Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
USE ?? Mft? m KEENOIA SELF-RAISING FLOUR for Pastry, Scones, &c., &c.
Advertising
Beaty Bros ltd. THE A T IT CELEBRATED TAILORS THE PREMIER LIVERPOOL FIRM ———— FOR ———— Good Class Tailoring, AT REASONABLE PRICES. S —-—=  Church Stol I I I London Rd. and Church St., | UVERPOOL. I ? Closed on Wednesdays tt ? p.m. Open aH day SatMrdays. A A yw'ch ■ | Llygaid yn eich blilao? Yw pethau'n troi'n niwlog ae anelwig Dyna < arwydd a rhybudd llethdod y ilygad, a dylech gael eu hedrych rhag blaen; eu gwaethygu wna'u hesgeuluso. Gallwn ni gyda'n hoffer gwyddonol ddweyd wrthych os oes arnoch angen gwydrau ac os felly, eich cyflenwi a't rhai a barai fwyaf o 1es i chwi. Galwch heddyw: ARCHER A SONS Eyesight Specialists. 73 LORD STREET, I Sefydlwvd 1848. LIVERPOOL- 1 'Phone-3925 Bank. W. Gôrntns & sod, ? TAILORS ? 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL Aim AI 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. Real Welsh Homespuns for Golfing and Fishing, 'Phone—580 Bootle. Ceinion Rhuddfryn Yn oynnwys pigion o'i englynion a'i gywyddau wedi en dethol gan ANTHROPOS, a than olyg- iaeth ei fab, y Parch, LEWIS MORRIS, Wrexham Ynghyda darlun o'r awdur, a nodiadau bywgraffyddoi gan Dr. Cernyw. Williams. Argraffiad Rhad (mewn amlen),;6cb Trwfr pON4 7c, HUGH EVANS A'I FEIB O'R MWG I K MYNYDD. Hithoedd Got. y Brython Oddicartref U 0 LUNIAU ENWOGION CYMRU. 170 tudal. 2a, 60. o'r Swyddfa hon a chap bob Llyfywertiiwy^ II COOK & TOWNSHEND. Special Value in ..BOYS CLOTHING.. READY TO WEAR. Boys' Sports Suits, j £ "1 In Smart Tweeds ■ ?  Boys' Strong Rugby I'T/Q Suits in dark shades ■ For College wear. Boys' and Youths'  Waterproofs t ? A^ All sizes. Byrom St. & Dole St., LIVERPOOL. IF YOU WANT REALLY BOOTS BOOTS  BUNTS, 49 Paradise St-; Liverpool. The Largest Stock of Boots and Oboes in Lh?tpoot t* B?act from, for Indies ? GenM?nen, Youths and Boys School Boots In great variety. ASK FOB IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles, tOBA WATER. POTASH WATER. SBLYIBR WATER. LEMONADK BET 9INOBR ALB. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL ROBERTS EDWARDS ESTATE AGENTS, 64 KlrKdale Rd., Liverpool Telephone: 219S Royal. I
ITrem I.-Colomen.
Trem I.-Colomen. DVMA ddarn o brofiad Bardd Hebreig, a mawr oedd ei drallod ar y pryd mae gwaed ei galon ar ei eiriau, a rhuad ofn yn ei don ond ni fu bardd erioed a'i gan yn fwy up-to-date,- Gwrando fy ngweddi, 0 Dduw ac nac ymguddia rhag fy neisyfiad. Gwrando arnaf, ac erglyw fi cwynfan yr ydwyf yn <t fy ngweddi, a thuchan, gan lais y gelyn, t^ t gan orthrymder yr annuwiol; oherwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf, ac yn t. fy nghashau yn llidiog. Fy nghalon a <t ofidia o'm mewn ac ofn angau a ddaeth (t arnaf, a dychryn a'm gorchuddiodd." Dyna fel y teimlai'r Bardd yn y ddrycin a ysgydwai ei enaid. Yna, canfu golomen yn ehedeg heibio-fel y syllai allan, efallai, trwy ffenestr ei dy. Eiddigeddodd wrth ei haden- ydd, ec ebai efe,— 2 0 na bai i mi adenydd fel colomen yna yr ehedwn ymaith ac y gorffwyswn. Wele, crwydrwn ym nihell, ac arhoswn yn yr anialweh. Bryeiwn i ddianc, rhag t; y gwynt ystormus a'r dymestl." Mae eaniadau Kipling yn burion ar amser hoddweh ond yng nghyffro a thrallodion rhyfel, rhowch inni fynd i "seiat" a'r Salmydd. Plymiwn ddyfnderau mwy yn y galon ddynol yn ei Salmau ef nag a wnawn yng nghlodforedd Kipling i Brydain. 0 na bai i mi adenydd fel colomen Trwy sawl calon yr ehedodd colomen y dymuniad yna'n ddiweddar ? Ynghanol y cyffro, yr aflonydd- wch, y bygythion, y darogan drwg, a phob math ar arwyddion tymestl;" ni fu dim mwy naturiol i'r galon a garai hedd na deisyf gallu tyfu adenydd iddi'i hun, ymgodi i'r nef, ehedeg ymaith, a disgyn ar ryw lecyn unig, tawel, ymhell o olwg ac o glyw pob dadwrdd rhyfelgar Ond nid adar mohonom, ac ni feddwn adain-hyd yn hyn. Ar y ddaear, mewn cnawd, y mae'n rhaid inni aros, gydag ychydig eithriadau ac yr ydym yn llawn diogelach na'r rhai a geisiant hedeg. Ac ofer inni feddwl am ddianc o'r dymestl sydd wedi torri arnom, oherwydd mae hi braidd yn holl-bresennol. Ac, yn wir, ef allai na ddylem geisio dianc, ac mai llewyg o lwfrdra ddaeth dros galon y Bardd Hebreig pan ddymunodd fod fel colomen." Mae'r trallod yn un cenedlaethol, a mwy dynol ynnom ymaros ynddo, a meddwl, nid yn unig am ein diogel- weh personol a theuluol, eithr am yr holl gymorth y gallwn ei estyn i eraill hefyd. Plant y cyd-ofid ydym ac mae'r cyflwr yr ydym ynddo wedi gwasgu'r ffaith honno arnom a nerth digymar. I u
Trem III.-Bore Sabotb. I
Trem III.-Bore Sabotb. I Yr oedd yn ogoneddus! Caem y fraint o letya yn Belmont-ty lie y bu'r enwog a'r caredig Ddr. Herber Evans yn byw unwaith, a lie mae ei weddw hawddgar yn byw yn awr. Gymaint o weledigaethau ar gyfer ei bregeth- au hyawdl a gafodd yr Herber fawr wrth syllu o'r ffenestri ar y Fenai, ar drai a llanw, yn dawel a thonnog Y bore hwn, cyfaredd tangnefedd oedd dros bob golygfa a welem, fel y syllem allan, yn fore, ar ddwfr y Fenai a bryndir Môn. Nid oedd crych ar wyneb yr afon, ac ymddanghosai pob cwch arni fel yn cysgu uwchben ei lun yn y gloewddwr. Dim twrf yn yr orsaf, dim trenau yn rhedeg. Gwelem ager-beiriannau ar y rheiliau, ond hwythau hefyd yn cysgu'n drwm, heb fg o gorn, heb chwibaniad o bibell, na throad mewn olwyn. Yr oedd ysbryd y Saboth yn liond yr awyr, yn llond y fro, a chusanau haul yn troi'rFenai'n arian.a'r gerddi'n enmau byw, arnryliw. Oedd yn wir, yr oedd yn fore gogoneddus Ond yr oeddym wedi anghofio ein bod wedi deffro'n yr un byd ag yr euthom i gysgu ynddo, a'i fod, gan hynny, yn fyd y rhyfel! A buan y galwyd ni allan o'n breuddwyd per. Hyd yn oed pan oeddym yn y Cysegr, yn addoli, daeth sain y bugle i ymgymysgu a sain yr addoliad, a chlywem swn y tabwrdd a'r cyrn, a milwyr yn ymdaith heibio, tua'r orsaf, ar eu ffordd i faes y frwydr. A pheth bynnag all fod barn neb am ryfel, nac hyd yn oed am y rhan a gymer Lloegr ynddo, dyma ddynion a wynebent y gelyn, ac a fwrient eu bywydau yn darian rhwng ei ergydion a'u gwlad-ac a ninnau, oedd yn clywed eu swn yn ymdaith heibio, ar fore Saboth, a ni'n mwynhau gosteg y Cysegr. Cymerid eu lie hwy gan y Tiriog- aethwyr—dynion ieuainc o Arfon, Lleyn, ac Eifionydd, yn bennaf. Cerddasom trwy ganol torfeydd ohonynt yn ystod y Saboth. ac ni welsom arwydd o gamymddygiad ar neb ohonynt. Nos Saboth, sylwasom ar luaws o'r cyfryw yn yr oedfa, yn eu gwisg filwrol, ac yn gwrando mor astud a neb oedd yno. A pha ryfedd ? Onid dynion ieuainc a ddyg- wyd i fyny'n grefyddol oeddynt oil, ac yn hoffi gwrando'r Efengyl ? Mentrwn ddywedyd mai'r enw anwylaf, ganddynt ar wyneb y ddaear yw-IEsu GRIST + 1 f-
Advertising
DRINK DWYRYD ILUIks mus0 II vw T- it T I TEA. The Tea of Old Time flavour,
Trem II.-Y Tren. I
Trem II.-Y Tren. I Os myn neb deimlo'i fod wrth galon y prys. urdeb a'r cyffro sy'n y wlad heddyw ynglyn & pharatoadau ar gyfer y rhyfel, aed ar daith mewn tren, ar linell Caer a Chaergybi. Felly y teimlasom ni, a channoedd eraill, y Sadwrn a'r a'r Llun diweddaf. Mae'r ffyrdd tan law'r Llywodraeth, ac ni wyr hyd yn oed swyddog- ion y rheilffyrdd fawr am y drefn fydd arnynt yr awr nesaf. Yr oedd Gorsaf Lime Street, brynhawn dydd Sadwrn, fel crochan berwedig. Ceid fod rhai trenau, y dywedasid y noson gynt y byddent yn rhedeg fel arfer, wedi eu hatal, ac ni ellid rhoi unrhyw sicrwydd am i'r trenau a gyehwynent o Lerpwl gyrraedd pen y daith yn Arfon na M6n y noson honno. Yr oedd yno luaws o bregethwyr, fel magnelau Ilwythog, yn gyhoeddedig i danio'u hergydion o amryfal bulpudau, mewn tref a gwlad, ac mae'n syn os cyrhaeddoddy cwbl ben eu taith mewn pryd. Pan gyraeddasom i Fangor, ac yr euthom i dren Caernarfon, gwelosm yno gyfaill o bregethwr, yr hwn fuasai'n eistedd yn y cerbyd ers tros dair awr, yn disgwyl ein trên ni o Gaer. Tua hanner nos y cawsom i Gaernarfon. Elai ein cyfaill ymlaen ymhell i'r wlad, lie, yn ol fel yr hysbysodd ni fore Llun, y cyrhaeddodd yn blygeiniol y Saboth. Gyda llaw, diddorol oedd ei hanes yno. Arweiniasid ef at ei lety gan ddyn ieuanc ond er dygn guro yn ffrynt a chefn y t9", ni fuasai waeth iddynt guro ar garreg fedd-dim lief na chyfEro o'r tu mewn. Yn y man, yn clywed y swn anamserol, estynnodd dyn ei ben allan o ffenestr llofft y ty gerllaw, a gofynnodd Bedi'r mater ? Ydi'r German- iaid wedi dwad Ond wedi deall y dyn a'i gyflwr, gwahoddodd y brodor caredig ef i gymryd rhan o'i wely-a rhaid oedd iddo wrth ran go helaeth hefyd Ond rhan dyner o'r stori oedd y ffaith fod mab i breswylwyr y llety y methwyd cael ateb ohono newydd fynd allan i'r rhyfel; ddarfod i'r hen bobl fod mewn trallod blin, yn methu cysgu am nosweithiau, ac mai newydd ymlonyddu mewn cysur yr oeddynt. Ymgysurent am glywed ohonynt fod mab Lloyd George yn mynd allan yn yr un cwmni Druain o'r teulu hoff a gwledig Ac wedi i'r rhieni gael rhyw lwnc felly o gysur, mor naturiol oedd i'w cwsg, bellach, fod yn drwm Ond nid oedd neb a ofidiai gymaint a hwynt, pan ddeall- asant, fore Sul, am yr hyn a ddigwyddasai y noson gynt. Ond y pwynt yma yw dangos fel y mae'r rhyfel echrydus hon yn cythryblu y cartrefi mwyaf caruaidd a thawel, ac yn tynnu ochain allan o galonnau ddylasai gael llonydd. Beth bynnag, cynghorem ein dar- Ilenwyr i beidio a mynd ar deithiau pell ar hyn o bryd, onibai fod rhaid iddynt; ac os ant, am fynd a chyn lleied o baciau i'w canlyn ag a fo modd. Collwyd dirfawr amser mewn gorsafoedd i chwilota'r vans am baciau y methwyd eu cael y noson honno. Am ryfel hefyd y gellir dywedyd y geiriau, Cysgod angau, a heb drefn."
Trem IV.-Trwy Ddrych yI Beirdd.-
Trem IV.-Trwy Ddrych y I Beirdd. Ni fu rhyfel heb ei fardd. Eu harier, ar y I cyfan, fu moli rhyfeloedd. Yn ei awdl i Heddweh, fe ddywed Hiraethog,— Nid di-euog fuost ti, O Awen." j Edliwia ddarfod iddi helpu i ennyn ysbryd rhyfel, a'i glodfori. Nid yw'r awen mor bleidiol ag y bu, o gryn lawer, i ryfel, ac mae rhai o'i meibion yn elynion digymod iddo. Pan yn ysgrifennu'r sylwadau hyn, derbyn- iasom ddwy gan, oddiwrth ddau fardd galluog, ond yn dipyn gwahanol eu safle i edrych ar y rhyfel bresennol. Wedi eu darllen, tybiem mai nid annheg fuasai eu cy- hoeddi gyda'i gilydd. Mae'r Gol caredig wedi goddefcymaint o ryddid inni, o bryd i bryd, fel yr anturiwn ofyn iddo ganiatau i'r ddwy ymddangos yma. Dyma fel y pynoia Myfenydd,— I CAN Y R HYLEL. GERMAN) A falch ei gwedd, A ffrostia yn ei chledd, 0 cloddier iddi fedd Na chyfyd mwy 0 boed i'w balchter ffrom Ei gwneud byth mwy'n rhy lost I beri aeth na siom, Na gwaedlyd glwy'. Bu'n chwyrnu amser hir, Gan fygwth mor a thir, Er na pharablai'n glir, Ond daeth yr awr I blygu'r ffroenfalch hon, Ac yn y cywair lion Fe gan y byd o'r bron, A hi ar lawr I Mae dewrion Prydain Fawr, Yr Arth o Rwsia fawr, A Galia'n un yn awr Am gosbi hon Arddeliad fo i'w cledd, Boed iddynt dorri bedd I'r hon fu'n torri hedd Cyfanfyd bron. Y Llew o Brydain Fawr, Yr Eryr-awyr-gawr, A'r Arth, a gant i lawr Y gelyn rhonc. A sain gorfoledd fydd Drwy Ewrob, nos a dydd, Dyrchefir mwy yn rhydd Soniarus "onc." 0 boed i ddur a than Hen Frydain chwerwi can Yr Ellmyn, fawr a man, Y flwyddyn hon. Fe haeddant fyned trwy Ofidiau fwy na mwy, A derbyn marwol glwy. 0 dan eu bron. J. MYVENYDD MORGAN. The Vicarage, St. DogmaeVs. O'r goreu; ond dyma farn y Parch. W. Pari Huws ar y mater :— < RHYFEL. (Gogangerdd). RHYFEL Dyna'm testyn heddyw, Pennaf chwarae pobol fawr Ffordd mae'r cryf yn ennill enw, Trwy gael pen y gwan i lawr "Gweiniwch Gleddyf," ebai'r Iesu, Pan oedd yma yn y cnawd A thrwy'r oesau, byth er hynny, Gweinir ef ym mynwes Brawd. Rhyfel Dyma ddifyr chwarae Chwarae lladd a thywallt gwaed I Chwarae saethu at galonnau Yna'u mathru dan y traed Lladd dan ganu, dyna Ryfel —Ond troi can y Seindorf mae Yn ruddfannau yn yr awel, A'i hymdeithdon fyw yn wae. Rhyfel! Alwedigaeth enwog Ie, un o'r Celfau Cain "Cain oedd tad y nwyd lofruddiog, Dynnodd gyntaf gledd o'r wain Nofiodd ef i anfarwoldeb Ar frud donnau gwaed ei frawd; Ac ar waedlyd lif trychineb Nofia Rhyfel wlad i fiawd. Araf iawn gall pwyll a chariad Newid golwg gwledydd byd I Ond gall Rhyfel ar amrantiad Weddnewidio'r byd i gyd Yng ngoleuni fflaeh cleddyfau Cerdda'i weddnewidiol waith Ond bydd gwedd ei newidiadau Fel pe Uffern ar ei thaith. S6n am lwyddiant trwy diriondeb 1 Son am gadw gelyn draw Trwy ond gwenu yn ei wyneb, Tra mae'r cleddyf yn ei law Na, 0 na! trwy'r cledd daw llwyddiant, Egyr ffordd a'i fflamau tan Dim ond croes, a bedd, a methiant Sydd ar lwybrau cariad glan Trwy ryfela, ie, Rhyfel, Yn y nefoedd sanctaidd gtÎn, Yr enillodd dinod angel Deg orseddfaint iddo'i hun; Daeth yn Bennaeth y Cythreuliaid, Waeth ym mhle, ond bod yn ben, Na pha faint wneir yn drueiniaid Ar y ffordd i'r .orsedd wen Heddyw'n miloedd Brodyr gwympant, Troir eu beddau'n risiau clod, i I uchelwyr a'u gogoniant A'u synhwyrau yn eu cod