Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
USE l ?4h a iCEENOM SELF-RAISINO FLOUR for Pastry, I Scones, &c., &c.
Advertising
Beaty Bros ltd. THE CELEBRATED TAILORS PERFECT FITTING OVERCOATS | EXCELLENT VALUE ONLY ADDRESSES: I 1 London Rd. and Church St" 'Clooed. LIVERPOOL. d.. Sa. I Closed on Wednesdays at 1 s).m. Open all day Saturdays. A yw'ch Llygaid yn eich blino? I Yw pelhau'a trotfMttjWihig «ac -aaelwtg ? Dyaa arwydd a ifcybudc lldhaoi y Jiygaa, a dytech gael em hedrych rhag blaea; eu gwaethygu wna'u uso. Gallwn ni gyda'n hofier gwyddoaol ddweyd wrthych os oes amoch arisen gwydrau ac os felly, eich cyflenwi a'r rhai a barai fwyaf o leg i chwi, Galwch hoddyw: af 0 e i chwl Galwch ARCHER A SONS Eyesight Specialists, 73 LORD STREET. Sefvdlwvd 1848. LIVERPOOL Phone-392S Bank. W. mm & SOD, TAILORS ( » SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL ALBO A T U9 STANLEY ROAD, BOOTLE. /MILITARY jt OFFICER'S UNIFORMS, SERVICE JACKETS, BREECHES, et 'Phone-SSG Bootle. Yn awr yn Barocl. COFIANT THOMAS GEE, — GAN THOMAS GWYNN JONIS. Cynnwysa y oyfrol 650 o dudalenau ynghj«- ag amryw ddarluniau. Ftis wedi ei rwymo mewn llian hardd, 6/- I Cyhoeddedig gan GEE a'i FAB.|Cyf., Dinbych IF YOU WANT REALLY GOOD TJtY Ib U NTS, 49 Paradise St, Liverpool The Lars est Stock of Boots and Shoe* In Liverim) tf select from, for Ladies eo Gentlemen, Youths and Boys School Boots u; peiti variety iSK FOR w?'???l??k 'W ?* 't  Z ?h)? IDRIS Table Waterc. In Sypbou and Bottles, IODA WATIIU POTASH WATCH 8KL.TXBR WATER. LITMON AD I IORT OINGER ALI&, Its* «ftev 14 Is Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL MORRIS EVA," S HOUSEHOLD OIL The never-failing Remedy FOR Rheumatism, Sciatica, Lumbago ac Burns Scalds. Cuts. Bruises <3c ALWAYS HANDY IN THE HOME ITS CURITIVl POWERS ANI WONDERFUL. Get a Bottle at once from your Grocer or Ohemi. Price 1/1"d. O 2/6 Or direct from- MORRIS EVANS & Co., THE MANUFACTORY, FESTINIOG. N. WALES. R.i >fe li. T ■ £ § E ilWARDS ;fj. tadaJe Rd., Liverpool Telephone: 2193 Reyal.
1 rem I—.Mynd! Myod ! I I…
1 rem I—.Mynd! Myod I M ynd I GYMAINT yw gormes y rhyfel arnom fel mai prin y gallwn ddianc o'i afaelion am funud, a sylwi ar bethau pwysig eraill sydd o'n cwm- pas. Collodd Cymru'n ddiweddar rai gwýr enwog, a than amgylchiadau cyffredin cawsent lawer mwy o sylw. Rhyw deimlo y mae pawb fod cymaint o bobl a phethau'n cael eu hysgwyd, ac fel petai osgo diflaniant ar bawb a phopeth, fel nad ydynt yn synnu fawr at ddim ddigwyddo ar hyn o bryd. Rhaid cael rhywbeth fo'n aros cyn y gallwn sylweddoli fod dim yn symud. Fedrech chwi ddim deall yr amser ar eich awrlais onibae fod ynddo rywbeth yn sefyll, yn gystal a rhywbeth yn symud. Yr ydym yn byw yng nghanol cyffroadau a chwalfevdd a phervs-lon. mor gyffredinol ac eithriadol, o ran personau ac amgylchiadau, fel nad allwn sylweddoli, fel arfer, y gwahaniaeth rhwng symud i'r fyn- went a symud i rywle arall. Ac, yn wir, ni fuom erioed yn nes i eiddigeddu at y rhai a symudir i ddistawrwydd ty eu hir gartref nag ydym yng nghyffro terfyaglyd a braw- ychus y dyddiau hyn Os iawn y cofiwn, wrth ddisgrifio profiad pessimist y gwnai Tennyson i ddyn, a waredwyd rhag boddi ei hun, droi ar ei waredwr, gan ddywedyd, mai nid ofn marw oedd arno ef, end ofn byw Gobeithiwn nad ydym ni o'r rhai a deimlant nad yw bywyd yn werth ei fyw, eithr yn meddu'r ffydd Gristionogol. Er hynny, yr ydym ninnau'n teimlo mai peth ofnadwy yw byw, ar amser fel hyn yn enwedig. Gall fod byw mewn dinas fawr yn gwasgu'r teimlad hwn arnom, yn drymach o lawer na phetaem mewn cwmwd gwledig. Darn o fyd ar olwynion sydd yma, a phobl ar eu goreu i osgoi myned tan yr olwynion hynny. A gwna dyn a fynno, prin y gall, fore na hwyr, ddianc rhag mynd dan drwst cerbydau a chyffro heolydd. Chwycbwi, breswylwyr Eryri, cof- iwch a ddywedodd Elihu Burritt, Diolch i Dduw am fynyddoedd Mae'r car trydan, sy'n pasio heibio bob ychydig funudau, yn gyrru cryndod tan seiliau'r ty yma. Moddion gras i ddyn nerfiws (chwedl Tanymarian athrylithgar) fyddai mynd i ganol, Eryri, fin yr hwyr, a sefyll wrth odre un o'r hen fynydd- oedd tragwyddol. Hawdd y gallsai dyn o'r ddinas ddywedyd yno, wrth syllu ar y myn- ydd oesol, Diolch i'r Nef, dyma rywbeth sy'n aros a pha wahaniaeth i hwn pe gwana Germani nerth pob gwn a fedd arno Ond yn y ddinas, yr ydym fel mewn miri "ocsiwn," a swn mynd mynd mynd "—gyda hyn o wahaniaeth, nad yw hi ddim wedi mynd yma byth. Ond, wedi'r cyfan, diolch am gael byw Mae'n bosibl, hyd yn oed i bobl y dref, gael noddfa ddisyfl. Gwyr pawb yma heddyw rywbeth am y pethau a ysgydwir g^yr rhywrai am y pethau nid ysgydwir "— hyd yn oed gan ryfel. Rhaid mynd i'r anweledig a'r dwfn i gael y rheiny. Mae'r rhyfel ar nerves pawb ohonom i raddau. Ond mae llawer o bobl nad oes dim yn mynd yn ddyfnach iddynt na'u nerves mae'r rhyfel ar eu nerves, mae'r Nefoedd ar eu nerves, mae'r Farn ar eu nerves. Faint. o grefydd fydd gan lawer o bobl-pan gollant en nerves e Y mae ysbryd mewn dyn ond mae llawer dyn nad yw byth ar delerau siarad a'i ysbryd ei hun. Druan o'r dyn nad yw'r pethau mawr yn mynd yn ddyfnach iddo na'i nerves
ITrem II—"Emlyn Jones,I ITreforrls"-
Trem II—"Emlyn Jones, I Treforrls" Maddeuer i ni am grwydro,—os yw'r fath drosedd yn bosibl y dyddiau hyn! Ond yn meddwl yr oeddem am rai Cymry, gwladgar ac enwog, a ddihangodd o dwrf y rhyfel i dawelwch y bedd yn ddiweddar. Da gennym feddwl ddarfod i'r BRYTHON blygu pen, a dat- gan ei barch a'i hiraeth amdanynt, fel yr ymadawent, y naill ar ol y llall, i Wlad y Tangnef. Gwnaeth felly a'r diweddar Barch. W. Emlyn Jones, Treforris. Ni fwriadwn ychwanegu ond sylw neu ddau-o gofion personol-amdano ef. Clywsom ef yn pre- gethu unwaith, a dim ond unwaith, tua 40 mlynedd yn ol, yng Nghapel Park Road. Erys ei ddelw, foneddigaidd ac urddasol, yn glir ar ein meddwl. Pregethai ar y testyn, Ym mhob dim diolchwch a'i ddau osod- iad Qedd,- 1—Oddiwrth Dduw y mae pob da yn dod' 2-Mae pob peth ddaw oddiwrth Dduw yn dda. Dro arall, wedi hynny, gwelsom ef, a'r di- weddar Eos Morlais, yn arwain Cymanfa Ganu gofiadwy ym Mhafiliwn Caernarfon, ar achlysur dadlennu darlun rhagorol o Dany- marian. Nid anghofiwn y Gymanfa honno byth. Mae hi'n canu yn ein henaid y foment hon! Teimlem fod Tanymarian, er wedi marw, yn canu eto; a phob offer cerdd, yn gystal a'r dorf fawr o gantorion, wedi eu trochi mewn ysbrydoliaeth. Taflai'r Eos digymar ambell donn o'i lais trydanol i'r gan, yn awr ac yn y man, mor nerthol ac effeithiol a rhuthr catrawd gref a helpai filwyr mewn brwydr, gan eu harwain i fuddugoliaeth lawn. Yr oedd chwarelwyr Arfon y pryd hwnnw'n lliosocach na heddyw, a gWyr Cymru am y ddawn i ganu a feddent hwy gyda'i gilydd. Gresyn, erbyn hyn, fod cynifer o'r brodorion, fel y lleehi a naddent, wedi eu gwasgar o'u hen gynefin. Diolch, beth bynnag, am i Raglun- iaeth eu dwyn ynghyd i ganu'r Gymanfa anfarwol honno. Bu farw'r Eos yn gymharol gynnar ac yn awr, dyma'r Parch. Emlyn Jones wedi ei ddilyn. Mae'r ddau, bellach, ni a gredwn yn sicr, yn mwynhau Cymanfa Ganu na bydd iddi ddiwedd byth. is. » «•
»>e Trem III-Marstant.,I
»>e Trem III-Marstant., I Ond ar ymadawiad un arall-Syr T. Mai-ch- ant Williams (Marffiant)-y gofynnwyd inni droi'r Drych y tro hwn nid i groniclo hanes ei fywyd, canys gwneir, mae'n debyg, gryn- hodeb o hynny gan arall. Ni wnawn ond cipdremu ar Marsiant fel y gwelwn ef yn croesi'n hatgof, yma ac acw, yn awr ac yn y man. Mae i ni gyfaill a'i hadnabu pan oedd yn ysgolfeistr ym M6n. Ieuanc ydoedd y pryd hynny. Cymerai ddiddordeb byw mewn cyrddau cystadleuol, yr oedd yn gryn gerddor a chantor, ac yn hoff o gystadlu. Nid oedd, ychwaith, yn brin mewn direidi diniwed ar achlysuron o'r fath. Ac yr oedd ei afiaith llengar a cherddgar yn angerddol. Ond mewn cysylltiadau eisteddfodol y deuth- om ni i adnabyddiaeth ohono gyntaf. Nis gallwn gofio ein myned i Eisteddfod na'i Chyhoeddiad heb gwrdd ynddynt a Finsent a Marsiant. Byddent fel dau efell, ac ni welid y naill. heb y llall. Gan i ni ymgysylltu a Gorsedd y Beirdd, ers llawer blwyddyn bellach, naturiol fu inni hoffi ei brawdoliaeth a'i defion, a dymuno, o leiaf, bod o ryw fudd ynglyn a hi. Gan hynny, nid allem lai na gwerthfawrogi y gefnogaeth a gai'r Orsedd gan ddynion mor alluog a dylanwadol a'r ddau hyn. Buont o gymorth mawr i uno Gorsedd y Beirdd yn effeithiol a Chymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Safasant dros gydnabod y Gorseddogion fel dosbarth o ddynion cystal a'r eyffredin, gan ymwneud a, hwynt fel cymrodyr cydradd o ran eu per- thynas a Chymdeithas yr Eisteddfod. Credwn ein bod, wrth fynegi ein teimlad ein hun, yn mynegi eiddo'r Gorseddogion yn gyffredinol, pan yn cydnabod y parch a'r caredigrwydd meddylgar a ddangoswyd tuag atom bob amser gan y ddau foneddwr galluog a gwladgar-Syr Marchant Williams a Syr Vincent Evans. Beth bynnag all fod bri yr Orsedd heddyw-tan lywyddiaeth yr Archdderwydd athrylithgar a doeth pres- ennol—credwn yr eddyf pawb fod graddau helaeth o'r clod-neu'r anghlod !—511 ddyledus i Marsiant a Finsent. Da gennym, beth bynnag, fod Finsent eto'n fyw a chryf, a hir y parhao Ac wrth feddwl amdanynt hwy, nid allwn, o Lerpwl, lai na gweld y Llew Wyn a'r diweddar Lyfrbryf yn eu cwmni. Prin y credwn fod neb byw a wyr fwy o hanes yr Eisteddfod Geuedlaethol, yn ystod ei oes ef, nag a Wyr Llew Wyn, a gresyn na byddai modd procio'r hanes allan ohono. Ond ar Marsiant yr oedd ein Trem Wel, mae cymaint o'i hanes a'i nodweddion yn dod i fyny o flaen ein meddwl, fel mai cam ag ef a fyddai ceisio ei grynhoi i'r gofod gweddill sydd gennym,—y llenor,y bardd, y barnwr, yr eisteddfodwr, ac yn enwedig y critig a'r gwladgrarwr. Rhaid inni adael y pethau hyn hyd nes y caffom fwy o hamdden oddi- wrth y eyffrawd presennol. Ofer son, mewn amgylchiadau fel hyn, am fan gwerylon y wasg, ac ambell ddadl rhwng beirdd a llenor- ion. Nid yw y rheiny'n cyfrif heddyw. Ond mae'n chwith gennym feddwl fod Marsiant wedi ymado. Y tro diweddaf y gwelsom ef oedd yn Eisteddfod y Fenni. Yr oedd ar y pryd yn wael ei iechyd, ac ar fedr ymweled a Chanada. Y tro diweddaf y cawsom air oddiwrtho oedd mewn llinellau a gyfansodd- asai yn Ysbyty Lisbon. Cyhoeddwyd y gan yn Y BRYTHON, a chredwn mai derbyniol i'n darllenwyr fydd ei chyhoeddi yma eto. Dyma hi,— .01.
I TRIDIATJ GYDAG ANGAU AR…
I TRIDIATJ GYDAG ANGAU AR LAN Airox MARWOLAETH. Uydgerddais, dro yn ol, Ag Angau du Fe fynnai 'nghael i'w gol, Ond diengais i. Paham-nis gwn yn glir Pa fodd-mi wn yn wir— Drwy'r niwl y Nefol Dir Sy'n Ueddfu pob rhyw gur A welsom ni; Ond oedodd e'n rhy hir- A chollodd fi. Wrth rodio fraich ym mraich Hyd draeth y Lli, A chofio pwysau'r baich Ar f'ysgwydd i, Dychmygais weled blaen Ei gleddyf a'i ystaen Yn dod yn rhydd o'i wain A daeth y Bedd a'r Maen I'm meddwl i, A phlethu'r Goron Ddrain "— A chollodd fi. Nid ofnais Angau ddim Ar draeth y Lli', Er nerth ei fraich a'i grym, A'm gwendid i. Er disgwyl cael fy medd Yn nyfnder m6r di-hedd, Nid ofnais fin ei gledd Yn meddwl am y WIedd Yr oeddwn i, Ac yntau am ei Sedd- A chollodd fi. MARSIANT. Ysbyty Lisbon, Rhag. 22, 1913. Nid fel enghraifft o oreu Marsiant y bardd y cyhoeddwn y llinellau hyn ond anodd fuasai cael dim mor ddiddorol a gwerthfawr ya wyneb ei ymadawiad. Llewyrcha'r gan fechan hon i fewn ar gyfrinach ddyfnaf ei feddwl a'i galon, a cheir ynddi gywair ysbryd mewn buddugoliaeth. Parhaodd ei nychtod, fel y gwelir, am yn agos i flwyddyn. Bu farw yn Llandrindod y dydd o'r blaen, ond yr oedd wedi ennill ei fuddugoliaeth ar Angau yn Lisbon cyn Nadolig, 1913. Bu raid i hyd yn oed yr Eisteddfod am eleni ohirio'i gwys a'i gwahawdd i Fangor. A pha fudd fuasai i'r Orsedd ofyn A oe8 heddwch ? pan y mae holl Ewrop yn crynnu gan ergydion yr Armagedon ? Ond pa bryd bynnag yr ymgasgl yr hen Wyl i'w chynefin, bydd un o'i chefnogwyr ablaf, ffyddlonaf, a mwyaf diddorol yn amlwg iawn drwy ei absenoldeb. Teulu'r Wyl eilchwyl amgylchant—y Maen, Ond o'u mysg un gollant: Daw prudd-der tyner i'w tant,— Am Orsedd heb ei Marsiant.
Advertising
CRISTIONOGAETH A CHYMDEITHAS, gan y Parch. J. H. HOWARD, gyda Rhagair gan y Gwir Anrhyd D. Lloyd George. Pris 2/6 net. Trwy'r Post 2/9. I'w gael oddlwrth HUGH EVANS el FEIBJON. 8wyddfa'i BrvQrni* 358-8 StgLnJey Rmd Liverpool, ac yn Deheudir Cymru can T. O. PHILLIPS, 34 Kedoliffe Avenue, Caerdydd HUGHES, 14\ 20 Oxton Rd., Birkenhead. For —— Present Season in the Newest \$ £ ) Shades. Best MatertalsX Latest ± Style 0 WortLmanship ul MODERATE PRICES
Advertising
DRINK  DWYRY TEA. The Tea of Old Time I flavour.