Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Campbell & Lumby, THE LIVERPOOL JEWELLERS Desire to draw the attention of I l, INTENDING PURCHASERS of PRESENTS that now here in Liverpool can be seen such a huge assortment of suitable articles at such low prices-consistent with quality-your visit to inspect same will be welcomed. Hours of Business 9 a.m. to 7 p.m. Saturdays 9 a.m. to 1 p m. Off  OLD POST OFFICE PLACEél\
- Ffetan y Gol.
Ffetan y Gol. Cofied pawb fo'n anfon i!r Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei genau:- I NITHIO'B GAU A NYTHU'R GWIR. I Proffwyd, wir! I At Olygydd Y BRYTHON. I SYR,—-Diolch lawer i chwi am eich adol- ygiad gonest dro yn ol ar y ddrama Beddau'r ProUffydi-y caricature mwyaf gwrthun ellid ar Seiat a Thloty, ar grefydd a phroffwyd. Ac eto, canmolid y swp anghysonderau gan ddosbarth arwynebol fel rhywbeth ysbrydol- edig bron. Gwyn fyd na chaem ychwaneg o adolygwyr gorest i Gymru, neu ddiluw i foddi y rhai anonest, fel y glanheid ein hen wlad oddiwrth y ffug feimiadaeth sydd yn gwen- wyno ei hawyr.—Yr eiddoch, GYvYNEDDWR. Eisiau'r dy yn Ile'r di., I At Olygydd Y BRYTHON. SYR.-Nid oes yr un papur Cymraeg ond Y BRYTHON yn codi awydd ysgrifennu arnaf R. Mae'r BRYTHON mor naturiol ac ieuanc ei ysbryd, ac mor ystwyth-gryf ei arddull a'i iaith, fel y bydd dyn yn disgwyl amdano bob wythnos gydag awch. Ond y mae un gair yn ei orgraff fydd yn fy mhoeni i, sef y gair di- ddordeb. Duw wyr," chwedl Robert Jones, Llanllyfni, tha gen i mono fo. Oes rhywun yn rhywle yn siarad felly ? Dyddorol oedd pethau yn Sir Feirionydd pan oeddwr i yno bob amser. Gwyn fyd na buasai farw yn y bru." Mae'n ddiameu fod yr orgraff newydd yn ganwaith gwell na'r hen mewn llawer ystyr ond mae ambell air yn bur anodd dygymod ag ef. Dyna'r gair penillion, er enghraifft. Tybed y clywyd rhywun yn rhoi h yn y gair wrth ei siarad. Ni chlywais i, beth bynnag.—Yr eiddoch yn gywir, DYDDOROL. Dirprwyon y Gymanfa Gyffredinol. At Olygydd Y BRYTHON. MR. GOL.-A fyddwch garediced a rhoddi i mi le ar eich tudalenau i geisio symud ymaith y camargraff roddwyd ar y Gymanfa yn Bootle ac ar y wlad yn gyffredinol ynglyn a sylwadau'r Parch. John Williams, Brynsien- cyn, a'r Parch. J. Cynddylan TorteA, D.D. ? Cyfoiriodd y ddatl at y gwastraff mawr ynglyn ag anfoniad Dirprwyaethau i gynulliadau blynyddol y Presbyteriaid. Dywedodd Mr. Williams fod y Gymanfa Gyffredinol yn costio o £ 800 i E900 yn flynyddol, a'r casgliad natur- iol ellid dynnu oedd fod treuliau'r Dirprwy- aethau yn gyfrifol am ran fawr, os nad y rhan fwyaf, o'r £ 800. Pa reswm," meddai, anfon 30 o gynrychiolwyr i Aberdeen ? Yn awr, dylasai Mr. Williams yn anad neb wybod NA anfonwyd 30 i Aberdeen. Daw'r Pan Presbyterian Council i Brydain bob WYTH MLYNEDD. Mae gan y Trefnyddion Calfinaidd hawl yn ol eu rhif, os dymunant, i anfon 15 aelod i'r cyfarfodydd hyn, ac i fod ar y Pwyllgor Gohebol. Yn Abergwaen y llynedd, daeth enwau 15 gerbron, a dewiswyd hwy yn unfryd. Y Parch. John Williams, fel llyw- ydd, roddodd yr enwau i fyny. Ni fwriedid i'r 15 fyned i Aberdeen, a threfnodd y Pwyllgor Ariannol fod treuliau PUMP o'r gpymtheg i'w talu gada pherffaith ryddid i'r lleill fyned yno ar eu traul eu hunain. Yr oedd y Pan Presbyterian Council wedi apwyntio tri, sef y Parch. J. Morgan Jones, Caerdydd y Parch. R. R. Roberts, B.A., Caer a Syr Henry Lewis, Y.H., i ddarllen papurau ar wahanol faterion yn ystod y cyfarfodydd, yn ychwanegol at y 15 a enwyd yn Abergwaen. Methodd Syr Henry Lewis fyned, gan ei fod yn Canada ar y pryd, ond aeth y ddau fl&enaf, a chafodd eu hanerchiad- au le amlwg yn y gwpithrediadau. Felly gwelir mai 15 enwyd yrfAbergwaen, ac nid 30. Yn iiwr, pa sawl un o'r 15 aeth i Aberdeen ? PEDWI^R yn urig. Felly y mae treuliau 30 wedi dô\l i lawr i dreuliau 4. Gyda golwg ar yr eg]wyb*\fireil], sef Eglwys Bresbyteraidd y Werddon, Vglwys Rydd Scotland, ac Eglwys Bresbyterau Id Scotland, bob yn ail blwyddyn yn unig yr alfonir Dirprwyaethau at y tair, a dau gynrychinlydd i bob un ohonynt, fel mae yr hyn a basi wyd yn Bootle yn cael ei gario allan eisoes. A chymryd cyfartaledd treuliau y Dirprwyaethau hynam yr 20 mlynedd di- weddaf, nid Y(',Iynt yn cyrraedd ;C20 y flwydd- yn o lawer felly gwelir mai nid treuliau teithio'r Dirprwyaethau y sonid amdanyht sydd yn oyfrh am y draul enfawr o j;800 neu 1900 yn flynyddol, ond treuliau'r pwyllgorau dirif a drefnir. Eleni, yn Bootle, fe benodwyd dau bwyllgor newydd, ac y mae 15 o aelodau .l ar un ohonynt. Credaf fi, a llawer gyda mi, fod yn hen bryd cael mantolen o'r treuliau amgen na'r un fechan a ymddengys bob blwyddyn, ar yr hon y ceir y cyfansymiau yn unig. Gwn nad oes un o bob cant o aelodau'r Gymanfa Gyffredinol yn gwybod po. fodd y treulir yr JE800 neu £ 900 yn flynyddol. Nid yw treuliau cynrychiolwyr, etc., i'r Gymanfa ond rhyw £100 neu E120 yn flynyddol. Fel rheol, mae'r Parch. John Williams yn o sicr o'i ffeithiau, ond yn Bootle, am ryw reswm neu gilydd, yr oedd ymhell ohoni. 0 ba le y cafodd 30 i fyned i Aberdeen pan nad aeth ond 4, efe'n unig a Wyr. Fy amcan yn ysgrif- ennu fel hyn yw er gosod y ffeithiau noeth gerbron. Meh. 6. D. Pwytho'r Pwythwr. At Olygydd Y BRYTHON. 1 "Gwyr eich darllenwyr sy'n hyddysg yr y pethau hyn nad yw gwarchcd ddim yn ddigon." Dyma'r frawddeg yn fy llythyr y rhydd Mr. Rhys Jones o'r Bont newydd Lwyth i mi ar ei chorn, ac ni fedrai ymatal, eb ef, heb ei roi. Gyr prinder gras ataliol ddyn i brofedigaeth yn ami, a gwerthfawr yw daint atal tafod. Yr unig ran o'm llythyr, hyd y gwelaf, oedd yn agored i ft irniadaeth oedd ei baragraff cyntaf. Gedy Mr. Jones hwnnw heb ei gyffwrdd, ac y mae rheswm da am hynny am ddim wn i yn amgenach, mae yn ei le." Ni chanfu fai lie yr oedd bai, t. chenfydd un He nad oes un Y mae smotyn," medd ef, ar y frawddeg a ddyfynnir uchod, a rhydd bwyth i mi ar ei bwys. Nad a ddim two negatives make an affirmative," ebe'm pregethwr ac yna gofynna i chwi, A wyf yn iawn, gymrawd o Fon ? Ni wyddwn i o'r blaen mai un o wyr Mon oedd Gol. Y BRYTHON. Yn awr at y smotyn ar y frawddeg y gwyr pob bachgen ysgol nad oes ra mefl na brych na dim o'r cyfryw ami. Syrthiodd Mr. Rhys Jones i'r amryfusedd y syrth llawer o rai tebyg iddo iddo—rhuthro i'r wasg i sgrifennu ar fater na wyddant ddim amdano. 1. Dywed Mr. Jones yn ei sylwadau sy'n rhwyddhau'r ffordd at ei sylw condemniol, Fu gen i rioed lyfr gramadeg yr fy llaw ond yr English Grammar hwnnw fyddai gennym yn yr ysgol elfennol felly wn i ddim am orgraff Tecwyn a J.M.J., nac ychwaith am orgraff Eilian Owen nac Alltud yr Andes." Pam, ar wyneb daear las, yr oedd eisieu son o gwbl am yr orgrag ? Beth sydd a fynno'r orgraff a'r mater, deydwch ? A oes y tipyn lleiaf o gysylltiad rhyngthynt a'i gilydd ? A oes gair o son am orgratJ yn y frawddeg a feirniedir, neu yn y llythyr y dyfynnir hi o hono ? Nid pwne o orgraff yw'r nad ddim," eithr pwnc o gystrawen. A wyr Mr. Jones y gwahaniaeth rhwng orgraff a chys- trawen ? Yr wyf yn meddwl y dylai fy mhwythwr, yn gyntaf oil, bwrcasu llyfr cein- iog ar logic, ac yna, gwedi meistroli hwnnw, rhoed ocsiwn ar yr hen English Grammar," a gwaried yr elw ar Ramadeg Cymraeg ceiniog neu ddwy yn ymdrin ag abiec yr hen iaith. II. Two negatives make one affirmative, ebe'r "hen English Grammar hwnnw fyddai gennym yn yr ysgol elfennol." Beth, atolwg, sydd a fynno English Grammar yn y byd, mwy na r orgraff, a'r pwnc dan sylw ? Onid brawddeg Gymraeg o lythyr Cymraeg yw'r frawddeg a gondemnir ? Yn enw rheswm annwyl, i beth yr oedd eisieu s6n am English Grammar Ai English Grammar sydd i reoli'r iaith Gymraeg ? Ai plant Alis y Biswail sydd i benderfynu sut y mae'r Cymro i agor ei geg a siarad ei iaith ? A raid i Rys Gymro ddywedyd "Rhedant y bechgyn am fod Jack Sais yn dywedyd The boys run ? A raid iddo ddywedyd Y dynion a wnant hyn," am fod rhyw hen English Grammar yn dywedyd, The verb agrees with its subject in number and person ? Y mae i bob iaith ei gramadeg ei hun. Nid yw pob cnawd un rhyw gnawd, eithr arall yw cnawd dynion, ac arall yw cnawd anifeiliaid, a chnawd arall sydd ibysgod, ac arall iadar. arall yw gogoniant yr haul, ac arall yw gogoniant y lloer, ac arall yw gogoniant y ser," etc. A dywedaf innau, "Nid yw (pob gramadeg un rhyw ramadeg, eithr arall yw gramadeg yr iaith Gymraeg, ac arall yw gramadeg yr iaith Saesneg, ac arall yw gra- madeg yr iaith Roeg arall yw gogon- iant y Gymraeg, ac arall yw gcgoriant y Saesneg, ac arall yw gogoniant y Roeg," etc. A ydych yn gweld ? Y mae'n amlwg oddi wrth y tipyn ymresymiad yn ei lythyr fod syniad Mr. Rhys Jones am ramadeg yn un cwbl gyfeiliornus. Nid y gramadeg sydd i benderfynu beth yw'r iaith i fod ond yr iaith sydd i benderfynu beth yw'r gramadeg i fod nid y gramadeg sydd i reoli'r iaith, eithr yr iaith sydd i reoli'r gramadeg. Yn yr iaith y ceir defnyddiau'r gramadeg, ac nid ym mhen- glogau y èfwneuthurwyr gramadegau. Ac felly, gall iaith fod heb ramadeg, ond ni eill gramadeg fod heb iaith. Y mae dau nega- five yn gwneuthur un aiffrmative," ac i Mr. Jones dyna setlo'r mater unwaith am byth, nid yn unig yn ei berthynas a'r Saesneg, ond yn ei berthynas a'r Gymraeg hefyd, a phob rhyw iaith arall, mae'n debyg III. Two negatives make one afifrmative, ebe'r "hen English Grammar a arferai Mr. Jones ym more'i oes. Prin y gellid disgwyl i ramadeg plentyn gynnwys popeth, a dylai Mr. Jones wybod cymaint a hynny. Nega- tives are often repeated for emphasis." Wele enghraifft: "N e nan we dorste nan thing acsian," Matt. xxii. 46. Chaucer constantly uses double negatives." Wele enghraifft There was elso a Doctour of Physik, in all the world ne was there none like him." Felly Shakespeare "Give not me counsel nor let no comforter delight mine ear." You may deny that you were not the cause." Y mae peth tebyg hefyd yn y Roeg, ac nid rhaid mynd ymhellach na'r Initio, Grceca i wybod hynny. Ac y mae hyn, sef ni, nid, nad ddim, mo "—dau negative yn cadarnhau ynlle dinistrio'i gilydd-yn beth byw heddyw yn y Gymraeg, yn beth mor fyw a dim a berthyn i'r iaith a thywyll, cyn dywylled a bol buwch, yw'r neb nas gwel. This adverbial ddim is nearly as frequent in the spoken language as pas after a negative in French (J. Morris Jones yn ei Welsh Grammar). In certain cases two negatives in Welsh, as in Greek, do not destroy each other, but they strengthen the affirmation" (Silvan Evans yn ei Eiriadur Cymraeg). Two negatives strengthen each other in Welsh (S. J. Evans yn ei Elements of Welsh Grammar). Gweler hefyd Anwyl's Welsh Syntax, td. 173, 174; a Rowland's Welsh Grammar, td. 167, 202. IV. Two negatives make one affirmative. Yn ol athrawiaeth Mr. Rhys Jones o'r Bont newydd, a hen English Grammar bore'i oes, o'i gymhwyso at y Gymraeg, saif y mater fel hyn: Two negatives. One affirmative. "Ni ddihangant hwy Dihangant ddim." 1 Thess. v.3 Os y meirw ni chyf- Os y meirw a gyfod- odant ddim." 1 Cor. ant! xv. 29. "Yr hwn nid adna- Yr hwn a adnabuasai buasai mo (ddim o) Joseph Joseph." Ex. i. 8 Ni ddaw Rhys Jones Daw Rhys Jones yma ddim yma." Nid wyf ddim yn Yr wyf yn iach iach. Gadewch i ni ddod yn nes adref, a rhoi Mr. Jones ei hun i benderfynu'r mater, rhoi Mr. Jones i bwytho Mr. Jones, canys y mae'n well gramadegydd, wedi'r cwbl, nag y tybiwn ar y cyntaf ei fod :— 'Does (nid oes) gen- Y mae gennyt le i I nyt ti ddim lie i siarad siarad (Epistol Mr f Rhys Jones at 01- ygydd Y BRYTHON, Meh. 4, 1914) Wn (ni wn) i ddim Mi wn beth am or- am orgraff." (lb.). graff (Reductio ad absurdum). Y mae Mr. Jones yn condemnio cystrawen a erfyr ei hun "A stitch in time saves nine." Y mae digon o edau ar y nodwydd i roi pwyth neu ddau eto, os bydd galw. Cydolygaf a Mr. Jones, pan ddywed, Rhaid cael ceiliog gwyn iawn i ganu." A oesheddwch ? Oes, fel yr afon, a chyfiawnder fel tonnau'r mor.— Yr eiddoch yn ddireidus, R. HUGHES. Valley, Mon. Mehefin 5, 1914. Ffansi yn lie Ffaith. I At Olygydd Y BRYTHON. ANNWYL OT.YGYDT),—Wele Min y Gawod yn dangos inni faint all ddychmygu a dyfalu n y gii a dyfalu Rhoddais i awdurdod na ellir ei wadu dros alw ein hober yn Clywedog," ac eto wele Fin y G. wod yn dweyd y cred fod Palmer yn anghywir. Beth yw ei henw yw'r cwest- iwn. ofynnid, ac nid beth garai Min y Gawod ei galw. Cawodog meddai (yn ol Un o Fro Huw Morus) yw ei henw," a dyfala mai y rheswm am yr enw yw mai cawodydd, llifog- ydd, a glaw taranau sy'n ei chodi, fel pe na chodai afonydd ere ill drwy yr un cyfryngau A pha reswni sydd mewn "showery" river wedyn ? Ei awdurdod cryfach na'n hanesydd digymar Palmer, yw Ll"n Gwerin yn ei galw yn Gawodog. Os mai yr hyn olyga yw y modd y sonnir amdani gan yr ardalwyr, yna Afon Pant T'wyll y'i gelwid. Eto, 'ddywedodd Palmer erioed mai yn Aber- sychant y tardd," ond y rhed drwy Aber- sychnant." Cytunwn ar ei tharddle. Dyma fy awdurdod i dros ei henw Clywedog (1) Gellir dangos gweithred ddyddiedig 1377, lle'i sillebid Kylywedoc, ac nis galla hwn dreiglo'n Cawodog ond yn Clywedog. (2) Gellir dangos document dyddiedig 1696, ynglyn a Melin Coed y Glyn, Erddig, lle'i sillebir yn Clowedoge. (3) Mai dyma'r enw geir arni yn yr Ord- nance Survey Maps ers 1620, ond yn y diwedd- araf ceir "Clywedog." Hyd nes gall Min y Gawod ddwyn ymlaen ffeithiau ac awdurdod dros ei ffansi, bydd ein hysgolion yn ddiogel wrth barhau i ddilyn Palmer ac ereill. Gofynnaf i Min y Gawod rhoddi rhesymau argraffedig, yn rhestr y gellir cyfeirio ati dros ei Gawodog," ond rhaid iddynt fynd y tu hwnt i 1377 cyn eu derbynn- ir. Hyd yn hyn, 'does dim yn profi mor glir a Norden's Survey A.D. 1620 nad "Afon y Ffrith yw enw'r aber a red drwy'r dyftryn rhamantus Nant y Ffrith. A pham na sgrifennai'r ddau tan eu henwau priod ? 'Does yn y ddadl ddim y rhaid iddyn t hwy eu guddio, mwy na minnau.—Yn ddiffuant, Coed poeth. TOM CARRINGTON. Cawodrg, nid Clywedog. At Olygydd Y BRYTHON. ANNWYL OLYGYDD.—Ym MRYTHON Mai 18, etyb Tom Carrington mai Clywedog yw enw'r afon a lif drwy'r Mwnglawdd, ac nid Cawodog. Dywed mewn ffordd fawreddog ac awdurdodol, pe buasai ef wedi ateb yn gynt, na fuaswn i yn anfon y fath enw "dieithr a diawdurdod." Cofied T.C. nad yw ei air yn derfynoJ ar gwestiwn o'r fath. Mae Min y Gawod wedi profi yn Y BRYTHON yr wythnos hon nad yw'r hanesydd A. N. Palmer (ar yr hwn y gesyd T.C. ei sylfaen) yn an- ffaeledig, gan ei fod wedi methu ynglyn a tharddiad yr afon ar y cychwyn. Yr wyf yn methu a deall But y bu i T.C. alw Cawodog-yn "ddieithr a diawdurdod," ac yntau wedi' fagu yn y fro, lie mae'r enw ar fant y trigolion. Bum am wib i'r hen fro y Sulgwyn, ac yr () edd yr afon wedi sychu mor isel a Melin y Mwnglawdd,—son am Glywedog yn wir yr oedd hi mor ddistaw a mvnwent. Gobeithio y cymer T.C. gyngor Min y Gcwod i wrando mwy ar enwau y werin ar aberoedd, etc., 'a gadael i hen afon cartref ein mebyd gael yr enw weddai mor naturiol iddi. Gyda .'r gawod mae'r hen afon yn adfywio, ac wrth guro yn erbyn ei cherrig gwynion y mae'n ennill ei pharabl yn ol. Da gennyf am y diddordeb gymer T.C. yn yr hen fro, cofion cynnes ato.— UN 0 FRO HUW MORUS.
I .0 Chwarel a Chlogwyn.
0 Chwarel a Chlogwyn. Sef o Ddyffryn Nantlle GAN YSBRYD GLASYNYS. DIREIDI'R AWEN.—Yn union fel hyn y canodd rhywun yn symudiad Mallt i fedd- lannu'r annedd gysylltiol i'i maelfa:- Mae Mailt yn mudo 0 wine i wine, Ac wedi anghofio Y pin a'r inc A llwyr anghofiodd Freuddwydion hud, Wrth stwna ynghanol Y dodrefn drud. Ond gwn fod ei chalon Yn gryfach na'i chefn, A myn y ddewines Ei thy i drefn. A chyrchaf innau Tros foel yr allt, I brynnu llyfr newydd Ym n-iaelfa Mallt. CYMANFA M.C. PEN Y GROFS.-Hen wyl annwyl yw hi, ac yn dal yn hoew er gweled 36 mlynedd. Perthyn iddi rannau helaeth o ddosbeirth Clynnog ac Uwchgwyrfai, a deil caredigion i chwythu'r sel yn fflam i'w gwneud yn wresog ac ysbrydol. Nid oes ysgar rhyng- ddi hi ai harweinydd Mr. John Thomas, Llanwrtyd, a gwyr yr hen feteran sut i god hwyl yng nghanu'r gymanfa. Glywsoch chwi o yn adrodd ambell i emyn ? Dyna gyffyrdd- iol yw ei lais a'i oslef, a chyda'r bersonoliaeth fwyn honno o'r tu ol i'r adrodd, y mae yn falm i ysbryd dyn ei wrando. Cynhaliwyd hi ym Methel, am ddau a chwech ar gloch y Sadwrn. Llywyddwyd y prynhawn gan Mr. O. W. Francis, Nantlle, a'r hwyr gan Mr. Hy. Hughes (Gwelltyn), Tanrallt. Prin eu hymadrodd fu'rddeuddyn doeth, a ch ed cyfle felly i'r arweinydd gerdded fel y dewisai. Ei horganydd oedd Mr. J. W. Roberts, Llan- dwrog, a gweithiodd yn rhagorol trwy'r dydd, a dealltwriaeth esmwyth rhyngddo a'r arwein- wyr a'r cantorion. Yr oedd yno raglen ganadwy a phoblogaidd, a chododd y llanw ar brydiau i ffiniau gorfoledd. A beth pe clywsech yr hen emyn ar y d6n Maldwyn (Dr. Parry) yn cael ei ddyblu trosodd a throsodd, a'r dyrfa fawr yn un foddfa yn dal eu goreu ar y geiriau "A'r Tad yn gweiddi boddlon ac yn uchter y gwres hwnnw, gweled gwraig ieuanc wedi mynd i arwain ei hochr hi gyda'r hen arweinydd. Cawsom ami i don felly yn ystod cyfarfod yr hwyr. Cymanfa ddiangof, a diau y daw bendith o'i chynnal. ARDDANGHOSFA BABA-.N-OD.-Dyma beth newydd sbon gynhaliwyd yn Rhostryfan brynhawn dydd Sadwrn, a Mrs. Lloyd George yn ei hagor mewn Cymraeg llydan, iach. Noddwyd y shou gan Gymdeithas y Mamaeth- od, a Mrs. Gwyneddon Da vies yn ysgrifennydd iddi. Bu'n llwyddiant diamheuol ac enillwyd gwobrau gan blant Groeslon, Carmel, etc. MARW YN YR YSBYTY.-Fel tafIu carreg i ganol llyn yr effeithiodd marw Mr. Wm. Jones, Gwyndy, Cesarea, ar yr ardal, a Chwar- el Pen yr orsedd. Aeth i'r ysbyty yn Lerpwl dair wythnos yn ol, ar ei union o'r chwarel, a, 'doedd yr un ohonom yn meddwl fod tranc y cyfaill caredig mor agos. Ni roddwyd ei hawddgarach yn naear Carmel. Dynoliaetn fawr, esmwyth, a hynaws, a bydd atgo hir am- dano. Rhoed ef i orwedd ym mynwent rydd Carmel, prynhawn dydd Mawrth. Gedy weddw a phedwar mab a pherthynasau mewn dwfn alar. Ei oedran oedd 51 mlwydd.
Advertising
Esboniad Cyflawn AR YR HOLL FEIBL. am bris Esboniad ar y Test. Newydd yn unig. Y Dehonglydd Beirniadol ar yr Hen Destament a'r Newydd, gan y Parch. John Jones (Idrisyn) mewn pedair cyfrol, fel newydd, wedi ei rwymo mewn llian cryf 18s. Eto (hanner rhwym) 25s. Hugh Evans a'i Feib-, Swvddfa'r Brython W."& J. VENMORE, Estote Agents & Vcsiuer 200 SCOTLAND RO. iiverpof\| fSLBPHOJH No 5163 Royal I I I J & c., i Lloyd Jones, & Co., ESTATE AGENTS, Stc. 6 Lord Street, Liverpool TSt HPSOlSB (6318 BAKU YN Y WASG. CRISTIONOGALTH A CHYMDEITHAS, gan y Parch. J. H. HOWARD, gyda Rhagair gan y Gwir Anrhyd. D. Lloyd George. Pris 2/6 net. Cyhoeddedig gan HUGH-EVANS & F ONS, Swyddfa'r 'Brython,' 358 Stanley Road, Liverpool ..Lost Property.. UMBRELLAS. YI Railway, Tramway. Police Beautiul Umbrellas & Sunshades, 1 1/4, 1/9, 2 I. upwards. Walking Sticks. 2d upwards. These are good knock-about umbrellas. Northern Umbrella Depot 28a Bold St. (upstairs), few doors from Church 8t ANWYD, PESWCH, INFLUENZA.-Mae rhai'n gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnew- idiol fod llawer o ddiojdef oddi wrth Beswch, Bronchitis, Pas, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdrt, Diffyg Anadl Y mae yr hen feddyginiaeth "DAVIES'S COUGH MIXTURE" eto ar y blaen, ac ya cael ei gwerthfawrogi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, yn felys, yn cyDhesc y frest, ac yn rhyddhau y phlegm. Bydd doso mewn pryd yn ddigon, Is. lie, a 2s. 9c. (postage. Sc.).—HUGH DA VIES, Chemist. MACHYN- LLETH GWYNEB PRYDFERTH.- Sarzine Blood Mixture at glirio y croen, a phuro y gwsed. Y mae yn myned at wraidd y drwg, ymlid vmaith bob math o pimples, cocbni, ysfa, scurvy, pea- ddynod. Gwella hen ddolurisu. coesaa drwg, crydgymalau, gan adfer y croen i'w harddweh naturiol. 2s 6e. y botel gan bob Druggist; vn ychwanegol gydwr post—HUGH DAVIgS hemist. MACHYNLLETH. Coupon RhadUYswiriaeth (Peidier a'i hollti'n rhydd). JlTDD I'B' 6RESHAM fire and Accident Insurance Society Lto St. Mildred s House, Poultry. LONDON, E.C. daln £100 (can punt) i gynrychiolydd oyfreithio a phersonol y sawl a fo'n ddiJes-ddaliwr y coupon hwn, os y bo iddo fo neu hi gael eu lladd yn hollo ac yn uniongyrchol drwy ddamwain o fewn y Deyrnas Gyfunol i dren tinryw Gwmni Rellffordi. Tramcar, Omnibus, Cab, neu Gerbyd TrwyddecKp a Llog yn yr bwn y bo'r daliwr yn cael ei gladet fel teithiwr tocyn a chlud, yn ddarostyngedig bob amser i'r amodau arbennig a ganlyn sydd ystyried fel rhan a chyfran o'r cytundeb— (a) Fod y marw'n digwydd o fewn deng niwrnod ar hugain wedi'r ddamwain (b) fo rhybudd ohoni n cael ei roi i'r Gymdeithas c fewn saith niwrnod yn eu Prif Swyddfa ye Llundain (c) fod y cyfryw dystiolaeth res- ymol parth achos y farwolaeth yn cael el gyfiwyno ag a fo'r Gymdeithas yn ei ofyn; (d) fod y daliwr wedi 'sgrifennu ei arwydd- enw arferol, cyn i'r ddamwain ddigwydd, as inc yn y lie clarparedig gogyfer a hynny (e) na bo'r Gymdeithas yn gyfrifol i fwy nag an person parth mwy nag un coupon yn y paper na r on oyhoeddiad arall (/) na bo r y? wiriaeth hwn ddim yn gaffaeladwy i bersonao tan ddeuddeg na thros ddeg a thrigain mlwydd oed, ao a ddeil yn ddilys am saith niwmod 0 12 o'r glooh y dydd y'i codir.? irwyddnod y Daliu-r Trigfod • I Danysgrifwyr. Raid 1 dderbynwyr cyson y papur hwn ddim arwyddo r Coupon os ca'r Gymdeithac gwb! aicrwydd a pbrawf ei fod yn cael M anfon Iddynt yn ddifwlch. ..Cynhygiad Neilltuol.. i Ddarllenwyr II Y BRYTHON." NID oes dim mwy hwylus a gwerthfawr na Fountain Pen da o gwneuthuriad y gellir dibynnu arno, a hynny am bris isel y gall pawb ei gyrraedd. Mae perchenogion Y BRYTHON—er mwyneangu cylchrediad eu newyddiadur-yn cyrmy FOUNTAIN PEN o'r gwneuthuriad goreu guaranteed fitted with 14 carat Gold Nib, fine, medium or broad), ac yn gyfartal o ran ei j werth i rai a gynhygir am brisiau llawer uwch. Dyma'r telerau :— Am 3/6 (Postal Order). Neu am 3/- a phum Coupon. tt ,,2;6 a deg Coupon. Y Coupons i gael eu tori allan o'r BRYTHON. Gwna unrhyw ddyddiad y tro, ond » ohymerir mwy na thri o'r un dydaiad. Anfoner y Coupons a'r Postal Order, ynghyda Em\ a chyfeiriad yr anfouydd wedi ei ysgrifennu yn eglur. Cyfeirier yr archebion :— I 356-333 STANLEY ROAD, LIVERPOOL.. Fountain Pen" Coupon. Y BRYTHON," Mehefin 1 leg, 1914