Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Colofn y Gan a'r Gardd. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Colofn y Gan a'r Gardd. I [GAN G.W.H]. I Y MHLITH y Cymdeithasau wna waith rhagorol ar Lannau'r Mersey, ceir Cor Undebol Cymreig a Ch6r Meibion Wallasey, tan arweiniad medrus Mr. Henry Roberts, blaenor y gan yng nghapel M.C. Seacombe. Brodor o'r Garth, Llangollen, yw Mr. Roberts, a llawenhawn yn fawr yn Ilwydd ein hen gyfaill. Cefais yr hyfrydwch o dreulio noson yng nghymdeithas y Côr yn fuan wedi dod ohonof i breswylio i Lerpwl, ac yr oedd yn amlwg fod y Cor a'r arweinydd yn deall ei gilydd i'r dim, a bod ganddynt barch mawr iddo fel dyn, a syniad uchel am ei allu fel eerdddr. Arweiniai a disgyblai Mr. Roberts y Cor mewn modd effeithiol iawn. Sefydlwyd y Gymdeithas ryw 4 neu 5 mlynedd yn ol, a rhifa oddeutu 60. Cynorthwy uit Eglwysi ac achos- ion teilwng yr ardal yn barhaus, a hynny'n hollol ddi-dal. Canasant nifer o ddarnau clasurol, yn gydganau a rhanganau, etc., mewn amrywiol gyngherddau a chyfarfodydd yn ystod y tymor diweddtif, yn cynnwys eu cyngerdd blynyddol hwy eu hunain, a mawr ganmolid hwy yn y newyddiaduron lleol. Y mae'r arweinydd a'r Cor wedi gweithio yn ddiwyd, ac y mae 61 diwylliant rhagorol ar eu canu. Llongyfarchwn hwynt ar hyn, yn o gystal ag ar y gwaith da a wneir ganddynt er cynorthwyo achosion teilwng, yr hyn sy.n glod mawr iddynt. Llwydd mwy iddynt eto.

Advertising

.YN SEIAT FAWR

Advertising

DOlUR Y -BYD.-I