Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
BRINK |  DRINK   DWYRYD TEA. The Tea of Old Time flavour
Advertising
USE KEENORA SELF-RAISING FLOUR for Pastry, Scones, &c., &c.
Advertising
Beaty Bros ltd. THE CELEBRATED TAILORS THE PREMIER LIVERPOOL FIRM FOR ———— Good Class Tailoring, AT REASONABLE PRICES. I ============^ I ONLY ADDRESSES: I London Rd. and Church St., Claoed aD LIVERPOOL. all du Saturday. I Closed on Wednesdays at I p.m. Open all day Saturdays. A yw'ch Llygaid yn eich blino? Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig ? Dyna arwydd a rhybudd llethdod y llygad, a dylech gael eu hedrych rhag blaen; eu gwaethygu wna'u hesgeuiuso. Gallwn ni gyda'n hotter gwyddonol ddweyd wrthych os oes amoch angeti gwydran ac os felly, eich cyflenwi a'r rhai a barai fwyaf o les i ehwi. Galwch heddyw: ARCHER & SONS Eyesight Specialists. 73 LORD STREET, l' I Sefydlwvd 1848. LIVERPOOL- I 'Phone-392S Bank. w. snimls & SOD, TAILORS 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL ALSO AT 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. Real Welsh Homespuns for Qolfing and Fishing, 'Phone—580 Bootle. Ceinion Rhuddfryn Yn oynnwys pigion o'i englynioa a'i gywyddau wedi eu dethol gan ANTHROPOS, a than olyg- iaeth ei fab, y Parch, LEWIS MORRIS, Wrexham Yngh yda darlun.o'rawdur o nodiadau bywgraffyddol gan Dr. Cernyw Williams. Argraffiad Rhad (mewn amien),6cb Trwy'r post, 7o, HUGH EVANS A'I FEIB O'R MWGTR MYNYDD. Llithoedd Gol. y Brython Oddicartref 84 0 LUNIAU ENWOGION CYMRU. 170 fcudal. 2b, 6c. o'r Swyddfa hon a chap bob L'yfnyerthvryr COOK & TpWNSHEMD. Special Value in ..BOYS CLOTHING.. READY TO WEAR. Boys' Sports Suits, 12/6 In Smart Tweeds ■ Boys' Strong Rugby 12/9 Suits in dark shades ■ For College wear. Boys' and Youths' I 'I Q Waterproofs a J?? /Q? All sizes. Byrom St. & Dole St., LIVERPOOL. IF YOU WANT REALLY BOOTS BOOTS TRY b lJ N TS, 49 Paradise St; Liverpool. The Largest Stock of Boots and Shoes in Liverpool te select from, for Ladies & Gentlemen. Youths select Boys School Boots in great variety. ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles. SODA WATER. POTASH WATER. SBLTZER WATER. LSMOMABN DII. Y BINQBB. ALB. :Ita., ste, RDRiS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL LIVERPOOL ROBERTS 6 EDWARDS 1STATE AGBNTS, 64 Kipjldale Rd., Liverpool | Telephone: 219S Roya? Telephone: 219S Royal.
I Yr Wyl Genedlaethol.
Yr Wyl Genedlaethol. Y Gohirio. Ni bu'r Eisteddfod Genedlaethol, er ys talm, mewn cymaint argyfwng ag y mae ynddo eleni—o leiaf, yng ngolwg rhai pobl. Nid oes amheuaeth nad yw'r rhyfel bresennol yn peri llawer iawn o anhwylustod yn ein gwlad, ond pedfai cwmniau'r rheilffyrdd, ar y dechreu, heb fod tan orfod i atal eu trefniadau arferol, ys gwn i a fuasai s6n o gwbl am ohirio'r Eisteddfod fawr ? Eithr y mae trefniadau'r rheilffyrdd, weithian, megis cynt, a ninnau o hyd yn ceisio credu fod popeth o chwith. Yn wir, mae'r awydd i ohirio popeth wedi dod fel pla bach dros ein gwlad, a cheir gweld, bob dydd ymron, rybudd o ohirio rhyw gyfarfod bach neu gilydd yn ein hardaloedd mwyaf anghysbell. Gwyr pawb, erbyn hyn, yr arwyddair a gawsom gan ein blaenwyr ar gychwyn y rhyfel ac eto i gyd, wele'r pwyll- gorau cysylltiedig a phob mudiad, heb ond ychydig o eithriadau, yn ceisio taflu rhyw fath ar fraw arnom, yn lie ein dysgu i gerdded ymlaen yn wrol a wynebu'r sefyllfa, er ei difrifoled. CoUant ar eu permsu'n lan ac lir-i I-; t .¡. ph,y, i," ar ein bywyd cyhoeddus. Cytunwn yn foddlon nad ellir disgwyl yr un llewyrch a llwyddiant ar bethauam ychydig amser; ond yn sicr, dylasem fagu mwy o hyder a che'sio gwneuthur y goreu o'r sefyllfa. Hwyrach y daw yn gyfyng iawn arnom maes o law, a hynny oherwydd y rhyfel hon ond yn wir, nid doeth cychwyn ar unwaith i gwrdd a'n gofid a pheri i bawb gredu bod yn rhaid rhoi popeth o'r neilltu a segur ddisgwyl am newyddion drwg. + + + Cawsom gyfle i ddarllen yn llawn hanes y cyfarfod ym Mangor pan benderfynwyd gohirio'r Wyl Genedlaethol am flwyddyn. Gwelsom fod yno, hefyd, fel mewn, mannau eraill, wahanol farnau ary mater. Et- eyfeirio o amryw at resymau eraill, gellir tybio, er hynny, mai prif reswm y mwyafrif yng nghyfarfod Bangor oedd ofn methiant. 0 leiaf, i'r pwyllgor ariannol, yn gyntaf un, y trosglwyddwyd y mater gan y Pwylleor Gweithiol pan gododd y syniad o ohirio, ac wrth benderfynu'n derfynol ni wnaeth y Pwyllgor Cyffredinol namyn cadarnhau pen- derfyniad y pwyllgor ariannol. Mae'n eithaf teg i'r pwyllgor hwn wneuthur popeth yn ei allu i atal/gwastraff ynglyn a'r Eisteddfod, ac yn wir mi a wn yn dda fod yn rhaid ffrwyno, a hynny yn dynn iawn weithiau, rai o'r is-bwyllgorau perthynol i'r Wyl Genedl- aethol ond pan fo ardal yn chwennych croesawu'r Wyl i'w plith, ac yn ei chael, rhaid iddi wedyn ymgymryd at yr anturiaetli gydag ysbryd mwy cydnaws na'r ysbryd hwnnw sydd a'i fryd yn bennaf ar elwa ami. Nid mudiad lleol mo'r Eisteddfod Genedlaethol, a dylasai pob ardal sy'n cael y fraint o'i chynnal, gofio mai hyrwyddo sefydliad cenedl- aethol y maent, a bod y genedl yn disgwyl y goreu o'r ymddiried a'r anrhydedd cysylltiedig a hi. Ond y mae lie i ameu os ydyw Bangor, o ohirio'r Wyl eleni, yn ei gohirio oddiar resymau cenedlaethol. Nid budd ariannol y ca'r genedl oddiwrth ei Heisteddfod, ac o'i cholli am flwyddyn cyll, am ysbaid, hir, lawer lawn o'r dylanwad da hwnnw sy a'i ddelw mor eglur yn y bywyd Cymreig. Mi a wn yn burion mai ar warrau'r gwarantwyr y syrthiai unrhyw golled ariannol ym Mangor ond yr wyf yn un ohonynt, a gwell a fuasai gennyf pe'r pwyllgor wedi mentro gyda'r wyl eleni na chael cyfle i dynnu'm henw allan pan eir ati i baratoi'r ymrwymiad newydd sydd yn angenrheidiol oherwydd y gohirio. + + + Nid yw ychwaith yn deg iawn ag Aber- ystwyth. Mae'n debyg nad yw Aberystwyth hyd eto wedi cael yr un gair swyddogol oddi wrth Fangor, nac ychwaith oddiwrth Vinsent neu Eifionydd. Gan fod y gohirio hwn yn effeithio ar Aberystwyth yn gystal a Bangor, peth digon priodol, ar ran pwyllgor Bangor, a fuasai dewis dirprwyaeth i gydymgynghori a rhai o bobl Aberystwyth er mwyn dod yn gytun i ryw benderfyniad. Yn ol y papurau y mae pwyllgor Aberystwyth yn cydymdeimlo ag aelodau Bangor yn eu sefyllfa ac yn barod i wneuthur popeth yn ei allu i gyfarfod a hwy yn eu hanhawster ond gan mai Aberystwyth a biau 1915, yn Eisteddfodol felly, gweddaidd iawn ar ran Bangor a fuasai cadw hynny mewn c6f ar y dechreu a mynd yn uniongyrchol at bwyllgor Aberystwyth yn hytrach na'i an- wybyddu a cheisio gan yr awdurdodau eraill i symud gwyl 1915 flwyddyn ymlaen. Bydd y gohirio hwn yn chwyddo treuliau'r ddau bwyllgor, a diddorol a fydd sylwi beth a wna Cymdeithas yr Eisteddfod ynglyn a'r mater. Ca'r Gymdeithas hanner yr elw bob blwydd- yn, ac er nad yw, fel rheol, yn estyn help pan fo'r Wyl yn methu talu amdani ei hun, peth digon dymunol ar ei rhan fuasai cynorthwyo Bangor ac Aberystwyth mewn argyfwng anrùsgwyliadw o'r fath hwn. + + + Beth, tybed, a ddaw o'r cyfansoddiadau a'r gweithiau celf sy mewn Haw ym Mangor ? Os na chedwir y cystadleuaethau yn agored am flwyddyn arall, yna bydd blwyddyn o segurdod ym myd lien a chelf. Mae'r beirniaid, yn ddiau, wedi cwblhau'u gwaith, ac nid yw'n eithaf teg a'r cystadleuwyr i gadw eu cyfansoddiadau am flwyddyn arall cyn cael y ddedfryd gwell na hynny fuasai dychwelyd y cwbl i'r awduron ac i hwythau anfon i fewn eto o'r newydd y flwyddyn nesaf. 1 -0 B.B. I
O'R DE. I
O'R DE. I I [Gan ALBAlil. I ARGLWYDD Merthyr yn ei fedd dyna'r newydd diweddaf. Collodd y De foneddwr hynod pan hunodd W. T. Lewis ar ol myned tan driniaeth llawfeddyg yn Llundain ychydig dros dair wythnos yn ol. Hanoedd o deulu cyffredin. Yr oedd yn ddisgybl yn ysgol Taliesin ap Iolo, sef mab yr enwog Iolo Morgannwg. Daeth yn wr hirben gyda pheir- j.ari:waitli a y lime's gsb ym Mor- gannwg n Gwent. Anrhydeddwyd ef am ei wasanaeth gan Victoria yn 1885, pan urddwyd ef yn farchog. Crewyd ef yn farwnig yn 1896; dodwyd ef yn K.C.V.O., 1907; ysteiliwyd ef yn Farwn Senghenydd (hen deitl Ifor Bach) yn 1911, a derbyniodd G.C.V.O. yn 1912. Felly, un cry deitlog ydoedd yr ym- adawedig. Nid oes a wyr heddyw faint y dylanwad a weithredodd ar ddinas Caerdydd er pan y'i penodwyd yn wr deheulaw yr Ardalydd Bute yn ymehangiad dociau a ffrydiau y porthladd. Cyn ei ddyfodiad, nid oedd un Cymro a ddaliai swydd ymddiriedol ond wedi i Syr W. T. Lewis ddechreu o ddifrif, buan y lleihawyd rhif y Scotsmyn, ac yn eu lie ar bob cynnyg wele Arglwydd Merthyr yn sefydlu Cymry diledryw. A dyma'r rheswm paham y mae cynifer o Gymry mor ddylan- wadol ym mywyd a thrafferth dinas fawr Caerdydd. + Ag Ifano yn rhodianna'n fyfyrgar min nos ar draeth Penarth, daeth yn rhy agos at wyr o ryfel oedd yn cadw gwil. Fe'i drwgdybiwyd. Daeth swyddog i'w holi, ac yr oedd yn sicr yn ei feddwl pan glywodd ei enw taw Almaenwr oedd y lienor adnabyddus o Gaerdydd, yn cynllwyn brad i Brydain. Bu'n agos iddo gael ei gyrchu'n amharchus megis GermanSpy. Fel gwlad wedi penfeddwi ar addysg, nid rhy fedd fod ynddi amryw o lanciau y blyn- yddoedd diweddar a oedd dueddach ag well ganthynt philosophyddion Germani a'u cen- hedlaeth na dim arall yn y byd. Eithr dyma eilundduw rhai o'n pregethwyr ieuainc, sef delfrydydd y byd ysbrydol-Rudolph Eucken -yn ein damnio ni y Prydeinwyr yn deilchion am feiddio dangos dewrder yn erbyn gallu- oedd Berlin a chyfiawnder." Wedi'r ar- ddangosfa hon o ddryg-anian serchogyn anwylaf ein colegau diwinyddol, hwyrach mai llwybr goreu'r ystiwdant difiniti a fydd stico i ddysgu adnodau yr Hen Lyfr yn ei gof, a rhoi'r goreu i'r made in Germany articles." + Disgwylir y Prif Weinidog i Gaerdydd yn ystod yr wythnos hon neu'r nesaf. Er pan dderbyniodd yr Arglwydd Faer air oddiwrth Mr. Asquith, y mae'r brwdfrydedd mwyaf wedi ei ennyn ymhlith ymrafaelion bleidiau a sectau i'w gynorthwyo i gael parodrwydd o lanciau i fyned i'r gad tros eu mam wlad. + Y mae un L. D. Nicholl yn ein cyhuddo ni fel Cymry yn y De o fod yn oeraidd ac amharod i alwadau'r fyddin. 'Dyw'r critics yma naws gwell o glochan oboti ein diffyg sel oherwydd onid gwir yw taw y South Wales Borderers ydyw'r fintai liosocaf ei Victoria Crosses o holl finteioedd arfog By ddin Prydain Fawr ? Y nesaf ati mewn rhif y bathodau hyn am wroniaeth ar faes y drin ydyw'r Black Watch. Ni fydd bechgyn Cymru ar ol eto, er cymaint yw sgrech ein gwatwarwyr. + Y mae'r Barnwr Lawrence yn preswylio yn Waunifor, Maes y creigiau, a mynych yw ei oriau seibiant ar lan Gwili a Theifi yn bachu brithyllod a choch-a-bonddu a'r guil-bodied- dun, pan na bo awel groes yn gyrru ei edefyn ynghenglyn ym mrigau y perthi. Tybed a ydyw'r barnydd anrhydeddus yn siarad yr un iaith a Huw y Sweep ar adegau felly ? Dywedir fod ym mryd yr awdurdodau. benodi yn fuan iawn ddilynydd yn lie Syr Edward Anwyl yn Aberystwyth a chan fod gohebydd dienw yn Y Darian wedi bod cyn garediced a dweyd pwy un oreu o'r dorf sydd yn ymestyn am y gadair, hwyrach y bydd gwyr mawr yr Unifersiti Court yn barod i weithredu yn ol siars gohebydd y Darian. Pwy fydd mor hyfwyn a chynnyg hynny ? Beth ddaw o'n hen genedl wedi iddi or- boblogi ei thiriogaeth gyfyng a dysgedig- saith-am bob-swydd. Diolch na syrthiodd i'm rhan i y manteision digyffelyb hyn. Gwell gennyf fy mwriad o fyned yn lowr,"a hynny'n fuan iawn. + Dyma' air o'r colonies yn dywedyd Ifod Miss Eleanor Daniels, Llanelli, yn swyno tyrfaoedd mewn drama Ysgotig, Kitty McKay Pwy a wyr nad y Cymry a fydd penchwarae- wyr y dyfodol ym Mhrydain ? + Dyna un o hen deulu Cymreig o ardal Dinbych ydoedd Brandon Thomas, awdur y ddrama ddoniol, Charley's Aunt. Bu farw dro'n ol ac yr oedd yn wr ffyddlon i'w fam- wlad. Gofalodd enwi ei blant ag enwau Cymreig. Ieuan ydyw enw ei fab hynaf. + Rheithior newydd Caerffili ydyw'r Parch. Walter Davies, gynt o Lanfabon. Cardi rhagorol i chwi Rhwng y Banciau a'r Eglwys Wladol, dyna baradwysau y Ceredig- ioniaid i'w plant; oddigerth pobl Dregaron, rhaid cael Civil Service i bob plentyn gwryw a enir yno + 1 Eos '/Tafod rd¡ new. ;D,<l:r,. ohono Yr oedd Dafydd Goratn vA deip neilltuol o'r Cymro hunan-ddiwylliedig. Y tro diweddaf y gwelais ef oedd ar y daith i'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mountain Ash, yng nghwmni Cochfarf. Yr oedd ers blyn- yddau bellach ar drigfan Bryn Eos yn Ystrad Rhondda. Fe'i ganwyd mewn pentre a elwir Gyfeillion, rhwng Pont y pridd a'r Hafod. Bu'n signalman tan gwmni'r Taff Vale Rail- way. Ysgrifennodd doreth i bapurau Cym- raeg: yr oedd yn un o lenorion llithricaf y Darian. Gwnaeth wasanaeth gwerth ei groniclo fel cerddor. Dyma fe wedi blaenu YJ1 55 mlwydd oed. Nefoedd i'w enaid a phob Cymro tebyg. I + Ysgol newydd gostus ac eang ydyw'r adeilad a godwyd ger y Ffynnonfedydd, tref Abertawe. Dyma rif ei hysgolheigion 336 o ferched a bechgyn, 159 o fabanod. Nid ffynnon fyddai'r ddiwinyddiaeth oreu i'r olaf, eithr Bysedd dyn mewn basin dwr + Ymwelodd Cwmni'r Ddrama Gymreig ag Aberdyfi nosau 1au a Gwener diweddaf. Mr. Ted Hopkins sy'n parhau i lywio'n fedrus ei thynged. + Dyma sut y canodd Gruffydd Hiraethog :— Am y lloer newydd a'i chyneddfau :— Gwilied bawb bob gwlad i boch Os lloer las y llawr a wlych Os o'r gwynt y hi sydd goch Un wenn sydd o anian sych. Dyna well na'r weather glass i chwi.
HENLLAN.
HENLLAN. Llwyddiant Cerddorol.-Bydd yn llawenydd calon gan drigolion Henllan a Chymry Dinas y Bbython glywed am lwydd neill- tuol Miss Eleanor Evans, yn ennill y Fedal Aur am Operatic Singing yng Ngholeg y Royal Academy, Llundain, gydag anrhydedd. Dyma y pumed bathodyn iddi ennill, heblaw amryw wobrau ariannol. Mae'n galondid mawr i'w hedmygwyr drwy Gymru a Lloegr weled y foneddiges ieuanc hon yn rhoddi camre breis- ion a chyflym ymlaen yn y byd cerddorol. Hawdd gweled mai i fyny y mae ei nod. Y mae'r galwadau mynych am ei gwasanaeth yn y Brifddinas a thrwy'r holl wlad yn brawf o'i gwerth a'i hedmygedd. Dymunwn iddi hir oes a mawr lwyddiant.—Mab y Mynydd. _H
Advertising
Athrofa Aberystwyth (XJb O'B CoiiojitJ YM Mbbiitsool CYMN Prifathraw T. F. ROBERTS, M.A., LL.D DECHREUA'R Tymor nea? M Ddydd iL? M&wrth,Hydref 1?,1913. PMotoir yr efrydwp M gyfei Arholiadau Prdysgcl Cymra. Cynhygor amryw o yagoloriaethan (rhai a honynt YD gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn hon. Cj rnfr yr arholiad le yn Aberystwyth ar y 16eg o Pis Medi, 1913. Am fanylion pellack, ymofyner k— J H. DAVIBJB, M A., Oofreatrydd.