Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DRINK DWYRYl TEA The Tea of Old Time flavour,
Advertising
I USE g?'s m M h KEENORA 'SELF-RAISING FLOUR for Pastry, Scones, &c., &c.
Advertising
Beaty Bros Ltd. CELEBRATED TAILORS PERFECT FITTING OVERCOATS EXCELLENT VALUE ONLY ADDRESSES: London Rd. and Church St., Closed OD' LIVERPOOL. all day 80'1- I Closed on Wednesdays at I p.m. Open all day Saturdays. A -yw'ch Llygaid yn etch blino? Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig 1 Dyna arwydd a fhybudd llethdod y Uygad, a dylech gael eu hedryeh rhag blaen; eu gwaethygu wna'u hesgewuso. GaUwn ni gyda'n hoffer Nu b 2neo sf ddweyd wrthych os oes amoch an?en gwydrau ac os Mty, eich cyBenwi a't rhai a barai fwyaf os felly 'iei?h?. Galwch beddyw: ARCHER A SONS Eyesight Specialists, 73 LORD STREET. T I Sefvdlwvd 1848. LIVERPOO I 'Phone-3925 Bank. w. fififfims & SOD, TAILORS 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL ALSO AT 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. MILITARY OFFICER'S UNIFORMS, SERVICE JACKETS, BREECHES, etc. Bootle. Yn awr yn Barod. COFIANT THOMAS GEE, — GAN — THOMAS GWYNN JONES. Cyntrwysa y cyfrol 6500 dudalenau ynghy ag amryw ddarluniau. Pris wedi ei rwymo mewn Uian hardd, 6/- f r Cyhoeddedig gan GEE a'i FAB. Cyf., Dinbych IF YOU WANT REALLY BOOTS BOOTS _u_4L" 't- TRY ~W< hUNTS, 49 Paradise St; Liverpool. The Largest Stock of Boots and Shoes In Liverpool to select from, for Ladles & Gentlemen, Youths and Boys School Boots In great variety. ASK FOR IDRIS 1 t'Ky Table Waters In Syphons and Bottles. SODA, WATRA. POTASH WATER. SBLTSBR WATER. LBMONAD8 URT GINGER ALIB. lto», ato, 1DRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL MORR IS EVANS HOUSEHOLD OIL. The never-failing Remedy FOR4 Rheumatisms Sciatica, Lumbago 6c Burns, Scalds, Cuts, Bruises &9c ALWAYS HANDY IN THE BOMB ITS CURITIVE POWERS ARE WONDERFUL. Get a Bottle at once from! your Grooer or Ohemil Price I/lld. <3 2/6 Or direct from- MORRIS EVANS & Co., THE £ MANUFACTOBY, FESTINIOG, No WAL- E S. ROBERTS 6 EDWARDS ESTATE' AGENTS, 64 KirKdale Rd., Liverpool Telephone: 2193 Royal.
- MINION MENAI.
MINION MENAI. YN OL MEUDWY'R MOR CANMLWYDD CHARLES.—Ni bu cry- bwylliad yn y BRYTHON, hyd y sylwais, am ganrnlwydd marw Charles o'r Bala, Hydref 5ed, 1814. Bu llawer o Ysgolion Sul yma a thraw drwy'r wlad y Sul diweddaf—a'r nu cynt-yn cyfeirio at hynny, ac yn atgoffa'r ieuenctid gymwynas fawr T.C. i Gymru, yn sefydlu Ysgol Sul iddi, ac yn treulio ei oes lafurus yn llwyr i'w gwasanaethu, a hynny yn wyneb llawer o oerfelgarwch ac anniolch- garwch ei oes Ei einioes megis coelcerth wen Oleuodd ein mynyddoedd —dyna ddisgrifiad Ceiriog o wasanaetk Thomas Charles i Gymru, a hir y parhao goleuni yr Ysgol Sul i lewyrchu yng Nghymru. Dyna'r coffa goreu ga pob gwr yw'r coffafga mewn sefydliad byw. 'Does fawr werth mewn coffa gwr y bo ei ddylanwad wedi darfod, ond nid felly Charles. Gellir dweyd amdano ef eto heddyw, fel y dywedodd Ceiriog (eto) yn ei oes yntau Mae cysegredig lwch y saint Mewn culion feddau'n nghadw, Ond mewn llythrennol gwsg y maent, Y dinod sydd yn "c? nr, Er taflu pridd a gosod maen Ar batriarchiaid Gwalia, Maent yn llefaru fel o'r blaen Ac felly Charles o'r Bala. TIT AG ADRElI'Tra'n son am Geiriog, dyma i chwi syniad hapus sydd ganddo, fod y greadigaeth i gyd yn cyrchu adref. Fel hyn y mae'n dweyd :— 0 ddydd i ddydd mae melyn haul Yn pasio yn ei gerbyd, 0 nos i nos mae'r lleuad wen Yn codi ac yn machlud 0 awr i awr mae'r ser yn troi Ar draws yr eangderau, Yn wir, mae holl gre'digaeth Duw Yn teithio tuag adre'. Mae'r fTrydlif fach ar ben y bryn Yn rhedeg megis crwydryn, Ac afon fawr y dolydd is Yn rhedeg yn y dyffryn Mae'r gwynt yn symud yn y nef, A symud mae'r cymylau, Ac 0 mae holl gre'digaeth Duw Yn teithio tuag adre'. Mae gwynt Diwygiad ar ei daith, A derw Cymru'n gildio Mae swn gorfoledd yn y dail, Mae swn- canghennau'n cracio 0 Anadl! tyrd o'r pedwar gwynt, A chymer y byd mown hymnau, Can a moliant iddo Ef, I byrth tragwyddol gartre', ADDEWID LLOYD GEORGE.—Erbyn hyn, mae sicrwydd gair y Canghellor ei hun mai ym Mangor y bydd y cyfarfod mawr 110 y bydd yn annog Gogledd Cymru i restru yn y fyddin. Nid oes sicrwydd eto am y dyddiad, ond yn unig mai ar ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn y bydd, er hwylustod i'r chwarelwyr. Awgrymwyd gan un gwr y byddai'n eithaf peth ceisio gan Gwmni'r Rheilffordd roi tocyn yn rhad i bob chwarelwr sengl, er mwyn sicrhau eu presenoldeb yn y cyfarfod. Hwyrach y daw rhywbeth o'r awgrym. ORGANYDD.—Mr. Ffrancon Thomas, mab Mr. Daniel Thomas, St. Ann's, Bethesda, sydd wedi ei benodi'n organydd St. Mary's, Bangor, yn lle'r diweddar Mr. Brereton. Bu Mr. Thomas yn ddisgybl i Mr. Brereton, ac wele efe erbyn hyn yn eistedd yn ei stSl wrth yr organ. ORDEINIO.—Ddydd Mercher diweddaf, ordeiniwyd Mr. W. P. Thomas, o Goleg y Bedyddwyr, Bangor, yn weinidog yng Nghemaes. Anerchwyd gan y Parch. E. T. Jones, Llanelli, a'r Prifathro Silas Morris, M.A. Yr un wythnos, ordeiniwyd Mr. D. G. Harris o'r un Coleg yn weinidog Capel Gwyn, Rhosneigr. STEMAR NEWYDD.—Pasiodd CyngorDin- esig Bangor eu bod yn derbyn cynnyg ffirm neilltuol i adeiladu stemar newydd i gludo rhwng Bangor a Beaumaris (yn lie y Torbay). Cyst y newydd E3,085, a E160 yn ychwanegol at hynny os bydd eisieu ei goleuo a thrydan. AIL ETHOL.—Yn yr un Cyngor, ail- etholwyd y Maer (y Cynghorydd R. J. Will- iams) yn fener am flwyddyn eto, a thystiodd amryw o'r Cyngor i'w sel a'i ymroddiad yn y swydd y flwyddyn a fu.
Ffetan y Gol.
Ffetan y Gol. Coftedpawb fo'n an/on i'r Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei genau:- NITHIO'B GAU A NYTHU'R GWIR. Yn Selog ond yn Gul. To the Editor of Y BRYTHON DEAR SIR,-In your issue of the 8th inst., there is a very remarkable letter written by Mr. J. R. Jones in reference to the War. In his zeal for certain of the Christian virtues, he neglects or rather ignores others of almost equal value. When he questions Britain's motives with regard to the present conflict, he is guilty of a narrow and uncharitable view. That is decidedly not a Christian attitude. If I were to tell Mr. Jones that ho was aii boucst man, bat thai he was ouiy honest because it pays him, I should be guilty not only of an impertinence, but of an outrage and a sin as well. Is not that the heroic (?) quality of the charge and innuendo made by the prince of darkness when he assailed Job some few hundred years ago ? Let Mr. Jones take the facts as they are. Britain promised to protect and defend the neutrality of Belgium. In the hour of her agony she calls on Britain to make good her word and promise. As far as I can see, England does not stand to gain a single foot of land in the whole of Europe. Her happiness, her treasure, her manhood she has risked, and to keep her pledged word she is prepared to spend her last shilling and to spill her last drop of blood. If at any time in the history of nations there has been a noble and glorious act to fire the enthusiasm of her sons, surely this is one. If Mr. Jones were my debtor and I trusted him, how would I regard him, if when I asked him to make good his promise, he put me off with abstractions ? I should despise him, and I think he will agree with me that I was entitled to do so.—Yours faithfully, H.V. Diolch ac Ateb. At Olygydd Y BRYTHON Syp.Caniatewch i mi air i ddiolch i'r lliaws cyfeillion adnabyddus ac anadnabyddus a ysgrifennodd ataf i ddatgan eu cyd- ymdeimlad a'm llythyr blaenorol, yn ogystal ag i'r rhai ysgrifenodd i'r BRYTHON. Diolch hefyd i Wr y Drych am ei erthygl onest. Mae digon o le i amrywiaeth barn ar fater mor ddyrys. Ond prin y credaf ei fod yntau yn deg at Mr. Keir Hardie. Mae byd o wahan- iaeth rhwng gwrthwynebu gormes ac anghyf- iawnder trwy ymresymu a pherswadio, trwy bleidlais a Senedd, ac hyd yn oed trwy gyf- ryngau goddefol fel y streic, a gyrru gwerin y gwledydd i ladd ac anrheithio'i gilydd er mwyn gosod gormes Rwsia neu wareiddiad Ffrainc yn lie gormes Germani. Gair at Mr. Lloyd Gofynna pwy sydd i ryfela a gorchfygu Germani. Gallwn feddwl mai'r bobl sy'n predu mewn rhyfel ac yn ei wneud. Mae'r parch dyfnaf yn ddyledus i'r milwyr sy'n peryglu ac aberthu eu bywydau er amddiffyn eu gwlad yn ol eu hargyhoeddiad- au, ond nid oes gennyf edmygedd mawr o wroldeb y gwyr sy'n gwaeddi dros ryfel ac yn aros gartref, os gallant fynd i'r maes. Ond atebiad y sawl na chred mewn rhyfel i gwestiwn Mr. Lloyd yw, na fyddai Colegau na chartrefi Belgium na Bangor mewn perygl onibae am y rhai sy'n gwneud rhyfel. Ar Germani y gorffwys euogrwydd duaf trueni Belgium, ond nid yw Ffrainc a Lloegr heb gyfrifoldeb am yrru gwlad fechan gymharol ddiamddiffyn i dderbyn dyrnod greulonaf y rhyfel.—Yr eiddoch, etc. Coleg Bala-Bangor T. REES. I Lloffion am Glyn Dwr. I OLYGYDD MWYN.—Yr wyf yn gweithio Llyfryddiaeth Owen Glyn Dwr argyfery dathliad pum can mlynedd yn 1915, ac yn awyddus i gribinio pob llyfr hanes sy'n cy- ffwrdd a'r gwrthrych, a, phob erthygl, caniad, drama ac arlun. Mae'n bosibl fod gan rai o ddarllenwyr Y BRYTHON rywbeth gwerth ei gofnodi mewn ysgrif neu argraff sy'n syrthio dan un o'r pennau uchod, ac heb weled goleuni dydd nac urddas unrhyw hysbysiad. Bu Glyn Dwr yn destyn cystadleuaeth farddonol yn Eisteddfod y Llechwedd, Blaenau Ffes- tiniog, yn 1889 yn Llangollen yn 1895 a 1908 yng Nghorwen yn 1900 a pha sawl man arall ? Mae nodyn gennyf am y caniad- au buddugol yn yr Eisteddfodau hyn ond beth am yr anfuddugol ? Gwelaf ymhlith yr awdlau anfonwyd i Eisteddfod Genedlaethol Llangollen, 1908, rai'n dwyn yr enwau' Gwerinwr," Er ei fwyn," Caswallon, Maglona," Gildas Fardd," ac Ap lolo Goch." Ped anfonai'r cyfeillion hyn (ac eraill) eu henwau'n gyfrinachol i mi, gyda phob manylion, byddwn yn dra diolchgar. Carwn glywed hefyd am bob arlun o Glyn Dwr, ei dy o barlament, carchardy, etc., ac am bopeth diarffordd sy'n egluro ei hanes.—Yn ffyddlon yr eiddoch, D. RHYS PHILLIPS. I Belli Olas, Abertawe, '-0-
Am Lyfr.
Am Lyfr. Heb fympwy wrth feio. Na gweniaith wrth ganmol. Gwersi Uchaf Llyfr y Psalmau. Gan y Parch. J- H. ch Son, Wrecsam. Pris, 3/6.—Ail- argraffiad yw'r llyfr. Pan oedd Llvfr y Psalmau yn faes llafur Ysgolion Sul y Method- istiaid Calfinaidd rai blynyddau yn ol, galwodd yr awdur hybarch sylw at Wersi Uchaf Llyfr y Psalmau. Mae'n amlwg ei fod ef, yn ogystal ag eraill, yn meddwl fod perygl i'r darllenwyr ymgolli mewn cwestiynau beirniadol, megis awduriaeth ac amseriad y Psalmau, a ffrwyth y sylwadau hynny yw y llyfr hwn. Credwn fod i'r llyfr ei Ie a'i was-J anaeth arbennig, sef galw sylw at y gwir- ioneddau ysbrydol a moesol sydd yn treiddio trwy'r Psalmau a cliredwn, os goddefir i ni ddweyd, fod yr awdur yn meddu cymhwyster eithriadol i ddwyn yr arweddion hyn yn y Psalmau i sylw ein cydwladwyr. Mae'n amIwg ei fod wedi hen gartrefu yn y Psalmau, a'i fod yn gyfarwydd a phob Psalm ac a phob adran o'i mewn. Credwn nas gall darllen y llyfr hwn lai na deffro diddordeb y darllenwyr yn y cyfoeth dihysbydd a geir yn y Psall wyr. Dywedir yn fynych fod Ymneilltuwyr yn amddifad o lenyddiaeth ddefosiynol, a bod 61 hynny i'w ganfod ar y type o grefyddwyr a fegir o fewn ffiniau Ymneilltuaoth. Cwynir fod yn anodd cadw seiadau. Yr oedd ein tadau yn ymborthi ar yr hen Gurnal," ac yr oedd naws y llyfr hwnnw ar brofiadau y saint. Yr ydym yn croesawu llyfr defosiynol Cym- raeg, wedi ei ysgrifennu gan weinidog Cymreig, a hynny mewn arddull brydferth. Dylai llyfr fel hwn gael derbyniad i gartrefi crefyddwyr Cymru, a byddai darlleniad dwys ohono yn sicr o gyfoethogi ein profiad. Er yr ystyrrir yr awdur fel yn pethyn i'r KesvAck School,-a thybiwn fod ami i fraw- ddeg yn dwyn delw'r ysgol hozino,-eto gwelir elfen iachus ac ymarferol yn treiddio trwy'r llyfr. Efallai na chytunir A rhai o ragdybiau'r awdur am amseriad y Psalmau, a'r amgylchiadau dan y rhai y canwyd y Psalmau hyn gyntaf, eto teimlir fod Mr. Symmond yn treiddio at yr elfennau dyfnaf a pharhaol yn y Psalmau. Disgynna i ddyfn- deroedd nas gall awelon beirniadaeth gyrraedd atynt. Ni phctruswn ddweyd fod yr awdur parchedig-sydd bellach rai blwyddi uwchlaw pedwar ugain oed-wedi cyflawni gwasanaeth tra gwerthfawr ac angenrheidiol i grefydd Cymru trwy ysgrifennu a chyhoeddi ail- argraffiad o'r llyfr hwn. Y mae'r argraffwaith, fel y gallesid disgwyl,yn deilwng o'r swyddfa yng Ngwrecsam.—J.O. Prif Feirdd Eifionydd. Gan E. D. Row. lands. 1 J- net. Swyddfa Cymru, Caernar- fon.—Ceir yma lun a byr-gofiant a detholion o waith y chwe prifardd a ganlyn Eben Fardd, Robert ab Gwilym Ddu, Pedr Fardd, Dewi Wyn, Sion Wyn o Eifion, a Nicander geirfa ar y diwedd i egluro pob gair a ddichon fod yn anghynefin gwers ar y cynganeddion—digon i gael crap nes medru deall a mwynhau teleidion y llinellau; a'r cwbl wedi ei gyfleu nes ei wneud yn llyfr rhagorol o flasus a defnyddiol i ysgol ac aelwyd. Ysgolfeistr Chwilog yw'r awdur a phe buasai pob ysgol- feistr drwy Gymru'n ymdrafferthu cymaint i gyfarwyddo'i facwyaid yn hanes a hufen gweithiau enwogion eu bro, buasai dylni a Die Shon Dafyddiaeth wedi llwyr farw o'n gwlad. Cafodd ddeunydd da, ac a wnaeth y goreu ohono. Dyma lyfr i'r dim o addas at oedran a chyraeddiadau'r plant y'i bwriadwyd ar eu cyfer.