Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Eisteddfod Genedloethol Bangor.
Eisteddfod Genedloethol Bangor. Y MAE pwyllgor Eisteddfod GercdhGthoI Bangor, a ohiriwyd hyd yr haf nesai oi o v/ydd y rhyfel, wedi penderfynu derbyn enwau ymgeiswyr o'r newydd, i fyny i'r cyntaf o Fehefin, yn y cystadleuaethau lleisiol ac- offerynol, gan gynnwys corau a seindyrf. Dewiswyd Dr. Vaughan Thomas yn feo-riiad yn lIe y diweddar Mr. Harry Evans. Gyda golwg ar adran llenyddiaeth, cedwir yr holl gyfansoddiadau a'r beirniadaethau dan sêl yn yr ariandy hyd adeg yr Eisteddfod. Cod- wir y cynhyrchion celfyddydol yn un o ystafelloedd Coleg y Brifysgol. Derbynnir ymgeiswyr o'r newydd hefyd yng nghystadJou- aethau'r adrodd a'r hollti llechi.
Advertising
I COF A CHADW am Eisteddfod Fairx Llan- I gollen, 1858. Y prif fuddugwyr, ec 11m a'n gorchest. Pris, 8c. Swyddfa'r Brython," LBRPWL„
Advertising
DRINK DWYRYD TEA. The Tea of, Old Time flavour.
Advertising
USE KEENORA SELF-RAISING FLOUR for0 Pastry, Scones, &c., &c.
Advertising
Beaty Bros Ltd. THE TAILORS CELEBRATED TAILORS THE PREMIER LIVERPOOL FIRM FOR Good Class Tailoring, AT REASONABLE PRICES ONLY ADDRESSES: I I London !?d andChurchSt., Clo..d OD LIVERPOOL. all day SatUrdaYSo I Closed on Wednesdays at 1 p.m. Open all day Saturdays. A yw'ch I Llygaid yn etch folia o ? 1 Yw pethau'n troi'n niwlog ac aneiwig ? Dyna arwydd a rhybudd llethdod y Bygad, a dylech gael eu hedrych rhag blaen; eu gwaethygu wna'u hesgeuluso. Gallwa ni gyda'n faofier gwyddonol ddweyd wrthych os oes arnoch angen gwydrau ac os felly, eich cyflenwi a'r rhai a barai fwyaf o les i chwi. Galwch heddyw: ARCHER & SONS Eyesight Specialists. ST 3 LORD STREET, I Sefydlwvd 1848. LIVERPOOL- — .;<4 'Phone-392S Bank. v. fififfiins & so TAILORS 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL ALSO AT 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. j MILITARY JI. OMCMIS UNIFORMS, SERVICE -JACKETS, BREECHES, etc. 'Phone—580 Bootle. Ceinion Rhuddfryn Yn cyanwys pigion oi englynion a'i gywyddaa wedi en dethol gan ANTHROPOS, a than olyg- iaeth ei fab, y Parch, LEWIS MORRIS, W".=.g- Ynghyda darlun o'r awdur.a flodladau bywgraffyddol gan Dr. Cot-nyw, Williams. Argraffiad Rhad (mewn amlen),|6cb Trwy'r post, 7c, HUGH EVANS A'I FEIB O'R MWG I'R MYNYDD. Llithoedd Goky Brython Oddicartref .0 LUNIAU ENWOGION CYMRU. 170 tudal. 2a, 60. o'r Swyddfa hon a ohap bob HyffyertJjwyr j IF YOU WANT REALLY M BOOTS TBT hllNTS, 49 Paradise St; Liverpool. The Largest Stock of Boots and Shoes in Liverpool t* select from, for Ladies & Gentlemen. Youths and Boys School Boots in great variety. ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles, SODA WATUR. POTASH WATER. SBLTSBR WATBRf LEMON AD B 'I' SILT GINGUIL ALA. 8"IiW.. IDRIS & Co., Ltd., SorthumberlaQd St., 1 LIVERPOOL Yr Ail Ganrif: RHAI GWERSII ODDIWRTH Y CANMLWYDDIANT Atodiad i'r Anerchiad o Gadair y Gymanfa Gyffredinol Drefnewydd; 1912. GAN Y Paroh.JOHNHUGHES, MA. Liverpool. PRIS SWLLT. Cyhoeddedig gan: HUGH EVANS A'I mglON, I 356-8 Stanley Rd., Liverpool j J ROBERTS 0 EDWARDS ESTATE AGENTS, 64 KirHLdale Rd., Liverpool Telephone: 3193 Royal*
QLAt4 Y TAFWYS
QLAt4 Y TAFWYS [GAN Y GWYLIWRI I Westminster. I Nos Fawrth, 15 ix 1914. I Cyfarfod Mawr y Canghell- or. Hysbystr ni gan awdurdodau'r Pwyllgor fod y trefniadau a'r gofynion yngtyn a'r cyfarfod o Gymry Llundain a gynhelir yn y Queen's Hall y prynhawn Sadwrn nesaf yn golygu bod y mwyaf llwyddiannus eto yng nghyfres cyfarfodydd y Rhyfel. Y fath yw'r awydd i glywed pronouncement y Canghellor ar yr achosion a arweiniodd i'r Amagedon fawr hon fel y gellid llenwi'r Queen's Hall drosodd a throsodd drachefn a thrachefn. Cymerir y gadair ai yr achlysur gan Iarll Plymouth, o GastèllSant Ffagan, Caerdydd. Diau y cofia ein darllenwyr i'r larll golli un o'i feibion ym mrwydr waodlyd Mons. 0 dan ymdoimlad dwfn o ddyledswydd yn unig y gallodd ArglwyddPlymouth godi uwchlaw ei alar naturiol a phersonol er mwyn cymeryd rhan yn yr apfil at ei gydwladwyr--oblegid y mae ynddo yntau waed Cymreig—i wneud eu rhan yn yr argyfwng y mae'r wlad a'r Ymherodr- aeth ynddo ar hyn o bryd. Yn ol trefniad y Pwyllgor rhoddir y cyfarfod i fyny'n gyfan- gwbl i araith y Cadeirydd ae anerchiad y Canghellor. Daw C6r Cymreig Llundain, o dan arweiniad Mr. Merlin Morgan, yno i wresogi'r cynhulliad a chaneuon ac anthemau gwladgar a chenedlaethol. Datgenir Duw gadwo'r Brenin, Duw gadwo'r Tywysog, y Marseillaise, anthem genedlaethol y Belgiaid ac emyn genedlaethol y Rwsiaid. Ar ol anerchiad y Canghellor fe gana'r gynulleidfa yr hen emyn Cymreig "Marchog lesu, yn llwyddiannus," ac fe ddiweddir-bu agos i mi ddweyd y gwasanaeth," a dyna ydyw o ran hynny-gyda datganiad y dorf o Hen Wlad fy Nhadau." K. lechyd y Fyddin. I Clod lie mae clod yn ddyledus. Yr wyth- nos ddiweddaf, gwnaethom gyfeiriad ac apel at y Gwir Anrhydeddus J. Herbert Lewis gyda golwg ar berthynas Bwrdd Llywodraeth Leol a'r mater sy'n destyn i hyn o baragraff. Yn ei ddull pybyr ac ymarferol ei hun, cymerodd Mr. Herbert Lewis y peth i sylw heb golli amser. Penodwyd swyddogion iechydol i ymweled a'r gwersylloedd milwrol yng Nghymru, yn gystal a rhannau eriaill o'r wlad, ac i wneud y trefniadau angenrheidiol i osod y gwersylloodd a'r amgylchoedd o dan y ddeddf." Trefnwyd ymhellach well cyd- weithrediad rhwng Bwrdd Llywodraeth Leol fel y gallu gweinyddol a'r Swy ddfa Ryfel, ac yr ydym yn deall fod Pwyllgor o wyr profedig wedi ei sefydlu i dalu sylw arbennig i'r ewynion a gyfyd o dro i dro yn gystal ag i'r onawsterau sy'n rhwym o godi eu pen lie bynnag y ceisir tyrru pobl ynghyd. Gwelwn yn y newyddiaduron fod ,rhai o'r gwyr boneddigion a'r awdurdodau lleol yn cwyno fod sylw'n cael ei wneud o'u dull hwy o ddarparu ar gyfer y milwyr a'r gwirfoddolwyr, ond mae iechyd y fyddin, fel iechyd y werin, yn fater o bwys armhraethol, ac yn ddigon i gytiawnhau pob gwyliadwriaeth. Am iddo syl-weddoli hyn yn ddioodi y mae ein diolch- garwch gwresog yn ddyledus i Mr. Herbert Lewis. >5: Plwc Eryr Gwent. I Mae'n gofyn dynion gwrol i feirniadu ffaeleddau a gwendidau pobl yr high places, ond y maent i'w cael. Cyfeiriem yn brin yn y paragraff blaeriorol at rai o'r goruchwylwyr a wingant o dan swmbwl beirniadaeth meddygon a gwyr iechyd. Nid yw'r ar- glwyddi milwrol, mwy na'r dosbarth y cyfeir- iwyd atynt, yn hoffi cael eu galw i gyfrif pa mor angenrheidiol bynnag y dichon i hynny fod. Dyna'r paham, mae'n debyg, i Ar- glwydd Methuen, sy'n Field-Marshal gyda hynny, geryddu Syr Ifor Herbert am feirniadu ?or goedd yn Nhy'r Cyffredin, ddull annheg y Swyddfa Ryfel o drin dosbarthiadau lliosog o'r dynion sy'n ymrestru dan y faner.' Ond nid oes ofn arglwydd na'i geryddar Ery- Gwent, ac ateba gwyn Methuen gyda grymusr ter ac awch. Nid yw'n hitio botwm am y feirniadaeth, yn gymaint a'i fod wedi cael ei bwynt, sef gwell tal i'r gwirfoddolwyr tra'n aros "galwad effeithiol" i'r fyddin, gwell trefniadau ynglyn a'u tal a'u bwyd ar 01 cyflawn ymuno, a gobaith gwell triniaeth i'r rhai dibynnol arnynt am gynhaliaeth. Da iawn, yr Eryr,fe'i croesawir yn gynhes- ach nag erioed yng Ngorsedd Heddwch pan fo'r Rhyfel drosodd. Cael y Mesurau. i Yn anfoddog ac yn anniolchgar ddigon y rhoddodd y blaid Geidwadol ffordd brynhawn dydd Mawrth i'r Weinyddiaeth i osod ar y Deddf-lyfr y Mesurau y treuliodd dri thymor i'w pasio. Ond angenrhaid a orfu. Sonia'r Toriaid lawer am eu gwladgarwch a'u parod- rwydd i ymaberthu drosto, ond yn yr amser i ddyfod fe ddywed haneswyr yr argyfwng sut y bu i'r blaid hon ymdrechu hyd yr eithaf i wneud y goreu o'r ddau fyd "-y byd gwleidyddol a'r byd cenedlaethol. Fe geir rhagor ar y mater hwn maes o law.
ATY CYMRY.
ATY CYMRY. Mynnwn Germani ar ei gliniau. L.aratowyd yr apet canlynol gan yr Athro J. Morris Jones, a gellir cael copiau yn rhad, yn Gymraeg neu'n Saesneg, ar gais, gan yr Athro E. V. Arnold, Coleg y Gogledd, Bangor.j Y MAE'r Llywodraeth yn galw am luoedd o filwyr ychwanegol i'r fyddin, a dynion ieuainc y Deyrnas yn ateb yr alwad wrth y miloedd. Os bu Cymru ar y dechreu braidd yn ddifater, diau mai'r rheswm ydyw nad oedd hi eto wedi llwyr sylweddoli'r sefyllfa, a deall ein bod yn ymladd am ein bywyd fel teyrnas ac am ein rhyddid fel deiliaid. Y mae Germani, yn ol proffes ei hysgrif- enwyr hi ei hun, ers blynyddoedd a'i bryd ar goncro Ewrop, ac yn y diwedd gael y byd dan ei hawdurdod. Ei chynllun oedd darostwng Ffrainc yn gyntaf, yna ysigo Rwsia ac, wedi cael y Cyfandir dan ei thraed, ymosod ar Brydain wrth ei phwys. Ymerodraeth Pry- dain Fawr ydyw'r rhwystr mwyaf ar ffordd ei huchelgais i arglwyddiaethu ar y byd. Nid nyni sy'n dywedyd y pethau hyn, ond ei harweinwyr hi ei hunan. Nid oes cysgod o amheuaeth nad Germani a fynnodd gael y rhyfel presennol. Fe lafur- iodd ein llywodraeth ni hyd yr eithaf am heddwch ond y mae'n hollol amlwg wrth y drafodaeth gyhoeddedig fod Germani wedi penderfynu cael rhyfel. Yn ei golwg hi, yr oedd Rwsia'n ennill nerth yn gyflym ar y naill du iddi, a Ffrainc ar y tu arall yn gwneuthur paratoadau pellach i'w hamddiffyn ei hun. Yr oedd gan Germani hyder hefyd nad ymyrai Prydain, am ei bod yn tybio y byddai gan ein Llywodraeth ni lond ei dwylo 05 drafferthion gartref ynglyn ag Iwerddon. Yng ngolwg Germani, felly, hon oedd yr awr i daro. Er cyrraedd ei hamcan yn sicrach, mynnai hi anfon ei byddin trwy wlad annibynnol ac amhleidiol Belgium i ruthro i wddf Ffrainc, a hynny er ei bod hi ei hunan wedi ymrwymo i gadw ac amddiffyn annibyniaeth y wlad fechan heddychlon honno. Yr oedd Prydain hefyd yn gyfrannog o'r un ymrwymiad ac yr oedd ei hanrhydedd fel teyrnas yn galw arni i amddiffyn Belgium rhag ymosodiad bradwrus a llofruddiog Germani. Ac ymhellach, tro gwael ynnom ni fuasai sefyll o'r neilltu ac edrych ar Germani ymffrostfawr dreisgar yn > taro Ffrainc i'r llawr, a ninnau ers blynydd- oedd bellach yn gyfeillgar iawn a Ffrainc, wedi anghofio'n holl hen gwerylon. Ac hyd yn oed pe buasem mor ddianrhydedd, ac mor ffals a hynny i'n cyfeillion, beth fuasai'r canlyniad i ni'n hunain ? Wedi gwastatau Ffrainc, byddai gan Germani dir a phorthladdoedd cedym bron yng ngolwg Prydain a chydag Ewrop dan ei thraed ni byddai ond ychydig amser na welid ninnau'n aberth i'w rhaib. Honna Germani mai hi yw'r wlad fwyaf diwylliedig dan haul; ond dengys ei barbar- eidd-dra yn y rhyfel hwn nad yw ei diwylliant ond caenen deneu ar wyneb anwariaeth. Y mae ei bradwriaeth, ei chastiau llechgiaidd ar dir a m6r, a'i gwaith yn sarnu deddf y cenhedloedd dan draed, yn dangos nad oes gan ei harweinwyr ddim parch i anrhydedd fel yt ydym ni'n deall y gair, nac i foesoldeb. Trechaf treisied ydyw eu hunig egwyddor. Proffesant eu cred mewn grym materol; crefydd caethweision ydyw crefydd Crist yn eu golwg Napoleon, con- cwerwr a gorthymwr cenhedloedd, ydyw eu duw ymgnawdoledig hwy. Addolant nerth treisfawr ac yn eu byddin y maent wedi eu paratoi eu hunain i'w ddefnyddio, ac i ledaenu "diwylliant" Germani. Y mae'r blaid filwrol wedi Uwyddo yn eu gwlad eu hunain i gael yr holl bobl yn ddarostyngedig iddynt. Nid yw'r Senedd yno ond rhith o gorff cynrychioladol a llywodraethol; y blaid filwrol sy'n rheoli. Ni thry swyddog milwrol i'r ddeau nac i'r aswy ar yr heol rhaid i bawb gilio o'i ffordd ar frys y mae'n edrych arnynt fel baw, ac yn datgan hynny wrthynt pan fo raid. Trais ydyw'r duw, a'r swyddog milwrol ydyw ei broffwyd. Os fel hyn yr ymddwyn y blaid hon a'u cydwladwyr eu hunain, beth fuasai'n tynged ni pe Ilwyddent i'n darostwng? Rhyfel ydyw hwn i amddiffyn ein rhyddid rhyfel yn erbyn gorthrwm milwriaeth, yn erbyn yr annuwiaeth mwyaf eithafol a gymerth feddiant o genedl erioed. Er bod heddwch yn annwyl i'r Cymro, a bod y syniad o ddadweinio'r cledd yn gwrthdaro ■a'i deimladau crefyddol, ni ddylid anghofio fod achlysuron pan nad oes dim arall a wasanaetha. Bu'n tadau yn ymladd dros ein rhyddid a'n hannibyniaeth, ac anrhyd- eddwn goffadwriaeth Llywelyn ac Owain Glyn Dwr. Rhaid i ni gofio hefyd mai a'r cleddyf ar faes y gwaed yr enillodd y tadau Piwritanaidd lawer o'r breintiau a fwynheir gennym ni'n awr. Y mae Germani, fel ysbeiliwr arfog, am fynnu ein difetha; y mae ein dyledswydd atom ein hunain ac at ein plant yn galw arnom i'n hamddiffyn ein hunain. Mewn noeth arf y mae ei hyder hi, a noeth arf yn unig a'i trecha. Ni bydd heddwch yn Ewrop na'r byd hyd oni chaffer Germani ar ei gliniau, a'i noeth arf o'i dwrn. Gymry ieuainc, i'r gad Y mae Ymerodraeth Prydain Fawr heddyw yn allu o blaid popeth sy'n fwyaf annwyl i ni —o blaid rhyddid a chyfiawnder, ac yn enwedig o blaid iawnderau cenhedloedd bychain. Y mae i ni lo anrhydeddus yn yr Ymerodraeth fe wnaeth Cymry eu rhan i'w seilio a'i saernio, a diau y gwna'r Cymry eu rhan i'w hamddiffyn rhag ei gelynion, a thrwy hynny amddiffyn popeth sydd yn fwyaf cysegredig i ni fel cenedl. DUW GADWO'R BRENIN,
-0-AT WYR MEIRIONYDD.
-0- AT WYR MEIRIONYDD. Y MAE pawb ohonom yn cashau rhyfel. O'li hanfodd, ac o anfodd ein brenin a'n harwein- wyr, yr ydym mewn rhyfel yn awr. Y mae gwlad filwrol fawr yn ymosod ar wledydd heddychol-ar Belgium, ar Ffrainc, ac arnom ninnau. Yn y wlad honno y mae dosbarth o bobl y mae'n hoff ganddynt ryfel, yn cenfigennu wrth ein llwyddiant masnacholr ac yn awyddus am osod eu hewyllys ar bawb trwy rym arfau. Trwy rym dyn a cheffyl yw gair eu hymerawdr. Y mae y rhai hyn wedi ymdaith yn greulon trwy Belgium, dan ladd a Uosgi, ac nid oes ond caine gul o for rhyngddynt a ni. Yr ydym ni a Ffrainc a Belgium yn gorfod rhyfela i amddiffyn ein bywyd a'n cartrefi. Gwelwn fod Sir Feirionydd wedi gwneud llai, hyd yn hyn, nag odid un yn y cyfwng peryglus hwn. Yr ydym yn apelio yn garedig at ei gwyr ieuainc i ymbarotoi. Nid gofyn iddynt ddysgu ymladd er mwyn ymladd yr ydym, ond gofyn iddynt ymgyfaddasu eu hunain i fod'yn barod i amddiffyn eu gwlad a'u cartrefi, ac i amddiffyn rhyddid. ij Pwy sydd yn ddigon gwladgar i ymuno a'r fyddin sydd yn amddiffyn ein glannau, y Fyddin Gartref (Territortal Forrr), i amddiffyn ein gwlad ni yn unig neu a'r fyddin sy'n ymbaratoi i groesi'r mor ? Yr ydym yn apelio at holl garwyr rhyddid, heddwch, a chyfiawnder, i ddeffro'r Sir i wneud ei dyledswydd. Yr ydym yn gwneud yr apel hon wedi ymgynghori ag arweinwyr y Sir, o bob plaid. W. WILLIAMS WYNN. HENRY B. ROBERTSON. OWEN M. EDWARDS. o