Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DRINK DWYRYC f /-== TEA. The Tea of Old Time flavour. ic
1ft LAN Y TAFWY41,,
ft LAN Y TAFWY41,, [GAN Y GWYLI^R! W estminster NOll Fawrth, 8 ix' 1914. Gwyrthiau Mr. Lloyd Ge orge. CEIR Ilawer o holi'r dyddiau hyn lie mae'r Canghellor, a beth yw ei farn ef ar bwnc y Rhyfel ? Y mae pawb yn gwybod—o'r hyn lleiaf fe ddylent wybod-fod eyfrifoldeb arbennig yn gorwedd arysgwyddauCanghellor y Trysorlys yn yr amgylchiadau yr ydym .ynddynt ar hyn o bryd. Efe sydd i ofalu am yr adnoddau ariannol,heb y rhai nis gall byddin na gwlad ymladd hyd fuddugoliaeth. Yn yr Armagedon yr ydym ynddi, gallu'r pwrs," yn ol barn dynion a feddant weled- igaeth bell, a benderfyna'r cwestiwn mawr yn y pen draw. Rhaid am waed a chnawd, am feddwl a chalon, am ffydd ac am hunan- aberth, i ennill brwydrau—rhaid, ond rhaid hefyd am arian di ben draw i hyrwyddo'r fiordd. Oblegid hynny y mae galw am hatling y tlawd a chyfoeth y goludog i lenwi'r Drysorfa'r. Wel, gofalu am y Drysorfa, a chynllunio moddion i'w chadw'n llawn, yw'r gwaith pwysig sy 'n di&gyn ar y Canghellor. Hyd yn hyn y mae wedi eyflawni gwyrthiau nid yn unig yn y ffordd o gyfarfod anghenion y Fyddin a'r Llynges, ond yng ngweithiad y cylehoedd cyllidol,ar y rhai y dibynna masnach a thrafnidiath y Deyrnas. Heb gyngor ac ategiad pybyr y Weinyddiaeth mae lie i ofni y buasem mewn mil mwy o bryder ac o drybini nag yr ydym yn bresennol. Ei fryd ar ffaglu'r wlad. Cydnebydd pa-wb-liyd yn nod y bob! a'u cashant, ac nid ydynt yn ol o ddweyd hynny-fod Mr. Lloyd George wedi gwneud ei ran yn ardderchog yn y cyfeiriad a nodwyd yn y cyfwng yr ydym ynddo, ond mae'r wlad, a'r werin yn enwedig, y.i dal i ofyn, Beth sydd ganddo i'w ddweyd am y Rhyfel? Mas'n dda gennym ddweyd y csir atebiad pendant i'r ymholiad ymhen ychydig iawn o ddyddiau. Rhed trefn- iadau'rGanghelloriaeth yn weddol esmwyth, a gall y Canghellor yn awr droi at ddvled- swyddau eraill. Yn ol ei arfer dechreua gyda'i bobl ei hun. Nid yw'n abl eto i fynd i lawr at ei gjnrychiolwyr, felly dewisa'r peth goreu nesaf at hynny, drwy ddatgan ei farn mewn cyfarfod mawr o Gymry Llundain yn cynrjchioli pob dosbarth, gradd, a phlaid o Gymry'r Hen Wlad. Cynhelir y cyfarfod yn y Queen's Hall, pryd- nawn Sadwrn y 19eg o'r mis hwn. Beth fydd y neges nid" ydym yn gwybod, ond yr ydym J'n &icr y bydd yn un a ddeffry ein cydgenedl. Mae'n wybyddus i Mr. Lloyd George bleidio heddwch hyd y terfynau eithaf yn Uchel-Gyngor y Deyrnas mae'n argyhoeddedig nad aeth y Wlad hon i Ryfel ond o orfodaeth ac o gyfiawn achos. Fe wyr ymhellach fod rhyddid ac iawnderau gwerin pob gwlad yn y glorian, a bod eu hiechydwriaeth yn dibynnu ar wrthsefy II, hyd angeu os rhaid, drahauster, gorthrwm a chreulonder yr Iwnker Huns o'r Almaer, y rhai a sathrant holl hawliau dynoliaeth, fel eu enawd. i'r IIaid o dan draed. Am hynny, yr hyn a ddisgwyliwn gan y Cang- hellor, a chredwn na'n siomir, ydyw dat- ganiad cynhwysfawr ar achosion y Rhyfel a chyfiawnhad gwaith Prydain yn cymeryd rhan ynddo fel amddiffynnydd rhyddid ac iawnderau gwlad a gwerin. Digon tebyg hefyd y bydd iddo fanteisio ar y cyfleusdra i gymeradwyo y mudiad yn flafr flurfio battaliwn o filwyr Cymreig, ac i bleidio y gwahanol gymdeithasau dyngar sydd eisoes ar waith yng Nghymru. I Gwyliwch yr Haint. Un o'r materion pwysig sy'n hawlio sylw uniongyrchol yr awdurdodau ydyw iechyd y milwyr cartrefol, ac yn enwedig y gwir- foddolwyr neu'r Territorials. Fel rheol y mae disgyblaeth y fyddin yn gyfryw ag a sicrha bob gofal a gwyliadwriaeth ddyladwy ynglyn a'r achosion sy'n arwain i heintiau a chlefydon lie bynnagy bydd casgliad pobl- oedd,megis dwr amhur a diffyg glanweithdra Ond mae'r amgylchiadau yn wahanol gyda'r gwirfoddolwyr. Cesglir y rheiny ynghyd, wrth y cannoedd weithiau, am ysbaid cym- harol fyr, ac hyd yn oed os bydd swyddogion iechyd gyda hwynt nid yw eu dylanwad na'u hawdurdod yn y cyffredin yn ddigon i sicrhau y trefniadau anghenrheidiol. Un o'r dyddiau diweddaf hyn clywais achwyn trwm ar y modd y gadewir i nifar o Ter- ritorials ymdaro mewn "oentref a chym- dogaeth amaethyddol y lID o siroedd Cymru. Am resymau neiUduol nid wyf am enwi'r lie ar hyn o bryd, ond dyma'r ffeithiau. Yn y pentre bychan a'r ffermdai cylchynol ceir y milwyr wedi eu tyrru, mewn pen-tai, ystablau,beudai a llofitydd,lle mae'r awyriad yn gyfyng a'r awyr o anghenrheid- rwydd yn ddrwg. Cartrefir ychydig ohonynt mewn pebyll, ond y mae'r trefniadau ynglyn a'r rheiny ymhell o fod yn ddigonol. Mae'r dwfr yfadwy yn brin, a pheryglon heintus yn aros yn nwfr y ffosydd. Prin hefyd yw'r earth-dai, ac anaml iawn y llcsgir y casgliad baunyddiol o refuse. Effaith ddiffael es- geulusdra ynglyn a'r pethau hyn fydd typhoid, a heintiau cyffelyb. Y'mhob rhyfel Prydeinig, lie y Iladd y fidog a'r fagnel eu cannoedd, ceir Afiechjrd a Haint yn lladd eu milo?dd. Yn y rhyfel yn Neheubarth Affrica yr oedd nifer y typhoid cases ymlith ein milwyr ni yn 57,684; o'r rhai hynny bu farw 8022 mwy na chyfanrif y nifer a laddwyd mewn brwydrau. Os na chymerir y mater mewn llaw ar un waith, fe fydd ein profiad yn waeth yn y Rhyfel echryslon sydd o'n blaen. Y mae lie i Gymro arall gymeryd rhan bwysig yngljn a'r mater hwn. Y Local Government Board yw prif allu iechydol y deyrnas. Y Cymro eiddgar a diflin Mr. Herbert Lewis yw un o benaethiaid y Board. Atbwy yn well y gallwn ni gyfeirio ein liapol ? Ymhle y mae'n Beirdd ? t Nodwedd arbennig mewn perthjnas a'r Rhyfel yw'r modd y mae beirdd a llenorion y deyrnas yn dod allan i'w bleidio. Diau fod gan farbareiddiwch yr Ellmyn yn athro- feydd celf a dysg fel Louvain a Malines rywbeth i'w' wneud a hyn, ond mae'n hawdd gennym gredu fod a fynno ym- deimlad dwfn o hawliau dyn lawn cymaint i'w wneud a'r mater a dim arall. Wedi'r cyfan rhyddid ac iawnder rhwng dyn adyn. rhwng cenedl, a chenedl, yw yr egwyddorion sylfaenol a gynhyrfant feirdd ein byd i lefaru'r gor3u sydd ynddynt, a dyna'r paham, ni gredwn, yr ysgrifenna Mr. William Watson, Mr. Robert Bridges, Mr. Henry Newbolt, Mr. Rudyard Kipling, a lliaws mawr ohonynt mor Ilym a miniog yn erbyn y trawsder sy'n bygwth sathru Rhyddid y byd i'r llawr. It is not conceivable that we should fail," ebeMr.Kipling wrth annerch gyda Mr. Herbert Samuel (these are days, chwedl yntau, in which party divisions are dead) dorf fawr n v Dome yn Brighton, for if we fail the lights of freedom go out over the whole world." Lie mae beirdd Cymru a'u galwad hwythau i'r gbd ? Ysgrifennodd fy nghyfaill Mr. Gwynn Jones gerdd fythgofiadwy yn erbyn echlysronrwydd Rhyfel, a theimlwn innau ei hergyd ond y mae pethau echryslonach yn y byd na Rhyfel, a gwell Angeu a dirdyniadau'r Ellmyn na choll anrhydedd a chywilydd. Caned y Gwynn ai gyd-feirdd Gan anfarwol Rhyddid ac Iawnder i ni. Hctdau Chwerwedd- i Yfory fe gyferfydd Ty y Cyffredin un- waith eto—am ba hyd nid oes neb yn gwy bod. Drwg gennym feddwl fod hadau chwerwedd yn aros ynglyn a'r ddau Fesur y buwyd yn ymdroi cyhyd a hwynt y tri tymor diweddaf hyn, Y tebygrwydd pres- sennol, fel yr wyf yn deall, ydyw y gosodir Ymreolaeth a Dadgysylltiad ar y Deddf- lyfr, ond y gadewir y naill yn ddiweith- rediad hyd nes y pesir yr Amending Bill, ac y gohirir gweithrediad adrannau Dad- waddoliad y Mesur Cymreig hyd yrhaf nesaf, neu ymheUach os pery y Rhyfel,ar yr ystyr- iaeth fod yn amgylchiadau yn gosod yr Eglwys Esgobol o dan anfantais.
Advertising
USE KEENORA SELF-RAISING FLOUR for Pastry, Scones, &c., &c.
Advertising
Beaty Bros ltd. THE CELEBRATED TAILORS I THE PREMIER LIVERPOOL FIRM f FOR Good Class Tailoring, AT REASONABLE PRICES. I ONLY ADDRESSES: R I London Rd. and Church St. LIVERPOOL. I Closed on Wednesdays at 1 p.m. Open all day Saturdays. I A ywch It Llygaid yn eich biino 7 Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig ? Dyna arwydd a rhybudd llethdod y llvgad, a dylech gael eu hedrych rhag blaen; eu gwaethygu wna, u hesgeuluso. Gallwn ni gyda°n hoffer gwyddonol ddweyd wrthych os oes arnoch angen gwydrau ac os felly, eich cyflenwi a'r rhai a barai fwyaf 0 les i chwi, Galwch heddyw: ARCHER & SONS Eyesight Specialists, 173 LORD STREET, Srfvdiwvd 1848. LIVERPOOL 'Phone-392S BanK. W. mm & SOD, TAILORS 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL ALSO At 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. j MILITARY J1. OFFICER'S UNIFORMS, SERVICE JACKETS, BREECHES, etc.- Phone_580 Bootle. Ceinion Rhuddfryn: Yn oynnwys igion o'i englynioa a'i gywyddau IOTZ thol F?g-an i?;jra a than olyg- iM? ei fab, y Parch, LEWIS MORRIS, Wrexham Ynghyda dartun o'r awdur. a nodtadau bywgraffyddol gan Dr. Cernyw Williams. Argraffiad Rhad (mewn Trwy'r post, 7o, HUGH EVANS A'I FEIB O'R MWG I'R MYNYDD. f Llithoedd Gol- y Brython Oddicartref • 14 0 LUNlAU ENWOGION CYMRU. 170 tudal. 2B, 60. o'r Swyddfa hon a OH»O bob Hylwrerthwyr IF YOU WANT REALLY GOOD BOOTS ':>J,} TRY hUNTS, 49 Paradise St; Liverpool. The Largest Stock of Boots and Shoes in Liverpool to select from, for Ladies & Gentlemen, Youths and Boys School Boots In great variety. 1SK FOB, « IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles. SODA WATER. POTASH WATER. SALTZBR WATER. LEMONADS OAT OINGER ALB. :ito.. a.. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL, Yr Ail Ganrif: RHAI GWERSIl ODDIWRTH Y CANMLWYDDIANT Atodiad i'r Anerohiad o Gadair y Gymanfa Gyffsfidinol Drefnewydd; 1912. GAN Y Parch, JOHN HUGHES, M.A. Liverpool. PRIS SWLLT. Cyhoeddedig gan: HUGH EVANS A'I FEIBION, 356-8 Stanley Rd., Liverpool ROBERTS 0 EDWARDS KSTATIF AGENTS, 64 KirfSdale Rd., Liverpool Telephone: 2198 Royal.
Advertising
Liverpool Guardian Trade Protection Society 'Phone 4865 Bank. Wires Precaution" The Oldest Provincial TtlADE PROTECTION SOCIETY A MUTUAL SOCIETY Governed by a Board of Honorary Directors. or terms write. F. MEATHER, Secretary, 41 North John Street. Liverpoo
I RHEDIAD Y RHYFEL
I RHEDIAD Y RHYFEL I fyny hyd ddydd Llum. I Yn Ffrainc a Belgium. Bu'r fyddin Brydeinig mewn ymladdfa watdlyd yn Mons, Awst 23ain ac yn Cam- brai, Awst 26ain. Wedyn bu byddin Ffrainc yn fwy o gynhorthwy iddi, a chiliodd y ddwy i'r deorllewir tua Paris,dan ymladd yn egniol ymron bob awr. Ar y laf o Fedi gwnaeth yr Ellmyn ymdrech arbennig yn erbyn y Prydeinwyr, tua Compeigne, hanner can milltir o Paris, ond lluddiwyd hwy gan ddewrder y Guards Brigade, a gollcdd dri chant o eneidiau, ond a laddcdd lawer mwy o'r gelynion, ac a ddygodd ddeg o'i gynnau mawrion. Drannoeth, yr 2il o Fedi, cafwyd cyfle i orffwys, y cyntaf ers deng niwmod. —0—0— I Paris heddyw rhagor yn 1810 Felly mae byddinoedd yr Almaen yn awr ymron lie y bu lluoedd VoijsMoltkeyn 1870, a thua'r LID adeg ar y Bwddyp, oherwydd yn nechreu Medi y daeth newydd drwg i ddinasyddion Paris am ddau gadfridog, Marshall 4zaine, a Marshall MacMahon, Gwyddelde-wr a gyfrifid yn ddisgynnydd un o hen frenhinoedd y Werddon. Bob dydd fe ddiangai Ilaweroedd o glwyfedigion^ a ffoedigion o flaen yr Ellmyn i'r brifddinas, ond tybid fod digon o fwyd o'i mewn i borthi pawb, ac ni feddyliai neb am y dioddef oedd i fod. Amgylchynid Paris yr amser hynny a. chadwyn o gaerau ac amddiffynfeydd dros ugain milldir o hyd, a phob amddiffynfa yn ddigon i ddal 500 o wyr a llawer o ynnau. Yn fuan daeth y newydd fod yr Ymherawdr Napoleon III wedi ildio a'i fyddin gydag ef. Yr oedd y bobl yn dechreu newynu, a gwrthryfela yn erbyn yr Ymherawdr. Arweiniwyd hwy gan M. Jules Favrea M. Gambetta, a chyhoedd- asant Werin Lywodraeth Newydd, a gyd- nabuwyd gan Unol Daleithiau'r Amerig, Italy, Switzerland, Sbaen, Portugal a Bel- gium. Ceisiwyd rhuthro o'r ddinas yn sydyn yn erbyn y gelynion, ond methiant hollol fu pob ymgais. Yr oedd pleidiau yng ngyddfau ei gilydd tu fewn, a bwyd yn mynd yn brinach bob awr. Rhannwyd torth fechan Ilai na theisen geiniog bob dydd i bob person —bara yn cynnwys llawer o wair a bran, ond ychydig o wenith. Yn fuan iawn,methodd llawer a chael cymaint a hynny, a daliwyd cathod a chwn a llygod i'w bwyta. Ym- drechodd Prydain ar ran y trueiniaid yn y ddinas a chythrwyd gwerth 950,000 o fwyd. i mewn. Ond erbyn hyn yr oedd yn rhy hwyr. Torrodd pobl Paris eu calonnau, ac ary 3ydd o Fawrth, 1871 gollyngwyd byddio Bismarck a Von Moltke i'r ddinas. No Erbyn heddyw mae Paris mewn gwell cyflwr i wrthwynebu'r gelyn. Yn lie ugain, mae ganddi fwy na thri ugain milldir o o amddiffynfeydd o'i chwmpas, ac yn lie bod ar ei phen ei hun, mae byddinoedd Lloegr i'w chynorthwyo. Hefyd, nid oes gan yr Ellmyn heddyw na Bismarck na Von Moltke i arwain eu lluoedd a chyrllurio eu symudiadau, a gwell na'r cyfan, mae swn traed miliynau Rwsia bron i'w clywd yn dynesu o'r dwyrain i daro at galon yr Almaen ei hun, -0--0- I Rwsia'n pwyso ymlaen. Mae Rwsia yn symud yn araf ondynsicr Llesteiriwyd hi am foment yng ngogledd Prwsia, ond aeth ei byddin yn y de dros gyffiniau Awstria Hungary ac mewn brwydr wyllt cymerodd 70,000 o garcharorion, a chipiodd dref Lemberg, y bedwaredd o ran poblogaeth a chyfoeth yn ymherodraeth Awstria Hungary. Yn awr mae dw.\ filiwn o Rwsiaid yn barod i wrthwynebu'r Ellmyn gallant deithio drwy Vienna, prifddinas Awstria, neu trwy Breslau, am Berlin. Nid oes unrhyw obaith i'r hyp sydd yn aros o fyddin Awstria, ac y mae ei chidfridogion mewn ofn a dychryn yn gyrru am gyr- horthwy i'r Almaen. Wrth i Rwsia ddynesu at B jrlin bydd raid tynnu miloedd lawer o filwyr o Ffrainc i'w gwrthwynebu, ac f Jly bydd Uai o bwysau a'r y Prydeinwyr a'r Ffran cod. I Ar v Mor, 11 Nos Sadwrn daeth newydd fod chwech o o longau rhyfel yr Almaen wedi suddo pymtheg o longau pysgota diamddiffyn, yn M6r y Gogledd, gan ysbeilio'r llwyth a dwyn y morwyr yn garcharorion i Wil- helmshaven. Dyna greulondab annynol a diesgus, cyffelyb *i 'r alanastra a wnaed yn agog i'r un fan gan y llyngesydd Rwsiaidd Rodjistvensky, adeg y rhyfel a Japan,