Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
I DRINK BWVRYD TEA. TEA The tea of Old Time flavour.
Advertising
USE MAV ?m u EaImmamL M KEENOStA SELF-RAISING FLOUR for Pastry, Scones, &c., &c.
Advertising
Beaty Bros Ltd. THE CELEBRATED TAILORS THE PREMIER LIVERPOOL FIRM ———— FOR ———— Good Class Tailoring, AT REASONABLE PRICES. ONLY ADDRESSES: I I London Rd. and Church St., | Closed on LIVERPOOL. day Saturda. I Closed on Wednesdays at I p.m. Open all day Saturdays. | A yw'ch I Ltygaid yneich blino7 Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig ? Dyna B arwydd a rhybudd llethdod y llygad, a dylech gael eu hedrych rhag blaen eu gwaethygu ■ wna'u hesgeuluso. Gallwn ni gyda*rt hoffer. ■ gwyddonol ddweyd wrthych os oes arnoch ■ angen gwydrau ac os felly, eich cyflenwi a'r H rhai a barai fwyaf o les i chwi. Galwch ■ heddyw: B ARCHER A SONS I Eyesight Specialists. I 173 LORD STREET, ■ 3efvdlwvd 1848. LIVERPOOL. II 'Phone-392S Bank. v. mm & son, TAILORS 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL AIAO A* 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. Real Welsh Homespuns for doffing and Fishing, Ceinion Rhuddfryn Yn cvnnwys pigion o'i englynion a'i gywyddan wedi en dethol gari ANTHROPOS, a than olyg- iaeth ei fab, y Parch, LEWIS MORRIS, Wrexham Ynghyda darlun o'r awdur, a nodiadau bywgraffyddol gan Dr. Cernyw Williams. Argraffiad Rhad (mewft amlen),;6cb HUGH EVANS A'I FEIB O'R MWG I'R MYNYDD. Llithoedd Gol.y Brython Oddicartref 84 0 LUNIAU ENWOGION CYMRU. 170. tuda1. 2s, 60. o'r Swyddfa hon a chap bob Llyfrwerihwyr COOK & TOWNSHEND. Special Value in ..BOYS CLOTHING. READY TO WEAR. Boys' Sports Suits, l^y jfi In Smart Tweeds ? Boys' Strong Rugby I Q Suits in dark shades ?/ For College wear. Boys' and Youths' jO/Q Waterproofs ■ & I All sizes. ByromSt. & IWfle St., LIVERPOOL. IF YOU WANT REALLY GOOD J' -t) BOOTS h U NTS, 49 Paradise St; Liverpool. Stock of Boots and Sboea In Liverpool te select from, for Ladies 6 Gentlemen, Youths and Boys School Boots in great variety. ASK FOR IDRIS n' t' I Table Waters In Syphons and Bottles. SOBAWATBBL. POTASH WATER. SBLYXBR WATER. LBMONAB1 PRY PINORK ALB. lte., itti IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL ROBERTS 0 EOWARDS ESTATES' AGENTS. 0 64 KirKdale Rd., Liverpool Telephone: 2183 Royal.
O'R DE.I
O'R DE. I [GAN ALBANI. I DIHANGFA TEIFION RICHARDS.—Hyfryd- wch i lu o'i gyfeillion yng Nghaerdydd ydoedd croesawu'r Parch. Teifion Richards, Hyde Park, Scranton, America. Yr oedd newydd gael dihangfa o dir Almaen, lle'r aeth yr holl ffordd tros yr Atlantig gydag eraill i Gyngres Heddwch Constance. Yr oedd Dr. Clifford yn un o'r parti, ond fe welwyd ar unwaith nad gwiw meddwl am gynadleddu. Yr oedd Germani yn un berw drwyddi draw yn codi'r llu i.w gosod ar y maes. Bu siaplen y Kaiser garediced a'u hebrwng cyn belled a Cologne, ac nid hyn oedd diwedd eu hanghysur. Buont ddau ddiwrnod cyfan heb ddiferyn o ddwr i dorri eu syched, a da oedd ganddynt gaffael y waredigaeth mewn pryd, oherwydd fe gadwyd dau o wyr enwocaf pulpudau New York mewn carchar am y rheswm eu bod wedi cymeryd y camera allan yno i dynnu lluniau. Nid oes amser heno i adrodd y mymryn lleiaf o'r hanes yn ol Teifion, ond ni a ddywedwn hyn, y bydd ef a'i briod, oedd newydd anturio i'w taith briodas, yn sicr o gael eu derbyn gyda breichiau agored yn ystod y deufis y byddant ill dau yn eu treulio yng Nghymru. Merch i Doctor Beddoe, gynt o Ferthyr, ydyw Mrs. Teifion Richards, ac yn adnabyddus fel cantores boblogaidd yn Hyde Park, a'r ddinas boblog y tu draw i'r Werydd. Diddorol oedd ei glywed yn dywedyd fod Y BRYTHON yn dod yn gyson i ddwylo rhai o'i aelodau yn yr America, a Gwilym Cadle, lienor a bardd, sydd gyda'r pybyraf yn gofalu am bopeth sydd oreu yn ein llenyddiaeth i wyr y doleri. + PERERINION OWEN CHARLES.—Dywedir fod Mr. T. Owen Charles a'i fryd ar drefnu I pererindod o Gymry America i'r Eisteddfod yn Aberystwyth. Nid yn fuan yr anghofir y ciwdawd lliosog a ddaeth gydag ef i Wyl Caerfyrddin. + Ag Owen Owen, llanc dau ar bymtheg oed gyda'r Territoriaid yn Abertawe, yn ymwran- do ac yn edrych am ddyfodiad gelynion ein gwlad ar riniog un o ddociau Abertawe, yn eigion y nos dywell, cerddodd yn syth i'r dwfr a boddodd. Bradbwll ofnadwy ydyw cyfrol odd Wr sy.'n wastad ag ymyl y doc a llwch y gl6 yn daen drosto, Fe hudws lawer o drueiniaid i'w droedio gan feddwl taw tir caled oedd yno. Cafodd Owen angladd anrhydeddus y milwr. Hwyrach fod ei frawd Dodger Owen yn adnabyddus i hoffwyr y bel droed yn Lerpwl. Dywedir ei fod, yn un o'r Ex-all White Wigan Northern Union. + HELA GWAITH.—Os mawr yw darpar ac arlwy ein diffynwyr gyda'r arfordir er ym- gadw rhag cyrch y gelyn, nid llaesu dwylo y mae ein Cynghorau Sir. Dacw Gaerfyrddin ar fedr gosod gwyr ar waith i adeilio pont newydd. tros afon Llwchwr. Ac fe geidw Cyngor Morgannwg nifer mawr rhag bod yn segur ac yn ddilafur gyda'r ffordd newydd a fwriedir ei thorri o Gwmafon i Borth Talbot.— naw milltir o hyd a phedair troedfedd ar hug- ain o led. Yr antur i gostio £ 24,000. Pen- ain o led.. hefyd ganlyn ar y ffordd haeam o I?andeilo i Lanbedr-pont-Stephan. + I F.FRo.ENi'R HELi.-Dyma'r trenau rhad yn rhedeg eilchwyl i Borthcawl, Abertawe, Gwbert ac Aberystwyth, er hwyluso gwyr y De i gael awelon iachus glannau'r mor. + Y MILWR SY'N MARW DROSOM.—Soniodd y Parch. Charles Davies, Tabernacl,tfaerdydd, yn dyner iawn am ein milwyr sydd ar y Cyfandir yn tynnu'r ymlid oddiar genedl fechan y Belgiaid. Yr oedd ei sylwadau wrth fodd ei gyd-ddinaswyr yng Nghaerdydd. rTeimlai mai yn ei le ef yr oedd ein milwyr jannwyl yn aberthu eu bywydau ar faes y gwaed. + FFRANCOD SIR DREFALDWYN.—Onid ell- weh chwi'r golygydd grefu ar ein cyfaill y Parch. O. T. Davies, o Lanfyllin, roddi dipyn o hanes y Ffrancod a gymerwyd yn garchar- orion yng nghweryl Waterloo ? Lluestwyd anwer ohonynt yn Llanfyllin, Trefaldwyn, y Trallwm a'r Drefnewydd, a dyna, medd rhai, ydyw'r rheswm fod y Saesneg yn iaith ar- bennig yn y rhannau yma. Daeth y Ffreinc i ymgaru a'r Cymruesau ni fedrai'r un rhyw na'r Hall mo iaith ei gilydd, ond fe wnaed compromise gyda rhyw fath ar glebreg Seisnig. Mynnwch un ai Mr. Davies, neu'r hyfwyn Job Jones o Bootle, sy'n gymydog agos a chwi, ac yn hen bryd iddo bellach ymarllwys peth o'i oes-gofion diddan er lies a budd y cyffredin. + COEGNI TWM YMBARELS.—Un o'r pethau a fwynheir yn gyffredinol yng Ngorllewin Cymru ydyw llith wythnosol gwalch a'i geilw ei hun yn Twm Ymbarels yn y Carmarthen Journal. Cais roi ei syniadau am y Byd a'r Betws ar lafur gwib-grwydrus Shir Gar. Fe welir y gwaith a wneir ar y llafariaid yn yr enghraifft o ganlyn Wel, nid amser i gracio jocs iw hi nawr pam bo'r gelynion jist a bod wrth y drws. Credwch chi ne beido, ond 'smo'r wlad wedi silweddoli beth ma'r rhifel ma'n oligi. Mai'n shem ini fel gwlad ie'r wlad fwya pwysig yn y bid fod pobl fychan fel y Belguims yn galler rhoi shwt glowto teidi ir J ermans. Meddyliwch fod y Jermans yn lando miwn yn y wlad ma. Faint o ddinion fise yngallerhanlo drill (dryll) ? Seithe nhw ddim rhick waer shach kwmpo Jerman." Yna y mae yn myfyrio mydr yn hollol yn ol ei reol ei hun Pwy sy heddi yn y fiddin, Yn trin y drill a'r cledd ? Pwy sy'n herio nerth y 'gelin, Pwy sy'n risko cinnar fedd ? Bechgin Cimri-heeros Gwalia- Rhai fi'n cal i dwrdio'n hir, Y rhai fi'n dwrdio-nhw fidd ddwetha i Wmla dros i catre'n wir." + Sefydlwyd Mr. W. D. Jones o Goleg y Pres- byteriaid, Caerfyrddin, yn weinidog ar eglwysi'r Annibynwyr yn y Wig a Chrannog, Sir Aberteifi. + Penodwyd J. Emrys Griffith, mab y Parch. W. B. Tawe Griffiths, Seven Sisters, i swydd ymddiriedol ym Maesteg tan yr awdurdodau Addysg. o
-Bias Rhyfel.
Bias Rhyfel. DYNA sydd ar bopeth y papurau ar hyn o bryd a dyna sydd ar y rhan fwyaf o'r newyddion a'r nodion sydd yn y golofn hon :— SWN Y MARSEILAISE. "-Mown cyngerdd yn Llandudno'r wythnos ddiweddaf at drysorfa'r rhyfel, cenid anthemau cenedl- aethol Rwsia, Belgium, Prydain, a La Marsaillaise y Ffrancod, sydd a mynd mawr arni bellach, na neb yn meiddio taro nodyn o Die Wacht amRhein yGermaniaid,ffei ohonynt! + GWAITH A THAMAID.-Fel ffrwyth ymweliad dirprwyaeth oddiwrth Gyngor Sir Fflint a. hwy, y mae Cyngor Prestatyn wedi cydsynio i gefnogi'r cynlluri i gael ffordd newydd o Gronant i Rhyl. Anfonwyd dir- prwyaeth at Fwrdd y Ffyrdd i Lundain, a'i hamcan i sicrhau £10,000 o rodd at yr antur. Cyst y cwbl E26,000, a bydd yn foddion gwaith a thamaid i lawer gweithiwr yn y gaeaf a'i glem. + YSGWYD LLAW A CHYDWEITHIO. -Yr oedd gan Ryddfrydwyr Cricieth fasar ar y gweill i gael arian at godi clybdy newydd ond oherwydd y rhyfel, rhoed hynny heibio ar y pryd, ac ymunwyd a'r Toriaid i gynnal basar undebol a'i helw i fynd at drysorfa'r Rhyfel a Chymdeithas y Groes Goch. Ddydd Mercher diweddaf y bu hyn; Mrs. Greaves, priod arglwydd-raglaw Sir Gaernar- fon, yn llywyddu, a Mrs. Lloyd George yn agor. + GYMRWCH CHWI FI ?-Y mae Dr. J. H. Manis-Jones, Colwyn Bay, wedi cynnyg ei wasanaeth i'r Llywodraeth fel gweinyddwr ar glwyfedigion maes y Rhyfel; ac wedi gwrieyd popeth yn barod i fynd os del yr alwad. + SGUBO'R 'STEDDFOD.-Y mae Eis- teddfod Gadeiriol Meirion, a gynhelir bob dydd Calan yn Nolgellau, wedi cael ei gohirio oherwydd yr Armagedon Fawr. + ATEBIAD SIR PFLINT.-Atebodd Sir Fflint yn hael ac ewyllysgar i gais Tywysog Cymru am danysgrifiadau at y Drysorfa Ryfel. Y mae Yswain Penarlag (Air. W. G. C. Gladstone), arglwydd raglaw'r Sir, eisoes wedi derbyn ymhell dros ddwy fil o bunnau. Ymysg y tanysgrifwyr, ceid Mrs. J. W. Summers., £ 200; Mrs. Aitken, Bodelwyddan, £ 150; y Barnwr Bankes, 100 gini; Mr. J. Herbert Lewis, A.S., 100 gini; cy f arwydd wyr Gwaith M-wn Helygen, 100 gini; Syr Pyers a'r Arglwyddes Mostyn, 100 gini bob un; Mr. H. W. Buddicom a Mr. C. Whitley, 100 gini bob un. ATEBIAD SIR DREFALDWYN.- Pedair mil o bunnau sydd wedi ei. hel yn Sir Drefaldwyn at Drysorfa Ryfel Tywysog Cymru. + f Y LLANW'N DOD YN OL.—Y oedd braw y rhyfel, a gwaith cwmniau yn tynnu'r tocynau rhad yn ol, wedi gwagu trefi glannau moroedd Cymru o'u dieithriaid agos yn llwyr ond wedi i'r tocynau rhad gael eu hadfer, ac i bobl ymbwyllo tipyn, dyma'r dieithriaid yn eu holau wrth y cannoedd a'r miloedd yr wythnos hon a'r ddiweddaf, er calondid mawr i'r lleytwyr druain, oedd mor bryderus am eu tamaid a'u trethi trymion maes o law. Ni chafodd y llanw pobl erioed well croeso nag a gafodd gan bobl Rhyl, Llandudno, yr Aber- maw, Aberystwyth, ac yn y blaen. GRESYN GARTY.-Golygfa drist iawn a welwyd yn llys ynadon Hen Golwyn ddydd Mercher diweddaf,sef gweld tri dyn parchus yn cael mis o garchar bob un am dorri i mewn i gistiau bwyd a diod yng ngorsaf y lie hwnnw. Yr oedd amheuaeth ers plwc a'r diwedd fu eu gwylio a'u dal. Eu henwau oedd Coelmore Kenrick Cole, Joseph Edwards, ac Arthur Davies. Y ddau gyntaf yn managers ierdydd glo yn y dref Cole yn Eglwyswyr selog ao yn swyddog Davies wedi bod yn ysgrifen- nydd Eglwys Fedyddiol ac yn oruchwyliwr dwy ysgol elfennol yn y dref; gweithiwr cyffredin oedd Edwards. + GORSEDD HEB HEDDTVCH.-Rhyfel rieu beidio, nacau'n rhoi Arwest flynyddol Geirionydd heibio a ddarfu hyrwyddwyr a beirde pendant y sefydliad clodus hwnnw, a chynhaliwyd hi ddydd Sadwrn diweddaf ar lan llyn Geirionydd, sydd wyth can troedfedd uwchben Trefriw. Dewi Mai o Feirion arweiniai a phan dynnwyd Cledd yr Orsedd o'r wain, ac y gofynnodd yntau i'r dyrfa, A oes heddwch ? Nac oes," ebe honno nerth esgyrn ei phen ac wedyn dyma' Dewi'n cyhoeddi rhyfel yn erbyn yr Almaen ac Awstria, ac yn adrodd gosteg o benhillion rheg a melltith ar y ddwy wlad hynny. Mr. T. J. Williams, cyn-faer Bangor, a lyw- yddai'r Eisteddfod a gaed ar ol yr Orsedd. Methodd Isallt, y meddyg mwyn a llengar o Flaenau Ffestiniog, a bod yn yr Arwest eithr dyma'r englynion a ddarllenwyd gyda hwy! oddiar y Maen :— I'r Arwest a'r Beirdd arwrol-dwthwa Teg fo'i deithio'n unol Ac Isgoed a'i gu ysgol Bob wyneb, heb neb yn ol. Ceir sisial mai creu Sasiwn-i yddfu'r Eisteddfod wna'r garsiwn Enbyd croes sy'n y byd crwn Yn pwnio'n cul opiniwn. Gu Arwest i'r Gymreig werin—a'i byawdi Awen roes Taliesin, Gyda dwyfol, rasol rin, Er cynnydd Bro y Cenin. Gwilym Cowlyd, fry gwelwn—e'n hedeg* Gan dafodi'r garsiwn Sy'n cega-e hwvlia'n haid Enaid bob un i annwn. Ewch 'mlaen i ledaenu-awen a claa A cherdd trwy holl Gymru Boed telyn ymhob teulu At raid ein datgeiniaid cu. Magu y mae ein hegin-nes Uifo Tros faes liwyfan Cymru; A ledia Gerald" t i garu 0 waelod ei fedd wold a fu. Degau o sectau y sydd,—un atynt Gawn eto er cynnydd, Ar riniog Llyn Geirionydd- Gwyl y dawn mewn goleu dydd. *yn yr Aeroplane. t Dywed Gerallt Gymro yn y 12fed ganxif fod telyn ymhob teulu. + TRANC Y PAB.-Bu'r Pab farw yit Rhufain yr wythnos ddiweddaf, er galar i Gatholigiaid y byd. Ond gan fod llygad pawb ar Belgium, ac yn rhy syn i feddwl na malio mewn nemor ddim byd arall, cafodd e i ymadawiad lawer Ilai o sylw nag a gawsai pe'r byd fel arfer. Y peth goreu glywodd Cymru. erioed am anffaeledigrwydd y Pab oedd dar- lith y diweddar Barch. Wm. Rees (Gwilym Hiraethog), a'i phwyth finiog ddiail i athraw- iaeth y maddeuant pechodau. + DIOFRYD Y DDAU FICER.-Nid Esgob Llanelwy ydyw'r unig weinidog per- thynol i'r Eglwys Sefydledig yng Nghymru sydd yn barod i wneud ei ran dros ei wlad yng nghwrs y rhyfelgyrch presennol, canys deallwn fod y Parch. Myvenydd Morgan, Ficer St. Dogmael's, a'r Parch. Evan P. Jones, Ficer Moylgrove, wedi amlygu eu bwriad i wneud yr un peth.