Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
TO SECURE HAPPY HOMES, USE tt ft mr- V P t% CROSSLEH DRY SOAP THE GREAT LABOUR I SAVER AND DIRT REMOVER.
Advertising
USE 0 KEENOMA sel^.raTsiwo FLOUR for r Pastry, Scones, &c., &c.
Advertising
Beaty Bros Ltd. THE qp A TIT C, CELEBRATED TAILORS PERFECT FITTING OVERCOATS EXCELLENT VALUE ONLY ADDRESSES: London Rd. and Church St., LIVERPOOL. Closed on Wednesdays at I p.m. Open all day Saturdays. A yw'ch Llygaid yn eich blino? Yw p<<haa*n tnl'aflMof ic«hMs) Dyna arwydd a rhybudd He*Atod yUyg&4. a 4ylach m, hadrych rhag blaos; eu gwaotny wma'aheMetuuao. GMlwaai gyda'aheBef "guw&]MLtleddul::Yd C:i;r an*en ?wydnm ac 01 feHy, eich CF&Uwi ?'t dial barai fwyaf o tet chwu Galwch heddyw: ARCHER & SONS Ereslsht Specialists, 73 LORD STREET, srfvdlwvd 1S48, LIVERPOOL 'PbODe-3925 Bank, I. Sriifii & SOD, TAILORS 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL AIM 41 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. MILITARY J* OFFICER'S UNIFORMS, SERVICE JACDTS, BREECHL% etc.- 'Phone-SSG Bootle. Appreciated tor 114 Yearo. Bond's Pianos. 20 Guineas" Bond" Piano. fashionable Chippendale Rosewood Case, complete 'f Iron Frame, Me, al Pressure Bar and Bridge. Check Aotion, beautiful tone and tonch, uuequailed value 23 Guineas "Arthur Day Piano. Magnificent Walnut Case (Dart), Iron Frame, Check Action, beautiful finish, tone and touch remarkably flne. 28 Guineas Bond" Piano. Latest style, artist c oase, Overstrung Full Iron Frame, I nderdamper Check Action, an instrument to please the most exacting. Write for Catalogue of other new Pianos, or list of Second-hand Instruments, all guaranteed. Musical Instruments, Music Fittings of all kinds Strings. Recoids. Records > LARGE SELECTION OF WELSH RECORDS UramophoneS all prices.. BOND CO., x 54 Lime Street, Liverpool. P ■ IF YOU WANT REALLY GOOD 04noTs TIRT la U N TS, 49 Paradise St; Liverpool The LM?ott Stock of Boot< Md NKMtt )a Liverpool U UZ;Mwftr?k adloo 6 tloxm*n Youth& Md Bey? School Boots In gmt VWW. 18K FOR IDRIS Table Waters, In Syphons aad Bottles. SODA WATER. POTASH WATER. 3ELTSER WATER. LEMONADB DRY 9INOER ALB. ftfek, ste* IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL MORRIS EVANS' HOUSEHOLD OIL. The never-failing Remedy FOR Rheumatism) Sciatica, Lumbago 149c Burns, Scalds, Cuts, Bruises <Sc ALWAYS HANDY IN THE HOMB ITS CURIIIVE POWERS ARE WONDERFUL. Get a Bottle at once from your Grocer or Chemin I' Price I/lid. 6 2/6 Or direct from- MORRIS EVANS & Co.. THB MANUFACTORY, FESTINIOG, N. WALES. ROBERTS a EDWARDS ESTATE AGENTS, 34 KirEdaJp Rd.. Liveripoot Telephone: 2193 Royal.
Trem I-Miiwyr a Morwyri
Trem I-Miiwyr a Morwyr A Ni yn gorwedd yn dawel rhwng plygion clyd, ar noson dymhestlog,—a atelir ein cwse gan feddwl am ein cymrodyr helbulus ar dir ac ar don ? Ymhyrddiai'r corwyntoedd neithiwr yn erbyn muriau'r ystafell, a churai'r trymlaw ar y ffenestri. Ein hoffter pan yn blentyn fyddai, a ni yn ein gwely, wrando rhu y gwynt wrth daro'n castell bychan ond diogel, a'r glawogydd yn ymdywallt ar y t6 uwch ein pen. Ond, er hynny, llawer gwaith y difethwyd ein mwynhad gan ochenaid yr hen Fodryb fwyn, wrth alw heibio gwely'r hogyn," a gweld ei fod yn gysurus, gan hyd- wedyd,— U Machgen bach i, mae hi'n braf iawn arna "ti rhagor y trueiniaid sydd allan yn y ddrycin, ar dir a m6r." Daeth ei hysbryd at ein gorweddfa neithiwr, ocheneidiodd fel cynt, a sibrydodd ei geiriau tyner yr un modd, a chyda'r effaith o beri inni bruddhad, ac i gwsc sorri wrthym. A phe buasai'n calon ni agos mor dyner a mawr a chalon Modryb, ni chawsem awr o gwsc neithiwr. Ni welodd hi erioed y fath noson yn gorchuddio'r ddaear. Gyferbyn a'r pul- pud, yn y capel bychan yr aem iddo'n blentyn, yr oedd astell ar y pared ag arni'r geiriau, "COFIWCH Y MORWYR. Bwriedid i bob gweddiwr gofio'r gorchymyn hwnnw'n gystal a chofio gadw'n sanctaidd y dydd Saboth." Weithiau, ni gofiwn yn dda, yn ystod y moddion, byddai tymestl yn curo'n drwm ar furiau'r addoldy, a pharai hynny i'r gweddiwr fod yn daerach ei lef dros blant y tonnau. Byddai y rhan honno o'i weddi, o leiaf, yn bachu yng nghalonnau ei holl gynulleidfa canys yr oedd y capel yng ngolwg y môr, ao amryw o frodorion y pentref gwledig yn forwyr. Nid ydym yn hollol sicr nad oedd ar yr astell gyferbyn a'r pulpud ychwaneg nag a nodwyd, ond yr ydym mor sicr a'n bod yn ysgrifennu'n awr mai arfer y gweddiwyr oedd cofio am ein milwyr a'n mortvyr." A yw ein cof o'r morwyr, erbyn hyn, mor fyw fel nad oes angen y fath beth a'r hen astell o flaen y pulpud ? Gwyddom yn dda nad oes angen peth o'r fath ar dad na mam, brawd na chwaer, gwraig na phlentyn-y byddo un o'u teulu allan ar y cefnfor ar noson ddrycin. Mae'r gorchymyn yn reddf o gariad pryderus yn eu calon hwy. Ond nid felly pawb. Ofer i neb s6n am "frawdoJiaeth dyn" oni all weddio sylwedd pennill Eifion Wyn,— Ein Tad, cofia'r morwr, Rhwng cyfnos a gwawr, Mae'i long ef mor fechan, A'th f6r Di mor fawr. Nid ydym yn anghoflor chwarelwr sydd drosom yn y graig, a'i fywyd yn hongian ar reffyn uwch y dyfnder mawr nao ychwaith y glowr sydd drosom yn y pwll dwfn, du, yn ei blgg, yn llewyrch ei lusern fechan-unig seren ei nos !—ac yn nythle'r nwyon brad- wrus, parod i ennyn y Danchwa greulon a disyfyd arno. Ped anghofiem hynny, pechem yn erbyn y t6 sydd uwch ben ein cartref, a'r tan sydd ar ei aelwyd. Mae lie yn ein calon a'n gweddi i Feibion Llafur o bob gradd, ymhob man,—Mawrhawn Y gwron diseguryd, Cyfiawn o barch, asgwrn cefn byd. Ond yn awr, ni omeddir inni droi y Drych, a chraffu'n ddwys, ar y Milwyr a'r Morwyr. Y maent, ar rytv; gyfrifon, yn anad neb, mown perygl bob awr." Nid yw'r m6r yn dymhestlog bob amser ond mae o'n dibynnu cymaint ar y gwynt, a hwnnw mor anwadal. Ni wyr dyn pa bryd y bydd y gwynt yn rhuo'n ei gorn, a'r byddinoedd tonnog, cynddeiriog, yn rhuthro i fyny ar ei arch. Dyna pam y rhoes Caledfryn ei sen ddiarhebol i'r m6r :— Wyllt wenur, hallt ei waneg, Llawn o dwyll yw ei wen deg. Nid bob amser y mae milwyr yn rhyfela a phan na byddont, tueddwn i'w hanwy- byddu, neu edrych arnynt fel darn o ramant, yn mynd heibio ar orymdaith ddifyr, ond yn rhy ddrud i'w cadw, ac heb fawr o'u heisiau Wel, maent hwy, fel ninnau, yn bechaduriaid, a'u hamgylchiadau'n ami yn fagl iddynt. Eto, i fod yn efengylaidd, po fwyaf y pech- adur a'i beryglon, mwyaf ein dyled i weddio drosto, onite ? Beth bynnag, neithiwr, yn swn y dymestl a ysgydwai'r ty, a'r ochenaid a'r frawddeg a ysgydwodd ein henaid, teim- lasom mai geiriau byw ofnadwy ar hyn o bryd yw Milwyr a Morwyr O'u hamgylch hwy, yn anad neb, y mae ystormydd yr Armagedon yn ymgrynhoi, ac ar eu pennau hwynt y maent yn torri. Ni fu gwynt a mor, daear ac wybren, erioed mor llawn o beryglon heddyw. Ymled Brad dros bob man, ym- wthia i bob congl; syll i lawr o'r awyr, a syll i fyny o'r mor. Nid yw'r hen beryglon oddi- wrth gorwynt, a thon, a niwl a chraig, a phob math ar elyn, i long y morwr yn gyffredin, ond bychan mewn cymhariaeth i'r hyn a gyn- llwyn yn awr am ei dinistr. Ni freuddwyd- iodd Emrys erioed bosibilrwydd yr ystyr y gellir heddyw ei roi i'w linell,— Ac angau yn llechu yng nghysgod pob ton. Ac yn enwedig longau rhyfel,—a'r llongau sy'n ysgwyd, ddydd a nos, yn niwloedd, glawogydd, a chorwyntoedd y gaeaf, o gylch ein Hynys, a hyd ffyrdd y cefnforoedd, a'r dynion heb fod yn sicr o fawr ddim ond fod Brad yn gwylio'i gyfle arnynt hwy-ac amorn ninnau y tuhwnt iddynt. Ac ar y fath noson a neithiwr Rhaid i'n Llynges ni wylio pob pwynt, rhag y bydd i'r gelyn ddod ymlaen at un pwynt. A phe digwyddai iddo ymlwybro tan orchudd y dyfroedd, a thrywanu un o'n llongau ni i'w dinistr, odid na fyddai inni, pan ddarllenwn y newydd, ar yr aelwyd glyd, wrth y bwrdd brecwest dibrin, dynnu crib bras ein beirniadaeth fyrbwyll dros bennau y rhai a adawodd i'r fath beth ddigwydd. Gofidia pob gwladgar am golli pob Hong, yn gymaint a bod hynny'n golled i'w wlad, ac yn gwanhau ei diogelwch. Ond sawl un sy'n cyffroi ac achwyn oherwydd y teimla mai ei ddiogelwch ei hun sydd mewn perygl ? Hynny yw, sawl un ohonom sy'n gwneuthur ein hunain yn gariolbwnc yr Ymherodraeth Brydeinig ? Ond, gan nad beth a ddigwyddodd, neu a allo ddigwydd eto, gofalwn rha^anghofio'n dyled anhraethol i'r llongwyr a'r Llynges. Pan I fom yn gorffwys yn y dyblygion clyd, ar noson dymhestlog, a phan wrth ein bwrdd ymborth llawn bore trannoeth,—Cofiwch y Morwyr I Ie,-a'r Milwr hefyd! Gwyddom erbyn hyn i beth y mae yntau dda, a pha mor dda ydyw. Yn y ffos, ddydd a nos, am amser hir, ac yn ami heb gymaint a chysgod cawnen i'w ddiddosi rhag y ddrycin ac os na ddis- gyn y cawodydd glaw Mno bob amser, bydd yn Red sicr o'r cawodydd plwm a than. Sut yr oedd hi arno ef neithiwr f Am Eleasar mab Dodo, mab Ahohi, y dywedir, Efe a gyfododd, ac a darawodd ar y Philistiaid, nes diSygio o'i law ef, a glynu o'i law ef wrth y cleddyf." Ond nid mwy ei wroldeb a'i aberth na'r hyn a wnaed ac a wneir yr ochr arall i'r clawdd dwr yna gan y Brython y dyddiau hyn,—ei wisg yn glynu wrth ei gnawd, ei draed yn glynu yn y clai, a'i law yn glynu yn ei gledd a'i wn-ei arfogaeth yn mynd yn ddarn ohono ef ei hun. A pham y gosododd ei hun mewn sefyllfa fel hon ? A oes rhywun yn ddigon o fftfl i dybio ddarfod i'n milwyr fynd i Ffrainc a Belgium i chware ? A oes neb yn ddigon creulon i awgrymu ddarfod iddynt fynd yno am fod ganddynt awydd i ddim ond lladdeu cyd-ddynion ? Pwy a faidd haeru y buasai ein heglwysi-ie, eglwysi Cymreig—yn cael eu bylchu gymaint gan ymrestriad lliaws o'r dynion ieuainc goreu ohonynt i'r gad, onibae eu bod hwy, beth bynnag, yn teimlo fod rhywbeth gwerthfawr- ocach na bywyd yn eu cymell i fynd allan ? Gwyddom am feibion i rieni crefyddol-rhieni yn eu caru ag eithaf calon tad a mam-yn mynnu ymrestru, yn aberthu safleoedd pwysig a rhagolygon disglair, a'u rhieni hefyd, er eu holl bryderprudd, yn teimlo fod eu meibion yn iawn, ac nad allai eu cydwybod eu hatal. Aeth miloedd o ddynion fel hyn o Lerpwl i'r Fyddin a'r Llynges, ac mae miloedd eto ar eu ffordd yno. Gwyddant yn dda beth i'w ddisgwyl, ac maent wedi bwrw'r draul. Gwyddant y gelwir arnynt, os parha'r rhyfel, i gerdded i'r bylchau lie cwympodd eraill. Yn wir, rhaid imni addef na welsom erioed o'r blaen mor ddwfn i gydwybod foesol a chalon wladgar a dyngar dynion ieuainc, nac i aberth calonnau tadau a mamau. Teimla rhai fod eu Ffydd yn gwegian, ac yn llewygu. yn wyneb yr Armagedon hon, a'r aberth mewn bywyd a thrysor a dynn i'w ch61. Teimlwn ninnau mai ein hunig gysur gwirioneddol yn ei hwyneb yw cyfiawnder ein hachos, a'r Bod o Dduw Ond dywedwn eto pan fo'r dymestl yn rhuo yn y gwyll, pan fo digonedd o ymborth ar ein bord, a phan fo'n cartrefi mewn hedd, ac o gyrraedd ergydion y gelyn, o for na thir,—COFIWN Y MILWYR A'R MORWYR!
Trem II-Heddyw I
Trem II-Heddyw I Nid oes arwydd, hyd yn hyn, fod Rhaglun-I "aeth am ein bwrw i ddwylo'r Caisar duwiol- I annuwiol. Mae'r Japs wedi cyrraedd eu n6d arbennig hwy, trwy gymryd Tsing-tau,—y porthladd cadarnog y tywalltodd Germani filiynnau lawer o bunnau i'w wneuthur,—ac wele lywodraeth uniongyrchol Germani yn Asia ar ben. Mewn brwydr yn y Mor Tawel, suddwyd y Good Hope a'r Monmouth,-dwy o'n llongau rhyfel. Ond cafodd yr Emden wibiog, gastiog, gostus i ni, ei dal, a'i gyrru i'r lan yn olosg. Ger Ynys y Cocos y bu hynny a phed alltudid y Caisar o gwbl. nid gwael fuasai ei anfon i Ynys y Cocos, ac iddo gael yno urdd bardd cyfatebol i enw'r He. Deil y Rwsiaid i wasgu'n mlaen yn erbyn y Germaniaid a'r Awstriaid hyd yn hyn, gan wynebu llengoedd y Twrc yn y fargen. Yn Ffrainc a Belgium, parha'r brwydrau yn eu ffyrnigrwydd, a'r Prydeinwyr -ar y cyfan—yn y llecyn peryclaf, mwyaf ystormus, o hyd. Brawychus meddwl am y lluoedd afrifed o Germaniaid, yn cael eu hat- gyfnerthu fyth a hefyd, a ymruthrant ar ein byddin gymharol fechan ni, ond heb ddim llwyddiant parhaol. Gofid ac ing i bob gwladgar ohonom yw meddwl mor fynych y terfynir hanes gwroldeb hunanaberthol ein milwyr drwy ddywedyd eu bod yn ymladd yn erbyn mwyafrif o un i dri, pump, a hyd yn oed wyth. Ystyr hyn i gyd yw, Deuwch drosodd, a chynorthwywch ni Priodol y gallai'n milwyr ni ganu, "Fy mod yn fyw sydd fawr ryfeddod, Mewn ffwrneisiau sydd mor boeth." Eglur yw fod y rhyfel ar diroedd Ffrainc a Belgium yn bur wahanol i'r hyn ydoedd ar almanac y Caisar, o ran dyddiadau a di- gwyddiadau. Gwnaeth ef ei almanac yn debyg i'r almanaciwr y dywedodd Gwydderig amdano,— Dim idea am dywydd." Hyd yn hyn, nid yw wedi cyrraedd yr un o'r amcanion arbennig y tyngodd ei fyddinoedd cryfion iddynt. Ni chyrhaeddodd i Baris, ni chyrhaeddodd i Calais-heb son am gyrr- aedd i Loegr, na hyd yn oed anfon un ergyd iddi o'i flaen. Ni chyrhaeddodd i Warsaw chwaith. Ymddengys yn Ffrainc a Belgium fel tarw twlciog, cynddeiriog, yn ewynnu gan lid, ac yn bwrw ei gyrn dur i'r gwrych Cyng- hreiriol sydd o'i flaen, yn benderfynol o dorri bwlch rywsut, gan nad beth fo'r canlyniad i hynny, a'r iawn am y draul. Y rheswm mawr am bob rhuthr dibris o fywydau ei filwyr, yw fod y Caisar wedi llefaru. Da fyddai clirio'r Tarw Twlciog i'w gaeau ei hun ond mae ei atal i Calais a Pharis yn orchest fawr, ac yn gwanhau ei nerth. Ni lwyddodd, hyd yma, i oBtwng fawr ar allu ein Llynges, drwy gyn- llwyn mwnau ffrwydrol a llongau is-ddyfrol, yr hyn, yn ddiau, a gais hyd yr eithaf. Ond nid yw'r taranau ym M6r y Gogledd, hyd yn hyn, wedi deffro. Ni wyddom pa bryd y gwnant, 11a pheth fydd y canlyniadau. Beth bynnag, mae inni wylwyr glewion ar f6r a thir, yn dal eu bywyd, nos a dydd, yn darian rhyngom ¡'n gelynion. Ac nid amlhau geiriau yw inni ddywedyd eto, Cojiwch y Milwyr a'r Mortvyr I tr-ar- e
TremlUl-Arglwydd Roberts
TremlUl-Arglwydd Roberts Ni raid trengholiad arno ef. Bu, yn ddi- ameu, farw o farwolaeth naturiol." Rhy. frlwr ydoedd, a gwladgarwr hefyd. Drosei 80 mlwydd, ond yn fyw ei feddwl a'i ysbryd, fe groesodd drosodd i Ffrainc, i faes y frwydr, fel pe'n un pwrpas i lefaru ei air olaf i gefnogi milwyr Prydain, a thynnu ei anadl olaf o awyr a ddirgrynnai gan ergydion cadau. Beth bynnag allsai fod gwahaniaeth barn llawer gyda golwg ar ei athrawiaeth conscription, yr oedd yn gywirach ei farn am arfaethau Ger- mani na miliynnau o breswylwyr y wlad hon. 0 ganol cyffro'r Armagedon fawr, cofleidiwyd ef i osteg tragwyddol hedd. Un o'r pethau mwyaf byw ym Myddin Prydain fydd marwol- aeth yr hen wron a gollodd ei fywyd, yn ei awydd am belpu milwyr ei wlad i fuddugol- iaeth.
Advertising
Pence Envelopes FOR CHURCH COLLECTIONS Good Quality. Correctly Numbered bf Special Machine. -4 Hugh Evans Sons, Brythctt 356.8 Stanley Roadl L'pool.