Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Trem III-Cenadwri o'r Mor.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Trem III-Cenadwri o'r Mor. Digwyddiad a barodd fraw a gresyndod i'r holl fyd gwareiddiedig fu suddiad disymwth yr Empress of Ireland, a'r dinistr ar fywydau a chysuron a achoswyd trwy hynny. Aruthr fu colli cynifer o fywydau, ond mae'r try- chineb yn cynnwys llawer mwy nag i dros fil o bersonau drengu mor ddisyfyd. Bydd effeithiau'r anffod yn parhau yn hir ar y rhai a amddifadwyd o berthynasau a chyfeillion. Gwneir ymchwiliad dioed a thrwyadl i'r achos o'r digwydd. Un o'r pethau mwyaf nodedig ynglyn a'r peth fu'r ymdrech a wnaed gan amryw i waredu ereill-hyd at aberthu eu bywyd er eu mwyn. Gwelwyd hunanaberth dynol mewn goleu disglair, a phair inni gredu fod llawer o Gristionogaeth ddi-ddefod yn y byd, ond cael amgylchiadau arbennig i'w chyffroi. Caeasid yr holl sefyllfa i'r ymgais o ddianc rhag tranc, a helpu ereill i wneuthur hynny. Llym iawn yw beirniadaeth y cyhoedd ar y neb a esgeulusodd gymorth i ereill yn awr y gofwy. Sylfaenir adolygiad y byd yn gyffredinol ar y dybiaeth mai annynol fuasai i unrhyw un anwybyddu perygl cyd- ymaith, a'i adael i gymeryd ei siawns, os oedd bosibl ei helpu. Lie bynnag yr oedd y bai, amlwg yw fod pob plaid yn yr amgylchiadau yn awyddus i glirio ei hun oddiwrth y cyhuddiad o ddifrawder ac esgeulustra. Golyga hyn ddeffroad y natur oreu mewn dynion, a phan aeth y Hong fawr i lawr, fod cydwybod a chalon pobl yn dod i fyny'n nerthol o bob cysgadrwydd ac anystyriaeth. Yn awr, onid yw'n resyn fod yn rhaid cael digwyddiadau eithriadol o gyffrous ac annis- gwyliadwy i beri deffroad fel hwn ? Ac onid rhyfedd na baem yn canfod y dinistr a achosir mewn ffyrdd ereill—dinistr mor golledus ar fywydau, mwy poenus yn ami, a mwy niweidiol he fyd. Er echrysloned y difrod trwy suddiad yr Empress, nid oedd ond ychydig mewn cymhariaeth i'r trysor, y byw- ydau, a'r cymeriadau, a lyncir i ddistryw gan y diodydd meddwol yn ein gwlad ni. Gwir y dywedwyd,—" Boddir mwy yn y cwpan nag yn y mor." Mae'r trychineb hwn yn mynd ymlaen beunydd beunos. Eto, cyn lleied y cyffro Gwir nad oes neb yn barod i ddwyn cyfrifoldeb y galanastr hwn chwaith. Ceir y naill blaid yn bwrw'r bai ar y llall. Nid yw'j Llywodraeth amoi addef, eto'r. ei oddef, ac, fel y dengys Plenydd, yn bur ddigyffro'n ddi- weddar. Ymarhous iawn ydynt i ganiatau i Ferched y Fot newynu eu hunain i farwolaeth ond nid mor ymarhous yn caniatau i ddeiliaid y Goron wenwyno eu hunain i farwolaeth. Erchyll yw difetha darluniau celf, plasau, adeiladau, ac yn enwedig addoldai ond mwy y golled o ddinistrio iechyd, cymeriadau, cysuron, cartrefi, a nerth anianyddol a moesol y genedl, fel y gwneir gan anghymedroldeb. Ac mae'n bosibl dibynnu gormod ar y Senedd. Y duedd gyffredinol yw i'r wlad anghofio'r achos dirwestol oni fydd gerbron y Senedd. Rhaid gosod y cwestiwn i fyny ar Iwyfan y Senedd cyn y gwel rhai ef, nac y credant fod ei dro i gael sylw neilltuol hyd yn oed yn y wlad wedi dod. Camgymeriad mawr yw hynny. Gellir bod yn bur sicr na wna'r Senedd fawr yn ffafr dirwest oni fydd i'r wlad yn gyntaf wasgu'r mater arni, a tharanu ei chri ar ei chlyw. Hwyrdrwm o glustiau yw hi, a rhaid gweiddi'n uchel, ac yn hir, cyn y gwrendy. Gwyddom nad yw'r Llywodraeth na'r Senedd yn hollalluog, ac mai mawr ac anodd yw'r ymdrechion ar hyn o bryd i ddwyn barn i fuddugoliaeth ynglyn a, mesurau mawrion ag y mae'r wlad yn gyffredinol yn disgwyl am- danynt. Yr un pryd, cafwyd cyfle'n ddi- weddar i'r farn ddirwestol gael ei mynegi yn Nhy'r Cyffredin, a drwg gennym mai digon amwys ac egwan a fu hi ar y cyfan. Ond nid ydym yn ddiobaith. Un arwydd addawol yw y IIe mwy a roddir beunydd i addysg ddir- westol y plant a'r bobl ieuainc. Ynglyn a chyfarfod yr Undeb Annibynnol a gynhelir yn y Rhyl yr wythnos nesaf, rhoir un cyfarfod arbennig i'r plant, a bydd i amcanion y Gobeithlu gael lie amlwg ynddo.

Advertising

Trem I-Utgorn Dirwest.I

Trem II-Yn Eisieu: Dynion…

Advertising

Y (10; Oddicartref.