Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DRINK DWYRYD TEA. The Tea of Old Time flavour.
Advertising
USE KEEN0HA 'SELF-RAISING FLOUR for Pastry, Scones, &c., &c.
Advertising
( ¡ Beaty Bros Ltd. CELE¡TED TAILORS PERFECT FITTING OVERCOATS EXCELLENT VALUE ONLY ADDRESSES: London Rd. and Church St., I OI"d .n LIVERPOOL. all day Saturday.. I Closed on Wednesdays at I P-M. Open all day Saturdays. H A yw'ch Llygaid yn eich blino? I Yw petbaigen troi'n niwlog ac anelwig ? Dyna H arwydd a rhybudd UefliQod y Uygad, a dylech B gael ea hedrych rhag blaen; eu gwaethygu ■ „ wna'. hesgeuluso. Gallwn ai gyù..n boiler gwyddoaol ddweyd wrthych os oes amech B angen gwydrau ac es felly, eich cyflenwi a'f ffl fhat a barai fwyaf o lea i chwi. Galwch B heddyw: ARCHER A SONS I Eyesight SpeclaUsts, I f13 LORD STREET, I Sefvdlwvd 1848. LIVEIKPOOY- B 'Phone-3925 Bank. w. rnirni & son, TAILORS 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL ALSO All 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. Jfø MILITARY OFFICER'S UNIFORMS, SERVICE -JACKETS, BREECHES, etc.- 'Phone-580 Bootle. Yn awr yn Barod. COFIANT THOMAS GEE, — GAN THOMAS GWYNN JONES. Øynnwysa y cyfrol 650 o dudalenau ynghyC ag amryw ddarluniau. nghy(- Pris wedi ei rwymo mewn llian hardd, 6/- Cyhoeddedig gan GEE a'i FAB. Cyf., Dinbych l 'V KJ WANT REALLY GOOD SOOTS TRY la U jvfxs. 49 Paradise St.; Liverpool The Largest 8k.ck of Boots -d Shoes in III- U .,I?e tr.g7,. L .d I & 0. Youths and Boys School Boots 1B great VMiety. &SK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles, SOB A WATER. POTASH WATER. SKLTZBR WATER. LBMONAD. DJI. T SINOBR ALII. ItOn etc, IDRIS Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL MORRIS EVANS' HOUSEHOLD OIL. The never-failing Remedy FOR Rheumatlsmi Sciatica, Lumbago Burns. Scalds, Cuts, Bruises Sc ALWAYS HANDY IN THE HOMB ITS CURITIVE POWERS ARE WONDERFUL. Get a Bottle at onoe from your Grocer or Ohetrus Price I/lld. 0 2/6 Or direct from- MORRIS EVANS & Co., THEJMANUFACTORY, I FESTINIOG, N. WALES. ROBERTS 6, EO WARDS MVRATB' AGENTS.. $4 XfrKdale Rd., Livercoal Telephone 2193 Royal.
0 -Chwarel -a Chlogwyn.
0 Chwarel a Chlogwyn. Sef o Ddyffryn Nantile CAN YSBRYD GLASYNYS. I FYD Y FODRWY yr aeth y cyfaill diddan, Mr. D. D. Jones, Coed Cae Newydd, Llanllyfni, gyda Miss A. E. Pritchard, Bryn Eryr, Clynnog, yng nghapel Caersalem (B.), Caernarfon, a'r Parchn. Hywel Tudur, Clyn- nog, a D. Davies (B.), Llanllyfni, yn gwein- yddu. Gwasanaethai Mr. Walter S. Jones (brawd y priodfab) fel gwas, a Miss C. A. Pritchard (chwaer) fel morwyn ac yno hefyd yr oedd y gwahoddedigion hyn Misses Dilys Jones, Llanllyfni; J. Williams, Gyrn Goch, ac Arifog, Pwllheli. Gwyr y lliaws am ddawn gerddorol y priodfab a'i frawd, a hys- bys y ddau fel tenor a bass per. Llwydd iddynt. ATHRO CEP.DD.-Aeth ias o lawenydd drwom pan glywsom am benodiad ein cerddor o Ben y Groes-Mr. T. T. Powell-yn athro cerdd yn Ysgol Ganolradd Botwnog. Gwr medrus ym myd y gan yw af, ac wedi gwneud a allai i godi caniadaeth ymhob ffurf arno yma. Ni olyga'i benodiad yr aiff ymaith o'r fro, ond bydd yn ychwanegiad at y swydd gyffelyb oedd ganddo yn ein hysgol ganol- radd ni ym Mhen y Groes. Dibynna'r cerddor ar ei ddawn ers fcVnyddau, ac ami, ami, yw galwad y wlad amdano fel beirniad ac arweinydd cymanfaoedd. Ei HAGOR.—Er gwaethaf iselder masnach' agorir ein Cymdeithasau fel cynt, ac addo tymor toreithiog wna rhai o'r rhaglenni. Yn Festri Bethel, prynhawn dydd lau di- weddaf, rhoed Cymdeithas Ddirwestol y Merched ar ei throed unwaith eto, ag anerch- iad rhagorol gan Mrs. A. Cadwaladr, Rhos- tryfan, ac hefyd gwnaeth y rhain eu rhan Misses Summers, Hughes, ac A. Parry. Rhoed croeso cynnes i'r Meistresi R. J. Parry a J. M. Williams. Dyma'r swyddogion am eleni llywydd, Mrs. J. Elias Jones is- lywydd, Mrs. Parry, Trefonnen trysorydd, Mrs. Williams, Bryn mor a Misses Jennie Parry, Llys Pedr, a S. Edwards, Epworth Villa, yn ysgrifenyddion. POBL IEUAINC SOAR.—Yr un noson, agor- wyd Cymdeithas Pobl Ieuainc Soar, a'r Parch. J. M. Williams yn llywydd. Y rhain yn cymeryd rhan mewn canu ac adrodd Misses M. 'Hughes-Jones, Maggie Owen, Lily Will- iams, J. A. Lloyd, Maggie Lloyd, Lena Williams, Mri. Christmas Griffiths a Maurice Hughes. Bu yno gystadlu hefyd a'r rhain yn ennill Mrs. Kate Roberts, Miss Jones, ac Ed. N. Williams, Mri. D. Davies, B.A., ac O. W. Jones yn feirniaid. Diddorol oedd Ymweliad Evan Huws a Manchester," gan Mr. W. Rowlands, O. W. Jones ac E. N. Williams. Trefnwyd y cwrdd gan Miss Janet Rowlands a W. Rowlands. Cyfeiliai Mr. Dd. Lewis, Bod Orwel.
,Trem I—" NewyddloaI ---Gwneud"
Trem I—" Newyddloa Gwneud" UFER i ni, o fewn y gofod svdd gennym, geisio manylu ar hanes y rhyfel, fel yr a ymlaen, o ddydd i ddydd, ar y Cyfandir, a Ileoedd eraill. Wrth feddwl am y fath bath, teimlwn fel pe'n ceisio pacio tas wair mewn basged. Heblaw hynny, mae'r newydd wythnos oed, a llai na hynny, yn rhy hen, ac mae'r papurau dyddiol, a chyfryngau eraill, yn dwyn y newyddion i bob pentref a chwmwd trwy'r holl wlad. Mawr y cyfnewid er pan ymladdwyd Brwydr Waterloo, yn 1815, pryd y gorchfygwyd Napoleon Fawr, ac y cymrodd y newydd, a'r cyflymder mwyaf, dri diwrnod i gyrraedd Llundain. Erbyn heddyw, ehed newyddion dros gyfandiroedd a chefnforoedd, mewn ychydig funudau Ar aden y fellten fyw. Rhyfedd, yn wir, cyn lleied o newyddion meysydd y rhyfel a anfonir, yn swyddogol, i'n gwlad ni. Dwrdia rhai am y prinder. Yr ydym yn sgrifennu'r Drem hon nos Sadwrn a phan y mae'n sicr fod ymdrechfeydd ofnad- wy eu dull a mawr eu canlyniadau yn mynd ymlaen yn Ffrainc a Belgium. Cyhoeddodd rhyw newyddiadur ddoe fod y Cynghreiriaid -Byddin ar y tir, a LIynges o'r mor—yn rholio'r Germaniaid i fyny fel papur yng nghyffiniau Ostend. Gwelsom ddyn wedi llyncu'r "newydd yn ei grynswth, ac wedi meddwi arno. Gwelsom ef wedyn, ac yr oedd wedi sobri. Gresyn fod rhywrai'n cyhoeddi'r hyn nad yw wir, felly'n chwarae a phobl sy'n pryderu- ac yn ofni, ac yn eu siomi. Fel y naid y claf yn rhy ami, at gyffur cwacyddol, yn ei awydd i wella, am fod yr hysbysiadau mor ddisglair, felly y tuedda pobl bryderus am dynged eu gwlad y dyddiau hyn at newyddion da," cyn cael prawf ohonynt. Ergyd a ddoluria galon dyn yw ei siomi fel hyn, ac mae rhai papurau'n mynychu'r drwg, ac yn elwa ar bryder calon yn anonest. Na, nid oedd pethau fel y dywedid nid oedd y Germaniaid yn cael eu rholio i fyny fel papur, wedi glynu mewn naid, ac wedi eu hamgylchu'n ddiobaith gan y Cynghreirwyr. Yr oedd y gelyn, beth bynnag, wedi dioddef yn dost oddiwrth ein llongau rhyfel ni, ac wedi ei rwystro ar ei ymgyrch tua Calais. Yn 01 y newyddion swyddogol diweddaf a welsom, ymddangosai pethau yno'n ffafriol i'r Cynghreiriaid. Ond beth am y brif linell yn y frwydr—o Wlad y Swiss i For y Gogledd ? Gwelsom fod y Germaniaid wedi eu hatgyfnerthu a byddin o tua 600,000, ac yn ymladd yn ifleinig ar hyd y llinell, yn enwedig yn y pen agosaf i For y Gogledd. Gwelsom hefyd mai cynnil oedd adroddiad swyddogol diweddaf Ffrainc am ein cynnydd, a'n bod, mewn mannau, wedi encilio. Yr hyn a bair aflonyddwch meddwi inni heno yw, nad oes adroddiad, fel arfer, hyd y gwelsom ni-ac mae hi'n awr yn hwyr- wedi dod heddyw am sefyllfa'r frwydr ar hyd yr holl linell., Tybed mai newydd drwg sy'n cael ei oedi ? Gobeithiwn nad e ddim. Ond mae'r oriau hyn yn rhai tynghedfawr. Yr ydym yn awyddus i wybod, ac, a dywedyd y gwir ,-moo arnom ofn Maddeuer inni am ysgrifennu cymaint ar y rhyfel fel yr a trwy ein meddwi ni, yn hytrach na dilyn ffeithiau hanesyddol a phrofedig. Ond ysgrifenasom y Drem hon er dangos, am dro, ein dyfaliadau a'n hofnau, rhag y gallont fod yn Ddrych i eiddo rhai o'r darllenwyr. Gobeithiwn y bydd i newyddion bore dydd Llun chwalu ofnau Nos Sadwrn ymaith yn llwyr.
Trem II—Y Ddwy Ochr. I
Trem II—Y Ddwy Ochr. I Dyma fore dydd LIun wedi dod. Gwelsom' yn y cyfamser mai nid y ni'n unig fu mewn pryder nos Sadwrn oherwydd prinder new- yddion o Ffrainc. Clywsom am dri dyn pur gall a go ffyddiog hefyd, fu i lawr y dref, o fan i fan, yn ffureta am ryw newydd diweddar, yn hwyr y nos, yn gystal ag i gael golwg ar heol- ydd Lerpwl drostynt eu hunain, a phrofi peth ar y straeon a daenid yng nghylch y bechgyn rhyfelog yr adeg honno. Siomwyd hwynt yn yr ochr oreu o ran y bechgyn. Ond y pwynt YJil awr yw-pryder am newyddion. Yr unig gysur a dynnwn o hyn yw, nid ein bod yn gallach na phobl eraill, ond nad ydym, yn y mater o ddisgwyl am newyddion, yn llawer gwirionach na'r cyffredin. Ond y mae gwahaniaeth rhyngom o ran ein tymer a'n tuedd meddwl yn yr amgylchiadau rhyfedd hyn. Ganed rhai i ofn, ganed eraill i hyder. Yr un yw y rhyfel o ran ei ffeithiau i bawb, ond o ran ei effeithiau y mae'n dra gwahanol. Ceir rhai ohonom fel deilen mewn trobwll, ac yn methu ymsefydlu ar nemor ddim diysgog, o ran ffodion ac anffodion yr ym- gyrchoedd rhyfel. Ond mae eraill-a diolch amdanynt hwy !-fel craig mewn cenllif, yn ddisyfl. Gall ambell i donn o siom dorri trostynt, ond a heibio'n fuan, a symiant y sefyllfa i fyny mewn hyder diameu am fuddug- oliaeth—rywbryd, yn y pen draw. Seiliant eu hyder ar yr hanes hyd yn hyn, ar nifer a gallu cymharol y Cynghreiriaid, ar eu cred fod Germani wedi gwario cymaint, mor ddibris, ar fywydau pigion ei milwyr ac, yn sicr, ar eu hargyhoeddiad dwfn yng nghyfiawnder achos ein gwlad yn y rhyfel. A rhesymol yw tynnu cysur o hyn oll, ac adeiladu gobaith go ffyddiog ar y seiliau hyn. Yn sicr, nid oes reswm o gwbl, hyd yma, i gychwyn enwad o Besimistiaid yn y wlad. Yr un mor sicr yw na ddylid sefydlu enwad o Optimistiaid Ranteraidd, i ysgafn-ganu "joyful, joyful, joyful,o ran dim troad penderfynoi yn nhynged y brwydrau presennol. Dyma nawn dydd Llun wedi dod, a beth yw'r newyddion ? Wel, maent yn gyson a'r hyn yr ydym newydd ei ysgrifennu. Mae'r brwydrau eto, o Wlad y Swiss i For y Gogledd, yn eu hangerdd eithaf. Eddyf y Cynghreiriaid ennill a cholli," yma ac acw. Yr ol yr adroddiadau Germanaidd, maent hwy wedi ennill pwynt trwy gro.esi'r Yser rhwng Nieuport a Dixmunde, a chadarn- heir hynny gan adroddiad swyddogol o Paris. Felly, mae'r Belgiaid dewr, unwaith eto, mewn perygl, gan fod y rhuthr hwn arnynt hwy, yn nhueddau Ostend. Yn niffyg gwrth-ymosodiad cryf, addefir y gallai llwyddiant y gelyn fod yn ddifrifol yn Belgium Ac mae'n eglur fod y Germaniaid, mewn amryw bwyntiau pwysig eraill, yn ymgrynhoi ac yn benderfynol, costied a gostio, i geisio I torri bylchau yn llinell ddur y Cynghreiriaid. Mae'n eglur y teimla'r Germaniaid eu bod yn yr argyfwng mwyaf yn y brwydrau hyn. Tywalltasant eisoes waed fel dwfr," ac mae'n sicr nad yn awr y cynhilant ef. Dywedir fod bechgyn ieuainc a dynion hen yn yr atgyfnerthion. Peidiwn a chasglu'n rhy drwm oddiwrth hynny fod y Germaniaid wedi dihysbyddu eu dynion rhyfel. Rhy- buddiwyd ni droion i'r gwrthwyneb. Cedwir adnoddau'n ol ar gyfer y munud pwysicaf, fel rheol. Ceir rhai gohebwyr o faes y rhyfel yn ysgrifennu disgrifiadau diddorol dros ben, ac weithiau'n dra blodeuog o ffafriol. Ond fanit bynnag a welant neu a glywant hwy, nid yw ond rhannol a chyfyngedig iawn, ac annigonol fel cynsail i'r casgliadau helaeth a dynn rhai ohonynt. Un peth nodedig yng ngohebiaeth ambell un felly yw'r rhamant am ei anturiaethau a'i ddiangfeydd ef ei hun. Fel y stori am yr lanci oedd deneued fel y gallsai gerdded rhwng diferion glaw taranau heb ei wlychu. gellid meddwl fod ambell ohebydd yn dianc trwy gawod o fwledi heb ei daro. Gyda golwg ar y Dwyrain, mae'n amlwg bellach ddarfod i'r Rwsiaid ennill buddugoliaeth fawr o flaen Warsaw. Llwydd- odd ein Llynges i suddo, yn ddiweddar, bump o longau tan-ddyfrol Germani. Ond ni fu'r colli na'r ennill ar y mor, hyd yn hyn, nac yma nac acw mewn cymhariaeth. Mae'r Llyngesi ym Mor y Gogledd, er yn effro, heb ruthro ar ei gilydd i'r prawf mawr, hyd yn hyn. Myn y gelyn weld pa help y gall ei roi i'w Fyddin ar dueddau Ffrainc a Belgium, 1 a pha gyfle y gall ei gael i wneuthur picnic i Loegr.
-I Trem III-Dal i weddio'rI…
I Trem III-Dal i weddio'r I Pader. Er wedi ysgrifennu'n lied helaeth eisoes, teimlwn ddarfod inni lithro braidd yn ysgafn dros y brwydro mawr, gan awgrymu, efallai, fwy o gydnabyddiaeth o rym y gelyn nag o glod i ddewrder a llwyddiant ac aberth y Cynghreiriaid. Nid all un ysgrifennydd osod ar bapur gronicl na disgrifiad o gyflwr a gwaith ein cymrodyr. Darllen y rhestri hirfaith a pharhaus o enwau Prydeinig—heb son am eraill-o rai a laddwyd, a glwyfwyd, neu a gollwyd o'r rhengau i rywle, a ddywed yr hanes yn fwyaf effeithiol. Mae'n beth cysur inni feddwl fod y Cynghreiriaid yn fwy gochelgar na'r Germaniaid rhag gwario bywydau eu milwyr yn ofer. Ond cyn y gallsent gadw'r gelyn yn ol cyhyd, ac ennill cymaint oddiarno, rhaid mai aruthr fu'r ymdrech a'r aberth a wnaethant. Mae yn eu mysg rai o'n cyfeillion personol, rhai per- thynasau agos i ami un o'n darllenwyr ac fe welir eisoes ddarfod i fataliwn Gymreig gyf- lawni gwrhydri clodfawr ar y maes, a dal ati i ¡ frwydro hyd onid oeddynt yn rhy brin o nerth i symud oddiyno,—wedi ei wario bob ergyd er ein mwyn ni! Pe credasem eu bod yn ym- ladd dros achos anghyfiawn, cawsent o leiaf ein cydymdeimlad a'n gweddi ar Dduw dros- tynt. Ond pan gredwn eu bod allan dros achos da, gallwn, yn gydwybodol, ddymuno a disgwyl iddynt fuddugoliaeth. Er hyn i gyd, nid ar yr amod i Brydain orchfygu Germani y credwn mewn Duw. Ynfydrwydd i ddyn osod ei delerau ei hun i'r BLollalluog. Ni feddwn ffydd o'r iawn ryw oni ddeil hi unrhyw ganlyniadau uniongyrchol i'r rhyfel hwn. Credwn yn Nuw pe collem y frwydr. Pe lladdai efe n, eto mi a obeithiwn ynddo Ef. Dyna ffydd nad allsai cledd na magnel ei dinistrio. Pe dymchwelid pob caer, pe suddid pob llong, pe chwelid pob dinas a thref, a phe gwneid poblogaeth ein gwlad yn gyn- haeaf i raib y gelyn creulon, ni byddai'r Cristion heb ei noddfa a'i gartref. Er fod buddiannau moesol ac ysbrydol allan ar faes y rhyfel, ac mai yn enw y rhai hynny y cefn- ogwn Brydain am fynd iddi, ac y disgwyliwn ei llwydd drwyddo eto, arwynebol yw ein proffes o Gristionogaeth onid allwn ym- gastellu mewn diogelwch ysbrydol, doed a ddelo. Dyma ffydd gwron ysbrydoledig Duw sydd noddfa a nerth i ni, cymorth hawdd i'w gael mewn cyfyngder. Am hynny nid ofnwn pe symudai y ddaear, a phe tre glid y mynyddoedd i ganol y mor." Dywedir fod Gwn Mawr Germani wedi croesi Camlas Yser. Ond beth all hwnnw ei wneuthur tuagat symud daear a threiglo mynyddoedd ? Credwn mai ein dyledswydd ni yw gwneuthur a allwn i atal gyrfa greulon y Kaiser, ac wedi hynny barhau i weddio'r Pader, Ein Tad yr Hwn wyt yn y nefoedd, santeiddier Dy Enw, deled Dy Deyrnas." Peidiwn a meddwl fod dynion wedi eu sodro wrth gadernid unrhyw orsedd ond yr Orsedd Wen Fawr -0--