Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DRINK DWYRYD TEA. The Tea of Old Time flavour, I
Advertising
Beaty Bros ltd. THE TT CELEBRATED TAILORS THE PREMIER LIVERPOOL FIRM FOR Good Class Tailoring.. AT REASONABLE PRICES. ONLY ADDRESSES I London Rd. and Church St., LIVERPOOL. I Closed on Wednesdays at 1 p.m. Open all day Saturdays. A yw'ch Llygaid yn eich blino?f Yw pethau'n troi'n niwlog ae anelwig ? Dyna H arwydd a rhybudd Uethdod y Hygad, a dylech gael eu hedrych rhag blaen; eu gwaetnygu B wna'u hesgeuluso. Gallwn ni gyda'D hoffer B gwyddonol ddweyd wrthych os oes arnoch B angen gwydrau ac os felly, eich cyflenwi a'r B rhai a barai fwyaf o les i chwi. Galwcta B heddyw: B ARCHER A SONS I Eyesight Specialists. B 73 LORD STREET, I Sefydlwvd 1848. LIVERPOOL- B 'Phone-3925 Bank. W. fini & SOD, TAILORS 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL ALW Alf 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. Real Welsh Homespuns for Golfing and Fishing, 'Phone—580 Bootle. HYDES 2222 194 LONDON ROAD, LIVERPOOL. Pawnbrokers, Jewellers, House Furnishers, Bag ê4 Trunk Specialist. ftcub advanced at low rates of interest under act of Parliament. « n E- Huge Stock of (Jewellery. Furn. iture, Bags and Trunks, always on sale at Half Usual.Prices. Old Gold and Silver, [Jewellery, Furniture, Bags and Trunks,Bought or Exchanged. COOK & TOWNSHENP. Special Value in ..BOYS CLOTHING.. READY TO WEAR. Boys' Sports Suits, ■<} If: In Smart Tweeds ? Boys' Strong Rugby 1^ /Q Suits in dark shades ? For College wear. Boys' and Youths' t?/Q Waterproofs 12/!9 All sizes. Byrom St. & Dale St., LIVERPOOL. IF YOU WANT REALLY GOOD BOOTS TRY bUN TS, 49 Paradise St; Liverpool. » The Largest Stock of Boots and Shou in Liverpool to select from, for Ladies & Gentlemen, Youths and Boys School Boots in great variety. ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles SODA WATBR. POTASH WATER. SBLTSER WATER. LEMONADE BaT LINGER ALa. ate, IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL ROBERTS 6 EDWARDS ESTATE AGENTS.. 64 Kirkdale Rd., Liverpool Telephone: 2183 Royaf,
Advertising
USE i IIIi KEENORA SELF-RAISING FLOUR for Pastry, Scones, &c., &c.
[No title]
TEIMLA dyn nad oes ond rhyw un Drem i'w Ddryeh, treed i'r cyfeiriad a fynno, a byd wedi ymwallgofi tan gynddaredd rhyfel yw honno. Mae Ewrop yn ymfyddino, a brwydrau'r Armagedon yn anocheladwy. Amhosibl i undyn ddianc i gongl na ddaw rhu y eyffro ar ei ol, ac mae rhu ei bryder a'i ofn yn ei galon ei hun. Rhaid wrth nerfau cadarn a phwyll Stoic i orchfygu arswyd, i reoli dychymyg afieithus, ac i ochel coel ar chwedlau gwrach- iaidd, a greir ac a ledaenir mor ddibris ar achlysuron fel hyn. Ond nid ffansi dychymyg yw y ffaith ein bod yn awr wedi dechreu pennod fydd yn amlwg yn hanes Ewrop, o leiaf. Bydd GWyl Bane Awst eleni'n gofidawy i filoedd, ac yn eu plith lawer o Gymry Lerpwl a'r cyffiniau. Aethant hwy, fel ninnau, i Orsaf Lime Street fore dydd Llun, ar fedr mynd am ddiwrnod o wibdaith i Gymru. Gwelid yno liaws o wyr, gwragedd, a phlant, llawer o bobl ieuanc o'r ddeuryw, a'r cwbl wedi arfaethu mwynhau eu hunain mewn eisteddfod, i rodianna, neu ar ymweliad a pherthynasau a chyfeillion. Modd bynnag, pan aed i'r orsaf, gwelwyd fod pob tren arbcnnig a rhad i'r cyhoedd wedi eu hatal-ar arch y Llywodraeth Erbyn syllu o'u cylch, gwelem ddynion yn dwyn nodau'r Llynges. Cawsent eu galw'n sydyn. Yr oedd rhai heb orffen deffro, heb orffen ym- dacluso, ac fel pe heb gyflawn sylweddoli beth oedd yn bod. Ond yr oedd perthynasau a chyfeillion oedd gyda hwynt yn dangos yn eglur mai nid bore i grechwen a phlesera oedd hwnnw. Fel yr elem o Gaer i Gaernarfon, gwelem dreneidiau mawrion o'r Territorials yn dod o Gymru a mannau eraill. Gwelem fod y pebyll gwersyllol hyd yr arfordir yn cael eu tynnu i lawr, a'r meirch perthynol iddynt eu paratoi i fynd ymaith. Amlwg ydoedd fod gorchymyn y Brenin ar ffrwst." Ni welsom erioed wibdaith mor ddigalon ar ddiwrnod gwyl. Gwelsom dywydd glawog, ac arwydd o siom ar lawer wyneb am hynny ond ni welsom ddryein nad allsai rhywrai chwerthin am ei phen., a bwrw ysmaldod i'w hwyneb. Y tro hwn, modd bynnag; yr oedd sobrwydd ar bob gwedd, a phob un yn teimlo fod rhyw torpedo wedi ei yrru tan long ei ddisgwyliadau, ac i lawr a hi 0 ran hynny, nid oedd y siom o ddydd o fwynhad nac yma nac acw. Yr hyn a dywyllai wyneb ac a leddfai lais pawb a welsom ni ar y daith oedd -Rhyfel Cael ein hunain yn Eisteddfod Gwyl y Bane ym Mhwllheli. Dyma sefydliad perthynol i ddynion ieuainc y dref, ac a ddygir ymlaen ganddynt ers llawer blwyddyn. Sefydliad teilwng o bob cefnogaeth, ar gyfrif ei amcan diwylliadol, a'i fod yn cadw pobl ieuainc mewn cymdeithas a'i gilydd i waith dyrchafedig. Yr oedd Rhagluniaeth wedi rhbi iddynt hin ddymunol, ond nid cystal y gefnogaeth a gawsant gan lawer oedd yn y dref ar y pryd, ac yn well ganddynt fwynhau'r gwagedd a genid ac a berfformid ar lan y m6r. Heblaw hynny, pruddhawyd yr Wyl gan drallod- made in Germany Gofynnid yno, wrth gadeirio'r bardd, "A oes heddweh ? Heddwch oedd yr ateb bob tro, ac yn ddifloesgni. 0 nad allasent ateb felly ar ran Ewrop i gyd Clywsom gorau plant yn canu'n her; ac fel y gwrandawem ar eu lleisiau swynol, ac yr edrychem ar eu hwyneb- au annwyl a diniwed, nid allem lai na meddwl am y gwahaniaeth rhyngthynt a seindorf cad, a gofidio am y byddai i'w calonnau ieuanc gael eu cynhyrfu gan fraw Rhyfel. Rhaid mai annuwioldeb annynol a barai ruthro i ryfel yn yr un byd a phlant, a rhaid fod y neb a wnai hynny wedi dirywio er pan fu'n blentyn ei hun Arferem edrych ar Germani fel gwlad ddiwylliedig, Y fath wyr o athrylith a dysg sydd ynddi Gymaint o'i hawduron diwin- yddol a gyfieithir i'r iaith Saesneg Er hyn i gyd, dyma'r wlad honno wedi dangos yr ysbryd mwyaf balch a rhyfelgar, a chyda hynny y dibristod mwyaf llwyr o bob ffydd- londeb i gyfundeb, yr amddifadrwydd mwyaf o bob teimlad o anrhydedd, ac hyd yn oed y parodrwydd i ddefnyddio'r moddion mwyaf barbaraidd i geisio dwyn ei hamcanion i ben. Nid yn ddisail, yn ddiau, y cymer Llywodr- aeth Lloegr fesurau llym ar rai Ellmynia-id sydd yn Ilechu yn ei threfi, ac yn gwylio'u cyfle i'w bradychu. Mawr fu rhyddid y wlad hon i estroniaid, i'w choiled ei hun ac yn awr, yn nydd ei thrallod, ceisia rhai o'r estroniaid hynny frathu'r fynwes a'u cofleidiodd. Drwg gennym fyddai i unrhyw estron diddrwg gael cam, er mai gerwin yr ymddygodd Berlin at Brydeinwyr anrhydeddus. Ond os y digwydd hynny, bydd y cyfrifoldeb mwyaf ar y rhai a ddechreuasant ymosod yn null y llofrudd dichellgar a direol, yn hytrach hyd yn oed nag arfer milwr. Wel, mae'r gwrth-fyddinoedd eisoes wedi cwrdd, a'r lladdfeydd creulon wedi dechreu. Yn ol yr adroddiadau pan ydym yn sgrifonnu, mae rhai miloedd o fywydau wedi cwynipo'n aberth i dduw annhrugarog Rhyfel. Dyma erchylldra'r peth i gyd,—y difrod ar fywyd a dedwyddweh dynion. Dyweded y neb a fynno ein bod yn feddal-yn sentimental,-a llwfr, dywedwn ninnau fod y neb a all feddwl am y fath drychineb a llygad sych yn greulon ae anwar. Myn ein calon wahaniaethu rhwng y milwr a'i grefft. Addefwn nad allwn lai nag edmygu gwroldeb gwladgar milwyr Belgium, a'u gwaith yn bwrw eu hunain yn dymestl o dan a dur yn erbyn eu gelyn gormesol, costied a gostio iddynt. Beth bynnag a ddaw arnynt yn y diwedd, erys eu harwriaeth yn syndod mewn hanes, yn wyrth mewn gallu a medr a hunanaberth. Addefwn nad allem gysgu'n weddol dawel am noson, onibae y gwyddom fod inni frodyr Prydeinig sy'n barod i droi eu llongau yn allorau er mwyn diogelwch ein cartrefi a'n gwlad. Pwy ohonom allsai deimlo'n dawel pe gwybuasai ei fod at dru- garedd ddidrugaredd Emprwr Germany ? Credwn hefyd mai ei thynnu i ryfel ar ei gwaethaf a gafodd y wlad hon. Nid oedd ar Frenin na Llywodraeth ei eisiau ac am y bobl, dyma'r peth olaf y buasent yn ei ddy- muno. Aiff Lloegr i ryfel y tro hwn tan y teimlad o gyfiawnder-os cyfiawn yw iddi amddiffyn ei phobl a'i buddiannau rhag trais a brad gwallgofddyn, meddw ar falchter, a dibris o bob tegweh ac anrhydedd. Mae byd o wahaniaeth rhwng ymosod ac amddiffyn, rhwng yr ysbeiliwr yn ymosod ar deulu mewn ty, a'r neb fo mewnty yn ymosod ar yr ysbeil- iwr. Gwyddom fod Ilawer o'n eydgenedl ein hunain yn y Fyddin, a bod llawer hefyd o ddynion ieuainc ein gwlad wedi ymrestru'n wirfoddol ar yr achlysur hwn, a hynny am eu bod yn credu mai i amddiffyn cam y Deyrnas y gelwir hwynt. Dywedwn eto ein bod yn edmygu eu teimlad gwladgar a'u gwroldeb ffyddlon. Yn yr argyfwng trallodus a pher- yglus hwn, teimlwn ein rhwymedigaeth i Fyddin a Llynges sy'n gwylio'r gelyn,—a nyni yn cysgu Er hyn i gyd, rhaid inni ddychwelyd at y pwynt a adawsom, a datgan ein casineb o Ryfel fel y moddion i benderfynu materion rhwng teyrnasoedd a'i gilydd. Y mae rhyfel ynddo'i hun yn farbaraidd, annvnol, cyth- reulig. Y mae'n warthnod ar wareiddiad, yn fwy na dim pan yn enw Cristionogaeth. Honna Emprwr Germany fod yn Gristion, ac weithiau'n bregethwr. Yn wir, fe dyb y dyn hwn ei fod yn alluog i bob peth, a chanddo awdurdod dros y Nef i orchymyn iddi fynnu ei ewyllys ef ar y ddaear. Ond Rhyfelwr yw ei dduw, ac ni wyr ddim am Gristionogaeth.. Ymchwyddai mewn ymffrost, gwasgai garn ei gledd, ac wynebai Ewrop gan ddywedyd, Gwae y gorchfygedig Ped edrychid ar Gristionogaeth yng ngoleuni ysbryd ae ym- ddygiadau rhai o frenhinoedd a phenaethiaid Ewrop, y rhai a'i proffesant, nid hawdd fyddai i ddyn rhesymol ei derbyn. Nid Duw ond duwiau a addolir ar y Cyfandir, gan y rhai a garant ryfel. Canys yr holl bobloedd a rodiant bob un yn enw ei dduw ei hun a pha deyrnas all orffen yr adnod, A ninnau a rodiwn yn enw yr Arglwydd ein Duw byth ac yn dragywydd." Y ffaith syml yw, mai duwiau o greadigaeth eu dychymyg eu hunain ac ar lun a delw eu rhagfarn a'u nwydau eu hunain, y gelwir arnynt gan fwyafrif bren- hinoedd y gwledydd yn y rhyfel hwn. Canghellor Germany, yn dyfynnu geiriau un hen wron gynt, a ddywedodd, "Cured eich calonnau i Dduw, a'ch dyrnau ar y gelyn." Felly! Dyma ddeuoliaeth go ryfedd- wyneb addolwr tuag i fyny, a dyrnau Bwli tuag i lawr. Mae swagro o'r fath yma'n enw Duw a Christionogaeth yn gabledd annuwiol, ac yn fwrn ar synnwyr cyffredin. Mae ceisio impio rhyfel,—o ran ei achos, ei ysbryd, ei ddull, a'i effeithiau dinistriol,—ar Gristion- ogaeth, mor wrthun ag y gall dim fod, ac yn brawf o amddifadrwydd o'i hysbryd a'i heg- wyddor hanfodol. Mae edrych ar ddynion ieuainc, iraidd, iach, hoew, ym mlodau eu dyddiau, mewn arfogaeth filwrol, yn ymdaith trwy heolydd Lerpwl, ar eu ffordd i faes y frwydr, lawer ohonynt, mae'n debyg, i gael eu lladd neu eu clwyfo, a'r cwbl i brofi caledi, a meddwl am ingoedd cariad tadau a mamau, brodyr a chwiorydd,—mae meddwl am hyn i gyd yn ein pruddhau. Mae ein cyd-ddynion wrth ymdaith i'r gad yn sengi ar galon dyngar- wch, ac yn gadael doluriau poenus ar eu hoi. Mae adfydau cyffredin bywyd i ddynion yn ddigon anodd i'w dwyn, heb ychwanegu creu- londeb rhyfel atynt. Barned y Duw Mawr y neb fu'n euog o yrru miliynnau o'r teuluoedd mwyaf diwyd a rhinweddol i orwedd eu noswyl gan deimlo fel petai cwmwl, llawn o fellt a tharanau, yn gorwedd ar eu bywyd 4 Yr un pryd, na fyddwn ry gyffrous a phry- derus, na ddychmygwn ormod, ac na fyddwn ry barod i goelio pob chwedl. Cawsom eisoes brofion o'r modd y mae newyddion" rhamantus yn cael eu creu. Ym Mhwllheli' mor gynnar a Llun Gwyl y Bane, clywsom newyddion aruthr. Aethom i geisio cysgu'r noson honno, ond nid hawdd y gallasem—yr oedd saith o longau Germany, tair o longau Ffrainc, a dwy o longau Lloegr-oll wedi eu suddo Hebiaw hynny, yr oedd y Cabinet yn yfflon. Lloyd George wedi ymddiswyddo, ac eraill gydag ef a Lansdowne, Balfour, a Bonar Law wedi cymeryd eu lleoedd! Da fod pwyllgor awdurdodedig, mewn cysylltiad uniongyrchol a'r Swyddfa Rhyfel, wedi ei benodi i gyhoeddi'r hyn fyddo wir, ac yn briodol i'r cyhoedd ei wybod. Prun bynnag ai drwg ynteu da fyddo'r newydd," gwell ymbwyllo cyn ei dderbyn, hyd nes y cadarn- haer neu y gwader ef yn ddiamheuol. Colled annhraethol i'r wlad, yn yr argyfwng hwn, fuasai bod heb Mr. Lloyd George, a geirda sydd hyd yn oed gan y rhai a arferent fod yn elynion digvmod iddo. Dau symudiad ardderchog fu'r un ynglyn a'r banciau a'r ystorfeydd ymborth. Pe buasai i'r dwymyn am godi arian o'r banciau,ac am ystorio defnydd ymborth mewn teuluoedd allent fforddio hynny, barhau yn hir, anodd dyfalu beth fuasai'r canlyniadau. Sicr yw, y gosod- asid y dosbarth cyffredin, sy'n byw o'r llaw i'r genau, mewn cyfyngder mawr yn fuan euthai prisiau'n uchel i'r rhai lleiaf eu gallu i'w dwyn. Y perygl fuasai i hynny, o'r diwedd, ac yn fuan, arwain i chwyldroad, ac i'r newynog ymosod ar yr ystorfeydd. Y peth mwyaf effeithiol i atal y trychineb hwnnw fu i'r Llywodraeth osod ei hawdurdod dros ad- noddau ymborth y wlad, ac ar brisiau'r farchnad. Gymaint hawddach gosod llaw ar brisiau bwydydd nag a fuasai ar newyn gwallgof Yr un modd gyda golwg ar yswirio llongau ymborth o wledydd tramor. Diau y gallesid yswirio'r llongau hyn mewn swyddfeydd eraill, ond ar delerau afresymol o uchel; ond mae'r LIywodraeth wedi gwneu- thur yswiriaeth yn fwy ymarferol a hawdd, ac felly wedi gwneud eyflenwad ymborth i'n gwlad yn sicrach. Ni welwyd erioed panic a gychwynnodd mor gryf, mewn bane a maelfa, yn cael ei ostwng mor effeithiol, ac mewn cyn Ileied o amser. Sut bynnag y bydd pethau ymhellach ymlaen, mae ar lawer o fasnachwyr a phrynwyr erbyn heddyw, gywilydd o'u hagwedd ychydig ddyddiau'n ol, a phrawf o hynny yw'r modd y cais rhai egluro'r prisiau uchel, ac hyd yn oed gynnyg derbyn yr hyn a brynwyd felly'n ol, neu ddychwelyd cyfran o'r arian. Diolch am gymaint a hyn, yn awr, a gobeithio na fydd achos i gyffro o'r fath eto. Ond ni wyddom beth sydd ymlaen nid yw y rhyfel ond newydd ddechreu. Mae pobl grefyddol y Deyrnas yn teimlo fod ganddynt rwymedigaeth arbennig yn y dyddiau hyn. Dyma gyfle i'w ffydd, eu cyd- ymdeimlad, a'u cymorth. Yr ydym ymysg y rhai a gredant fod Duw yn gallu goruwch- reoli amgylchiadau trallodus dynolryw, a pheri iddynt weithio er daioni, er gwaethaf drwg-amcanion dynion. Eto, nid digon inni weddio ar Dduw, ac erfyn arno am Ei nawdd a'i drugaredd, os nad ydym hefyd yn foddlon i roi ein hunain iddo, ac iddo'n defnyddio ni, hyd y mae ynnom, yn gyfryngau i gyflawni yr hyn a ofynwn ganddo. 'Does fawr o werth yng ngweddi'r un dyn a ofyn am i Dduw dru- garhau wrth y tlawd, os cyfyd o'i weddi i orthrymu'r tlawd ei hun,aeelwa'n afresymold ar ei anffodion. Mae'r egwyddor bwdr sydd o tan y fath weddi wedi ei chondemnio gan yr unig Un sy'n cyfiawn ddeall gweddi, pan y dywedodd y rhaid i'r neb a fynno faddeuant fod yn faddeugar. Rhed yr egwyddor hon o tan a. thrwy ein holl fywyd ysbrydol a Christionogol. Gweddiai dyn unwaith dros dlodion yr ardal, ac wedi dychwelyd i'w dy, darganfu ddiwinydd a diwygiwr cym- deithasol yn ei faehgen bach, yr hwn a ddy- wedodd wrtho, Nhad, tasa oriad y dr6r arian honno gin i, mi faswn i'n ateb eich gweddi dros y tlodion fy hun Mae gwir. ionedd go far.-r yn rhoi tro trwy ddywediad syml y baehgen hwnnw.