Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

,Y Golofn Gymysg I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Golofn Gymysg I AFALLON.—Y Parch. D. Emrys James, Pont y pridd, oedd yr Afallon a enillodd Gadair Eisteddfod Môn ddydd Llun y Sulgwyn diweddaf. Daw rhagor amdano yr wythnos nesaf. NATUR ACHUB.-Achubodd Wm. Ed- wards, un o gychwyr Llandudno, ferch ifanc ar fin boddi yn y bau hwnnw bore dydd Sul I diweddaf. Y mae natur achub yn gryf iawr. yn nheulu Edwards, canys achubodd ei dad ddeg ar hugain o fywydau, a'i daid lu o fywydau o flaon hynny. Y maent fel cyrc yn y dwr. FFAGLU'R DAS.-Aeth tas goed ar dan ar ystad Gwydyr, Llanrwst, nos Wener ddi- weddaf, a thrwy waith caled y liwyddwvd i gadw'r goedwig fawr rhag ffaglu. -4- GAEL EI OUSAN A'I FENDITH.— Y mae Papistiaid Treffynnon yn ychwanegu daru at eu heglwys yn y dref, ao yn y darn newydd y cedwir delw'r Santes Gwenfrewi o hyn ymlaen. Caed honno bymtheng mlynedd yn ol, ar draul o gannoedd o bunnau. Aed a hi i Rufain, i gael cusan a bendith y Pab Leo xiii. EISTEDDFOD FABI. Mrs. Lloyd George oedd y prif lefarydd yn arddanghosfa'r babanod a gynhelid yn Rhostryfan ddydd Sadwrn diweddaf Dr. Parry-Edwards yn beirniadu. Rhoes Mrs. George gyngor neu ddau campus i famau'r fro, sef (I) am daflu pob dummy sugno i'r domen, y geriach afiach iddynt (2) magwch eich plant eich hunain, ac ar laeth eich bron chwi'ch hun (3) peid- iwch byth, waeth faint o gnoi fo ar y bychan, a cheisio'i leddfu a'i ddistewi a llymaid o gin na dim math ar alcohol, a rhestrwch bob plentyn tan saith oed yn aelod o Fyddin y Ruban Gwyn. Ac ebe hi ymhellach :— Pan oeddwn i wrthi'n magu'm hogyn cyntaf-anedig, pwysai'r nyrs arnaf, yn ol arfer yr adeg honno, gymeryd bara a chwrw. Ond gwrthodais gymryd yr un dafn, a daroganai'r ryrs na chawn byth fyw i fagu'r hogyn. Ond cefais fyw i'w fagu o a phedwar o blant ereill heb ddiferyn o gin na dim bara a chwrw." -.0.. UN 0 WYLLIAID YR ALWEN.-Y Mae James Adams, navvy o waith dwr yr Alwen, Cerrig y drudion, wedi ei fwrw i sefyll ei brawf yn y frawdlys ar gyhuddiad o dorri i Bias yn Green, Dinbyeh,—preswyl Capt. Watkin Da vies. "Navily a sowldiwr am anfoesoldeb," ebe un o'n beirdd ond cofiwch sut y'u megir. LLYSNAFEDD LLOEOR.—Ymwelodd cynifer a 93,000 o'r tripiaid swllt ac ereill a Chaergwrle rhwng Ebrill a Hydref y flwyddyn ddiweddaf, a'r rhan fwyaf o lawer o'r 93,000 yn tripio yno ar y Sul, i feddwi a gadael Ilysnafedd Lloegr hyd y lie. YR OES YN ESPYN.-Tystiodd Dr. Travis, swyddog iechyd, yn ei adroddiad i Gyngor Gwledig Conwy ddydd Gwener di- weddaf, fod oes yr holl Sir yn estyn cyfar- taledd y marwolaethau'n gostwug yn gyf- lym; ac os elai ychydigyn iseto, y cai pawb bron gyfle i gyrraedd y deg a phedwar ugain neu'r cant oed. Ond dod wnaiff yr Angau, waeth faint a ysgowch 'arno. Cofiwch fod ei ofn, cyn ei ddyfod, yn fwy o boen na'r Angau ei hun pan ddelo, canys ebe'r hen Archesgob Tait, Caergaint (a'i hofnodd yn hir), 'Dydio ddim cymaint o beth wedi cwbl," ac a droes ei wyneb at y pared i farw yn y fan, mewn hedd a hamdden. Dyma'r frawddeg yr hoffwn i ei haeddu, allan o Macbeth :— Nothing in his life Became him like the leaving of it." BLAENION YR YSGOL GERDD.- Cyfarfu pwyllgor Ysgol Gerddorol i Gymru 3 n nhre'r Mwythig ddydd Gwener diweddaf. Y Prifathro Reichel (Bangor) yn y gadair, a'r rhain yno Mrs. Mary Davies (Llundain), y Proff. Granville Bantock (Birmingham), y Proff. David Evans (Caerdydd), Mri. O. Owens ao E. T. Davies (MerthyrJ, a Dr. Roland Rogers (Bangor). Daw eu hadroddiad ger- bron cynhadledd sydd i'w chynnal yn Llan- drindod maes o law. TESTYNAU ABERYSTWYTH.-Dyma rai o destynau a gwobrwyon Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, 1915: f40 am draethawd ar hanes datblygiad a dylanwad Cymdeithasau Cymreig y 19eg ganrif. ,£25 am ddrama wreiddiol. f20 am gantata. Addawa Mr. D. Davies, A.S., E20 at gronfa'r L wyl, a dyry ei chwaer, Miss Davies, Llan- dinam, f40 at y gwobrwyon yn Adran Celf. £20 a chadwaen arian am awdl ar Ystrad Fflur" a f20 a thorch arian am bryddest ar destyn agored. jE25 am y perSormiad goreu o ddrama. Testyn y brif gystadleuaeth gor- awl: Sanctus o Mass in B. Minor (Bach), i'w ganu yn Lladin, darn o Yetorm D. Jenkins a Cold Winter Debussy E150 i'r cyntaf, a £45 i'r ail g6r. Corau Meibion: The Druids (Parry), Dance of the Gnomes (MacDowell) a Phantom Host (Heger) S50 i'r goreu, 910 i'r Sil. £ 7/7/- i'r c6r ysgol goreu am ganu oaneuon gwerin. Beirniaid y canu: Dr. Allen, Dr. C. Williams, Dr. Vaughan Thomas, Dr. Caradoc Roberts, a'r Proff. David Evans. Canu gyda'r tannau a'r delyn, Dewi Mai o Feirion. -< > aYNGOR CRAFOG.-Onid oes gan ambell hen Gymro ffordd grafog o bwytho, hon yn enghraifft o'r Drych (America) :— Mri. Gol.—Caniatewch i mi trwy gyf- rwng y Drych clodwiw gyflwyno y cyngor canlynol i sylw y rhai hynny o'm cyd- genedl hoff a boenir gan benysgafnder, ac a gwynant byth a beunydd am gael yr 5{ iaith Saesneg i'r eglwysi Cymreig. Cymerwch hanner owns o bowdwr ysbryd cenedlgarol, a chymysgwch ef yn dda â IIoAd llwy fwrdd o oil cydwybod, a gwaSgwch iddo ddeuddeg tropyn o syn- nwyr t-yffredin yna tywalltwch hwy i beint o deimlad, a berwch hwy am dri munud,, ac wedi iddynt oeri i wres y tc gwaed C'ymroig, gratiwch iddynt ychydig jingir hu nanymwadiad. Sicrhaf chwi, os bydd'wch ffyddlon i ddilyn y cyngor, trwy gyfraeryd llond llwy cyn mynd i'r gwely blob nos, a'r un modd y peth oyntaf bpb bore, y llwyr wella chwi yn fuan. Y *Tla ni fyddai eisieu i'r eglwysi drwblo g-N,,d a chwi, nae i ehwithau dcliodd "ef canlyp iadau penysgafnder." SYTHU DROS YR ADRODDWYR.- Dyma air o wirionedd a ddywed un o oheb- yddion Tarian y Gweithiwr Credaf y dylai'r sawl a ymgymero a beirniadu adrodd naill ai fedru deal* barddoniaeth neu allu adrodd ei hunan. Mae cwyno eithriadol ym myd yr adrodd heddyw, yn fwy felly nag ym myd y canu, "am fod pwyllgorau yn dewis beirniaid "anghymwys a dibrofiad. Ynglyn a'r adran gerddorol cawn ddynion wedi pasio yn Doctors of Music, ond nid felly gyda'r adroddiadaii. Na,y cwestiwn ofynnir yn "amI gan bwyllgor yr Eisteddfod cyn perodi beirniad yr adroddiadau yw Pwy sydd yn pregethu gyda ni'r Saboth dilynol ? Gwna ef i feirniadu yr adrodd- iadau, pa un a yw yn deall rliywfaint am II adrodd ai peidio." DRAMODYDD ]TAEL0R.~Y mae Mr. R. D. Morris, Coed poeth, wedi ysgrifennu I pedair drama, sef Gwr y Plow, Dr. Prys, Y 1 Mistar, a Samuel Solomon. Chwaraeid y ddwy olaf nos Sadwrn yn Neuadd y Plwy, yng ngwydd tyrfa fawr a chynnes iawn ei chlap. Y mae gan yr awdur syniad uchel am werth y ddrama, ac amcan craft sut i'w phlethu'n naturiol ac addysgiadol.

O'R BALA. I

MINION MENAI.

Advertising