Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CWYN COLL -am

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CWYN COLL am Dr J SPINTHER JAME3. A'i Ie nid edwyn ddim ohono ef mwy.¡ Daw hyn yn fuan neu'n hwyr yn wirionedd am bob dyn. Dyma un 0 wirioneddau'r Hen Lyfr sy'n wirionedd cyffredin, ac er mOl'l gyffredin yh wirionedd syn o hyd. Ond y mae o'n fwy syn pan goller ambell un o blith y byw, fel modrwyau tonnau ar lyn yn cylchu ymhell, bell, pan syrthio carreg fawr i'r dwfr. Syn i'w berthynasau annwyl a'i gyfeillion mynwesol yw colli Dr. James o'r gadair ym Mostyn Crescent, Llandudno, lle'r eisteddai wrth y bwrdd fel tywysog o'r hen ddull cyfeillgar, a'i lygaid glasfrith yn chwerthin croeso calon. Edrych yn syn y mae cadair arall hefyd, lle'r eisteddai'r Dr. wrth ei ddesc yn ei fyfyrgell a'r Uyfrau amrywiol eu cynnwys yn cael rhyw lonydd rhyfedd oherwydd ei le nid edwyn ddim ohono ef mwy. Syn yw i'w liaws mawr cyfeillion ac edmygwyr yn Llan- dudno na welir mohono mwy yn ddyn corffol, cadarngryf, yn prysur gerdded tua rhyw bwyllgor neu gyfarfod llenyddol, neu wleid- yddol, neu fwrdd addysg, neu fwrdd gwarc h eidiol, neu ar ryw gyrch i gefnogi rhyw sy- mudiad da neu wrthwynebu un drwg, neu ynteu ar ryw neges o gymwynas a rhywun hen neu wael neu dlawd. Ac i'r rhai a'i cofiant ( ddeng mlynedd ar hugain yn ol a deugain mlynedd a hanner cant, i'r rhai a'i cofiant yn I nyddiau Glanwydden. syn a chwith colli un oedd mor fedrus a galluog gyda llenyddiaeth yr enwad, neu'n sefydlu Byrddau Ysgol, neu I yng nghy?iadleddau ac ar Iwyfannau ei enwad a chyda'i weithrediadau. Yr oedd Dr. James yn ddyn mawr ac yn ddyn anghyffredin. Nid dyn bach neis oedd I, Mr. James, ond tywysog o ddyn oedd ef creadigaeth o ddyn. Er fod pob dyn yn greadigaeth, ac yn greadigaeth wahan, yr oedd Spinther yn amlycach felly oherwydd maint a grym ac amrywiaeth doniau ac ynni I a grymuster gweithgar. Meddai ar ddeall cryf, craff, bywiog a chyrhaeddbell; a hynny nid yn uhig i ddadrys problemau, i ddilyn hanes a'i ystyr, i ddeall pynciau'r dydd a gwendid dadl gwrthwynebwyr, ond hefyd i adnabod personau. Meddai ar y reddf g-yfrin honno a'i galluogai i ddarllen cymer- iadau yn gyflym ac yn hynod gywir. Yr oedd y llew mawr a'r oen tynerfwyn yn -eydgyfa,rfod yn ei natur. Oherwydd yr hyn -oedd wrth natur, ac oherwydd ei gydymdeim- lad cryf a'i enwad ac q, Rhyddfrydiaeth, bu mewn llawer dadl a llawer cyfarfod cynhyrfus, cyffrous. Mewn cyfarfod felly byddai yn ei afiaith, a rhwydd y lloriai gewri. I'w wrth- wynebwyr byddai'n ofnadwy megis llu banerog. Ond fel capten yr Emden byddai, fel y dywed y Sais. yn sportsmanlike-taro a'i holl egni a tharo i lawr, ond croes i'w natur fuasai taro neb ar lawr. Taro i lawr, nid taro ar lawr, oedd camp Spinther. Yr oedd ei wrthwynebwyr yn edmygwyr ohono. Hawdd y gwelid hynny ddydd ei angladd, pan oedd pob plaid grefyddol, ac Eglwys Loegr y dadl- euodd ef gymaint a neb dros ei dadsefydlu, a phob plaid wleidyddol, dynion o safleoedd uchel, o bob daliadau, pawb yn talu parch i'w goffadwriaeth. Yr oedd yn ei natur hefyd dynerweh mam. Hoffai blant, a hoffai plant yntau. Hardd fyddai ei weled ar fainc ar lawr capel a'r Beibl yn agored ar ei lin a thwr o blant o'i gwmpas ac yntau wrth ei fodd yn eu canol, yn dysgu iddynt adnodau o'r hen Feibl mawr Cymraeg. Ar ei gymwynasau nid oes rif. Yr oedd Spinther yn gynghorwr, yn gyfreithiwr, yn gyfarwyddwr cyffredinol, ac ysgrifennydd gohebol, i fwy na mwy o rai yr oedd yn dda iddynt wrth ei gymorth rhad yn Llandudno a Glanwydden a holl ardaloedd y Treuddyn. Acos eaffai dyn y fraint o gael Spinther yn gyfaill ni fyddai siom yn y eyfeillgarwch hwnnw. Gallai deugain o flynyddoedd fyned heibio, ond tra fyddai cyfnewidiadau di- ddiwedd ar fyd ac ar bersonau ni chyfnewidiai cyfeillgarwch Spinther. Yr oedd Spinther yn bregethwr rhagorol, efengylaidd ac effeithiol, a mynych fyddai'r galwadau amdano ond er cystal pregethwr oedd o, yr oedd camp dda arall arno. Yr oedd o'n wrandawr rhagorol. Yr oedd ei ie galonnog a'i wen foddhaus a'i ddagrau gloewon ar ei ruddiau yn brawf o'i gydym- deimlad a'r brawd, ie, a'r brawd gwan a fyddai'n pregethu, ac yn profi cydnawsedd ei ysbryd a'r gwirionedd megis y mae yn yr Iesu. Ysgrifennodd lawer iawn. Rhaid y gallai ysgrifennu'n rhwydd ac yn rhugl, oherwydd iddo ysgrifennu cymaint, ac eto pwy yn ei ddydd a ysgrifennai rymusach na choethach Cymraeg nag ef ? Ymae rhai o'i liaws mawr emynau sydd yn Llawlyfr Moliant yn rhai a genir tra y caner yn Gymraeg, y maent yn efengylaidd ac arnynt y mae eneiniad hyfryd. Llafuriodd yn ddyfal ddihafarch ar hyd ei oes faith. Heddwch i'w lweh, a mwynhaed yr ysbryd anfarwol yr orffwysfa honno sydd eto'n ol i bobl Dduw ymhlith y dorf sydd gyda'r lesu y canodd ef amdani,— O'i gylch mae'r gwaredigion, Mewn gwisgoedd gwynion, glan, I gordiad aur delynau Yn eilio'r ddwyfol gan. PEDR HIR. I

Basgedaid o'r Wlad.

Gore Gymro: yr un Oddieartre…

Advertising