Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Reliable and Sto"lrit)r Watches. Daily Wound. Tested, and Timed. WE ARE OFFERING HIGH-GRADE WATCHES WHICH TELL THE CORRECT TIME, DISPLAYING ON DIALS NAMES OF WORLD- WIDE REPUTE. At Less than Makers' Prices. PRICE LIST POST FREE. navies's, 3D low HUI (Top of London Road and PrescotStréet, and 2 minutes from Hippodrome). Closed at 1 on Wednesdays. Open all day Saturday. Davies's Price £ 13/18/6. Usualf25. Benson's 18ct. Gold Hunter. BY WORLD-FAMED MAKER, J. W. BENSON (Maker to his Majesty the King), Ludgate Hill, London. BEST LONDON- MADE VERY HEAVY SOLID 18-CARAT HALL-MARKED GOLD THROUGHOUT, J-PLATE ENGLISH KEYLESS LEVER HUNTER, quite new last year, warranted in PERFECT CONDITION, AS NEW. FITTED WITH BENSON'S highly-adjust- ed CHRONOMETER BALANCE, for all temperatures and positions MOST ACCU- RATE TIMEKEEPER, EXTRA JEWELLED, Patent Keyless, and all Benson's Improvements GUARAN- TEED 25 YEARS a chance to secure a jE25 watch for £ 13/18/6; approval. Also 18-CT. KEW" HUNTING WATCH, WITH CLASS A KEW CERTIFICATE, by RUSSELL AND SON, Church-street, Liverpool. Our price, £ 13/18 usual E30. MONTH'S TRIAL. Davies's Price £ 5/18/6. Usual £ 16. Real Gold Russell Hunter. ■GENT'S GENUINE) HIGH-GRADE, FULL JEWELLED, HEAVY SOLID GOLD, HALL-MARKED THROUGHOUT, ENG- LISH, J-plate, Patent KEYLESS CHRONO- METER LEVER HUNTER BY THOS. RUSSELL & SON. Church Street, Liverpool. GREENWICH TIMEKEEPER in all tem- peratures and positions, 16 RUBIES BREQUET Spiral Spring, NON-MAGNET- IC" will withstand SHOCK, JAR, or ELECTRICITY medium size, strong plain polished damp and dust proof cases. NEW THIS YEAR (proof). MONTH'S TRIAL. Makers' and our warranty for 25 YEARS. Also Solid Gold full jewelled WALTHAM KEYLESS LEVER HUNTER; our price £ 5/18/6, usual E16. Approval. Small de- posit secures. Davies's Price 1.3/7/6. Usual £ 9. Russell's Gold Expanding Bracelet Watch. HIGH-CLASS PERFECT LEVER LATEST SOLID GOLD WATCH BRACELET, Patent SELF-EXPANDING, Hall-marked throughout, by those famous makers, THOS. RUSSELL & SONS, Church Street, Liver- pool (Makers to Royalty). 15 RUBIES Chronometer Balance, Broquet Spring, Patent Keyless, and latest improvements. KEEPS- PERFECT TIME, Warranted by makers and ourselves 25 years. New this year; proof. Approval. Others by noted makers at £ 2/7/6, £ 2/14/ £ 3/16/- and E4/10/ All Bargains. .2316, Usually L3131. Russell's Silver Keyless Lever GENT'S RELIABLE HIGH-GRADE STERLING* SILVER LEVER, OPEN FACE, CRYSTAL GLASS, by RUSSELL & SON, Church Street, Liverpool, J-PLATE, CHRONOMETER BALANCE, PATENT KEYLESS ACTION, Ruby Jewelled, Non- Magnetic" Nickel Movements; clear plain dial and gold hands plain damp and dust proof cases (NEW 1914); ACCURATE TIMEKEEPER our guarantee and makers' for 25 years; exceptional offer carriage paid. S4 Gent's Gold Double Curb. A?/. -STYLISH GOLD DOUBLE ?- CURB, Stamped Every Link, 2 swivels ard bar; reliable quality. Also others as follow Solid Gold Neat Curb, 25 Double Fetter, 32/ Double Curb, 36/ Graduated Single Curb, 39/ Double Curb, 45/ Also very heavy Single Solid Gold Curb, f3 15 1-, usually 7 Guineas. Also Solid Gold Double Curbs at E3 /16 and t4 /12 Also 12-Guinea very heavy Double Curb, now £ 6/18/ an extraordinary bargain. EVERY CHAIN GUARANTEED. 23 Lady's Solid Gold Guard £ 1 /Q■/ /fl —FASHIONABLE GENUINE SOLID GOLD. Stamped and Warranted Sparkling Long Guard, the favourite DIAMOND CUT, equal to new. Also another at 29/6. Also another, Plain Round, Square-edge Links, at 36/ usually £ 3/15/ and another Heavier Diamond Cut, 39/ usually £4 SPECIALLY RE- DUCED. Also massive Round BELCHER GUARD, £ 2 /5 usually IS. Also Beautiful SECRET LINK, £ 2/19/ usually 96; 'and large DIAMOND CUT BELCHER GUARD £ 3 /5 /—, usually JE7 and Very Heavy SECRET LINK, ;E4 15 usually ig. LARGE SELECTION. Money returned if not as represented. Deposit reserves. Ex- .changes. Payments.—j DAVIES'S, LOW HILL
[No title]
Sef Byd a Helynt Cymry Lerpwl.
Sef Byd a Helynt Cymry Lerpwl. Seigiau Chatham Street. Cafodd y cynulliadau lliosog ac o bob enwad aeth i Gapel Chatham Street nos Wen- er, nos Sadwrn a'r Sul diweddaf, wleddoedd breision o lenyddiaeth ac Efengyl, sef nos Wener, yn narlith y Parch. H. Elfed Lewis, M.A., Llundain, ar Williams Pantycelyn, a nos Sadwrn a'r Sul yn y pregethau mwynion ac argyhoeddiadol a draddododd Elfed nos Sadwrn (a r Hybarch Ddr. Owen Evans yn dechreu'r oedfa), a bore a nos Sul, a'r Parch. Thos. Chas. Williams, M.A., y Borth, bryn- hawn Sul. Yr oedd y Parch. Wm. Prytherch, Abertawa, wedi ei gyhoeddi i gadw'r cvfarfod pregethu gydag Elfed, ond daeth gair ar y funud olaf ei fod yn analluog i ddod. Di- gwyddai Mr. Williams fod a'i gyboeddiad ym Mhrinces Road; ac yn garedig iawn, cyd- syniodd i lenwi'r bwlch ar eiliad o rybudd, a hynny gyda'i ddawn a'i ddylanwad arferol. Ac y mae Eglwys Chatham Street, clod iddi, ar y blaen i bawb braidd yn y gras llydan hwn o alw pigion yr enwadau eraill i gadw'i chyrddau blynyddol gydag un o hoelion wyth ei henwad hi ei hun ac yn sicr i chwi, bydd y pregethau a glywd eleni yn hir a melys ar hadflas yn atgof pawb a'u clywodd. Drwy ddygnwch Mr. J. J. Bebb (gresyn ei fod o yn rhy wael ei iechyd i fod yn y ddarlith na'r oedfaon), llwyddwyd i gael gan Mr. Wm. Jones. A.S., i ddod o ganol y Senedd a'i drymlwyth gorchwylion i gadeirio nos Wener ac er y caniatawyd iddo ado'r cyfarfod am ysbaid i annerch y. llall yn y Tabernacl ar fiiwriaeth, caed gair o anerchiad byr ganddo ar y dechreu ac un aral1, hwy a hyotlach, ar ddiwedd y ddarlith. Baich ei anerchiad ydoedd annog y Un ieuenctyd oedd ger ei fron i ymgydnabyddu a hufen llenyddiaeth y byd ond wrth yfed a allent o honno, os oeddynt yn iach fel Cymry a Christnogion, byddai arnynt syched, wedi 'r cwbl, am y sug ysbrydol diail oedd ym mhenhillion Panty- celyn. Priodol a thwt iawn y clodd y cyngor hwn .trwy ddyfynnu geiriau'r darlithydd ei hun :— Dante, dos i'w ddilyn Shakespeare, tro i'w fyd Cofia Bantycelyn Yr un pryd." Am y ddarlith ei hun, nid teg ei chodi yma yn ei chrynswth, gan fod cyhoeddiadau eraill, lu, iddi draw ac yma drwy'r wlad digon dweyd fod y portread yn.un swynol a melys ei iaith, yn un trwyadl a llwyr ei ymchwil i'r ffeithiau, ac yn warogaeth gyda'r uchaf a'r deilyngaf allai un bardd dalu byth i fardd arall. Wrth gyferbynnu'n Per Ganiedydd & mawrion eraill ei oes, sylwodd Elfed :— mai swn oedd yn graddol leihau gyda phellter y blynyddau oedd swn hyawdledd seraffaidd Daniel Rowlands, Llangeitho ac mai darfod a diffodd bob yn dipyn yr oedd mellt a tharanau enbyd Howell Harris; ond am Williams Pantycelyn, y fo roes gan i'r Diwygiad ac y mae'r gan honno'n fwy byw a chlywadwy heno yn yr emynau yma (gan afael yn y Llyfr Hymnau a'i godi at ei fynwes) nag ydoedd pan y'u cyhoeddwyd gyntaf erioed, ac a gynhyddant ac nid a leihant gyda threigl y blynyddoedd. Diolchwyd yn gynnes ac addas iawn i'r darlithydd gan Miss Pattie Jones a Miss Williams, Grove Street; ac i'r cadeirydd gan y Parch., R. R. Hughes, B.A., a Mr. Wm. Thomas, Y.H. Ac wrth eu clywed yn coff hau'r cynhulliad mai'r aelod tros Arfon oedd 1 un osiaradwyr hyotla'r deyrnas, cofiais am y llun hwn a dynnodd Mr. F. C. Gould-—arch- gartwnydd Prydain—ohono flynyddau'n ol, pan oedd y Cymro eirias nowydd orffen syfrdanu'r Ty, mae'n debyg, agun 0 r areith- iau nwyf. a gwefr hynny sy mor angen- rheidiol eu cael i ddeffro Saeson. swrth y I Senedd i deimlo dipyn tros Gymru a'i hawliau. A dyma fo'r llun :— • Un o Gymry Amlwg y GorUeWin. I Un o'r Cymry mwyaf hysbys yng ngwlad bell y Gorllewin yw Mr. Rd. Jones, Oakland, California, a ddychwelai o Lerpwl ar fwrdd yr Adriatic ddoe (ddydd Mawrth, y lOfed), ar ol egwyl o rai misoedd yng Nghymru dros bwyllgor Eisteddfod Fawr a Chydgenedlaethol San Francisco, 1915. Parodd y rhyfel gryn ddyryswch ar drefniadau a disgwyliadau Mr. Jones a'r pwyllgor, eithr y maent wedi pender- fynu dal at yr wyl, a'i chynnal fis Gorffennaf nesaf, mewn neuadd a ddeil ddeuddeng mil o bobl. Bydd Dyfed a Chynonfardd ac eraill yno i orseddu a dyfarnu ac yn y blaen a gwybydded y beirdd a'r traethodwyr a'r cantorion a phawb y gellir cael pob manylion cystadlu gan Mr. T. R. Roberts (Asaff), ysgrif- ennydd Eisteddfod Genedlaethol Bangor. Y mae Mr. Jones yn un o hen gyfoedion bore oes Tudno, a'r cnwd o feirdd a gadwent Landudno a'r ardaloedd mor fyw y pryd hynny. Ysgrifenna'n helaeth i'r papurau Cymraeg, ac y mae'n nawdd a ohefn cryf i j Gymry'r Gorllewin. Tri o'i gymdogion ilen- gar a llawn afiaith yw Tal. o Eifion, Ialydd, ac Obedog; ac yn clywed swn cymaint o ryfel o'r tu yma i'r Werydd, anfonodd yr olaf o'r tri osteg o benhillion i Gymru i'w frysio adref, ac yn dibennu gyda'r awgrym ffiwmigataidd a ganlyii Frawd Richard Jones yng Nghymru, Dowch adro', dowch ar fio, I wlad lie mae tangnefedd A'i phlant heb fynd o'u co' Ond rhaid eich fumigatio Rhag ofn y dowch. a'r clwy' Barbaraidd yn eich dillad Cyn glanio yma mwy. Y Bonwr Rd. Jones yw'r dyn deuddeg a thrigain oed ieuenga'i wedd a welaisynf'oes braidd ac un pam am hynny ydyw ei fod yn Ilwyrymwrthodwr disyfl. m Gwely Lerpwl. I Dod i fewn fel lli'r afon y mae'r tanysgrif- iadau at y 9250 gofynnol i waddoli Gwely Lerpwl ynglyn a'r Ysbyty Cenedlaethol Cymreig sy'n mynd o Netley i faes y gwaed. Wele ragor a dderbyniodd y trysorydd, Mr. Robert Roberts, Ysw., Y.H., Judges Drive, at y rhai a gydnabuwyd eisoes Thos. Edwards, Linnet lane, £ 10 Wm. Evans, Y.H., £ 5; Col. Thos. Gee, £ 5/5, J. M. Lloyd, Mt. Pleasant, Y,5 Miss Williams, Grove Street, £ 3 /3 Dr. T. Roberts- Williams, £3/3/ John Thomas, Aiifield Road, £ 1 /I Wm. Thomas, eto, £ 1 /I Redfern Thomas, eto, £ 1/1/ Mrs. S.,A. Thomas, eto, 10/6 G. Griffiths, Grassendale, 10/6; Miss Gwladys Pritchard, 10/ y Parch. H. D. Morgan, Ll.D., 5 Misses J. & L. Thomas, £ 1 /I a'r addewidion can- lynol: Sir W. H. Tate, Bar., 1:100; Ed in Tate, Llundain, 950; Ernest W. Tate, Rhuthin, £ 50. 9*. 11 I HYN AC ARALL- I The Art of Advertising oedd testyn anerch- iad rhagorol Mr. John Hughes (swyddfa'r Daily Mail) gerbron Cymdeithas Lenyddol Everton ViHage nos Fercher ddiweddaf, yn cael ei hegluro a nifer o luniau diddorol ac i'r dim o addas. Yr oedd ynddi wersi tan gamp i bob masnachwr.-T.H.H. •fc Gwyrthiau'r Pedair Efengyl yng ngoleuni Beirniadaeth Ddiweddar-dyna destyn y papur a ddarllenodd y Parch. Myles Griffith o flaen Cyfarfod Gweinidogion Cymreig Lerpwl a'r Cylch, yn Ysgoldy Fitzclarence Street bryn- hawn dydd Llun diweddar. Y Parch. R. W. Roberts, B.A.,B.D., yn y gadair; amryw'n dilyn gyda'r drafodaeth, a chyfeillion y lle'n arlwyo byrddaid o luniaeth danteithus i bawb ddaeth yno. Y mae Mr. Robert Jones, 68 Sidney Road, wedi ei ail-ddewis yn arweinydd y gan yng nghapel M.C. Stanley Road, am bum mlynedd ar ol gwasanaethu'r swydd gyfrifol honno eisoes ars deng mlynedd. Y mae cryn ddeg ar hugain o weithwyr Mri. Morris & Jonea, Lorpwl a Manchester, wedi ymuno a'r Fyddin, ac ambell balff cy. hyrog o'u mysg yn ysu a chau ei ddyrnau wrth feddwl cael gwneud ei ran i dorri crib y Caisar, sydd wedi ceilioga cymaint dros Ewrop,— Myn Sant Sior, mi a'i. Iloriaf Y funud yw i fyned—Af Dyna gan y deg ar hugain. J5b Yr oedd gennyf barch mawr i Eglwys Wladol Cymru bob amser, ond y mae gennyf fwy o barch byth iddi er pan beidiodd hi a bod yn Eglwys Sefydledig y mis o'r blaen.— Elfed, wrth ddarlithio ar Bantycelyn yn Chatham Street nos Wener ddiweddaf. Cofiwch mai nos Fawrth nesaf y mae cyfarfod cystadleuol M.C. Anfield Road, ac fod yno argool am doreth o gystadleuaethau tyn.
..VR GAD, GYMRY LERPWL!
VR GAD, GYMRY LERPWL! Yr Ail Gwrdd Ymrestiru. CYNHALIWYD. yr ail o gyrddau ymrestru Cymry Lerpwl nos Wener ddiweddaf, sef yng nghapel y Tabernacl, Belmont Road, tan lywyddiaeth Mr. Robert Roberts, Y.H., a dorrodd ei anerchiad yn fyr er mwyn rhoi cyfle i Mr. Wm. Jones, A.S., saethu ei fwledi poethion at bwll calon y bechgyn. Canodd Mr. Fred George Hen Wlad fy Nhadau nes rhoi'r cyfarfod mewn cywair iawn ac wedi i'r Seneddwr hyawdl egltiro'i fod yn gadeirydd i ddarlith Elfed yr un noson yng nghapel Chatham Street, aeth ymlaen i sylwi'i fod yn credu nad oes dim byd gwrthun mewn siarad ar Williams Pantycelyn ao annog dynion i ymrestru a'r Fyddin yr un noson, oblegid yr oedd Howell Harris, y gwr a argyhoeddodd Williams, nid yn unig yn efengylwr, ond yn swyddog ym myddin Prydain, a aberthodd lawer o'i arian i godi milwyr o Drefecca yn erbyn Ffrainc, a bu rhai ohonynt ym myddin Wolffe yn Quebec. Cred- ai'n ddiyegog yn y gyfundrefn wirfoddol. Rhyfel yn erbyn cyfundrefn orfodol oedd hon, a'i hamcan oedd sicrhau rhyddid i werin Iwrop. Tebyg yw i ryfel arall-y Rhyfel Cartrefol, pan dorrwyd pen gormesdeyrn ac y gorfu Ironsides Cromwell ar y brenin a'i wyr. Yn y rhyfel honno, bu Morgan Llwyd o Wynedd yn swyddog, a'r Dr. John Owen, I piwritan dyfnddysg o Gymru, yn pregethu i Senedd Cromwell. Ymladdai'r Ironsides fel yr ymladdwn ninnau, a dwylo glan ac a chyd- 'I wybodau glir. Yr ydym yn ymladd o blaid Belgium fach ddiniwed yn erbyn Kaiserthum a Junkerthum yr Almaen. Nid yn erbyn yr I Almaenwyr eu hunain, oblegid yr oedd ein parch dyfnaf yn ddyledus iddynt hwy. Hwy fagodd Hegol a Goethe, Beethoven a Wagner yr oedd y Prwsian, Kant, yn Ysgot- yn o un tu, ac efe oedd yr unig un o Brwsia a fu'n amlwg erioed ym myd y meddwl. Prwsia orthrymus yw ein gelyn, a thrwy ei dymchwel hi gwnawn gymwynas a'r Almaen, I oblegid Prwsia hefyd yw prif elyn gweriniaeth Germani—Prwsia a'r tipyn cyngor gweithiol, y Bundesrath, yn hollol dan law'r Kaiser, ac yn hollol ddisylw o lais y wlad yn y Reichstag, er nad yw'r gwerinwyr yno, Liebknecht a'i gyffelyb, yn gofyn am ddim mwy nag y gofyn- nai'r Whigs amdano hanner canrif yn ol ym Mhrydain. Y mae Prwsia yn credu'r hen air "y trechaf treisied a'r gwannaf gwaedded," a'i phen a'i chalon. Darllenodd Mr. Jones amryw ddyfyniadau i brofi ei bwnc. I wrth- wynebu'r gred ddieflig honno, rhaid wrth ddynion. Bu Cymru'n enwog yn y Canol Oesoedd am ryfelwyr fel Matthew Goch, ed- mygwyd gymaint gan haneswyr Ffrainc. Dyma gyfle eto i Gymry wneud a allont i ryddhau y gwledydd gwan a sicrhau heddwch yn y blynyddau ddaw. Wedi i Mr. Fred George ganu GWyj- Harlech, siaradodd Mr. J. G. Rowlands, B.A., yn Saesneg. Dyfynnodd linell Shakespeare, "Thrice is he armed that hath his quarrel just," a llawenhai fod y wlad i gyd yn ei chredu. Na fydded i neb ameu fod cyfiawn- der o'n plaid,oherwydd dengys Llyfr Gwyn y Llywodraeth fod y Weinyddiaeth, a Syr Edward Grey yn arbennig, wedi ymdrechu eu goreu glas ers misoedd am heddwch. Llawen- ydd hefyd oedd clywed fod yr Ymherodraeth i gyd o'u plaid. Mae tywysogion yr India bell yn rhoddi eu cyfoeth a'u tlysau a'u bywydau yn rhwydd i'r famwlad yn ei hawr gyfyng, a'r trefedigaethau hefyd yn adeiladu llongau rhyfel i frwydro o'i thu. Un o honynt -y Sydney-roddodd derfyn i yrfa ladronllyd yr Emden-pob parch i'w chapten dewr a dyn- gar, er ei fod yn elyn. Anogodd Mr, Row- lands y gwyr ieuanc i feddwl yn ddifrifol am yr hyn ddigwyddai pe deuai'r Ellmyn i'r ynys hon. Nid amhosibl hynny, fel y tystiai Baden-Powell; a phe deuai'r gelyn i'n tir, yr un fyddai tynged ein mamau a'n gwragedd a'n chwiorydd a thynged gwyryfon a gwrag- edd Belgium. Na ddigwydded hynny byth oherwydd esgeulustra'n gwyr ieuainc ni ein hunain. Adroddodd Mr. Tom Morris Araith Llyw- elyn, ac anerchwyd y cyfarfod gan y Parch. R. Aethwy Jones, M.A. Dyfynnodd o areithiau'r Kaiser-that blasphemous lunatic, fel y galwai Mr. Rowlands ef-gan eu cym- haru a chyngor yr Arglwydd Kitchener i'w filwyr. Anogodd yr ieuenctyd i ddarllon adroddiad Sir E. Cooke, a Germany's Great Lie, a datganodd ei farn nad oedd esgus dros i'r un gwr ieuanc beidio ag ymrestru. Wedi i Mr. Fred George ganu'r Marseillaise, dilchodd y Parchedigion D. Powell ac O. L. Roberts, a dibennwyd. •5b Nos LAWEN DAVID STREET.—" Yr un ddimai o ddyled, Hwre "—Nos Iau, Taeh. 5ed, cynhaliwyd cyfarfod i ddathlu talu'r holl ddyled ar yr adeiladau perthynol i eglwys M.C. David Street. Cadeiriwyd gan Mr. John Morris, Y.H., a dechreuwyd y cyfarfod gan Mr. John Thomas. Dywedai Mr. Morris fod yn bleser mawr ganddo ef gael bod yno i gyd-Iawenhau a'r Eglwys yn nhalu'r ddyled. Teimlai'n sicr pe buasai rhai fu'n gyd-swydd- ogion ag ef-ond sydd erbyn hyn wedi myned oddiwrth eu gwaith at eu gwobr-yn bres- ennol, mai mawr fuasai eu llawenydd. Darllen- odd Mr. D. L. Davies gyfrif y Sale of Work a gynhaliwyd yn Ebrill ddiweddaf, drwy yr hyn y gwnaed dros JE817 o elw, heblaw fod dros 954 ar law mewn nwyddau. Galwodd y cad- eirydd ar Mr. John Williams, ysgrifennydd yr Eglwys er y flwyddyn 1894, i roddi hanes yr eglwys yn ei gwedd ariannol er ei dechreuad. Dyw-edai mai ym* mis Awst, 1878, y sefydl- wyd eglwys David'Street. Cost y capel a'r ysgoldy ydoedd f,3,179 yn 1883, ychwaneg- wyd ysgoldy eang, i gynnal moddion yr wythnos ynddi, yr hyn a olygai gost ychwaneg o 9577 yn 1886, helaethwyd y capel, y gost yn £ 1,025 yn 1887, adeiladwyd ysgoldy yn St. Michael's Road, yn costio £695. Glan. hawyd y capel yn 1896, y draul yn £ 117 ac yn 1901, goleuwyd y capel a'r ysgoldai i-golou trydan, hyn eto'n golygu cost o £ 204. Adeil- adwyd ysgoldy ymMilner Road, Aigburth, yn 1907, ar draulo JE830 a thrachefn yn 1909, adgyweiriwyd yr adeiladau yn David Street,. ar gost o 9219--yr holl gost yn £ 6,846. Tal- wyd gan gyfeillion Princes Road ar sofydliad yr eglwys yn David Street £ 1,390. Gwelir felly fod y cyfeillion yn David Street yn awr, wedi llafur o 36 mlynedd, wedi casglu £ 5,450, a chyrraedd y tir lie gallent gydgyfranogi a'r dedwydd hynny nad oes arnynt ddy,ed. Daeth y Parch. Wm. Jones (cyn-weinidog yr eglwys am 20 mlynedd) yr holl ffordd o Gonwy i'r oyfarfod, a rhoddodd ef hanes gwedd ysbrydol yr eglwys. Sylwodd mai anodd rhoddi gwedd ysbrydol eglwys heb ddod a'r materol i jnewn. Cydlawenhai a'r eglwys yn nhaliad eu dyled; Rhaid, meddai, cael y corff, gan mai trwy'r corff y mae'r ys- brydol i'w weled. Mae corff golygus yn profi iechyd ysbrydol, Gofynnir yn ami pa werth yw ein capelau i ni; ond beth fuasem yn ei wneud heb ein capelau ac heb bregethu ? Ychwanegwyd baich y cyfeillion yn David Street, meddai, drwy ddeddfau gormesol y tir. Ond cafodd lliaws o'r. saint fantais ar yr ymdreoh. Braint y saint ar y ddeaar yn unig yw talu dyledion. Cafodd ami i Fair fantais i dorri blwch enaint ar ben yr Iesu, a bendith- iwyd yr eglwys yn David Street a swyddogion ddeuent a'r ysbrydol i'w holl weithrediadau. Gwelsai y Beibl a'r ledger ochr yn ochr ym masnachdy un ohonynt. Galwai un ohonynt yr holl gasgliadau yn Arian y Deyrnas," un arall yngofalu am enwau ac adnabod aelodau yr eglwys, gan daflu ysbrydoliaeth ar lyfr cronicl yr Eglwys. Tystiai Mr. Jones i ffyddlondeb yr aelodau i gyfarfodydd tawel yr eglwys, a hyderai fod yr un ffyddlondeb yn parhau. Adgoffhaodd hwy fod gweddi i ragflaenu pob Llyfr Actau a phob Pentecost. Diddorol iawn ydoedd y ffigyrau canlynol; yn ystod y blynyddoedd ei weinidogaeth yn David St.:—derbyniodd Mr. Jones 200 o ddychweledigion o'r byd, 379 yn gyflawn aelodau, a bedyddiodd 261. Terfynwyd trwy weddi gan Mr. John J.-nes, gynt o Mill Street. Casglwyd at Gronfa'r Milwyr a'r Morwyr ar ddiwedd y cyfarfod. Dylesid crybwyll hefyd fod yr aelodau, trwy garedigrwydd un o'r swyddogion, wedi cael cydeistedd wrth y byrddau te cyn dechreu'r cyfarfod, a darparwyd yn chwaethus gan chwiorydd ieuainc yr eglwys.-E.E. W, CYMDEITHAS CYMRU FYDD, UP. PARLIA- MENT STREET.—Nos Fercher, Tachwedd 11, cafwyd cyngerdd rhagorol yn ystafell gyfleus y Gymdeithas uchod. Trefnwyd y cyngerdd gan yr Avenue Male Voice Choir, dan arwein- iad Mr. Fred M. Roden. Cynorthwywyd y c6r gan Miss Annie Hughes (contralto). Mr. T. G. Davies (baritone), Mr. Humphrey Jone. (bass), Miss Nell Williams (elocutionist), Mr.W Sutherland (humorist). Cyfeiliwyd gan Miss Jennie Jones. Daeth tyrfa liosog ynghyd, a chyflawnodd pawb ei ran yn dra effeithiol a chymeradwy. Cadeiriwyd yn ddoeth gan Mr. Glyn Owen, a ganlyn oedd y rhaglen cydgan, "Rhyfelgyrch Gwyr Harlech," y Cor can, Gentlemen, the King," Mr. Hum- phrey Jones; can, There's a Land," Miss Annie Hughes (encor); can, Fechgyn Cymru," Mr. T. G. Davies adroddiad, The Miser," Miss Nell Williams (encor); can ddifyrus, Mr. W. Sutherland (encor) cydgan, The Old Brigade," y Cor anerchiad y cad- eirydd cydgan, Comrades' Song of Hope," y Cor (encor) can, Seanette and Jeanett," Miss Annie Hughes (encor) can, Y Dym- estl," Mr. Humphrey Jones; adroddiad, The Bells," Miss Williams (encor); can, ddifyrus, Mr. W. Sutherland (encor) cyd- gan, Sailor's Chorus," y Cor Hen Wlad fy Nhadau." Nodweddwyd yr h oil weithred- iadau gan frwdfrydedd mawr, a diolchwyd yn wresog i'r cor a'i gynorthwywyr gan Mr. J. J. Williams (cadeirydd pwyllgor y Gymdeithas). Bore dydd LIun diweddaf, Tachwedd 9fed, bu farw, yn hynod sydyn, Margaret Mary, merch hynaf Mr. a Mrs. Thos. Griffiths, West- minster Road, Kirkdale. Claddwvd ym mynwent Anfield ddyd Iau, Tachwedd 12fed. Daeth cynhulliad mawr o berthynasau a chyfeillion ynghyd i dalu'r gymwynas olaf iddi Gwasanaethwyd gan y gveiiiidog, y Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D. Y trefniadau yng ngofal Mr. J. T. Jones, Breck Road. Daeth wreaths oddiwth :—Mr. Johnnie Williama (priod), Mr. a Mrs. Thos. Griffiths (rhieni), Mr. Robert Griffiths (ewythr), Mrs. Morris (nain), Abermaw Mr a Mrs. Roberts, etc Mrs. a Miss Williams, Everton ei dosbarth Capt. a Mrs. Matliias; Mrs. Capt. Parry Jones Miss Gladys Hughes Miss Gladys Roberts, Torquay Miss Pritchard, Sefton Park; Miss Bratt; Mr. T. E. Williams; Mr. a Mrs. Williams, Albany Road Mr. a Mrs. Owen Thomas, York Terrace Mr. a Mrs. O. Williams, Orwell Road teulu Williams, 350 Westminster Road Mr. a Mrs. Williams, Old Swan Mrs. Owen, Hawthorne Road Mr. a Mrs. Cartwright; Mr. a Mrs. McGauley; Mr. a Mrs. McGready Mr. a Mrs. Beadle Mr. a Mrs. S. Goldstein Mr. a Mrs. Baines Mr. Howlin, Mr. Kelly. Y Saboth, am 2.30 a 6 ar gloch, cynhaliwyd Cyfarfod Ysgolion yn Laird Street, o dan lywyddiaeth Mr. R. W. Roberts, Adrodd- wyd Diarhebion ii yn y prynhawn gan Master Lewis Edwards a Heb. i a ii yn yr hwyr gan Mr. Evan Williams, a holwyd y plant a'r dosbarth hynaf gan y Parch. T. J. Rowladns, —ateb a holi rhagorol. Caed hanes yr ysgol gan yr ysgrifennydd, Mr. D. Charles Evans yna sylwadau'r ystadegydd, yn canmol yr ysgrifennydd am ei adroddiad gonest, ond yn galw am sylw difrifol y swyddogion ar un- waith. Caed sylwadau am yr ysgol gam Mri. Llew Williams a Hugh Williams, a'r gweinidog, yr hwn a sylwodd. os oedd y rhif yn isel, fod yr ansawdd yn rhagorol, a bod 7 o wobrwyon yr Undeb wedi eu hennill yn y Gymanfa ddiweddaf. Cafwyd papur rhag- orol ar Bersonoliaeth Athro," gan Mr. Rolant Wyn Edwards, Parkfield.-R.J.G. Hydref laf. yn Aurora, Illinois, bu farw, ac yntau oddeutu 80 mlwydd oed, Nalhaa Morris, mab hynaf Owen Morris, o Fryn- > gwran, ac wedi hynny o'r Ty uchaf, Llanfair yn neubwll, oedd saer melinau adnabyddus yn M6n flynyddau'n ol. Mab arall ydyw Mr. Owen Morris, Newstead Road, Lerpwl. Aetln i'r Unol Daleithiau yn ddyn ieuanc, ac ym- sefydlodd fel amaethwr yn Big Rock, Ill, lid y bu hyd yn ddiweddar. Gedy weddw a nifer o blant, a'u plant hwythau, i alaru ar ei ol. Rhiwmatic ac Arhwl- deb y Hidney, I Triniaeth Rad. Y UAB rhiwmatic yn ganlyniad uric add crystals yn y Uywethau a'r cymalau, eSaith gormod o uric acid yn y cyfansoddiad, a'r acid hwn ydyw'r achos. pennaf o boen yn, y cefn, lumbago,sciatica, gowt, annhrefn y dwfr, carreg, grafel, dropsi, diabetes, a Bright's, disease. Y mae Tabledi Estora yn driniaeth effeithiol a llwyddiannus ar gyfer hyn, ac wedi gwella llu o achosion wedi i foddygiriiaethau eraill" fethu, yr hyn a gyfriIamyffaith eu bod yn cyflym gymeryd lIe meddyginiaethau ar o| yr oes"y'n ami allan o gyrraedd • pawb ond y cyfoethog. Y mae nifer eyfyngodig o focsea o Dabledi Estora yn cael eu CYNNYG YN BRAD er profi eu bod yn llawn warantu eu disgrifiad— meddyginiaeth onest at y Kidney am bria gonest, lB. lid. y bocs o 40 o dabledi, neu 6 boos am 69.' Cyflenwir hwy gan y rhan fwyaf o fferyllwyr. Y mae'r cynnyg hwn o un bocs llawn yn parhau mewn gryrn i ddarllenwyr Y BRYTHON am ddeng niwrnod o'r dyddiad hwn, ac ar yr amod fod y rhybudd hwn yn cael ei dorri allan a'i anfon gyda 3d. mewn stamps, onitd fe anwybyddir y ceisiadau; a'r amcan ydyw, diogelu rhag rhai nad oes amynt angen am y cynnyg. I Cyfeiriad Estora Co., 132 Charing CroM Road, London, W.C
Advertising
Liverpool Guardian Trade Protection Society 'Phone 4865 Bank. Wirss Praaiatioa" The Oldest Provincial TRADE PROTECTION SOCIETY A MUTUAL SOCIETY Governed by a Board of Honorary Directors. or terms write-F. MBATHRR, Secretary, 41 Nj'.rtk John Street Li^rtrpoo MITCHELL BROS. Marsh Lane. Bootie. English Maaefactured MAPLE BLOCK fLOOitlNØ All Sixes kept in Stock. Largest Stook in the Ktngdo Phone 839 Bootle. Tol Ad. Pareniptory," Li verpoo