Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Trem I-Marw Iolo Caer-narfon.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Trem I-Marw Iolo Caer- narfon. IOLO CAERNARFON, yntau wedi dianc at y mwyafrif mawr Wrth sylwi ar erthygl o eiddo'r diweddar Barch. John Hugh Evans (Cynfaen),-un o'r dynion mwyaf athrylithgar ni a gredwn, a anadlodd awyr Cymru—ar Farddoniaeth a Beirniadaeth, fe ddywedai'r diweddar Iolo ei fod yn edrych ar yr erthygl honno fel y gwnai ar y Wyddfa a'r mor,—fel rhywbeth eang a mawr. Heddyw, wedi clywed am farwolaeth Iolo Caernarfon, daeth y sylw yn fyw i'n cof, a hynny fel un y gellid ei gymhwyso ato ef ei hun. Un mawr ydoedd-mawr ei athrylith, mawr ei ddynol- iaeth, a mawr ei lafur a'i wasanaeth i'w enwad a'i genedl. Yr oedd yn llawer rhy fawr i ni allu ei fesur, nac ychwaith i ddisgrifio yr hyn y gallwn ei weld ohono pe rhoddem ein holl ofod i'rymgais. Adwaenasom ef gyntaf fel bardd, a mynegiad syml o'n profiad yw inni ddy- wedyd y meddem, o leiaf, gydnawsedd ysbryd & r math o fardd ag ydoedd. Ei gan nerthol ar Y Llosgfynydd a ddarllenasom gyntaf o'i waith. Enillodd y wobr am honno yn Eis- teddfod Genedlaethol Pwllheli, 1875. Dyma destyn cyfatebol i'w awen gref a rhwysgfawr, a nerth yn galw ar nerth-ac nid yn ofer. Ceir yn y gan hon y neilltuolion a ddatblygodd ac a berffeithiodd mewn cyfansoddiadau mwy ar 01 hynny. Gwelir ynddi y ddeuair fel a mor a ddeuthant i olygu cymaint yn ei farddoniaeth, mewn darlunio a chymharu. Yr oedd ymdoriad y lafa Fel cwmwl yn torri ar gant y wybrennau. Ac yr oedd yr eirias lifeiriant Mor lawn o drueni a'r moroedd o ddwr." Gallwn ddywedyd, yn wir, ddarfod darllen y gan hon gostio inni ddwyn Y Llosgfynydd yn ein dychymyg o hynny hyd yn awr. Dyn nodedig o heddychol oedd Iolo Caernarfon, ond ni fedrai neb ddarlunio'r aruthr a'r ofn- adwy'n effeithiolach nag ef. Yr ydym ninnau hyd yn oed yn llwfr,—yr hyn nad oedd efe,— ac eto byddwn wrth fodd ein calon ynghanol dychmygiad o'r rhwysgfawr, y cyffrous, a'r dychrynllyd Rhaid fod y duedd hon ynnom o'r dechreu, ond cryfhawyd hi gan ddarlun pwerus Iolo o r Llosgfynydd. Darllenasom, wedi hynny, ei gerdd i'r Anturiacthwr. Yma, eto, yr oedd testyn wrth ei fodd. Nid yw'r gerdd wrth law gennym, ond buom yn gwledda, wrth gerdded heolydd Lerpwl, ar y darlun a roddai o'r dyn dewr a anturiodd i waredu dynion o long oedd ar suddo, ac yn dychwelyd,— Heb adael dim ond angau ar ei ol." Datblygiad naturiol oedd i'r bardd allasai ganu mor odidog ar destynau fel hyn ddyfod yn un o arwrgerddwyr pennaf ei genedl. Ond, heb s6n am ei gyfansoddiadau, nid allwn yn awr gymaint a chyfeirio at ei amryw gyfrolau eyfoethog—barddonol, traithodol, a byw- graffiadol. Bydd manylu ar holl waith Iolo Caernarfon yn deilwng o'r beirniad galluocaf y gall Cymru ei gadw wedi y caffer heddwch a hamdden oddiwrth y cyfiro rhyfel yr ydym ni ynddo ar hyn o bryd a bydd trafod ei neill- tuolion a'i nodweddion yn etifeddiaeth fras. Meddai grebwyll cerub. Atgofia ni o linellau Eben Fardd,— Hwt dynwared hen wireb, Sy'n wan iawn, ni synna neb Creu mawr, nwyddfawr, newyddfyd, Sy'n rhyw bwnc a synna'r byd. Onid creu wna enaid cryf Ohono'i hunan yn heinyf ? Goreu yw creu, feirdd gwir cred, Yn wrol, na dynwared." Mewn pryddest a phregeth, ceid ereadigaethau mawrion a gogoneddus gan Iolo, ac fe synnid pawb ganddo. Nid allsai na phrydyddu na phregethu ond fel efe ei hun. Ei feddyliau mawrion a ogoneddai y naill a'r llall. Er nad yn draddodwr llithrig, clochaidd, yr oedd yn hollol naturiol, ac yn cyflawni dywediad craffus y diweddar Barch. Joseph Thomas, Carno, Mae pob creawdwr yn dipyn o .oynhaliwrhefyd." Ceid ei bwyll a'i hamdden yn fantais i gyfleu y greadigaeth gyfoethog fyddai yn ei bregeth. Ac fe fynegai syniad mor fawr a disglair mewn brawddeg fel y teimlai gwrandawr mai da cael saib i'w fwyn- hau. Ac yr oedd yn gymaint o athronydd ac o ddychmygwr. Rhoddai ei athroniaeth waelod cadarn i'w ddychmygion mwyaf rhamantus. Meddai gof eithriadol. Clyw- som ef yn traddodi beirniadaeth faith a manwl ar Bryddestau'r Goron, yn Eisteddfod Ffes- tiniog, i gyd o'i got cofiai yr enwau, y gwahanol ddosbarthiadau, a'r dyfyniadau, heb unwaith betruso dim. Gorchest anghyff- redin ydoedd a chlywsom y diweddar Gutyn Ebrill, mewn capel yn Lerpwl, wrth ddych- welyd i Patagonia, yn dywedyd fod ei ym- weliad a Chymru wedi talu'n dda iddo, pe nad am ddim ond cael gwrando'r feirniadaeth honno. Yr un modd y gwnai fel rheol. A byddai ei feirniadaethau ef—fel yr eiddo Tafolog—cystal a dim a geid yn y cyfan- soddiadau a feirniadai. Cof gennym, pan yn ddyn ieuanc, anfon llinellau ar Victoria Hall— a adeiladwyd ar gyfer Mri. Moody a Sankey-i gystadleuaeth yng nghapel Pall Mall, a dy- wedodd air mor ffafriol am y rhai hynny fel y byddai arnom gywilydd ei gyhoeddi heddyw. Ond bu gair Iolo Caernarfon yn gefnogaeth gref i ni. Ond yr oedd cof lolo yn cyfateb i fawredd ei feddwl, ei galon, a'i ysbryd i gyd. Ceir ambell ddyn yn gofiwr pur fanwl o'r hyn a glyw ac a wAl, ond heb fawr ddirnadaeth i ddeall ystyr y pethau a gofio, a'u troi'n faeth i'w feddwl. Ond yr oedd cof lolo Caernarfon yn cynnwys meddylgarwch angerddol, calon fyw, ysbryd nerthol, personoliaeth fawr, a'r ewbl dan eneiniad sanctaidd. Pan fai arno eisieu pregeth, gallai fynd allan am dro, hyd y llwybrau unig, a dychwelyd i'w dy, a'i bregeth wedi ei chwblhau yn ei feddwl-yn sicrach nag y deuai llawer pysgotwr yn ol a brithyll o'r afon. I ddyn oedd yn gymaint o fyfyriwr, ac yn meddwl ei bwnc yn glir a chyfan, nid rhyfedd ei fod yn cofio mor hwylus. Nid rhyfedd chwaith fod ysgrifennu'n dipyn o flinder iddo. Ar yr oedd hynawsedd y dyn mawr hwn mor eglur a dim ynddo. Meddai galon dyner, a gallai, gan hynny, deimlo dolur. Boneddwr gwirioneddol ydoedd. Nid lien drosto oedd ei foneddigeiddrwydd ef, ond tyfiad allanol o'i galon fewnol. Gwasan- aethodd ei Dduw a'i genedl, a myfyriodd fwy nag y gallodd ei gorff, er cryfed ydoedd, ei ddal. Bu'n un o gedyrn pennaf ei enwad. Nid aeth i chwilio am swydd o anrhydedd, ond chwiliasant hwy amdano ef. Anrhydedd- odd bob safle o ymddiried. Pan ddeuai'r awr iddo draddodi Pregeth, Cyngor, neu Araith, safai o flaen eynulleidfa bendefig o ddyn mawr, o gorff a meddwl,—mor ddirodres a gwesyn, mor urddasol a thywysog, mor bwyllog a barnwr, a than eneiniad y Sanct. Wrth wrando arno, lawer tro, fe deimlodd lliaws ei fod yn llefaru wrthynt megis o fyd arall." Yn wir, mewn byd arall y byddai ei feddwl mawr yn byw beunydd. Cafodd ei ollwng o'i babell ysig mewn cnawd, ac mae'r seraff bellach wedi hedeg ymaith i'r Wlad Well, BC, yn ei eiriau ef am arall,— "Mor hyfryd iddo, wedi nos y llawr, Yw dydd gogoniant ei Waredwr mawr

I Trem II-Y Parch. F. E. Jones.

Trem III-Y Rhyfel.

Advertising

Advertising