMRO PDDIC4RTREF. CARLTON, BARNSLEY.—Cynhaliwyd Cy- manfa Ganu lwyddiannus yma ddydd Sadwrn (Mai 9fed), dan nawdd Eglwysi Carlton, Leeds, a Bradford. Canwyd Cathedral Chant, Dyffryn Baca, Claudius, Peregrine, Wareham, Min yr Afon, St. Afatthew, Llantrisant, Aber- gynolwyn, Fflint, Llangan, Hermon, Maidstone, Atonement, a'r anthem Dyddiau Dyn sydd fel glaswelltyn (T. Davies, Ebbw Vale). Yr arweinydd eleni ydoedd Mr. D. J. Davies, Manceinion is-arweinydd, Dr. D. Davies, Carlton. Cyfeiliwyd gan Mrs. E. Morris, Carlton, a Mrs. W. Williams, Leeds. Llyw- yddion prynhawn, y Cynghorwr R. Lloyd Jones, Royston a'r hwyr, y Cynghorwr Broadhurst, Carlton. Llyvrydd y pwyllgor, Mr. W. Williams, Leeds: ysgrifennydd, Mr. T. Jones, Footpath, Carlton. Hon ydoedd y nawfed cymanfa i Gymry'r cylch ei chynnal. Ac ni bu yn ol i'w blaenoriaid. Treuliwyd y Saboth diweddaf yn Gyfarfod Ysgol. Gweddi'r Arglwydd ydoedd y Ma,es Llafur holwyd yr Ysgol gan yr ysgrifen- nydd. Treuliwyd yr hwyr yn gyfarfod amrywiaethol. Cafwyd anerchiadau gan Mri. Ed. Jones, E. Parry ac Ithel Machonald, a chanodd y plant, amryw ddarnau yn effeithiol iawn, dan arweiniad T. Jones, Footpath. Y mae Mrs. Macdonald yn wir deilwng o gan- moliaeth am y modd y dysgodd bennod o'r Rhodd Afam i'r plant, yr atebion a'r adnodau yn berffaith, a hynny mewn Cymraeg croyw. -T. Jones.
Advertising
I MW!OCS I BA PoWDER V GOREU YN Y BYD. HARTLEY & C o-, LIVERPOOL, 202 T,0NI>0If ROAD. SALES BY AUCTION EVERY TUESDAY AND FRIDAY AT ONE, SATURDAY NIGHTS AT SEVEN. VALUABLE HOUSEHOLD FURNITURE OF ALL DESCRIPTIONS. MAGNIFICENT NEW AND SECOND-HAND PIANONORTES, LARGE VARIETY OF BEDSTEADS BEDDING &0 EVBRY NECESSITY FOR HOUSEKEEPING. ATTEND THESE SALES AND SAVE AT LEAST 30 PER CENT. A MAGNIFICENT SELECTION OF SUPERIOR FURNITURE IS ALWAYS KEPT IN STOCK AND ANYTHING MAY BE PURCHASED BY PRIVATE TREATY. GOODS STORED. On view 8.30 a.m. to 9.30 p.m.: Saturday 1 p.m Telephone 1793 Royal. CONSIGNMENTS (EITHER LARGE OR SMALL OF ANY DESCRIPTION INVITED FOR THESE SALES. BEST RESULT GUARANTEED. W DAVIES, Conductor, Adjudicator, Accompanist. Teacher of Singing, Violin. a Pla a _.f ,-to Terms for Festivals, Concerts, Eisteddfodan. At HAFOD, DEGANWY, N Wales ALLAN Royal LIf\1 18,500 ton Quadruple-Screw Turbine Steamers ALSATIAN and CALGARIAN LARGEST and FASTEST to CANADA. To CANADA Exoress Weekly Service from Liverpool. The POPULAR PIONEER LINE. CHEAPEST way to Canada; shortest to W America Regular Sailings from Glasgow. Londonderry, London, Plymouth and Harve. ALLAN LINE, 19 James St., Liverpool; J4 Cocbspa St., S.W., and 103 LeadenhaU St. London, E.C. Liverpool Guardian Trade Protection Society 'Phone 4865 Bank. Wires" P r H gi!)(J," The Oldest Provincial TRADE PROTECTION SOCIETY A MUTUAL SOCIETY Governed by a Board of Honorary Directors. or terms write-F. MEATHER, i 13,-151 41 North John x M ■, o MITCHELL BROS. Marsh Lane, Bootle. English Manufactured MAPLE BLOCK FLOORING. All Sizes kept in Stock. Largest Stock in the Kingdom Phone 639 Bootle Tel. Ad. Peremptory" Liverpoo We undertake to cure your Skin Complain with our Vansyl SKin Treatment The guaranteed cure for Eczema and all aiiin affections. YOUR MONEY RETURNED if no cure is effected. Price, 2/6. Trial Size, I /I post free. D. H EVANS. M.P.S., Pharmacist, I 148 Lodge Lane, Liverpool.
O'R DE.
O'R DE. QAN ALBAN}- YR oedd un o fcibion awen talcen slip yng Nghymru ers talm yn pryderu ynghylch dewis gwraig. Fe'i cynghorwyd gan ddireidyn ungrefft ag ef i gyrchu at gartref cysurus mown ardal fras, lie y trigai gwraig weddw a'i merch oedd wedi eu gadael yn weddal gysurus o ran pethau'r byd hwn. Wedi ei fyned i'w gofwyo gwelodd fod y ddwy yn ddengar dros ben, a methodd yn deg a dod i bendorfyniad felly pan gafodd gyfle i gyfarfod a'i gyfaill drachefn, mydryddodd ei brofiad yn lled- chwith fel hyn Ni wn beth er a obeithwy Ar bar ddewis pwy ore o'r ddwy. Dyma Gymry'r De wedi caffael eisoes dair wythnos o cldewis ar chwech o ferohed teleid yr awen ddramatig, set Change, The Poacher, gan J. O. Francis, ysgolfeistr o Lundain; Ephraim Harris a Ble ma, fa gan D. T. Da vies, ysgolfeistr o Lundain etc Ar y Groesffordd, gan y Parch. R. C. Berry, gweinidog yr Anni- bynwyr yng Ngwaelod y garth: a Phont Orevayn, gan T. E. Ellis, enw lien ar yr Arlywydd Howard de Walden. Anodd fydd gan neb grcdu fod sgrifennu drama yn" fwy camp a chywreinbeth nag ymarfer ag un o geinciau ereill Ilenyddiaeth, gyda'r pedwar mesur ar hugain yn y fargen. Trwy galed- rwydd synhwyrol a diwydrwydd dyfalbarhaus yn holl foddion y chwaraefa y daw'r dramod- ydd o Gymro yn ben campwr, megis y daeth Ibsen yn Norway, Moliere yn Firainc.a Synge yn y Werddon. Os ydym ni'r Cymry am gael gan ein bechgyn talen tog i ymroi i weithlo dramodau Cymraeg, nid i ddinas Caerdydd y rhaid mynd am ymgeleddus nodded, nac ychwaith i Ferthyr, canys er cymaint fu'r ohwythu ar utgyrn cenedlaetholwyr o fewn caerau'r ddwy dref hyn yn y Deheudir ar hyd y blynyddau, bychan bychan iawn oedd firwyth eu dylanwad i'w weled yn y cynull- adau teneu a ddaeth ynghyd i wrando Ephraim Harris, un o geinbethau'r mudiad newydd sy'n aros i'w throsglwyddo mewn heddwch a hiroes i serch y genedl. Y mae'n rhaid i'n hawduron wrth groeso a chymerad- wyaeth eu cydwladwyr, onite fe'u gwelir yn bwrw eu hunain i blith y Saeson. le y fiaeson yr englynodd rhyw brydydd iddynt Am sonn y Saisonn ai swydd-ni charwn Nych oer naws beth afrwydd ai klecc megis kylacwydd ph-ridl phradl didl dadl giglgagl gwydd. Gwylied nad yn Lloegr wedi'r cwbl y ca talent y Cymro fwyaf o chwarae teg i ddat- blygu, ac mai boddloni ar sentiment a swn a fydd ffa wd yCymry didaro yng Nghaerdydd a Merthyr. Hynaws i mi oedd darllen dro yn ol eiriau'r Cymro glewddoeth a phybyr, If or Williams, M.A., sy baroted ei bensel yn dodi ar gof a chadw broddegau cain a syml cyffredin Gwynedd pan y bo ar ei daith. Dyna'r fendith a wnaeth Synge yn y Werddon, a gwyn fyd na fai gwyr dysg trwy Gymru bon- baladr yn gwneuthur yr hyn a wna'r Athro ieuanc o Fangor. Wele ei eiriau. yn annog i bwrpas ei gydwladwyr ynglyn a pherfformio Aelwyd Angharad :—" Da chwi, rhowch groeso iawn iddynt, achos drwy ddramodau fel hyn, a chwmrilau lleol fel hwn, y paratoir y ffordd i'r ddrama fawr sydd yn sicr o ddyfod i Gymru un o'r dyddiau nesai yma. Fel hyn y darganfyddir y chwaraewyr talentog fel hyn y diwyllir ac y disgyblir hwy fel hyn hefyd y gorchfygir yr anawsterau cyntaf mewn dramayddiaeth. Meistr pob gwaith yw ymarfer, ac ni fedrwn gael y dramodydd heb iddo ymostwng ar y dochreu i ddysgu egwy- ddorion ei gelf-v ddyd, sy tu hwnt i'r lien, ar y llwyfan." Dyna i gyd yw'r angenrhaid mwyaf, sef croeso calon i'n bechgyn a'n marched talentog. Ac fel un a fu dri mis cyfan yn Llyfrgell Arglwydd Mostyn, yn gweithio ar hen gronicl o oes Harri'r Wythfed o'r enw,/ sef "Llyfr Hanes o waith Ellis Gruffydd y Milwr o Dre Galais, mentraf ddweyd, crechwened a grechweno, nad yw anhygoel y bydd i Gymru gynhyrchu Shakes- peare unwaith y ca hi y campwaith clasurol a llenyddol hwnnw yn ei grynswth mewn print i fod yn drysor ymhob llyfrgell man bentrefydd yng Nghymru. Dyna dipyn o destyn short i'm cydwladwyr Philistaidd (yr wyf hoffed ohonynt) ar hyd misoedd yr haf yma. 14d yw anghrediniaeth yn blino llawer ar grefydd y Cymro, eithr gweithreda'n rhone yn ei fyd llenyddol a meddyliol. Diffyg ftydd ynnom ein hunain, dyna wendid aruthraf y genedl- aeth. "CHANGFJ." Nos Lun, yr unfed ar ddeg o fis Mai, daeth eynhulliad da i'r Chwaraedy Newydd, Caer- dydd, i roi dameid prawf o'r tipyn croeso oedd yn aros mudiad Cwmni'r Ddrama Genedl- aethol. Chwaraeid Change, drama a frndith- iwyd aca urddwyd tan nodded y Stage Society, yn yr Haymarket Theatre, Llundain, ar y nawfed o fis Rhagfyr diweddaf. Cafodd dderbyniad croesawus gan fwyafrif gwyr profiadol y wasg yn Llundain, ac fe'i cipiwyd. gan yr Americanwr Ilygadog, a dywedodd Mr. Lyn Harding wrthyf iddo deithio tros dri chant o filltiroedd, efe a'i wraig, er mwyn bod yn Efrog Newydd i weled first night campwaith y Cymro o Ferthyr-—-Mr. J. 0. Francis. "Pan gododd y lien ar yr Act gyntaf," ebe Mr. Harding, yr oedd gwydd- folion y seddau ffrynt neu'r stalls yn ddifater angySredin, un yn dweyd wrth y Hall, Ok this is another of these Labour plays, ond ymhen ennyd neu ddwy, wele sylw pob enaid yn y chwaeardy wedi ei hoelio ar stori John a Gwen Price, y tad a'r fam, gyda'u helyntion yn tywys eu plant i lwybrau dysg ac anrhydedd, trwy'r aberth a'r hunan. ymdrech galetaf." Dengys y gwaith y newid sydd wedi bod ar syniadaeth yn ystod yr amser y bu'r rhieni crefyddol yn magu eu plant. Gwr o ychydig fanteision oedd y tad, un a ddaeth oddiar y tir i fyd y lofa, a hen nodwoddion meddwl y dosbarth amaethyddol wedi greddfu yn ei egwyddori6n a'i fywyd. Hytraeh yn sur ac anfwyn ydyw wrth ganfod meddyliau newydd a chyfeiliornus a daenant eu cysgodion duon tros ieuenctyd y glofeydd. Yr oedd wedi cymeryd gofal i dymheru ei fechgyn jr.- eu blynyddoedd ieuengaf a gwyddorion; crefydd, fel y byddai eu dewis hwythau yn haws ac yn ddiberyclach. O'i enillion, fe anfonodd ei fab John Henry i Goleg Caerdydd, w baratoi ar gyfer y weini- dogaeth. Cgdw^i fab arall, Gwilym, yr hwn oedd eiddil 0, gwanllyd, adref yn.gwmni i'w i fam Gwen Price. Ai'r trydydd mab i'w orchwyl bob dydd ar y talcen glo, a daeth yn genaw peryglus ond gloyw ei araith fl ar- weinydd ei gydweithwyr mewn streic. Sofydlai'r tad ei obaith mwyaf ar y mab oedd yn y coleg yr oedd ganddo rhyw anesmwyth wane i'w woled yn tra rhagori ar blentyn ei gymydog Isaac Pugh f,1 pregethwr, a hyfryd oedd y rhagolwg iddo o'i weled ryw ddydd yn ymogoneddu yng nghampau deallgar. ond nid oedd hyn i fod. Dyma air yn dod fod John Henry yn troi ei gefn ar y weinidogaeth, ac yn dod adref. Dyma ddechreu ar ofid y teulu, y tad yn ddidostur a'r fam o'r ochr ara.11 a'i thynerweh hynaws a'i gofal gwyliad- wrusyn coisio lleddfu pleidiau. Tros y drws y gyrrir John Henry yn ddiseremoni ar ol ymdrafod gras oddiwrth ei dad. Lleddir ei mebyn eiddil gan y milwyr yn helynt y streic wrth iddo geisio tynnu ei frawd Lewis o Ie poethaf y cythrwfl. Y mae Lewis druan bron ynfydu am y cred taw arno ef oedd y bai i Gwilym fyned i fedd anamser. Mewn brwd-ddadl, clywodd ei dad yn ei ddisgrifio fel un a nodyn Cain arno. Pair hyn i'r trydydd a'r olaf o'r meibion gefnu ar yr aelwyd, a mynd tros y rhiniog i'r byd mawr ac astrus, gan adael y fa.m yn destyn dolurus i doimladau cudd y dyrfa ac yn yr ysbryd hwn daw i feddwl un hen gyngor Jeremy Taylor Cofiwch byth nad posibl i chwi wneuthur dycriach cam a'ch plant na'u clymu o'uhanfodd arhaffau o groesdueddiad. Yn ddios a diddadl,saif GwznPrice fel portread o'r fam Gymreig ddiledryw, yn gyfarystlys a Mari Lewis, pictiwr dihafal Daniel Owen y nofelydd. Chwaraewyd y rhan yn rhagorol gan Miss Rhuamah Rhys, brodores o Garnant, Shir Gar. Cynorthwywyd hithau gan Mr. David Morgan (Dewi Ceredigion), fel John Price y tad. Gwnaeth Gwilym Phillips, brod- or o Aberdar, ei ran yn odiaeth o dda, ac yn ychwanegol at y rhai hyn yr oedd Mr. Ponto James, G. Jones, Phil John, Janet Evans, Tanad Powell, David Hughes a T.C. Williams. Cafodd Change dderbyniad rhag- orol. Yr oedd Mr. J. 0. Francis yn bres- ennol, a bu raid ei gael ger bron y dorf ar y diwedd, pryd yr anerchodd y llu ag ychydig eiriau pwrpasol. EPHRAIM HARRIS I Nos Fawrth, ychydig oedd o fewn y Chwaraedy oddigerth yn eisteddleoedd y prisiau isaf. Prawf ydoedd hyn taw'r werin sydd fwyaf ymdeimladwy i fudiadau budd- i olaf y gen dl wedi'r cwbl, yn enwedig os y ceiff hi arweinwyr diogel ac ungalon. Mab oedd Ephraim i wr bucheddol newydd farw, oedd yn ei amser yn ben blaenor ar y ddiadell o grefyddwyr a addolasant ym Methesda, y capel cyfagos i'w fferm, yn un o ddyffryn- noedd Morgannwg. Pan gyfyd y lien, dacw Ephraim yn y gogin yn siarad a'i fam. Myn wneuthur cyffes o gamwri a gyflawaodd pan aeth o gartre dro'l ol. Yr oedd am gydnabod ei fai gerbron yr eglwys. Gan fod y fam yn gweled na ddylai ei fab ddwyn anghiod ar enw a tharian ei dad ymadawedig trwy ddangos holl gilfachau ei galon yn gyhoeddus, hi a'i cynghorai i beidio a phwyso yn rhy gysewin hyd at y gronyn yng nghyf- rifon ei edifeirweh. Ymostyngodd i'w dy- muniad, ond nid heb i hynny bwyso ar ei gyd- wybod ar hyd rhediad y ddrama. Priodedd, collodd dau neu dri o i blant,aeth ei wraig i'r bedd. Edrychai ar y cwbl fel llaw Rhagfun- iaeth yn ei geryddu am yr amryfusedd a gyf- lawnodd ym more'i oes. Dacw fe o'r diwedd a dim ond un ferch iddo yn gwnouthur i fyny'r cwbl o'i deulu. Honno yn taflu ei hunan mewn priodas a dyhiryn diwerth, nes o'r diwedd y mae'r cwbl yn edrych fel rhyw dynghedfen grafangddu. Ceidw ei grefydd, ac yn wyreb ei holl adfyd y mae yn ddisgyblwr cadarn yn ei eglwys. Myn dorri ei ferch ei hunan allan o freintiau'r eglwys ond daw Nemesis y chwarae ym mherson rhyw Dinah, merch fynyddig a gwyllt ei hyrnarweddiad, na fu'r byd yn rhy garedig wrthi. Y mae areithiau'r ferch hon, sef Dinah, yn amheu- thun y ddrama. Drama wedi ei chynllunio yn weddol ofalus ydyw ar y cyfan. Dengya yn ddiameu fod ei hawdur yn manteisio ar bob cyfle a gafio yn y Brifddinas i .ymbor- fieithio yng nghelf y dramodydd. Gallwn foddwl ei fod yn gyfarwydd nid yn unig ag un o ddramodau Ibsen, eithr a'r cwbl ohonynt, gan fod awyrgylch y gwr mawr hwnnw yn amlwg iawn yma a thraw ar hyd ei waith eithr cyn y diwedd, fe ga tymer wresoo- y Cymro yn y dramodydd yn drech na dull di- obaith Ibsen o ddiweddu drama. Gyda nodi gwaith llwyddiannus Miss Lizzie Evans fel Dinah, ni a adawn y gwoddill erbyn yr wyth- nos a ddel, rhag trethu'n ormodol ar ofod y golofn. Yr oedd Mr. D. T. Davies, yr awdur, yn y ty, a chafodd dderbyniad croesawus gan y Cymry oedd ffyddlon i'r Gymracg. Y mae Change ac Ephraim Harris yn argraffedig ac i'w cael gan y llyfrwerthwyr. Gwnawn sylw o Ar y Groesffordd, Ble ma fa,Pont Orewyn, a The Poacher yn y brithnodion eto.