Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Beirniadaeth. 1

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Beirniadaeth. 1 PRTDBEST CAD AIR PRESTATYN, Y LLUN-I GWYN, 1914. Testyn," AWDURDOD." DERBYNIWYD deg o gyfansoddiadau, sef eiddo Corsen Ysig, Sylwais-Cenais, Gwyndaf Callestr, Myfyr Athen, Nemo, Garmon, Awen Ffydd, Gwyliwr y Wawr, Y Bore Gwyn, a Beryl, Ceir ymysg y cyfansoddiadau hyn rai rhagorol o ran eneiniad awen a chrebwyll barddonol. Yr hyn sy ddiffygiol ynddynt yw addfedrwydd meddwl a gorffennedd celf- yddyd. Ceir oHon brys ar y goreuon ohonynt. Gwneir ychydig nodiadau arnynt oil, ond nid ellir manylu llawer, ac nid oes angen. Corsen Y sig,-Cyfansoddiad pur ddiffygiol a gwallus, ymhob modd, yw hwn, ac yn cymeryd ei le yn y pwynt pellaf oddiwrth y gadair. Sylwais-Cenais.—Er wedi ei mydryddu'n lied reolaidd, cerdd o arddull draethodol yw hon, ac heb fawr o'eneiniad awen ami o gwbl. Cenfydd yrawdur amrywiollwybran "awdur- dod," ond mae ei iaith yn wallus weithiau, a'i syniadau yn gymysglyd. Nodweddir ei waith gan gyffredinedd ystrydebol fel hyn,— Mae cynghaneddiad brigau'r llwyn,— A salmau per yr awel fwyn, Yn dysgu dyn, sy'n magu cwyn, Pwy bia'r hawl i'm testyn." Gwyndaf Callestr.-Mae gwaith llenorol a mydryddol y gerdd hon, ar y cyfan, yn gan- moladwy, a'r rhan olaf ohoni yn awenyddol. Ond bu'r awen yn hepian yn hir, ac ychydig iawn o ddychymyg nac eneiniad sydd i'r rhannau cyntaf. Cyffredin ac amleiriog yw llawer darn er enghraifft,— Mae meddyliau llu o'n deiliaid Heddyw'n caru parch a chlod Yng ngwir ysgol gwych ddiwylliant Cara'r gwladwyr fyw a bod. Mae llawer o'r syniadau yn rhy amherthynasol ac amhenodol, a phrif syniad y testyn heb gael yr amlygrwydd a haeddai. Dylasai'r ymgeisydd hwn ganu'n well; ac mae rhan olaf ei gerdd yn feirniadaeth lem ar y rhan gyntaf. Myfyr Athen.—Gwyddai'r ymgeisydd hwn yn bur dda beth a olygai ei destyn, a phrin y gwyddai neb o'i gydymgeiswyr yn well. Canodd rai darnau cymeradwy, o ran awen a syniadau. Ond mae nodwedd gyffredinol y gwaith yn rhy draethodol, a cheir ynddo ddarnau cyffredin iawn ymhob modd. Diffygiol yw'r gelfyddyd farddonol hefyd. Dyma enghraifft,- Awdurdod sydd yn meddu Ar hawl a gallu Ilawn I gyson ddoeth reoli ac I lywodraethu'n iawn Efe sy'n galw tyred. Efe sy'r dwedyd dos, Hyd lwybrau gwyn dyledswydd dyn, Mewn din as, cwm a rhos. Fe welid holl olwynion Chwyrn masnach wedi cloi, A rhydu oni bae ei fod, 0 hyd wrth law i'w troi, Dieffaith ai cymdeithas, Afliniaidd a didrefn, Hi drengei heb awdurdod cryf, I'w dal yn asgwrn cefn. Yn sicr, fe ddylai cyfansoddiad yn cynnyg am gadair fod wedi ei atalnodi'n well nag y mae hwn. Fel y gwelir, fe ddywed yr awdur lawer o wir, ond mewn ffordd anfarddonol iawn. I Nemo.-Dochreua'n anaddawol iawn,- I freichiau cwsg disgynais 0 ganol myfyr dwys Canfyddais weledigaeth der Fydd beunydd imi'n glwys. Amcanodd gyfleu y gwahanol syniadau am Awdurdod," yr amrywiol ffurfiau sydd iddi, a'r cylchoedd ymha r, i yr amlygir hi, gan gyrchu at ei syniad ef am y math uchaf ohoni- Awdurdod Cariad. Gweithiodd allan ei gynllun mewn ffurf o ymgom rhwng Bardd a Brenin. Nid yw'r gerdd mor gelfydd ag yw ei syniad arweiniol o gywir. Llesg iawn yw ei rhannau cyntaf. Ymgeisiodd at glasuroldeb, ond nid yn llwyddiannus. Nid yw ei frenin" yn ddigon nodweddiadol, na'i fardd chwaith ar y cyfan. Gellid weithiau dybio mai'r Bardd oedd fwyaf o Frenin, ao mai'r I Brenin oedd y Bardd. Dyma fel y cyfarch y Bardd y Brenin ar y cyntaf,— Paid dirmygu ffawd, 0 frenin Paid tramgwyddo y duw Wodin. Tipyn o rodres oedd dwyn y duw W6din "— neu Odin-i fewn. Nid yw pennill fel hwn yn frenhinol na barddonol—er mai yng ngenau'r Brenin y dodir ef,— Pa werth sydd mewn awdurdod Trwy rin perthynas gaed Mae gosod dyn ar orsedd fad Ac eto dan ei draed. Awdurdod yw a rhyddid Yn gwelwi dan ei rym Mor ami bu yn orchudd hardd Dros hagrwch gorthrwm llym. Mae yn y gerdd rai gwallau mewn iaith, ac ymadrodd mor hagr ag a wna dy godi. Ac ebr y Bardd am y Brenin,— Ofer f'ymgais hynod Yw ddarbwyllo ef, Beth yw sail awdurdod Yn y ddae'r a'r nef. Meddai syniad cywir am Awdurdod," a rhai defnyddiau da at gerdd ond ni lwyddodd i ganu'n gelfydd a grymus. Er hynny, mae ganddo rai penhillion rhagorol, ac yn gwella'n fawr fel y tyn at y diwedd. Garmort.-Rhaid canmol yr ymgeisydd hwn am eglurder ei ysgrif, coethter ei iaith, symledd ei arddull, ei ymgais at ddyfais mewn cynllun, a'i wybodaeth helaeth o gynnwys ei destyn. Y mae'n drefnus a meddylgar yn ei holl waith. Er hynny, braidd yn draethodol yw ei gyfansoddiad, ac nid oes dim tarawiadol yn ei gynllun. Teimiir ei fod yn oyfansoddi'n lied beiriannol, a'i gynllun yn ei gaethiwo mewn mannau. Ymddengys fel dyn wedi arfer meddwl yn araf, a manylu ar bopeth. Nid yw ei awen yn symud yn ddigon hoew a rhydd, na'i chyffyrddiadau darluniadol yn ddigon deheig. Da fuasai ychwaneg o awgrymiadau, a llai o fanylu ar bethau cyffredin, Ymchwil yw ei arweinydd," acaiff i'wddilyn o fan i fan, i weld y byd, ac amrywiol agweddau bywyd dynolryw ynddo. Cymerwyd ef, ar y cyntaf, i uchel gadarn dwr," modd y gallai weltd yr hollfyd crwn." O'r uchter hwnnw, ymddanghosai'r ddaear iddo fel dinas gaerog gror ac o'i hamgylch "ddyfiryn du diadlam." Wedi hynny, ar- weiniwyd y bardd i lawr i'r ddinas a welsai, ac ar ymchwil trwyddi. Ofer manylu ond n6d yr "Ymchwil" yw darganfod eisteddle gwir awdurdod." Gwyr yr "ar- weinydd i ble i fynd, ond syrth y bardd i gyffredinedd fel hyn, wrth adrodd yr hyr,, t 0 deithio 'mlaen trwy'r ddinas a'i thry- bestod, I Canfyddem fawr ymgeintach am awdur- dod. Hoff eilun oedd yng ngolwg gwreng a bonedd, Ac am ei wen aberthai rhai anrhydedd. Aiff ymlaen trwy gylchoedd moesol a chref- yddol Awdurdod-yri feddylgar fyth, ond yn lied ddieneiniad yn ami. Dyma'r Pab, I'r eglwys hon y Pab yn ben gweledig A hawlia fod,-fel Duw yn anffaeledig. Ef honna fod bron cyfuwch a'r Goruchaf, I faddeu fel y myn i'r adyn gwaethaf. & Etolwg," ebai ef, fy noeth arweinydd, Pa beth yw lie awdurdod mewn gwir gref- ydd ? « Cerddodd Garmon trwy faes ei destun, ond yn fwy fel diwinydd na bardd. I PEDROG. I I [Y gweddill yn ein neBaf.)

YSl AfELL Y BEIRDDI

Ein Censdl ym Mancelnion.

Advertising